English

Bydd ymgysylltu â'r dysgwyr yn helpu i wneud gwelliannau:

  • pan fydd yn digwydd mewn amgylchedd diogel a chefnogol lle y bydd pob dysgwr yn teimlo'n hyderus i rannu ei safbwyntiau yn agored ac yn onest
  • pan fydd yn ystyried safbwyntiau amrywiaeth mor eang â phosibl o ddysgwyr
  • pan fydd gan bob dysgwr ac aelod o staff ddealltwriaeth glir o gwmpas a diben y gweithgaredd
  • pan fydd y dull cyfathrebu'n addas i oedran, gallu ac iaith yr holl ddysgwyr
  • pan eir i'r afael â rhwystrau rhag cyfathrebu mewn modd sensitif ac effeithiol
  • pan fydd yn cyfleu cryfderau a chyfleoedd i wella mewn perthynas ag agweddau penodol ar waith ysgol o safbwynt dysgwr
  • pan fydd safbwyntiau a gweithredoedd dysgwyr a gesglir drwy eu hadborth yn cael eu cyfleu'n glir i'r holl randdeiliaid

Bydd ymgysylltu â staff ysgol yn helpu i wneud gwelliannau:

  • pan gaiff yr holl weithgareddau eu cynnal mewn amgylchedd diogel sy'n llawn parch ac ymddiriedaeth ac sy'n gefnogol i bawb
  • pan fydd yr arweinwyr yn annog pawb i fod yn agored ac yn onest ac yn cyfleu'n glir y rhoddir gwerth ar safbwyntiau pob aelod o'r staff
  • pan gaiff amrywiaeth o wahanol brosesau eu defnyddio er mwyn ystyried safbwyntiau'r holl staff
  • pan fydd pob gweithgaredd yn canolbwyntio'n glir ar ddysgu a lles (y staff a'r dysgwyr)
  • pan fydd gan bob cyfranogwr ddealltwriaeth glir o gwmpas a diben y gweithgaredd
  • pan fydd yn hyrwyddo gweithgarwch myfyrio a thrafodaethau proffesiynol ac yn llywio dysgu proffesiynol
  • pan fydd yn cyfleu cryfderau a chyfleoedd i wella mewn perthynas ag agweddau penodol ar waith ysgol o safbwynt y staff
  • pan fydd y camau a gymerir mewn ymateb i'w hadborth yn cael eu cyfleu'n glir i'r holl staff

Bydd ymgysylltu â chymuned yr ysgol yn helpu i wneud gwelliannau:

  • pan gaiff y gweithgareddau eu dewis yn ofalus yn unol â chyd-destun yr ysgol
  • pan fydd yn helpu'r ysgol i ddeall ei chyd-destun ei hun yn gliriach
  • pan fydd yn helpu'r ysgol i oresgyn heriau sy'n deillio o'i chyd-destun
  • pan fydd yr ysgol yn mynd ati i geisio safbwyntiau unrhyw grwpiau ‘anodd eu cyrraedd’ yn ei chymuned
  • pan fydd yn galluogi'r gymuned i ddeall pam mae'r ysgol yn gweithio fel y mae, gan hyrwyddo deialog a her
  • pan fydd yn galluogi'r gymuned i gyfrannu at gynnydd a lles y dysgwyr
  • pan fydd yn galluogi'r ysgol i ddefnyddio gwasanaethau arbenigol neu wasanaethau cymorth
  • pan fydd yn cyfleu cryfderau a chyfleoedd i wella mewn perthynas ag agweddau penodol ar waith ysgol o safbwynt y gymuned
  • pan fydd y camau a gymerir mewn ymateb i'w hadborth yn cael eu cyfleu'n glir i gymuned yr ysgol

Mae ymgysylltu â rhanddeiliaid yn rhan annatod o'r broses o ddatblygu ysgol fel sefydliad sy'n dysgu'n effeithiol.

Mae'r adnoddau canlynol, a luniwyd fel rhan o'r daith dysgu proffesiynol, yn cynnig astudiaethau achos enghreifftiol o ysgolion sydd wedi ymgysylltu'n effeithiol â rhanddeiliaid fel rhan o'u datblygiadau ar gyfer y cwricwlwm newydd.