Siarter Iaith
Trosolwg
Rydyn ni am ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd. Mae’r Siarter Iaith i bawb a gall pob aelod o gymuned yr ysgol gymryd rhan, cyngor yr ysgol, dysgwyr, y gweithlu, rhieni, gofalwyr, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach. Mae hyn yn sicrhau bod gan bob ysgol perchnogaeth lawn ar eu Siarter Iaith. Gyda’n gilydd fe wnawn ni gynyddu defnydd cymdeithasol plant a phobl ifanc o’r Gymraeg.
Mae’r Siarter Iaith ar waith mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ledled Cymru. Yn ogystal mae rhaglenni eraill ar gyfer dysgwyr:
- oedran uwchradd ysgolion cyfrwng Cymraeg
- sydd yn dysgu’r Gymraeg mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg (Cymraeg Campus),
- oedran uwchradd mewn ysgolion cyfrwng Saesneg (Cymraeg bob dydd).
Holiaduron
Mae’r holiadur hwn, yn rhoi cyfle i ddysgwyr nodi sut maent yn defnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd gwahanol, a hefyd i nodi eu hagweddau tuag at y Gymraeg. Yn dilyn derbyn a dadansoddi canlyniadau’r holiadur, mae ysgolion yn llunio cynllun gweithredu i ymateb i’r gofynion a’r heriau sydd wedi eu hamlygu. Gosodir cyfres o dargedau i holl gymuned yr ysgol yn cynnwys y dysgwyr, y gweithlu, llywodraethwyr, a’r rhieni/gofalwyr, gyda chyfnod o weithredu yn dilyn. Ar ddiwedd y cyfnod gweithredu, mae pob dysgwr yn cwblhau’r holiadur unwaith eto, ac ar sail y dystiolaeth a gesglir mae’r ysgol yn olrhain cynnydd yn ystod y cyfnod.
Dyma’r dolenni ar gyfer holl holiaduron Siarter Iaith. Bydd angen i bawb fewngofnodi i’w cyfrifon Hwb er mwyn cael mynediad i’r holiadur. Cofiwch fewngofnodi i’r holiadur cywir ar gyfer eich ysgol a’ch blwyddyn chi.
Siarter Iaith Sylfaen
Holiadur Blwyddyn 1: Tymor yr Haf 2022
Holiadur Blwyddyn 2: Tymor yr Haf 2022
Siarter Iaith Cynradd
Holiadur Blwyddyn 3: Tymor yr Haf 2022
Holiadur Blwyddyn 4: Tymor yr Haf 2022
Holiadur Blwyddyn 5: Tymor yr Haf 2022
Holiadur Blwyddyn 6: Tymor yr Haf 2022
Cymraeg Campus
Cymraeg Campus (Blwyddyn 1): Tymor yr Haf 2022
Cymraeg Campus (Blwyddyn 2): Tymor yr Haf 2022
Cymraeg Campus (Blwyddyn 3): Tymor yr Haf 2022
Cymraeg Campus (Blwyddyn 4): Tymor yr Haf 2022
Cymraeg Campus (Blwyddyn 5): Tymor yr Haf 2022
Cymraeg Campus (Blwyddyn 6): Tymor yr Haf 2022
Siarter Iaith Uwchradd
Adroddiad i werthusiad y Siarter Iaith a rhaglenni cysylltiedig
Yn ystod 2019 i 2020 comisiynwyd gwerthusiad o’r Siarter Iaith er mwyn asesu sut mae’r Siarter Iaith, ynghyd â rhaglenni eraill cysylltiedig sy’n cefnogi defnydd anffurfiol o’r Gymraeg ymysg dysgwyr ysgol, yn cael ei gweithredu.
Fframwaith a chanllawiau pellach
Bwriad y fframwaith hon yw i gynnig arweiniad i ysgolion er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn hyderus i ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg, yn meithrin agweddau cadarnhaol ac yn cynyddu’r defnydd o’r iaith tu fewn a thu allan i’r ysgol.
- Fframwaith Siarter Iaith pdf 830 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath