English

Ap cyfryngau cymdeithasol yw W App (yr enw gwreiddiol oedd SLAY – See Who Likes You), sydd wedi'i fwriadu'n bennaf ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau a phobl ifanc sydd yn yr ysgol. Mae'n gweithio fel ap pleidleisio rhyngwladol dienw a ddatblygwyd gan Slay GmbH ym mis Hydref 2022. Ap symudol yw e'n bennaf, sydd ar gael ar Google Play ac App Store gan Apple. Mae Slay GmbH yn marchnata'r ap fel gofod diogel rhag elfennau negyddol ar-lein ac yn meithrin amgylchedd hwyliog i'r rhai yn eu harddegau a phobl ifanc. Yn yr ap, gall defnyddwyr bleidleisio'n ddienw ar arolygon barn am bob math o bynciau sy'n ymwneud â'u cyd-ddisgyblion, fel pwy yw'r 'gamer' gorau, neu gyda phwy y bydden nhw'n mynd i wersylla. Mae Slay GmbH yn hysbysebu W App ar wefannau TikTok ac Instagram. Gellir defnyddio’r ap am ddim, ond mae rhai defnyddwyr wedi dweud eu bod yn cael eu hannog i brynu nodweddion premiwm. Pan fydd defnyddiwr newydd yn cofrestru, mae'r ap yn gofyn am ei enw llawn, oedran, blwyddyn ysgol a'r ysgol bresennol ac yn ei annog i rannu gwybodaeth ychwanegol fel lleoliad, rhif ffôn a chysylltiadau. Ar ôl cofrestru, mae'r defnyddiwr yn cael ei roi mewn grŵp gyda defnyddwyr eraill o'r un ysgol sydd wedi cofrestru ar yr ap.


Yr isafswm oedran ar gyfer defnyddio W App yw 13, ond nid oes ganddo unrhyw ddulliau gwirio oedran trylwyr. Does dim gwahaniaeth o ran swyddogaethau i ddefnyddwyr o dan neu dros 18 oed.

Mae ganddo sgôr oedran o 12+ ar Apple App Store a 'Parental guidance' ar Google Play Store.

Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein 'Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau’.


Mae W App yn cynnig ffordd hawdd i bobl ifanc ddechrau sgyrsiau gyda'u ffrindiau a'u cyd-ddisgyblion trwy ddefnyddio cwestiynau pleidleisio a ddewisir ar hap a gaiff eu cynhyrchu ymlaen llaw. Ar y cyfan mae pobl ifanc yn teimlo bod y broses bleidleisio’n gallu bod yn hwyl ac yn gyffrous, yn enwedig os ydyn nhw'n gwybod â phwy maen nhw'n pleidleisio. Hefyd, mae pobl ifanc yn teimlo bod yr ap yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd yn eu hysgol eu hunain a gwneud mwy o ffrindiau. Mae'r cwestiynau pleidleisio’n gallu amrywio o ‘this friend would buy a kebab after winning the lottery’ i ‘this friend is the best Fortnite player’. Efallai y bydd derbyn clod fel hyn yn rhoi hwb i bobl ifanc, yn enwedig os ydyn nhw'n cael trafferth gyda hunanhyder. Gallai'r dirgelwch o ganfod pwy sy'n eu canmol yn benodol ar y polau anhysbys fod yn gyffrous i ddefnyddwyr.

Fodd bynnag, gall defnyddwyr anfon memos llais dienw at ddefnyddwyr eraill. Gan fod y memos llais hyn yn ddienw, gallai arwain at fwlio ar-lein. Hefyd, disgwylir i bobl ifanc ddarparu eu henwau llawn, enw eu hysgol bresennol, a chânt eu hannog i gynnwys dolenni i'w proffiliau cyfryngau cymdeithasol. Gan fod y proffiliau’n gyhoeddus yn ddiofyn, ac nad oes gosodiad preifatrwydd ar gael, mae hyn wedi codi pryderon y gallai rhai sy'n meithrin perthynas amhriodol ar-lein ffugio eu gwybodaeth a defnyddio'r ap. Mae'r proffiliau cyhoeddus yn cynnig gwybodaeth gyswllt i blant a phobl ifanc, y gallai rhai sy'n meithrin perthynas amhriodol ar-lein gael gafael arni oherwydd mesurau diogelu cyfyngedig yr ap a diffyg cyngor i bobl ifanc.


  • Mae hyn yn cyfeirio at ffrwd gweithgaredd sy'n dangos canmoliaeth ddiweddar i ffrindiau'r defnyddiwr.

