English

Dylai fod gan ysgolion ac ymarferwyr fethodoleg ar gyfer cynllunio cwricwlwm sy'n ymgorffori cyfleoedd ar gyfer dysgu ac ystyriaeth o elfennau trawsgwricwlaidd, lle y bo'n briodol.

Dylai’r rhain ganiatáu i ddysgwyr:

  • ystyried cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol
  • meithrin dealltwriaeth o addysg cydberthynas a rhywioldeb, addysg hawliau dynol ac amrywiaeth, ac addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith

Statws cyfreithiol y canllawiau hyn

Mae'r adran hon yn nodi canllawiau statudol mewn perthynas ag addysg cydberthynas a rhywioldeb a chaiff ei chyhoeddi o dan adran 71 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (y Ddeddf), a bwriedir iddi helpu'r rhai sy'n gyfrifol o dan y Ddeddf am gynllunio addysg cydberthynas a rhywioldeb fel rhan o'r cwricwlwm.

Cyflwyniad

Cwricwlwm

Mandadol

Mae addysg cydberthynas a rhywioldeb yn ofyniad statudol yn fframwaith y Cwricwlwm i Gymru ac yn fandadol i bob dysgwr rhwng 3 ac 16 oed.

Mae gan addysg cydberthynas a rhywioldeb rôl gadarnhaol a grymusol i'w chwarae yn addysg dysgwyr ac mae'n hanfodol wrth eu cefnogi i gyflawni'r pedwar diben fel rhan o ddull gweithredu ysgol gyfan. Mae helpu dysgwyr i ffurfio a chynnal ystod o gydberthnasau, sydd i gyd yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch ar y ddwy ochr, yn greiddiol i addysg cydberthynas a rhywioldeb. Mae'r cydberthnasau hyn yn hollbwysig er mwyn datblygu lles emosiynol, gwydnwch ac empathi. Mae dealltwriaeth o rywioldeb gyda phwyslais ar hawliau, iechyd, cydraddoldeb a thegwch yn grymuso dysgwyr i ddeall eu hunain, cymryd cyfrifoldeb am eu penderfyniadau a'u hymddygiadau eu hunain a ffurfio cydberthnasau sy'n gwbl gynhwysol, gan adlewyrchu amrywiaeth a hyrwyddo parch.

Mae gan ysgolion a lleoliadau rôl bwysig i'w chwarae wrth greu amgylcheddau diogel a grymusol sy'n cefnogi hawliau dysgwyr i fwynhau cydberthnasau diogel, iach a boddhaus gydol eu bywydau. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn creu cymdeithas sy'n trin pobl eraill â dealltwriaeth ac empathi, beth bynnag fo'u hethnigrwydd, cefndir economaidd-gymdeithasol, anabledd, a rhyw, rhywedd neu rywioldeb.

Mae'r rhan hon o fframwaith Cwricwlwm i Gymru yn cynnwys:

  • y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb: mae'r cod hwn yn nodi'r elfennau dysgu mandadol ar gyfnodau priodol o safbwynt datblygiad
  • y canllawiau statudol ategol: mae'r canllawiau hyn yn helpu i ddatblygu addysg cydberthynas a rhywioldeb o fewn cwricwlwm fel elfen hanfodol ynddi ei hun a hefyd fel elfen drawsgwricwlaidd ym mhob Maes

Mae'r adran isod yn egluro beth sy'n rhan o'r Cod gorfodol a beth sy'n rhan o'r canllawiau statudol. Ceir dolen i ddyletswyddau cyfreithiol ysgolion a lleoliadau mewn perthynas ag addysg cydberthynas a rhywioldeb yn adran crynodeb deddfwriaethol y canllawiau fframwaith hyn.

Pam mae addysg cydberthynas a rhywioldeb mor bwysig?

Mae'r byd o'n cwmpas yn datblygu'n gyflym ac yn sylweddol. Fel cymdeithas, rydym yn dod yn fwyfwy ymwybodol o:

  • newidiadau mewn strwythurau a chydberthnasau teuluol
  • newidiadau mewn normau cymdeithasol, diwylliannol a chrefyddol mewn perthynas â rhyw, rhywedd a rhywioldeb
  • datblygiadau technolegol gan gynnwys dylanwad cynyddol y cyfryngau cymdeithasol a chynnydd yn y defnydd o ddulliau cyfathrebu a dyfeisiau digidol
  • newidiadau i gyfreithiau a hawliau sy'n ymwneud â chydberthnasau, rhyw, rhywedd a rhywioldeb

Yn y cyd-destun hwn, mae addysg cydberthynas a rhywioldeb yn cynnig cefnogaeth bwysig er mwyn galluogi dysgwyr i ddelio â'r newidiadau hyn. Mae deall sut mae ffurfio, datblygu a chynnal cydberthnasau yn galluogi plant a phobl ifanc i ddatblygu sgiliau ac agweddau a fydd o gymorth iddyn nhw yn eu cydberthnasau eu hunain gydol eu bywydau. Gall y rhain gynnwys cydberthnasau teuluol, cyfeillgarwch, cydberthnasau proffesiynol a chydberthnasau rhamantus a rhywiol. Mae dysgu am gydberthnasau a rhywioldeb yn helpu pobl ifanc i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i wneud synnwyr o'u meddyliau a'u teimladau a delio'n effeithiol â dylanwadau sy'n newid yn gyflym. Mae angen i ddysgwyr gael eu cefnogi i ymateb i'r rhain a, lle bo hynny'n briodol, deimlo y gallan nhw herio stereoteipiau a chanfyddiadau niweidiol a gofyn am help a chymorth. 

Gall addysg cydberthynas a rhywioldeb drawsnewid bywydau dysgwyr a chymunedau – mae'n bwysig o safbwynt grymuso dysgwyr a datblygu eu sgiliau meddwl yn feirniadol. Mae plant a phobl ifanc yn delio ag ystod o negeseuon cymhleth ac anghyson am gydberthnasau a rhywioldeb a fydd yn llywio eu hymdeimlad ohonyn nhw eu hunain a'u cydberthnasau â phobl eraill. Bydd addysg cydberthynas a rhywioldeb o ansawdd yn helpu dysgwyr i ymgysylltu'n feirniadol â'r hyn y maen nhw’n ei ddysgu a'i brofi. Mae hyn yn eu helpu i ddeall eu gwerthoedd a'u credoau ac eirioli dros barchu a deall pobl eraill.

Mae Llywodraeth Cymru'n credu bod gan bob plentyn a pherson ifanc yr hawl i gael addysg gynhwysol a chyfannol o ansawdd uchel am gydberthnasau a rhywioldeb. Mae addysg cydberthynas a rhywioldeb sy'n gynhwysol, yn gyfannol ac o ansawdd uchel yn gysylltiedig ag ystod o ddeilliannau cadarnhaol ac amddiffynnol i bob dysgwr a'i gymuned a gall, er enghraifft:

  • helpu i gynyddu dealltwriaeth dysgwyr o gydberthnasau iach, diogel a boddhaus a'u rhan mewn cydberthnasau o'r fath
  • helpu pobl ifanc i adnabod cydberthnasau camdriniol neu gydberthnasau gwael a gofyn am gymorth
  • helpu i leihau pob bwlio gan gynnwys bwlio homoffobig, biffobig a thrawsffobig, a chynyddu diogelwch a lles pob dysgwr
  • helpu pob dysgwr i wneud penderfyniadau gwybodus am gyfathrach rywiol ac iechyd atgenhedlol
  • helpu i hyrwyddo cydraddoldeb a thegwch o ran rhyw, rhywedd a rhywioldeb
  • cynyddu ymwybyddiaeth, gwybodaeth a dealltwriaeth o drais ar sail rhywedd a thrais rhywiol

Beth yw addysg cydberthynas a rhywioldeb?

Mae addysg cydberthynas a rhywioldeb yn cwmpasu'r wybodaeth, y sgiliau, y tueddfrydau a'r gwerthoedd a fydd yn grymuso dysgwyr i wneud y canlynol:

  • cefnogi eu hiechyd a'u lles
  • datblygu cydberthnasau iach, diogel a boddhaus o bob math, gan gynnwys cydberthnasau â theulu a ffrindiau ac, ymhen amser, cydberthnasau rhamantus a rhywiol
  • deall a gwneud synnwyr o'r ffordd y mae cydberthnasau, rhyw, rhywedd a rhywioldeb yn llywio eu hunaniaeth a'u bywydau eu hunain a rhai pobl eraill
  • deall a chefnogi eu hawliau eu hunain a hawliau pobl eraill i fwynhau cydberthnasau teg, diogel, iach a boddhaus gydol eu bywydau ac eirioli dros yr hawliau hynny

Mae darpariaeth addysg cydberthynas a rhywioldeb yn helpu i sicrhau bod dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth gadarnhaol o gydberthnasau a rhywioldeb ac yn adnabod camsyniadau. Nod addysg cydberthynas a rhywioldeb yw grymuso dysgwyr yn unol â'u hanghenion, eu profiadau a'u datblygiad ehangach. Drwy drafod ac ymateb i gwestiynau ac anghenion dysgwyr, gall yr addysg hon ddarparu amgylcheddau diogel a grymusol sy'n galluogi dysgwyr i fyfyrio ar eu safbwyntiau a'u teimladau ynghylch ystod o faterion, a mynegi'r safbwyntiau a'r teimladau hynny.

Mae addysg cydberthynas a rhywioldeb yn y cwricwlwm yn canolbwyntio ar dri llinyn cyffredinol:

  • Cydberthnasau a hunaniaeth: helpu dysgwyr i feithrin y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw er mwyn datblygu cydberthnasau iach, diogel a boddhaus gyda phobl eraill, a'u helpu i wneud synnwyr o'u meddyliau a'u teimladau.
  • Iechyd rhywiol a lles: helpu dysgwyr i droi at ffynonellau ffeithiol ynghylch eu hiechyd a'u lles rhywiol ac atgenhedlol gan eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus gydol eu bywydau.
  • Grymuso, diogelwch a pharch: helpu i amddiffyn dysgwyr rhag pob math o wahaniaethu, trais, camdriniaeth ac esgeulustod a'u galluogi i adnabod cydberthnasau a sefyllfaoedd anniogel neu niweidiol, gan eu helpu i wybod pryd, sut a ble i ofyn am gymorth a chyngor.

Yr egwyddorion a'r dulliau gweithredu sy'n rhan o addysg cydberthynas a rhywioldeb effeithiol

Er mwyn cyflawni'r nodau a amlinellir uchod, mae'r egwyddorion a'r dulliau gweithredu canlynol yn cynnig arweiniad a chymorth i ysgolion a lleoliadau wrth iddyn nhw gynllunio a darparu addysg cydberthynas a rhywioldeb fel rhan o'u cwricwlwm:

Dull gweithredu ysgol gyfan

Dylai'r hyn a addysgir a'r hyn a ddysgir o fewn addysg cydberthynas a rhywioldeb gael eu cefnogi gan ddull gweithredu ysgol gyfan mewn perthynas ag addysg cydberthynas a rhywioldeb, ac mae hyn yn hollbwysig er mwyn cefnogi lles dysgwyr. Mae hyn yn golygu cysylltu pob agwedd ar yr ysgol yn effeithiol, gan gynnwys y cwricwlwm, polisïau, staff, amgylchedd yr ysgol a'r gymuned, er mwyn cefnogi dysgwyr yn eu haddysg cydberthynas a rhywioldeb. Dylai hyn helpu i ddatblygu cydberthnasau cadarnhaol, sy'n galluogi dysgwyr ac ymarferwyr i ffynnu; atgyfnerthu ethos cadarnhaol cyson a darparu cymorth cyfannol o ansawdd uchel i ymarferwyr a dysgwyr.

Fel rhan o ddull gweithredu ysgol gyfan, dylid ystyried arweinyddiaeth a pholisïau'n ymwneud ag addysg cydberthynas a rhywioldeb. Dylai uwch-dîm arwain yr ysgol helpu i ddatblygu gweledigaeth yr ysgol ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb a dylid penodi arweinydd addysg cydberthynas a rhywioldeb yn yr ysgol hefyd. Dylid hefyd ystyried sut mae'r cwricwlwm a'r addysgeg yn cefnogi ac yn llywio datblygiad y dull gweithredu ehangach. Mae dysgu proffesiynol yn hollbwysig hefyd. Dylai'r uwch-dîm arwain sicrhau bod pob aelod o'r staff yn ymgymryd â dysgu proffesiynol. Dylai ysgolion hefyd ystyried sut y gall y diwylliant a'r amgylchedd gefnogi addysg cydberthynas a rhywioldeb. 

Galluogi hawliau dynol

Dylai ysgolion a lleoliadau drafod addysg cydberthynas a rhywioldeb yng nghyd-destun hawliau plant a ddiogelir gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Dylai dull gweithredu seiliedig ar hawliau a gefnogir gan degwch fod wrth wraidd y dysgu.

Mae'r Comisiynydd Plant wedi cyhoeddi arweiniad i ysgolion, sef Y Ffordd Gywir: Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Plant yng Nghymru. Dylai hyn lywio'r ffordd y mae lleoliadau yn gwreiddio dull gweithredu seiliedig ar hawliau yn y cwricwlwm, gan gynnwys addysg cydberthynas a rhywioldeb. Mae hawliau yn rhoi ffordd i ddysgwyr ystyried materion sy'n rhan o addysg cydberthynas a rhywioldeb, gan eu helpu i ddatblygu'r sgiliau sylfaenol ar gyfer cydberthnasau iach; parchu a deall pobl eraill ac adnabod ymddygiadau iach a niweidiol.

Fel hyn, mae dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth o'r ffordd y mae hawliau'n ymwneud â phob agwedd ar addysg cydberthynas a rhywioldeb ac yn cyfrannu at ryddid, urddas, lles a diogelwch pawb. Mae hyn hefyd yn helpu dysgwyr i ddeall pwysigrwydd tegwch, gan gydnabod pwysigrwydd hawliau wrth sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn deg.

Dylai ysgolion a lleoliadau ystyried hawliau plant yn benodol. Dylai'r hyn a ddysgir mewn addysg cydberthynas a rhywioldeb bwysleisio'r hawl i'r canlynol:

  • byw heb gamwahaniaethu (Erthygl 2)
  • cael gwrandawiad a chyfrannu at benderfyniadau (Erthygl 12)
  • rhyddid mynegiant (Erthygl 13)
  • dilyn eich crefydd eich hun (Erthygl 14)
  • preifatrwydd (Erthygl 16)
  • cael gafael ar wybodaeth i wneud penderfyniadau gwybodus (Erthygl 17)
  • peidio â chael eich niweidio a chael gofal a chael eich cadw'n ddiogel (Erthygl 19)
  • mwynhau'r safon iechyd uchaf y gellir ei chyrraedd, cael cyfleusterau iechyd, a gofal iechyd ataliol (Erthygl 24)
  • addysg sy'n paratoi plant i ddeall pobl eraill (Erthygl 29)
  • cael eich amddiffyn rhag achosion o gam-fanteisio rhywiol a cham-drin rhywiol (Erthygl 34)
  • cael help arbennig os ydych wedi cael eich cam-drin (Erthygl 39)

Mae Erthygl 3, dylai pawb sy'n gweithio gyda phlant bob amser wneud yr hyn sydd orau i bob plentyn, yn berthnasol i addysg cydberthynas a rhywioldeb, yn ogystal ag i’r cwricwlwm cyfan.

Gall ysgolion a lleoliadau hefyd gysylltu'r hyn a ddysgir gyda Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau. Dylai dysgwyr gael eu cefnogi hefyd i feithrin dealltwriaeth o'r dyletswyddau a'r mesurau amddiffyn cyfreithiol sy'n gysylltiedig ag amrywiaeth, trais ar sail rhywedd a thrais domestig, a lles. Ceir rhagor o wybodaeth am gyfreithiau perthnasol yn y crynodeb deddfwriaethol yn y canllawiau hyn.

Cynhwysiant, gan gynnwys cynhwysiant LHDTC+

Yn unol â gofynion mandadol y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, caiff addysg cydberthynas a rhywioldeb ei darparu mewn ffordd gynhwysol yn unol ag egwyddorion cydraddoldeb. Mae hyn yn helpu i sicrhau y gall y dysgwyr i gyd weld eu hunain, eu teuluoedd, eu cymunedau a'i gilydd yn cael eu hadlewyrchu ym mhob rhan o'r cwricwlwm a dysgu sut i werthfawrogi gwahaniaeth ac amrywiaeth fel ffynhonnell cryfder. Mae hyn yn cyfrannu at gymdeithas gydlynol, deg a chyfiawn sy'n datblygu'r sgiliau bywyd sydd eu hangen ar ddysgwyr. Mae hyn yn cynnwys, wrth gwrs, tegwch o ran rhywedd a chynhwysiant lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol, drawsryweddol/draws, pobl gwiar a phobl sy’n cwestiynu (LHDTC+).

Mae dysgwyr yn tyfu i fyny mewn byd lle mae rhywedd a hunaniaeth rhywiol, diwylliannau, hawliau a deddfwriaeth yn newid neu'n datblygu ym mhobman. Er mwyn bod yn effeithiol, mae'n rhaid i addysg cydberthynas a rhywioldeb gynhwysol ddechrau'n gynnar. O oedran ifanc, gall dysgwyr ddysgu am yr hyn sy'n eu gwneud yn unigryw, sut i werthfawrogi amrywiaeth a pharchu hawliau pobl eraill. Dyma'r sylfaen ar gyfer ystyried amrywiaeth mewn cydberthnasau, rhywedd a hunaniaeth rywiol a datblygu'r sgiliau a'r gwerthoedd sydd eu hangen i feddwl yn feirniadol am rywedd a normau, hawliau ac annhegwch rhywiol. Dylai hyn gynnwys ystyried ystod o ddylanwadau sy'n llywio ein gwerthoedd a'n hunaniaeth. Dylai helpu dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth o wahanol werthoedd, credoau crefyddol a daliadau anghrefyddol a all lywio ein gwerthoedd a'n hunaniaeth o ran cydberthnasau a rhywioldeb.

Addysg cydberthynas a rhywioldeb fel elfen drawsgwricwlaidd

Mae addysg cydberthynas a rhywioldeb yn faes rhyngddisgyblaethol eang a chymhleth sy'n cynnwys dimensiynau biolegol, cymdeithasol, seicolegol, ysbrydol, moesegol a diwylliannol.

Mae hyn yn golygu bod gan bob Maes o'r cwricwlwm a'r ystod o ddisgyblaethau pwnc o fewn pob Maes gyfraniad unigryw i'w wneud at yr hyn a ddysgir fel rhan o addysg cydberthynas a rhywioldeb. Dylai addysg cydberthynas a rhywioldeb gyffwrdd â phob Maes er mwyn galluogi dysgwyr i greu cysylltiadau rhwng yr hyn a ddysgir ganddyn nhw mewn addysg cydberthynas a rhywioldeb a'r cwricwlwm ehangach, gan ddeall safbwyntiau a dylanwadau hanesyddol, diwylliannol, daearyddol, ffisegol, gwleidyddol, cymdeithasol a thechnolegol ar faterion yn ymwneud ag addysg cydberthynas a rhywioldeb. Mae hyn hefyd yn helpu i osgoi dull sy'n canolbwyntio ar ‘un mater’ lle mae pob gwers yn edrych ar fater gwahanol sy'n ymwneud ag addysg cydberthynas a rhywioldeb, ar wahân i'r pethau eraill sy'n cael eu dysgu. Dylai ysgolion ystyried yr hyn y gall pob Maes ei gyfrannu'n ddilys at ddealltwriaeth o addysg cydberthynas a rhywioldeb. Dylid gwneud hyn mewn ffordd ystyrlon a dylid ceisio osgoi cysylltiadau arwynebol neu ddisylwedd.

Mae'r adran Cynllunio Eich Cwricwlwm ar gyfer pob Maes yn cynnwys cymorth ar sut y gall pob Maes gyfrannu'n ddilys at addysg cydberthynas a rhywioldeb.

Dysgu sy'n briodol o safbwynt datblygiad

Dylai popeth a ddysgir mewn addysg cydberthynas a rhywioldeb fod yn briodol o safbwynt datblygiad a dylai ystyried y canlynol.

Ymateb i anghenion a phrofiadau dysgwyr, yn ogystal â'u gwybodaeth sy'n dablygu’n gyson

Dylai ysgolion gynnwys safbwyntiau'r dysgwyr er mwyn sicrhau bod addysg cydberthynas a rhywioldeb yn berthnasol ac yn ymatebol a chynnig cyfleoedd cynyddol i ddysgwyr er mwyn helpu i gyfeirio'u dysgu wrth iddyn nhw wneud cynnydd. Dylai barn dysgwyr ar beth, sut a ble maen nhw’n dysgu gael ei hystyried fel y gall y cwricwlwm addysg cydberthynas a rhywioldeb adlewyrchu profiadau plant a phobl ifanc yn y gymdeithas yn gywir.

Priodoldeb datblygiadol bras yn y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb

Mae'r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn amlinellu pob llinyn addysgu a dysgu ar ffurf tri chyfnod datblygu bras fel a ganlyn:

      • Cyfnod 1: o 3 oed
      • Cyfnod 2: o 7 oed
      • Cyfnod 3: o 11 oed

Mae pob cyfnod yn cynrychioli conglfeini cynnydd o ran addysg cydberthynas a rhywioldeb. Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd, dylen nhw adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd ganddyn nhw eisoes yng nghyfnod un, neu yng nghyfnodau un a dau, gan gyfuno ac atgyfnerthu'r un tueddfrydau, gwybodaeth a sgiliau gan eu defnyddio mewn cyd-destunau newydd a pherthnasol wrth iddyn nhw ddatblygu. Mae hyn yn wahanol iawn i ddysgu am bynciau ar wahân ac yna symud ymlaen at gynnwys arall.

Dylai ysgolion ystyried y llinynnau mandadol o gynnwys sy'n briodol o safbwynt datblygiad o fewn y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb er mwyn datblygu eu dull gweithredu. Dylen nhw hefyd gydnabod datblygiad ac anghenion cymdeithasol, corfforol, emosiynol a gwybyddol dysgwyr yn ystod eu gwaith cynllunio.

Yn ystod y cyfnod datblygu cynnar, gall pwyslais effeithiol ar sgiliau angenrheidiol alluogi'r dysgwr i ymateb yn llwyddiannus i sefyllfaoedd mewn ffordd ystyrlon, gan gefnogi cynnydd pob dysgwr. Dyma sut y caiff y rhan fwyaf o bynciau addysg cydberthynas a rhywioldeb eu hystyried yn y cyfnod cynnar.

Deall natur cynnydd o ran addysg cydberthynas a rhywioldeb

Mae'r egwyddorion cynnydd ar gyfer y Maes Iechyd a Lles yn cynnig arweiniad ar gynnydd o ran addysg cydberthynas a rhywioldeb. Dylai'r hyn a ddysgir ailymweld â chynnwys, themâu a phynciau fel yr amlinellir yn unrhyw rai o'r cyfnodau blaenorol a nodir yn y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb isod, gan atgyfnerthu dealltwriaeth ddatblygol ac anghenion newidiol dysgwyr ac adeiladu arnyn nhw. Wrth iddyn nhw ddatblygu, dylid annog dysgwyr i gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain.

