Amdanom ni
Trwy Hwb, mae Llywodraeth Cymru yn darparu gwasanaethau digidol dwyieithog i bob ysgol a gynhelir er mwyn cefnogi dysgu ac addysgu drwy’r Cwricwlwm i Gymru.
Trwy fewngofnodi unwaith ar Hwb, cewch fynediad at y canlynol:
- Microsoft Office 365
- Google Workspace for Education
- Adobe Creative Cloud Express
- Just2Easy
- adnoddau ystafell ddosbarth
- canllawiau ar y cwricwlwm a deunyddiau ategol
Darllenwch sut mae Hwb wedi esblygu a datblygu ers cael ei lansio.
Cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru
Mae Hwb yn gartrefi i’r Cwricwlwm i Gymru. Mae hyn yn cynnwys:
- canllawiau statudol a chymorth cynllunio'r cwricwlwm
- adnoddau ystafell ddosbarth
- canllawiau person ifanc i'r cwricwlwm
- canllawiau rhieni a gofalwyr i'r cwricwlwm
- asesiadau personol
- Adnoddau i helpu ysgolion i hunanwerthuso eu cyfleusterau diogelwch ar-lein a dysgu digidol
Cefnogi dysgu proffesiynol ar gyfer athrawon
Gall athrawon gyrchu dysgu proffesiynol digidol a ddatblygir gydag arbenigwyr mewn addysg. Mae cyfleoedd ar gyfer pob lefel o sgiliau a phrofiad gyda hyfforddiant yn amrywio o sgiliau technegol sylfaenol i sesiynau sy’n canolbwyntio ar ymwreiddio’r adnoddau sydd ar gael drwy Hwb mewn ymarfer addysgegol effeithiol. Mae’r dysgu proffesiynol yn gyson â’r Daith Dysgu Proffesiynol Digidol gan helpu ysgolion i ddatblygu eu gweledigaeth ddigidol eu hunain a manteisio i’r eithaf ar effaith eu technoleg addysg.
Cydweithio ag awdurdodau lleol a Chonsortia Addysg Rhanbarthol
Mae Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a Chonsortia Addysg Rhanbarthol yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn i ysgolion yng Nghymru allu gwireddu manteision trawsnewidiol digidol a thechnoleg ar addysg. Drwy wrando ar adborth gan y gymuned addysg, mae Hwb yn cyflwyno gwasanaethau a nodweddion newydd fel bod gan ysgolion yr hyn sydd ei angen arnyn nhw i wella cymhwysedd digidol ar gyfer dysgwyr a chefnogi arferion ystafell ddosbarth arloesol ar gyfer ymarferwyr. Mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn cydweithio’n barhaus er mwyn sicrhau bod rhaglen Hwb yn diwallu anghenion ysgolion ac yn cyflwyno profiad technoleg addysg cyson a chynaliadwy.
Cadw’n ddiogel ac yn saff
Mae ystyriaethau diogelu, gwarchod a diogelu data y gwasanaethau sydd ar gael drwy Hwb yn hollbwysig. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda sefydliadau arbenigol, gan gynnwys y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol ac Internet Watch Foundation sy’n golygu bod adnoddau Hwb yn destun asesiadau diogelu cadarn ac yn cydymffurfio â’r rheoliadau diogelwch a diogelu data diweddaraf.
Cefnogi ymarferwyr, dysgwyr, rhieni a gofalwyr yn ddiogel ar-lein
Mae adran Cadw'n Ddiogel Ar-lein Hwb yn darparu adnoddau, arweiniad a hyfforddiant am gadw’n ddiogel ar-lein ar gyfer dysgwyr, ymarferwyr, llywodraethwyr a theuluoedd. I wella cadernid digidol cymuned addysg Cymru, rydyn ni’n:
- hyrwyddo trafodaethau ynghylch peryglon ar-lein, gan gynnwys preifatrwydd a data a chynnwys neu gyswllt amhriodol
- mynd i’r afael â materion fel bwlio, casineb ac eithafiaeth ar-lein
- tynnu sylw at y wybodaeth a’r cyngor diweddaraf am bynciau llosg, gan gynnwys camwybodaeth, heriau firaol ac aflonyddu rhywiol ar-lein.
Mae Hwb yn cefnogi Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gadernid digidol ym maes addysg.
Buddsoddi mewn band eang, seilwaith digidol a dyfeisiau ar gyfer ysgolion
Ar ôl buddsoddi dros £180 miliwn i drawsnewid eu tirwedd ddigidol, mae gan bob ysgol a gynhelir yng Nghymru gysylltedd rhyngrwyd cyflym iawn a seilwaith digidol sydd wedi’i ddiogelu i’r dyfodol, gyda mwy na 239,000 o ddyfeisiau newydd wedi’u rhannu ymhlith ymarferwyr a dysgwyr. Mae hyn wedi gosod sylfeini digidol cadarn ar gyfer darparu profiadau dysgu digidol trawsnewidiol yn y Cwricwlwm i Gymru.