English

Cenhadaeth Ein Cenedl yw sicrhau safonau a dyheadau uchel ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc. Mae cyflwyno Cwricwlwm i Gymru ochr yn ochr â diwygiadau sylweddol yn ymwneud â phlant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), a phwyslais ar ecwiti yn y system addysg i sicrhau bod pob dysgwr yn cael cyfle i gyflawni eu gorau, wedi newid tirwedd y system addysg yng Nghymru.

Fel yr amlinellir yn yr Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol, rydym am i bob ymarferwr allu cael mynediad at ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel i ddatblygu gweithwyr addysg proffesiynol myfyriol, chwilfrydig a chydweithredol a diwylliant o gyfrifoldeb ar y cyd mewn perthynas â dysgu proffesiynol.

Dylai defnydd ymarferwyr o'r safonau proffesiynol i fyfyrio ar arferion unigol lywio trefniadau rheoli perfformiad a gwella ysgolion. Dylai hyn yn ei dro fwydo i ddatblygiad cynllun dysgu proffesiynol yr ysgol a thaith dysgu proffesiynol unigol ar gyfer pob ymarferydd.

Dylai ysgolion ddefnyddio pob math o ddysgu proffesiynol, p'un a yw hynny'n amser a glustnodir ar gyfer HMS neu ddysgu proffesiynol arall sy'n cael ei arwain gan ysgolion, neu ymgysylltu â dysgu proffesiynol a gyflwynir yn allanol (a ariennir trwy'r Grant Dysgu Proffesiynol a ffynonellau eraill) i ddatblygu eu staff o fewn cyd-destun  ysgolion fel sefydliadau dysgu.

Mae galluogi dysgu proffesiynol uchelgeisiol i bob ymarferydd mewn ysgol sy'n ymroddedig i fod yn sefydliad sy’n dysgu yn un o'r rhinweddau allweddol a fydd gan ysgolion sy'n llwyddo i wireddu'r cwricwlwm fel yr amlinellir yn y Canllawiau gwella ysgolion: fframwaith ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd.

Dylai arweinwyr barhau i ddefnyddio hunan-werthuso i'w helpu i gynllunio dysgu proffesiynol sy'n bodloni blaenoriaethau gwella'r ysgol. Dylent ystyried y gwahaniaeth y mae dysgu proffesiynol wedi'i wneud i ddysgu ac addysgu yn yr ystafell ddosbarth a'r effaith y mae hyn wedi'i chael ar gynnydd dysgwyr (lle bo hynny'n briodol). Dylai'r defnydd o HMS a dysgu proffesiynol arall fwydo'n uniongyrchol i mewn ac allan o'r broses gynllunio gwella ysgolion.

Mae Estyn wedi bod yn glir bod angen i arweinwyr greu diwylliant ac ethos cadarnhaol i hyrwyddo a chefnogi dysgu proffesiynol parhaus pob ymarferydd. Felly dylai arweinwyr ystyried sut mae pob math o ddysgu proffesiynol yn gwella addysgu ac yn sicrhau cyd-ddealltwriaeth o'r diwygiadau addysg.

Mae arweinwyr sy'n adeiladu ethos cryf i'r ysgol fel sefydliad sy’n dysgu wedi ymrwymo i ddefnyddio amser ar gyfer dysgu proffesiynol yn effeithiol ac i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o sut mae dysgu proffesiynol yn cyfrannu at ganlyniadau gwell i ddysgwyr. Dylent adnabod arferion effeithiol o fewn eu sefydliad a hwyluso dulliau effeithiol o rannu hyn gydag ymarferwyr drwy HMS neu ddulliau eraill: mae'n rhaid i ddealltwriaeth gyffredin a dull cyffredin gefnogi pob ymarferydd yn yr ysgol.

Nodwedd allweddol o ddefnydd effeithiol o ddysgu proffesiynol (boed hynny'n HMS, dysgu proffesiynol arall yn yr ysgol neu'n allanol) yw rhoi cyfleoedd i ymarferwyr weithio ar y cyd i ddatblygu dulliau newydd o ddysgu, addysgu a sicrhau lles. Gallai hyn fod drwy ymholi, arloesi neu werthuso effaith. Gall cydweithio fod o fewn y lleoliad, mewn partneriaeth ag ysgol neu ddarparwr arall, ar draws y clwstwr neu ar draws yr system addysg ehangach.

