English

Mae'r canllawiau hyn yn cefnogi ysgolion a lleoliadau i wneud defnydd effeithiol o ddiwrnodau hyfforddiant mewn swydd (HMS) a'r grant dysgu proffesiynol er mwyn cynllunio a darparu dysgu proffesiynol effeithiol a chynhwysol sy'n cyd-fynd â'u blaenoriaethau gwella.

Ein nod yw sicrhau bod pob ymarferydd yn gallu manteisio ar ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel i gefnogi datblygiad pellach gweithlu addysg proffesiynol sy'n fyfyriol, yn chwilfrydig ac yn gydweithredol, ac i feithrin diwylliant o gyfrifoldeb ar y cyd tuag at ddysgu proffesiynol. Mae dysgu proffesiynol parhaus yn hanfodol er mwyn galluogi ymarferwyr i ymateb yn hyderus i newid ac i ddiwallu anghenion amrywiol dysgwyr yn effeithiol. Mae neilltuo amser a chyfle ystyrlon ar gyfer dysgu proffesiynol yn galluogi staff i fyfyrio, cydweithio a chryfhau eu hymarfer. 

Ein nod yw cyflawni safonau a dyheadau uchel ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc. Mae'r Cwricwlwm i Gymru, ochr yn ochr â diwygiadau sylweddol ym maes plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), a phwyslais ar degwch wedi trawsnewid tirwedd y system addysg yng Nghymru. Ar y cyd, mae’r diwygiadau hyn yn canolbwyntio ar sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei gefnogi i gyflawni ei orau

Mae'r canllawiau hyn wedi'u hanelu at benaethiaid, timau arweinyddiaeth ysgolion a chyrff llywodraethu ysgolion, yn ogystal ag eraill o fewn ysgolion sy'n ymwneud â chynllunio diwrnodau HMS a chyfleoedd dysgu proffesiynol i ymarferwyr. Mae hyn yn cynnwys pob ysgol a gynhelir yng Nghymru (gan gynnwys ysgolion arbennig), unedau cyfeirio disgyblion ac addysg heblaw yn yr ysgol. Bydd hefyd o ddiddordeb i adrannau addysg awdurdodau lleol.

Mae'r canllawiau hyn yn anstatudol. Nid oes gofyniad deddfwriaethol ar y gynulleidfa i roi sylw iddynt, ond maent wedi'u cynllunio i fod o gymorth i'r rhai sydd â swyddogaethau mewn perthynas â diwrnodau HMS o dan Reoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 (fel y'u diwygiwyd yn fwyaf diweddar gan Reoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2026). Rydym yn disgwyl i'r gynulleidfa arfaethedig ystyried y canllawiau wrth arfer y swyddogaethau hynny. Gwneir y canllawiau hyn o dan adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Yn y canllawiau hyn defnyddir ‘dylid a dylai’ i olygu ein bod yn argymell yn gryf. Pan fyddwn yn defnyddio ‘rhaid’ rydym yn cyfeirio at rwymedigaeth gyfreithiol sy'n golygu ei bod yn ofyniad i rywbeth gael ei wneud.

Dylai dysgu proffesiynol ganolbwyntio ar wella addysgu a datblygu ymarfer, yn unol â’r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu, arweinyddiaeth a chynorthwyo addysgu. Dylai gefnogi ymarferwyr ar bob cam o'u gyrfa i gryfhau eu hymarfer a chyfrannu at welliant yn eu hysgol ac ar draws y system ehangach.

Mae ysgolion a lleoliadau llwyddiannus yn sefydliadau dysgu sy'n blaenoriaethu dysgu proffesiynol ac yn sicrhau ei fod yn cyd-fynd yn agos â blaenoriaethau gweithredu a gwella'r cwricwlwm. Mae'r disgwyliad hwn wedi'i nodi yn y ddogfen canllawiau gwella ysgolion, sy'n egluro rolau ar ôl adolygu rolau a chyfrifoldebau partneriaid addysg yng Nghymru a chyflwyno trefniadau i wella ysgolion.

