English

Eithafiaeth yw gwrthwynebiad llafar neu weithredol i werthoedd cyffredin fel:

  • democratiaeth
  • gweithredu'r gyfraith
  • parch at bawb 
  • goddefgarwch i grefyddau a chredoau eraill

Gall rhai mathau o gynnwys ar-lein hyrwyddo ideolegau eithafol.

Radicaleiddio yw pan fydd unigolyn neu grŵp yn mabwysiadu safbwyntiau gwleidyddol, cymdeithasol neu grefyddol eithafol a all arwain at derfysgaeth.

Y gwahaniaeth allweddol yw:

  • mae radicaleiddio yn broses
  • eithafiaeth yw'r canlyniad a chaiff ei hadlewyrchu yng nghredoau unigolyn

Mae grwpiau eithafol yn aml yn defnyddio'r rhyngrwyd, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol ac adnoddau AI, er mwyn:

  • cyrraedd cynulleidfaoedd mawr
  • targedu unigolion a allai fod yn agored i'w negeseuon a'u tactegau o feithrin perthynas gyda'r nod o ddylanwadu arnyn nhw

Mae propaganda terfysgol yn aml yn ecsbloetio'r materion y mae pobl ifanc yn cael trafferth gyda nhw, megis:

  • hunaniaeth
  • ffydd 
  • perthyn

Mae eithafwyr yn defnyddio naratifau cynhennus er mwyn creu hunaniaeth 'ni' a 'nhw'. Defnyddir iaith a delweddau emosiynol iawn yn aml i ddenu unigolion i mewn:

  • gan ogoneddu a chanmol un grŵp
  • a beirniadu a difrïo grŵp arall

Ymhlith y newidiadau yn ymddygiad pobl ifanc a allai fod yn arwydd o radicaleiddio mae:

  • newid eu ffrindiau
  • newid eu hymddangosiad
  • ymddygiad cyfrinachol neu amharodrwydd i rannu lle maen nhw
  • gwrthod gwrando ar safbwyntiau amgen
  • bod yn ddadleuol
  • anoddefgarwch tuag at bobl sy'n wahanol iddyn nhw
  • diddordeb mewn damcaniaethau cynllwyn
  • cydymdeimlad â grwpiau neu ideolegau eithafol 
  • troi at grefydd newydd
  • edrych ar gynnwys eithafol ar-lein

Rhaglen Prevent

Mae rhaglen Prevent yn un rhan o strategaeth wrthderfysgaeth gyffredinol y llywodraeth, CONTEST. Nod Prevent yw:

  • mynd i'r afael ag achosion ideolegol terfysgaeth
  • ymyrryd yn gynnar i gefnogi pobl sy'n agored i gael eu radicaleiddio
  • galluogi'r rhai sydd eisoes wedi cymryd rhan mewn terfysgaeth i ddatgysylltu a rhoi'r peth y tu ôl iddyn nhw

Bwriedir i ganllawiau dyletswydd Prevent (Saesneg yn unig) gael eu defnyddio gan:

  • uwch dimau arweinyddiaeth mewn awdurdodau penodedig (fel y'u rhestrir yn Rhan 1 o Atodlen 6 o Ddeddf Gwrth-derfysgaeth a Diogelwch 2015) (Saesneg yn unig)
  • staff sydd â chyfrifoldebau Prevent neu ddiogelu
  • pobl mewn awdurdodau penodedig sydd â chyfrifoldeb dros reoli adnoddau, cyllid neu bartneriaethau allanol
  • gweithwyr proffesiynol rheng flaen sydd efallai yn ymgysylltu ag unigolion sy'n agored i gael eu radicaleiddio

Mae hyfforddiant dyletswydd Prevent (Saesneg yn unig) ar gael i bob gweithiwr proffesiynol mewn sectorau sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd. Mae hyn yn cynnwys addysg.

Mae'r hyfforddiant yn cwmpasu:

  • dyletswydd Prevent a'i phwrpas
  • gwahanol fathau o eithafiaeth a therfysgaeth
  • y risg o ran radicaleiddio a'ch rôl gefnogol chi
  • atgyfeirio achos o dan Prevent 
  • ymyriadau a chymorth sydd ar gael

Rhoi gwybod am bryderon

Os ydych yn poeni am blentyn yn eich gofal, dylech:

Canllawiau Ymarfer Cymru Gyfan

Mae Canllaw Ymarfer Cymru Gyfan: Diogelu plant rhag cam-drin ar-lein yn darparu gwybodaeth i ymarferwyr am ymatebion i wahanol fathau o gam-drin ar-lein, gan gynnwys radicaleiddio.

  • Help a chefnogaeth

    Sut i roi gwybod am gynnwys ar-lein niweidiol a chael mynediad at linellau cymorth a gwasanaethau cyfrinachol am ddim.