Dylai arweinwyr hefyd ystyried sut maen nhw'n gwerthuso effaith pob math o ddysgu proffesiynol i'w helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am ddarpariaeth a blaenoriaethau parhaus ar gyfer y cynllun datblygu ysgol.

Dylai dysgu proffesiynol gael ffocws ar wella addysgu a datblygu ymarfer yn unol â'r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu, arwain a chynorthwyo addysgu.

Mae Estyn wedi mynegi set eang o egwyddorion sy'n nodweddu dysgu proffesiynol effeithiol:

  • Cydweithredol – mae ymarferwyr yn gweithio gyda’i gilydd o fewn ysgolion, ac ar eu traws, fel nodwedd allweddol o ddysgu proffesiynol, gan gynnwys trwy hyfforddi a mentora.
  • Myfyriol – mae dysgu proffesiynol yn darparu cyfleoedd i ymarferwyr fyfyrio’n feirniadol ac yn ddiduedd ar arfer bresennol a bod yn agored i fyfyrdodau pobl eraill ynghylch sut y gellir gwella neu ddatblygu arferion.
  • Gwybodus – mae dysgu proffesiynol wedi’i seilio ar ymchwil ac arfer effeithiol ac yn cynorthwyo ymarferwyr i feithrin eu medrau eu hunain o ran defnyddio tystiolaeth, ymchwil a data.
  • Gwerthusol ac yn effeithiol – caiff allbynnau a deilliannau dysgu proffesiynol eu gwerthuso i ystyried yr effaith ar gynnydd a dysgu dysgwyr.
  • Ymatebol a hyblyg – mae ysgolion a darparwyr yn ymatebol i’w gwerthusiad o ddysgu proffesiynol, gan fyfyrio ar ei werth a’i gyfraniad at flaenoriaethau strategol yr ysgol neu y darparwr, a gwneud newidiadau fel ei fod yn meithrin capasiti i yrru gwelliant.

Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru wedi datblygu'r adnodd Arwain Dysgu Proffesiynol i helpu arweinwyr ysgolion yng Nghymru i feddwl yn ffres a strategol am sut maen nhw'n arwain dysgu proffesiynol o fewn eu hysgol a thu hwnt.

Ym mis Ionawr 2023 fe wnaeth Gweinidog y Gymraeg ac Addysg osod Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2023. Mae'r Rheoliadau'n cynyddu nifer y diwrnodau HMS o 5 i 6 diwrnod ar gyfer y 3 blynedd academaidd nesaf (2022 i 2023, 2023 i 2024 a 2024 i 2025).

Pryd dylid cymryd HMS

Rhaid cymryd y diwrnod HMS ychwanegol ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023 yn nhymor yr haf. Mae hyn er mwyn sicrhau bod digon o rybudd gan rieni/gofalwyr ac i leihau unrhyw effaith bosibl ar ddysgwyr mewn blynyddoedd arholiad. Bydd hefyd yn sicrhau bod ysgolion yn gallu gweithio gyda chyflenwyr bysiau a thrafnidiaeth.

Ym mlynyddoedd academaidd 2023 i 2024 a 2024 i 2025, gall ysgolion ac awdurdodau lleol benderfynu pryd i gymryd y diwrnod HMS ychwanegol. Dylai ysgolion ystyried y ffordd orau o wneud y mwyaf o'r diwrnod HMS ychwanegol i fynd i'r afael â'u hanghenion datblygu. Fel gyda phob HMS, rydym ni'n argymell bod ysgolion yn sicrhau bod digon o rybudd yn cael ei roi i rieni/gofalwyr.

HMS cyfnos

Mae rhai ysgolion yn defnyddio sesiynau cyfnos 3 x 2 awr wedi'u gwasgaru drwy gydol tymor i greu un diwrnod HMS. Rydym yn ymwybodol bod rhai ysgolion yn cwblhau 12 sesiwn cyfnos y flwyddyn yn lle 4 o'u dyddiau HMS, gyda'r ddau ddiwrnod arall yn cael eu cymryd mewn amser ysgol.