Mae dysgu proffesiynol effeithiol yn cynnig cyfleoedd i gydweithredu, ymholi, arloesi a gwerthuso effaith. Gall y cydweithrediad hwnnw ddigwydd o fewn yr ysgol, ar draws clystyrau, neu drwy bartneriaethau ehangach ar draws y sector, yn fertigol ac yn llorweddol. Mae partneriaethau o'r fath yn helpu i adeiladu capasiti, arbenigedd a chynaliadwyedd ar draws y system.

Dylai arweinwyr hefyd werthuso effaith pob math o ddysgu proffesiynol yn rheolaidd i lywio penderfyniadau am ddarpariaeth a blaenoriaethau'r dyfodol o fewn y cynllun datblygu ysgol (mae arweiniad ar gynlluniau datblygu ysgol o fewn y canllawiau gwella ysgolion). Mae hyn yn dilyn Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014 (deddfwriaeth.gov.uk).

Nododd Estyn, yn ei 'Arweiniad atodol: Gwerthuso ansawdd ac effaith dysgu proffesiynol' (2022), set eang o egwyddorion sylfaenol sy'n nodweddu dysgu proffesiynol effeithiol. Dywedodd fod dysgu proffesiynol effeithiol yn gydweithredol, yn fyfyriol, yn wybodus, yn werthusol ac yn effeithiol, ac yn ymatebol ac yn hyblyg.

Dylai'r ffordd y mae ymarferwyr yn defnyddio'r safonau proffesiynol i fyfyrio ar eu hymarfer unigol lywio trefniadau rheoli perfformiad a phrosesau gwella ysgolion. Dylai hyn, yn ei dro, lywio cynnig dysgu proffesiynol yr ysgol a chefnogi taith ddysgu broffesiynol unigol pob ymarferydd.

Dylai ysgolion fanteisio ar bob math o ddysgu proffesiynol, boed hynny drwy amser a neilltuwyd i HMS, dysgu proffesiynol arall a arweinir gan ysgolion, neu drwy ymgysylltu â darpariaeth allanol (gan gynnwys darpariaeth gan Dysgu a darparwyr eraill, a ariennir drwy’r grant dysgu proffesiynol a ffynonellau eraill). Gyda'i gilydd, dylai'r dulliau hyn gefnogi datblygiad staff o fewn cyd-destun ysgolion fel sefydliadau sy'n dysgu.

Bydd rôl Dysgu fel y corff cenedlaethol ar gyfer cymorth dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth yn sicrhau bod gan ymarferwyr fynediad at gyfleoedd dysgu proffesiynol o ansawdd uchel sy’n gyson ar lefel genedlaethol.

Mae arweinwyr yn chwarae rôl ganolog wrth gynllunio a galluogi dysgu proffesiynol o ansawdd uchel i bob ymarferydd. Mae gan arweinwyr gyfrifoldeb i greu ac ymgorffori diwylliant teg, cydweithredol, sy'n canolbwyntio ar y dysgwr o fewn yr ysgol. Mae dysgu proffesiynol yn un o'r dulliau i alluogi hyn.

Dylai arweinwyr ddefnyddio hunanwerthuso i nodi a chynllunio dysgu proffesiynol pwrpasol sy'n cefnogi blaenoriaethau gwella ysgolion. Dylent ystyried sut y mae dysgu proffesiynol wedi gwella ymarfer yn yr ystafell ddosbarth a, lle bo’n briodol, ei effaith ar gynnydd dysgwyr. Dylai diwrnodau HMS a dysgu proffesiynol arall gysylltu'n glir â'r broses o gynllunio gwella ysgolion a llywio blaenoriaethau parhaus.

Mae Estyn wedi pwysleisio, gan gynnwys yn ei adroddiad blynyddol 2024 i 2025, y dylai arweinwyr osod gweledigaeth glir, sicrhau bod dysgu proffesiynol yn cyd-fynd â blaenoriaethau, a monitro ei effaith yn drylwyr. Dylai arweinwyr feithrin diwylliant cadarnhaol sy'n cefnogi dysgu proffesiynol parhaus i bob aelod o staff ac yn sicrhau dealltwriaeth gyffredin o ddiwygiadau addysg.