Addysg cydberthynas a rhywioldeb i ddysgwyr ag anghenion addysgol arbennig neu anghenion dysgu ychwanegol

Dylai ysgolion sy'n darparu addysg i ddysgwyr ag anghenion dysgu cymedrol a difrifol, dwys a lluosog ystyried beth yw'r ffordd orau o ddiwallu anghenion pob dysgwr nad yw ei ddealltwriaeth o faterion iechyd rhywiol a lles o bosibl yn cyfateb i'w ddatblygiad.

Dylai pob aelod o staff, gan gynnwys staff ategol, ffisiotherapyddion, nyrsys a gofalwyr, fod yn ymwybodol o ddull gweithredu'r ysgol mewn perthynas ag addysg cydberthynas a rhywioldeb wrth weithio gyda dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.

Dylai darpariaeth addysg cydberthynas a rhywioldeb fod yn rhan gynlluniedig ac integredig o'r cwricwlwm, wedi ei chydlynu'n effeithiol i sicrhau parhad a chynnydd mewn dysgu ar draws y continwwm. Dylai ysgolion arbennig benderfynu ar union gynnwys y rhaglen addysg cydberthynas a rhywioldeb a fydd, mewn llawer o achosion, yn golygu rhoi ystyriaeth ofalus i'r rhagofynion ar gyfer dysgu ystyrlon mewn addysg cydberthynas a rhywioldeb a'r strategaethau ar gyfer dysgu a fabwysiedir i ddiwallu anghenion gwahanol y dysgwyr. Er enghraifft, ar gyfer dysgwyr sy'n defnyddio dulliau amgen o gyfathrebu, fel arwyddo, symbolau neu switshis a chymhorthion cyfathrebu, bydd angen i ysgolion sicrhau bod pob aelod o staff yn gyfarwydd â thermau addysg cydberthynas a rhywioldeb allweddol mewn Makaton, Braille ac Iaith Arwyddion Prydain, neu ba bynnag ddull cyfathrebu amgen a ddefnyddir.

Ymgysylltu â dysgwyr, rhieni, gofalwyr a chymunedau ehangach

Dylai ysgolion a lleoliadau feddu ar linellau cyfathrebu clir mewn perthynas ag addysg cydberthynas a rhywioldeb a dylen nhw ymgysylltu â dysgwyr, rhieni, gofalwyr a'r gymuned ehangach, gan roi cyfle iddyn nhw ymgysylltu â'r hyn a ddysgir a'r hyn a addysgir fel rhan o addysg cydberthynas a rhywioldeb.

Mae cyfathrebu'n effeithiol â rhieni a gofalwyr yn barhaus yn ffordd bwysig o feithrin cydberthnasau cadarnhaol er mwyn ymgysylltu â nhw mewn ffordd bwrpasol ac ystyrlon. Os caiff hyn ei wneud yn dda, gall hyrwyddo cynnydd dysgwyr drwy helpu rhieni a gofalwyr i ddeall sut y gallan nhw gefnogi dysgu yn yr ysgol a'r tu allan iddi. Dylai cwricwla ysgolion hefyd gydnabod ac adlewyrchu anghenion a chyd-destunau'r cymunedau yn yr ysgol a thu hwnt. 

Dylai gweithio mewn ffordd ragweithiol helpu i fynd i'r afael ag unrhyw ofidiau sydd gan rieni a gofalwyr o bosibl mewn perthynas ag addysg cydberthynas a rhywioldeb. Dylai hyn hefyd helpu i roi sicrwydd iddyn nhw ynghylch natur gadarnhaol addysg cydberthynas a rhywioldeb drwy nodi'r hyn y bwriedir ei ddysgu a'r adnoddau a ddefnyddir yn ystod y cyfnodau datblygu gwahanol.

Dylai ysgolion a lleoliadau wybod pryd a ble y mae angen iddyn nhw ddefnyddio cymorth gan sefydliadau ac arbenigwyr allanol, fel nyrsys ysgol. Dylai staff o'r ysgol fod yn bresennol bob amser pan fo sefydliadau allanol yn gweithio gyda dysgwyr. Dylai fod ganddyn nhw hefyd wybodaeth a dealltwriaeth briodol o'r rhwydwaith o wasanaethau cymorth lleol er mwyn gallu cael cymorth ac atgyfeirio pan fo angen.

Dylid sicrhau bod yr holl adnoddau a ddefnyddir mewn ysgolion a lleoliadau yn berthnasol, yn ddilys, eu bod yn briodol o safbwynt datblygiad, eu bod yn gynhwysol ac yn sensitif i anghenion dysgwyr. Dylai ysgolion rannu enghreifftiau o'r adnoddau y maen nhw’n bwriadu eu defnyddio â rhieni a gofalwyr er mwyn rhoi sicrwydd iddyn nhw a'u galluogi i atgyfnerthu sgyrsiau a pharhau â nhw yn y cartref, lle bo hynny'n briodol. 

Dysgu proffesiynol

Mae dysgu proffesiynol yn ofyniad allweddol er mwyn sicrhau addysg cydberthynas a rhywioldeb o ansawdd, a dylai ddigwydd ar lefel ysgol, lefel clwstwr, lefel ranbarthol a lefel genedlaethol.

Dylai uwch-arweinwyr mewn ysgolion sicrhau bod pob ymarferydd yn cyfrannu at flaenoriaethau addysg cydberthynas a rhywioldeb yr ysgol, naill ai drwy'r dull gweithredu ysgol gyfan, yr elfen drawsgwricwlaidd neu'r dysgu hanfodol. Dylai ysgolion a lleoliadau alluogi pob ymarferydd i fanteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol a all ei helpu i fagu hyder a meithrin gwybodaeth a sgiliau o fewn addysg cydberthynas a rhywioldeb.

Addysg cydberthynas a rhywioldeb gadarnhaol, amddiffynnol ac ataliol

Gan adeiladu ar y Cod, dylai'r dull gweithredu ym maes addysg cydberthynas a rhywioldeb fod yn gadarnhaol, yn amddiffynnol ac yn ataliol, gan ystyried sut y gallai fod angen cefnogi dysgwyr i wneud y canlynol:

  • deall ac ymdopi â newid, gwrthdaro a phwysau
  • adnabod ymddygiadau a allai fod yn niweidiol mewn cydberthnasau a gwybod sut i ofyn am gymorth
  • meddu ar yr wybodaeth i adnabod pob math o wahaniaethu, trais, camdriniaeth ac esgeulustod, gan gynnwys trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol

  • gofyn am help a chyngor fel y bo'n briodol

Dylai ysgolion geisio creu amgylcheddau dysgu diogel a chefnogol. Mae'r rhain yn helpu i feithrin ymddiriedaeth ac yn cynnig lle diogel i ddysgwyr ystyried yr hyn y maen nhw’n ei ddysgu, gofyn cwestiynau a mynegi eu meddyliau a'u teimladau. Dylai ymarferwyr geisio cyflwyno'r hyn a ddysgir ynghylch materion addysg cydberthynas a rhywioldeb mewn ffordd gadarnhaol ac ystyrlon. Er bod deall risgiau a niwed yn agwedd bwysig ar addysg cydberthynas a rhywioldeb, mae canolbwyntio ar y rhain wrth addysgu materion addysg cydberthynas a rhywioldeb, neu ganolbwyntio'n bennaf ar yr agweddau negyddol ar addysg cydberthynas a rhywioldeb, yn debygol o fod yn aneffeithiol neu'n niweidiol.

Gellir cyflawni hyn drwy ddatblygu cytundeb gweithiol sy'n cynnwys rheolau sylfaenol gyda dysgwyr ar gyfer trafodaethau ynghylch addysg cydberthynas a rhywioldeb. Mae hyn yn helpu i sicrhau ffiniau proffesiynol a chadw dysgwyr ac ymarferwyr yn ddiogel. Er enghraifft, wrth feddwl yn greadigol gellid helpu dysgwyr i rannu eu cwestiynau, eu safbwyntiau a'u profiadau yn ddienw, gan arwain at drafodaeth fwy agored a gonest.

Y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb

Cwricwlwm

Mandadol

Mae'r Cod hwn yn cynnwys gofynion mandadol, ac mae'r sail gyfreithiol ar gyfer y gofynion hyn i'w gweld yn y crynodeb deddfwriaethol yn y canllawiau fframwaith hyn ar y Cwricwlwm i Gymru. Mae'n nodi'r themâu a'r materion y mae'n rhaid eu cynnwys fel rhan o addysg cydberthynas a rhywioldeb. Mae'n rhaid i gwricwlwm a gwaith addysgu a dysgu gynnwys yr elfen fandadol o addysg cydberthynas a rhywioldeb a amlinellir yn y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb canlynol.

Cynllunio eich cwricwlwm

Mae'r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb mandadol hwn yn helpu ysgolion i gynllunio eu haddysg cydberthynas a rhywioldeb. Mae'r cynnwys yn seiliedig ar linynnau dysgu cysylltiedig bras, sef:

  • cydberthnasau a hunaniaeth
  • iechyd rhywiol a lles
  • grymuso, diogelwch a pharch

Mae'r llinynnau hyn yn caniatáu i ymarferwyr gynllunio a datblygu cwricwlwm sydd wedi'i deilwra i'w dysgwyr, sy'n creu cysylltiadau ac sy'n datblygu cyd-destunau dysgu dilys ym mhob rhan o'r cwricwlwm.

Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ymdrin â'r themâu canlynol fel rhan o addysg cydberthynas a rhywioldeb: cydberthnasau; hawliau a thegwch; rhyw, rhywedd a rhywioldeb; cyrff a delwedd gorfforol; iechyd rhywiol a lles; a thrais, diogelwch a chymorth. Er mwyn helpu ysgolion a lleoliadau i gynllunio eu haddysg cydberthynas a rhywioldeb, mae'r themâu hyn wedi'u plethu yn y llinynnau dysgu.

Ym mhob un o'r llinynnau dysgu, rhaid i gynnwys y cwricwlwm addysg cydberthynas a rhywioldeb fod yn gynhwysol ac adlewyrchu amrywiaeth. Rhaid cynnwys gwaith dysgu sy'n datblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth dysgwyr o wahanol hunaniaethau, safbwyntiau a gwerthoedd ac amrywiaeth o ran cydberthnasau, rhywedd a rhywioldeb, gan gynnwys bywydau LHDTC+.

Mae dysgu am hawliau a thegwch yn rhan o bob llinyn, yn ogystal â gwreiddio dysgu a phrofiad drwy ddulliau dysgu seiliedig ar hawliau.  

Cynnwys sy'n briodol i ddatblygiad y dysgwr 

Yn unol â'r Ddeddf, mae'n rhaid i'r addysg cydberthynas a rhywioldeb a ddarperir gan ysgolion fod yn briodol i ddatblygiad dysgwyr. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ysgolion a lleoliadau ystyried amrywiaeth o ffactorau gan gynnwys oedran y dysgwr; ei wybodaeth a'i aeddfedrwydd; unrhyw anghenion dysgu ychwanegol a rhagweld ei ddatblygiad ffisiolegol ac emosiynol. Rhaid i addysg cydberthynas a rhywioldeb fod yn briodol i ddatblygiad pob dysgwr, sy'n golygu y gall anghenion dysgwyr o oedrannau tebyg fod yn wahanol.

Cynlluniwyd y cyfnodau i roi dealltwriaeth i ymarferwyr o'r hyn sy'n debygol o fod yn briodol o safbwynt datblygiad. Er enghraifft, yn ystod cyfnod 1 a chyfnod 2, bydd dysgwyr yn dysgu am egwyddorion cydsyniad cyffredinol fel rhagofynion ar gyfer dysgu am gydsyniad rhywiol ar yr adeg briodol o safbwynt eu datblygiad yng nghyfnod 3. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y bydd dysgwyr yng nghyfnod un a chyfnod dau yn datblygu ymwybyddiaeth o ofyn am ganiatâd i rannu deunyddiau, er enghraifft teganau; neu ddysgu am barchu ffiniau personol.