  • Dyma'r arian cyfred yn y gêm a ddefnyddir ar W App i brynu pethau ar y platfform.

  • Pan fydd defyddiwr yn cael pleidlais mewn pôl piniwn, mae'n cael neges 'Compliment' am yr hyn roedd eraill yn ei ganmol amdano, fel chwaeth mewn cerddoriaeth.

  • Mae'n cyfeirio at faint o ganmoliaeth mae'r defnyddiwr yn ei dderbyn gan ddefnyddwyr eraill.

  • Rhywun ar restr ffrindiau'r defnyddiwr y gallai fod ganddo ddiddordeb dyfnach neu ramantus ynddo.

  • Lle i storio'r ganmoliaeth (Compliments) a gafodd y defnyddiwr.

  • Dyma fanteision arbennig y gall defnyddwyr eu prynu gan ddefnyddio arian cyfred mewn gêm, fel rhoi eu henw mewn mwy o bolau piniwn neu roi eu henw ym mhôl piniwn y sawl maen nhw'n ei ffansïo.

  • Mae hyn yn caniatáu i ddefnyddiwr weld pwy oedd yn eu canmol.

  • Mae 'Ship' neu 'Shipping' yn cyfeirio at gefnogi dau unigolyn ar yr ap i fod mewn perthynas ramantus gyda'i gilydd.

  • Mae hyn yn cyfeirio at faint o ddyddiau olynol mae'r defnyddiwr wedi mewngofnodi ar W App ac wedi ateb pôl piniwn. Bydd yr ap yn dangos nifer y diwrnodau rydych chi wedi defnyddio'r ap, gan ddechrau ar yr ail ddiwrnod.

  • Gall defnyddwyr anfon negeseuon llais dienw at ddefnyddwyr eraill yn yr ap.

  • Dyma nodwedd bremiwm W App rydych chi'n talu amdani, sy'n rhoi cyfle i ddefnyddwyr premiwm weld pwy sy'n eu canmol nhw, dulliau gemau premiwm, gwarant o ganmoliaeth gan dri defnyddiwr, dyblu faint o geiniogau maen nhw'n ei ennill a jacpot.


Er bod datblygwyr W App yn dweud ei fod yn addas ar gyfer defnyddwyr 13+ oed, mae risg o ddod i gysylltiad â phob math o gynnwys amhriodol ar yr ap. Er gwaethaf honiadau bod W App yn cynnig hafan ddiogel rhag negyddiaeth ar-lein, does dim proses gymedroli ar waith ac mae rhai defnyddwyr yn defnyddio'r ap i rannu cynnwys anaddas a negyddol. Gall cwestiynau pleidleisio yn W App, sy'n cael eu cynhyrchu gan yr ap ei hun, gynnwys cyfeiriadau at  alcohol, cyffuriau a chyfeiriadau rhywiol. Gall cwestiynau fel y rhain beri dryswch a gofid i ddefnyddwyr iau. Cofiwch atgoffa'ch plentyn i siarad gyda chi os yw'n dod ar draws unrhyw beth sy'n peri gofid neu nad yw'n ei ddeall ar y ap.

Hefyd, gan fod y cwestiynau amhriodol hyn yn cael eu gofyn i unrhyw un yn yr ap, efallai y bydd enw eich plentyn yn cael ei restru fel un o'r opsiynau pôl posibl i gwestiynau o'r math hwn. Holwch eich plentyn yn rheolaidd am y ganmoliaeth ('Compliment') mae'n ei dderbyn ar yr ap. Os yw'ch plentyn yn derbyn canmoliaeth yn sgil cwestiwn amhriodol, gallwch riportio'r cwestiwn. I wybod sut i riportio cwestiwn, ewch i'r adran 'rheoli rhyngweithiau a chynnwys' y canllaw hwn.

Os yw defnyddiwr Ap W wedi cysylltu ei gyfrif â'i gyfrifon cyfryngau cymdeithasol eraill, fel Snapchat ac Instagram, yna efallai y bydd yn gallu anfon memo llais ar W App. Drwy wneud hynny, gall bostio straeon sy'n gofyn am negeseuon llais dienw. Gan mai'r defnyddwyr eu hunain sy'n creu memos llais, nid yw'r math hwn o gynnwys yn cael ei gymedroli gan W App fel arfer, ac mae wedi arwain at achosion o fwlio ar-lein. Siaradwch â'ch plentyn am y risgiau sy'n gysylltiedig ag anfon a gwrando ar femos llais ar yr ap a'i annog i beidio â phostio'r cwestiynau hyn ar y platfform. Atgoffwch eich plentyn i siarad â chi os yw'n dod ar draws memos llais sy'n peri gofid.

