English

Wrth ddylunio'r adnodd hwn, gwnaeth yr ymarferwyr a oedd yn rhan o'r broses ymrwymo i'r egwyddor y dylai'r adnodd hwn roi cymorth ymarferol er mwyn galluogi ysgolion i wneud gwelliannau. Gwnaethant ddatblygu cyfres o egwyddorion er mwyn helpu i ddylunio'r adnodd a'i roi ar waith.

Mae'r adnodd yn cynnwys ac yn hyrwyddo'r nodweddion a'r gwerthoedd canlynol:

  • ffocws ar gyflawni cystal â phosibl i bob dysgwr
  • bod yn gyson â gwaith yr holl sefydliadau/mentrau eraill
  • y gallu i fod yn hyblyg ac ymateb i gyd-destun yr ysgol
  • cysylltiadau clir â dysgu proffesiynol
  • proses barhaus ac nid ‘cipolwg’
  • cynaliadwyedd a hydrinedd
  • tryloywder a gonestrwydd
  • bod yn ddefnyddiol ac yn fuddiol
  • dwyieithrwydd drwyddo draw
  • caiff y broses ei chreu gan y rhai sy'n ei defnyddio

Yn gryno, dylai'r adnodd gefnogi:

  • pob dysgwr
  • pob ysgol
  • system addysg hunanwella gynaliadwy

Dylai ysgolion ddefnyddio'r adnodd fel dewislen. Mae'r adnodd yn cynnwys canllawiau ymarferol a deunyddiau enghreifftiol ar Sut i ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau ar gyfer gwaith gwerthuso a gwella. Ategir hyn gan ddewis helaeth o gwestiynau myfyrio ac adnoddau ychwanegol sy'n helpu ysgolion i wybod Beth i'w werthuso a'i wella. Yn ogystal â hynny, mae amrywiaeth o adnoddau rhyngweithiol yn cefnogi hyfforddiant, datblygiad a newid diwylliannol cadarnhaol mewn perthynas â gwaith gwerthuso a gwella.

Yn bwysig ddigon, yn ogystal â hyrwyddo ymddygiadau ac arferion a ddymunir, mae'r adnodd hwn hefyd yn ceisio anghymell arferion llai effeithiol, neu ‘arferion gwael’.