English

Mae sgrolio diddiwedd yn dechneg sy’n cael ei defnyddio gan rai llwyfannau a gwasanaethau ar-lein i gadw eich sylw a’ch annog i aros ar y gwasanaeth am gyfnod hirach. Nod y llwyfan yw eich cadw chi’n brysur am hirach gan ddefnyddio nodwedd sy’n darparu cynnwys mewn ffrwd o bostiadau ‘diddiwedd’. Wrth i chi dreulio mwy o amser yn pori, mae’n rhoi mwy o gyfle i'r gwasanaeth ddangos hysbysebion i chi a chasglu eich data, gan arwain at fwy o refeniw ar gyfer y gwasanaeth. Mae’n un o nifer o dechnegau ‘dylunio perswadiol’ sy’n cael eu defnyddio gan wasanaethau
ar-lein a gwneuthurwyr dyfeisiau i’ch annog i dreulio mwy o amser gyda’u cynnyrch.

Mae sgrolio diddiwedd a nodweddion dylunio perswadiol eraill fel hysbysiadau, lliw, gwobrwyon amrywiol a thynnu i adnewyddu wedi cael eu creu’n ofalus gan ddefnyddio seicoleg i ddylunio rhyngweithiadau mwy diddorol. Mae’n seiliedig ar yr hyn sy’n ein cymell, y ffordd mae ein hymennydd yn prosesu gwybodaeth ac yn blaenoriaethu ein sylw. Mae nodweddion fel hysbysiadau, lle bydd eich dyfais yn eich atgoffa gyda synau a nodweddion gweledol, wedi’u dylunio i dynnu ein sylw’n ôl at ap neu ddyfais.

Mae’r dulliau hyn yn ein hannog i barhau i ddefnyddio gwasanaeth drwy ‘wobrwyon amrywiol’. Gallai sgrolio drwy ffrwd cyfryngau cymdeithasol ein harwain at rywbeth cyffrous neu annisgwyl, ond dydyn ni byth yn gwybod pryd gallai hyn ddigwydd. Mae’r ffaith ein bod yn disgwyl gweld rhywbeth diddorol yn ein hannog i ddal ati i sgrolio, yn union fel dileu ‘arwyddion atal’ (fel diwedd tudalen) sy’n ein helpu ni i wybod pan fyddwn wedi cwblhau gweithgaredd.

Mae’r nodweddion hyn yn ysgogi ein hymennydd i gynhyrchu dopamin, sef niwrodrosglwyddydd cemegol sy’n ein gwobrwyo am ymddygiad buddiol ac yn ein cymell i’w ailadrodd (Haynes, T., 2018, ‘Dopamine, Smartphones & You: A battle for your time’). Mae chwilio am yr hapusrwydd hwn yn gallu arwain at dreulio gormod o amser o flaen sgrin, sy’n effeithio’n negyddol ar agweddau ar fywyd bob dydd fel cwsg, iechyd corfforol a lles meddyliol.

Gan fod y rhan fwyaf o wefannau ac apiau am ddim, maen nhw’n gwneud arian yn bennaf drwy ddangos hysbysebion. Gall apiau hefyd wneud arian wrth i bobl wneud pryniannau mewn apiau neu drwy ddefnyddio data maen nhw’n ei gasglu am eu defnyddwyr. I ddangos mwy o hysbysebion i ddefnyddwyr, mae datblygwyr apiau a gwefannau’n defnyddio nodweddion dylunio i berswadio defnyddwyr i barhau i ddod yn ôl i’r ap neu’r wefan, neu i dreulio mwy o amser arnyn nhw.

Mae rhagor o wybodaeth am sut mae nodweddion dylunio perswadiol yn gallu rhoi plant a phobl ifanc mewn perygl ar gael ynPathways: How digital design puts children at risk’ (Saesneg yn unig) adroddiad gan 5Rights Foundation.

Mae’n bwysig addysgu dysgwyr am nodweddion dylunio perswadiol a’r effaith y gallan nhw ei chael ar iechyd a lles, yn ogystal â’u cefnogi i ddatblygu strategaethau i leihau’r risgiau hyn. Er enghraifft, wrth addysgu am dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu, gallai eich dysgwyr astudio’r dechnoleg y tu ôl i nodweddion dylunio perswadiol, fel y defnydd o algorithmau a dyluniad rhyngwyneb i ddylanwadu ar ymddygiad defnyddiwr. Gellid hefyd gwreiddio rhai nodweddion dylunio perswadiol ar draws y cwricwlwm, wedi’u hategu gan nodau’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.

Mae addysgu dysgwyr am dechnegau dylunio perswadiol yn rhoi'r wybodaeth a’r sgiliau iddyn nhw fod yn fwy gwydn yn erbyn eu heffeithiau. Yn aml, unwaith y byddwch yn ymwybodol o dechnegau o’r fath, mae eu heffaith arnoch yn llai o lawer.