Rydym yn cydnabod y gallai darparu diwrnod HMS fel 3 sesiwn cyfnos helpu staff (gan gynnwys Cynorthwywyr Addysgu), sydd â'u cyfrifoldebau gofalu eu hunain, i gymryd rhan lawn mewn dysgu proffesiynol. Ond mae'n bwysig iawn bod rhieni neu gofalwyr yn cael gwybodaeth glir am y sesiynau hyn. Gall hyn helpu i osgoi unrhyw gamddealltwriaeth, er enghraifft mae rhieni/gofalwyr yn aml yn cwestiynu pam nad yw staff yn yr ysgol ar ddiwrnod sydd wedi’i glustnodi ar gyfer HMS. Yn yr achos yma, rhaid egluro bod staff eisoes wedi ymgymryd â 3 sesiwn cyfnos (gweler Cyfathrebu).

Cymryd diwrnodau HMS mewn blociau

Rydym wedi cael gwybod am ysgolion sydd wedi cymryd dyddiau HMS mewn bloc (er enghraifft, cymryd 5 yn olynol). Nid ydym o'r farn bod hyn yn arfer da a byddem yn annog pobl i beidio defnyddio’r dull hwn. Mae defnydd o amser ar gyfer HMS ar ei orau pan gaiff ei gymryd ar draws y flwyddyn i fynd i'r afael yn effeithiol â blaenoriaethau datblygu’r ysgol a chefnogi dysgu proffesiynol pob ymarferydd.

Dull cydweithredol o ddefnyddio HMS

Byddem yn annog ysgolion yn yr un ardal awdurdod lleol, awdurdod esgobaethol neu o'r un clwstwr i drefnu rhai sesiynau HMS ar yr un diwrnod. Byddai hyn yn helpu i leihau'r effaith ar rieni/gofalwyr sydd â dysgwyr mewn gwahanol leoliadau a byddai hefyd yn cefnogi ac yn galluogi cydweithio rhwng ysgolion i ystyried blaenoriaethau cenedlaethol ac i drafod pontio dysgwyr a'r continwwm 3 i 16.

Felly, byddem yn annog ysgolion i weithio gyda'u cydweithwyr clwstwr ar o leiaf un o ddiwrnodau HMS (er byddem yn disgwyl i'r rhain gynyddu i o leiaf 2 ddiwrnod mewn blynyddoedd i ddod) er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd i gydweithio a dysgu ar y cyd. 

Rydym yn cydnabod efallai na fydd hynny'n bosib i ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion.

Faint o rybudd sydd angen i ysgolion roi i rieni neu gofalwyr am y diwrnod HMS ychwanegol

Does dim cyfnod rhybudd penodol ond byddem yn gofyn i ysgolion roi cymaint o rybudd â phosib i rieni/gofalwyr gan fod angen i nifer wneud trefniadau gofal plant. Rydym yn ymwybodol bod llawer o ysgolion yn hysbysu rhieni am y dyddiau HMS arfaethedig ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf ar ddiwedd y flwyddyn academaidd flaenorol. Bydd hyn hefyd yn caniatáu rhoi digon o rybudd i gwmnïau bysiau ac eraill.

Y disgwyl yw bod HMS yn cynnig dysgu proffesiynol o safon ac y dylai gyd-fynd ag egwyddorion y Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol.

Blaenoriaethau cenedlaethol

Mae canolbwyntio ar ddysgu proffesiynol yng nghyd-destun ein blaenoriaethau i weithredu Cwricwlwm i Gymru, diwygiadau ADY, tegwch mewn addysg a'r Gymraeg yn gyfrifoldeb i bawb. Mae hyn yn hollbwysig os ydym am sicrhau llwyddiant Cenhadaeth ein Cenedl i ddarparu system addysg ddiwygiedig a llwyddiannus yng Nghymru. Y bwriad yw y bydd cefnogi ymarferwyr i gyflawni ein prif flaenoriaethau yn arwain at ganlyniadau gwell i ddysgwyr ar draws y sector ysgolion.

Byddem yn disgwyl i ysgolion ddefnyddio'r hyn sy'n cyfateb i 4 diwrnod HMS i fynd i'r afael â’r blaenoriaethau cenedlaethol, ac i alluogi pob aelod o staff i ymgysylltu â dysgu proffesiynol a chydweithio. Datblygwyd adnoddau cenedlaethol i gefnogi ysgolion ac maent i'w gweld isod.

Blaenoriaethau'r ysgol

Rydym yn gwybod bod ysgolion mewn gwahanol lefydd o ran eu taith datblygu, ac rydym am fod mor hyblyg â phosib o ran sut mae diwrnodau HMS yn cael eu defnyddio. Dylai'r dysgu proffesiynol yn ystod HMS adlewyrchu'r blaenoriaethau a nodir yn y cynllun datblygu ysgol ar sail hunan-werthuso, a dylai gefnogi ysgolion i ddatblygu'r 8 ffactor cyfrannu ar gyfer cyflawni Cwricwlwm i Gymru yn llwyddiannus.

Mae gan ysgolion yr hyblygrwydd i reoli dysgu proffesiynol eu staff yn ôl blaenoriaethau lleol ac unigol. Er y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i argymell themâu a phynciau cenedlaethol y dylid eu hystyried, mater i ysgolion yw penderfynu pa un y maen nhw'n mynd i'r afael â nhw gyntaf.

Dylid nodi, er bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i ganiatáu hyblygrwydd i ysgolion o ran eu dull o weithredu, mae angen i ni hefyd sicrhau bod HMS yn cael effaith gadarnhaol ar ymarferwyr ac ar ddysgwyr yn yr ystafell ddosbarth.

Yn achos ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion rydym yn cydnabod y bydd angen hyblygrwydd o ystyried amgylchiadau ac anghenion y lleoliadau hyn.

Hyfforddiant gorfodol

Dylai HMS barhau i ganiatáu i athrawon a chynorthwywyr addysgu ymgymryd â hyfforddiant gorfodol fel iechyd a diogelwch a diogelu plant. Fel arfer, cefnogir hyfforddiant gorfodol trwy’r awdurdodau lleol.

Rydym yn cydnabod, yn achos ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion, y gallai fod angen dyrannu mwy o amser HMS ar gyfer hyfforddiant gorfodol nag mewn ysgolion prif ffrwd.

Dylai holl staff yr ysgol gael gwybod am nod a phwrpas HMS sydd wedi'i gynllunio a sut mae'n cefnogi cynllun datblygu'r ysgol. Dylai fod yn glir beth y gellir ei ddisgwyl a dylai fod cynlluniau clir ar gyfer yr hyn y bydd yr HMS yn ei gyflawni er mwyn galluogi staff i gysylltu'r dysgu proffesiynol gyda'u teithiau unigol. Argymhellir bod cyrff llywodraethu hefyd yn cael gwybod am bwrpas a nodau HMS.

Byddem hefyd yn cynghori bod ysgolion yn cyfathrebu'n glir gyda'r rhieni/gofalwyr ynghylch pwrpas a nodau eu HMS. Mae sesiynau HMS yn rhoi baich ariannol ychwanegol ar rieni sydd angen trefnu gofal plant ar gyfer eu plentyn. Gall cyfathrebu tryloyw a chlir rhwng ysgolion a'r gymuned helpu i chwalu camddealltwriaeth gan rieni megis dyddiau HMS yn 'ddiwrnod i ffwrdd', yn enwedig os yw ysgolion yn defnyddio model cyfnos ac nid yw rhieni'n ymwybodol.

Mae modd cyfathrebu â rhieni a gofalwyr mewn sawl ffordd gan gynnwys drwy gylchlythyrau, e-byst a chyfryngau cymdeithasol.

Dylai pob ymarferydd ysgol fynychu a chael budd o HMS.

Rydym yn cydnabod bod telerau cyflogaeth ar gyfer cynorthwywyr addysgu yn cael eu gosod gan awdurdodau lleol unigol a’u bod yn wahanol i rai athrawon a phenaethiaid sy'n cael eu rheoli gan ddogfen cyflog ac amodau athrawon ysgol (Cymru).  Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn glir, er mwyn sefydlu diwylliant cadarnhaol sy'n annog ac yn cefnogi ymarferwyr i gymryd rhan mewn dysgu proffesiynol, y dylai pob ymarferydd gymryd rhan mewn HMS, gan gynnwys cynorthwywyr addysgu. 

Byddem yn annog cynorthwywyr addysgu ac athrawon i gymryd rhan mewn HMS gyda'i gilydd lle bo hynny'n briodol fel eu bod yn gallu datblygu dealltwriaeth gyffredin o sut y bydd yr ysgol yn mynd i'r afael â'n blaenoriaethau cenedlaethol.

Pan na all cynorthwyydd addysgu neu athrawon rhan-amser fynychu HMS, dylai'r uwch dîm arwain gynnig cyfleoedd iddynt gymryd rhan mewn dysgu proffesiynol gan gynnwys eu cyfeirio at adnoddau cydamserol ac anghydamserol, gan gynnwys y rhai a ddatblygwyd gan y consortia rhanbarthol, yr awdurdod lleol neu Lywodraeth Cymru. Rydym hefyd wedi gweithio gyda chonsortia rhanbarthol er mwyn sicrhau bod dysgu proffesiynol penodol ar gael ar gyfer cynorthwywyr addysgu drwy'r Llwybr Dysgu Cynorthwyol Addysgu (TALP).

Mae cynorthwywyr addysgu yn gwneud cyfraniad hanfodol i gefnogi dysgwyr i gael mynediad at ddysgu gwahaniaethol yn yr ystafell ddosbarth. Gall rhai hefyd fod yn cyflawni'r rôl cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol (ALNco) lle'r oeddent yn gydlynydd anghenion addysgol arbennig (SENCo) cyn 4 Ionawr 2021. Felly, rydym yn disgwyl i gynorthwywyr addysgu gael eu cynnwys mewn unrhyw gyfleoedd HMS neu ddysgu proffesiynol sy'n gysylltiedig ag ADY.

Rydym yn cydnabod efallai na fydd ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion yn gallu dilyn rhai o agweddau penodol y canllawiau hyn. Fodd bynnag, byddem yn disgwyl iddynt fabwysiadu'r egwyddorion cyffredinol a'r arferion da. 

Byddem yn disgwyl i bob ymarferydd gael mynediad at y dysgu a'r hyfforddiant proffesiynol priodol sydd ei angen i'w galluogi i gyflawni eu swyddi'n ddiogel ac yn effeithiol ac i ddiwallu anghenion eu dysgwyr.

Dylai ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion hefyd sicrhau bod rhieni/gofalwyr yn cael digon o rybudd o unrhyw hyfforddiant arfaethedig neu HMS i ganiatáu i rieni wneud trefniadau gofal plant priodol.

Dyma rhai o'r adnoddau sydd ar gael i helpu ysgolion wrth gynllunio a chyflwyno HMS sy'n canolbwyntio ar y blaenoriaethau cenedlaethol.

Thema HMS: Y system anghenion dysgu ychwanegol

Rhaglen o ddysgu ar-lein i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth er mwyn gwireddu uchelgeisiau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 i ddysgwyr ledled Cymru.

Cyflwyniad i'r system anghenion dysgu ychwanegol newydd yng Nghymru

Cwrs wedi'i gynllunio ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio gyda phlant neu bobl ifanc, gan gynnwys rhieni a gofalwyr.

Egwyddorion Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY): hyfforddiant ar-lein ar gyfer ymarferwyr mewn rolau statudol

Gwybodaeth am y system ADY.

Egwyddorion ac arferion ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Pwysigrwydd y broses ar gyfer Cynlluniau Datblygu Unigol.

Anghenion dysgu ychwanegol: dysgu proffesiynol ar gyfer penaethiaid

Dealltwriaeth o oblygiadau diwygiadau ADY.

Deall rôl strategol y Cydlynydd ADY.

Llwybr Dysgu Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Penodau craidd, canolradd ac uwch i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth o dan un o bedair thema drawsbynciol: arweinyddiaeth a rheoli; cyfathrebu a chydweithio; ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth; a chefnogi dysgwyr ag ADY

Niwrowahaniaeth: Cymuned ymarfer

Digwyddiadau wedi'u recordio yn rhannu arferion da a chefnogaeth gan gymheiriaid wrth gefnogi dysgwyr niwrowahanol

Dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i wella addysgu a dysgu.

Thema HMS: Ysgolion Bro

Canllawiau Ysgolion Bro: Gellid defnyddio’r canllawiau fel man cychwyn ar gyfer trafodaeth staff cyfan ar y ddarpariaeth bresennol ym mhob un o'r 3 maes allweddol gyda chyfleoedd i nodi blaenoriaethau ar gyfer pob un.