Mae arweinwyr sy’n meithrin diwylliant dysgu cryf yn gwneud defnydd effeithiol o’r amser a neilltuir ar gyfer dysgu proffesiynol, ac yn hyrwyddo dealltwriaeth gyffredin o’i effaith gadarnhaol ar ganlyniadau dysgwyr. Maent yn nodi arferion effeithiol o fewn yr ysgol ac yn cefnogi dulliau cydweithredol o rannu hynny trwy HMS neu drwy gyfleoedd dysgu proffesiynol eraill.

Bydd 6 diwrnod HMS yn cael eu darparu bob blwyddyn academaidd o 2026 i 2027 ymlaen, gan adeiladu ar y trefniadau sydd wedi bod ar waith dros dro ers 2019.

Hyd at 2025 i 2026, roedd y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) yn darparu bod 5 diwrnod HMS. Roedd Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 yn darparu diwrnodau HMS ychwanegol ad hoc. Darparwyd diwrnod ychwanegol yn y modd hwn o 2019 i 2020 tan 2025 i 2026.

Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2026 yn diwygio Rheoliadau 2003. Mae’r Rheoliadau 2003 diwygiedig bellach yn darparu cyfanswm o 6 diwrnod HMS fel trefniant parhaol.

Ni ddarperir unrhyw ddiwrnodau HMS ychwanegol drwy Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru). Ond caiff y Ddogfen ei diwygio i adlewyrchu’r ffaith bod Rheoliadau diwygiedig 2003 bellach yn darparu ar gyfer 6 diwrnod HMS (12 sesiwn ysgol), pan fo’n ofynnol i athrawon weithio, ond nid i addysgu. Bydd y diwrnodau HMS hynny yn cael eu defnyddio at y dibenion a nodir yn Rheoliadau diwygiedig 2003.

Y disgwyliad yw bod pob diwrnod HMS yn darparu dysgu proffesiynol o ansawdd uchel.

Yn unol â'r dibenion a nodir yn y Rheoliadau 2003 diwygiedig, rhaid defnyddio diwrnodau HMS yn bennaf neu'n gyfan gwbl ar gyfer hyfforddiant, cynllunio a pharatoi mewn perthynas â'r canlynol:

  • cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
  • trefniadau cwricwlwm ac asesu o dan Rannau 2, 3 a 4 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, i gefnogi cynnydd mewn dysgu. Gall hyn gynnwys paratoi ar gyfer cyrsiau astudio sy’n arwain at gymwysterau, yn unol â’r canllawiau dysgu 14 i 16 oed
  • y blaenoriaethau cenedlaethol o wella cynnydd disgyblion drwy sicrhau bod eu dysgu'n cael ei gefnogi gan amrywiaeth o wybodaeth, sgiliau a phrofiad, a lleihau effaith tlodi ar gynnydd a chyrhaeddiad disgyblion
  • blaenoriaethau gwella ysgolion a nodwyd yn y cynllun datblygu ysgol
  • hyfforddiant a dysgu proffesiynol arall ar faterion y mae'r ysgol yn ystyried eu bod yn briodol eu cynnwys ar ddyddiau HMS. Gall hyn gynnwys diogelu (lle mae canllawiau statudol Llywodraeth Cymru, cadw dysgwyr yn ddiogel, yn ei gwneud yn ofynnol i bob aelod o staff gael hyfforddiant diogelu sy’n briodol i’w rôl ac sy’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd), hyfforddiant ar y ddyletswydd Prevent, a hyfforddiant iechyd a diogelwch, y gellir ei gefnogi drwy awdurdodau lleol. Fodd bynnag, yn gyffredinol, rhaid i'r rhan fwyaf o'r amser a neilltuir i HMS ymwneud â'r 4 cyntaf o'r 5 diben a restrir. Ni ddylai'r hyfforddiant arall hwn gyfrif am fwyafrif amser HMS dros flwyddyn ysgol

Yn unol â hyn, rydym yn awgrymu y dylai ysgolion sicrhau bod o leiaf 4 diwrnod HMS bob blwyddyn yn cael eu defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf i ddarparu dysgu proffesiynol sy'n canolbwyntio ar ddysgu ac addysgu. Mae hyn yn sicrhau bod y rhan fwyaf o amser HMS yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gwelliannau i ymarfer yn yr ystafell ddosbarth yn uniongyrchol.

