Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Gweithredu’r Cwricwlwm
Bydd y Rhwydwaith Cenedlaethol yn dod â gweithwyr addysgu proffesiynol, arbenigwyr, rhanddeiliaid, gwneuthurwyr polisi a phartneriaid, gan gynnwys consortia rhanbarthol ac Estyn galluogi at ei gilydd er mwyn nodi a mynd i’r afael â’r rhwystrau a’r cyfleoedd mewn perthynas â gweithredu Cwricwlwm Cymru.
2. Sgyrsiau cyfredol
Cymerwch ran
Dyma'r adran lle gallwch gofrestru i gymryd rhan yn y Rhwydwaith. Mae 2 brif ffordd o gymryd rhan:
- trwy gefnogi cynllunio a hwyluso'r sgyrsiau’r Rhwydwaith
- neu drwy gofrestru i gymryd rhan mewn sgwrs
Mae Sgyrsiau’r Rhwydwaith Cenedlaethol yn gyfle i bob ymarferydd yng Nghymru i gymryd rhan mewn cyd-ddatblygu cenedlaethol er mwyn mynd i'r afael â'r heriau a'r cyfleoedd sydd yn ein hwynebu.
Sgyrsiau cyfredol
Gwiriwch yn ôl am wybodaeth am ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu ar gyfer 2025.
Sgwrs Rhwydwaith Cenedlaethol mewn person
Llythrennedd a Rhifedd
7th Mai 2025 (Dydd Mercher)
- Yn bersonol: De Cymru
- lleoliad: Stadiwm Principality, Caerdydd
- cofrestrwch nawr ar gyfer De Cymru
13th Mai 2025 (Dydd Mawrth)
- Yn bersonol Gogledd Cymru
- lleoliad : Venue Cymru, Llandudno
- cofrestrwch nawr ar gyfer Gogledd Cymru
Trosolwg
Cyfle i ymarferwyr, lleoliadau ac arweinwyr ddod at ei gilydd i drafod ac archwilio dulliau o ddysgu, addysgu a chynllunio cwricwlwm Llythrennedd a Rhifedd.
Gan dynnu ar y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chyhoeddi ar gyfer y blaenoriaethau allweddol hyn, bydd y sgwrs hon yn gyfle i fynd ati ar y cyd ag ymarferwyr eraill ac uwch arweinwyr i ystyried yr heriau a'r rhwystrau wrth gefnogi datblygiad sgiliau llythrennedd a rhifedd dysgwyr, tynnu sylw at arferion effeithiol ar gyfer goresgyn y rhain, a helpu i lunio'r cymorth a gynigir i ysgolion.
Edrychwn ymlaen i’ch croesawu i Sgyrsiau’r Rhwydwaith Cenedlaethol y flwyddyn academaidd hon.
Fframwaith Cymhwysedd Digidol
26 Mehefin 2025 (Dydd Iau)
- mewn person: De Cymru
- lleoliad: Swansea.com Stadiwm
- cofrestrwch nawr ar gyfer De Cymru
8 Gorffennaf 2025 (Dydd Mawrth)
- mewn person: Gogledd Cymru
- lleoliad: Ramada Plaza by Wyndham, Wrexham
- cofrestrwch nawr ar gyfer Gogledd Cymru
Trosolwg
Cyfle i ymarferwyr, lleoliadau a'r diwydiant addysg ddod at ei gilydd i drafod pa mor bell y mae'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn mynd i baratoi ein dysgwyr ar gyfer dyfodol yn y byd digidol.
Yn dilyn datganiad llafar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ym mis Gorffennaf 2024, lle ymrwymodd i adolygu'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol a'i roi ar sail statudol, mae'r sgwrs hon yn gyfle i ystyried ar y cyd ag ymarferwyr eraill a staff y diwydiant addysg ar y cyfleoedd a'r heriau y mae darparu addysg drawsgwricwlaidd sy'n seiliedig ar gymhwysedd digidol yn eu cynnig, ac i archwilio'r math o sgiliau digidol fydd eu hangen yn y dyfodol.
O gael y sgwrs hon gobeithiwn ddeall yr heriau sy'n cael eu hwynebu o safbwynt ymarferwyr a'r diwydiant addysg, ac archwilio atebion a fydd yn cefnogi ymarferwyr i fod yn fwy hyderus ynghylch datblygu sgiliau digidol, a'u hymgorffori yn eu cwricwlwm.
Sgyrsiau yn y dyfodol
Gwiriwch yn ôl am wybodaeth am ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu ar gyfer 2025.