English

Lansiwyd y dull gweithredu cenedlaethol yn 2018, gyda gweledigaeth dysgu proffesiynol sy’n addas ar gyfer y system addysg Cymru wrth iddi esblygu.

Gellir grwpio 8 elfen y dull gweithredu yn ôl eu cyd-destun.

Ystyriwch sut y mae’r gwahanol gyd-destunau hyn yn diffinio’r blaenoriaethau ar gyfer dysgu proffesiynol:

Mae trefniadau cyllido ar gael i gefnogi’r dull gweithredu.

Gall y cyllid gael ei ddefnyddio’n hyblyg i ganiatáu i ysgolion weithio gyda’i gilydd mewn ffyrdd sy’n addas i’w hamgylchiadau.

Dyma rai enghreifftiau o sut gellir defnyddio’r cyllid:

  • rhyddhau staff a chyflenwi ar eu cyfer er mwyn iddynt gael cymryd rhan mewn dysgu proffesiynol cydweithredol a chynllunio ar y cyd – ar lefel ysgol, ar draws clystyrau ac ar draws rhwydweithiau
  • cynnig cymhelliannau a gwobrau i staff i archwilio goblygiadau’r cwricwlwm newydd o ran eu harferion addysgu ac asesu eu hunain - ar lefel unigol, drwy ryddhau staff (gyda chyllid am hynny) i ymchwilio
  • creu rolau a swyddi penodol ar gyfer y genhadaeth, ac yn enwedig cefnogi cydweithwyr, adrannau ac ysgolion cyfan i ymchwilio, rheoli newid a chynnal gweithgareddau ‘ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu’
  • datblygu rôl yr hyfforddwr dysgu proffesiynol ar lefel yr ysgol neu’r clwstwr - dyma un o brif gasgliadau'r gweithgaredd ymchwil gan y prifysgolion oedd yn edrych ar y dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol, ac mae’n faes y byddem yn annog buddsoddi ynddo
  • Ysgol Gynradd Llanhari

    Fe wnaeth Ysgol Gynradd Llanhari ddefnyddio’r grant dysgu proffesiynol i ddatblygu dull aml-haenog ar gyfer dysgu proffesiynol. Fe wnaeth y grant helpu i ryddhau amser i’r staff allu ymgysylltu â gweithgareddau monitro a gwerthuso i wella arferion yn yr ystafell ddosbarth. I ddatblygu diwylliant seiliedig ar ymchwil ar draws yr ysgolion, roedd y cyllid hefyd wedi darparu cyfleoedd i staff allu cydweithio’n fewnol ac allanol i ddatblygu eu sgiliau ymholi gweithred, gan gynnwys prosiect ymholi cyfoedion clwstwr. Mae cydweithio ag ystod o bartneriaid allanol wedi arwain at ddiwylliant o rannu a didwylledd, a bydd yr ysgol yn parhau i adeiladu ar hyn i wireddu’r cwricwlwm newydd.

    Astudiaeth achos llawn (pdf)

    Cynllun dysgu proffesiynol

    Ysgol Gynradd Albany

    Defnyddiodd Ysgol Gynradd Albany y grant dysgu proffesiynol ychwanegol i gyllido rhaglen datblygiad proffesiynol bwrpasol yn yr ysgol a oedd yn canolbwyntio ar ddatblygiad proffesiynol a mentora addysgol, â chymorth Prifysgol Caerdydd. Yn sgil y cyllid cafodd y staff afael ar ddulliau ymchwil y brifysgol a dogfennau ategol, a rhoddodd yr hyder iddyn nhw ddadansoddi’r maes yr oedden nhw wedi’i ddewis o fewn eu lleoliad ysgol eu hunain. Defnyddiwyd sesiynau HMS a sesiynau gyda’r hwyr ar gyfer trafodaethau grwp, i rannu ac archwilio’r gwaith a gwblhawyd hyd yn hyn. Newidiwyd aelodaeth y grwpiau i hyrwyddo amrywiaeth o safbwyntiau ac i wella ansawdd yr ymchwil a’r ddeialog broffesiynol.

