English

Cynulleidfa a awgrymir: dysgwyr, staff ysgol, hyrwyddwyr digidol mewn ysgolion, gweinyddwyr Hwb mewn awdurdodau lleol, gweinyddwyr Hwb ar gyfer consortia addysg rhanbarthol. 

Adobe Creative Cloud Express yw’r enw newydd am Adobe Spark.

Adnodd Adobe yn y cwmwl ar gyfer iOS neu ddyfais sydd â phorwr wedi'i alluogi yw Adobe Creative Cloud Express for Education. Mae Adobe Creative Cloud Express for Education yn ei gwneud yn gyflym ac yn hawdd i fyfyrwyr ac athrawon droi syniadau i mewn i straeon gwe, graffigau a chyflwyniadau fideo trawiadol. Mae myfyrwyr yn cael hwyl gyda Spark; maen nhw’n ymgysylltu â’r deunydd, ac mae hynny’n arwain at ysgogi eu creadigrwydd yn y pen draw. 

Mae Adobe Creative Cloud Express ar gael i holl staff ysgolion, defnyddwyr Hwb mewn awdurdodau lleol a chonsortia addysg rhanbarthol, llywodraethwyr, athrawon cyflenwi a dysgwyr fel rhan o Wasanaethau Ychwanegol Hwb.

Opsiwn 1: Cael gafael ar Adobe Creative Cloud Express gan ddefnyddio porwr 

Bydd y rhan fwyaf o ddefnyddwyr Hwb yn cael gafael ar Adobe Creative Cloud Express for Education drwy ddefnyddio eu porwr. 

  1. Mewngofnodwch i Hwb 
  2. Cliciwch ar y deilsen Adobe Creative Cloud Express.  Fel arall, ewch i https://express.adobe.com/sp 
  3. Dewiswch Login with your Hwb username and password  
  4. Rhowch eich enw defnyddiwr Hwb > Cliciwch  Continue. 
  5. Rhowch eich cyfrinair ar gyfer Hwb > Cliciwch Sign In. 

Byddwch yn mynd i Brif Dudalen Creative Cloud Express. 

Mae Adobe Creative Cloud Express for Education yn cynnwys holl nodweddion premiwm Adobe Creative Cloud Express, fel mynediad at lyfrgell gyfan Adobe Fonts a thempledi premiwm. Mae chwilio diogel wedi’i alluogi ar gyfer y nodwedd chwilio am luniau am ddim.  Sylwch: pan fyddwch yn postio rhywbeth rydych chi wedi’i greu ar Adobe Creative Cloud Express, mae’r URL yn unigryw ac nid yw’n cael ei fynegeio gan beiriannau chwilio.  

Opsiwn 2: Cael gafael ar Adobe Creative Cloud Expressar iPad/iPhone 

I gael gafael ar Adobe Spark for Education ar iPad neu iPhone, bydd angen i chi lwytho tri ap i lawr o’r App Store: Adobe Creative Cloud Express, Spark Video a Spark Page.  

  1. Ewch i’ch App Store i lwytho’r apiau i lawr, neu ewch i https://adobe.com/education/express i gael y dolenni i’r apiau iOS. 

Pan fyddwch chi’n agor yr ap, defnyddiwch eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Hwb i fewngofnodi

Mae'n bosibl ychwanegu delweddau i brosiect Creative Cloud Express yn uniongyrchol o'ch Google Drive.  Y tro cyntaf i chi ddewis yr opsiwn hwn, efallai y gwelwch neges rhybudd yn dweud bod Adobe Creative Cloud Express am gael mynediad i'ch cyfrif Google.

Rhaid i chi glicio'r botwm 'Allow' glas os ydych am fewnforio delweddau sydd wedi'u storio yn eich Google Drive.

Mae Adobe Creative Cloud Express yn eich galluogi chi i droi testun a lluniau yn graffigau sy’n edrych yn wych ac yn tynnu sylw, fel posteri, cloriau, tystysgrifau neu gardiau adolygu. 