Cynlluniwyd y cyfnodau er mwyn helpu ysgolion a lleoliadau i benderfynu a yw'r hyn a ddysgir yn briodol i ddatblygiad dysgwyr penodol. Mae'r oedrannau a nodir isod yn dangos yn fras pryd y dylai ymarferwyr ddechrau ystyried a yw'r hyn a ddysgir yn ystod cyfnod yn briodol i ddatblygiad eu dysgwyr. Gall hyn olygu y bydd rhai dysgwyr yn barod i ddysgu pwnc penodol cyn yr oedrannau bras a roddir yn y Cod ond, yn yr un modd, gall olygu y bydd angen rhoi cyfle i rai dysgwyr ddatblygu ymhellach cyn iddynt ymgysylltu â phwnc penodol. Gellir cyflwyno dysgwyr i gyfnod yn raddol oherwydd bydd rhywfaint o'r hyn a ddysgir yn y cyfnod hwnnw yn briodol i ddatblygiad dysgwyr yn gynt na gwaith dysgu arall. Fel y nodwyd uchod, rhaid gwneud y penderfyniadau hyn ar sail amrywiaeth o ffactorau.

Mae'r tablau sy'n gysylltiedig â phob llinyn dysgu isod wedi eu rhannu'n dri chyfnod datblygu bras. Maent yn cynrychioli camau cynnydd o ran addysg cydberthynas a rhywioldeb. Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd, byddant yn adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd ganddynt yn flaenorol yng nghyfnod un; neu yng nghyfnodau un a dau, gan ategu ac atgyfnerthu'r un tueddfrydau, gwybodaeth a sgiliau a'u defnyddio mewn cyd-destunau newydd a pherthnasol. Mae hyn yn wahanol iawn i ddysgu am bynciau ar wahân ac yna symud ymlaen at gynnwys arall.

Mae dysgu yng nghyd-destun addysg cydberthynas a rhywioldeb yn cyfeirio at yr hyn a addysgir yn benodol a'r hyn a ymwreiddir ym mhob rhan o'r cwricwlwm ac amgylchedd yr ysgol drwy'r dull ysgol gyfan o weithredu.

Cydberthnasau a hunaniaeth

Mae'r llinyn hwn yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • yr amrywiaeth o gydberthnasau y mae pobl yn eu datblygu drwy gydol eu bywydau
  • sut y gall ein cydberthnasau a'n rhywioldeb lywio ein hunaniaeth
  • pwysigrwydd hawliau dynol wrth sicrhau cydberthnasau iach, diogel a boddhaus mewn cymdeithas gynhwysol

Mae angen i ddysgwyr ddatblygu'r ddealltwriaeth a'r ymddygiadau a fydd yn eu helpu i ddatblygu a chynnal cydberthnasau iach, diogel a boddhaus drwy gydol eu bywydau. Mae angen i ddysgwyr gael eu cefnogi i adnabod a gwerthfawrogi gwahanol fathau o gydberthnasau, gan gynnwys teuluoedd a chyfeillgarwch, yn ogystal â'r amrywiaeth o fewn gwahanol fathau o gydberthnasau, gan gynnwys amrywiaeth LHDTC+, a sut y gall y rhain newid dros amser. Mae datblygu empathi, tosturi a sgiliau cyfathrebu yn hollbwysig i gydberthnasau dysgwyr nawr a'r cydberthnasau y byddant yn eu ffurfio yn y dyfodol. Bydd hyn hefyd yn eu helpu i barchu a deall pobl eraill a'u trin yn deg, beth bynnag fo'u rhyw, eu rhywedd, eu rhywioldeb, eu ffydd a'u cred.

Mae angen i ddysgwyr hefyd ddatblygu eu hymdeimlad ohonynt eu hunain a'u hymdeimlad bod pawb yn unigryw. Dros amser, gall dysgwyr ystyried sut y gall cydberthnasau, rhyw, rhywedd, atyniad rhamantus a rhywiol a phrofiadau personol lywio a dylanwadu ar hunaniaeth person a'r hyn sy'n ei wneud yn unigryw. Mae hyn yn helpu dysgwyr i ddeall sut y caiff hunaniaeth, cydberthnasau a rhywioldeb eu llywio gan fioleg, technoleg a normau cymdeithasol, diwylliannol a chrefyddol ac y gall y rhain newid dros amser. Drwy ymdrin â'r agweddau hyn, gall dysgwyr adnabod ymddygiadau a normau cadarnhaol a niweidiol a bod yn hyderus i siarad drostynt eu hunain a lleisio barn ac eirioli dros hawliau pobl eraill a'r angen i'w parchu.

Mae'r llinyn hwn hefyd yn cydnabod sut y gall hawliau gefnogi ac ategu cydberthnasau sy'n llawn parch a thegwch, yn ogystal â chymdeithas deg a chynhwysol.

Llinyn cydberthnasau a hunaniaeth: cynnwys mandadol [PDF]

Iechyd rhywiol a lles

Mae'r llinyn hwn yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • dysgu am y ffordd y mae pethau byw yn tyfu, yn atgenhedlu ac yn mynd drwy gylchred bywyd
  • datblygu dealltwriaeth o'r corff dynol, gan gynnwys teimladau pobl am eu cyrff a'r ffordd y gall y teimladau hyn gael eu cynrychioli
  • y materion iechyd sy'n gysylltiedig â chydberthnasau a rhywioldeb
  • dealltwriaeth o'r ffordd y mae rhywioldeb ac iechyd rhywiol yn effeithio ar ein lles.

Yn natblygiad cynnar, mae angen i ddysgwyr brofi cyd-destunau ar gyfer deall pwysigrwydd cynnal iechyd a lles personol, gan gynnwys hylendid, a'r ffordd y mae hyn yn effeithio arnyn nhw a phobl eraill. Caiff hyn ei ddatblygu wedyn i gymhwyso egwyddorion iechyd a hylendid cyffredinol at y maes iechyd rhywiol. 

Wrth i ddysgwyr ddatblygu, mae angen i'r hyn a addysgir a'r hyn a ddysgir ganolbwyntio ar ystyried y ffordd y mae newidiadau corfforol yn effeithio ar les a chydberthnasau gan sicrhau bod profiadau a bywydau LHDTC+ yn cael eu cynrychioli. Mae'r hyn a ddysgir hefyd yn canolbwyntio ar les mislif a chyflyrau sy'n gallu effeithio ar y system atgenhedlu; yn ogystal â datblygu dealltwriaeth o ganlyniadau posibl y penderfyniadau a wneir mewn perthynas ag iechyd a chydberthnasau rhywiol. Bydd y dysgu hyn i gyd yn canolbwyntio ar gydnabod amrywiaeth y corff dynol, a'r ffordd y mae'r canfyddiad a'r ddealltwriaeth o'r corff dynol wedi'u llywio gan gymdeithas, y gyfraith, gwyddoniaeth a thechnoleg, a'r effaith a gaiff hyn ar les.

Llinyn iechyd a lles rhywiol: cynnwys mandadol [PDF]

Grymuso, diogelwch a pharch

Mae'r llinyn hwn yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • hawliau dysgwyr i ddiogelwch ac amddiffyniad a rhyddid rhag niwed a gwahaniaethu
  • sut a ble i gael gwybodaeth, help a chymorth
  • sut i gefnogi ac eirioli dros hawliau, triniaeth deg a pharch i bawb

Mae'r llinyn hwn yn adeiladu ar ymddygiadau a sgiliau cadarnhaol cydberthnasau iach. Mae'n atgyfnerthu'r gofyniad i gefnogi dysgwyr i ddatblygu empathi, caredigrwydd a thosturi tuag at ei gilydd a'u grymuso â'r hyder i ddefnyddio'r cymorth sydd ar gael os ydynt yn poeni am eu diogelwch eu hunain neu ddiogelwch pobl eraill.

Dylid eu cefnogi i ddeall bod arfer eu hawl i fod yn rhydd rhag unrhyw fath o wahaniaethu, trais, camdriniaeth ac esgeulustod yn cael ei alluogi gan oedolion dibynadwy sy'n gallu eu cadw'n ddiogel. Mae hyn yn cynnwys nifer o fesurau amddiffyn cyfreithiol sy'n bodoli i bawb. Mae ymddygiadau o'r fath yn anghyfreithlon o dan gyfraith trosedd ac mae cosbau troseddol i'r rhai a gaiff eu dyfarnu'n euog o gyflawni troseddau o'r fath.

Mae angen i ddysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o natur ac effaith gymdeithasol, emosiynol, corfforol a chyfreithiol ymddygiadau niweidiol, gan gynnwys pob bwlio a bwlio pobl LHDTC+, trais rhywiol a thrais ar sail rhywedd mewn ystod o gyd-destunau, gan gynnwys ar-lein.

Llinyn grymuso, diogelwch a pharch: cynnwys gorfodol [PDF]


 

Hawliau dynol yw'r rhyddid a’r amddiffyniadau y mae gan bawb hawl iddyn nhw. Yng Nghymru, mae ein hawliau dynol wedi’u diogelu yn ôl y gyfraith gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998. Ceir rhagor o wybodaeth am yr agweddau cyfreithiol sy'n ymwneud â hawliau yng nghyd-destun y Cwricwlwm i Gymru yn adran deddfwriaeth y canllawiau hyn.

Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn amlinellu ac yn diogelu hawliau pawb. Mae hyn waeth beth fo'i genedligrwydd, man preswylio, rhyw, tarddbwynt cenedlaethol neu ethnig, lliw, crefydd, iaith, cyfeiriadedd rhywiol neu unrhyw statws arall. At hynny, mae hawliau dynol yn gyfartal i bawb heb wahaniaethu. Mae'r hawliau hyn yn gysylltiedig â'i gilydd, yn dibynnu ar ei gilydd ac yn anwahanadwy wrth ei gilydd.

Yn ogystal, mae gan blant a phobl ifanc a phobl anabl hawliau dynol penodol, wedi'u gwarantu gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau. Mae'r ddau gonfensiwn hyn hefyd yn cyfleu rhwymedigaethau ar genedl-wladwriaethau.

Cwricwlwm

Mandadol

Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Deddf) yn darparu bod yn rhaid i ysgolion a lleoliadau eraill hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o'r ddau gonfensiwn ymhlith y rhai sy'n darparu dysgu ac addysgu mewn perthynas â chwricwlwm eu hysgol neu eu lleoliad. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, bod yn rhaid i arweinwyr ysgolion sicrhau bod ymarferwyr a staff eraill yr ysgol sy'n darparu dysgu ac addysgu yn datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o hawliau dynol, fel y nodir yn y ddau gonfensiwn hyn.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn gytundeb rhyngwladol sy'n diogelu hawliau dynol plant a phobl ifanc hyd at 18 oed. Mae'n ymdrin â phob agwedd ar fywyd plentyn ac yn nodi'r hawliau y mae gan bob plentyn ym mhob man hawl iddyn nhw, gan gynnwys darpariaeth addysg. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn un o brif egwyddorion y polisïau sy’n cael eu llunio mewn cysylltiad â phlant a phobl ifanc yng Nghymru. Cafodd pedwar diben y cwricwlwm eu llywio gan egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae pob un o'r pedwar diben yn galluogi dysgwyr i brofi eu hawliau dynol, sydd wedi’i enghreifftio yn y mapio a wneir gan Gomisiynydd Plant Cymru. 