Wrth gynllunio darpariaeth HMS yn unol â'r dibenion a ragnodir:

  • Dylai ysgolion ystyried sut i gysylltu darpariaeth HMS ag amcanion Cymraeg 2050 a Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025.
  • Dylai ysgolion â chymeriad crefyddol ystyried sut i ddefnyddio darpariaeth HMS i gynnal ethos crefyddol yr ysgol.
  • Dylai ysgolion ystyried sut i sicrhau bod y ddarpariaeth HMS yn cyd-fynd â'r canllawiau statudol, sef y Fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol ac â chanllawiau ar gynhwysiant, er mwyn hyrwyddo lles staff a dysgwyr. Argymhellir bod ysgolion yn ystyried sut mae'r ddarpariaeth HMS yn cyd-fynd â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol) a'r dyletswyddau yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol (Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol) statudol yr ysgol.

Gellir gwneud hyn naill ai mewn perthynas â'r dibenion penodol a restrir (ADY, cwricwlwm ac asesu, blaenoriaethau cenedlaethol a blaenoriaethau gwella ysgolion) lle bo hynny'n berthnasol, neu fel hyfforddiant arall.

Pryd dylid cynnal HMS

Gall ysgolion barhau i benderfynu pryd mae'n fwyaf defnyddiol cynnal eu diwrnodau HMS. Dylai ysgolion ymgynghori â'u hawdurdodau lleol wrth wneud hynny. Ac wrth gynllunio’r diwrnodau hyn, gallai ysgolion ystyried sut y gall yr amser gefnogi eu hanghenion datblygu orau drwy gydol y flwyddyn, gan sicrhau bod staff yn cael cyfle i fanteisio ar ddysgu proffesiynol ystyrlon pan fydd yn cael yr effaith fwyaf. Gall hefyd helpu i wasgaru diwrnodau HMS fel bod y dysgu’n teimlo’n fwy ymarferol ac yn cefnogi gwelliant parhaus.

Trefnu diwrnodau HMS mewn blociau

Mae rhai ysgolion wedi dewis cynnal sawl diwrnod HMS gyda'i gilydd fel bloc. Er y gall hyn fod yn gyfleus o safbwynt amserlennu, gall cynnal gormod o ddiwrnodau HMS yn olynol ei gwneud yn anoddach i staff fanteisio ar ddysgu proffesiynol mewn ffordd ystyrlon a graddol. Gall hyn hefyd greu heriau i deuluoedd, yn enwedig pan fo sawl diwrnod HMS yn cael eu cynnal gyda’i gilydd.

I gefnogi patrwm mwy cytbwys o ddysgu proffesiynol, anogir ysgolion i osgoi amserlennu mwy na 2 ddiwrnod HMS yn olynol fel bloc o fewn y flwyddyn academaidd. Mae cyfyngu nifer y diwrnodau HMS mewn bloc yn helpu i wasgaru’r amser drwy gydol y flwyddyn, gan roi cyfleoedd rheolaidd i ymarferwyr fyfyrio, cynllunio ac adeiladu ar eu dysgu. Mae'r dull hwn hefyd yn ei gwneud yn haws i rieni a gofalwyr gynllunio ymlaen llaw ac yn cefnogi trefn fwy llyfn ar draws cymuned yr ysgol.

HMS gyda'r hwyr

Mae rhai ysgolion yn trefnu cyfres o sesiynau byrrach ar ôl ysgol, yn aml 3 sesiwn 2 awr 'gyda’r hwyr' neu ‘gyfnos’ dros gyfnod o dymor, i wneud iawn am amser sy’n gyfwerth ag 1 diwrnod HMS. Weithiau, mae ysgolion yn dewis cynnal sesiynau gyda’r hwyr i roi mwy o hyblygrwydd i staff, gan gynnwys cynorthwywyr addysgu, gymryd rhan mewn dysgu proffesiynol. Os yw staff wedi mynychu sesiynau gyda’r hwyr, y tu allan i oriau arferol y diwrnod ysgol, i gyflawni amser sy’n gyfwerth ag 1 diwrnod HMS, mae hyn yn golygu nad oes angen iddynt fynd i’r ysgol ar ddiwrnod pan nad yw’r dysgwyr yn bresennol. Mae rhai mathau o ddysgu proffesiynol a gwaith paratoi yn addas i’w cynnal mewn sesiynau byrrach ar ôl ysgol.

