English

Hwb

Ystyriaethau gweithredu ac ymarferol

Wrth iddo gael ei weithredu, dylai cwricwlwm ysgol:

  • fanteisio ar ystod o dystiolaeth gadarn, gan gynnwys arbenigedd sy'n benodol i ddisgyblaethau lle bo'n briodol, dysgu o ymholiad proffesiynol, gwybodaeth o ymchwil a gwybodaeth leol a chenedlaethol
  • cael ei gyd-awduro, annog dysgwyr, rhieni, gofalwyr a'r gymuned leol i ddeall a chyfrannu at y broses o ddatblygu'r cwricwlwm. Dylai hefyd fanteisio ar ystod ehangach o arbenigwyr a rhanddeiliaid a all gyfrannu at y dysgu
  • bod yn destun myfyrio a chael ei ddiwygio, yn seiliedig ar ddealltwriaeth a feithrinwyd drwy bob agwedd ar y dysgu ac addysgu, a chael ei gefnogi gan ymholiad proffesiynol
  • cael ei ategu gan addysgeg effeithiol

Dylai'r dysgu ac addysgu gael eu llywio gan dystiolaeth ac arbenigedd cadarn. Dylai hyn gynnwys:

  • arbenigedd sy'n benodol i ddisgyblaeth, a ddaw'n gynyddol berthnasol wrth ddatblygu cwricwlwm wrth i ddysgwyr wneud cynnydd. Mae'r canllawiau hyn yn hyrwyddo dulliau rhyngddisgyblaethol ond hefyd yn cydnabod pwysigrwydd arbenigedd sy'n benodol i ddisgyblaeth yn hynny o beth
  • dealltwriaeth o ymchwil a thystiolaeth addysgol o ansawdd uchel
  • gwybodaeth berthnasol am ddysgwyr a'u cymunedau
  • dysgu o ymholiad proffesiynol
  • tystiolaeth ac arbenigedd a rennir drwy rwydweithiau lleol, clwstwr, rhanbarthol a chenedlaethol
  • partneriaeth ag addysg bellach ac addysg uwch
  • dysgu proffesiynol

Gweithio gyda lleoliadau, ysgolion a sefydliadau addysg bellach eraill

Mae gweithio gydag lleoliadau, ysgolion, a sefydliadau addysg bellach yn cynnig cyfleoedd pwysig i rannu dysgu a datblygu profiadau cydgysylltiedig i ddysgwyr ar hyd eu taith ddysgu. Yn benodol, mae cydweithredu rhwng lleoliadau, ysgolion, a sefydliadau addysg bellach yn cefnogi'r canlynol.

Creu dealltwriaeth a rennir o'r broses cynllunio cwricwlwm (gan gynnwys asesu) a chynnydd

Er mwyn sicrhau tegwch i ddysgwyr o fewn ardal leol a ledled Cymru, mae'n bwysig sichau dealltwriaeth a rennir o hanfodion y broses cynllunio cwricwlwm, ynghyd â dealltwriaeth a rennir o gynnydd dysgwyr, gan gynnwys disgwyliadau o beth yw cynnydd ac ar ba gyflymder y gallai dysgwyr wneud cynnydd. Dylai’r ddealltwriaeth a rennir hon gael ei datblygu drwy ddysgu proffesiynol a fel proses parhaus o fewn ac ar draws ysgolion y mae trafodaeth broffesiynol barhaus yn rhan hanfodol ohoni. Drwy weithio drwy glystyrau a rhwydweithiau, gall ysgolion ac ymarferwyr rannu a phrofi eu dealltwriaeth ei gilydd o gynnydd, gan gydweithredu i ddatblygu dulliau a rennir o ran cynllunio cwricwlwm.

Pontio

Dylai ysgolion ystyried sut y gall cydweithredu gefnogi'r broses o gynllunio continwwm ar draws gwahanol gyfnodau pontio, yn arbennig ar gyfer y dysgwyr mwyaf agored i niwed. Dylai'r dysgwr fod wrth wraidd y broses bontio. Mae proses bontio effeithiol yn ymwneud â helpu pob dysgwr i symud yn esmwyth ar hyd y continwwm dysgu wrth iddo symud rhwng gwahanol grwpiau, gwahanol ddosbarthiadau, gwahanol flynyddoedd a gwahanol leoliadau. Dylai sicrhau lles pob dysgwr fod yn rhan bwysig ac annatod o'r broses, gan gydnabod anghenion unigolion ac, ar yr un pryd, eu cefnogi i barhau i ddysgu a gwneud cynnydd yn eu dysgu.

Rhannu arferion gorau

Dylai ysgolion ac ymarferwyr gydweithredu i feithrin dealltwriaeth o'r hyn sy'n sail i ddulliau ac arferion llwyddiannus.

Mae Gweinidogion Cymru, gan weithio gyda chonsortia rhanbarthol a rhanddeiliaid eraill, yn datblygu rhwydweithiau i gefnogi a rhannu dysgu ar gyfer ymarferwyr er mwyn cefnogi dealltwriaeth o Fframwaith Cwricwlwm  i Gymru. Caiff rhagor o wybodaeth am y rhain ei darparu yn 2020 a 2021.

Mewnbwn dysgwyr

Dylai'r cynnwys a ddewisir ar gyfer y cwricwlwm ystyried mewnbwn dysgwyr a dylai gynnig cyfleoedd cynyddol i ddysgwyr er mwyn helpu i gyfeirio'u dysgu wrth iddyn nhw wneud cynnydd. Dylid rhoi ystyriaeth ddifrifol i farn dysgwyr am eu profiadau ac am beth, sut a ble y dylen nhw ddysgu wrth gynllunio cwricwlwm. Mae cyfranogiad yn un o egwyddorion allweddol CCUHP a bydd galluogi cyfranogiad yn creu cwricwlwm diddorol a fydd yn ymateb i ddiddordebau, anghenion a blaenoriaethau'r dysgwyr. Proses yw cyfranogiad, sy'n cefnogi deialog rhwng dysgwyr a gweithwyr proffesiynol. Mae angen iddi fod yn broses ddiogel, galluogol a chynhwysol ac mae ynddi'i hun yn brofiad dysgu gwerthfawr, sy'n cefnogi ymholi a meddwl yn feirniadol.

Dylai dysgwyr gael gwybod am y broses y mae'r ysgol yn ei dilyn i gynllunio’r cwricwlwm a dylen nhw gael cyfleoedd i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau. Dylid dangos i ddysgwyr yn glir sut y maen nhw wedi dylanwadu ar benderfyniadau, gan roi adborth am y penderfyniadau a wnaed a pham.

Mae'n bwysig cydnabod bod gwahanol lefelau o gyfranogiad, a bod modd galluogi dysgwyr i gymryd rhan yn y broses o gynllunio cwricwlwm mewn gwahanol ffyrdd. Gall dysgwyr gael gwybod am benderfyniadau, gellir ymgynghori â nhw am benderfyniadau, gallan nhw rannu'r broses o wneud penderfyniadau ag oedolion, neu gallan nhw berchenogi'r broses o wneud penderfyniadau a phennu eu meysydd a'u cwestiynau eu hunain i'w hystyried gan gymuned ehangach yr ysgol. Bydd gwahanol ffurfiau yn briodol ar wahanol bwyntiau yn y broses o gynllunio cwricwlwm.

Dylai'r broses o gynlllunio cwricwlwm hefyd ddefnyddio strwythur sy'n sicrhau bod pob grŵp o blant yn gallu cymryd rhan, gan gynnwys y rheini a all gael eu hymyleiddio.

Gall cynnwys dysgwyr yn uniongyrchol yn y broses o gynllunio’u cwricwlwm gynnwys y camau canlynol.

  • Galluogi dysgwyr i wneud dewisiadau am beth a sut y maen nhw’n dysgu.
  • Casglu adborth ansoddol ar ôl profiadau dysgu, sy'n llywio'r broses barhaus o gynllunio cwricwlwm.
  • Ystyried safbwyntiau dysgwyr o ddydd i ddydd yn yr ystafell ddosbarth drwy addysgeg gyfranogol.
  • Cynnwys dysgwyr yn y broses o bennu blaenoriaethau ar gyfer y cwricwlwm ac ar gyfer cynnwys dysgu.
  • Sicrhau bod adnoddau i gefnogi cyfranogiad.
  • Sicrhau bod ymgynghori, dadansoddiad o safbwyntiau dysgwyr ac adborth wedi'u cynnwys fel camau yn y broses o gynllunio a gwerthuso cwricwlwm.
  • Sicrhau bod adborth yn cael ei roi i ddysgwyr a staff ar ganlyniadau cyfraniadau llais y dysgwr, a bod hyn yn cael ei ystyried yn yr amser a ddyrennir ar gyfer cynllunio’r cwricwlwm.
  • Sicrhau bod dysgwyr yn cael gwybod am broses yr ysgol o ddylunio'r cwricwlwm mewn iaith a fformat hygyrch, er mwyn iddyn nhw wybod pa gyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw gymryd rhan yn y broses

Gweithio gyda rhieni, gofalwyr a rhanddeiliaid

Wrth ddatblygu eu cwricwlwm, dylai ysgolion gynnwys dysgwyr, rhieni, gofalwyr, asiantaethau partner a'r gymuned leol. Mae hon yn ffordd bwysig o sicrhau bod y cwricwlwm yn diwallu anghenion y dysgwyr a'i fod yn ddilys i'w cyd-destun o fewn y fframwaith cenedlaethol. Mae ysgolion ac ymarferwyr hefyd yn chwarae rôl hanfodol wrth sicrhau bod dysgwyr, rhieni, gofalwyr a chymunedau yn deall y weledigaeth a'r ethos sy'n sail i'r cwricwlwm.

Dylai dysgwyr, rhieni, gofalwyr a'r gymuned leol gael cyfle i gyfrannu at y broses o gynllunio’r cwricwlwm. Mae cyfathrebu'n effeithiol â rhieni a gofalwyr yn barhaus yn ffordd bwysig o feithrin cydberthnasau cadarnhaol er mwyn ymgysylltu â nhw mewn ffordd bwrpasol ac ystyrlon. Os caiff hyn ei wneud yn dda, gall hyrwyddo cynnydd dysgwyr drwy helpu rhieni a gofalwyr i ddeall sut y gallan nhw gefnogi dysgu yn yr ysgol a'r tu allan iddi. Dylai cwricwla ysgolion hefyd gydnabod ac adlewyrchu anghenion a chyd-destunau'r cymunedau yn yr ysgol a thu hwnt.  Dylai ymarferwyr hefyd geisio cydweithredu a manteisio ar ystod o arbenigwyr a rhanddeiliaid a all gyfrannu at ddysgu, gan ddarparu profiadau unigryw a chyfoethogol i ddysgwyr.

Gwybodaeth

Bydd yn ofynnol i ysgolion barhau i adolygu eu cwricwlwm er mwyn iddyn nhw allu ymateb i allbynnau ymholiad proffesiynol, anghenion newidiol dysgwyr a chyd-destunau ac anghenion cymdeithasol. Bydd yn ofynnol i ysgolion gyhoeddi crynodeb o'u cwricwlwm ac adolygu'r crynodeb os byddan nhw’n gwneud newidiadau i'r cwricwlwm.

Mae addysgeg wrth wraidd cwricwlwm. Wrth gynllunio eu cwricwlwm, dylai ysgolion ystyried y dulliau addysgegol y bydd angen iddyn nhw eu defnyddio i gefnogi dysgwyr i wireddu'r pedwar diben. Dylai ysgolion geisio datblygu gweledigaeth gref o ddysgu ac addysgu sy'n ystyried 'pam' a 'sut' yn ogystal â 'beth'. Bydd y weledigaeth hon yn cydnabod rôl hanfodol yr amgylchedd dysgu wrth gefnogi dysgu effeithiol.

Dylai ysgolion sicrhau bod gan ymarferwyr ddealltwriaeth ddofn a manwl o'r egwyddorion addysgegol a'r ymchwil sy'n sail iddyn nhw. Mae addysgeg effeithiol yn dibynnu ar ddealltwriaeth fanwl o ddatblygiad plant a phobl ifanc. Mae'n cynnwys archwilio a myfyrio ar y strategaethau addysgu a fydd yn cefnogi'r dysgu orau mewn cyd-destun penodol, ac ymchwilio i effaith hyn ar ddysgwyr.

Dylai'r broses o gynllunio cwricwlwm ar gyfer dysgwyr o bob oed a gallu fod yn seiliedig ar egwyddorion addysgegol. Mae'r rhain yn adlewyrchu tystiolaeth hysbys am addysgeg effeithiol.

Yr egwyddorion addysgegol

Caiff y broses o gynllunio cwricwlwm ar gyfer pob dysgwr ei hategu gan deuddeg egwyddor addysgegol, sy'n datgan bod dysgu ac addysgu da yn:

  1. canolbwyntio’n gyson ar ddibenion cyffredinol y cwricwlwm
  2. rhoi her i’r holl ddysgwyr drwy eu hannog i gydnabod pwysigrwydd ymdrechu'n barhaus i gwrdd â disgwyliadau sy'n uchel, ond o fewn eu cyrraedd
  3. defnyddio cymysgedd o ddulliau sy’n cynnwys addysgu uniongyrchol
  4. defnyddio cymysgedd o ddulliau gan gynnwys y rheini sy'n hybu sgiliau datrys problemau, sgiliau creadigol a’r gallu i feddwl mewn modd beirniadol
  5. golygu gosod tasgau a dewis adnoddau sy'n adeiladu ar wybodaeth a phrofiad blaenorol ac yn ennyn diddordeb
  6. creu cyd-destunau dilys ar gyfer dysgu
  7. dilyn egwyddorion asesu ar gyfer dysgu
  8. ymestyn oddi mewn ac ar draws y Meysydd
  9. atgyfnerthu yn rheolaidd y sgiliau trawsgwricwlaidd, sef llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, ac yn darparu cyfleoedd i'w hymarfer
  10. annog dysgwyr i gymryd cyfrifoldeb cynyddol am eu dysgu eu hunain
  11. hybu datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a chydberthnasau cadarnhaol
  12. hybu cydweithio

Er mwyn cefnogi'r cwricwlwm, dylai addysgeg helpu dysgwyr i ddatblygu:

  • ymagwedd gadarn i ddysgu
  • sgiliau metawybyddol cadarn
  • sgiliau datrys problemau beirniadol a chreadigol
  • sgiliau cyfathrebu effeithiol iawn

Mae'r amgylchedd dysgu yn ysgogwr allweddol ar gyfer y cwricwlwm. Dylai:

  • annog dysgwyr i fod yn annibynnol, i fynegi eu barn am eu dysgu eu hunain, ac i gymryd mwy o gyfrifoldeb amdano
  • cynnwys pob dysgwr
  • rhoi cyfleoedd dysgu dilys i ddysgwyr o bob oed, a hynny dan do ac yn yr awyr agored
  • galluogi dysgwyr i gymhwyso, defnyddio, cyfnerthu ac ymestyn sgiliau
  • bod yn gyson ac yn ddiogel

Er mwyn cefnogi hyn, dylai ymarferwyr:

  • feithrin cydberthnasau cadarnhaol a llawn parch â dysgwyr a chefnogi cydberthnasau da rhwng cyfoedion
  • ymateb i bob dysgwr
  • cynllunio cyfleoedd dysgu datblygiadol briodol, wedi'u llywio gan waith arsylwi rheolaidd ac asesiadau parhaus o ddysgu a chyfnod datblygu’r dysgwr
  • annog dysgwyr i feddwl am eu dysgu a myfyrio arno er mwyn ymestyn eu dealltwriaeth a chreu cysylltiadau
  • herio dysgwyr a phennu disgwyliadau uchel ohonyn nhw
  • ymgysylltu'n weithredol â rhieni, gofalwyr a'r gymuned ehangach fel partneriaid dysgu
  • bod yn fyfyriol a cheisio achub ar gyfleoedd dysgu proffesiynol parhaus

Cwestiynau allweddol i ysgolion a lleoliadau eu hystyried

  1. Sut y byddwn yn creu diwylliant sy'n annog ymarferwyr i feithrin dealltwriaeth ddofn o addysgeg a'r sgil i ddewis y dull gweithredu addysgegol mwyaf priodol?
  2. Sut y byddwn yn sicrhau bod addysgeg y Cyfnod Sylfaen yn cael ei datblygu a’i hymestyn?
  3. Sut y bydd ein gweledigaeth ar gyfer dysgu yn adlewyrchu'r deuddeg egwyddor addysgeg?
  4. Pa amgylchedd dysgu y mae angen i ni ei greu i gefnogi ein gweledigaeth ddysgu'n llawn?

Cyflwyniad

Datblygwyd yr adran ‘Galluogi dysgu’ hon yng nghanllaw Cwricwlwm i Gymru er mwyn helpu uwch arweinwyr ac ymarferwyr mewn ysgolion a lleoliadau i gynllunio, dylunio a gweithredu cwricwlwm sy’n addysgegol briodol i bob dysgwr. Gellir ei defnyddio hefyd fel adnodd i helpu gwerthuso ansawdd ac effaith dyluniad cwricwlwm ar gynnydd dysgwyr. Bydd o ddiddordeb arbennig i’r rhai sy’n gweithio gyda dysgwyr yn ystod y cyfnod dysgu sy’n arwain at Gam cynnydd 1 (‘y cyfnod dysgu hwn’).

Mae gwerth amlwg i’r cyfnod dysgu hwn. Dylid ei ystyried fel cyfnod sy’n arwain at y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn y chwe maes dysgu a phrofiad (Meysydd) a’r disgrifiadau dysgu yng Ngham cynnydd 1. Mae’n darparu’r sylfaen gadarn sydd ei hangen ar yr holl ddysgwyr er mwyn datblygu, yn eu hamser eu hunain, tuag at wireddu pedwar diben y cwricwlwm.

Mae’r canllawiau canlynol yn yr adran hon yn canolbwyntio ar y prif egwyddorion sy’n hollbwysig ar gyfer dysgu holistaidd ac ystyrlon yn y cyfnod hwn. Yn greiddiol i hyn mae tair ‘elfen’, sydd wedi eu hadnabod yn y canllawiau hyn fel:

  • oedolion sy’n galluogi dysgu
  • profiadau sy’n ennyn diddordeb
  • amgylcheddau effeithiol

Mae’r elfennau hyn yn gysylltiedig â’i gilydd ac yn dibynnu ar ei gilydd, ac mae’r rhyngweithio rhwng y naill a’r llall yn rhan annatod o’r prosesau addysgu a dysgu ar draws Cwricwlwm i Gymru. Mae’r deuddeg egwyddor addysgegol yn berthnasol i ddylunio cwricwlwm, ond dylid talu sylw arbennig hefyd i’r nodweddion allweddol canlynol, sy’n hanfodol yn y cyfnod dysgu hwn:

  • chwarae a dysgu sy’n seiliedig ar chwarae
  • bod y tu allan
  • arsylwi
  • dysgu dilys a phwrpasol

Wrth ddylunio cwricwlwm, mae gwybodaeth a dealltwriaeth yr ymarferydd o ddatblygiad plant yn hanfodol. Dylai’r broses addysgu a dysgu gynnwys canolbwyntio ar feysydd traddodiadol datblygiad plant, a fynegir yma fel y pum llwybr datblygu:

  • perthyn
  • cyfathrebu
  • archwilio
  • datblygiad corfforol
  • Lles

Mae’r llwybrau yn rhoi’r lle canolog i’r plentyn. Maen nhw’n dibynnu ar ei gilydd ac yn gyfwerth o ran cefnogi datblygiad a chynnydd cyffredinol. Bydd y datblygiad o fewn ac ar draws y pum llwybr yn dibynnu ar ansawdd y rhyngweithio rhwng yr ymarferydd a’r dysgwr, ynghyd â’r profiadau a’r amgylcheddau dysgu a gaiff eu creu.

Dylai gwireddu cwricwlwm priodol sicrhau cynnydd o’r llwybrau i’r disgrifiadau dysgu yng Ngham cynnydd 1 i bob dysgwr.

Y tair elfen

Mae’r elfennau a ddisgrifir yn y canllawiau hyn yno i gefnogi pob plentyn yn ystod y cyfnod dysgu hwn. Bydd y canllawiau hefyd o fudd i ymarferwyr sy’n gweithio gyda dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), gan helpu gydag un neu fwy o agweddau ar eu datblygiad.

Dylai ymarferwyr mewn ysgolion a lleoliadau ddefnyddio’r canllawiau hyn i archwilio’r ‘sut’ a’r ‘pam’ ynghylch dylunio cwricwlwm ar gyfer y cyfnod dysgu hwn. Er mwyn ysbrydoli a herio plant a phobl ifanc wrth iddyn nhw ddysgu, dylai’r ymarferwyr ganolbwyntio’n benodol ar ansawdd ac effaith y rhyngweithio rhwng y tair elfen allweddol yma.

