English

5. Pecyn adnoddau Minecraft Cymraeg Cadw Cymru

Mae pecyn adnoddau Minecraft Cymraeg Cadw Cymru yn becyn adnoddau y gellir ei lawrlwytho ar gyfer Minecraft Education sydd wedi’i gynllunio i drawsnewid sut mae dysgwyr yng Nghymru yn rhyngweithio â Minecraft Education.

Mae’n trawsnewid y profiad cyfan o Minecraft Education yn antur mae’r defnyddiwr yn cael ei drochi’n llawn ynddi yn y Gymraeg am y tro cyntaf. Mae hyn yn sicrhau bod dysgwyr Cymraeg eu hiaith yn gallu llywio drwy’r gêm a’i harchwilio yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r pecyn adnoddau yn offeryn pwerus ar gyfer cadw a hyrwyddo’r diwylliant Cymraeg yn yr ystafell ddosbarth. Wedi’i gynllunio ar gyfer ymarferwyr, mae’n cynnig cyfle unigryw i addysgu yn yr iaith Gymraeg, gan feithrin cysylltiad dwfn â’n treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog.

Mae’n cynnig cyfle cyffrous i ymarferwyr yng Nghymru gyfoethogi eu haddysgu gydag offeryn rhyngweithiol sy’n berthnasol yn ddiwylliannol. Trwy integreiddio’r Gymraeg i fyd ymgysylltiol Minecraft Education, gall ymarferwyr:

  • wella sgiliau iaith
  • meithrin gwerthfawrogiad diwylliannol
  • ysgogi dysgwyr drwy brofiadau dysgu arloesol

Mae’r pecyn adnoddau nid yn unig yn gwneud dysgu’n fwy diddorol ond hefyd yn helpu i warchod a hyrwyddo’r iaith a’r diwylliant Cymraeg.

O’r ardal ‘Adnoddau’ ar Hwb, gall ymarferwyr lawrlwytho’r canlynol:

  • pecyn adnoddau Cymraeg Minecraft Cadw Cymru
  • pecyn adnoddau pecyn croen Cymraeg
  • canllaw i ymarferwyr ar gyfer pecyn adnoddau Cymraeg Cadw Cymru

Rhaid gosod y 2 becyn adnoddau a’u rhoi ar waith yn Minecraft Education. Mae camau manwl ar sut i lawrlwytho a gosod y pecynnau wedi’u cynnwys yn y canllaw i ymarferwyr. Mae hefyd yn cynnwys awgrymiadau ac arferion gorau ar gyfer defnyddio’r pecyn yn effeithiol yn yr ystafell ddosbarth.

  • Blaenorol

    Cadw Cymru: pontio treftadaeth Cymru a dysgu digidol

  • Nesaf

    Cystadlaethau a Heriau