English

4. Datblygu adnoddau addysgol

Pwrpas adnoddau yw cefnogi dulliau cynllunio cwricwlwm ac addysgeg ymarferwyr er mwyn gwella ansawdd dysgu ac addysgu. Ar gyfer cynllunio cwricwlwm ac addysgeg, gall adnoddau gefnogi ysgolion a lleoliadau er mwyn:

  • sicrhau bod yr holl ddysgu yn bwrpasol ac yn cefnogi pedwar diben y cwricwlwm
  • sicrhau bod yr holl ddysgu yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen tuag at y pedwar diben
  • cefnogi dealltwriaeth o'r cynnydd y mae dysgwyr yn ei wneud

O fewn y Cwricwlwm i Gymru, mae ysgolion yn gynllunwyr cwricwlwm. Rôl adnoddau yw cefnogi'r broses hon, yn hytrach na darparu cynhyrchion i ymarferwyr i'w mabwysiadu. Mae gan ysgolion a lleoliadau'r hyblygrwydd i gynllunio adnoddau sy'n diwallu anghenion eu dysgwyr.

Dylech ystyried y 7 egwyddor ganlynol wrth ddatblygu adnoddau newydd neu addasu rhai presennol. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych am sicrhau eu bod ar gael yn genedlaethol drwy Hwb.

Pedwar diben y cwricwlwm yw'r man cychwyn a'r uchelgais i bob dysgwr. Mae angen i chi fod yn glir sut mae adnodd yn helpu dysgwyr i:

Mae angen eich cymorth ar ymarferwyr i ddeall sut mae eich adnodd yn helpu'r broses honno fel rhan o'u datblygiad dysgu ac addysgu.

Beth i'w ystyried

  • Sicrhewch bod yr adnodd yn helpu dysgwyr i wireddu'r galluoedd a'r agweddau o fewn y pedwar diben.
  • Dylai eich adnodd gefnogi dysgwyr i wneud cynnydd ar hyd y continwwm 3 i 16 mewn perthynas â datganiadau penodol o'r hyn sy'n bwysig, trwy brofiadau, gwybodaeth a sgiliau.
  • Cefnogi ymarferwyr drwy gyfeirio’n berthnasol at agweddau gorfodol ar y Cwricwlwm i Gymru.
  • Adlewyrchu sgiliau trawsgwricwlaidd a themâu trawsbynciol.
  • Sicrhau y gall yr ymarferydd asesu'r dysgu sy'n deillio o'ch adnodd.
  • Dylai adnoddau sydd wedi'u hanelu at ymarferwyr fodloni gofynion adran 'Ymlaen â'r daith' yng nghanllawiau'r cwricwlwm.

Beth i'w osgoi

  • Cynrychioli'r pedwar diben fel amcanion dysgu penodol neu greu a datblygu cynnwys yn uniongyrchol o'r pedwar diben.
  • Cyfeiriadau arwynebol at y pedwar diben nad ydyn nhw’n ychwanegu unrhyw werth.
  • Gweithgareddau ynysig nad ydyn nhw’n ymwneud â dysgu blaenorol na chamau nesaf dysgwr. 
  • Peidio â rhoi ymdeimlad i ymarferwyr o’r ffordd y mae'n symud dysgwyr ymlaen yn eu datblygiad.
  • Peidio ag ystyried y dysgu yn eich adnodd yng nghyd-destun elfennau mandadol y cwricwlwm.
  • Datblygu deunyddiau sy'n canolbwyntio ar un dasg neu amcan dysgu neu annog ymarferwyr i drin fframwaith canllawiau'r cwricwlwm fel ‘rhestr wirio’.
  • Ni ddylid gwahanu asesu oddi wrth ddysgu ac addysgu.