Fodd bynnag, anogir ysgolion i ddefnyddio sesiynau gyda'r hwyr am ddim mwy nag 1 neu 2 ddiwrnod HMS trwy gydol y flwyddyn academaidd. Mae cyfyngu nifer y sesiynau hyn yn helpu i sicrhau bod dysgu proffesiynol yn parhau’n raddol ac yn bwrpasol, gan osgoi dryswch ynghylch sut y caiff amser HMS ei neilltuo. Os defnyddir sesiynau gyda’r hwyr, mae’n bwysig rhannu’r wybodaeth hon yn agored â rhieni a gofalwyr, fel eu bod yn deall sut mae’r oriau hyn yn cyfrannu at amser HMS.

Dull cydweithredol o ymdrin â HMS

Gall cydweithio ar gynllunio HMS fod o fudd i ysgolion, ymarferwyr a theuluoedd. Gallai ysgolion o fewn yr un awdurdod lleol, awdurdod esgobaethol neu glwstwr elwa ar gynnal rhai o’u diwrnodau HMS ar yr un dyddiadau, gan leihau’r anhawster i rieni a gofalwyr sydd â phlant mewn mwy nag un ysgol a chreu cyfleoedd i ysgolion ddod ynghyd.

Mae cydamseru diwrnodau HMS yn creu cyfleoedd gwerthfawr ar gyfer cydweithio rhwng ysgolion, gan alluogi ymarferwyr i rannu arferion effeithiol, archwilio blaenoriaethau cyffredin a dysgu oddi wrth ddulliau ei gilydd. Gall dod at ei gilydd yn y modd hwn gefnogi gwaith ar flaenoriaethau cenedlaethol a chryfhau dysgu ar draws y continwwm 3 i 16, yn unol â'r canllawiau gwella ysgolion.

Anogir ysgolion i gydweithio â chlystyrau ac awdurdodau lleol i gytuno ar amseriad rhai neu bob un o'u diwrnodau HMS, lle bo hynny’n ymarferol ac yn cyd-fynd â’u blaenoriaethau dysgu proffesiynol.

Cyfathrebu â rhieni a gofalwyr am ddiwrnodau HMS

Nid oes cyfnod rhybudd penodol ar gyfer diwrnodau HMS, ond gall rhannu’r dyddiadau â rhieni a gofalwyr cyn gynted ag y bo modd wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Rydym yn annog ysgolion i bennu dyddiadau eu diwrnodau HMS ar ddechrau’r flwyddyn academaidd, neu ar ddiwedd y flwyddyn flaenorol, er ein bod yn cydnabod y gall fod angen diwygio neu gwblhau’r cynlluniau yn ystod y flwyddyn. Mae rhoi digon o rybudd i deuluoedd yn eu helpu i gynllunio ymlaen llaw ac yn lleihau pwysau, yn enwedig pan fo angen gwneud trefniadau gofal plant.

Yn ogystal, mae cyfathrebu’n glir y rhesymau dros ddewis dyddiadau penodol, ynghyd â phwrpas arfaethedig y diwrnodau HMS, lle bo hynny’n bosibl, yn helpu i gryfhau dealltwriaeth o sut y mae HMS yn cyfrannu at brofiadau a chyrhaeddiad dysgwyr.

Rydym yn cydnabod y gall anghenion dysgu proffesiynol newid neu ddod i’r amlwg yn ystod y flwyddyn, a bod argaeledd darparwyr allanol yn gallu dylanwadu ar y cynnwys terfynol. Os bydd angen addasu cynlluniau, dylai ysgolion roi gwybod i rieni a gofalwyr cyn gynted â phosibl.

Gall diwrnodau HMS osod baich ariannol ychwanegol ar rieni, yn enwedig os oes angen trefnu gofal plant. Gall cyfathrebu tryloyw a chlir rhwng ysgolion a’r gymuned helpu i leihau camddealltwriaeth ymhlith rhieni, er enghraifft y syniad bod diwrnodau HMS yn ‘ddiwrnodau i ffwrdd’, yn enwedig pan gaiff sesiynau gyda’r hwyr eu cynnal ac nad yw rhieni’n ymwybodol ohonynt. Gellir cyfathrebu â rhieni a gofalwyr mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys trwy gylchlythyrau, e-byst a'r cyfryngau cymdeithasol.

Cyfathrebu o fewn ysgolion

Dylid hysbysu pob aelod o staff yr ysgol am nod a phwrpas cynllunio HMS, a sut mae hyn yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau a nodir yng nghynllun datblygu’r ysgol. Dylai staff feddu ar ddealltwriaeth glir o’r hyn i’w ddisgwyl o bob diwrnod HMS, sut y bydd y gweithgareddau’n cefnogi eu dysgu proffesiynol, a sut mae hyn yn cysylltu â’u llwybrau datblygu unigol. Argymhellir hefyd hysbysu cyrff llywodraethu am ddiben a chanlyniadau arfaethedig gweithgareddau HMS.

Pwy ddylai fynychu sesiynau HMS

Dylai pob ymarferydd mewn ysgol fynychu sesiynau HMS fel eu bod yn cael budd ohonynt.

Rydym yn cydnabod bod amodau cyflogaeth cynorthwywyr addysgu yn cael eu pennu gan awdurdodau lleol unigol, ac yn wahanol i delerau athrawon a phenaethiaid, sy’n cael eu llywodraethu gan Gyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru). Fodd bynnag, er mwyn meithrin diwylliant cadarnhaol sy’n annog ac yn cefnogi ymarferwyr i gymryd rhan mewn dysgu proffesiynol, dylai pob ymarferydd, gan gynnwys cynorthwywyr addysgu, gymryd rhan mewn HMS.

Rydym yn annog cynorthwywyr addysgu ac athrawon i arwain a chymryd rhan mewn HMS ar y cyd, lle bo hynny’n briodol, er mwyn datblygu dealltwriaeth gyffredin o sut y bydd yr ysgol yn mynd i’r afael â blaenoriaethau cenedlaethol a’r rhai a nodwyd gan yr ysgol ei hun.

Pan nad yw cynorthwywyr addysgu neu athrawon rhan-amser yn gallu mynychu sesiynau HMS, dylai’r uwch-dîm arweinyddiaeth sicrhau bod cyfleoedd ar gael iddynt gymryd rhan mewn dysgu proffesiynol, gan gynnwys eu cyfeirio at adnoddau cydamserol ac anghydamserol, megis y rhai a ddatblygwyd gan awdurdodau lleol a’u partneriaethau, Dysgu neu Lywodraeth Cymru. Mae Llwybr Dysgu Cynorthwywyr Addysgu wedi’i gynllunio i gefnogi dysgu proffesiynol pob cynorthwyydd addysgu, yn unol â’r safonau proffesiynol ar gyfer cynorthwyo addysgu. Mae pob rhaglen yn adeiladu ar wybodaeth a dealltwriaeth cynorthwywyr addysgu ar wahanol gamau yn ystod eu gyrfa.

Ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion

Rydym yn cydnabod y gall fod angen i ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion drefnu a chyflwyno HMS yn wahanol i ysgolion prif ffrwd, oherwydd natur arbenigol eu darpariaeth a chymhlethdod anghenion eu dysgwyr. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i’r lleoliadau hyn neilltuo cyfran fwy o’u hamser HMS cyffredinol i ofynion statudol neu weithredol nag ysgolion prif ffrwd, ac efallai y bydd llai o gyfleoedd ar gael i gydweithio ag ysgolion tebyg.

Fodd bynnag, mae’r gofynion yn y Rheoliadau 2003 diwygiedig yn berthnasol i ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion yn yr un modd ag i ysgolion prif ffrwd, a dylent hwythau hefyd fabwysiadu’r egwyddorion cyffredinol a’r arferion da a nodir yn y canllawiau hyn, mewn ffordd sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau datblygu’r ysgol ac anghenion eu gweithlu.

Dyma rai o'r canllawiau sydd ar gael i helpu ysgolion i gynllunio a chyflwyno HMS, yn unol â'r adran uchod ar y defnydd o ddiwrnodau HMS.

Y system anghenion dysgu ychwanegol

Mae ardal anghenion dysgu ychwanegol Llywodraeth Cymru, sy’n gweithredu fel ffynhonnell ganolog o ganllawiau cyfredol, yn cynnwys gwybodaeth statudol ac adnoddau ymarferol sy’n cyd-fynd â Chod ADY. Mae’r wefan yn cefnogi'r gwaith o gynllunio HMS drwy gyfeirio ymarferwyr at gyfleoedd dysgu proffesiynol, diweddariadau polisi a chymorth perthnasol, er mwyn helpu pob aelod o staff i ddeall eu rolau wrth gyflwyno darpariaeth gynhwysol sy’n canolbwyntio ar y dysgwr.

Cyfres o ganllawiau i ategu'r Cod ADY, a gynlluniwyd i gefnogi gwneud penderfyniadau tryloyw sy'n seiliedig ar dystiolaeth a chymhwyso fframwaith deddfwriaethol Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn gyson ledled Cymru:

Cwricwlwm a threfniadau asesu

Mae amrywiaeth o ganllawiau cenedlaethol a chanllawiau ar gyfer ymarferwyr ar gael ar Hwb i gefnogi ysgolion wrth ddatblygu a mireinio eu trefniadau cwricwlwm ac asesu. Gellir defnyddio’r rhain i strwythuro dysgu proffesiynol, cefnogi ymholi a llywio dylunio’r cwricwlwm ar draws yr ysgol gyfan.

Offer ymarferol i gefnogi ysgolion wrth ddylunio ac adolygu eu cwricwlwm, gan gynnwys templedi cynllunio a deunyddiau enghreifftiol:

Deunyddiau wedi’u cynllunio i gefnogi ysgolion i feithrin dealltwriaeth gyffredin o’r Cwricwlwm i Gymru fel cwricwlwm sydd wedi’i arwain gan ddiben ac sy’n canolbwyntio ar broses:

Casgliad wedi’i guradu o ddeunyddiau i gefnogi ysgolion ar wahanol gamau o ddatblygu a mireinio’r cwricwlwm:

Adnoddau i gefnogi ysgolion i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o ddiwylliant asesu ac archwilio dulliau amgen o ymarfer asesu:

Ysgolion bro

Gellir defnyddio’r rhain fel man cychwyn i drafod y ddarpariaeth bresennol yn y 3 maes allweddol, gan nodi blaenoriaethau ym mhob un:

Effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol

Gallai’r adnoddau isod lywio trafodaeth staff ar:

Dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol

Mae adroddiad annibynnol, sef 'Darparu Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Llesiant Emosiynol a Meddyliol: enghreifftiau o ymarfer mewn ysgolion' wedi'i gyhoeddi i helpu pob ysgol i ystyried y ffordd y maent yn darparu cymorth ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol dysgwyr:

Hawliau plant a phobl ifanc mewn addysg

Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (deddfwriaeth.gov.uk) yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion a lleoliadau hyrwyddo gwybodaeth am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, a dealltwriaeth ohonynt, ymhlith darparwyr addysgu a dysgu.

Gall yr adnoddau dysgu proffesiynol ar Hwb gefnogi ysgolion i gyflawni'r dyletswyddau hyn. 

Egwyddorion addysgeg

Adnodd i arweinwyr gefnogi trafodaethau myfyriol i helpu i lywio addysgeg ac ymarfer proffesiynol.