Oedolion sy’n galluogi dysgu

Mae rôl yr oedolyn yn rhan annatod o gynnydd pob dysgwr, ond mae’n arbennig o bwysig yn ystod y cyfnod dysgu hwn. Yr oedolyn sy’n galluogi dysgu sy’n gosod y disgwyliad o ran dysgu drwy greu amgylchedd sy’n ddiogel yn emosiynol, gan gefnogi dysgwyr i ddechrau mynegi a rheoli eu teimladau a’u hymddygiad mewn ffyrdd positif. Maen nhw’n gyson o ran gofal, ac yn arddangos empathi a charedigrwydd. Maen nhw’n helpu dysgwyr i ymdopi ag ansicrwydd a newid, gan eu paratoi i ddelio â chyfnodau pontio a newidiadau yn eu harferion dyddiol.

Er mwyn dyfnhau dealltwriaeth o anghenion dysgwyr o ran eu datblygiad, mae’n hanfodol bod oedolion yn arsylwi, yn sylwi ac yn ymateb yn sensitif i’r dysgwyr hynny. Dylen nhw wneud penderfyniadau ynghylch pryd a sut i ymyrryd i helpu dysgwyr yn eu dealltwriaeth. Dylen nhw annog a chefnogi dysgwyr i ddechrau cydweithio i ddatrys problemau.

Mae’r oedolion sy’n galluogi dysgu yn helpu ac yn cefnogi dysgwyr i ddechrau sylweddoli bod eraill yn gallu meddwl a theimlo mewn ffordd sy’n wahanol iddyn nhw. Maen nhw’n ymateb i ddiddordebau’r dysgwyr, yr hyn y maen nhw’n ei hoffi ac nad ydyn nhw’n ei hoffi, ac yn parchu eu dewisiadau, gan eu cefnogi i fynegi eu safbwyntiau a gwneud penderfyniadau.

Mae’r oedolion sy’n galluogi dysgu yn helpu i greu cysylltiadau cryf rhwng cartref y dysgwyr a’r gymuned ehangach, gan gryfhau ymdeimlad y dysgwyr o berthyn, drwy groesawu’r cyfle i drafod eu profiadau yn y gorffennol a’i sefyllfa bresennol. Maen nhw’n gwerthfawrogi ac yn parchu pwysigrwydd cynnwys pawb ynghyd â hunaniaeth dysgwyr o fewn eu cymuned a’r Gymru amlddiwylliannol ehangach. Maen nhw’n hyrwyddo hunaniaeth unigryw yr iaith Gymraeg, a diwylliant a threftadaeth Cymru. Mae’r oedolion sy’n galluogi dysgu hefyd yn annog dysgwyr i ddechrau gwneud cysylltiadau rhwng un iaith a’r llall, gan gynnwys Cymraeg a Saesneg, a rhwng dulliau eraill o gyfathrebu.

Mae’r oedolion sy’n galluogi dysgu yn rhai sy’n ymateb, gan ddod o hyd i donfedd gyfathrebu’r dysgwyr a dehongli sut maen nhw’n cyfathrebu drwy’r hyn y maen nhw’n ei wneud, yn ei ddweud a sut maen nhw’n ymddwyn, gan ymateb yn sensitif i hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth. Maen nhw’n datblygu hyder y dysgwyr i gyfathrebu ag eraill drwy werthfawrogi eu hymdrechion i fynegi eu safbwyntiau, eu teimladau, eu syniadau a’u barn. Maen nhw’n dangos dealltwriaeth bod dysgu cyfathrebu yn broses wahanol ar gyfer pob unigolyn, a bod dysgwyr yn meithrin a datblygu sgiliau yn eu hamser eu hunain.

Mae’r oedolion sy’n galluogi dysgu yn creu amgylchedd sy’n llawn cyfathrebu, gan fodelu nifer o ddulliau i’r dysgwyr fynegi eu hunain. Maen nhw’n ychwanegu at ddealltwriaeth y dysgwyr drwy ryngweithio medrus, gan ehangu ar yr wybodaeth sydd eisoes ganddyn nhw er mwyn eu cefnogi a’u hannog i wneud cysylltiadau â phobl, lleoedd a phethau. Maen nhw’n arddangos sut i ddefnyddio iaith a chysyniadau mewn ffordd briodol yn eu cyd-destun penodol.

Mae’n hanfodol bod yr oedolyn sy’n galluogi dysgu yn helpu i ddatblygu sgiliau’r dysgwyr drwy amrywiol brofiadau a chyfleoedd. Rôl yr ymarferydd yw gweld cyfleoedd i wneud y mwyaf o gysylltiadau trawsgwricwlaidd sy’n tynnu ar wybodaeth a phrofiadau blaenorol y dysgwyr. Maen nhw’n cynnal ansawdd y ddarpariaeth, ac yn addasu eu cynlluniau yn ôl anghenion a diddordebau pob dysgwr.

Mae’r oedolion sy’n galluogi dysgu yn arddangos eu mwynhad eu hun o’r broses ddysgu, gan ddefnyddio chwilfrydedd y dysgwyr er mwyn gwneud y gorau o gyfleoedd dysgu digymell. Gall hyn helpu’r holl ddysgwyr i ddatblygu eu gwydnwch, eu hannibyniaeth a’u hyder drwy eu hannog i gymryd risgiau pan fo’n werth eu cymryd, a rhoi her iddyn nhw eu hunain.

Profiadau sy’n ennyn diddordeb

Dylai profiadau sy’n ennyn diddordeb wneud dysgwyr yn fwy annibynnol, gan gynnig her a chyfle i lwyddo ar hyd eu taith ddysgu. Dylen nhw gynnig cyfleoedd i gyfrannu ar lefel ddofn mewn gweithgareddau a chyfleoedd dysgu ymarferol heb i unrhyw beth dorri ar eu traws, a dylen nhw fod yn seiliedig ar sefyllfaoedd dilys, bywyd go iawn.

Gall profiadau gynnwys dewisiadau’r dysgwyr eu hunain neu gallan nhw ddeillio o ddiddordebau lleol neu gyfoes. Dylen nhw gefnogi datblygiad plentyn yn holistaidd, gan helpu dysgwyr i wneud cysylltiadau rhwng y Meysydd ac ar draws y cwricwlwm.

Dylai profiadau sy’n ennyn diddordeb barchu a gwerthfawrogi’r ffaith bod yr holl ddysgwyr a’u teuluoedd yn unigryw. Dylen nhw adlewyrchu a dathlu dwy iaith swyddogol Cymru, a’i diwylliant a’i threftadaeth gyfoethog.

Dylai profiadau sy’n ennyn diddordeb adlewyrchu’r amrywiaeth ddiwylliannol a geir mewn cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Dylid cynnig profiad o wahanol ieithoedd a diwylliannau mewn ffyrdd sensitif ac ystyrlon sy’n rhoi pwrpas i’r dysgu. Dylai’r profiadau hyn atgyfnerthu hunaniaeth y dysgwyr eu hunain, a datblygu ac ehangu eu dealltwriaeth o gyfoeth ac amrywiaeth Cymru, ddoe a heddiw.

