English

2. Hyfforddiant a chymorth

Buddsoddodd Llywodraeth Cymru i ddarparu mynediad i Minecraft Education i bob athro a dysgwr yng Nghymru. At hynny, mae Hwb wedi sefydlu Canolfannau Dysgu Minecraft ledled Cymru.

Mae Canolfannau Dysgu Minecraft Hwb yn cynnwys grwpiau o ymarferwyr o ysgolion ledled Cymru. Dewiswyd yr ymarferwyr gan Hwb i gefnogi ymarferwyr eraill gyda’r nod o gyfoethogi’r Cwricwlwm i Gymru drwy ddefnyddio Minecraft Education i danio angerdd am greadigrwydd, arloesi, meddwl yn feirniadol, datrys problemau ac effeithiolrwydd personol drwy ddysgu seiliedig ar gemau. Yn ei hanfod, mae athrawon yn cefnogi athrawon.

Mae Canolfannau Dysgu Minecraft Hwb yn cynnal gweithdai rheolaidd i roi cyfle i athrawon ddatgloi potensial Minecraft Education yn eu hystafell ddosbarth a chyfoethogi’r Cwricwlwm i Gymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael Minecraft Education – yn cyfoethogi’r Cwricwlwm newydd i Gymr.

Mae 'Minecraft Education Teacher Academy', a grëwyd gan Gymuned Microsoft Educator ar gael.

Tîm Microsoft yw Supporting Minecraft Education y gall athrawon ymuno ag ef, gan ddefnyddio eu cyfeiriad e-bost Hwb. Mae gan y Tîm cymorth hwn ystod eang o adnoddau sy'n cysylltu â Meysydd Dysgu a Phrofiad, Dysgu Cyfunol a chymuned i drafod syniadau ac ateb cwestiynau. 

Mae Minecraft Education Community Hub yn eich helpu i dderbyn cymorth, cysylltu â'r gymuned, a dysgu sut i ddefnyddio Minecraft yn yr ystafell ddosbarth.

Mae cymorth gan dîm technegol Minecraft Education ar gael trwy agor tocyn.

Gofynion technegol

Dylai ysgolion ac awdurdodau lleol adolygu'r gofynion system ar gyfer defnyddio Minecraft Education. Yn ogystal, mae'n syniad da adolygu'r Canllaw Gweinyddu TG sy'n amlinellu'r gwefannau a'r porthladdoedd y mae angen iddynt fod ar agor ar y rhwydwaith er mwyn defnyddio Minecraft Education.

  • Blaenorol

    Sut i gael gafael ar Minecraft Education

  • Nesaf

    Bydoedd ac adnoddau Minecraft