Datblygu'r Gymraeg yn eich ysgol

Adnoddau dysgu proffesiynol

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gydag ystod o bartneriaid ac arbenigwyr allanol i ddatblygu adnoddau dysgu proffesiynol newydd i gefnogi ymarferwyr, gan gynnwys:

Mae’r grant hwn, a delir drwy awdurdodau lleol, yn galluogi ysgolion i ariannu dysgu proffesiynol yn unol â’u cynllun datblygu ysgol.

Prif bwrpas y cyllid yw creu amser mewn ysgolion i bob ymarferydd ddatblygu eu sgiliau a’u hymarfer er mwyn darparu addysgu a dysgu o ansawdd uchel i bob dysgwr. Mae hefyd yn galluogi ysgolion i barhau i addasu a manteisio ar y cymorth angenrheidiol, gan gynnwys rhaglen dysgu broffesiynol genedlaethol y Cwricwlwm i Gymru.

Mae’n hanfodol darparu amser a chyfle i ymarferwyr ac arweinwyr gydweithio ar draws ysgolion a rhwydweithiau, er mwyn parhau i weithredu Cwricwlwm i Gymru a manteisio ar y cymorth angenrheidiol. O ystyried hyn, mae’r amodau cyllido’n ddigon hyblyg i alluogi ysgolion i gydweithio mewn ffyrdd sy’n diwallu anghenion penodol eu lleoliadau.

Enghreifftiau o sut y gellir defnyddio'r grant dysgu proffesiynol

Mae casgliad o astudiaethau achos sy'n canolbwyntio ar ysgolion ar Hwb yn dangos amrywiaeth o ddulliau gweithredu arloesol i sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y cynnydd hwn mewn cyllid ym maes dysgu proffesiynol. Gall ysgolion hefyd fanteisio ar amrywiaeth o adnoddau dysgu proffesiynol drwy ystorfa Hwb.

Dyma rai enghreifftiau o sut y gellid defnyddio’r cyllid hwn:

  • rhyddhau staff a threfnu staff cyflenwi yn eu lle, er mwyn iddynt gael cymryd rhan mewn dysgu proffesiynol cydweithredol a gwaith cynllunio ar y cyd, ar lefel yr ysgol, ac ar draws clystyrau a rhwydweithiau
  • cynnig cymhellion i staff a’u gwobrwyo i ymchwilio i oblygiadau'r Cwricwlwm i Gymru o ran eu harferion addysgu ac asesu eu hunain, ar lefel unigol, drwy ryddhau ac ariannu staff i ymgymryd ag ymchwil broffesiynol neu fanteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol
  • creu rolau a swyddi penodol ar gyfer y genhadaeth, ac yn arbennig felly ar gyfer cefnogi cydweithwyr, adrannau ac ysgolion cyfan drwy ymchwil broffesiynol, rheoli newid a gweithgareddau ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu
  • datblygu rôl hyfforddwr dysgu proffesiynol ar lefel ysgol neu glwstwr

Ni ddylid defnyddio'r cyllid i ariannu gweithgareddau neu eitemau a brynir nad ydynt yn gysylltiedig â dysgu proffesiynol ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru a blaenoriaethau eraill Llywodraeth Cymru. Sylwch y caiff hapsampl o ysgolion eu dewis i ddarparu tystiolaeth o wariant priodol o’r dyraniad cyllid ar gyfer dysgu proffesiynol.

Pwy ddylai elwa ar y cyllid grant

Mae dysgu proffesiynol yn hawl i bob ymarferydd mewn ysgol, nid i athrawon yn unig.

Nid yw'r cyllid ar gyfer dysgu proffesiynol wedi'i gadw ar gyfer athrawon ac arweinwyr yn unig a dylid ei ddefnyddio hefyd i hwyluso mynediad at ddysgu proffesiynol i gynorthwywyr addysgu ac athrawon cyflenwi, er enghraifft.

Felly, er bod y fformiwla ariannu wedi’i seilio ar nifer yr athrawon cyfwerth ag amser llawn mewn ysgolion, y disgwyliad yw y bydd pob ymarferydd (athrawon, cynorthwywyr addysgu ac arweinwyr) yn cael cyfle i fanteisio ar ddysgu proffesiynol, a bod y cyllid yn cael ei ddefnyddio i gefnogi addysgu a dysgu o ansawdd uchel.