Mae profiadau sy’n ennyn diddordeb yn hanfodol er mwyn cefnogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu. Mae angen profiadau ar ddysgwyr sy’n eu helpu i feithrin gwydnwch emosiynol, a dylen nhw gael amser a chymorth i gydnabod eu teimladau eu hunain a theimladau pobl eraill. Dylid cynllunio’r profiadau yn ofalus er mwyn datblygu sgiliau talu sylw a gwrando’r dysgwyr mewn amrywiol gyd-destunau, y tu mewn a’r tu allan.

Bydd profiadau sy’n ennyn diddordeb yn helpu dysgwyr i sylwi ar a datblygu eu dealltwriaeth o gynrychioli drwy symbolau, a’u helpu i weld bod ystyr iddyn nhw. Dylid rhoi cyfleoedd i ddysgwyr arbrofi gydag ystod o offer a defnyddiau i wneud marciau mewn pob math o gyd-destunau, wrth iddyn nhw ddechrau cysylltu eu marciau ag ystyron. Mae angen profiadau ymarferol ar ddysgwyr sy’n eu hannog i ddefnyddio geirfa fathemategol syml wrth ymchwilio i nifer, rhif, siâp a phatrwm. Dylai profiadau sy’n ennyn diddordeb gefnogi datblygiad gwybyddol y dysgwyr, er enghraifft rhoi cyfleoedd i gymharu, didoli a chategoreiddio pethau byw a phethau anfyw. Mae angen cyfleoedd ar ddysgwyr i archwilio technoleg ddigidol ac arbrofi â hi at ddibenion o bob math.

Dylai’r holl ddysgwyr gael profiadau sy’n eu hannog i fwynhau gweithgarwch corfforol. Mae angen i ystod eang o brofiadau corfforol fod ar gael iddyn nhw yn rheolaidd, y tu mewn a’r tu allan, gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfarpar ac adnoddau. Dylen nhw gael profiadau sy’n eu galluogi i ddefnyddio ystod eang o offer a chyfarpar, a hynny gyda rheolaeth gynyddol.

Bydd y profiadau hyn yn helpu dysgwyr i ddatblygu ymwybyddiaeth o’u cyrff ac o’u gallu i gydsymud, eu cryfder craidd a’u cydbwysedd, yn ogystal â rheolaeth motor bras a manwl. Byddan nhw’n helpu dysgwyr i asesu a rheoli risg, gan eu galluogi i feddwl, ystyried a gwneud penderfyniadau ynghylch eu symudiadau a’u gweithredoedd.

Dylai profiadau ddarparu cyfleoedd i’r dysgwyr ddefnyddio’r holl synhwyrau wrth ymateb i greadigrwydd eraill, mewn ffordd sy’n ysbrydoli’r dysgwyr, a’u helpu i gyfathrebu a mynegi eu hunain yn greadigol. Dylen nhw fod yn gyfleoedd i greu ystod o ddefnyddiau sydd â nodweddion gwahanol, a dewis o’u plith. Dylai’r profiadau hefyd annog dysgwyr i ddatblygu sgiliau sy’n hanfodol i’r pedwar diben, yn enwedig o ran creadigrwydd, eu gallu i feddwl yn feirniadol, a datrys problemau.

Gall profiadau sy’n ennyn diddordeb helpu dysgwyr i ddarganfod gwybodaeth am eu hamgylchedd ac i ddatblygu eu gwerthfawrogiad o’r byd o’u cwmpas a’r angen i ofalu amdano. Gall y profiadau hyn gefnogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth o sut mae pethau’n gweithio, cymryd camau i ddatrys problemau, a datblygu ymwybyddiaeth o achos ac effaith. Dylai dysgwyr allu ymchwilio i sut mae gwrthrychau yn symud a sut maen nhw eu hunain yn symud o gwmpas mewn gofod, a dylen nhw ddod ar draws iaith sy’n disgrifio a chyfarwyddo’r broses o symud. Dylai profiadau sy’n ennyn diddordeb annog dysgwyr i sylwi ar yr amgylchedd sy’n union o’u cwmpas ac yn lleol, gan gynnwys ffenomenau naturiol. Dylai’r profiadau hyn annog dysgwyr i ystyried yr amgylcheddau hyn, a siarad amdanyn nhw.

Amgylcheddau effeithiol

Dylai’r amgylchedd, y tu mewn a’r tu allan, fod yn ganolog i brofiadau bywyd go iawn dysgwyr. Yn ystod y cyfnod dysgu hwn, mae archwilio’r amgylchedd yn allweddol i’w datblygiad. Drwy archwilio eu hamgylchedd, yn y gymuned leol a thu hwnt, mae’r dysgwyr yn dechrau datblygu ymdeimlad o berthyn a gwerthfawrogiad o’r byd o’u cwmpas.

Wrth wireddu’r cwricwlwm, dylai ymarferwyr ystyried nid yr ardaloedd ffisegol yn unig, ond hefyd yr hinsawdd emosiynol sy’n cefnogi dysgwyr i gyflawni eu potensial. Dylai’r amgylcheddau hyn ddarparu profiadau eang ac amrywiol sy’n caniatáu i ddysgwyr fynegi eu hunain yn gorfforol, yn greadigol ac â dychymyg, ac yn caniatáu iddyn nhw ddilyn eu diddordebau, yn annibynnol neu gydag eraill.

Dylai amgylcheddau effeithiol ddathlu amrywiaeth a rhoi gwerth arno, a dylen nhw fod yn gynhwysol. Dylen nhw hyrwyddo ymdeimlad o berthyn fel bod yr holl ddysgwyr yn teimlo’n werthfawr a’u bod yn cael eu cynrychioli. Dylai’r amgylcheddau hyn fod yn llawn cyfathrebu ac yn canolbwyntio ar hyrwyddo sgiliau cyfathrebu cychwynnol gan eu datblygu ymhellach, gan sicrhau bod ystod eang o adnoddau ar gael i ddysgwyr er mwyn ehangu eu geirfa a hwyluso’r broses o ddatblygu cysyniadau. Bydd amgylchedd effeithiol yn sgaffald i ddatblygu dealltwriaeth dysgwyr o gysyniadau mathemategol, er enghraifft drwy gyfleoedd gweledol ac ymarferol i ddysgwyr gael profiad o rifau, siapiau a phatrymau mewn cyd-destunau bywyd go iawn, y tu mewn a’r tu allan. Wrth ddarparu amgylcheddau effeithiol, dylid cynnwys cyfryngau digidol ac ystod o adnoddau eraill i wella’r broses ddysgu mewn ffyrdd sy’n briodol o ran datblygiad dysgwyr.

Dylai amgylcheddau effeithiol gynnig cyfleoedd i ddysgwyr gael profiad o ryfeddu; dylai danio chwilfrydedd ynghylch elfennau byw ac elfennau nad ydyn nhw’n fyw, gan ysgogi’r dysgwyr i ymchwilio, datrys problemau, a datblygu eu sgiliau creadigol a’u gallu i feddwl yn feirniadol. Dylai’r amgylchedd hefyd gynnig amser a lle i ystyried, yn ogystal â chyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu sgiliau motor bras a manwl, wrth iddyn nhw herio eu hunain yn gorfforol.