    Arweiniodd y rhaglen ymchwil gyda Phrifysgol Caerdydd at lawer mwy o bwyslais ar fyfyrio a chyfleoedd ar gyfer deialog broffesiynol mewn gweithgareddau dysgu proffesiynol yn Ysgol Gynradd Albany. Erbyn hyn, mae gan ddyddiadur HMS yr ysgol nifer sylweddol o sesiynau gyda’r hwyr sydd wedi’u seilio ar fyfyrio a deialog broffesiynol ynglyn â meysydd blaenoriaeth yr ysgol.

    Astudiaeth achos lawn (pdf)

    Ysgol Gynradd St. Andrew

    Defnyddiodd Ysgol Gynradd St. Andrew ei chyllid grant dysgu proffesiynol ychwanegol i gynorthwyo arweinwyr, arweinwyr canol ac athrawon i ymgysylltu â’r Rhaglen Rhagoriaeth mewn Addysgu ac Arweinyddiaeth a gynigir gan y consortia rhanbarthol mewn cydweithrediad ag ysgolion dysgu proffesiynol rhanbarthol. Yr effaith gadarnhaol a gafodd hyn oedd ei fod wedi cynyddu hyder, monitro ac ymgysylltiad mewn deialog broffesiynol. Gwnaeth y staff addysgu ymgysylltu â’r safonau. Gwnaeth y cyllid gynorthwyo’r staff i ymweld â lleoliadau eraill a chynnal ymchwil ysgol gyfan ac ymchwil ar y cyd sydd wedi arwain at newid ysgol gyfan o ran diwygio a datblygu cwricwlwm newydd.

    Astudiaeth achos lawn (pdf)

    Cynllun Dysgu Proffesiynol

    Ysgol yr Hafod

    Defnyddiodd Ysgol yr Hafod eu cyllid grant dysgu proffesiynol ychwanegol i greu ‘amser a lle’ i staff gydweithio ar brosiectau i gefnogi’r cwricwlwm newydd. Roedd yr ysgol yn awyddus hefyd i ddatblygu tîm o ymarferwyr myfyriol a oedd yn hyderus wrth ymwneud ag ymchwil gweithredu. Cafodd aelodau’r staff gyfleoedd i arwain eu dysgu eu hunain, gan gynnwys gweithio ar draws cyfnodau. Mae’r ysgol wedi sefydlu diwylliant o gydweithredu. Mae aelodau’r staff yn magu hyder wrth roi cynnig ar ddulliau newydd a myfyrio ar yr effaith ar ddysgwyr. Bu sesiynau hyfforddi a mentora o gymorth i gydweithwyr gan ddarparu anogaeth wrth fynd i’r afael â heriau ar hyd y daith.

    Astudiaeth achos lawn (pdf)

    Y Ysgol Gynradd y Coed Duon

    Defnyddiodd Ysgol Gynradd y Coed Duon ei chyllid grant dysgu proffesiynol ychwanegol i ddatblygu ymhellach ei gallu i addasu i’r cwricwlwm newydd trwy arweinyddiaeth o ansawdd uchel a dysgu ar y cyd. 

    Fe wnaeth yr ysgol ddefnyddio’r grant nid yn unig i ddatblygu’r Dirprwy Bennaeth ymhellach ond hefyd i ddatblygu fframwaith dysgu proffesiynol, gan gynnwys yr holl staff mewn gweithgareddau datblygu arweinyddiaeth wedi eu cefnogi gan gonsortia rhanbarthol, i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth. Defnyddiwyd dimensiynau ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu a’r Rhaglen Rhagoriaeth mewn Addysgu ganddynt i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth ar lefel briodol ar gyfer datblygiad personol.  

    Astudiaeth achos llawn (pdf)

    Ysgol Cae’r Nant

    Defnyddiodd Ysgol Cae’r Nant ei harian grant dysgu proffesiynol ychwanegol i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd trwy fuddsoddi yn y dull Mantle of the Expert (MoE) i wneud dysgu yn fwy ystyrlon a chyffrous.

    Fe wnaeth yr ysgol ddefnyddio ei grant i hyfforddi staff addysgu a staff nad ydyn nhw’n addysgu yn y dull MoE ac i ryddhau staff i ymweld ag ysgolion hyfforddi MoE eraill. Roedd y staff yn arbennig o awyddus i ddatblygu yn y maes hwn, gan eu bod wedi gweld yn syth yr effaith ar eu harferion yn yr ystafell ddosbarth ac ar eu dysgwyr. Rhannodd Ysgol Cae’r Nant yr hyfforddiant a’r profiadau yn ehangach, fel y gallai ysgolion eraill ddarganfod yr addysgeg newydd hon. 

    Mae Ysgol Cae’r Nant wedi llwyddo i ennill statws ysgol hyfforddi Mantle of the Expert ac mae’n parhau i ddatblygu aelodau ychwanegol o staff yn athrawon MoE. Maen nhw hefyd yn parhau i rannu arferion da gydag ysgolion eraill trwy gynnal digwyddiadau diwrnod agored rheolaidd.

    Astudiaeth achos llawn (pdf)

    Ysgol Gynradd Brychdyn

    Defnyddiodd Ysgol Gynradd Brychdyn y grant dysgu proffesiynol ychwanegol i nodi blaenoriaethau ysgol gyfan ac anghenion dysgu proffesiynol. Defnyddiwyd y cyllid i hwyluso cyrsiau datblygiad proffesiynol ar gyfer yr holl staff, i’w cefnogi i ymwreiddio strategaethau craidd yr ysgol.

    Defnyddiwyd y cyllid hefyd i nodi a phenodi i nifer o swyddi arwain, i gefnogi blaenoriaethau’r ysgol ac i gydgysylltu gweithgareddau dysgu proffesiynol ar draws yr ysgol. Yn ogystal â hyn, mae’r ysgol wedi defnyddio’r cyllid i fanteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol arbenigol, a arweiniwyd gan arbenigwyr ar gyfer athrawon, dysgwyr a rhieni/gofalwyr.

    Astudiaeth achos llawn (pdf)

    Ysgol Gynradd Langstone

    Defnyddiodd Ysgol Gynradd Langstone ei grant dysgu proffesiynol ychwanegol i ariannu nifer o fentrau i gefnogi dysgu proffesiynol ar draws yr ysgol, gan gynnwys datblygu arweinydd ymchwil, gweithio gyda darparwyr hyfforddiant allanol, datblygu gwaith clwstwr a datblygu addysgu mathemateg ar draws yr ysgol.

    Defnyddiwyd dull amlochrog o ddatblygu’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth ar draws yr ysgol a fydd yn cefnogi cyflwyniad a datblygiad y Cwricwlwm i Gymru.  

    Astudiaeth achos lawn (pdf)

    Ysgol Bro Lleu

    Defnyddiodd Ysgol Bro Lleu ei grant dysgu proffesiynol ychwanegol i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd, trwy feithrin ethos ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu er mwyn bod yn fwy cynhwysol i staff.

    Fe wnaeth yr ysgol ddefnyddio ei grant ar gyfer hyfforddiant penodol gan y consortiwm ac i roi amser penodol i staff ar gyfer myfyrio a chyd-feddwl ar sut i ddatblygu eu hunain, eraill, a’r ysgol. Mae’r prosiectau wedi cael effaith y tu hwnt i Ysgol Bro Lleu, gan feithrin ethos cydweithredol ar draws y dalgylch, gan gynnwys ysgolion uwchradd.

    Mae’r ysgol a’r dalgylch yn teimlo’n hyderus a brwdfrydig i gychwyn cynllunio i’r dyfodol ac ar gyfer y cwricwlwm newydd.

    Astudiaeth achos llawn (pdf)

    Ysgol Tregarth

    Defnyddiodd Ysgol Tregarth y grant ychwanegol i ddatblygu dysgu proffesiynol ar bob lefel o fewn y strwythur staffio. 

    Mae’r ysgol wedi ymrwymo yn llwyr i ddatblygu fel sefydliad sy’n dysgu. Mae’r grant wedi bod yn fodd effeithiol i ffocysu ar elfennau sydd wedi eu hadnabod fel meysydd i’w datblygu yn dilyn arolwg Llywodraeth Cymru ‘Ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu.’

    Fe wnaeth yr ysgol ddefnyddio ei grant i sefydlu diwylliant o ymchwilio; i feithrin dulliau o gydweithio fel tîm ymysg y staff ac i gefnogi dysgu proffesiynol parhaus i’r holl staff. Yn ôl yr ysgol mae’r ffordd hwn o weithio wedi bod yn effeithiol iawn gydag effaith gadarnhaol ar y dysgu a’r addysgu.

    Wrth symud ymlaen, mae’r ysgol yn datblygu cyfleoedd pellach ar gyfer dysgu proffesiynol mewn diwylliant sy’n cael ei arwain gan ymchwil.

    Astudiaeth achos llawn (pdf)

    Ysgol Ty Coch

    Defnyddiodd Ysgol Ty Coch y grant dysgu proffesiynol ychwanegol i hwyluso hunanwerthuso a chynllunio gwelliant yn yr ysgol. Defnyddiodd yr ysgol y canlyniadau gwaelodlin o’i harolwg gwreiddiol ar gyfer ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu i helpu i ddatblygu dealltwriaeth o gryfderau a meysydd i’w gwella. Yna, nododd yr ysgol flaenoriaethau ar gyfer gwella’r ysgol a defnyddiwyd y grant i hwyluso nifer o weithgareddau megis cynyddu cydnerthedd ymhlith staff, creu amser i staff ymgysylltu ag arferion wedi’u seilio ar ymholiad a datblygu Fforwm Cynllunio Cwricwlwm. Drwy ymrwymiad i ddysgu proffesiynol, mae’r ysgol wedi gweld effaith gadarnhaol ar y staff ac ar ddysgwyr.

    Astudiaeth Achos Llawn (pdf)

  • Ysgol Aberconwy

    Fe wnaeth Ysgol Aberconwy ddefnyddio’r grant dysgu proffesiynol i ariannu mentrau i ddatblygu technegau ymchwil, sgiliau addysgeg a hyfforddi, o fewn yr ysgol ac ar draws ei chlwstwr. Mae’r cyllid wedi cynorthwyo staff i ryddhau amser ac i ymgymryd â hyfforddiant mewn technegau ymchwil. Defnyddiwyd y grant hefyd i ddatblygu perthnasoedd gydag ysgolion eraill yn y clwstwr ac maen nhw wedi cydweithio i ffurfio polisi ac arferion i wella safonau. Mae Ysgol Aberconwy wedi datblygu pecyn dysgu proffesiynol ynghyd â’r ysgolion cynradd yn y clwstwr. Fel ysgol hyfforddi rhaglen Gwella Effeithlonrwydd Athrawon (TEEP), mae’r staff wedi hyfforddi pob clwstwr cynradd yn y TEEP. Mae hyn wedi darparu fframwaith cyffredin ar gyfer dysgu ac addysgu ar draws y clwstwr. Mae’r ysgol wedi ymrwymo i barhau i ddysgu gyda phartneriaid clwstwr drwy ymchwil a rhannu profiad a hyfforddiant.

    Astudiaeth achos llawn (pdf)

    Cynllun dysgu proffesiynol

    Ysgol y Preseli

    Defnyddiwyd Ysgol y Preseli y grant dysgu proffesiynol ychwanegol i astudio’r continwwm addysgeg yn y Dyniaethau ar draws Cyfnodau Allweddol 2 a 3. Nod yr astudiaeth oedd paratoi athrawon ar gyfer y cwricwlwm newydd â chodi ymwybyddiaeth ymhlith rhanddeiliaid o'r newidiadau sydd i ddod. Roedd cyfleoedd niferus i athrawon ddatblygu’n broffesiynol trwy gydweithio, cyfoethogi dealltwriaeth o addysgeg a’r continwwm sydd ei hangen i sicrhau bod dysgwyr yn perchnogi eu cynnydd. Mae’r grwp hwn o athrawon yn parhau i arwain y ffordd i weddill staff yr ysgol ac ysgolion y clwstwr.

    Astudiaeth achos llawn (pdf)

    Cynllun dysgu proffesiynol

    Ysgol Gymunedol Cwmtawe

    Defnyddiodd Ysgol Gymunedol Cwmtawe y grant dysgu proffesiynol ychwanegol er budd yr ysgol gyfan, gan hwyluso nifer o brosiectau i ddatblygu eu staff ar bob cam o’u gyrfa. Rhoddodd y grant y cyfle i’r staff gymryd rhan mewn cysgodi swyddi, wrth gael eu mentora gan uwch hyfforddwr gydol y broses, gan alluogi’r staff i gael cyfrifoldeb a phrofiad ysgol gyfan neu adrannol ehangach. Rhoddir mynediad i’r holl staff at raglenni hyfforddi achrededig i ehangu eu datblygiad proffesiynol.

    Mae’r ysgol wedi dechrau datblygu strategaeth ac ethos hyfforddi ysgol gyfan a bydd yn parhau i adeiladu ar hyn gan hybu gwaith ar draws meysydd dysgu a phrofiad wrth gynllunio ar gyfer y cwricwlwm newydd.

    Astudiaeth achos lawn (pdf)

    Dwr-y-Felin

    Defnyddiodd Ysgol Gyfun Dwr-y-Felin y grant dysgu proffesiynol ychwanegol i weithredu’r model ysgol dysgu proffesiynol. Defnyddiwyd yr arian i hwyluso nifer o gyfleoedd megis hyfforddiant ar y safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth, cael gafael ar raglenni arweinyddiaeth ar gyfer y staff, ymgysylltu â dysgu proffesiynol ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu, a mynychu rhaglenni hyfforddiant ar drefniadau newydd ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

    Mae’r ysgol hefyd wedi cynnal nifer o brosiectau sydd wedi achosi cynnydd mewn ymgysylltiad y staff â dysgu proffesiynol ac effeithiau cadarnhaol ar ddysgu annibynnol, trawsgwricwlaidd eu dysgwyr.

    Astudiaeth achos lawn (pdf)

    Ysgol Uwchradd Gatholig Bishop Hedley

    Defnyddiodd Ysgol Bishop Hedley y grant dysgu proffesiynol ychwanegol i ariannu gweithrediad a hyfforddiant meddalwedd Google for Educators drwy’r ysgol gyfan. Rhoddodd y cyllid gyfle i’r ysgol hyfforddi 20 aelod o staff. Yn fuan, daeth yr hyfforddeion yn hyfforddwyr gan rannu eu gwybodaeth a’u sgiliau gyda chydweithwyr a dysgwyr yn yr ysgol.

    Creodd pob athro ac athrawes rith-ystafell ddosbarth i bob dosbarth yr oedd yn ei addysgu gan lwyddo i greu a marcio aseiniadau yn electronig a rhoi a chofnodi adborth ar unwaith. Cafodd cyfleuster cysylltu â rhieni/gofalwyr ei gynnwys hefyd a oedd yn hysbysu rhieni/gofalwyr drwy e-bost pan roddwyd aseiniad gwaith cartref, gan wella’r ymgysylltiad rhwng yr ysgol a rhieni/gofalwyr.

    Fe wnaeth gweithredu Google for Educators alluogi’r staff i weithio’n fwy clyfar ac effeithlon gan gael effaith gadarnhaol wirioneddol ar ddysgu ac addysgu. Fe wnaeth hefyd alluogi llif data effeithiol a diogel rhwng adrannau a arweiniodd at wneud penderfyniadau yn gyflymach ar draws pob agwedd ar fywyd yr ysgol. Bu o gymorth hefyd i baratoi staff i fynd i’r afael ag elfennau o’r cwricwlwm newydd, sef y Fframwaith Cymhwysedd Digidol a gwahanol ddimensiynau o’r pedwar diben yn benodol.

    Astudiaeth achos llawn (pdf)

    Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg

    Defnyddiodd Bro Morgannwg y grant dysgu proffesiynol ychwanegol i ariannu nifer o brosiectau fel y ddarpariaeth o ddiwrnod hyfforddiant HMS ar feddylfryd twf.

    Hefyd, caniataodd i’r staff ohirio’r amserlen arferol i weithio ar brosiectau trawsadrannol ac ymweld ag ysgolion yng Ngwlad yr Iâ a Sweden i ddysgu am eu parhad cwricwlwm.

    Rhoddodd y cyllid gyfle i’r ysgol greu adnoddau Cymraeg gan ganiatáu i’r staff weithio mewn grwpiau triawd i ddatblygu a gwerthuso damcaniaeth meddylfryd twf yn yr ystafell ddosbarth. Rhoddodd gyfleoedd hefyd i weithio y tu allan i’r ystafell ddosbarth ar brosiectau ysgol gyfan gyda dysgwyr ac ysgolion clwstwr a gynyddodd hyder y staff yn eu paratoadau ar gyfer y cwricwlwm newydd. Defnyddiwyd y profiad gwerthfawr a enillwyd trwy ymweld ag ysgolion yng Ngwlad yr Iâ a Sweden i lywio cynlluniau gwariant a chwricwlwm Bro Morgannwg.

    Mae ehangu profiad y dysgwr yn elfen hanfodol o’r cwricwlwm newydd ac yn un maes y bydd Bro Morgannwg yn ei ddatblygu ymhellach yn y dyfodol. Mae’r staff yn bwriadu gweithio mewn grwpiau Meysydd Dysgu a Phrofiad i ddatblygu a threialu dulliau newydd o ddysgu ac addysgu wrth baratoi ar gyfer gweithredu’r cwricwlwm newydd.

    Astudiaeth achos llawn (pdf)

    Ysgol Brenin Harri’r VIII

    Defnyddiodd Ysgol Brenin Harri’r VIII y grant dysgu proffesiynol ychwanegol i ariannu nifer o brosiectau i ddatblygu dealltwriaeth y staff o’r gofynion newydd ynghylch dysgu, addysgu ac asesu yn y cwricwlwm newydd. Creodd yr ysgol weledigaeth newydd, anogwyd cydweithredu yn y clwstwr, a chyflwynwyd arweinyddiaeth a mentora gyda phwyslais ar arweinyddion y dyfodol. Hyrwyddwyd lles dysgwyr ar draws cymuned yr ysgol drwy ymgysylltu ag iechyd a lles ar sail ysgol, awdurdod lleol a rhanbarthol.

    Rhoddodd y cyllid ychwanegol amser a chyfle i’r ysgol alluogi athrawon a chynorthwywyr addysgu i weithio gyda’i gilydd i ganolbwyntio ar ymholi gweithredol i werthuso a gwella agweddau addysgeg ar y Meysydd Dysgu a Phrofiad. Roedd gweithio gydag ysgolion eraill ac arbenigwyr allanol hefyd yn fuddiol wrth ffurfio cysylltiadau rhwng yr agenda lles/profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac addysgeg eu disgyblaeth pwnc yn yr ystafell ddosbarth. Cynyddwyd hyder a mwynhad y staff yn eu swyddi drwy’r ffordd newydd hon o weithio.

    Mae cynllunio strategol a chyfathrebu cryf yn hollbwysig wrth baratoi dysgwyr ac athrawon ar gyfer gweithredu’r cwricwlwm newydd. Mae aelodau’r staff yn Ysgol Brenin Harri’r VIII yn bwriadu parhau â’u gwaith Cylch Ymholi Cymheiriaid, gan ymgysylltu â chlwstwr y Fenni a phrosiectau cenedlaethol i ddatblygu a threialu dulliau newydd o ddysgu ac addysgu gan ddefnyddio’r dyraniad HMS a chyllid o’r grant dysgu proffesiynol ychwanegol.

    Astudiaeth achos llawn (pdf)

    Ysgol Uwchradd Joseff Sant

    Defnyddiodd Ysgol Uwchradd Joseff Sant ei chyllid dysgu proffesiynol ychwanegol mewn nifer o ffyrdd i gefnogi’r holl athrawon ac aelodau staff a chodi ymwybyddiaeth o Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl. Bu’r grant ychwanegol hefyd o gymorth i wella dysgu proffesiynol parhaus, gweithio gydag ysgolion eraill ac ysgolion clwstwr, a hefyd i ddatblygu dull ysgol gyfan o alw i gof, modelu, adborth a llafaredd. Mae effaith cadarnhaol hyn wedi arwain at ddeilliannau gwell i ddysgwyr a sicrhau bod gan staff lwybr gyrfa personol. Mae’r cyllid hefyd wedi helpu staff i weithio ar y cyd a gwella’r ymagwedd at ddatblygiad.

    Astudiaeth achos llawn (pdf)

    Ysgol Stanwell

    Defnyddiodd Ysgol Stanwell y grant dysgu proffesiynol i ddatblygu ymhellach rhaglen Datblygiad Proffesiynol Parhaus mewnol yr ysgol. Nod y rhaglen, a gafodd ei hysgrifennu gan arweinwyr uwch, yw mynd i’r afael ag anghenion penodol yr ysgol o ran ei hymateb i Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl, ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu, rheolaeth effeithiol ar gyfer newid, ymholi, ymarfer proffesiynol ac addysgeg, gan hefyd ddatblygu ymhellach diwylliant hyfforddi yn yr ysgol ar yr un pryd.

    Gan ddefnyddio adnoddau megis Principles of Instruction gan Rosenshine, gwelodd yr ysgol welliannau sylweddol o ran deall gwerth datblygu proffesiynol ar gyfer y staff, ac fe wnaeth hyn hidlo trwodd i’r dysgwyr, sydd wedi bod wrth wraidd pob prosiect ymholi.

    Astudiaeth achos llawn (pdf)

  • Trinity Fields

    Fe wnaeth Trinity Fields ddefnyddio’r grant dysgu proffesiynol i feithrin diwylliant o arloesi, arbrofi a chydweithredu yn yr ysgol. Roedd ariannu dysgu proffesiynol mwy eang wedi cefnogi ystod o gyfleoedd datblygu ffurfiol ac anffurfiol i’r holl staff, gan gynnwys staff cymorth. Roedd hyn wedi cynnwys gweithio ar draws y clwstwr i gefnogi newidiadau sylweddol yng ngolau arweiniad Cwricwlwm i Gymru a Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Roedd y grant hefyd wedi ein galluogi i ganolbwyntio o’r newydd ar arweinwyr sy’n datblygu, gan roi’r sgiliau iddyn nhw ar gyfer eu llwybrau gyrfa yn y dyfodol. Mae buddsoddiad ychwanegol ar gyfer cynorthwywyr addysgu fel grwp proffesiynol cydlynol hefyd wedi datblygu eu rôl bwysig yn yr ysgol.

    Astudiaeth achos llawn (pdf)

    Cynllun dysgu proffesiynol

Gwrandewch ar bodlediad ar y dull gweithredu cenedlaethol i gael dealltwriaeth fanylach o rai o’r elfennau.

Mae ymchwil amrywiol wedi’i gynnal i ddarparu’r sail dystiolaeth ar gyfer elfennau’r dull gweithredu cenedlaethol ac er mwyn sicrhau cydlyniant.

Ystyriwch yr ymchwil canlynol a gomisiynwyd fel sail i ddatblygu’r dull cenedlaethol.

Adnodd rhyngweithiol

Gall ysgolion gael mynediad at yr adnodd Dysgu Proffesiynol Diemwnt 9 i adnabod cyfleoedd dysgu proffesiynol. Gall Diemwnt 9 gael ei lawrlwytho i’w rannu â staff ysgolion a/neu partneriaid clwstwr. Dylsai ysgolion ailadrodd yr ymarfer Diemwnt 9 o bryd i’w gilydd pan fydd blaenoriaethau Dysgu Proffesiynol yn newid.

Gwybodaeth

I gael mynediad at hyn rhaid i chi fewngofnodi i Hwb

Cymorth ysgol-i-ysgol

Drwy ymwneud â’r cwricwlwm drafft yn gynnar, mae ysgolion arloesi wedi ystyried y goblygiadau dysgu proffesiynol cyntaf.

Myfyriwch ar brofiadau’r arloeswyr dysgu proffesiynol i ystyried sut mae dysgu proffesiynol yn esblygu i helpu ymarferwyr roi bywyd i’r cwricwlwm newydd.

Cymorth ehangach

Bydd cymorth dysgu proffesiynol ehangach hefyd ar gael i ysgolion.

Ruth Thackray o gonsortiwm GWE yn siarad am rôl y consortia.

Dave Stacey o Yr Athrofa, Prifysgol y Drindod Dewi Sant, sy’n ystyried rôl y sefydliadau addysg uwch.