English

2. Sut mae plant a phobl ifanc yn defnyddio'r ap

Mae'r defnydd o AI cynhyrchiol yn cynyddu, ac mae ei apêl yn amlwg. Mae ffigurau o Arolwg Llythrennedd Blynyddol 2023 i 2024 y National Literacy Trust (Saesneg yn unig) yn dangos:

  • bod canran y plant rhwng 13 ac 18 oed sydd wedi defnyddio AI wedi mwy na dyblu, o 37% yn 2023 i 77% yn 2024
  • mae'r rhesymau dros ddefnyddio AI yn amrywiol ac yn adlewyrchu llawer o agweddau bywyd pobl ifanc yn eu harddegau
  • mae adloniant, chwilfrydedd, gwaith cartref a cheisio ysbrydoliaeth yn rhesymau cyffredin pam mae plant yn defnyddio AI cynhyrchiol

Cymorth gyda gwaith ysgol

Mae llawer o ddysgwyr yn defnyddio offer fel ChatGPT a Google Gemini i helpu gyda gwaith cartref, ymchwil ac astudio. Gellir defnyddio AI cynhyrchiol hefyd i gynhyrchu crynodebau o bynciau cymhleth, darparu esboniadau a hyd yn oed awgrymu syniadau ar gyfer traethodau neu brosiectau. Mae'n hawdd copïo a gludo darn cymhleth o destun a gofyn i'r AI symleiddio'r testun neu egluro tasg mewn ffordd fwy dealladwy.

Prosiectau creadigol

Ar gyfer pobl ifanc greadigol, mae offer AI cynhyrchiol fel DALL-E a Microsoft Copilot (Image) yn ddefnyddiol i greu syniadau unigryw ar gyfer gwaith celf neu waith dylunio. Gellir defnyddio'r rhain mewn prosiectau ysgol, ar gyfer hobïau, neu hyd yn oed i greu cynnwys ar-lein. Mae offer AI yn gallu dod â chysyniadau dychmygus yn fyw, ac felly'n ddefnyddiol hyd yn oed i’r rhai sydd heb lawer o sgiliau artistig.

Cynnwys cyfryngau cymdeithasol

Mae modd defnyddio offer AI cynhyrchiol fel My AI ar Snapchat:

  • i gynhyrchu ymatebion cyflym
  • i lunio negeseuon unigryw
  • i greu delweddau y gellir eu rhannu â ffrindiau ar lwyfannau cymdeithasol

Mae'r offer hyn yn caniatáu i bobl ifanc gynnal presenoldeb cyson ar gyfryngau cymdeithasol. Maen nhw'n gwneud hyn trwy greu cynnwys sy'n greadigol, yn ffraeth neu'n ddeniadol yn weledol, a hynny heb fawr o ymdrech.

Nid yw offer AI cynhyrchiol eu hunain yn darparu cyfleoedd rhwydweithio cymdeithasol nac yn fodd i anfon neges ar y platfform. Yn hytrach, gallan nhw chwarae rhan sylweddol wrth wella rhyngweithio cymdeithasol ymhlith defnyddwyr ifanc.