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau

Diben Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yw hyrwyddo, diogelu a sicrhau mwynhad llawn a chyfartal o'r holl hawliau dynol gan bobl anabl. Mae'n bwysig bod dysgwyr, sydd gyda nam neu sydd heb namau, yn gweld ac yn profi egwyddorion y confensiwn hwn ar waith drwy gydol eu haddysg. 

Mae cefnogi dysgwyr i wybod eu hawliau a pharchu hawliau pobl eraill drwy addysg hawliau dynol yn ei gwneud yn bosibl cael cwricwlwm sydd wedi'i ysgogi gan y pedwar diben.

Hawliau dynol a’r cwricwlwm

Dylai dysgu am, drwy ac ar gyfer hawliau dynol annog dysgwyr i ymholi, dadansoddi, ffurfio dadleuon, gwneud penderfyniadau, cydweithredu, gwerthuso a datblygu ymddygiadau a gaiff eu llywio gan werthoedd. Mae addysg hawliau dynol yn cwmpasu’r canlynol.

  • Dysgu am hawliau dynol, sy’n ymgorffori dealltwriaeth o hawliau dynol a ffynonellau'r hawliau hynny, gan gynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.

Gall dysgwyr ddatblygu gwybodaeth am hawliau dynol yn bennaf drwy Meysydd Dysgu a Phrofiad Y Dyniaethau ac Iechyd a Lles, a gellir eu cynnwys ar draws Meysydd eraill. Dylai dysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o ddinasyddiaeth, cyfranogiad a gweithredu egwyddorol. Byddan nhw’n datblygu dealltwriaeth o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau a gallan nhw ddysgu adnabod eu hawliau eu hunain ac eraill. Mae hawliau hefyd yn hanfodol mewn Addysg cydberthynas a rhywioldeb a thrwy hyn mae dysgwyr yn deall sut mae hawliau sy'n gysylltiedig â rhyw, rhywedd, rhywioldeb a pherthnasoedd yn cyfrannu at ryddid, tegwch, urddas, lles a diogelwch pawb. Yn ganolog i'r dysgu hwn mae dealltwriaeth o'r cyfleoedd a'r heriau y mae pobl yn eu hwynebu wrth arfer eu hawliau ledled y byd.

  • Dysgu drwy hawliau dynol – sy’n ymwneud â datblygu gwerthoedd, agweddau ac ymddygiadau sy'n adlewyrchu gwerthoedd hawliau dynol.

Dylai dysgwyr brofi eu hawliau drwy eu haddysg a datblygu dealltwriaeth feirniadol o sut mae eu profiad addysgol yn cefnogi eu hawliau. Gall ysgolion a lleoliadau ddatblygu'r profiad hwn drwy fabwysiadu dull gweithredu hawliau plant. Un o egwyddorion allweddol y dull hwn yw hawliau plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn penderfyniadau am eu dysgu a'u profiad ysgol ehangach. Fodd bynnag, dylai dysgwyr ac oedolion gael cyfleoedd i gydweithio i ddatblygu a chynnal cymuned yr ysgol neu’r lleoliad yn seiliedig ar gydraddoldeb, urddas, parch, cyfranogiad a diffyg gwahaniaethu; mae hyn yn cynnwys dysgu ac addysgu mewn ffordd sy'n parchu hawliau ymarferwyr a dysgwyr ac sy’n hyrwyddo lles. Mae'r rhai sy'n ysgwyddo dyletswydd yn atebol am sicrhau bod dysgwyr yn profi eu hawliau.

Mae gan Gomisiynydd Plant Cymru ganllawiau ac adnoddau am ddim i ysgolion a lleoliadau i'w helpu i ymgorffori dull hawliau plant yn seiliedig ar egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau; ac mae adnoddau eraill ar gael hefyd, fel y rhai a gynhyrchwyd gan UNICEF. Gellir integreiddio dulliau ysgol gyfan ar gyfer cyfranogiad, lles a gwrth-fwlio i gyd mewn dull hawliau plant. Mae gwybodaeth am hawliau i bobl anabl ar gael gan Anabledd Cymru.

  • Dysgu ar gyfer hawliau dynol – sy’n ymwneud â chymell gweithredu cymdeithasol a grymuso dinasyddiaeth weithredol i hyrwyddo parch at hawliau pawb.

Mae addysg hawliau dynol yn grymuso dysgwyr fel deiliaid hawliau. Mae hyn yn galluogi dysgwyr i archwilio eu hagweddau a'u hymddygiad eu hunain yn feirniadol ac i ddatblygu sgiliau i fod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd, sy’n gallu eirioli dros eu hawliau eu hunain a hawliau pobl eraill.

Yma, mae amrywiaeth yn cyfeirio at adnabod a dathlu natur amrywiol grwpiau cymdeithasol a chymunedau a sicrhau bod y cwricwlwm yn adlewyrchu'r amrywiaeth honno a'i fod yn gallu ymateb i brofiadau'r grwpiau a'r cymunedau hynny. Yn ei hanfod, mae'n golygu bod yn ymwybodol o nodweddion pobl eraill a'u trin â thrugaredd, empathi, dealltwriaeth a thegwch, er gwaethaf y nodweddion hynny. Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd, dylen nhw ddod yn gynyddol ymwybodol o'r ystod o nodweddion penodol a all ddiffinio ein hunaniaeth, gan gynnwys rhyw, rhywedd, hil, crefydd, oedran, anabledd a rhywioldeb.

Mae bodau dynol yn fodau cymdeithasol wrth eu natur. Mae ganddyn nhw werthoedd, hunaniaethau, ymddygiadau a nodweddion corfforol gwahanol. Mae cydlyniant unrhyw gymdeithas ddynol yn dibynnu ar y ffordd y mae'n rheoli'r amrywiaeth honno. Mae gwerthfawrogi gwahanol gyfraniadau a phrofiadau'r rhai hynny sy'n rhan o'n grwpiau cymdeithasol yn atgyfnerthu'r cysylltiadau rhyngom ac yn cefnogi lles holl aelodau'r grwpiau hynny. Mae rhannu profiadau pobl y tu allan i'n grwpiau cymdeithasol yn ehangu ein gorwelion, yn ychwanegu at ein safbwyntiau ac yn cyfrannu at ein hymdeimlad unol o ddynoliaeth. Drwy deimlo ein bod yn cael ein gwerthfawrogi, cawn ein grymuso i wneud cyfraniadau ystyrlon at ein cymdeithas.                          

Bydd cymuned ysgolion yn adlewyrchu'r ystod amrywiol o gefndiroedd a safbwyntiau a geir mewn cymdeithas. Wrth i ddysgwyr dyfu, mae eu rhyngweithio cymdeithasol yn debygol o ehangu mewn byd sy'n gynyddol gydgysylltiedig. Mae creu cwricwlwm sy'n cydnabod diwylliant amrywiol eu cymdeithas yn galluogi dysgwyr i ddathlu natur amrywiol pob cymdeithas. Mae hyn yn hyrwyddo cydraddoldeb, cynhwysiant, cydlyniant cymdeithasol ac ymdeimlad o gael eu gwerthfawrogi.

Wrth gynllunio cwricwlwm, dylai ymarferwyr geisio cynnwys cyfleoedd i ddysgwyr:

  • datblygu empathi a thrugaredd at eraill
  • dathlu cefndiroedd, gwerthoedd a nodweddion amrywiol
  • datblygu eu gwerthoedd eu hunain ac ymdeimlad o'u hunaniaeth
  • meithrin dealltwriaeth o bobl â gwahanol gredoau a safbwyntiau
  • herio stereoteipiau

Dylai ymarferwyr hefyd rannu hanesion gwahanol grwpiau a gwrando arnyn nhw, gan gynnwys grwpiau lleiafrifol, a galluogi pob dysgwr i weld ei hun a'i brofiadau wedi'u cynrychioli yn y testunau, y profiadau a'r wybodaeth a ddatblygir drwy'r cwricwlwm.

Cyflwyniad

Datblygwyd yr adran hon o'r canllawiau i helpu ymarferwyr mewn ysgolion a lleoliadau i drefnu, cynllunio a gweithredu addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith (addysg a phrofiadau byd gwaith) fel thema drawsgwricwlaidd drwy fframwaith Cwricwlwm i Gymru i ddysgwyr rhwng 3 ac 16 oed.

Mae dysgu am addysg a phrofiadau byd gwaith yn hollbwysig i feithrin sgiliau ar gyfer bywyd a gwaith. Mae hyn yn helpu dysgwyr i ddeall y gydberthynas rhwng eu dysgu a byd gwaith.

Dylai cwricwlwm ysgol alluogi dysgwyr i gael profiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith a gyrfaoedd, gan feithrin gwybodaeth am ehangder y cyfleoedd a fydd ar gael iddyn nhw gydol eu hoes. Gall y dysgu hwn eu helpu i wneud penderfyniadau deallus am eu llwybrau gyrfa. Mae'r pedwar diben a'r sgiliau hanfodol sy'n eu hategu yn ganolog i'r gwaith o baratoi dysgwyr ar gyfer gyrfaoedd a gwaith. Mae'r rhain yn cefnogi dysgwyr i fod yn wydn, yn greadigol ac yn uchelgeisiol, gan ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw ddatrys problemau, ymdrin â gwahanol wybodaeth a gweithio'n annibynnol. Bydd hyn yn helpu i'w paratoi i ymateb i gyfleoedd a heriau realiti economaidd sy'n newid.

Mae addysg a phrofiadau byd gwaith effeithiol yn cynnwys addysg gyrfaoedd sy'n briodol i oedran a cham datblygu'r dysgwyr, a chaiff ei ymgorffori ym mhob maes dysgu a phrofiad (Meysydd). Mae wedi'i gefnogi gan amrywiaeth eang o brofiadau ac amgylcheddau dysgu perthnasol sy'n gysylltiedig ag addysg. Er mwyn helpu i sicrhau bod dysgwyr yn ymwneud â gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith, dylai ysgolion neu leoliadau ystyried amrywiaeth o ffactorau fel oedran, gwybodaeth ac anghenion dysgu ychwanegol dysgwyr.

Cwricwlwm

Mandadol

Gellir cael cyngor ar statws cyfreithiol yr adran hon o'r canllawiau yn y crynodeb deddfwriaethol yn fframwaith Cwricwlwm i Gymru.

Pam mae addysg a phrofiadau byd gwaith yn bwysig mewn ysgolion a lleoliadau

Mae addysg a phrofiadau byd gwaith yn galluogi dysgwyr i ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u dealltwriaeth yn barod at heriau a chyfleoedd dysgu pellach, ynghyd ag at fyd gwaith sy'n datblygu'n barhaus. Mae gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn cyfrannu at ymdrechion dysgwyr i wireddu pedwar diben Cwricwlwm i Gymru.

Oddi ar pan fyddan nhw'n 3 oed, dylai addysg a phrofiadau byd gwaith ysbrydoli dysgwyr i wneud y canlynol:

  • meithrin dealltwriaeth o ddiben byd gwaith iddyn nhw eu hunain ac i'r gymdeithas yn gyfan
  • dod yn fwyfwy ymwybodol o'r amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw, gan ehangu eu gorwelion
  • datblygu'r agweddau a'r ymddygiadau sydd eu hangen i oresgyn rhwystrau i gyflogadwyedd, rheoli gyrfa a dysgu gydol oes
  • gwerthfawrogi'r ystod gynyddol o gyfleoedd yn y gweithle lle mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn bwysig
  • ystyried cyfleoedd drwy amrywiaeth o brofiadau ystyrlon ym maes dysgu, gwaith ac entrepreneuriaeth
  • datblygu gwydnwch a'r gallu i addasu mewn ymateb i heriau, dewisiadau a chyfrifoldebau gwaith a bywyd

Mae'r darluniad isod yn dangos pwysigrwydd y cyfranwyr a'r dylanwadau allweddol wrth i bobl ifanc wneud penderfyniadau ynghylch gyrfa, a sut y dylai ysgolion a lleoliadau ystyried y rhain wrth ddylunio addysg a phrofiadau byd gwaith o fewn eu cwricwlwm. 

Rhoi cyd-destun i sgiliau drwy addysg a phrofiadau byd gwaith

Dylai ysgolion a lleoliadau helpu dysgwyr i ddechrau gwerthfawrogi pwysigrwydd defnyddio sgiliau sy’n hanfodol i’r pedwar diben mewn addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith. Dylen nhw annog canfyddiad datblygol dysgwyr o'u cyfraniad posibl at fyd gwaith yn y dyfodol. Bydd y dysgu hwn yn datblygu i'w galluogi i werthfawrogi sut y gall eu cyfraniadau fod o fudd iddyn nhw eu hunain ond hefyd i ffyniant eu cymunedau, Cymru a'r byd ehangach yn y dyfodol.

Sgiliau sy'n hanfodol i'r pedwar diben

Creadigrwydd ac arloesi

Drwy gynnwys dysgwyr yn weithredol mewn enghreifftiau bywyd go iawn o fyd gwaith, gallan nhw ddatblygu eu hyder i fod yn fwy chwilfrydig ac ymholgar. Bydd hyn yn galluogi dysgwyr i ddechrau ystyried, archwilio a llunio atebion gwreiddiol i broblemau, a all roi cyfleoedd i ddatblygu ffordd entrepreneuraidd o feddwl. Mae sgiliau sy'n cyfrannu at greu unigolion creadigol ac arloesol yn cael eu gwerthfawrogi’n gynyddol gan gyflogwyr ym mhob sector, gan y gallan nhw gefnogi datblygiadau a gwelliant parhaus o ran effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o fewn diwydiant.

Meddwl yn feirniadol a datrys problemau

Wrth i ddysgwyr ddechrau datblygu eu sgiliau meddwl yn feirniadol a datrys problemau, gellir defnyddio cyd-destunau addysg a phrofiadau byd gwaith i'w hannog i gymryd risgiau. Bydd cymhwyso'r sgiliau hyn i'w llwybr gyrfa eu hunain yn cefnogi dysgwyr i ddeall y gydberthynas rhwng risg a gwobr yn well, a'r ffordd y mae hyn yn effeithio ar eu profiad o fyd gwaith. Dylai dysgwyr ddadansoddi amrywiaeth eang o wybodaeth yn feirniadol er mwyn llywio eu barn a'u safbwyntiau mewn perthynas â byd gwaith. Bydd hyn yn eu cefnogi i ddeall ac ystyried effaith eu penderfyniadau, heddiw ac ar genedlaethau'r dyfodol.

Effeithiolrwydd personol

Mae hunanymwybyddiaeth a hyder cynyddol dysgwyr yn cyfrannu at eu gwerthfawrogiad o'u hunanwerth a'r ffordd y mae hyn yn cysylltu â'r hyn y gallan nhw ei gynnig i fyd gwaith. Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi sgiliau megis cyfrannu at dîm, arweinyddiaeth, gwydnwch a'r gallu i fyfyrio, addasu a newid mewn sefyllfaoedd gwahanol. Wrth i ddysgwyr ddatblygu, dylen nhw fyfyrio’n gynyddol ar eu heffeithiolrwydd yn ystod addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith. Bydd hyn yn eu galluogi i nodi cryfderau a meysydd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad pellach. Mae datblygu parodrwydd i ddysgu yn annog dysgwyr i fod yn agored i feithrin sgiliau newydd. Gall hyn ddatblygu eu gallu i addasu, gan eu galluogi i fanteisio ar ragor o gyfleoedd o fewn byd gwaith.

Cynllunio a threfnu

Gall profi'r sgiliau hyn mewn cyd-destunau dilys helpu dysgwyr i feithrin sgiliau gwneud penderfyniadau a meddwl yn fyfyriol. Mae addysg a phrofiadau byd gwaith yn galluogi dysgwyr i ddangos eu sgiliau cynllunio a threfnu, megis rhoi syniadau ar waith, gosod nodau, rheoli amser a monitro canlyniadau a myfyrio arnyn nhw. Gellir annog dysgwyr i dyfu’n gynyddol annibynnol, a fydd yn eu helpu i gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu datblygiad o ran eu gwaith a'u hastudiaethau. Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi'r gallu i gynllunio a threfnu yn effeithiol, ac mae angen i ddysgwyr gael eu cefnogi i ddeall perthnasedd y sgiliau hyn er mwyn iddyn nhw allu cyflawni uchelgais.

Sgiliau trawsgwricwlaidd

Dylai ysgolion a lleoliadau helpu dysgwyr i ddechrau gwerthfawrogi pwysigrwydd defnyddio eu sgiliau trawsgwricwlaidd mewn addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith.

Llythrennedd

Mae angen gallu cyfathrebu'n effeithiol a chymhwyso sgiliau llythrennedd mewn cyd-destunau gwahanol er mwyn llwyddo mewn byd gwaith. Mae meithrin sgiliau cyfathrebu effeithiol yn galluogi dysgwyr i ymddiddori mewn gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith, er enghraifft, wrth ystyried barn a safbwyntiau pobl eraill. Bydd hyn yn helpu dysgwyr i ddeall pwysigrwydd datblygu cydberthnasau cadarnhaol mewn byd gwaith.

Rhifedd

Mae angen gallu defnyddio sgiliau rhifedd yn effeithiol er mwyn llwyddo o fewn byd gwaith. Mae angen i ddysgwyr feithrin yr hyder i gymhwyso eu sgiliau rhifedd, er enghraifft, wrth ddefnyddio a dehongli data a deall pwysigrwydd rheoli arian mewn bywyd a gwaith. Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd o ran eu sgiliau rhifedd, dylen nhw gael cyfleoedd i gymhwyso gwybodaeth mewn cyd-destunau gwahanol o ran addysg a phrofiadau byd gwaith.

Cymhwysedd Digidol

Yn gynyddol, mae angen gallu defnyddio technoleg ddigidol mewn amrywiaeth eang o sefyllfaoedd er mwyn llwyddo o fewn byd gwaith. Mae byd gwaith yn datblygu'n barhaus ac yn dod yn fwyfwy rhyngwladol, felly mae angen i ddysgwyr feithrin eu hyder a'u medrusrwydd digidol a fydd yn gwella eu sgiliau cyfathrebu, yn ogystal â’u gallu i fanteisio ar gyfleoedd addysg a phrofiadau byd gwaith a dadansoddi gwybodaeth o'r tu allan i'w hardal eu hunain.

Gall ôl troed digidol dysgwr bara'n hir ac effeithio ar ei ragolygon gyrfa, yn gadarnhaol ac yn negyddol. Dylid annog dysgwyr i gwestiynu dilysrwydd a chywirdeb yr wybodaeth a geir ar lwyfannau digidol wrth ystyried eu dewisiadau bywyd.

Rhoi cyd-destun i'r Meysydd drwy addysg a phrofiadau byd gwaith

Dylid datblygu addysg a phrofiadau byd gwaith ym mhob rhan o'r cwricwlwm fel y gall dysgwyr archwilio a deall byd gwaith mewn cyd-destunau sy'n briodol i'w cam datblygu. Mae addysg a phrofiadau byd gwaith yn cynnig cyfleoedd dysgu yn y byd go iawn a phrofiadau sy’n cefnogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau a chymhwyso eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth ym mhob un o’r Meysydd. Drwy wneud hynny, mae addysg a phrofiadau byd gwaith yn cefnogi'r gwaith o greu cwricwlwm pwrpasol a chyfleoedd dysgu dilys sy'n hollbwysig er mwyn sicrhau bod dealltwriaeth a dewisiadau gyrfa dysgwyr yn cynyddu wrth iddyn nhw ddatblygu.

Ceir rhagor o ganllawiau ar y modd y mae addysg a phrofiadau byd gwaith yn cefnogi dysgu o fewn yr holl Feysydd o fewn adrannau perthnasol y canllawiau hyn:

Dylunio addysg a phrofiadau byd gwaith o fewn y cwricwlwm

Er mwyn cefnogi pob dysgwr i wneud cynnydd o ran addysg a phrofiadau byd gwaith, dylid ei gynnwys yn y continwwm 3 i 16 oed ac ym mhob rhan o'r cwricwlwm. Ni ddylid ei addysgu fel pwnc annibynnol. Dylai ysgolion a lleoliadau ddylunio addysg a phrofiadau byd gwaith fel rhan annatod o'u cwricwlwm a'u profiadau dysgu. Mae gan bob ymarferydd rôl i'w chwarae er mwyn gwireddu hyn.

Dylai ysgolion a lleoliadau ystyried sut y gall addysg a phrofiadau byd gwaith gynnig dealltwriaeth sy'n annog ysbrydoliaeth a dyhead i ddysgwyr, ond sydd hefyd yn meithrin realaeth o ran posibiliadau yn y dyfodol. Dylai rhaglen addysg a phrofiadau byd gwaith gwmpasu amrywiaeth eang o brofiadau dysgu ac addysgu, a all gynnwys amgylcheddau digidol, a chyfraniadau gan amrywiaeth o randdeiliaid. Dylai darpariaeth addysg a phrofiadau byd gwaith gynnwys cyngor a chanllawiau unigol, gan gynnig profiadau dilys yn ogystal â chyfleoedd i ddysgu o amrywiaeth eang o fodelau rôl.

Mae rhieni a gofalwyr yn cael dylanwad sylweddol ar benderfyniadau gyrfa a datblygiad dysgwyr. O ganlyniad, mae'n bwysig rhoi lefel o wybodaeth a dealltwriaeth o raglenni dysgu addysg a phrofiadau byd gwaith iddyn nhw fel y gallan nhw gefnogi dysgwyr i wneud penderfyniadau uchelgeisiol a realistig.

Dylai ysgolion a lleoliadau ystyried nifer o gamau wrth iddyn nhw gynllunio ar gyfer addysg a phrofiadau byd gwaith yn eu cwricwlwm. Mae'r diagram isod yn dangos cylch ar gyfer integreiddio addysg a phrofiadau byd gwaith yn eu cwricwlwm. Anogir ysgolion a lleoliadau i adolygu, datblygu a gwerthuso eu darpariaeth addysg a phrofiadau byd gwaith yn barhaus.

Adolygu addysg a phrofiadau byd gwaith yn y cwricwlwm

Bydd adolygu dysgu addysg a phrofiadau byd gwaith yn creu sylfaen ar gyfer datblygu a chefnogi'r gwaith o gynllunio'r cwricwlwm. Efallai y bydd ysgolion a lleoliadau eisiau ystyried y cwestiynau canlynol wrth ddatblygu addysg a phrofiadau byd gwaith yn eu cwricwlwm.

  • Pa mor dda rydym yn datblygu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth dysgwyr mewn perthynas ag addysg a phrofiadau byd gwaith?
  • Pa mor dda rydym yn darparu gweithgareddau a phrofiadau ystyrlon sy'n gysylltiedig â gyrfa a gwaith er mwyn cefnogi ein dysgwyr?
  • Pa mor dda rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys cyflogwyr, Gyrfa Cymru a rhieni a gofalwyr, i gefnogi a datblygu ein darpariaeth addysg a phrofiadau byd gwaith?
  • Pa mor dda y mae ysgolion a lleoliadau yn cydweithio â'i gilydd er mwyn cynllunio ar gyfer cynnydd dysgwyr mewn addysg a phrofiadau byd gwaith drwy'r continwwm 3 i 16 oed?
  • Pa mor dda rydym yn gwerthuso effaith ein darpariaeth addysg a phrofiadau byd gwaith ar ddealltwriaeth dysgwyr?

Sefydlu dull gweithredu ar gyfer darpariaeth addysg a phrofiadau byd gwaith

Dylai ysgolion a lleoliadau sefydlu dull gweithredu ar gyfer addysg a phrofiadau byd gwaith. Dylai hyn fod yn rhan greiddiol o’u gweledigaeth ar gyfer cwricwlwm a dysgu, ac ar gyfer gwireddu Cwricwlwm i Gymru. Dylai hyn gynnwys blaenoriaethau allweddol ar gyfer dilyniant mewn dysgu, cynllunio gyrfa, cyfnodau pontio llwyddiannus ac ymgysylltu y tu hwnt i'r ysgol neu'r lleoliad.

Archwilio adnoddau a chymorth ar gyfer darpariaeth addysg a phrofiadau byd gwaith

Dylai ysgolion a lleoliadau archwilio a datblygu eu deunyddiau dysgu ac addysgu eu hunain sy'n gwella gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth mewn perthynas ag addysg a phrofiadau byd gwaith yn y cwricwlwm, gan gynnwys y rhai a gynhyrchir gan Gyrfa Cymru, sefydliadau trydydd parti a chyrff a ariennir yn gyhoeddus. Dylai deunyddiau dysgu ac addysgu gefnogi ymwybyddiaeth gynyddol dysgwyr o'r amrywiaeth eang o gyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw. Dylen nhw hefyd arddangos modelau rôl a mentoriaid o gefndiroedd amrywiol.

Mae amrywiaeth o adnoddau ar gael yn lleol i gefnogi pob ysgol neu leoliad yn ogystal â'r rheini a geir ar-lein, fel gweminarau, gwersi rhithwir, teithiau rhithwir a deunyddiau dysgu eraill sydd â'r nod o feithrin diddordeb mewn byd gwaith. Gallan nhw dynnu sylw at yr amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac ehangu dealltwriaeth dysgwyr o yrfaoedd. Mae pecyn cymorth hunanasesu addysg a phrofiadau byd gwaith gydag offer amrywiol hefyd ar gael ar-lein.

Dylid ystyried hefyd sut y gall ysgol neu leoliad ddefnyddio'r gefnogaeth sydd ar gael gan rieni a gofalwyr, cyn-fyfyrwyr, cyflogwyr, y gymuned leol, Gyrfa Cymru a rhanddeiliaid eraill yn effeithiol.

Dylunio a chyflwyno darpariaeth addysg a phrofiadau byd gwaith

Bydd pob dysgwr yn caffael sgiliau a gwybodaeth ar gyfradd wahanol, a bydd yn wahanol ar draws cynnydd dysgwyr unigol. Er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yn diwallu anghenion dysgwyr ac yn cynnwys cyfleoedd i feithrin sgiliau rheoli gyrfa, dylai gael ei chynllunio'n dda a'i hamlinellu yn un o bolisïau'r ysgol neu'r lleoliad.

Gwerthuso darpariaeth addysg a phrofiadau byd gwaith

Dylid gwerthuso'r ddarpariaeth addysg a phrofiadau byd gwaith yn rheolaidd gan ddefnyddio prosesau gwerthuso a gwella presennol ysgolion a lleoliadau ar gyfer y cwricwlwm cyfan. Mae hyn yn bwysig er mwyn helpu i ganfod a yw'n diwallu anghenion pob dysgwr a sicrhau tegwch ac amrywiaeth. Dylai darpariaeth addysg a phrofiadau byd gwaith ddatblygu'n gyson dros yr hirdymor wrth i'r cwricwlwm gael ei ddatblygu'n barhaus. Caiff prosesau i rannu arferion da a chyfleoedd datblygu proffesiynol eu hannog er mwyn cefnogi'r datblygiadau hyn. Dylai dysgwyr gael eu hannog i gymryd rhan yn y broses werthuso er mwyn eu galluogi i roi adborth i lywio'r gwaith o gynllunio darpariaeth addysg a phrofiadau byd gwaith yn y dyfodol a gwella deilliannau.

Cyfranwyr ar gyfer darpariaeth addysg a phrofiadau byd gwaith effeithiol

Dylai ysgolion a lleoliadau gael eu cefnogi gan ystod o gyfranwyr ymrwymedig er mwyn gallu gwireddu darpariaeth effeithiol o ran addysg a phrofiadau byd gwaith trwy eu cwricwlwm.

Gall llywodraethwyr, pwyllgorau rheoli neu'r awdurdod lleol (caiff dyletswyddau awdurdodau lleol eu cyflawni mewn rhai achosion gan y consortia rhanbarthol o dan y model cenedlaethol ar gyfer gwaith rhanbarthol) chwarae rôl hanfodol o ran sicrhau y caiff darpariaeth addysg a phrofiadau byd gwaith ei hadlewyrchu ym mhrosesau cynllunio strategol ac adrodd ysgol neu leoliad. Fel rhan o weledigaeth a datblygiad y cwricwlwm, dylen nhw ystyried dull gweithredu cynhwysol ac ysgol gyfan o ymdrin ag addysg a phrofiadau byd gwaith.

Mae uwch-arweinwyr yn chwarae rôl bwysig yn natblygiad strategol addysg a phrofiadau byd gwaith. Bydd angen cefnogaeth uwch-arweinwyr i hyrwyddo datblygiad parhaus y cwricwlwm. Dylen nhw wneud y canlynol:

  • goruchwylio'r gwaith o ddatblygu rhaglen gydlynol ac effeithiol o ran addysg a phrofiadau byd gwaith ar gyfer pob dysgwr, gyda deilliannau clir ar gyfer dilyniant drwy'r continwwm dysgu
  • sicrhau bod adnoddau'n cael eu dyrannu ar gyfer darpariaeth addysg a phrofiadau byd gwaith, gan gynnwys dysgu proffesiynol
  • hwyluso cyfranogiad eang gan randdeiliaid, gan gynnwys staff, dysgwyr, rhieni a gofalwyr, cyflogwyr, Gyrfa Cymru a'r gymuned ehangach
  • cydgysylltu â'r arweinydd addysg a phrofiadau byd gwaith a'i gefnogi i gynnal diweddariadau rheolaidd o ran cynnydd a rhannu deilliannau

Mae arweinwyr addysg a phrofiadau byd gwaith yn grymuso perchnogaeth ymarferwyr dros y ddarpariaeth a'u hymrwymiad iddi. Maen nhw’n ymarferwyr sy'n:

  • cydlynu ac yn hwyluso dull gweithredu cynhwysol ac ysgol gyfan o ymdrin â darpariaeth addysg a phrofiadau byd gwaith
  • cydgysylltu ag ymarferwyr er mwyn asesu anghenion dysgwyr
  • creu ac yn cynnal cydberthnasau â rhanddeiliaid, gan gynnwys dysgwyr
  • cefnogi ymarferwyr i wreiddio addysg a phrofiadau byd gwaith yn y cwricwlwm drwy rannu arferion effeithiol
  • nodi deilliannau dysgu mewn perthynas ag addysg a phrofiadau byd gwaith ac yn monitro cynnydd

Mae ymarferwyr ac arweinwyr y cwricwlwm yn chwarae rôl bwysig wrth roi dull gweithredu ysgol gyfan o ymdrin ag addysg a phrofiadau byd gwaith ar waith. Maen nhw'n:

  • rhoi cyd-destun i ddysgu a chyfleoedd mewn perthynas ag addysg a phrofiadau byd gwaith drwy'r cwricwlwm ar gyfer pob dysgwr
  • ystyried syniadau a llwybrau gyrfa posibl dysgwyr
  • sicrhau y caiff rhieni a gofalwyr eu cynnwys yn briodol
  • achub ar gyfleoedd dysgu proffesiynol priodol ac yn eu defnyddio'n effeithiol

Mae Gyrfa Cymru yn cynnig gwasanaeth gyrfaoedd cenedlaethol i Gymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru, gwasanaeth sy’n ddwyieithog, cynhwysol a diduedd. Llywodraeth Cymru sy'n berchen ar y gwasanaeth ac yn pennu ei gylch gwaith. Cynigir cefnogaeth i ddysgwyr i’w helpu i ddeall byd gwaith yn well, yn ogystal â'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw a'r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw. Yn ogystal, mae Gyrfa Cymru yn cynnig cymorth i ysgolion a lleoliadau yn y gwaith o gyflwyno Cwricwlwm i Gymru, ac mae rhai mentrau yn dechrau mewn ysgolion cynradd. Mae'r amrywiaeth o weithgareddau yn cynnwys:

  • cymorth ac adnoddau i helpu ysgolion a lleoliadau i wreiddio addysg a phrofiadau byd gwaith ym mhob rhan o'u cwricwlwm
  • coetsio dysgwyr oedran uwchradd a rhoi arweiniad gyrfaoedd iddyn nhw mewn perthynas â'u hanghenion
  • ymgysylltu â rhieni a gofalwyr
  • cefnogi ysgolion a lleoliadau i ddatblygu cysylltiadau â chyflogwyr
  • digwyddiadau gyrfaoedd

Mae'n fuddiol i ddysgwyr allu cael arweiniad gyrfaoedd mewn sesiynau grwp a chyfweliadau er mwyn eu helpu i ddewis llwybrau dysgu effeithiol a phriodol cyn ac ôl 16.

Gall profiadau rhieni a gofalwyr o addysg a gwaith lywio ffordd y dysgwr o feddwl, ei ddyheadau a'i benderfyniadau, a hynny'n gadarnhaol ac yn negyddol. Dylai ysgolion a lleoliadau annog ymdrechion i gynnwys rhieni a gofalwyr mewn digwyddiadau addysg a phrofiadau byd gwaith gan sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r cymorth a ddarperir yn yr ysgol neu'r lleoliad. Mae hefyd yn bosibl y bydd rhieni a gofalwyr yn gallu cyfrannu at ddatblygu a gwireddu rhaglenni dysgu addysg a phrofiadau byd gwaith fel rhan o gwricwlwm yr ysgol neu'r lleoliad.

Gall sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch a darparwyr dysgu yn y gweithle gyfrannu at ddarpariaeth addysg a phrofiadau byd gwaith a'i hwyluso drwy arddangos yr amrywiaeth o gyfleoedd academaidd, prentisiaeth a hyfforddi a all helpu i godi dyheadau dysgwyr ac ehangu eu gorwelion. Gallan nhw hefyd ddarparu modelau rôl y gellir uniaethu â nhw i ysbrydoli dysgwyr, yn ogystal â mentoriaid i'w cefnogi. Gall y sefydliadau a’r darparwyr hyn hefyd gynnig cyfleoedd dysgu proffesiynol i ymarferwyr fel y gallan nhw ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i'w dysgwyr.

Gall cyflogwyr weithio'n agos gydag ysgolion a lleoliadau, wedi'u cefnogi gan Gyrfa Cymru, sefydliadau trydydd parti a chyrff a ariennir yn gyhoeddus, er mwyn cynnig cyfleoedd i ysbrydoli ac ysgogi dysgwyr. Gallan nhw roi gwybodaeth i ddysgwyr, drwy weithgareddau ymgysylltu a chyfoethogi, am fyd gwaith a'r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn y dyfodol. Gall cyflogwyr gynnig cyd-destun o'r byd go iawn ar gyfer amrywiaeth eang o ddarpariaeth dysgu ym mhob rhan o'r cwricwlwm, gan arddangos ystod o gyfleoedd cyflogaeth.

Drwy ymgysylltu â chyflogwyr, gellir dangos i ddysgwyr y pwyslais y mae cyflogwyr yn ei roi ar agweddau ac ymddygiadau proffesiynol cadarnhaol, gan gynnwys hunangymhelliant, gwydnwch, chwilfrydedd, y gallu i addasu ac uchelgais. Mae cyflogwyr hefyd yn gwerthfawrogi profiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith, gweithgareddau gwirfoddoli a gweithgareddau allgyrsiol, a all helpu dysgwyr i feithrin eu sgiliau.

Cymorth ac arweiniad i ysgolion a lleoliadau

Wrth sefydlu a chynnal arferion effeithiol o ran darparu addysg a phrofiadau byd gwaith, gall y canlynol chwarae rôl bwysig.

Dysgu proffesiynol

Dylai ysgolion a lleoliadau sicrhau bod eu staff yn cymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu proffesiynol priodol a pherthnasol er mwyn helpu i integreiddio addysg a phrofiadau byd gwaith yn effeithiol yn eu cwricwlwm.

Anogir ymarferwyr i achub ar gyfleoedd hyfforddiant a gynigir gan gyflogwyr a sefydliadau eraill hefyd, er mwyn eu helpu i ddysgu am ddatblygiadau diweddaraf byd gwaith. Er enghraifft, gallan nhw archwilio adnoddau sydd ar gael ar Hwb, yn ogystal ag ymwneud â Gyrfa Cymru, consortia rhanbarthol a modiwlau dysgu sydd ar gael ar-lein. Mae cyrsiau ar gael i'r rhai sydd am ennill cymhwyster proffesiynol sy’n gysylltiedig â gyrfa.

Profiad sy'n gysylltiedig â byd gwaith

Mae profiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith yn cwmpasu amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys ymweliadau cyflogwyr, dosbarthiadau meistr a mentora gwaith strwythuredig a phrofiadau menter, sesiynau blasu a chynadleddau gyrfaoedd.

Mae gan waith hirdymor a pharhaus i ymgysylltu â chyflogwyr y potensial i ysbrydoli a gwella dealltwriaeth dysgwyr o fyd gwaith. Mae'n bwysig sicrhau bod profiadau sy'n gysylltiedig â gwaith yn eang, yn amrywiol ac yn briodol o ran cam datblygu. Dylai dysgwyr feithrin dealltwriaeth o'r ffaith bod byd gwaith yn fwy na gwaith â thâl yn unig.

Felly dylai ysgolion a lleoliadau weithio gydag amrywiaeth eang o gyflogwyr a sefydliadau trydydd parti er mwyn cynnig profiadau cyfoethogi o ansawdd uchel i ddysgwyr. Gall cyfleoedd i wirfoddoli a chyfranogi yn y gymuned helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau sy'n gysylltiedig â byd gwaith a hybu eu hiechyd a'u lles.

Dylai profiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith arddangos yr amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael mewn cyd-destun lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Dylai dysgwyr gydnabod eu cyfrifoldebau a'u hawliau fel cyflogeion fwy a mwy ynghyd â sut i ddilyn arferion gweithio diogel. Mae'n hanfodol ystyried iechyd a diogelwch, polisïau diogelu ac asesiadau risg wrth drefnu profiadau sy'n gysylltiedig â gwaith.

Er mwyn i ymarferwyr sicrhau'r budd mwyaf o brofiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith, byddai'n ddefnyddiol gwneud y canlynol:

  • sicrhau bod y profiadau yn hygyrch i'r holl ddysgwyr, gan ystyried eu hanghenion penodol a'u diddordebau
  • paratoi dysgwyr a chynnig cyfleoedd i fyfyrio
  • annog dysgwyr i werthfawrogi cysylltiadau â'r cwricwlwm
  • herio eu safbwyntiau eu hunain yn ogystal â safbwyntiau dysgwyr, rhieni a gofalwyr ar faterion megis stereoteipiau yn y gweithle
  • gofyn am adborth gan gyflogwyr ar gynnydd dysgwyr, ac ar eu profiad o ymgysylltu â'r ysgol neu'r lleoliad
  • galluogi dysgwyr i adeiladu ar eu diddordebau a'u cryfderau personol, gan gymhwyso eu dysgu i yrfaoedd a phrofiadau byd gwaith

Mae cyfleoedd profiad gwaith yn helpu dysgwyr i ddatblygu dyheadau ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol. Bydd sawl ffurf i'r rhain yn dibynnu ar y farchnad lafur leol. Felly, dylid ystyried gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth, fel darpariaeth ddigidol, ymweliadau â gweithleoedd neu weithgareddau rhyngweithio ag unigolion neu fentoriaid a chyflogwyr.

Gwybodaeth am y farchnad lafur

Mae gwybodaeth am y farchnad lafur yn galluogi dysgwyr i fod yn ymwybodol o dueddiadau o ran cyflogau, rolau a lleoliadau. Mae gwybodaeth gywir am y farchnad lafur yn rhoi cipolwg ar y byd gwaith presennol a datblygol. Bydd hyn yn helpu dysgwyr i wneud penderfyniadau effeithiol, yn seiliedig ar wybodaeth ynghylch gwaith, astudio a llwybrau hyfforddi, a datblygu'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen er mwyn rhoi eu cynlluniau ar waith.

Mae adnoddau gwybodaeth am y farchnad lafur ar gael gan Gyrfa Cymru ac eraill, megis Arsyllfeydd dysgu a sgiliau Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol a Llywodraeth Cymru. Dylai ysgolion a lleoliadau ymgorffori gwybodaeth ddiduedd a chyfredol am y farchnad lafur, sy'n briodol o ran cam datblygu'r dysgwyr, ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol, er mwyn sicrhau bod darpariaeth addysg a phrofiadau byd gwaith wedi'i dylunio'n dda i ddiwallu anghenion pob dysgwr. Gellir defnyddio gwybodaeth am y farchnad lafur i lywio'r gwaith o gynllunio profiadau sy’n gysylltiedig â gyrfaoedd a byd gwaith.

Mae'r cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn darparu safbwyntiau allweddol i ddysgwyr ac maen nhw o bwys penodol o ran cefnogi dysgwyr i gyflawni'r pedwar diben. Maen nhw’n helpu dysgwyr i wneud synnwyr o'r sgiliau a'r wybodaeth y maen nhw’n eu meithrin drwy greu cysylltiadau ag amgylcheddau, profiadau a digwyddiadau a all fod yn fwy cyfarwydd iddyn nhw. Maen nhw hefyd yn cyflwyno dysgwyr i gyd-destunau llai cyfarwydd, gan ehangu eu gorwelion a chan ymgysylltu â safbwyntiau sy'n wahanol i'w rhai nhw a gwerthfawrogi heriau a materion ehangach. Mae'r cyd-destunau hyn hefyd yn eu helpu i wneud synnwyr o'u perthynas â'u cymunedau, eu hunaniaeth genedlaethol a'r byd ehangach. Mae hyn yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu dinasyddiaeth amlochrog, gan fyfyrio ar eu rolau a'u cyfrifoldebau ym mhob cyd-destun a chydnabod amrywiaeth pob un ohonyn nhw. Bydd cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn gwneud eu cyfraniadau arbennig eu hunain at ddysgu, ond mae hefyd cysylltiadau cryf rhyngddyn nhw. Gall cynnwys cwricwlwm yn aml gael ei ystyried drwy bob cyd-destun, a dylai ymarferwyr geisio manteisio ar bob un o'r cyd-destunau hyn a chefnogi dysgwyr i ddeall y cysylltiadau clir, annatod rhyngddyn nhw.

Mae'r cyd-destunau hyn yn rhoi cyfle pwysig i ddysgwyr ddeall ac ymateb i wahanol faterion a heriau, gan gynnwys cwestiynau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol wrth weithio tuag at ddyfodol cynaliadwy a theg. Mae'r amgylchedd yn rhan bwysig o bob un o'r cyd-destunau hyn, gydag effaith ddynol yn croesi ffiniau daearyddol a gwleidyddol. Mae hyn yn cynnwys y berthynas rhwng gweithgareddau dynol a'r amgylched lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Dylai dysgwyr gael cyfleoedd i ymateb i'r materion a'r heriau sy'n codi o'r cydberthnasau hyn, gan ystyried y ffordd y maen nhw wedi llywio ein gorffennol a'r presennol, a'r ffordd y gallan nhw lywio ein dyfodol.

Er mwyn deall Cymru, dylai dysgwyr hefyd feithrin dealltwriaeth o'i chydberthynas â'r Deyrnas Unedig a'i lle ynddi sy’n newid, ac o hanesion a phobl yr ynysoedd hyn, heddiw ac yn y gorffennol. Dylai dealltwriaeth dysgwyr o Gymru hefyd gydnabod y ffordd y mae safbwyntiau, gwerthoedd a hunaniaethau yn siapio Cymru, yn hytrach na chyflwyno darlun nodweddiadol o hunaniaeth Gymreig unffurf.

Bydd dealltwriaeth ymarferwyr eu hunain o ardal leol yr ysgol, a'u hymwybyddiaeth o'r materion a'r heriau newidiol ym mhob cyd-destun, yn eu helpu i fod yn greadigol wrth ymwreiddio'r cyd-destunau hyn mewn dysgu ac addysgu. 

Wrth ymwreiddio cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, dylai ymarferwyr chwilio am gyfleoedd i gefnogi dysgwyr i:

  • ddatblygu dysgu drwy ystod o leoedd a digwyddiadau arwyddocaol
  • creu cysylltiadau â chymunedau a sefydliadau lleol
  • dysgu am gyfraniad a phrofiadau gwahanol unigolion sy'n llywio pob cyd-destun
  • dysgu am amrywiaeth ddiwylliannol, gwerthoedd, hanes a thraddodiadau sy'n llywio pob cyd-destun
  • deall y gwahanol hunaniaethau, hanes, diwylliannau, safbwyntiau a gwerthoedd sy'n llywio cymunedau a chymdeithasau
  • cydnabod ac ymgysylltu â ffactorau, dylanwadau ac effeithiau (gan gynnwys effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol) yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
  • datblygu ymdeimlad dilys o gynefin, gan ddatblygu gwybodaeth am wahanol ddiwylliannau a hanes, a'u galluogi i feithrin ymdeimlad cryf o hunaniaeth unigol a deall sut y mae hyn yn cysylltu â dylanwadau ehangach ac wedi'u llywio ganddyn nhw
  • manteisio ar hanesion a gwahanolrwydd ardal leol ysgol
  • deall eu rôl fel dinasyddion a strwythurau'r llywodraeth sy'n effeithio arnyn nhw ym mhob cyd-destun
  • archwilio, dadansoddi'n feirniadol ac ymateb i faterion cyfoes a heriau sy'n effeithio ar eu bywydau a bywydau pobl eraill drwy bob cyd-destun
  • deall datblygu cynaladwy, yr heriau a wynebir gan yr amgylchedd a chymdeithas a sut y gallan nhw ymgysylltu â'r materion hyn a gwneud gwahaniaeth gan gefnogi dinasyddiaeth gynaladwy
  • deall y Gymru gyfoes gan roi cyfleoedd i fyfyrio, deall a dadansoddi cymdeithas gyfoes a'r ffordd y mae'r dysgwyr yn ymgysylltu â hi
  • adnabod etifeddiaeth ieithyddol a diwylliannol amrywiol Cymru a’i chysylltiadau y tu hwnt i Gymru
  • adnabod sut y mae ein hieithoedd yn datgloi gwybodaeth am ein llenyddiaeth, ein daearyddiaeth a'n hanes a'u cysylltiadau y tu hwnt i Gymru
  • adnabod y cysylltiadau rhwng cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, gan ddeall y ffordd y maen nhw’n dylanwadu ar ei gilydd yn barhaus
  • defnyddio sgiliau dadansoddi beirniadol ym mhob cyd-destun, gan gydnabod agweddau cadarnhaol a heriol ar bob un ohonyn nhw