English

Mae manteision di-ri i ysgolion sy'n defnyddio Hwb yn hytrach na sefydlu eu parthau a'u contractau eu hunain gyda chyflenwyr.

O safbwynt hollgynhwysfawr, mae manteision rhaglen Hwb yn cynnwys:

  • cefnogi gwelliannau yng nghyrhaeddiad dysgwyr
  • gwelliannau yn y defnydd o dechnoleg ddigidol
  • manteision ariannol
  • dull unedig, cyson
  • mwy o gydweithio ar bob lefel
  • diogelu, llywodraethu a chydymffurfiaeth
  • datblygu ar y cyd â rhanddeiliaid addysg ledled Cymru.

Fel y platfform dysgu digidol cenedlaethol ar gyfer pob ysgol a gynhelir yng Nghymru, bydd penaethiaid a llywodraethwyr yn sicr o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i godi safonau addysg a chynnig ateb i sicrhau cysondeb o ran mynediad a phrofiad ar draws tirwedd addysg y genedl. Mae Hwb yn cynnig platfform dysgu digidol dwyieithog addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain er budd dinasyddion Cymru gyfan.

Mae diogelu, sicrwydd a chydymffurfiaeth yn hollbwysig i ffurfwedd y gwasanaethau a ddarperir yn Hwb gyda phob gwasanaeth wedi ei adolygu'n gynhwysfawr a chyngor cyfreithiol wedi ei geisio lle bo hynny’n briodol. Gan ymgynghori ag amrywiaeth o randdeiliaid, rydym yn ystyried sut mae dysgwyr, staff a rhanddeiliaid eraill yn defnyddio gwasanaethau Hwb ac yn rhoi'r rheolaethau angenrheidiol ar waith i warchod defnyddwyr, ond gan barhau i alluogi'r swyddogaethau gorau posibl.

Hunaniaeth ddigidol

  • Mae gwasanaeth hunaniaeth ddigidol Hwb yn rhoi mynediad i chi at ystod eang o adnoddau digidol a gyllidir yn ganolog a gwasanaethau sy’n cynnwys yr asesiadau personol ar-lein statudol (bydd angen i’r holl ddysgwyr ac athrawon fewngofnodi i Hwb i fodloni’r gofyn statudol hwn).
  • Mae holl adnoddau a gwasanaethau Hwb ar gael drwy fewngofnodi unwaith i Hwb (er enghraifft, Google Workspace for Education Fundamentals, Microsoft 365, Adobe Spark ac ati).
  • Gall defnyddwyr Hwb gael gafael ar adnoddau digidol, gwasanaethau ac adnoddau yn unrhyw le, ar unrhyw adeg ac o ddyfeisiau amrywiol sy’n gallu cyrchu’r we. Gall ymarferwyr addysgu hefyd elwa ar adnoddau i’w helpu i greu a rhannu eu hadnoddau a’u haseiniadau eu hunain.

Offer digidol

  • Mae fersiwn bwrdd gwaith (a ariennir yn ganolog) o Microsoft Office 365, y gellir ei lawrlwytho ar hyd at 15 dyfais bersonol, ar gael i holl ddysgwyr a staff ystafelloedd dosbarth ledled Cymru.
  • Google Workspace for Education Fundamentals, gan gynnwys Google Classroom.
  • Just2easy sydd wedi ennill gwobrau lu.
  • Fersiwn premiwm o Adobe Spark.
  • Minecraft: Education Edition.
  • Mynediad uniongyrchol i Encyclopaedia Britannica ac ImageQuest.
  • Offer a gwasanaethau Hwb fel Rhestri Chwarae, Rhwydweithiau Hwb, Dosbarthiadau Hwb ac ati.
  • Hwyluso cydweithio cenedlaethol helaeth sy’n sail i’r gwaith o ddatblygu a chyflawni cenhadaeth ein cenedl.
  • Banciau cynnwys cynhwysfawr sy’n cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru.