Nid yw negeseua uniongyrchol rhwng defnyddwyr yn bosib ar W App. Fodd bynnag, mae defnyddwyr yn gallu anfon negeseuon llais anhysbys at ei gilydd. Mae anhysbysrwydd y platfform yn peri risg, oherwydd gallai defnyddwyr rannu cynnwys maen nhw'n meddwl nad oes modd ei gysylltu â nhw. Nodwyd achosion o fwlio ar-lein rhwng pobl ifanc oherwydd y nodwedd neges llais anhysbys. Hefyd, gall defnyddwyr chwilio am ddefnyddwyr eraill ar yr ap heb eu hadnabod. Mae W App yn annog defnyddwyr i rannu eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol eraill, fel TikTok a Snapchat, a allai gymell pobl ifanc i ychwanegu'r manylion hyn at eu proffil er mwyn denu mwy o ffrindiau, a mwy o bobl i hoffi ('likes') neu weld eu cynnwys cyfryngau cymdeithasol. Fodd bynnag, mae risg sylweddol i ddieithriaid hŷn gysylltu â'r defnyddwyr iau trwy hyn. Gall defnyddwyr anhysbys dros 18 oed gofrestru ar W App a dod o hyd i ddefnyddwyr sydd wedi ychwanegu manylion cyfryngau cymdeithasol i'w proffiliau. Gall defnyddwyr hŷn a rhai sydd am feithrin perthynas amhriodol ar-lein ychwanegu'r cyfrifon cyfryngau cymdeithasol hyn trwy W App a siarad â'ch plentyn. Mae'n bwysig sicrhau bod eich plentyn yn deall na ddylai dderbyn ceisiadau ffrind gan bobl nad yw'n eu ’nabod, ac na ddylai fyth rannu ei broffiliau cyfryngau cymdeithasol ar W App.

Mae negeseuon llais yn digwydd trwy bostio stori ar naill ai Instagram neu Snapchat, sydd wedyn yn cysylltu ag W App. Mae'r stori’n annog ffrindiau'r defnyddiwr i anfon neges llais anhysbys ato trwy lawrlwytho'r ap. Gall defnyddwyr eraill ar Instagram neu Snapchat ailrannu'r stori ar eu straeon eu hunain hefyd, a all greu cylch lle mae mwy a mwy o ddefnyddwyr anhysbys yn anfon negeseuon llais dienw at y defnyddiwr a bostiodd yr arolwg memo llais anhysbys yn wreiddiol. Hefyd, gall defnyddwyr bostio canmoliaeth benodol a gawsant fel stori ar y llwyfannau cyfryngau cymdeithasol hyn, a allai ddenu sylwadau mwy negyddol gan ddefnyddwyr ar Instagram neu Snapchat yn dibynnu ar eu gosodiadau preifatrwydd.  Siaradwch â'ch plentyn am y risgiau o gysylltu â dieithriaid ac egluro pwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy ar y llwyfannau y mae'n eu defnyddio. Atgoffwch eich plentyn i ddweud wrthych os oes rhywun yn gofyn cwestiynau mwy personol ac i riportio unrhyw un sy'n gwneud iddo deimlo'n anghyfforddus.  

Er bod Slay GmbH yn hyrwyddo awyrgylch 'nad yw’n negyddol' ac yn hysbysebu'r ffaith mai ap 'cadarnhaol yn unig' yw W App, nid yw hyn yn cael ei orfodi'n llym. Mae defnyddwyr yn gallu anfon negeseuon llais dienw at eraill trwy bostio stori ar naill ai Instagram neu Snapchat. Dylid nodi bod y negeseuon llais hyn yn cael eu cynhyrchu gan ddefnyddwyr ac nad ydynt yn cael eu cymedroli. Gall hyn arwain at fwlio ar-lein ac aflonyddu ar-lein, gan y bydd defnyddwyr yn gallu anfon negeseuon llais negyddol yn ddienw. Oherwydd bod y negeseuon llais yn ddienw, gall fod yn anodd riportio defnyddiwr sy'n anfon neges llais niweidiol neu sy’n torri'r rheolau mewn ffyrdd eraill. Hefyd, oherwydd y ffordd mae W App yn cysylltu ag apiau allanol fel Instagram a Snapchat, efallai na fydd y negeseuon hyn yn digwydd trwy W App. Cofiwch siarad â'ch plentyn a'i atgoffa am beryglon defnyddio nodwedd llais yr ap hwn, fel y potensial ar gyfer bwlio ar-lein. Am wybodaeth ar sut i riportio ddefnyddiwr, ewch i adran 'Riportio a blocio' y canllawiau hyn.