Pan fo’n bosibl, mae codi ymwybyddiaeth a chyfeirio at gyngor i deuluoedd hefyd yn allweddol i gefnogi eich dysgwyr gyda’r risgiau ar-lein maen nhw’n eu hwynebu y tu allan i’r ysgol. I gael y cyngor diweddaraf am apiau, cyfryngau cymdeithasol a gemau i deuluoedd, edrychwch ar ein canllawiau 'Bydd wybodus’. Mae pob canllaw yn cynnwys trosolwg manwl o’r ap, gan amlinellu’r sgôr oedran a’r derminoleg allweddol y dylai teuluoedd fod yn ymwybodol ohoni.

Gall rhai o effeithiau tymor hir posibl nodweddion dylunio perswadiol (fel diffyg cwsg neu ddefnydd problemus) arwain at broblemau diogelu, felly mae’n bwysig bod yn ymwybodol o sut gallai’r rhain ddigwydd a’r gweithdrefnau i’w dilyn os oes gennych bryderon am un o’ch dysgwyr.

Gallwch ddod o hyd i sgrolio diddiwedd a nodweddion dylunio perswadiol eraill mewn amrywiaeth eang o apiau, gwasanaethau a dyfeisiau y gall dysgwyr eu defnyddio. Byddwch yn ofalus wrth ddewis pa offer i’w defnyddio mewn ysgolion, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw nodweddion dylunio perswadiol yn bresennol neu y gellir eu lleihau. Efallai yr hoffech ddarllen ‘Safonau a Chanllawiau Digidol Addysg i gael cymorth neu os nad ydych yn siwr am unrhyw oblygiadau.

Yn y DU, mae’r diwydiant technoleg yn cael ei annog i gynyddu ei gyfrifoldeb dros les a diogelwch plant a phobl ifanc a’u data, gan gynnwys peidio â defnyddio nodweddion dylunio perswadiol (a elwir hefyd yn dechnegau ‘gwthio’) mewn gwasanaethau sy’n debygol o gael eu defnyddio gan blant a phobl ifanc.

Nod y Cod Plant, a ddaeth i rym ym mis Medi 2021, yw sicrhau bod gan blant ddiogelwch sylfaenol yn awtomatig, er mwyn sicrhau eu bod wedi’u diogelu yn y byd digidol yn hytrach na chael eu diogelu rhagddo, gan roi’r cyfle iddyn nhw archwilio a datblygu ar-lein o hyd. Mae’n god ymarfer statudol a orfodir gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ac mae’n berthnasol i weithredwyr a datblygwyr gwasanaethau ar-lein.

Mae’r cod yn nodi 15 o safonau dylunio sy’n briodol i oedran, gan gynnwys agweddau fel:

  • blaenoriaethu lles y plentyn
  • dylunio’r gwasanaeth o gwmpas ystod oedran cynulleidfa’r gwasanaeth
  • rhoi gosodiadau preifatrwydd 'ymlaen' yn ddiofyn
  • lleihau faint o ddata personol plant sy’n cael ei gasglu
  • egluro i blant beth yw pwrpas a natur unrhyw reolaethau rhieni sy’n bresennol
  • osgoi ‘proffilio’ plant ar sail eu data
  • peidio â defnyddio technegau gwthio i annog plant i roi data diangen neu wanhau eu diogelwch preifatrwydd
  • sicrhau bod dyfeisiau a theganau sydd wedi’u cysylltu yn glynu wrth y cod
  • darparu offer clir a hygyrch i helpu plant i arfer eu hawliau diogelu data ac i roi gwybod am bryderon.

Mae rhagor o weithgareddau addysgol am y materion hyn ar gael yn yr adran deunyddiau Common Sense Education ar Hwb.

Dylid rhoi gwybod am bryderon ynghylch defnydd dysgwr o dechnoleg, yn unol â gweithdrefnau diogelu eich ysgol, i’r person diogelu dynodedig a fydd yn gofyn am gymorth allanol pan fo angen.

Gall ymarferwyr addysgol sydd angen cefnogaeth gydag unrhyw faterion diogelwch ar-lein sy’n ymwneud â dysgwyr, eu hunain neu eu sefydliad, gan gynnwys pryderon am ddefnydd gormodol neu broblemus dysgwr o dechnoleg, gysylltu â’r Professionals Online Safety Helpline i gael rhagor o wybodaeth ac i gael gwybod pa gamau mae modd eu cymryd i reoli digwyddiadau ar-lein sy’n cynnwys aelodau o gymuned eich ysgol.

Mae rhagor o wybodaeth ac ymchwil ar ddefnydd plant o dechnoleg a’r cyfryngau ar gael ar wefan Ofcom.