Gwarchod, diogelwch a diogelu data

  • Mae offer Hwb yn cael ei adolygu'n barhaus o safbwynt diogelu (ffurfweddiad, ategion, estyniadau, amodau a thelerau).
  • Cydymffurfiaeth - diogelwch y platfform, craffu annibynnol ar ddiogelwch, Archwiliadau Iechyd TG ac ati.
  • Adolygiad uniongyrchol gyda thimau cynnyrch cyflenwyr (ymgysylltu'n rheolaidd â phartneriaid allweddol fel Google, Microsoft ac Adobe i ddylanwadu ar eu llwybrau mapio a chymorth iaith Gymraeg).
  • Diogelu data – cymorth cyfreithiol arbenigol penodol ynghylch adolygu'r holl gontractau a'r amodau a thelerau.
  • Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar ffrydio byw a fideo-gynadledda yn cynnig cymorth a gwybodaeth i ymarferwyr wrth ddefnyddio'r offer hyn yn Hwb ac yn tynnu sylw at y rheolaethau diogelu ychwanegol sydd wedi'u ffurfweddu.

Hefyd, bu Hwb yn ganolog wrth ddarparu cymorth dysgu o bell a dysgu cyfunol dros y misoedd diwethaf a bydd yn parhau i wneud hynny.

Mae'r gwasanaethau a gynigir drwy Hwb yn esblygu'n barhaus yn unol ag adborth rhanddeiliaid. Adobe Spark yw'r ategiad diweddaraf a thrwy Grŵp Safonau Technegol Technoleg Addysg Hwb (sydd â chynrychiolaeth o bob tîm TG awdurdod lleol) mae'n bosibl trafod ac ystyried gwasanaethau newydd a all fod o fudd i ysgolion.

Mae'r tabl isod yn rhoi trosolwg o'r offer addysgol blaenllaw ar gyfer dysgwyr, staff ysgolion, llywodraethwyr a rhanddeiliaid eraill. Tîm Hwb Llywodraeth Cymru sy'n rheoli'r gwasanaethau hyn yn y lle cyntaf, ond lle bo modd, mae rheolaeth wedi'i dirprwyo i weinyddwyr Hwb awdurdodau lleol a/neu hyrwyddwyr digidol ysgolion.

Yn sgil hyn, daw cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol ac ysgolion i ystyried yn ofalus y goblygiadau ehangach i ddefnyddwyr, gan gynnwys adolygu amodau a thelerau, polisi preifatrwydd etc pob gwasanaeth, cyn gwneud unrhyw newidiadau.

 

Gwasanaethau Hwb

Dysgwyr

Staff

Llywodraethwyr

Rhanddeiliaid eraill

Microsoft

Microsoft

Y

Y

Y

Y

Minecraft: Education Edition a Flipgrid

Y

Y

N

N

Google

G Suite for Education Core Services

Y

Y

Y

N

G Suite for Education Additional Services

N

Y

Y

N

Adobe

Adobe Spark

Y

Y

N

N

Just2easy

Just2easy

Y

Y

N

N

360 Cymru

360 safe Cymru

N

Y

Y

Y

Apple

 

 

 

 

Apple School Manager

Y

Y

N

Y

iCloud

Y

Y

N

Y

Mae gwybodaeth fanylach am Microsoft a Google yn ôl y math o ddefnyddiwr, yn ogystal â'r gwasanaethau sydd wedi'u dirprwyo i awdurdodau lleol ac ysgolion, ar gael isod.

Trwyddedau

Mae dau fath o drwydded Microsoft ar gael yn Hwb:

A3 – diofyn i bob dysgwr a defnyddiwr arall sydd wedi cael trwydded Microsoft 365 (A3) â llaw.

A1 – diofyn i bob aelod staff a phob rhanddeiliad arall.

Mae rhagor o wybodaeth am drwyddedau Microsoft 365, gan gynnwys sut i neilltuo trwydded A3 i staff a rhanddeiliaid eraill, ar gael yn y Ganolfan Gymorth.

Gwasanaethau

Gwasanaethau dirprwyedig

Mae'r gwasanaethau canlynol wedi'u dirprwyo gan Dîm Hwb Llywodraeth Cymru ac o ganlyniad maen nhw ar gael i'w gosod neu eu defnyddio yn ôl disgresiwn defnyddwyr, gweinyddwyr Hwb awdurdodau lleol neu hyrwyddwyr digidol ysgolion. Fel yr amlinellir yn hysbysiad preifatrwydd Hwb, mae defnyddwyr neu weinyddwyr sy'n dewis caniatáu i gyfrifon Hwb gael mynediad i’r gwasanaethau canlynol yn gwneud hynny ar eu menter eu hunain ac nid yw Llywodraeth Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am eu defnydd. Cyfrifoldeb y defnyddiwr neu'r gweinyddwr yw darllen a derbyn amodau a thelerau a hysbysiadau preifatrwydd bob ap trydydd parti maen nhw'n dewis ei ddefnyddio.  Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Apiau sy'n cael eu defnyddio ar ddyfeisiau a reolir trwy Intune
  • Ychwanegion Microsoft Outlook