Dylai’r amgylchedd gynnig hyblygrwydd ac amrywiaeth, risg a her, a dylai gefnogi dysgwyr i ddatblygu gwydnwch, hyder ac annibynniaeth. Bydd amgylchedd effeithiol hefyd yn cefnogi meistrolaeth. Bydd yn gwneud hyn drwy ganiatáu cyfleoedd aml ac estynedig i ymarfer, ailadrodd a sefydlu sgiliau a ddysgwyd mewn amrywiaeth o gyd-destunau.

Prif nodweddion addysgeg lwyddiannus

Dylai addysgeg effeithiol, sy’n rhoi’r lle canolog i’r dysgwr ac sydd â’r deuddeg egwyddor addysgegol yn sail iddi, fod yn un sy’n ymateb, yn un sy’n ddeinamig ac yn un sydd wedi’i gwreiddio mewn cydberthnasau cryf. Dylai ymarferwyr ddefnyddio’r egwyddorion hyn fel sail i gefnogi dysgwyr i ddatblygu trwy gynnig cyfleoedd cyson ar gyfer y canlynol.

Chwarae a dysgu sy’n seiliedig ar chwarae

Mae chwarae yn hawl sylfaenol sydd gan bob dysgwr. Mae gan blant awydd cryf i chwarae. Drwy chwarae, a phrofiadau yn ymwneud â chwarae, gall dysgwyr ddarganfod gwahanol ffyrdd o brofi ystod o emosiynau gan ddysgu am y byd y maen nhw’n ei rannu ag eraill.

Mae chwarae yn rhywbeth mae dysgwyr yn aml yn ei gymryd o ddifri, yn enwedig yn y cyfnod dysgu hwn. Mae angen canolbwyntio a thalu sylw i fanylion, ac mae’n gyfrwng iddyn nhw ddysgu drwy ddyfalbarhau a chydweithio. Mae chwarae nid yn unig yn hanfodol i’r ffordd y mae dysgwyr yn datblygu eu hymwybyddiaeth ohonyn nhw eu hunain a’r ffordd y maen nhw’n dysgu rheolau ymddygiad cymdeithasol, mae hefyd yn sylfaenol i’r broses o ddatblygu’n gorfforol, yn ddeallusol ac yn greadigol.

Mae chwarae yn broses ddilys i blant o bob oedran. Bydd capasiti dysgwyr i ddatblygu mewn ffordd bositif yn cael ei lesteirio os cyfyngir ar yr ystod eang o amgylcheddau, a’r cyfleoedd chwarae, sydd ar gael iddyn nhw. Mae hawl gan bob dysgwr i barch o ran y cyfuniad unigryw o rinweddau a sgiliau sydd ganddyn nhw. Mae chwarae yn darparu cyfleoedd lawer i ddatblygu sgiliau, mae’n dylanwadu ar ffordd o feddwl ac agweddau at ddysgu, ac mae’n meithrin ymdeimlad o hunan-werth a hunan-gred sy’n effeithio ar hyder ac annibyniaeth.

Mae chwarae a dysgu sy’n seiliedig ar chwarae, yn cefnogi datblygiad holistaidd ar draws y cwricwlwm. Dylai pob ymarferydd roi gwerth arno fel diben ynddo’i hun yn ogystal ag fel rhywbeth y dylid talu sylw manwl iddo gyda’r nod clir o’i ddefnyddio i wella’r broses ddysgu.

Bod y tu allan

Mae bod y tu allan yn arbennig o bwysig i ddysgwyr yn y cyfnod hwn o ddysgu. Gall dysgu y tu allan arwain at lefelau uchel o  les, hyder ac ymgysylltu. Mae bod y tu allan yn gyfle i ddysgwyr archwilio, ymarfer a gwella eu sgiliau. Er mwyn manteisio i’r eithaf ar fod y tu allan, mae angen oedolion sy’n galluogi’r dysgu ac sy’n deall ei bwysigrwydd a’i werth i ddysgwyr. Mae bod y tu allan yn cefnogi datblygiad a lles cymdeithasol, emosiynol, ysbrydol a chorfforol, yn ogystal â darparu cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu a chadarnhau sgiliau trawsgwricwlaidd.

Mae bod y tu allan yn darparu cyfleoedd i’r dysgwyr gael rhyfeddu a chael eu hysbrydoli, ac mae’n caniatáu i ddysgwyr i ymateb yn naturiol mewn gofod agored, ymlaciol sy’n eu symbylu. Mae adnoddau naturiol a phenagored yn hyrwyddo datblygiad dychymyg, creadigrwydd a chwilfrydedd. Mae cyfleoedd cyfoethog a dilys y tu allan yn symbylu synhwyrau dysgwyr drwy’r hyn y maen nhw’n ei glywed, ei gyffwrdd, ei weld a’i arogli, gan eu hannog i fynegi eu hunain.

Gall dysgwyr sy’n llwyddo i ymgysylltu â’r byd naturiol feithrin empathi tuag at yr amgylchedd, gan ddangos ymwybyddiaeth o effaith bosibl y dysgwyr ar elfennau byw. Gallan nhw ddechrau archwilio’r cysyniad o gynaladwyedd mewn ffordd ymarferol. Mae archwilio’r byd y tu allan yn gyfle i ddysgwyr ddatblygu ymwybyddiaeth o’u lle o fewn yr hyn sy’n union o’u cwmpas, eu hardal, Cymru a’r byd ehangach.

Mae bod y tu allan yn ei gwneud yn bosibl i ddysgwyr ddatblygu ymwybyddiaeth ohonyn nhw eu hunain o fewn gofod, gan eu helpu i ddeall y syniad o bropriodderbyniaeth. Gall amgylcheddau y tu allan ddarparu cyfleoedd unigryw i ddysgwyr wella eu cydbwysedd a’u gallu i gydsymud, datblygu sgiliau motor ac archwilio eu potensial corfforol. Wrth archwilio’r amgylchedd y tu allan, gall ddysgwyr ddatblygu eu gallu i asesu a phrofi risg, ynghyd â’u gwydnwch a’u hyder.

Arsylwi

Dylai arsylwi fod yn rhan allweddol o drefniadau bob dydd ymarferwyr. Drwy hynny, byddan nhw’n cael dealltwriaeth well o anghenion, sgiliau a chynnydd unigolion a grwpiau o ddysgwyr. Wrth arsylwi, dylid canolbwyntio ar anghenion presennol dysgwyr a dylai ymarferwyr wrthsefyll y demtasiwn i ruthro drwy sgiliau, gwybodaeth a phrofiadau, gan y gall hyn gael effaith niweidiol ar y broses ddysgu.

Mae’r ffocws ar ddod i adnabod y dysgwyr yn helpu i greu darlun o bob unigolyn, sy’n cynnwys eu hanghenion o ran datblygiad a’u diddordebau. Bydd ymarferwyr mewn sefyllfa well i gynllunio’r camau nesaf trwy ddefnyddio eu gwybodaeth am brofiadau’r dysgwyr, yr hyn y maen nhw’n ei hoffi, yr hyn nad ydyn nhw’n ei hoffi, eu diddordebau a’r hyn sy’n eu denu, ynghyd ag unrhyw rwystrau i ddysgu y maen nhw wedi’u profi neu y maen nhw’n eu profi ar hyn o bryd.