Mae W App yn defnyddio sawl system ymgysylltu i gadw defnyddwyr ar y platfform. Pan fydd defnyddwyr yn cwblhau set o bolau piniwn, maen nhw'n ennill ceiniogau ('Coins') i'w defnyddio fel arian cyfred yn yr ap. Gall defnyddwyr wario'r darnau arian hyn i gael bonysau mewn siop yn y gêm, sy’n cynnwys ychwanegu eu hunain at fwy o bolau piniwn ar hyn o bryd, gyda gwobrau fel mwy o ganmoliaeth, neu ychwanegu eu hunain at bolau piniwn 'Crush'. Siaradwch â'ch plentyn am y ffaith mai ffordd datblygwyr yr ap o ddenu defnyddwyr i dreulio mwy o amser ar y platfform, yw'r arian cyfred mewn ap.

Hefyd, mae dau gyfle i brynu eitemau yn yr ap yn W App, er nad ydyn nhw'n ymddangos tan ar ôl i'r defnyddiwr ddefnyddio hyn a hyn o'r ap ei hun. Er bod 'W App Gold' yn addo nodweddion helaeth, fel moddau gêm newydd, canmoliaeth warantedig, a'r gallu i weld pwy sy'n canmol y defnyddiwr, mae adolygiadau'n awgrymu nad yw'r nodwedd hon yn gweithio ar hyn o bryd. Yr elfen ddewisol arall i'w phrynu yw 'Reveal Name’; a fydd yn dangos llythrennau blaen enw'r sawl wnaeth eu canmol nhw. Unwaith eto, mae adolygiadau'n awgrymu nad yw'n gweithio'n iawn. Os yw'ch plentyn yn dangos diddordeb mewn prynu'r eitemau hyn, dylech drafod eu cymhellion dros fod eisiau eu prynu. Hefyd, cofiwch esbonio i'ch plentyn mai dim ond ffordd arall i'r ap wneud arian ydyn nhw. Dylech fynd i siop ap eich dyfais a galluogi amddiffyniadau ychwanegol, fel rheolaethau rhieni. I gael gwybod sut i wneud hyn, ewch i adran 'Rheoli amser a phrynu pethau' y canllawiau hyn.

Os yw gweithgaredd defnyddwyr ar W App yn gostwng, nodwyd bod yr ap yn defnyddio hysbysiadau i ailgysylltu'r defnyddiwr ag W App. Mae'r hysbysiadau hyn yn gallu bod yn gamarweiniol, oherwydd efallai y byddant yn awgrymu weithiau  bod 'crush' y defnyddiwr yn disgwyl amdano/amdani, neu bod ganddo ganmoliaeth newydd, er nad yw hynny'n wir. Gall hyn fod yn niweidiol i iechyd meddwl eich plentyn drwy wneud iddo deimlo'n unig neu'n ynysig yn gymdeithasol. Argymhellir eich bod chi'n trafod yr hysbysiadau hyn gyda'ch plentyn, a'u bod yn ffordd arall mae apiau a chwmnïau’n rhoi pwysau arno i dreulio amser ar yr ap. I analluogi hysbysiadau, ewch i adran 'Rheoli amser a phrynu pethau' y canllaw hwn.


  • Does dim gosodiadau penodol i reoli preifatrwydd defnyddwyr ar W App. Gall defnyddwyr analluogi'r elfen rhannu lleoliad, sy'n ofynnol i greu cyfrif, er mwyn helpu i reoli preifatrwydd.

    I analluogi lleoliad (Android):

    • Ewch i 'Settings' eich ffôn a dewis 'Location'.
    • Dewiswch ‘App Permissions’ a chwilio am ap ‘W SLAY’. Efallai y bydd angen i chi sgrolio.
    • Dewiswch ‘Permissions’ ac yna ‘Location’.
    • Dewiswch 'Deny location access for this app’.

    I analluogi lleoliad (iOS):

    • Ewch i 'Settings' eich ffôn a chwilio am W App.
    • Dewiswch 'Location' ac yna'r dewis ar gyfer cyrchu lleoliad (location access).
    • Hefyd, mae opsiwn i gyfyngu ar fanylder lleoliadau yn hytrach na'i ddiffodd yn llwyr.
  • Nid oes unrhyw osodiadau ar gael i reoli cynnwys a rhyngweithio ar W App.