Mae'n hanfodol bod gan adnoddau nodau clir ar gyfer dysgu yn seiliedig ar anghenion a dyheadau dysgwyr. Os yw eich adnodd yn cynnwys canllaw i athrawon, dylai fod yn seiliedig ar esboniadau o’r canlynol:

  • dealltwriaeth bod yr adnodd yn ceisio datblygu a/neu ddyfnhau mewn dysgwyr yr hyn y gellir ei drosglwyddo i gyd-destunau newydd ac anghyfarwydd
  • pa wybodaeth, sgiliau a phrofiadau sydd wedi'u cynnwys a sut olwg allai fod ar ddangosyddion dilyniant ar gyfer y rhain
  • pam mae'r bwriadau dysgu yn bwysig a sut maen nhw’n cyfrannu at bwrpas cyffredinol y dysgu mewn agwedd benodol ar y Cwricwlwm i Gymru
  • sut mae'r adnodd yn cefnogi datblygiad dysgwyr

Beth i'w ystyried

  • Dylai eich adnodd ddatblygu profiadau, gwybodaeth a sgiliau dysgwyr i gefnogi eu cynnydd yn y ffyrdd a ddisgrifir yn yr egwyddorion cynnydd.
  • Dylech ystyried (ac esbonio i ymarferwyr) sut y bydd eich adnoddau yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu dros amser trwy ganllaw ymarferwyr sy'n amlinellu pwrpas yr adnodd, gydag awgrymiadau ar sut i'w ddefnyddio.
  • Datblygu (dros amser) ystod ehangach o adnoddau sy'n cefnogi cynnydd dysgwyr ar draws y continwwm 3 i 16 i adlewyrchu anghenion dysgu, doniau, agweddau a galluoedd gwahanol yn well.
  • Dylech egluro’n amlwg pam mae'r adnodd yn bwysig a sut mae'n cyfrannu at ddysgu ehangach.

Beth i'w osgoi

  • Adnoddau sy'n canolbwyntio ar weithgaredd neu dasg sydd heb unrhyw wybodaeth na sgiliau clir neu arwyddocaol sy'n gysylltiedig â datblygiad dysgwyr.
  • Nodau dysgu hir, cymhleth. Dylid eu cadw’n gryno.
  • Cynhyrchu adnoddau untro sy'n seiliedig ar weithgaredd wedi'u hanelu at grwpiau blwyddyn penodol, heb unrhyw gynlluniau i adeiladu o hynny.

Ymarferwyr mewn ysgolion a lleoliadau sydd yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniadau ar y ffordd y maen nhw’n cynllunio, neu drefnu dysgu i ddiwallu anghenion penodol eu dysgwyr. Mae hyn yn adlewyrchu egwyddor sybsidiaredd sy'n parhau i lywio datblygiad y Cwricwlwm i Gymru.

Beth i'w ystyried

  • Dylai eich adnodd gefnogi hyblygrwydd i ysgolion a lleoliadau wrth iddyn nhw gynllunio neu drefnu cwricwlwm yn eu cyd-destun eu hunain.
  • Dylai eich adnoddau gefnogi ymarferwyr i ddeall a datblygu dysgu.
  • Adeiladu ar adrannau cynllunio eich cwricwlwm o ganllawiau'r cwricwlwm trwy awgrymu pynciau, themâu, gweithgareddau posibl, dulliau a dysgu ar gyfer agwedd ar y cwricwlwm. Gallai hyn drafod pam y gallai'r rhain fod yn effeithiol a chynnwys gwybodaeth am yr hyn nad yw wedi gweithio wrth dreialu'r adnodd gydag ymarferwyr a dysgwyr.

Beth i'w osgoi

  • Creu cwricwlwm manwl, cynllun gwaith, cynlluniau gwersi rhagnodol neu fodiwlau sydd wedi'u cynllunio i'w defnyddio’n syth.
  • Amseru gweithgareddau neu drefnu defnydd o ddeunyddiau yn yr ystafell ddosbarth.
  • Canllawiau athrawon wedi'u pwysoli tuag at ymgymryd â gweithgareddau neu dasgau, ar draul opsiynau i ddatblygu dysgu a nodir yn fframwaith y cwricwlwm.
  • Canllawiau rhagnodol i athrawon sy'n dweud wrthyn nhw sut i addysgu gan ddefnyddio'r adnoddau.

Dylai adnoddau helpu ymarferwyr i lunio barn wybodus am y ffordd y maen nhw'n cymhwyso deunyddiau yn eu haddysgu. Lle mae ymchwil gadarn sy'n awgrymu bod dulliau penodol o addysgu yn fwy effeithiol, dylai eich adnodd amlygu’r rheini i helpu ymarferwyr yn eu dulliau dysgu ac addysgu. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn gyson â chwricwlwm a arweinir gan y dibenion. Mae hyn hefyd yn bwysig i gefnogi dealltwriaeth ymarferwyr o effaith bosibl nod dysgu.

Beth i'w ystyried

  • Sut y gallai darllen, meddwl a thystiolaeth bellach helpu i gefnogi'r defnydd o'ch adnodd.
  • Dylid ystyried a ellir adlewyrchu'r 12 egwyddor addysgeg i gefnogi ysgolion a lleoliadau wrth ddefnyddio eich adnodd, eu helfennau allweddol a'u heffeithiau tebygol, a sut a pham mae'r cysyniad neu'r pwnc yn cael ei addysgu.
  • Defnyddio enghreifftiau darluniadol ac enghreifftiau o ymarfer i ysgogi meddwl ac ymgysylltu beirniadol.

Beth i'w osgoi

  • Bod yn rhy benodol ar sut y mae'n rhaid dysgu gwers.
  • Rhoi cyngor nad yw'n cyd-fynd ag egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru.

Mae cyd-adeiladu yn dwyn ynghyd arbenigedd datblygwyr, arbenigwyr a defnyddwyr i greu adnoddau o ansawdd uwch. Y ffordd orau o wneud hyn yw ymgysylltu ag:

  • ymarferwyr presennol sy'n gweithio gyda’r Cwricwlwm i Gymru
  • rhanddeiliaid ac arbenigwyr ehangach sy'n gysylltiedig â phynciau
  • sefydliadau cymunedol
  • dysgwyr

Beth i'w ystyried

  • Cyd-adeiladu eich adnodd gydag ymarferwyr sy'n gweithio gyda’r Cwricwlwm i Gymru ar hyn o bryd.
  • Cydweithio ag ystod o ymarferwyr o ddechrau'r broses ddatblygu i sicrhau bod eich adnodd yn diwallu anghenion defnyddwyr, ac yn cynnwys lefel briodol o drylwyredd ac awgrymiadau ar gyfer datblygu pellach.

Beth i'w osgoi

  • Datblygu adnoddau heb fewnbwn uniongyrchol gan ymarferwyr, a fyddai hefyd yn atal profi drafftiau mewn lleoliadau dysgu cyn eu cwblhau.
  • Arddangos gweithgareddau neu dasgau heb her neu ymestyn addas.

Rhaid i'ch adnodd gael ei ddatblygu yn y Gymraeg a'r Saesneg. Rhaid i'r ddwy iaith fod o’r un ansawdd, defnyddio'r derminoleg gywir a bod ar gael ar yr un pryd. Mae hyn yn cynnwys fideos, clipiau sain a phob elfen arall o'r deunydd. 

Er mwyn bodloni safonau'r Gymraeg, ni allwn gyhoeddi deunyddiau sy'n trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Beth i'w ystyried

  • Dylai argaeledd adnoddau adlewyrchu anghenion ysgolion a lleoliadau ym mhob categori iaith, er mwyn sicrhau mynediad amserol at adnoddau amrywiol o ansawdd uchel.
  • Defnyddio terminoleg Gymraeg a Saesneg sy'n cyd-fynd yn glir â chanllawiau fframwaith y Cwricwlwm i Gymru.
  • Dylech ddatrys unrhyw broblemau posibl ar y dechrau er mwyn sicrhau bod Hwb yn gallu derbyn a chyhoeddi eich deunyddiau.

Beth i'w osgoi

  • Peidio ag ystyried o'r cychwyn cyntaf y gofyniad sylfaenol hwn o ddatblygu eich adnodd.
  • Comisiynu cyfieithiadau ar ddiwedd datblygu adnoddau heb gyfeirio at y derminoleg gywir sydd ar gael ar Hwb a BydTermCymru.

Gall cynhyrchu deunyddiau cwbl ddwyieithog gyflwyno rhai heriau, megis cynhyrchu fideos. Holwch am gyngor, os oes angen, drwy Safonau.Standards@llyw.cymru. Bydd sgwrs gynnar gyda Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau gwell cynnyrch terfynol yn y ddwy iaith.

Rhaid i'ch adnodd ddilyn gofynion a chanllawiau hygyrchedd. Darllenwch ein canllaw creu dogfennau hygyrch i gael rhagor o wybodaeth.

Beth i'w ystyried

Beth i'w osgoi

  • Cyflwyno adnoddau i'w cyhoeddi ar Hwb heb wirio gwirio eu hygyrchedd.
  • Blaenorol

    Adnoddau ar bynciau eraill

  • Nesaf

    Meini prawf cyhoeddi a gofynion technegol Hwb