English

Rydym am i bob ymarferydd gael mynediad at ddysgu proffesiynol o safon i'w galluogi i ddarparu addysg o safon a phennu dyheadau uchel i bawb. Bydd yr Hawl genedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol (yr Hawl) yn chwarae rhan allweddol yn ein taith tuag at gyflawni hyn.

Nod yr Hawl yw hyrwyddo'r cymorth y mae gan ymarferwyr addysg ac arweinwyr neu gynghorwyr y system addysg hawl iddo. Mae'r Hawl yn nodi sut y bydd datblygiad parhaus ymarferwyr addysg yn cefnogi'r ysgolion neu'r lleoliadau y maent yn gweithio iddynt a'u dysgwyr i wireddu pedwar diben Cwricwlwm i Gymru, cefnogi dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ac ymgorffori tegwch, lles a'r Gymraeg ym mhob rhan o gymuned yr ysgol gyfan.

Mae'r Hawl yn adeiladu ar ac yn datblygu haenau allweddol y Dull cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol ac mae’n nodi dechrau cam nesaf ein taith dysgu proffesiynol ar hyd a lled y system. Hoffwn ddatblygu gweithwyr addysg proffesiynol myfyriol, chwilfrydig a chydweithredol a diwylliant o gyfrifoldeb ar y cyd mewn perthynas â dysgu proffesiynol. Hoffwn hefyd gael mynediad teg i ddysgu proffesiynol o ansawdd ar gyfer pob gweithiwr addysg proffesiynol er mwyn cyflawni safonau a dyheadau uchel i bawb. Mae hyn yn unol â'r 8 ffactor cyfrannu a nodir yn yr adran ‘Ein gweledigaeth ar gyfer ysgolion llwyddiannus o dan y Cwricwlwm i Gymru’ o ‘Canllawiau gwella ysgolion: fframwaith ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd’. Mae’r ffactorau hyn yn disgrifio'r priodweddau allweddol y bydd gan yr ysgolion sy'n llwyddo i wireddu'r cwricwlwm.

Dylai pob ymarferydd addysg gael eu cymell gan y set gyffredinol o werthoedd ac ymagweddau sydd wedi'u cynnwys yn y safonau proffesiynol ar gyfer addysgu, arweinyddiaeth a chynorthwyo addysgu (y safonau proffesiynol). Mae'r gwerthoedd a'r ymagweddau hyn a’r 5 safon proffesiynol eu hunain yn ganolog i'r ffordd rydym eisiau i'n holl ymarferwyr addysg ddatblygu. Dylai defnyddio'r safonau proffesiynol i fyfyrio ar ymarfer unigol lywio trefniadau rheoli perfformiad a gwella ysgolion ac arwain at ddatblygu taith dysgu proffesiynol unigol ar gyfer pob ymarferydd.

Mae'r Hawl wedi’i rannu’n 3 adran ar gyfer proffesiynau penodol a dylai pob un gael ei defnyddio gan y gweithiwr proffesiynol perthnasol i ystyried ei anghenion personol ei hun a sut gall ddatblygu ei hun a'r sefydliad y mae'n gweithio iddo. Mae’r adrannau isod ar gyfer pob proffesiwn yn cynnwys cyfres o hawliau a disgwyliadau cydgysylltiedig. Ar ôl pob hawl mae’r disgwyliad cysylltiedig.

  1. Athrawon a chynorthwywyr addysgu (pdf)
  2. Arweinwyr (pdf)
  3. Arweinwyr neu gynghorwyr y system addysg sy’n gweithio mewn sefydliadau haen ganol i gefnogi ysgolion neu leoliadau (pdf)

Mae gan bob weithiwr addysg proffesiynol hawl i:

  • daith dysgu proffesiynol unigol
  • dysgu proffesiynol wedi ei gynllunio'n dda sy'n cynnwys cyfuniad o ddulliau a chyfleoedd i fyfyrio, ymholi a chydweithio ar gyfer dysgu 
  • weithio mewn ysgol neu leoliad, neu sefydliad sy'n ystyried ei hun yn sefydliad sy’n dysgu ac sy’n defnyddio safonau proffesiynol ym mhob agwedd ar ddatblygiad proffesiynol

Mae pob hawl yn gysylltiedig â disgwyliad y dylai ymarferwyr:

  • fynd ati i ddatblygu a myfyrio ar eu taith dysgu proffesiynol unigol
  • manteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol a gwneud defnydd cadarnhaol o’r amser a ddyrennir ar ei gyfer, gan gynnwys amser hyfforddiant mewn swydd
  • ystyried yn rheolaidd eu rôl yn cefnogi'r ysgol neu’r lleoliad fel sefydliad sy’n dysgu, eu harferion o ran y safonau proffesiynol ac ysgogi gwelliant drwy ddysgu proffesiynol priodol

Defnyddio’r Hawl

Gyda chefnogaeth gan eu hysgol neu leoliad, dylai ymarferwyr ystyried y cyfleoedd dysgu proffesiynol sydd ar gael a chynllunio'u taith dysgu proffesiynol unigol i ddiwallu eu hanghenion, anghenion eu hysgol neu eu lleoliad ac anghenion eu dysgwyr orau.

