English

Mae'r broses gymeradwyo yn ei chyfnod peilot a gall newid yn y dyfodol.

Dim ond at ddiben cymeradwyo darpariaeth dysgu proffesiynol genedlaethol y mae'r meini prawf canlynol yn berthnasol. Caiff y gwaith o gymeradwyo darpariaeth datblygu arweinwyr ei lywio gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol.

Mae 3 chategori cymeradwyo:

Mae pwrpas a nodau'r ddarpariaeth yn cyd-fynd â'r gofynion polisi cenedlaethol ac ymchwil gyfoes.

1.1 Rhesymeg glir yn amlinellu sut mae'r ddarpariaeth wedi'i chynllunio i gefnogi anghenion gofynion dysgu proffesiynol lleol, rhanbarthol neu genedlaethol.

1.2 Manylion penodol am y gynulleidfa arfaethedig a sut mae'r ddarpariaeth yn ymateb i'r cyd-destun.

1.3 Rhowch enghreifftiau penodol i ddangos sut mae pwrpas a nodau'r ddarpariaeth yn seiliedig ar fframweithiau polisi perthnasol, gan gynnwys (ymhlith eraill):

1.4 Nodwch fframweithiau polisi eraill sy'n berthnasol i bwrpas a nodau'r ddarpariaeth, fel y bo'n briodol, er enghraifft Diwygio'r System Anghenion Dysgu Ychwanegol; Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol; Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ac ati.

1.5 Tystiolaeth amlwg bod y ddarpariaeth yn cael ei llywio'n barhaus gan ymchwil, yn unol ag egwyddorion y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad Addysgol.

Mae'r model gweithredu a dysgu yn tynnu ar arferion gorau ac yn agored i'r gynulleidfa darged.

2.1 Bod y dull(iau) gweithredu yn cyd-fynd â'r Dull Cenedlaethol/Dysgu Proffesiynol Cyfunol (wrth ystyried egwyddorion cynaliadwyedd/defnydd o dechnoleg).

2.2 Mae personél cymwys yn cael eu defnyddio sydd ag arbenigedd perthnasol (hwyluswyr, hyfforddwyr, mentoriaid ac ati) sy'n briodol i'r gynulleidfa darged.

2.3 Mae cyfleoedd teg a hygyrch i ddysgu, yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010 a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

2.4 Mae'r deilliannau dysgu yn briodol ac yn berthnasol i fodloni gofynion y gynulleidfa darged yn llawn.

2.5 Mae cyfleoedd i ddatblygu gwybodaeth broffesiynol newydd neu ddyfhau'r wybodaeth broffesiynol sy'n bodoli eisoes, drwy ddulliau arloesol sy'n canolbwyntio ar ymarfer.

2.6 Mae cyfleoedd i gyfranogwyr gydweithio, ymholi ac ystyried yn feirniadol (er enghraifft drwy'r Pasbort Dysgu Proffesiynol) a phennu nodau ar gyfer y dyfodol i ymgorffori dysgu a gwella arferion. 

2.7 Mae systemau gweinyddol effeithlon ac effeithiol ar waith, gan gynnwys dull marchnata clir, i gefnogi'r broses weithredu.

Mae strategaethau gwerthuso ac effaith yn sail i bob agwedd y ddarpariaeth.

3.1 Mae prosesau sicrhau ansawdd trylwyr a chadarn ar waith, i wneud yn siŵr bod y dull gweithredu o safon uchel. 

3.2 Cesglir adborth gan hwyluswyr, cyfranogwyr ac eraill fel y bo'n briodol, er mwyn llywio’r cylch gwella parhaus.

3.3 Mae proses ar waith i fonitro a gwerthuso sgiliau a gwybodaeth hwyluswyr i sicrhau eu bod o safon gyson uchel.

3.4 Mae proses i fonitro effaith y ddarpariaeth ar ymarferwyr a/neu gynnydd dysgwyr yn y tymor byr, canolig a hir. 

3.5 Mae dull clir o sicrhau bod y ddarpariaeth yn ymateb yn ddigonol i anghenion a buddiannau cyfranogwyr, sy'n newid drwy'r amser.

3.6 Mae tystiolaeth bod y ddarpariaeth yn cael ei hystyried o werth er enghraifft buddsoddiad amser ac ariannol. 

3.7 Mae buddsoddiad mewn cynaliadwyedd tymor hirach (lle bo'n berthnasol) er enghraifft cyfleoedd rhwydweithio, digwyddiadau alumni.