English
Rhybudd

Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch y gwasanaethau brys ar 999.

Gallwch gyfrannu at amgylchedd ar-lein mwy diogel drwy roi gwybod am achosion o niwed rydych chi wedi'u profi neu wedi'u gweld ar-lein.

Mae'r rhan fwyaf o ddarparwyr gwasanaethau ar-lein yn cynnig:

  • swyddogaeth i ddeiliaid cyfrifon ar gyfer rhoi gwybod am broblemau
  • y gallu i roi gwybod am bryderon ar ran plentyn neu berson ifanc

Os ydych chi'n rhoi gwybod am broblemau i blatfformau neu wasanaethau arbenigol eraill, gallan nhw gymryd camau priodol.

Casglu tystiolaeth

Os ydych chi wedi gweld neu brofi cynnwys niweidiol ar-lein ac eisiau rhoi gwybod amdano, casglwch y dystiolaeth briodol. Os yw'n bosibl, cymerwch sgrinluniau a chadw cofnod o URLs a dyddiadau ac amseroedd. Gall y rhain i gyd helpu.

Siaradwch â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo

Mae'n bwysig cael cymorth os ydych chi wedi profi problem ar-lein. 

Os ydych chi'n blentyn sy'n chwilio am help neu wybodaeth, ond yn poeni am siarad ag oedolyn, ewch i wefan Meic am gyngor

Mae CEOP Education yn cynnig cyngor i rieni a gofalwyr i'w helpu i siarad â'u plant am fater sensitif.

Adnabod y sianel gywir ar gyfer rhoi gwybod am broblemau

Defnyddiwch y gwasanaeth cywir i roi gwybod am eich problem. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn cael y gefnogaeth gywir.

Mae Report Harmful Content yn ganolfan genedlaethol i gynorthwyo â rhoi gwybod am gynnwys niweidiol ar-lein. Nod y gwasanaeth yw darparu cymorth yn benodol ar gyfer y mathau canlynol o niwed:

  • cam-drin ar-lein
  • bwlio neu aflonyddu
  • bygythiadau
  • dynwared
  • camau rhywiol nas dymunir (heb fod yn ddelweddau)
  • cynnwys treisgar
  • cynnwys sy’n ymwneud â hunan-niweidio neu hunanladdiad
  • cynnwys pornograffig

Gall plant a phobl ifanc ddefnyddio adnodd Report Remove Childline i roi gwybod am ddelweddau a fideos noeth sydd wedi cael eu rhannu neu a allai gael eu rhannu'n gyhoeddus.

Mae'r fideo hwn yn egluro sut y gall y gwasanaeth Report Remove helpu.

Action Fraud yw canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am y canlynol:

  • twyll
  • seiberdrosedd

Rhowch wybod yn ddiogel am bryderon am gam-drin rhywiol ar-lein ar wefan CEOP.

Gallwch roi gwybod am ddelweddau neu fideos lle ceir amheuaeth o gam-drin plant yn rhywiol i Internet Watch Foundation (IWF).

Mae'r canllawiau ynghylch apiau i deuluoedd yn cynghori ar roi gwybod am broblem ar rai o'r cyfryngau cymdeithasol a'r apiau gemau cyfrifiadur mwyaf poblogaidd.

Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn ei chael hi'n anodd, mae llinellau cymorth a gwasanaethau cyfrinachol am ddim i'ch helpu.

Mae C.A.L.L. yn llinell gymorth a gwasanaeth negeseuon testun iechyd meddwl ar gyfer Cymru. Mae'n agored i unrhyw un sy'n poeni am eu hiechyd meddwl eu hunain neu iechyd meddwl perthynas neu ffrind. Mae'n cynnig gwasanaeth gwrando a chymorth cyfrinachol.

Ffôn: 0800 132 737.

Neges destun: 'help' i 81066.

Mae galwadau a negeseuon yn rhad ac am ddim ac mae llinellau ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Mae Childline yn wasanaeth rhad ac am ddim, preifat a chyfrinachol i unrhyw un o dan 19 oed. Gallwch siarad am unrhyw beth sy'n eich poeni chi.

Gallwch siarad â chwnselydd Childline neu gael cymorth gan bobl ifanc eraill.

Ffôn: 0800 1111.

Mae galwadau yn rhad ac am ddim, ac ni fyddan nhw’n ymddangos ar eich bil. Mae’r llinellau ar agor rhwng 9am a chanol nos.

Gallwch hefyd:

Ewch i wefan Childline i gael rhagor o wybodaeth.

Mae modd cysylltu â Childline yn Gymraeg hefyd.

Mae Gofal mewn Galar Cruse yn cynnig cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth i unrhyw un sy'n profi galar.

Ffôn: 0808 808 1677.

Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn yn darparu help a chyngor am ddim ar gyfer:

  • unrhyw un sy'n dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol
  • unrhyw un sy'n adnabod rhywun y mae angen cymorth arno, er enghraifft, ffrind, aelod o'r teulu neu gydweithiwr
  • ymarferwyr sydd am gael cyngor proffesiynol

Mae pob sgwrs drwy wasanaeth Byw Heb Ofn yn gyfrinachol ac yn cael eu cynnal â staff sy'n brofiadol ac wedi'u hyfforddi'n llawn.

Mae Byw Heb Ofn ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Ffôn: 0808 80 10 800.

Neges destun: 07860077333.

e-bost: gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru.

Gwasanaeth sgwrsio byw.

Os na allwch siarad yn ddiogel, ond mae angen help arnoch ar unwaith, bydd heddluoedd ledled Cymru yn ymateb i alwad 999 dawel. Deialwch 999 ac yna 55 i nodi na allwch siarad ond bod angen help.

Mae Stop it now yn brosiect atal cam-drin plant yn rhywiol. Mae'n helpu rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol i amddiffyn plant rhag cam-drin a chamfanteisio rhywiol.

Ffôn: 0808 1000 900.

e-bost: wales@lucyfaithfull.org.uk.

X: @LucyFaith_Wales.

Mae Meic yn llinell gymorth gyfrinachol, ddwyieithog, rad ac am ddim i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru.

Gallwch wneud y canlynol:

  • cael help i ddelio â sefyllfa anodd
  • cael rhywun i wrando hyd yn oed pan fydd yn teimlo na fydd unrhyw un arall yn gwneud
  • canfod beth sydd ar y gweill yn eich ardal leol

Ni fydd Meic yn eich barnu a bydd yn helpu drwy roi'r canlynol ichi:

  • gwybodaeth
  • cyngor defnyddiol
  • y cymorth sydd ei angen arnoch

Gelli gysylltu yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Mae Meic ar agor rhwng 8am a chanol nos, 7 diwrnod yr wythnos. 

Ffôn neu WhatsApp: 0808 80 23456.

Neges destun: 07943 114 449.

Neges wib neu sgwrs ar-lein: www.meic.cymru.

Os ydych yn poeni am blentyn, hyd yn oed os nad ydych chi'n siŵr, gallwch gysylltu â llinell gymorth NSPCC. Mae'n cael ei staffio gan weithwyr proffesiynol hyfforddedig a all ddarparu cyngor a chefnogaeth arbenigol. Gallan nhw hefyd helpu â’r canlynol:

Ffôn: 0808 800 5000.

Mae galwadau'n rhad ac am ddim, a does dim angen ichi roi eich enw. Mae llinellau ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener 9am i 6pm neu 9am i 4pm ar y penwythnos. 

e-bost: help@nspcc.org.uk.

Cyflwynwch ffurflen ar-lein.

Mae Papyrus yn elusen genedlaethol wedi'i neilltuo i atal hunanladdiad ymysg pobl ifanc. Gallwch gysylltu â Papyrus am gymorth cyfrinachol a chyngor ymarferol os ydych chi:

  • yn cael meddyliau am hunanladdiad 
  • yn poeni am berson ifanc a allai fod yn cael meddyliau am hunanladdiad

Ffôn: 0800 068 41 41.

Neges destun: 88247.

e-bost: pat@papyrus-uk.org.

Gweithredir llinell gymorth POSH gan Ganolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU. Mae wedi'i neilltuo'n llwyr i gefnogi pob aelod o'r gymuned sy'n gweithio gyda neu ar gyfer plant ag unrhyw faterion diogelwch ar-lein.

Mae'r llinell gymorth yn cynnig cyngor annibynnol yn rhad ac am ddim ar nifer o faterion diogelwch ar-lein, gan gynnwys:

  • preifatrwydd
  • enw da ar-lein
  • chwarae gemau ar-lein
  • magu perthynas amhriodol
  • seiberfwlio
  • secstio
  • ymddygiad amhriodol ar y cyfryngau cymdeithasol

Mae'r llinell gymorth ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 4pm.

e-bost: helpline@saferinternet.org.uk.

Mae Samariaid Cymru yn wasanaeth llinell gymorth am ddim i unrhyw un sydd:

  • yn ei chael yn anodd ymdopi
  • angen rhywun i wrando heb farn na phwysau

Byddan nhw’n eich helpu i ddod o hyd i ffordd ymlaen.

Ffôn: 116 123.

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos.

Gallwch hefyd: 

  • anfon e-bost i: jo@samaritans.org (gall gymryd sawl diwrnod i gael ymateb drwy e-bost)
  • ysgrifennu llythyr i: Freepost SAMARITANS LETTERS (mae'r Samariaid yn ceisio ymateb i lythyrau o fewn 7 diwrnod)

Mae Shout yn wasanaeth negeseuon testun am ddim i unrhyw un sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi ac sydd angen help ar unwaith. 

Neges destun: 85258. 

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos.