English

Rydyn ni wedi ysgrifennu’r canllaw hwn yng nghyd-destun y ddyletswydd Prevent a nodir yn Neddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015. Mae’r ddyletswydd yn rhoi cyfrifoldeb ar awdurdodau penodol, gan gynnwys darparwyr addysg a gofal plant, i “roi sylw dyledus i’r angen i atal pobl rhag cael eu denu at derfysgaeth”.

Cyhoeddodd Swyddfa Gartref Llywodraeth y DU ganllawiau‘r ddyletswydd Prevent yn 2015, ac mae’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd ers hynny. Gallwch ddarllen y fersiwn diweddaraf sy’n ategu’r canllaw hwn ar wefan gov.uk (Saesneg yn unig). Mae’r canllawiau yn manylu ar sut gall darparwyr addysg a gofal plant ddiogelu plant a phobl ifanc rhag y perygl o gael eu radicaleiddio, a sut gallant gael gafael ar gymorth priodol i helpu effeithiolrwydd y mesurau. Sylwch fod paragraff 71 yn nodi “Bydd disgwyl i awdurdodau penodol wneud yn siwr bod plant yn ddiogel rhag deunydd gan derfysgwyr ac eithafwyr wrth ddefnyddio’r Rhyngrwyd mewn ysgolion, gan gynnwys drwy sefydlu lefelau hidlo priodol.”

Cyfrifoldeb corff llywodraethu pob ysgol yw sicrhau bod eu hysgolion yn cyflawni eu dyletswyddau statudol.

Diffiniad Llywodraeth y DU o radicaliaeth, fel y nodir yn ei gyngor dyletswydd Prevent, yw “... y broses sy’n denu pobl i gefnogi terfysgaeth a mathau o eithafiaeth sy’n arwain at derfysgaeth”.

Mae Strategaeth Gwrth-Eithafiaeth 2015 Llywodraeth y DU yn diffinio eithafiaeth fel “... gwrthwynebiad llafar neu weithredol i’r gwerthoedd rydym ni’n eu rhannu. Mae’r rhain yn cynnwys democratiaeth, rheolaeth y gyfraith, rhyddid yr unigolyn a pharch a goddefgarwch at wahanol ffydd a chredoau. Hefyd, rydym yn ystyried bod galw am farwolaeth aelodau o’n lluoedd arfog naill ai yn y DU neu dramor yn eithafiaeth”.

Y prif wahaniaeth rhwng radicaliaeth ac eithafiaeth yw bod radicaliaeth yn cyfeirio at broses ac mae eithafiaeth yn cyfeirio at gredoau unigolyn. Un o’r pethau sy’n anodd am y term ‘radicaliaeth’ yw nad yw’r canlyniad yn glir. Un ddealltwriaeth gyffredin yw unwaith y mae gan berson gredoau eithafol, mae wedi cael ei radicaleiddio. Felly, eithafiaeth yw canlyniad y broses o radicaleiddio. Yn gyffredinol, credir bod person wedi ei radicaleiddio ar ôl cymryd rhan mewn gweithgaredd terfysgol, gan feithrin credoau eithafol yr un pryd.

Mae diffiniad Llywodraeth y DU o radicaliaeth (gweler uchod) yn mabwysiadu’r ddealltwriaeth gyntaf: sef credoau eithafol yw canlyniad y broses o radicaleiddio.

Dylid poeni am radicaliaeth oherwydd y ffordd mae’n effeithio ar y rheini a allai gael eu radicaleiddio a chymryd rhan mewn gweithgareddau terfysgol, a'r ffordd mae’n effeithio ar y rheini sy’n dioddef trais terfysgol. Hefyd, dylem boeni am y ffordd mae radicaliaeth yn effeithio ar gydlyniant cymunedol yn fwy cyffredinol. Mae propaganda terfysgwyr yn ceisio creu hunaniaeth sy’n gwahaniaethu rhwng y bobl sy’n perthyn i’w grwp eithafol nhw a’r rheini sydd y tu allan i’r grwp hwnnw. Maen nhw’n cyfleu bod y rheini sydd y tu allan i’r grwp eithafol yn gwrthwynebu’r grwp yn llwyr ac felly eu bod yn fygythiad. Yn ei dro, mae hyn yn chwalu cydlyniant cymunedol ac yn cael ei ddefnyddio i gyfiawnhau gweithredoedd treisgar yn erbyn ‘gelyn’ annynol.

Tacteg gyffredin yw pwysleisio nodweddion da’r grwp eithafol a lliniaru ei nodweddion drwg, a cheisio gwneud y gwrthwyneb i’r grwp arall.

Yna, mae propaganda terfysgwyr yn gwthio’r dewis hunaniaeth yma ar ddarllenwyr, gwrandawyr a gwylwyr, gan roi pwysau arnyn nhw i benderfynu a ydyn nhw’n perthyn i’r grwp eithafol ai peidio. Bydd propaganda o'r fath yn mynnu bod y rheini sy’n uniaethu’n llwyr â'r grwp yn gweithredu i wthio eu hagenda dreisgar.

Un peth y gellid ei wneud yn yr ysgol a’r cartref yw ceisio atal plant rhag edrych ar y byd gyda’r agwedd syml ‘ni’ a ‘nhw’. Mae helpu plant a phobl ifanc i werthfawrogi a dathlu diwylliannau gwahanol yn ffordd bwysig o gyflawni hyn. Os bydd plentyn neu berson ifanc yn dechrau ‘gwahaniaethu’ grwpiau ethnig/crefyddol gwahanol, amlygwch nodweddion da’r grwpiau a herio os bydd y grwp yn cael ei homogeneiddio.

Mae'r gefnogaeth y gallai eich ysgol ei darparu i rieni a gofalwyr yn cynnwys eu hannog i wneud y canlynol:

  • gwrando ar eu plentyn, trafod a chytuno ar y gwefannau y maent yn eu defnyddio, gwybod pwy yw eu ffrindiau ar-lein, a chyfyngu ar faint o amser sy’n cael ei dreulio ar-lein
  • darllen “Canllaw i rieni a gofalwyr ar siarad â’ch plentyn am gadw’n ddiogel ar-lein
  • hyrwyddo a dathlu agweddau cadarnhaol gwahanol grefyddau a diwylliannau
  • eu hannog i siarad am unrhyw bryderon ag athrawon yn ysgol y plentyn.

Mae dulliau cyfathrebu modern wedi galluogi eithafwyr i ddod yn llawer mwy soffistigedig o ran lledaenu eu hideoleg – gan weithredu ar gyflymder a graddfa na welwyd o’r blaen wrth dargedu unigolion penodol. Er enghraifft, roedd Al-Qaeda yn defnyddio dulliau penodol o gyfathrebu, gan ddefnyddiofforymau Arabeg a chaeedig yn aml. Ar y llaw arall, mae ISIS wedi ceisio cyrraedd cynulleidfa ehangach o lawer drwy fanteisio ar y rhyngrwyd, a’r cyfryngau cymdeithasol yn benodol. Gall y cynnwys ar-lein hynod broffesiynol hwn gyrraedd cynulleidfaoedd mawr, gyda’r nod o recriwtio mewn niferoedd sylweddol.

Mae Strategaeth Gwrth-Eithafiaeth Llywodraeth y DU yn nodi sut gellir defnyddio’r rhyngrwyd i gyflwyno safbwyntiau cryf eraill yn lle ideolegau eithafol. Mae’r rhain yn cynnwys herio dadl yr eithafwyr ac amlygu eu natur gor-syml, datgelu creulondeb grwpiau eithafol drosodd a throsodd, hyrwyddo gweledigaeth bositif o sut gellir cymodi ffydd a hunaniaeth genedlaethol, a helpu plant a phobl ifanc agored i niwed drwy weithgareddau bywyd go iawn.

Gallwch ddarllen mwy am Strategaeth Gwrth-Eithafiaeth y Llywodraeth yma (Saesneg yn unig).

