English

Mae addysgeg wrth wraidd cwricwlwm a gyda'n gilydd mae angen i ni i gyd ddatblygu dealltwriaeth dyfnach ohoni wrth i'n meddylfryd a'n harferion newid wrth wireddu'r Cwricwlwm i Gymru.

Mae angen i'n dealltwriaeth o addysgeg gael ei lywio gan y gwerthoedd a'r agweddau sy'n deillio o gwricwlwm sy'n seiliedig ar ddibenion. Bydd hyn yn effeithio ar y ffordd yr ydym yn meddwl am addysgu, dysgu a chynnydd ac yn darparu sylfaen gref ar gyfer hybu arloesi a pharhau i wella.

Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am y ffordd yr ydym yn cydweithio ar draws clystyrau a'n rhwydweithiau ledled Cymru i ddatblygu ein dealltwriaeth o addysgeg. Mae'n tynnu sylw at yr hyn sydd ar gael i'n cefnogi wrth i ni gymryd ein camau nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru, Consortia Rhanbarthol, Prifysgolion a'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn cydweithio i gefnogi ysgolion a lleoliadau i fuddsoddi yn sgiliau ymholi ac addysgeg effeithiol yr holl staff. Mae hyn yn cynnwys darparu cyfleoedd i 'drafod addysgeg', archwilio'r strategaethau sy'n cefnogi'r dysgu a dyfnhau eu dealltwriaeth o'r 12 egwyddor addysgegol.  Mewn cydweithrediad ag ysgolion a lleoliadau, rydym yn cydweithio i:

Sefydlu a datblygu rhwydweithiau i feithrin cysylltiadau a chefnogi rhyngweithio

  • Mae rhwydweithiau rhanbarthol a gweithio mewn clystyrau lleol yn rhoi cyfle i arweinwyr ac ymarferwyr gymryd rhan mewn trafodaethau a gwaith ymholi proffesiynol i archwilio'r egwyddorion addysgegol ac agweddau penodol ar ymarfer sy'n diwallu anghenion penodol.
  • Yn genedlaethol, darperir cyfleoedd i arweinwyr ac ymarferwyr weithio gydag eraill o bob rhan o Gymru drwy ddigwyddiadau a gweithdai cydweithredol.
  • Mae'r man digidol ar gyfer Trafod Addysgeg yn cynnig lle canolog i rannu adnoddau a all ysgogi sgwrs, syniadau a gwaith ymholi.

Cynnal ymchwil a gwaith ymholi i ddatblygu addysgeg, addysgu a dysgu sy'n seiliedig ar dystiolaeth

  • Mae dull cenedlaethol yn datblygu sy'n dwyn ynghyd prifysgolion, consortia rhanbarthol, yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ac ysgolion i lunio a churadu ymchwil a gwaith ymholi sy'n gysylltiedig ag addysgeg. A hynny er mwyn deall y newid mewn addysgeg yng nghyd-destun y Cwricwlwm i Gymru.
  • Bydd y dull hwn yn helpu i gofnodi hanes addysgeg yng Nghymru wrth i ni wireddu'r cwricwlwm newydd a datblygu adnoddau i gefnogi gwaith myfyrio ac ymholi mewn ysgolion yn uniongyrchol.

Hwyluso dysgu proffesiynol i ddatblygu ein dealltwriaeth o addysgeg a chefnogi ein taith drawsnewidiol

  • Mae rhaglenni a chyfleoedd yn cael eu datblygu mewn cydweithrediad â chonsortia rhanbarthol, awdurdodau lleol, prifysgolion, yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol a phartneriaid eraill i sicrhau dull cyffredin o ymdrin ag addysgeg. Hynny yw, dull sy'n gysylltiedig â dysgu proffesiynol, ac sydd hefyd yn cydnabod yr amrywiaeth o anghenion lleol a rhanbarthol.

Mae'r tabl yn yr atodiad isod yn darparu nifer o awgrymiadau i gefnogi ysgolion i fyfyrio ar eu dealltwriaeth o addysgeg. Gellir ei ddefnyddio i drafod yn fewnol gyda staff a chyda swyddogion gwella i helpu i nodi'r gweithgareddau a'r adnoddau priodol y gellir eu defnyddio i ddatblygu eu dealltwriaeth o addysgeg ymhellach.

Myfyrio ar addysgeg: cwestiynau i'w hystyried