Dylai ymarferwyr sicrhau bod ganddyn nhw y sgiliau priodol i ddeall rôl arsylwi a sut mae’n ategu’r broses asesu. Dylen nhw wylio’r dysgwyr, gwrando arnyn nhw ac ystyried yr hyn y maen nhw’n ei wneud ac yn ei gyfathrebu.

Efallai y bydd y sesiynau arsylwi wedi’u cynllunio ac yn rhai penodol; efallai y byddan nhw’n digwydd dros gyfnod neu’n digwydd yn ddirybudd pan sylwir ar rywbeth newydd neu arwyddocaol. Bydd defnyddio ystod o dechnegau arsylwi yn sicrhau bod ymarferwyr yn dod i ddealltwriaeth fanwl o bob dysgwr. Fel rhan o’r broses hon, dylai ymarferwyr ystyried sut a  phryd y dylid rhyngweithio gyda’r dysgwr.

Mae defnyddio technegau arsylwi effeithiol yn helpu ymarferwyr i ddeall lefelau lles ac ymgysylltiad y dysgwyr, eu cyflwr emosiynol, eu perthynas ag eraill, eu sgiliau a’u cymwyseddau. Mae arsylwi effeithiol yn galluogi ymarferwyr i ddadansoddi’r hyn a welan nhw ac a glywan nhw, ac yna ymateb mewn ffyrdd a fydd yn cefnogi’r dysgwyr i wneud cynnydd. Dylid defnyddio’r hyn a nodir fel sail i gynllunio ar gyfer y tymor byr a’r tymor hir er mwyn cefnogi dysgwyr i symud ymlaen i’r camau nesaf.

Dylai arsylwi arwain at gynllunio profiadau ac amgylcheddau dysgu i’r dyfodol. Mae’n caniatáu i ymarferwyr nodi’r dulliau dysgu sydd orau gan ddysgwyr, a sut orau i’w cymell i gymryd rhan yn y broses ddysgu. Mae’n ffordd o weld hefyd pa ddysgwyr y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnyn nhw i gyflawni eu potensial.

Mae’n bwysig bod ymarferwyr yn deall nad proses sy’n dilyn cyfres o gamau penodol yw dysgu, a bod gwahanol ddysgwyr yn debygol o ddatblygu mewn ffyrdd cwbl wahanol. Rhaid i ymarferwyr gydnabod hyn a chaniatáu ar gyfer amrywiol lwybrau, rhwystrau a chyflymu sydyn all ddigwydd yn ystod y daith ddysgu.

Dysgu dilys a phwrpasol

Mae’r dysgu ar ei fwyaf effeithiol pan fydd y dysgwyr yn cymryd rhan weithredol mewn profiadau sy’n ysgogi eu diddordeb, tanio eu dychymyg, ysbrydoli eu chwilfrydedd ac yn hyrwyddo agweddau positif. Dylai’r profiadau hyn annog dysgwyr i ymchwilio, archwilio, creu a chymryd rhan weithredol yn y broses ddysgu. Bydd profiadau perthnasol ac ystyrlon sy’n seiliedig ar gyd-destunau bywyd go iawn yn galluogi dysgwyr i wneud cysylltiadau, cymhwyso gwybodaeth ac atgyfnerthu eu sgiliau.

Gall profiadau bywyd go iawn alluogi dysgwyr i ddangos arweiniad wrth ofyn cwestiynau, nodi problemau, cymryd risgiau a dod o hyd i atebion. Mae’n bwysig creu cyfleoedd i ddysgwyr gymhwyso’r hyn y maen nhw’n ei ddysgu i sefyllfaoedd bywyd go iawn. Mae hyn yn eu helpu i ddeall pwrpas eu dysgu, a gall wella eu lles, eu hunan-gred a’u gwydnwch. Mae’n eu hannog i archwilio a bod yn greadigol, a bydd yn eu cefnogi i ddatblygu dealltwriaeth o’r byd o’u cwmpas.

Datblygiad plant a dylunio cwricwlwm

Mae cynnydd yn ganolog i’r gwaith o ddylunio cwricwlwm. Mae gan yr holl ddysgwyr yng Nghymru yr hawl i gael eu gwerthfawrogi a chael cefnogaeth gadarn i wneud cynnydd ar hyd eu taith ddysgu drwy brofiadau sy’n bwysig ac yn ystyrlon iddyn nhw. Dylai’r daith hon fodloni anghenion yr unigolyn, a dylai ddigwydd ar gyflymder sy’n addas i bob dysgwr unigol.

Er mwyn cwmpasu pob dysgwr, beth bynnag yw’r oedran, cefndir, anghenion neu allu, dylai ymarferwyr ystyried cynnydd o safbwynt holistaidd drwy ddefnyddio egwyddorion datblygiad plant wrth gynllunio, dylunio a gweithredu cwricwlwm. Mae’n bwysig cydnabod bod yna gamau graddol y bydd dysgwyr yn eu cymryd wrth iddyn nhw ddatblygu ym mhob maes. Dylai ymarferwyr ddeall y camau hyn wrth gynllunio ar draws cwricwlwm a rhoi amser i ddysgwyr ymarfer, datblygu a mireinio agweddau ar eu dysgu.

Dylai ymarferwyr ymchwilio i’r hyn sy’n cymell dysgwyr, eu dyheadau a’u diddordebau er mwyn datblygu dealltwriaeth o anghenion pob unigolyn, gan ymgorffori llais y dysgwr yn y broses gynllunio. Gall rhoi lle canolog i’r dysgwr, a chydweithio â theuluoedd a phartneriaid eraill sydd ynghlwm wrth gynnydd y dysgwr, helpu i sicrhau datblygiad holistaidd.

Gall datblygu cwricwlwm ymatebol rymuso dysgwyr i ddatblygu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r agweddau sydd eu hangen i ddysgu’n llwyddiannus a gwireddu’r pedwar diben. Gyda chefnogaeth fedrus a sensitif y rhai sy’n eu hadnabod yn dda, bydd diddordeb dysgwyr yn eu haddysg yn fwy, a byddan nhw’n datblygu’n unigolion mwy galluog ac annibynnol, yn barod i gyfrannu yn y byd o’u cwmpas. Byddan nhw’n iachach ac yn fwy hyderus i ryngweithio ag ystod amrywiol o bobl, lleoedd a phrofiadau. Mae hyn yn baratoad da ar gyfer cam nesaf eu taith ddysgu. Dros gyfnod, ar eu lefel eu hunain ac yn eu hamser eu hunain, mae’r dysgwyr yn meithrin perthynas ag eraill, yn datblygu sgiliau bywyd ac yn magu diddordebau personol a fydd yn eu galluogi i gyflawni eu potensial.