Gwasanaethau nad ydynt wedi'u dirprwyo

Rheolir y gwasanaethau canlynol gan dîm Hwb Llywodraeth Cymru ac nid ydynt wedi'u dirprwyo i ddefnyddwyr, gweinyddwyr Hwb awdurdodau lleol na hyrwyddwyr digidol ysgolion.  Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Microsoft 365 Office for the Web
  • Microsoft 365 Mobile
  • Microsoft 365 Apps
  • Minecraft: Education Edition

Gwasanaethau trydydd parti

Rheolir gwasanaethau trydydd parti gan dîm Hwb Llywodraeth Cymru ac nid ydynt ar gael nac wedi'u dirprwyo i weinyddwyr Hwb awdurdodau lleol na hyrwyddwyr digidol ysgolion.

Mae gan wasanaethau trydydd parti eu hamodau a'u telerau a'u hysbysiadau preifatrwydd eu hunain. Yn gyffredinol, nid yw'r telerau hyn yn bodloni'r gofynion diogelwch a chydymffurfiaeth angenrheidiol ac felly maen nhw wedi'u cyfyngu gan dîm Hwb Llywodraeth Cymru. Mae'r gwasanaethau cyfyngedig hyn yn cynnwys:

  • Apiau trydydd parti Microsoft
  • Apiau ategion Microsoft Teams trydydd parti
  • Ychwanegion Microsoft 365
  • Apiau Microsoft Store.

Os oes angen i ysgol gael mynediad at raglen neu ap trydydd parti nad yw ar gael ar hyn o bryd, dylid trafod hyn gydag arweinydd Technoleg Addysg yr awdurdod lleol a all gyflwyno’r  achos i'r Grŵp Safonau Technegol i'w ystyried.

Mae'r tabl isod yn rhoi gwybodaeth am wasanaethau Microsoft 365 yn Hwb yn ôl y math o ddefnyddiwr.

Rheolaethau

Mae tri math o reolaeth ar gael o fewn Hwb G Suite for Education:

  1. Rheolaethau a reolir gan Dîm Hwb Llywodraeth Cymru h.y. gwasanaethau heb eu dirprwyo.
  2. Rheolaethau wedi'u dirprwyo i weinyddwyr Hwb awdurdodau lleol a hyrwyddwyr digidol ysgolion h.y. gwasanaethau dirprwyedig.
  3. Rheolaethau sydd ddim yn bosibl h.y. dim rheolaethau.

Rheolaethau a reolir gan Lywodraeth Cymru [Gwasanaethau heb eu dirprwyo]

Rheolir y gwasanaethau Google canlynol gan dîm Hwb Llywodraeth Cymru ac nid ydynt wedi'u dirprwyo i weinyddwyr Hwb awdurdodau lleol na hyrwyddwyr digidol ysgolion.  Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Google Workspace for Education Fundamentals Core Services
  • Google Workspace for Education Fundamentals Additional Services
  • Cymwysiadau trydydd parti Google (wedi'u gosod gan Hwb yn unig)
  • Ychwanegion Google
  • Rheoli Chromebook - nid yw apiau ac estyniadau Google ar gyfer Chrome sydd angen mynediad i G Suite API neu Single Sign On (SSO) ar gael drwy Hwb
  • Rheoli Chromebook - Google Play a reolir (apiau am dâl NID rhai am ddim)
  • Rheoli Chromebook - gosodiadau defnyddwyr a phorwr

Rheolaethau wedi'u dirprwyo i weinyddwyr Hwb awdurdodau lleol a hyrwyddwyr digidol ysgolion [gwasanaethau dirprwyedig].

Mae'r gwaith o reoli'r gwasanaethau canlynol wedi'i ddirprwyo i weinyddwyr Hwb awdurdodau lleol a hyrwyddwyr digidol ysgolion.  Mae defnyddwyr neu weinyddwyr a ddewisodd ganiatáu i gyfrifon Hwb gael mynediad at apiau trydydd parti a/neu apiau ac estyniadau Google ar gyfer Chrome, gan gynnwys apiau sy'n cael eu darparu trwy Google Play a reolir yn gwneud hynny ar eu menter eu hunain ac nid yw Llywodraeth Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am eu defnydd. Cyfrifoldeb y defnyddiwr neu'r gweinyddwr yw darllen a derbyn amodau a thelerau a hysbysiadau preifatrwydd pob ap trydydd parti ac apiau ac estyniadau Google ar gyfer Chrome maen nhw'n dewis eu defnyddio. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Rheoli Chromebook - apiau ac estyniadau Google ar gyfer Chrome nad oes angen mynediad i G Suite API neu Single Sign On (SSO) arnyn nhw
  • Chromebook - Google Play a reolir (apiau AM DDIM yn unig)
  • Rheoli Chromebook - gosodiadau dyfeisiau (gan gynnwys Tystysgrifau, Rhwydweithiau a Pheiriannau Argraffu)

Rheolaethau sydd ddim yn bosibl [Dim rheolaethau]

Nid yw'n bosibl atal cyfrifon Hwb rhag cael eu defnyddio i gael mynediad at rai gwasanaethau trydydd parti. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wrthi'n monitro ac yn dadactifadu llofnod unigol at wasanaethau.

Mae defnyddwyr sy'n defnyddio apiau trydydd parti a/neu apiau ac estyniadau Google ar gyfer Chrome, gan gynnwys apiau sy'n cael eu darparu trwy Google Play a reolir, yn gwneud hynny ar eu menter eu hunain ac nid yw Llywodraeth Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am eu defnyddio. Cyfrifoldeb y defnyddiwr yw darllen a derbyn amodau a thelerau a hysbysiadau preifatrwydd pob ap trydydd parti ac unrhyw apiau ac estyniadau Google ar gyfer Chrome maen nhw'n dewis eu defnyddio. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cymwysiadau trydydd parti Google (ac eithrio'r rhai a ddefnyddir gan Hwb fel y sonnir uchod).

Os oes angen i ysgol gael mynediad at gymhwysiad trydydd parti nad yw ar gael ar hyn o bryd, dylent drafod hyn gydag arweinydd Technoleg Addysg yr awdurdod lleol a all gyflwyno achos i'r Grŵp Safonau Technegol i'w ystyried.

Mae'r tabl isod yn rhoi gwybodaeth am wasanaethau Google yn Hwb yn ôl y math o ddefnyddiwr.

Offer cwmwl Adobe Creative Cloud Express ar gyfer unrhyw ddyfais neu iOS sy'n cael ei galluogi gan borwr yw'r Adobe Creative Cloud Express for Education. Mae Adobe Creative Cloud Express for Education yn ei gwneud hi'n hawdd a chyflym i fyfyrwyr ac athrawon droi syniadau'n graffeg trawiadol, straeon gwe a chyflwyniadau fideo. Mae myfyrwyr yn cael hwyl gyda Creative Cloud Express; yn ymgysylltu â'r deunydd, ac mae hynny yn y pen draw yn arwain at ddatgloi eu creadigrwydd

Mae Adobe Creative Cloud Express for Education ar gael i holl staff ysgolion, consortia addysg awdurdodau lleol a rhanbarthol sy’n ddefnyddwyr Hwb, athrawon cyflenwi a dysgwyr fel rhan o Wasanaethau Hwb.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Nghanolfan Gymorth Hwb

Mae meddalwedd Just2easy (J2e) yn darparu set o adnoddau addysg o fri.

Mae J2e yn cynnig profiad dysgu cwbl bersonol trwy gyfrwng gemau, apiau ac adnoddau creadigrwydd ar gyfer Mathemateg, Saesneg, Cyfrifiadura a gweithgareddau creadigol trawsgwricwlaidd.

Mae gan holl ddogfennau J2e eu cyfeiriad gwe unigryw eu hunain. Gallwch eu defnyddio ar unrhyw borwr gwe, a’u rhannu’n rhwydd ag athrawon, dysgwyr, teulu a ffrindiau.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Nghanolfan Gymorth Hwb.

Adnodd rhyngweithiol ar gyfer hunanadolygu diogelwch ar-lein a ddatblygwyd gan y South West Grid for Learning (SWGfL) ar gyfer ysgolion a lleoliadau addysg yng Nghymru, yw 360 safe Cymru. Mae'r adnodd yn ei gwneud hi'n bosibl i ysgolion neu leoliadau adolygu eu darpariaeth diogelwch ar-lein, ei meincnodi yn erbyn arferion da ac ysgolion eraill, creu cynlluniau gweithredu a defnyddio amryw o adnoddau a thempledi polisi perthnasol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Nghanolfan Gymorth Hwb.