English

Cynlluniwyd y deunyddiau yn yr adran hon i gefnogi gwaith meddwl ymarferwyr, arweinwyr ysgolion a phartneriaid addysgol yng ngrŵp cyd-ddatblygu Camau i'r Dyfodol ynghylch yr hyn y mae dull o gynllunio'r cwricwlwm sy’n canolbwyntio ar broses yn ei awgrymu o ran sut rydym yn meddwl am asesu a chynnydd.

Mae'r adran hefyd yn cynnwys deunyddiau a ddatblygwyd o waith y cyfranogwyr hyn, sy'n canolbwyntio ar gefnogi ysgolion a lleoliadau i fyfyrio ar eu dulliau presennol o ymdrin â'r cwricwlwm, cynnydd ac asesu.

Caiff y syniadau allweddol yn yr adran hon eu cyflwyno mewn dwy seminar. Mae'r fideos hyn yn archwilio pa newidiadau sydd eu hangen wrth feddwl am asesu a chynnydd os ydynt am gyd-fynd â dull sy’n canolbwyntio ar broses.

Seminar 2: Ailfeddwl asesu: o fesur perfformiad i gefnogi dysgu

Mae'r seminar hon yn archwilio'r hyn sy'n gysylltiedig â symud ein ffordd o feddwl o'r syniad o fesur perfformiad dysgwyr i feddwl am asesu o ran cefnogi a gwerthuso dysgu.

Mae'n cyflwyno dau gysyniad: asesu fel y cydgyfeiriol ac asesu fel y dargyfeiriol.

Daw'r seminar hon i ben gyda chwestiynau at ddibenion myfyrio neu drafod sut y gallai ymarferwyr ddatblygu dulliau asesu dargyfeiriol i gefnogi dysgu.

  • Seminar 2: Ailfeddwl asesu – trawsgrifiad fideo pdf 140 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
  • Seminar 2: Ailfeddwl asesu – taflen sleidiau pdf 332 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath

Seminar 3: Sut ydyn ni'n deall cynnydd?

Mae'r seminar hon yn archwilio sut caiff cynnydd ei ddeall fel arfer, a sut mae cynnydd yn fwy cyfannol ac yn canolbwyntio’n fwy ar y dysgwr yng Nghwricwlwm i Gymru. Mae'n archwilio syniadau cynnydd fel rhai deinamig sy'n dod i'r amlwg, a beth mae hyn yn ei olygu i gefnogi dysgwyr i wneud cynnydd.

Mae'n gorffen gyda chwestiynau i gefnogi myfyrio a thrafodaeth ar sut y gellid gwerthuso a rhannu'r darlun mwy cyfannol hwn o gynnydd gyda dysgwyr, rhieni a gofalwyr, ymarferwyr eraill a phartneriaid allanol.

Gellir lawrlwytho taflen argraffadwy o'r sleidiau a ddefnyddiwyd i greu'r fideo hwn ochr yn ochr â thrawsgrifiad llawn.

Cafodd y deunydd hwn ei ddatblygu yn rhan o feddwl grŵp cyd-ddatblygu Camau i'r Dyfodol ar ddylunio cwricwlwm sy'n canolbwyntio ar broses a beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer sut rydym yn mynd ati i addysgu a dysgu. Mae symud i ffwrdd o ymagwedd sy'n seiliedig ar amcanion at addysgu yn golygu meddwl am y gwahaniaeth rhwng dysgu a pherfformiad, a meddwl am y gwahaniaeth rhwng addysgu a chyfarwyddo.

Mae'r adnodd hwn yn crynhoi canfyddiadau ymchwil ac yn darparu cwestiynau i gefnogi myfyrio ar y gwahaniaeth rhwng dysgu a pherfformiad yn ymarferol.

  • Dysgu ac addysgu neu berfformiad a chyfarwyddyd pdf 144 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath

Mae’r deunydd hwn wedi’i gynhyrchu o waith ymarferwyr, arweinwyr a phartneriaid addysgol i gefnogi'r broses o ddylunio'r cwricwlwm a chreu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd.

Gellir ei ddefnyddio i gefnogi ymarferwyr unigol i ystyried eu gwaith cynllunio cwricwlwm eu hunain, ac i gefnogi arweinwyr ysgolion i ystyried cynllun cyffredinol yr ysgol, yn ogystal ag amlygu adnoddau'r cwricwlwm fel pwyntiau cyfeirio i gefnogi meddwl.

  • M.O.T cwricwlwm pdf 168 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath