English

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau sefydlogrwydd i'r sector ôl-16 yn ystod y pandemig COVID-19 a thu hwnt.

Trosolwg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio'n agos gyda darparwyr dysgu ôl-16 a'n rhanddeiliaid allweddol i helpu staff a dysgwyr ôl-16.

Mae'r Rhaglen Adnewyddu a Diwygio, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2021, yn amlinellu ein hymrwymiad i fynd i'r afael ag effeithiau'r pandemig COVID-19 ar ddysgu a datblygu, a gwella canlyniadau (oherwydd effeithiau’r pandemig) i ddysgwyr o bob oed.

Bydd y Rhaglen yn cael ei chyflawni drwy bedwar prosiect allweddol:

  • Prosiect Dysgwyr y Blynyddoedd Cynnar.
  • Prosiect Dysgwyr Difreintiedig a Dysgwyr Agored i Niwed.
  • Prosiect Dysgwyr Ôl-16 a Chyfnodau Phontio.
  • Prosiect pob dysgwr mewn ysgolion.

Bydd y Prosiect Dysgwyr Ôl-16 a Chyfnodau Phontio yn ceisio mynd i'r afael ag effeithiau’r tarfu ar addysg, a gwella canlyniadau i ddysgwyr sy'n dod o fewn y garfan ôl-16 a chyfnodau phontio. Wrth wneud hynny, bydd y prosiect yn adeiladu ar lwyddiannau presennol ac yn nodi ymyriadau perthnasol i gefnogi lles, dilyniant a chanlyniadau dysgwyr ôl-16.

Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru wrth i ragor o wybodaeth ddod ar gael.