Ymateb i faterion enw da ar-lein ac aflonyddu a gyfeirir at ysgolion a staff ysgol
Lluniwyd y canllawiau hyn gan y Professionals Online Safety Helpline ac mae'n berthnasol i ysgolion ac ymarferwyr addysg yng Nghymru.
Mae’r Professionals Online Safety Helpline wedi gweld cynnydd yn nifer yr adroddiadau am faterion sy’n ymwneud ag ‘enw da ar-lein’. Yn 2023, roedd bron i 50% o’r holl achosion ffôn y gwnaeth y llinell gymorth ymdrin â hwy yn ymwneud ag enw da ar-lein yr ysgol neu’r athro dan sylw.
Cyflwyniad
Mae’r cyngor hwn ar gyfer ysgolion sy’n ceisio mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud ag enw da ar-lein. Mae'n cynnwys dolenni at adnoddau a allai fod o gymorth.
Dyma rai enghreifftiau o faterion sy’n ymwneud ag enw da ar-lein:
- cyfrifon dynwared neu ffug sy’n honni eu bod yn perthyn i’r ysgol neu staff yr ysgol
- grwpiau cymunedol ar gyfer yr ysgol sydd ddim yn cael eu rheoli gan yr ysgol
- adolygiadau ar safleoedd adolygu neu beiriannau chwilio
- trafodaethau negyddol am yr ysgol ar-lein
- safleoedd newyddion lleol neu genedlaethol yn adrodd straeon am yr ysgol neu ei hathrawon
- honiadau o gamymddwyn neu gam-drin
Mae addysg yn rhan fawr o fagwraeth pob plentyn, ac mae’n fater pwysig i nifer fawr o bobl. Yn aml, gall hyn arwain at feirniadaeth o ysgolion ac athrawon. Mae gan gymuned yr ysgol ac eraill yr hawl i fynegi eu barn ar-lein ac mewn mannau eraill.
Gall hyn ddigwydd pan fo ysgol yn newid polisi sy’n effeithio ar weithgareddau dysgwyr, rhieni, neu ofalwyr. Cyhyd ag y bod negeseuon ar-lein wedi’u seilio ar dystiolaeth, a’u bod yn barchus, nid oes gan unrhyw un yr hawl i deimlo’n ddig amdanyn nhw. Dylai ysgolion ac athrawon fod yn gadarn ac yn broffesiynol, gan ymateb i feirniadaethau dilys:
- ar eu sianeli ar-lein pan fo angen
- mewn ffordd adeiladol a thryloyw
Dylai unrhyw honiadau o gamymddwyn a cham-drin gael eu cymryd o ddifrif, a dylid defnyddio polisi chwythu'r chwiban yr ysgol i ymdrin â hwy, p'un ai eu bod wedi'u postio ar-lein neu eu hadrodd trwy lwybrau swyddogol. Dylid annog y rhai sy'n mynegi pryderon o’r fath ar sianeli ar-lein i ddefnyddio'r llwybrau a nodir ym mholisïau'r ysgol os ydyn nhw eisiau codi pryder dilys.
Fodd bynnag, mewn ambell i achos gall postio negeseuon ar-lein dorri telerau gwasanaeth y platfform a ddefnyddir i’w bostio neu dorri’r gyfraith. Dyma rai enghreifftiau o achosion o’r fath:
- bygythiadau treisgar uniongyrchol
- mae docsio ('doxing' neu 'doxxing' yn Saesneg) yn cyfeirio at y weithred o chwilio am wybodaeth bersonol am unigolyn a chyhoeddi’r wybodaeth honno ar y rhyngrwyd. Fel rheol mae hyn yn cael ei wneud â bwriad maleisus. Gallai’r wybodaeth gynnwys manylion personol megis cyfeiriad cartref, rhifau ffôn a data sensitif eraill. Mae'r term yn tarddu o'r slang Saesneg ‘dropping dox’, lle mae ‘dox’ yn fyr am ‘documents’
- aflonyddu a cham-driniaeth wedi’i dargedu
- enllib, neu libel, sef ffurf ysgrifenedig difenwi, neu defamation (athrod, neu slander, yw’r ffurf lafar). Caiff achosion o enllib eu dyfarnu mewn llys barn. Ni wnaiff unrhyw blatfform ar-lein hwyluso adroddiad o enllib oni bai eu bod yn cael dogfennaeth orfodi gan naill ai lys barn neu’r heddlu, a hynny gan na chânt weithredu fel cymrodeddwyr gwirionedd
Ymateb i negeseuon ar-lein nad ydyn nhw’n bodloni'r trothwy ar gyfer ymyrraeth
Gall ymateb i negeseuon ar-lein fod yn anodd. Rydym yn argymell nad ydych yn ymateb yn gyhoeddus. Pan fo modd adnabod y sawl bostiodd y neges, a phan fo’r gŵyn yn ddilys, dylai'r ysgol geisio cwrdd â nhw er mwyn ei thrafod. Gellid hwyluso hyn hefyd dros y ffôn neu drwy ddefnyddio dulliau ar-lein, fel galwad fideo. O gael sgwrs, gall yr ysgol asesu'r broblem a rhoi sicrwydd i'r person o’r camau a fydd yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r mater. Gall yr ysgol hefyd ofyn yn gwrtais iddyn nhw ddileu unrhyw negeseuon ar-lein.
