English

Gall y cyfryngau cymdeithasol fod yn ffordd hwyliog o gysylltu gyda phobl a chael adloniant, ond mae’n bwysig iawn cadw’n ddiogel ar-lein.

Mae llawer o fathau o gyfryngau cymdeithasol, y gellid eu defnyddio am lawer o bethau gwahanol. Mae’r rhan fwyaf o blatfformau cyfryngau cymdeithasol poblogaidd yn cynnwys TikTok, Snapchat, Instagram a YouTube, ond mae llawer mwy.

Galli di ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gadw mewn cyswllt gyda theulu a ffrindiau, cwrdd â phobl newydd, gwylio fideos a chwarae gemau.  


Gall y cyfryngau cymdeithasol fod yn llawn hwyl, ond gall pethau peryglus neu bethau sy’n peri gofid ddigwydd ar-lein weithiau. Dyma rai pethau cyffredin all fynd o’i le:

Hacio

Cael mynediad i dy gyfrif heb eich caniatâd a gweld dy wybodaeth breifat. Paid fyth â rhannu dy gyfrinair gydag unrhyw un, a gwna’n siwr ei fod yn un cryf. 

Cynnwys anghyfreithlon ac annymunol  

Bwlio ar-lein 

Bod yn gas ar-lein – edrycha ar yr adnodd hwn am ragor o wybodaeth. 

Trolio (trolling)

Rhannu rhywbeth sarhaus neu gynhennus er mwyn peri gofid, cael sylw neu ddechrau dadlau.

Swyno trwy dwyll (catfishing)

Esgus bod yn rhywun arall ar-lein. Gallan nhw fod yn dweud celwydd am eu hunaniaeth, oedran, enw a ble maen nhw’n byw.  

Blacmel

Byddwch yn ofalus o’r hyn rydych chi’n ei rannu’n breifat gan y gallai unrhyw beth rydych chi’n ei anfon gael ei rannu’n gyhoeddus, neu gael ei ddefnyddio i’ch blacmelio i anfon arian neu wneud rhywbeth rhywiol. Os oes gan rywun ddelweddau noeth ohonoch chi ac yn defnyddio’r rhain i’ch blacmelio chi, gelwir hyn yn sextortion yn Saesneg.

Dial

Rhannu lluniau neu fideos noeth neu rywiol i ddial ar gyn-gariad. Mae hyn yn anghyfreithlon.  

Sgamio

Twyllo rhywun i brynu rhywbeth, clicio ar ddolen neu rannu gwybodaeth bersonol, gan wneud iddyn nhw feddwl eu bod yn cael bargen. Os yw rhywbeth ar-lein yn rhy dda i’w gredu, mae’n debygol o fod yn sgam. Mae sgamwyr eisiau dwyn dy ddata neu dy arian, felly bydda’n ofalus wrth glicio dolenni.

Teimlo dan bwysau

Gall y cyfryngau cymdeithasol wneud i ti deimlo bod rhai pobl yn ardderchog ac yn byw bywyd i’r eithaf. Gall hyn roi pwysau arnat ti neu wneud i ti deimlo’n ddrwg am dy hun. Cofia mai dim ond yr uchafbwyntiau rwyt ti’n eu gweld. Nid yw bywyd go iawn yn berffaith. Paid â chredu’r darlun bob amser, a byddwch yn driw i chi'ch hun ar-lein.


Er bod y rhyngrwyd yn gallu bod yn ddihangfa wych o bopeth, mae’n bwysig dod o hyd i’r cydbwysedd iawn rhwng treulio amser ar-lein, a realiti. Cofiwch gymryd egwyliau rheolaidd all-lein, treulio amser gyda ffrindiau a theulu, a rhoi cynnig ar hobïau newydd nad ydyn nhw’n ymwneud â’r rhyngrwyd.

Gosodwch amserydd ar gyfer eich apiau, gosodwch derfynau amser sgrin dyddiol, neu defnyddiwch y rheol 20-20 (am bob 20 munud rydych chi’n ei dreulio ar sgrin, treuliwch 20 munud i ffwrdd o’ch sgrin h.y. ewch am dro). Os ydych chi’n meddwl eich bod chi’n treulio gormod o amser ar-lein, rhowch gynnig ar ddadwenwyno digidol; yn llythrennol, diffoddwch eich holl ddyfeisiau a threuliwch amser yn yr awyr agored.

Os ydych chi’n poeni am fynd ar-lein, neu os ydych chi’n dechrau teimlo’n isel neu’n poeni am eich iechyd meddwl a’ch llesiant, siaradwch gyda rhywun, Siaradwch gydag oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddo, fel eich rhieni neu athro.


Y ffordd orau o osgoi’r pethau all fynd o’i le ar y cyfryngau cymdeithasol yw sicrhau dy fod mor ddiogel ag sy’n bosibl. Bydd yr awgrymiadau yma’n dy helpu i gadw dy gyfrif yn ddiogel:  

  • Gosod cyfrifon i fod yn breifat, a rhannu cynnwys gyda ffrindiau a dilynwyr yn unig.

  • Ceisia greu cyfrinair cryf gan ddefnyddio tri gair ar hap. Bydd rhai safleoedd yn gofyn am rifau, symbolau a chymysgedd o briflythrennau a llythrennau bychain felly ceisia gynnwys y rheiny hefyd. Paid fyth â rhannu dy fanylion mewngofnodi ag unrhyw un. Os wyt ti’n meddwl bod rhywun yn eu gwybod nhw, newidia nhw.

  • Mae hyn yn golygu mewngofnodi gyda mwy na dy fanylion mewngofnodi yn unig. Ar ôl mewngofnodi, efallai y byddi di’n cael côd i dy ffôn neu’n gorfod defnyddio dy fys neu dy wyneb i fewngofnodi. Hyd yn oed os yw rhywun yn gwybod dy gyfrinair, ni fydd yn gallu mewngofnodi. 


Cyn postio, gall fod yn ddefnyddiol ceisio dychmygu dy hun yn dweud yr hyn rwyt ti’n ei bostio wrth dy rieni/gofalwyr, dy athrawon, dy gymydog drws nesaf, neu rywun diarth yn y stryd. A fyddet ti’n dal i’w rannu? Bydd yn gall fel bod modd i ti gael hwyl yn ddiogel. 

  • Edrycha drwy dy ffrindiau neu dy ddilynwyr yn aml er mwyn sicrhau eu bod yn bobl rwyt ti’n eu hadnabod ac yn ymddiried ynddyn nhw ac yn awyddus i rannu dy fywyd ar-lein gyda nhw. Y ffordd orau o gadw’n ddiogel yw dileu’r bobl nad wyt ti’n eu hadnabod. 

  • Os wyt ti’n creu cynnwys a ddim eisiau i dy gyfrif fod yn breifat, sicrha dy fod yn ofalus am yr wybodaeth bersonol rwyt ti’n ei rhannu.

  • Wyt ti wir yn gwybod pwy ti’n mynd i’w weld? Os wyt ti’n penderfynu mynd, dweda wrth rywun gyda phwy ti’n cwrdd ac i ble rwyt ti’n mynd. Dylet fynd â rhywun gyda thi bob amser (yn ddelfrydol, oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddo). 

  • Siarada’n onest ac yn agored am y ffordd rwyt ti’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Gall ei gwneud hi’n haws i gael cymorth gan oedolyn os bydd rhywbeth yn mynd o’i le.

  • Paid â rhannu dy enw llawn, dyddiad geni, rhif ffôn neu gyfeiriad ar-lein. Bydda’n ofalus am ddangos dy wisg ysgol neu greu enwau defnyddiwr cyhoeddus gyda gwybodaeth bersonol ynddyn nhw. 

  • Paid â rhannu dy leoliad bob amser byddi di’n postio rhywbeth, yn enwedig lleoedd ti’n mynd iddyn nhw’n aml, fel dy gartref neu’r ysgol. Os wyt ti’n awyddus i rannu dy fod wedi bod yn rhywle, y peth mwyaf diogel i’w wneud yw postio ar ôl gadael.

