English

Mae’r adnodd cenedlaethol: gwerthuso a gwella’n adnodd i gefnogi ysgolion gyda hunanarfarnu a gwella.

Mae'n cynnwys:

  • canllawiau ymarferol i helpu ysgolion i ddefnyddio ystod o ddulliau i werthuso a gwella eu gwaith
  • dewislen o gwestiynau trafod gwerthuso i gefnogi ysgolion wrth ganolbwyntio ar agweddau o’u gwaith gwerthuso a gwella
  • adnoddau rhyngweithiol a deunyddiau hyfforddi
  • astudiaethau achos o arfer mewn ysgolion
  • dolenni i adnoddau a phecynnau cymorth ychwanegol

Map y safle

Lansiad ac adborth

Lansiwyd yr adnodd cenedlaethol: gwerthuso a gwella ar 11 Mai, 2022 (fideo’r lansiad). Bydd yr adnodd hwn yn parhau i esblygu dros amser wrth iddo gael ei gyfoethogi gydag astudiaethau achos ychwanegol a phecynnau cymorth wedi'u halinio. Byddem yn gwerthfawrogi unrhyw adborth ar yr adnodd i'n helpu i barhau i’w fireinio a gwella. Defnyddiwch y ffurflen ar-lein hon i gofnodi eich adborth. Diolch am eich cefnogaeth.