Creu Adobe Creative Cloud Express Graphic

  1. Yn Creative Cloud Express ar y we, cliciwch ‘+ Create a Project’ wedyn dewis y math o gynnwys rydych chi eisiau ei greu (Fideo, Tudalen neu Neges).  
  2. I greu graffigyn, dewiswch un o’r graffigau cyffredin sydd wedi’u rhestru neu ddewis 'customsize graphic’ 
  3. Dewiswch neu ddiffinio maint eich graffigyn 
  4. Yn y cynfas rydych chi wedi’i greu, defnyddiwch y botwm ‘+’ i ychwanegu’ch cynnwys (delweddau, testun neu eiconau) 
  5. Dewiswch yr opsiynau ‘templates’, ‘design’, ‘colors’, ‘layout’ a ‘resize’ i olygu’ch graffigyn
  6. https://express.adobe.com/video/m8EewCnDpge75/

Rhannu Adobe Creative Cloud Express Graphic

Mae sawl ffordd o rannu’ch graffigyn: 

  1. I lawrlwytho'r graffigyn, defnyddiwch y botwm ‘Download’ ar frig y dudalen a dewis ar ba fformat rydych chi’n dymuno lawrlwytho eich graffigyn (png, jpg neu pdf) 
  2. I rannu’ch graffigyn drwy URL, defnyddiwch y botwm ‘Share’ ar frig y dudalen a chreu dolen i’ch graffigyn gan ddefnyddio’r botwm ‘Link’ 

Cyflwyno Adobe Creative Cloud Express Graphic i Aseiniad Microsoft Teams fel Disgybl 

Mae dau opsiwn;  

  1. Cyflwyno'r ddolen i'w rhannu (sylwch, os yw'r defnyddiwr yn diweddaru’r cynnwys a’i ailgyhoeddi, bydd yr athro’n gweld y fersiwn wedi'i ddiweddaru). 
  2. Gofyn i'r disgybl lawrlwytho ei ddelwedd fel ffeil png neu jpega llwytho hwn i fyny i’r aseiniad. Mae’r opsiwn hwn yn rhwystro’r defnyddiwr rhag gwneud newidiadau ar ôl cyflwyno’r aseiniad. 

Cydweithio ar Adobe Creative Cloud Express Graphic

I gydweithio ar Creative Cloud Express a chaniatáu i ddefnyddiwr arall olygu’ch graffigyn: 

  1. Dewiswch y botwm ‘Share’ ar frig y dudalen a dewis ‘Invite’ 
  2. Teipiwch gyfeiriad e-bost y bobl rydych chi’n dymuno eu gwahodd i gydweithio 
  3. Cliciwch ‘Invite’ 

Bydd e-bost sy’n cynnwys y ddolen gydweithio yn cael ei rannu â'r defnyddwyr eraill. Byddan nhw hefyd yn gweld y prosiectau rydych chi wedi’u rhannu â nhw ar eu prif dudalen Adobe Creative Cloud Express (yn y tab ‘Shared with You’)

Gallwch drawsnewid geiriau, lluniau a fideos i fod yn straeon gwe deinamig gyda Creative Cloud Express Page. Gwnewch unrhyw beth yn greadigol – adroddiad, dyddiadur dysgu o bell, papur ymchwil, dyddiadur trip maes, a mwy. 

Creu Adobe Creative Cloud Express Page

  1. Yn Creative Cloud Express  ar y we, cliciwch ‘+ Create a Project’ wedyn dewis ‘Web page’ 
  2. Ar y dudalen sydd wedi’i chreu, ewch ati i ychwanegu teitl a llun cefndir i’ch tudalen 

Drwy sgrolio i lawr fe welwch fotwm ‘+’ sy’n eich galluogi chi i ddechrau ychwanegu’ch cynnwys (lluniau, testun, fideos, gridiau lluniau, ‘glideshows’ a gosodiadau wedi’u hollti) 

Ar ôl i chi ychwanegu'ch cynnwys, cewch ddewis golygu, newid neu gyflwyno’ch cynnwys mewn gwahanol ffyrdd drwy hofran uwch ei ben. 

https://express.adobe.com/video/PI98fGlomuvfv/

Golygu eich Adobe Creative Cloud Express Page

Yn ogystal â golygu eitemau cynnwys unigol ar eich tudalen, gallwch newid y thema drwy ddewis y botwm ‘Theme’ ar frig y dudalen. 

Gweld Rhagolwg o'ch Adobe Creative Cloud Express Page

I weld rhagolwg o’ch Creative Cloud Express Page, cliciwch ‘Preview’ ar frig y dudalen.  

Cyflwyno eich Adobe Creative Cloud Express Page

Os hoffech chi gyflwyno gan ddefnyddio eich Creative Cloud Express Page, cliciwch ‘Present’ ar frig y dudalen. Gallwch ddefnyddio’r saethau ar eich bysellfwrdd i symud yn rhwydd i’r eitem cynnwys nesaf neu’r eitem flaenorol ar eich tudalen. I adael y modd cyflwyno, cliciwch ESC. 

Cyhoeddi a rhannu eich Adobe Creative Cloud Express Page

gyhoeddi a rhannu’r dudalen: 

  1. Dewiswch ‘Share’ a ‘Publish and share’ ar frig y dudalen. 
  2. Bydd gofyn i chi ddiffinio teitl a chategori eich tudalen a nodi a fydd enw’r awdur a chydnabyddiaeth am luniau yn cael eu dangos ar waelod y dudalen. 
  3. Cliciwch ‘Create link’ 

Byddwch yn cael dewis copïo’r URL i’ch tudalen neu ei gyhoeddi’n uniongyrchol mewn Google Classroom neu E-bost.

Rhybudd

Sylwch bod angen i chi ailgyhoeddi eich tudalen (‘Update Link’) ar ôl gwneud unrhyw newidiadau. Mae’r URL yn aros yr un fath, ond er mwyn i'r gwylwyr allu gweld eich newidiadau, dewiswch ‘Share’ > ‘Publish and Share Link’ > ‘Update link’ 

I gael dolen blannu ar gyfer eich tudalen: 

  1. Dewiswch ‘Share’ a ‘Publish and share’ ar frig y dudalen. 
  2. Bydd gofyn i chi ddiffinio teitl a chategori eich tudalen a nodi a fydd enw’r awdur a chydnabyddiaeth am luniau yn cael eu dangos ar waelod y dudalen. 
  3. Cliciwch ‘Create link’ 
  4. Dewiswch ‘Embed’ a chopïo’r ddolen blannu sy’n cael ei darparu 

Cyflwyno Adobe Creative Cloud Express Page i Aseiniad Microsoft Teams fel Dysgwr 

Mae gennych chi ddau opsiwn: 

  1. Creu’r URL wedi'i gyhoeddi ac ychwanegu hwn at y Team Assignment fel URL.  Sylwch: gall dysgwyr newid y rhain ar ôl iddyn nhw gael eu cyflwyno.  
  2. Cyhoeddi'r dudalen a dewis yr opsiwn PDF.Sylwch: bydd hyn yn cael rhywfaint o effaith ar animeiddiadau a sut mae’r cynnwys yn edrych, ond bydd y delweddau a'r testun yn dal i'w gweld ar gyfer yr aseiniad. 

Argraffu eich Adobe Creative Cloud Express Page

I argraffu’ch Creative Cloud Express Page fel PDF neu drwy ddefnyddio peiriant argraffu, dewiswch ‘Share’ a ‘Print’. Ar ôl diffinio’r gyrchfan, y gosodiad a’r lliw ar gyfer argraffu, cliciwch ‘Print’. (Mae hyn yn gweithio ar Google Chrome a'r Porwr Microsoft Edge Newydd ar hyn o bryd) 

Cydweithio ar Adobe Creative Cloud Express Page

I gydweithio ar Creative Cloud Express Page a chaniatáu i ddefnyddiwr arall olygu’ch graffigyn: 

  1. Dewiswch y botwm ‘Share’ ar frig y dudalen a dewis ‘Invite’ neu ddewis yr eicon sy’n dangos person a’r arwydd ‘+’ 
  2. Teipiwch gyfeiriad e-bost y bobl rydych chi’n dymuno eu gwahodd i gydweithio 
  3. Cliciwch ‘Invite’ 

Bydd e-bost sy’n cynnwys y ddolen gydweithio yn cael ei rannu â'r defnyddwyr eraill. Byddan nhw hefyd yn gweld y prosiectau rydych chi wedi’u rhannu â nhw ar eu prif dudalen Creative Cloud Express (yn y tab ‘Shared with You’)

Mae Adobe Creative Cloud Express yn eich galluogi chi i gyfuno clipiau fideo, lluniau, eiconau a throslais i greu traethodau gweledol, cyflwyniadau a gwersi trawiadol, a mwy. 

Creu fideo yn Adobe Creative Cloud Express

  1. Yn Creative Cloud Express ar y we, cliciwch ‘+ Create a Project’ wedyn dewis ‘Video’ 
  2. Rhowch enw i’ch fideo a dewis ‘Start from scratch’ 
  3. Yn eich fideo Creative Cloud Express mae sleidiau cynnwys sy’n gallu cynnwys fideo, testun, llun neu eicon. 
  4. I ychwanegu, dileu neu ddyblygu eich sleidiau cynnwys, defnyddiwch y bar ar waelod y sgrin sy’n dangos yr holl sleidiau yn eich fideo 
  5. I ychwanegu cynnwys at y sleidiau cynnwys unigol, dewiswch y llithrydd a chlicio’r ‘+’ yng nghanol y sleid. Byddwch yn cael dewis ychwanegu fideo, testun, llun neu eicon. 

https://express.adobe.com/video/sn20B3kbzMRbT/  

Golygu’ch fideo yn Adobe Creative Cloud Express

I ychwanegu troslais at eich fideo, pwyswch a dal y microffon coch sydd ar waelod pob sleid. Byddwch yn recordio’r troslais fesul sleid. Ni all y recordiad ar gyfer bob sleid fod yn hirach na 30 eiliad. Os oes angen mwy o amser arnoch chi, dyblygwch y sleid a pharhau â’ch troslais ar yr ail sleid. 

I olygu’r gerddoriaeth neu i'w chwarae/diffodd, dewiswch ‘Music’ yng nghornel dde uchaf y dudalen. Mae llawer o opsiynau gwahanol ar gael o ran cerddoriaeth, neu gallwch ychwanegu eich cerddoriaeth eich hun drwy ddewis ‘Add my music’. 

I olygu gosodiad eich sleidiau cynnwys, dewiswch ‘Layout’ yng nghornel dde uchaf y dudalen a dewis o blith yr opsiynau sydd ar gael: sgrin lawn, sgrin wedi'i hollti, sleid deitl neu gapsiwn. 

I olygu thema eich fideo (lliw, ffont, effeithiau trosi), dewiswch ‘Theme’ yng nghornel dde uchaf y dudalen a dewis y thema a’r lliw rydych chi am eu defnyddio. 

I olygu maint eich fideo (sgrin lydan neu sgwâr), dewiswch ‘Resize’ yng nghornel dde uchaf y dudalen a dewis un o’r opsiynau sydd ar gael. 

Gweld rhagolwg o’ch fideo yn Adobe Creative Cloud Express

I weld rhagolwg o’ch fideo yn Creative Cloud Express, dewiswch ‘Preview’ ar frig y dudalen.  

Lawrlwytho eich fideo yn Adobe Creative Cloud Express

I lawrlwytho’r fideo, defnyddiwch y botwm ‘Lawrlwytho’ ar frig y dudalen. Bydd y fideo yn Creative Cloud Express yn cael ei lawrlwytho fel MP4. 

Cyhoeddi a rhannu fideo yn Adobe Creative Cloud Express

gyhoeddi a rhannu’r fideo: 

  1. Dewiswch ‘Share’ a ‘Publish’ ar frig y dudalen. 
  2. Bydd gofyn i chi ddiffinio teitl ac is-deitl eich tudalen a nodi a fydd enw’r awdur i'w weld gyda'r fideo. 
  3. Cliciwch ‘Create link’ 

Byddwch yn cael dewis copïo’r URL i’ch tudalen neu ei gyhoeddi’n uniongyrchol mewn Google Classroom neu E-bost.

Rhybudd

Sylwch bod angen i chi ailgyhoeddi (‘Update Link’) ar eich tudalen ar ôl gwneud unrhyw newidiadau. Mae’r URL yn aros yr un fath, ond er mwyn i'r gwylwyr allu gweld eich newidiadau, dewiswch ‘Share’ > ‘Publish’ > ‘Update link’ 

I gael dolen blannu ar gyfer eich tudalen: 

  1. Dewiswch ‘Share’ a ‘Publish’ ar frig y dudalen. 
  2. Bydd gofyn i chi ddiffinio teitl ac is-deitl eich tudalen a nodi a fydd enw’r awdur i'w weld gyda'r fideo.
  3. Cliciwch ‘Create link’ 
  4. Dewiswch ‘Embed’ a chopïo’r ddolen blannu sy’n cael ei darparu 

Cyflwyno Gwaith i Aseiniad Microsoft Teams fel Dysgwr 

Mae gennych chi ddau opsiwn: 

  1. Cyhoeddi'r fideo, copïo’r URL a’i ludo yn yr aseiniad.Sylwch fod y dysgwr yn gallu diweddaru’r cynnwys ar ôl ei gyflwyno.
  2. Lawrlwytho’r fideo fel ffeil MP4 o fideo yn Adobe Creative Cloud Express a llwytho'r fideo i fyny i’w gyflwyno. 