Yn ddiweddar, mae’r Comisiwn dros frwydro yn erbyn eithafiaeth (Saesneg yn unig) wedi gwneud cais am adolygiad o’r arweiniad hwn.

Mae academyddion yn anghytuno ynghylch yr hyn sy’n achosi eithafiaeth, ac mae llawer o ddadleuon am rôl y rhyngrwyd. Yr hyn a dderbynnir yn gyffredinol yw, i’r rhan fwyaf o bobl sy’n rhannu cynnwys eithafol (neu cynnwys sy’n sbarduno eithafiaeth), nid oes cysylltiad yn awgrymu eu bod yn mynd ymlaen i gymryd rhan uniongyrchol mewn eithafiaeth.

Mae’r adroddiad ‘Challenging Hateful Extremism’ (Saesneg yn unig), a gyhoeddodd Llywodraeth y DU yn ddiweddar, yn edrych yn fanwl ar y themâu hyn ac yn amlinellu strategaethau cadarnhaol.

Canllawiau Llywodraeth y DU ar y ddyletswydd Prevent ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban (Saesneg yn unig)

Mae deddfwriaeth bwysig arall yn ymdrin â holl feysydd polisi a gweithdrefnau ysgolion, fel Deddf Cydraddoldeb 2010 a Cadw dysgwyr yn ddiogel (o dan Ddeddf Addysg 2002).

Darperir manylion am yr holl ddeddfwriaeth y mae'n rhaid i ysgolion Cymru gydymffurfio â hi yn y Canllaw i'r gyfraith i lywodraethwyr ysgolion.

Mae pecyn hyfforddiant e-ddysgu Prevent (Saesneg yn unig) bellach ar gael i helpu i gyflawni cyfrifoldebau’r ddyletswydd o dan adran 26 Deddf Gwrthderfysgaeth a Diuogelwch 2015. Mae’r pecyn yn rhoi sylfaen ragarweiniol ar gyfer datblygu rhagor o wybodaeth am risgiau radicaleiddio a sut i helpu’r rheini sydd mewn perygl. Fel llywodraethwr, i allu herio ysgolion a cholegau i ddiogelu eu dysgwyr yn effeithiol, mae angen ichi fod yn ymwybodol o ba hyfforddiant sydd ar gael i benaethiaid, uwch dimau arwain mewn ysgolion a holl staff yr ysgol, i sicrhau bod holl staff yr ysgol yn cwblhau'r pecyn hyfforddiant e-ddysgu Prevent (Saesneg yn unig).

Efallai hoffech hefyd ystyried yr adnoddau hyfforddiant pellach sydd ar gael yng nghatalog hyfforddiant Prevent (Saesneg yn unig).

Os bydd ysgolion yn poeni am ddysgwr sydd yn eu gofal, dylent ddilyn prosesau diogelu Sylwi, Gwirio a Rhannu yr ysgol/coleg gyda'r Uwch Unigolyn Dynodedig ar Amddiffyn Plant. Yn ychwanegol, mae unrhyw athro yn gallu rhoi gwybod am bryderon am unigolyn sydd â safbwyntiau eithafol neu am unigolyn sydd mewn perygl o gael ei radicaleiddio gan ddefnyddio Ffurflen Atgyfeirio Partneriaid Prevent Cymru Gyfan. Gallai trafod pryderon â swyddog School Beat Cymru eich ysgol neu swyddog lleol Prevent eich helpu.

Gall llywodraethwyr sydd angen cymorth ar unrhyw faterion diogelwch ar-lein, p'un a yw'n ymwneud â dysgwyr, eu hunain neu eu sefydliad, gysylltu â'r Llinell Gymorth Diogelwch Ar-lein i Weithwyr Proffesiynol. Gall roi mwy o gyngor ac awgrymu camau gweithredu ar gyfer rheoli digwyddiadau ar-lein yn ymwneud ag aelodau o gymuned eich ysgol.

Rydyn ni’n ddiolchgar am gymorth a chefnogaeth Stuart MacDonald o Ysgol y Gyfraith Hilary Rodham Clinton, Prifysgol Abertawe, wrth baratoi cynnwys y canllaw hwn.