  • Mae’r rhan fwyaf o gyfrifon cyfryngau cymdeithasol ar gyfer pobl 13 oed neu hyn, ond mae rhai yn iau neu’n hyn. Mae cyfyngiadau oedran yn bodoli er dy ddiogelwch di. Os byddan nhw’n cael gwybod dy fod yn dweud celwydd am dy oedran, gallan nhw gau’r cyfrif neu dy wahardd. 

  • Weithiau, bydd sgyrsiau’n troi’n chwareus ar-lein. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar gadw’n ddiogel ar ein tudalen ‘Rhannu lluniau noeth’.  


Galli di reoli beth wyt ti’n dewis ei weld ar-lein. Os nad wyt ti’n hoffi rhywbeth, rho gynnig ar rai o’r camau hyn: 

  • Os wyt ti’n gweld rhywbeth nad wyt ti’n ei hoffi ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n gwneud i ti deimlo’n ofnus, yn anniogel neu’n drist, adrodda fe/nhw. Fel arfer, bydd gofyn i ti roi rheswm dros adrodd.

  • Os nad wyt ti’n teimlo’n gyfforddus gyda rhywun, waeth os yw’n ffrind neu’n rhywun diarth, blocia. Ni fyddan nhw’n gallu cysylltu gyda thi drwy’r platfform cyfryngau cymdeithasol hwnnw, ac ni fyddi di’n gallu gweld beth maen nhw’n ei rannu. 

  • Ar rai tudalennau neu grwpiau, bydd swyddogion cymedroli er mwyn sicrhau bod pawb yn cadw at reolau’r grwp ac i gadw pobl yn ddiogel. Os yw rhywun yn torri’r rheolau, dylid eu hadrodd i’r cymedrolwyr. 


Mae’n hawdd dechrau treulio oriau maith ar y cyfryngau cymdeithasol yn gwylio fideos, chwarae gemau a sgwrsio. Gall treulio gormod o amser ar-lein effeithio ar dy fywyd preifat, gwaith ysgol a dy gwsg. Rho gynnig ar yr awgrymiadau hyn. 

Gosod cyfyngiadau amser  

Er mwyn osgoi treulio dy holl amser ar y cyfryngau cymdeithasol, efallai bydd gosod terfyn amser ar dy ddyfeisiau’n syniad da.  

Diffodd hysbysiadau  

Bydd derbyn hysbysiad am bost newydd gan rywun yn gwneud i ti glicio’r ap o bosibl, ac yna’n treulio llawer o amser ar-lein. Diffodda’r hysbysiadau hyn yng ngosodiadau dy ddyfais.  

Siarad gyda rhywun – hyd yn oed pan rwyt ti wedi cymryd yr holl gamau i gadw dy hun yn ddiogel, gall pethau fynd o’i le weithiau. Os oes angen help arnat, siarada gydag oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddo, fel aelod o’r teulu, athrawon neu weithwyr ieuenctid. Os wyt ti’n poeni am ddechrau sgwrs gydag oedolyn, dyma rai awgrymiadau.

  • Canllawiau ynghylch apiau i deuluoedd – gwybodaeth am yr apiau mwyaf poblogaidd, platfformau cyfryngau cymdeithasol a gemau, gan gynnwys sut i flocio ac adrodd am gynnwys
  • Childline (Saesneg yn unig) - llinell gymorth breifat a chyfrinachol am ddim i blant a phobl ifanc yn y DU lle gallwch chi siarad am unrhyw beth – ffoniwch 0800 1111
  • Meic - llinell gymorth gyfrinachol am ddim i blant a phobl ifanc yng Nghymru gyda chynghorwyr i’ch helpu i ddod o hyd i’r cymorth sydd ei angen arnoch
  • Internet Matters (Saesneg yn unig) – canllawiau cam wrth gam ar osodiadau preifatrwydd ar y cyfryngau cymdeithasol, ffrydio byw ac apiau chwarae gemau