Pecyn Cymorth Ymgysylltu â'r Gymuned a Theuluoedd

Glasbrint Parentkind ar gyfer ysgolion sy'n gyfeillgar i rieni

Thema HMS: Grant Datblygu Disgyblion (GDD)

Trafodaeth gyda staff ar:

  • ffyrdd o gefnogi plant a theuluoedd sy'n byw mewn tlodi; nodi rhwystrau costau a risgiau stigma ar draws y diwrnod ysgol a thu hwnt;
  • dulliau ar sail tystiolaeth i wella addysgu a dysgu.

Trechu tlodi gyda'n gilydd: canllaw i ysgolion

Pris tlodi disgyblion: Plant yng Nghymru

Cefnogi Dysgwyr Bregus trwy addysgu a dysgu effeithiol: Dysgu proffesiynol

Thema HMS: Cefnogi cyflawniad a diogelu

Presenoldeb: Adolygu polisi cyfan yr ysgol ar bresenoldeb a strategaethau ar gyfer datblygu presenoldeb da. Dadansoddi presenoldeb gwahanol grwpiau o fewn yr ysgol, yn enwedig y rhai sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim a'r rhai o grwpiau bregus.

Thema HMS: Dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol

Fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol: Trafodaeth ar y fframwaith a defnyddio hyn i greu cynllun gweithredu.

Thema HMS: Hawliau plant a phobl ifanc mewn addysg

Cefnogi'r dysgwyr sy'n agored i niwed. Ysgolion i ddefnyddio’r fframwaith i archwilio arferion presennol a nodi targedau ar gyfer datblygu.

Fframwaith Cymru sy'n ystyriol o drawma

Thema HMS: Dysgu Proffesiynol Cwricwlwm i Gymru y Consortia Rhanbarthol

Mae pob sesiwn y Rhaglen Dysgu Proffesiynol Cwricwlwm i Gymru yn cael ei recordio i gael mynediad ar ôl y sesiwn. Gall ysgolion ddefnyddio'r sesiynau hyn mewn HMS.

Consortia Addysg Gymraeg – Cwricwlwm i Gymru Dysgu Proffesiynol

Thema HMS: Rhaglenni Cenedlaethol y Consortia Rhanbarthol

Gellir gweld holl raglenni dysgu proffesiynol y consortia rhanbarthol yma: Consortia Addysg Gymraeg | Consortia Addysg Cymru

Thema HMS: 12 egwyddor pedagogaidd

Adnodd i arweinwyr i gefnogi gefnogi trafodaeth ac ystyriaeth broffesiynol i helpu i lunio addysgeg ac ymarfer

Thema HMS: Datblygu'r Gymraeg yn eich ysgol chi

Datblygu'r Gymraeg o fewn eich ysgol chi

Siarter Iaith

Thema HMS: 12 Dilysnod yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol

Arwain Dysgu Proffesiynol

Thema HMS: Uwchgynhadledd Addysg y Byd (WES) 2023

Gellir gweld adnoddau amrywiol a allai fod o ddefnydd am 12 mis yn dilyn WES 2023.  Gall y rhai a gofrestrodd ar gyfer WES gael mynediad i'r wefan a mewngofnodi ('Fy nghyfrif'): https://www.worldedsummit.com/

Gall unrhyw un sydd angen cofrestru ar gyfer WES ddefnyddio eu cyfeiriad Hwb a chofrestru.

Thema HMS: Adnoddau dysgu proffesiynol newydd

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag ystod o bartneriaid allanol ac arbenigwyr i ddatblygu adnoddau dysgu proffesiynol newydd i gefnogi ymarferwyr gan gynnwys:

Thema HMS: Mewnwelediadau polisi dysgu proffesiynol

Mae digwyddiadau 'Mewnwelediad Polisi' rhithwir Llywodraeth Cymru yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid ynghylch datblygiadau dysgu proffesiynol.

Cyflwynir y sesiynau 1-awr gan ymarferwyr ysgol sydd wedi’u secondio i Lywodraeth Cymru. Fe'u cynhelir yn rhithiol ac maent hefyd ar gael yn asyncronig.

Cafodd y grant dysgu proffesiynol ei ddarparu i ysgolion am y tro cyntaf yn 2018 er mwyn caniatáu i ysgolion baratoi ar gyfer Cwricwlwm i Gymru.