  • Gall defnyddwyr riportio a rhwystro defnyddwyr eraill sy'n eu poeni neu'n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform. Hefyd, gallant riportio cwestiynau neu ganmoliaeth benodol sy'n eu gwneud yn anghyfforddus.

    I rwystro/blocio defnyddiwr:

    • Ewch i broffil yr unigolyn rydych chi am ei rwystro.
    • Dewiswch y tri dot ar y gornel dde uchaf ac yna 'Block’.
    • Dewiswch 'Block account' i gadarnhau.

    Riportio defnyddiwr:

    • Ewch i broffil yr unigolyn rydych chi am ei riportio.
    • Dewiswch y tri dot ar gornel dde uchaf proffil y person.
    • Dewiswch 'Report' yna ysgrifenwch y rheswm dros riportio'r unigolyn a dewis 'Report user'.

    I riportio cwestiwn neu ganmoliaeth:

    • Ewch i'r dudalen 'Compliments page' trwy ddewis y tair seren ar waelod y sgrin.
    • Dewiswch y 'Compliment' yr hoffech ei riportio.
    • Dewiswch yr eicon ebychnod (!) yn y cylch ar ochr dde uchaf y sgrin.
    • Ysgrifennwch eich rheswm dros riportio'r cwestiwn a dewis 'Submit'.
  • Does dim hysbysebion trydydd parti ar W App, er y gall defnyddwyr brynu 'W App Gold' neu 'Reveal Name'. Anogir deiliaid dyfeisiau i addasu eu gosodiadau talu ar eu dyfeisiau iOS neu Android er mwyn helpu i reoli pryniannau.

    Rheoli pryniannau (Android):

    • Chwiliwch am 'Google Play’ a'i agor.
    • Tapiwch eich eicon ar y chwith uchaf i agor y ddewislen.
    • Cliciwch ar 'Settings’.
    • O dan 'Authentication', tapiwch ‘Require authentication for purchases’.

    Rheoli pryniannau (iOS):

    • Agorwch 'Settings' yr ap.
    • O dan 'Settings', ewch i 'Screen time'.
    • Tapiwch ar ‘Content & privacy restrictions’ a'i switsio mlaen trwy doglo i wyrdd.
    • Chwiliwch am a thapiwch ar 'iTunes & App Store Buys’.
    • Newidiwch y gosodiad ‘In-app Purchases’ o ‘Allow’ i ‘Don’t allow’.

    I reoli hysbysiadau:

    • Dewiswch eich avatar ar y gornel chwith uchaf.
    • Dewiswch yr eicon gêr ar y gornel dde uchaf.
    • Dewiswch yr eicon cloch â'r label ‘Notifications’.
    • Dewiswch 'Push notifications'. Bydd y botwm yn newid o wyrdd i lwyd i nodi bod hysbysiadau wedi'u diffodd.
  • Mae Slay GmbH yn dweud bod cyfrifon yn cael eu dileu o fewn 24 awr. Nid oes unrhyw osodiadau ar gyfer analluogi cyfrif dros dro, ac os byddwch yn ei ddileu, mae'n debygol o fod yn barhaol a di-droi'n-ôl.

    I ddileu eich cyfrif:

    • Dewiswch eich avatar ar y gornel chwith uchaf.
    • Ewch i'r eicon gêr ar y gornel dde uchaf.
    • Dewiswch yr emoji gweddïo wedi'i labelu 'Help’.
    • Dewiswch yr emoji crïo wedi'i labelu 'Delete Account'.
    • Dewiswch 'Delete'.

Mae gan Slay GmbH  gyfeiriad e-bost penodol i rieni a gofalwyr gysylltu â Slay GmbH gydag unrhyw bryderon am W App. Nid ydym yn gwybod pa mor gyflym mae Slay GmbH yn ymateb, os o gwbl. Mae rhai defnyddwyr sydd wedi e-bostio Slay am gymorth yn dweud na chawsant unrhyw ateb o gwbl.

Dylai defnyddwyr gofio nad yw'r elfennau sydd angen talu amdanyn nhw, fel ‘W App Gold’ neu ‘Reveal Name’ yn gweithio fel y bwriadwyd. Hefyd, nid yw Slay GmbH yn darparu unrhyw gymorth a dim ond yn cynghori bod ad-daliadau’n digwydd trwy Google Play a'r Apple App Store. Felly, dylid rhybuddio defnyddwyr cyn prynu unrhyw beth yn yr ap.