Blacmel rhywiol
Canllawiau a gwybodaeth i helpu i ddeall ac atal blacmel rhywiol.
- Rhan o
Trosolwg
Mae blacmel rhywiol ag ysgogiad ariannol yn fath o flacmel. Mae troseddwyr yn bygwth rhannu ar-lein ddelweddau neu fideos noeth neu hanner noeth neu fanylion rhywun, a hynny er mwyn cael arian. Efallai y byddan nhw hefyd yn ecsbloetio eu dioddefwr mewn ffordd arall, megis drwy eu cael i rannu rhagor o ddelweddau.
Mae blacmel rhywiol yn drosedd sy'n peri gofid a all ddigwydd yn aml yn sgil swyno trwy dwyll, sef pan fo person yn defnyddio hunaniaeth ffug i ennill ymddiriedaeth. Mae'n drosedd a all gael ei chyflawni gan unigolion neu grŵp o bobl sy'n gweithio gyda'i gilydd.
Mae'n bwysig pwysleisio'r angen i fod yn wyliadwrus a chefnogi dioddefwyr.
Sut i roi gwybod am flacmel rhywiol
Ffoniwch 101 neu 999 os oes risg uniongyrchol o niwed. Gallwch hefyd gysylltu â Chanolfan Ddiogelwch CEOP (Saesneg yn unig) i roi gwybod am flacmel ar-lein a chael mynediad at gymorth mewn perthynas â hyn.
Cefnogi pobl y mae blacmel rhywiol yn effeithio arnyn nhw
Mae'n bwysig cofio nad yw dioddefwr byth ar fai os ydyn nhw wedi dioddef blacmel ar-lein. Byddan nhw wedi cael eu twyllo, eu meithrin yn amhriodol neu eu perswadio i rannu delwedd.
Os yw plentyn eisoes wedi rhannu delwedd â rhywun sy'n ceisio eu hecsbloetio, cyngor yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yw cymryd y camau canlynol:
- Rhoi sicrwydd i’r plentyn ei fod wedi gwneud y peth iawn drwy ddweud wrthych chi.
- Gwneud yn siŵr fod y plentyn yn gwybod nad oes bai arno am yr hyn a ddigwyddodd a'i fod wedi gwneud y peth iawn yn gofyn am eich help.
- Rhoi gwybod am unrhyw ddelweddau neu fideos sydd wedi'u rhannu.
Sut i gael gwared ar ddelwedd o blentyn a rannwyd ar-lein heb gydsyniad
Os rhannwyd delwedd neu fideo y plentyn heb ei gydsyniad a bod y plentyn o dan 18 oed, gallwch ei helpu i gael gwared ar y ddelwedd neu’r fideo:
- Defnyddiwch Report Remove (Saesneg yn unig), adnodd gan Childline ac Internet Watch Foundation i gael gwared ar ddelweddau sydd wedi'u rhannu neu a allai fod wedi'u rhannu.
- Defnyddiwch Take It Down (Saesneg yn unig), adnodd gan National Center for Missing and Exploited Children, i gael gwared ar ddelweddau neu fideos sydd wedi'u rhannu ar-lein, neu i stopio hynny rhag digwydd.
- Rhowch wybod i'r platfform neu'r ap pan fo digwyddiad wedi digwydd.
Mae rhagor o ganllawiau isod er mwyn:
- helpu i adnabod yr arwyddion rhybudd
- cael sgyrsiau sensitif, cefnogol gyda phlant a phobl ifanc am y mater hwn
Cymorth i bobl ifanc
-
Cyngor i blant a phobl ifanc: problemau a phryderon ar-lein
Yn cynnwys risgiau ar-lein i fod yn ymwybodol ohonyn nhw a ble i fynd am help.
-
Ymgyrch Gurls Out Loud
Cyngor i blant a phobl ifanc ar ddelio â chyswllt amhriodol ar-lein yn ddiogel.
Cymorth i ysgolion
-
Adnoddau dysgu ac addysgu
Adnoddau i gefnogi gweithgareddau dysgu am rannu lluniau noeth, meithrin perthynas amhriodol ar-lein a seiberdroseddu.
-
Blacmel rhywiol ag ysgogiad ariannol: rhybudd i leoliadau addysg
Mae'r wybodaeth hon a luniwyd gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn berthnasol i bob ysgol a phob lleoliad addysg yng Nghymru.
-
Rhannu delweddau noeth: fideo hyfforddi
Yn helpu ysgolion i ddeall y datblygiadau a'r pryderon diogelwch diweddaraf o ran rhannu delweddau a sut i atal digwyddiadau ac ymateb iddyn nhw.
-
Canllaw Ymarfer Cymru Gyfan: diogelu plant rhag cam-drin ar-lein
Yn darparu gwybodaeth am ymatebion diogelu i blant sydd mewn perygl o gam-drin ar-lein neu sy'n cael eu cam-drin ar-lein.
-
Cadw dysgwyr yn ddiogel
Canllawiau i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ar drefniadau ar gyfer diogelu plant.
Cymorth i deuluoedd
-
Canllawiau ynghylch apiau
Canllawiau ynghylch apiau poblogaidd y gall plant a phobl ifanc fod yn eu defnyddio.
-
Cyngor Addysg CEOP (Saesneg yn unig)
Cyngor ar siarad â'ch plentyn am flacmel rhywiol ag ysgogiad ariannol a ffyrdd y gallwch eu cefnogi a chael gafael ar gymorth.
Barn yr arbenigwyr
-
Blacmel rhywiol
Yn egluro beth yw blacmel rhywiol, a beth i'w wneud os ydych chi, eich plentyn neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn ddioddefwr.
-
Meithrin perthynas amhriodol ar-lein: gofalu nad yw drws eich cartref ar agor i gamdrinwyr rhywiol plant
Yn trafod rôl Internet Watch Foundation (IWF) o ran gwneud y rhyngrwyd yn lle mwy diogel i blant ledled y byd, ynghyd â'u hymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth.
-
Meithrin perthynas amhriodol ar-lein gyda phlant i bwrpas rhyw: cam-drin a manteisio drwy gyfathrebu
Yn trafod y tactegau perswadio a ddefnyddir mewn cyfathrebu meithrin perthynas amhriodol â phlant ar-lein i bwrpas rhyw a'r gwaith sy'n cael ei wneud i ddiogelu plant ar-lein, sy'n cynnwys prosiect Dragon-S.
Help a chefnogaeth
-
Help a chefnogaeth
Sut i roi gwybod am gynnwys ar-lein niweidiol a chael mynediad at linellau cymorth a gwasanaethau am ddim a chyfrinachol.
Mae Llywodraeth Cymru a Hwb yn bartneriaid balch i IWF (Saesneg yn unig). Mae IWF yn sefydliad nid-er-elw ac yn elusen gofrestredig. Mae’n bodoli i ddileu deunydd cam-drin plant yn rhywiol (CSAM) o'r rhyngrwyd, a gall gefnogi dioddefwyr blacmel rhywiol.