Pwrpas y cyllid dysgu proffesiynol

Prif bwrpas y cyllid yw creu amser mewn ysgolion i ymarferwyr ddatblygu eu sgiliau a'u hymarfer i gyflwyno addysgu a dysgu o ansawdd uchel i bob dysgwr. Mae hefyd yn galluogi ysgolion i barhau i addasu a chael mynediad at gymorth angenrheidiol, gan gynnwys rhaglen dysgu proffesiynol Cwricwlwm i Gymru.

Mae'n hanfodol caniatáu amser a gofod i ymarferwyr ac arweinwyr weithio gyda'i gilydd ar draws ysgolion a rhwydweithiau i barhau i gyflwyno Cwricwlwm i Gymru a pharhau i gael y gefnogaeth angenrheidiol. Gyda hyn mewn golwg, mae'r amodau ariannu yn ddigon hyblyg i alluogi ysgolion i gydweithio mewn ffyrdd i ddiwallu anghenion penodol eu lleoliadau eu hunain.

Bydd y cyllid, a delir i ysgolion drwy'r consortia rhanbarthol neu'r awdurdodau lleol, yn galluogi ysgolion i ariannu dysgu proffesiynol yn unol â'u cynllun datblygu ysgol.  

Enghreifftiau o sut gellir defnyddio'r cyllid dysgu proffesiynol

Mae casgliad o astudiaethau achos gan ysgolion ar Hwb yn dangos amrywiaeth o ddulliau arloesol i sicrhau'r gorau o’r cyllid dysgu proffesiynol. Gall ysgolion hefyd fanteisio ar amrywiaeth o adnoddau dysgu proffesiynol drwy'r storfa ar Hwb.

Dyma rai enghreifftiau o sut y gellir defnyddio'r cyllid:

  • rhyddhau staff i fod yn rhan o ddysgu proffesiynol a chynllunio cydweithredol - ar lefel ysgol, ac ar draws clystyrau a rhwydweithiau
  • cymell a gwobrwyo staff i ymchwilio i oblygiadau Cwricwlwm i Gymru i'w hymarfer addysgu ac asesu eu hunain – ar lefel unigol, drwy ryddhau ar gyfer ymholi proffesiynol neu ddysgu proffesiynol wedi'i ariannu
  • creu rolau a swyddi sy'n ymroddedig i'r genhadaeth, ac yn enwedig i gefnogi cydweithwyr, adrannau ac ysgolion cyfan drwy ymholi proffesiynol, newid rheolaeth ac ysgolion fel gweithgareddau sefydliadau dysgu
  • datblygu rôl ysgol neu hyfforddwr dysgu proffesiynol lefel clwstwr

Ni ddylid defnyddio'r cyllid i ariannu gweithgareddau neu pryniadau sydd ddim yn gysylltiedig â dysgu proffesiynol ar gyfer Cwricwlwm i Gymru a blaenoriaethau eraill Llywodraeth Cymru. Noder y bydd hapsampl o ysgolion yn cael eu dewis i ddarparu tystiolaeth o wariant priodol y dyraniad cyllid dysgu proffesiynol.

Pwy ddylai elwa o'r cyllid

Yn unol â'r Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol, mae dysgu proffesiynol yn hawl i bob ymarferydd mewn ysgolion, nid athrawon yn unig.

Nid yw'r cyllid dysgu proffesiynol wedi'i gadw'n unswydd ar gyfer athrawon ac arweinwyr a dylid ei ddefnyddio hefyd i hwyluso mynediad at ddysgu proffesiynol i gynorthwywyr addysgu ac athrawon cyflenwi, er enghraifft.

Felly, y disgwyl yw, er bod y fformiwla ariannu yn seiliedig ar nifer yr athrawon cyfwerth â llawn amser mewn ysgolion, dylai pob ymarferydd - athrawon, cynorthwywyr addysgu ac arweinwyr - gael cyfle i ymgysylltu â dysgu proffesiynol a dylid defnyddio'r cyllid i ddarparu addysgu a dysgu o ansawdd uchel.

Pa ddysgu proffesiynol sydd ar gael

Mae cynnig dysgu proffesiynol eang ac amrywiol ar gael i gefnogi datblygiad parhaus ymarferwyr yn unol â'r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu, arwain a chynorthwyo addysgu.

Mae rhagor o wybodaeth am y cynnig dysgu proffesiynol presennol ar gael Hwb.