Cydweithio ar fideo yn Adobe Creative Cloud Express

I gydweithio ar fideo yn Adobe Creative Cloud Express a chaniatáu i ddefnyddiwr arall olygu’ch fideo: 

  1. Dewiswch y botwm ‘Share’ ar frig y dudalen a dewis ‘Invite’ neu ddewis yr eicon sy’n dangos person a’r arwydd ‘+’ 
  2. Teipiwch gyfeiriad e-bost y bobl rydych chi’n dymuno eu gwahodd i gydweithio 
  3. Cliciwch ‘Invite’ 

Bydd e-bost sy’n cynnwys y ddolen gydweithio yn cael ei rannu â'r defnyddwyr eraill. Byddan nhw hefyd yn gweld y prosiectau rydych chi wedi’u rhannu â nhw ar eu prif dudalen Creative Cloud Express (yn y tab ‘Shared with You’)

Mae’r iaith ddiofyn ar gyfer ap Adobe Creative Cloud Express yn cael ei ddewis gan osodiad iaith ddiofyn eich porwr gwe. Gallwch hefyd newid yr iaith ddiofyn ar gyfer Adobe Creative Cloud Express trwy ddilyn y camau isod:

  1. Mewngofnodwch i Hwb a chliciwch ar y deilsen Adobe Creative Cloud Express;
  2. ar ôl i’r dudalen lwytho, cliciwch ar eich proffil(a gynrychiolir gan gylch lliw yn y gornel dde uchaf)> Cliciwch Gosodiadau;
  3. O dan Iaith> Dewiswch eich iaith (e.e. Cymraeg) > arhoswch i'r dudalen adnewyddu;
  4. Cliciwch y groes ar gornel dde uchaf y popup. Yna bydd yr ap yn cael ei gyflwyno gyda'r rhyngwyneb yn Gymraeg.

I gael mynediad at hyfforddiant ar-alw am ddim (i athrawon gan athrawon), adnoddau am ddim, cynlluniau gwersi a chymuned fyd-eang, ewch i http://edex.adobe.com.  

Mae tudalen Dysgu o Bell (http://edex.adobe.com/distance-learning) arbennig wedi cael ei chreu i gasglu erthyglau, gweminarau, sesiynau byw ac adnoddau at ei gilydd i gefnogi athrawon a rhieni gyda dysgu o bell. 

Dolenni defnyddiol eraill

Hafan Creative Cloud Express Education
Cymorth Adobe Creative Cloud Express
Dysgu o Bell gydag Adobe Creative Cloud Express
Dempledi Adobe Creative Cloud Express i Athrawon

Adobe Fonts 

Fel rhan o’ch Trwydded Adobe Creative Cloud Express for Education, gallwch gysoni Adobe Fonts i’w ddefnyddio gydag Adobe Creative Cloud Express 

  1. Mewngofnodwch i https://fonts.adobe.com  
  2. Os nad ydych chi wedi mewngofnodi i Creative Cloud Express, Cliciwch Sign In Rhowch eich enw defnyddiwr Hwb > Cliciwch Continue. 
  3. Rhowch eich cyfrinair ar gyfer Hwb > Cliciwch Sign In. 
  4. Ewch ati i bori neu chwilio am fath o ffont 
  5. Gweld Teulu o Ffontiau 
  6. Dewiswch “Activate Font” 

Bydd y ffontiau hyn yn ymddangos yn eich Font Selection yn Adobe Creative Cloud Express. 

Prynu trwyddedau Adobe Creative Cloud

Dylai ysgolion sydd am brynu trwyddedau Adobe Creative Cloud fynd i https://hwb.llyw.cymru/Adobe i gael  rhagor o fanylion am y gyfres o adnoddau sydd ar gael, y broses archebu a sut i rannu trwyddedau.