Adolygiadau
Fel arfer, ni fydd platfformau’n dileu adolygiadau oni bai eu bod yn torri eu telerau gwasanaeth, trwy aflonyddu neu fwlio er enghraifft. Gellir lleihau effaith adolygiadau negyddol a chynyddu sgôr gyffredinol yr ysgol trwy wahodd aelodau o gymuned yr ysgol i ysgrifennu adolygiadau cadarnhaol. Ni fydd adolygiadau negyddol mor amlwg yn y canlyniadau chwilio wedyn, a bydd yn helpu i roi barn fwy cytbwys i ddarllenwyr.
Grwpiau
Efallai bod rhai rhieni neu ofalwyr wedi creu grŵp ar blatfform cyfryngau cymdeithasol er mwyn rhannu newyddion a thrafod yr ysgol gyda’i gilydd. Fel arfer, mae grwpiau o’r fath yn gwbl ddiniwed ac maen nhw’n helpu i greu cymuned gynhyrchiol. Fodd bynnag, gallan nhw achosi problem os yw’r trafodaethau sy’n digwydd arnyn nhw’n dechrau beirniadu'r ysgol neu'r athrawon yn hallt. Grwpiau caeedig yw’r rhain ran amlaf, ond gall rhiant neu ofalwr gysylltu â'r ysgol gyda thystiolaeth o sgyrsiau beirniadol er mwyn gofyn am ymateb gan yr ysgol. Mae'n bwysig deall beth yw eu cymhelliant i wneud hyn, a beth y mae’r rhiant neu’r gofalwr sydd wedi’ch hysbysu yn disgwyl i chi ei wneud.
Dull arall yw i chi fel ysgol greu a chymedroli grwpiau ar-lein eich hunain. Er enghraifft, gallai'r ysgol greu grŵp Facebook swyddogol ar gyfer rhieni neu ofalwyr er mwyn rhoi lle iddyn nhw rannu newyddion a chyfathrebu. Os bydd problem neu drafodaeth anodd, bydd yr ysgol yn gwybod ac yn gallu ymateb. Rhaid rheoli sianeli swyddogol o’r fath, a dylai’r gwaith hwnnw gael ei gefnogi gan bolisi a phrosesau.
Delweddau
Yn gyffredinol, mae ysgolion yn lleoliadau preifat. O ganlyniad, pan fo delweddau a fideos o’r ysgol a dynnwyd heb ganiatâd yn cael eu postio ar-lein, gallwch gysylltu â'r platfform i ddweud eu bod yn torri amodau preifatrwydd. Fodd bynnag, mae’n bwysig deall bod delweddau sydd eisoes wedi'u tynnu a'u postio gan yr ysgol neu gan bersonau awdurdodedig eraill (ar wefan yr ysgol neu sianeli cyfryngau cymdeithasol, er enghraifft) yn cael eu hystyried yn ddelweddau cyhoeddus, ac na ellir cwyno amdanyn nhw yn yr un ffordd ac ni fyddan nhw’n torri rheolau'r platfform.
Mae'r cyd-destun yn allweddol, felly hyd yn oed os oes hawl i rannu’r llun, gallai’r pennawd sy’n cyd-fynd â’r ddelwedd dorri’r rheolau. Mae'r ddealltwriaeth fod rhai delweddau ar gael i'r cyhoedd yn ymestyn hefyd i gynnwys unrhyw ddelwedd a bostiwyd yn gyhoeddus ar broffiliau cyfryngau cymdeithasol. Os ydych yn defnyddio Facebook, mae hyn yn cynnwys y lluniau proffil a’r llun clawr, hyd yn oed os yw'r cyfrif yn un preifat. Dylai athrawon sicrhau mai’r unig ddelweddau sy’n ymddangos ar eu proffiliau cyfryngau cymdeithasol personol yw’r rhai y maen nhw’n fodlon iddyn nhw fod yn ‘gyhoeddus’, a chael eu hail-rannu mewn mannau eraill.
Materion enw da ar-lein y gellir cwyno amdanyn nhw
Dyma rai enghreifftiau o’r hyn y gellid cwyno amdanyn nhw i’r platfform ar-lein neu i’r heddlu.
Torri nod masnach
Yn y DU, mae ysgol yn berchen ar ei nod masnach ei hun (bathodyn ysgol, logo ac enw). Mae defnydd ohono heb ganiatâd yn groes i safonau cymunedol y rhan fwyaf o blatfformau ar-lein. Os yw ysgol eisiau sicrhau mai nhw yn unig all ddefnyddio eu nod masnach ar draws ystod o blatfformau, gallan nhw ystyried ei brynu. Gallwch gwyno i’r platfform am broffiliau ffug a grëwyd i edrych fel ysgol (er enghraifft, rhai sy'n defnyddio bathodyn yr ysgol fel llun proffil ac enw'r ysgol neu amrywiad ohono) gan eu bod yn torri amodau nod masnach.
Dynwared
Mae dynwared amlwg yn groes i safonau'r rhan fwyaf o blatfformau ar-lein. Yn aml, caiff delwedd ac enw rhywun eu defnyddio er mwyn rhoi’r argraff ei fod yn gyfrif dilys. Gall hyn beri pryder gwirioneddol, yn enwedig os yw'r cyfrif yn postio cynnwys amhriodol neu niweidiol. Fodd bynnag, nid yw defnyddio enw neu lun rhywun arall ar gyfrif yn ddynwarediad ynddo’i hun. Mae rhai platfformau’n caniatáu cyfrifon parodi, er enghraifft X (Twitter gynt). Cyhyd â bod y cyfrif yn ei gwneud yn amlwg mai parodi ydyw, ni fydd X yn gweithredu os cwynir am ddynwared.
Ffyrdd eraill o ddatrys y sefyllfa
Dim ond datrys y broblem ar-lein fydd cwyno a dileu cynnwys, tra bo gwreiddiau’r broblem yn parhau yn y byd go iawn. Ystyriwch ffyrdd eraill o fynd at wraidd y broblem, er mwyn cael datrysiad hirdymor.
Cyfryngu
Gellid hwyluso cyfarfodydd wyneb yn wyneb rhwng ysgolion a’r rhai sydd wedi postio negeseuon beirniadol dilys trwy gynnwys partner cyfryngol, megis cynrychiolydd o fwrdd y llywodraethwyr neu’r ymddiriedolwyr. Os mai myfyriwr neu blentyn sy'n postio neu'n creu'r cynnwys, dylid mynd i'r afael â hyn mewn modd tebyg. Gall yr ysgol hefyd ddefnyddio’i pholisi ymddygiad neu bolisi defnydd derbyniol i helpu i arwain y sgwrs. Bydd bod â pholisïau effeithiol mewn lle sy’n rhagweld materion fel hyn yn sicrhau cysondeb yn y modd y cânt eu trin.
Addysg
Pan nad yw'n glir pwy sy'n postio neu'n creu cynnwys ar-lein, ond ei bod yn amlwg mai dysgwyr o’r ysgol ydyw, gellir mynd i'r afael â hyn trwy ddefnyddio addysg. Efallai na fydd y plant yn ymwybodol o'r effaith y mae eu hymddygiad ar-lein yn ei chael ar les staff ac eraill. Dylai’r addysg fod yn ffeithiol, ac ni ddylid gwneud bygythiadau cyfreithiol nad ydyn nhw’n cael eu hadlewyrchu gan natur yr ymddygiad.
Gwytnwch a lles
Mae'n bwysig bod yn ymwybodol o'r hyn sy'n cael ei bostio ar-lein. Er hyn, gall darllen a gweld cynnwys ar-lein am ysgol neu berson gael effaith ar iechyd a lles staff. Dim ond yr aelodau hynny o staff sydd â’r gwytnwch i ymdopi â sylwebaeth negyddol am eu hysgol, eu cydweithwyr, a'u hunain ddylai chwilio am gynnwys o'r fath. Dylid cynnig help iddyn nhw ymdopi â’u hemosiynau ar ôl hynny.
Mwy o wybodaeth a chefnogaeth
Gwneud cwynion am gynnwys i blatfformau cyfryngau cymdeithasol
Mae canllawiau ap 'Bydd wybodus' Hwb yn rhoi gwybodaeth fanwl ar sut i reoli preifatrwydd, sut i gwyno, a sut i rwystro cynnwys. Gweler 'Adrodd ar broblem ar-lein' i ddysgu am wasanaethau cwyno arbenigol eraill.
Polisïau diogelwch ar-lein
Mae 360 Safe Cymru yn offeryn hunanadolygu diogelwch ar-lein dwyieithog sy’n galluogi ysgolion i asesu ac i wella eu darpariaeth diogelwch ar-lein a'u cefnogi i greu ac i ddiweddaru polisïau perthnasol.
Canllawiau perthnasol
- Mae’r canllawiau dod â’ch dyfais eich hun yn rhoi cyngor ynghylch defnyddio dyfeisiau personol mewn ysgolion.
- Mae cyngor i ysgolion ar baratoi ar gyfer heriau niweidiol feirol ar-lein a storïau celwydd ac ymateb iddynt yn cefnogi ysgolion i ddelio â’r materion hyn.
- Mae arferion ac egwyddorion i ysgolion ar gyfer defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn ganllaw ar sut i gynllunio dull o ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd ddiogel, broffesiynol a chadarnhaol fel rhan o gyfathrebiadau ysgol.
Sefydliadau arbenigol
Mae'r UK Safer Internet Centre yn rhoi cyngor a chefnogaeth i blant, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr, ysgolion a cholegau ynghylch aros yn ddiogel ar y we. Maen nhw hefyd yn cynnal y gwasanaethau Professionals Online Safety Helpline a Riportio Cynnwys Niweidiol er mwyn helpu i gael gwared ar gynnwys ar-lein sy’n gyfreithiol ond yn niweidiol. Dysgwch fwy ar wefan UK Safer Internet Centre.