Mae’r ystod lawn o gyfleoedd dysgu proffesiynol ar gael yn yr adran Dysgu proffesiynol ar gyfer ymarferwyr addysg a bydd yn cael ei diweddaru'n rheolaidd.

Mae'r disgrifyddion ‘arferion effeithiol’ yn sicrhau bod anghenion datblygiadol unigolion yn cael eu diwallu yn eu rolau cyfredol. Maent wedi'u cynllunio i fod yn realistig ac yn bosibl eu cyflawni. Disgwylir y bydd y rhan fwyaf o ymarferwyr ac arweinwyr addysg eisoes yn cael yr hawliau a ddisgrifir yn y disgrifyddion ‘arferion effeithiol’ drwy ddarpariaeth leol, ranbarthol a chenedlaethol.

Dylai pob ysgol, lleoliad ac unigolyn ymdrechu i wireddu'r disgrifyddion ‘arferion effeithiol iawn a pharhaus’ dros amser. Dylai arweinwyr wella a datblygu diwylliant dysgu proffesiynol yn barhaus er mwyn galluogi unigolion i fod yn rhan o sefydliad sy’n dysgu hynod effeithiol parhaus sy'n canolbwyntio ar sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni ei botensial. Dylai arloesedd a her gael eu hannog ac mae creu'r diwylliant dysgu a chefnogol hwn yn hanfodol.

Dylai'r holl randdeiliaid sy'n ymwneud â chefnogi ymarferwyr ac arweinwyr addysg fod yn ymwybodol o'r Hawl a'i ddefnyddio i gefnogi dysgu proffesiynol mewn ysgolion a lleoliadau.

Penaethiaid a chyrff llywodraethu neu fyrddau rheoli unedau cyfeirio disgyblion

O ran cefnogi dysgu proffesiynol pobl eraill, dylai penaethiaid ddatblygu eu hysgol neu leoliad fel sefydliad sy'n dysgu, a hynny gyda chefnogaeth eu corff llywodraethu neu fwrdd rheoli er mwyn:

  • dechrau ac annog trafodaethau agored, parhaus gyda staff ar ddysgu proffesiynol a sicrhau bod y dangosyddion hawl neu ddisgwyliad yn cael eu bodloni neu fod y staff yn gweithio tuag atynt
  • creu hinsawdd lle caiff dysgu proffesiynol i bawb ei werthfawrogi a'i gynllunio er lles pob dysgwr ac i fodloni eu hanghenion.
  • defnyddio dull eu consortia addysg o sicrhau a nodi effaith dysgu proffesiynol ar lefel ysgol neu leoliad
  • cefnogi arweinwyr ac ymarferwyr addysg i greu amser a lle ar gyfer eu dysgu proffesiynol
  • ystyried y cyfuniad mwyaf effeithiol o ddulliau wrth gyflwyno profiadau dysgu proffesiynol neu gael gafael arnynt
  • gwneud defnydd effeithiol o'r grant dysgu proffesiynol a chyllid arall er mwyn galluogi ymarferwyr addysg i gymryd rhan mewn dysgu proffesiynol

Arweinwyr neu gynghorwyr system addysg, gan gynnwys consortia addysg, awdurdodau lleol ac awdurdodau esgobaethol

Mewn perthynas â chefnogi dysgu proffesiynol pobl eraill, dylai arweinwyr neu gynghorwyr y system addysg wneud y canlynol:

  • cefnogi ysgolion neu leoliadau i gyflwyno'r Hawl
  • dechrau ac annog trafodaethau agored, parhaus gydag ysgolion neu leoliadau ar ddysgu proffesiynol a sicrhau bod y disgrifiadau hawl neu ddisgwyliad yn cael eu bodloni neu eu bod yn gweithio tuag atynt
  • cefnogi arweinwyr i greu amser a lle ar gyfer eu dysgu proffesiynol eu hunain ac eraill
  • cefnogi ysgolion neu leoliadau i ddatblygu diwylliant sy'n hyrwyddo ac yn cefnogi dysgu proffesiynol yn unol â'r safonau proffesiynol perthnasol ac egwyddorion yr ysgolion fel model ysgolion fel sefydliadau sy'n dysgu
  • defnyddio ystod o wybodaeth berthnasol i gefnogi arweinwyr i gynllunio'u dysgu proffesiynol, gan ystyried y sgiliau sy'n ofynnol i'r dyfodol ac anghenion yr ysgol neu'r lleoliad i'r dyfodol
  • sicrhau eu bod yn gweithredu fel dysgwyr proffesiynol eu hunain, gan fodelu, defnyddio safonau proffesiynol perthnasol ac ymrwymo i’w teithiau dysgu proffesiynol eu hunain
  • monitro sut mae ysgolion neu leoliadau'n datblygu o ran gweithredu'r Hawl fel rhan o gynllun datblygu eu hysgol