Bydd yr holl ddysgwyr yn ennill sgiliau a gwybodaeth yn eu hamser eu hunain, a bydd hyn yn wahanol ym mhob achos. Bydd pa mor gyflym y maen nhw’n gwneud hyn yn amrywio o fewn eu llwybrau cynnydd eu hunain. Dylai ymarferwyr ddefnyddio cyfleoedd arsylwi a gwybodaeth am ddatblygiad plant i gynllunio profiadau dysgu sy’n cefnogi ac yn herio pob dysgwr i ddatblygu tuag at wireddu’r pedwar diben. Wrth i ddysgwyr gyrraedd cerrig milltir yn eu datblygiad, dylen nhw dyfu’n fwy soffistigedig yn eu gallu i hunanystyried a hunanreoli, a datblygu meistrolaeth fwy ar draws ystod ehangach o sgiliau. Dylai eu gwybodaeth gynyddu a dyfnhau, a dylen nhw dyfu’n fwy abl i ddefnyddio’r hyn y maen nhw wedi’i ddysgu a’i roi ar waith. O ganlyniad, dylen nhw ddechrau gwneud cysylltiadau ar draws y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig o fewn y Meysydd.

Wrth ddylunio’r cwricwlwm, dylid canolbwyntio ar alluogi dysgwyr i lywio’u cwrs drwy amrywiaeth eang o brofiadau cyfarwydd ac anghyfarwydd, mireinio sgiliau a’u rhoi ar waith, ac ehangu a dyfnhau gwybodaeth. Gall hyn ganiatáu i ddysgwyr wneud cysylltiadau a throsglwyddo’r hyn y maen nhw wedi’i ddysgu i gyd-destunau newydd.

Y llwybrau datblygu

Wrth gynllunio a gweithredu cwricwlwm, dylai ymarferwyr ystyried y pum llwybr datblygu hyn, sy’n hanfodol i ddatblygiad pob dysgwr yn y cyfnod dysgu hwn. Gall ymarferwyr eu defnyddio i sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cefnogi i symud ymlaen yn eu hamser eu hunain ac yn yr amgylchedd dysgu sydd orau ganddyn nhw. Mae hyn yn bwysig i bob dysgwr, ond yn enwedig i ddysgwyr iau a dysgwyr sydd ag ADY efallai neu broffiliau datblygu anghyson.

Bydd defnyddio’r pum llwybr yn holistaidd wrth gynllunio cwricwlwm yn atgyfnerthu dysgu dilys a phwrpasol, ac yn sicrhau fod pob dysgwr yn gwneud cynnydd o fewn ac ar draws y Meysydd i gyd.

Perthyn

Mae ymdeimlad o berthyn yn elfen hanfodol o hapusrwydd a lles. Mae’n llywio ymwybyddiaeth dysgwr o bwy ydyw a phwy y gall dyfu i fod, a dylai fod yn sail i ethos pob ysgol a lleoliad. Yn ystod y cyfnod dysgu hwn, mae plant a phobl ifanc yn dechrau datblygu ymwybyddiaeth o’u lle yn y grwpiau a’r cymunedau lawer y maen nhw’n perthyn iddyn nhw, yn ogystal ag ymdeimlad o’u pwysigrwydd o’u mewn. Dylai ysgolion a lleoliadau ddatblygu ethos sy’n meithrin cydberthnasau cryf a diogel, gan fod y rhain yn hollbwysig i bob dysgwr ddatblygu ymdeimlad cryf o berthyn.

Gall ymdeimlad cryf o berthyn fod yn gymorth i greu teimladau positif o gysylltiad rhwng yr holl ddysgwyr a’u cartrefi yn ogystal â’u hysgolion neu leoliadau. Gall hyn ymestyn hefyd i’r gymuned, i Gymru ac i’r byd ehangach. Gall ysgolion a lleoliadau sy’n gwerthfawrogi, yn dathlu ac yn adeiladu ar brofiadau’r gorffennol a’r presennol o gartrefi’r dysgwyr a’u cymuned gryfhau ymdeimlad o berthyn. Cyfrifoldeb yr ysgolion a’r lleoliadau yw sicrhau bod dysgwyr yn teimlo’n ddiogel o fewn eu hamgylchedd, a dangos gwir ofal a darparu cefnogaeth emosiynol.

Cyfathrebu

Mae cyfathrebu yn hanfodol i ddatblygiad dysgwyr. Mae’n hollbwysig er mwyn creu perthynas ag eraill, ac er mwyn dysgu, chwarae a rhyngweithio’n gymdeithasol. Mae cyfathrebu yn golygu datblygu sgiliau talu sylw, gwrando a deall, ochr yn ochr â sgiliau geirfa a mynegi.

Mae faint o iaith y mae dysgwyr yn dod ar ei draws a’r math maen nhw’n cael profiad ohono wrth ryngweithio yn gallu cael effaith nodedig ar eu datblygiad o ran sgiliau cyfathrebu. Dylai ymarferwyr wneud y mwyaf o gyfleoedd rhyngweithio i gefnogi dysgwyr i ddeall eraill a mynegi eu hunain. Mae dysgwyr yn ennill a datblygu sgiliau ar eu cyflymder eu hunain, a gall ymarferwyr eu cefnogi o ran datblygiad iaith drwy fodelu sut i wrando ar eraill a siarad at ddibenion gwahanol.

Wrth gynllunio cwricwlwm, dylai ymarferwyr ddarparu amgylchedd sy’n cefnogi dysgwyr i fynegi a chyfathrebu eu hanghenion, eu meddyliau a’u teimladau. Mae datblygu sgiliau cyfathrebu, iaith a llythrennedd effeithiol yn bwysig er mwyn mynegi eu hunain, datblygu cysylltiadau cymdeithasol cryf ac er mwyn dysgu’n fwy cyffredinol.

Archwilio

Mae chwilfrydedd dysgwyr ynghylch y byd o’u cwmpas yn gymhelliad cryf iddyn nhw fynd ati i archwilio. Dylai ymarferwyr adeiladu ar chwilfrydedd dysgwyr yn ystod digwyddiadau bob dydd, er mwyn iddyn nhw ryfeddu a chael eu hysbrydoli. Dylai dysgwyr gael y cyfle i archwilio ac ymchwilio ar eu pen eu hunain, a chydag eraill, er mwyn rhannu eu llawenydd wrth ddarganfod gwybodaeth neu sgiliau newydd, dysgu oddi wrth ei gilydd, a dathlu eu cyflawniadau eu hunain a chyflawniadau eu cyfoedion. Dylid annog dysgwyr i geisio gwybodaeth a sgiliau sydd eisoes o fewn cwmpas eu gallu ac sydd y tu hwnt i hynny. Gyda’r gefnogaeth briodol, gallan nhw ganolbwyntio ar bethau sydd o ddiddordeb iddyn nhw am gyfnodau estynedig. Wrth i’w sgiliau archwilio ddatblygu gallan nhw fireinio ac ymarfer eu sgiliau, a rhoi damcaniaethau sy’n dod i’r amlwg ar brawf ar eu pen eu hunain neu gydag eraill.

Mae dysgu yn golygu datblygu sgiliau, gwybodaeth a gallu yn raddol mewn ffyrdd cynyddol gymhleth. Gall amgylcheddau cynhwysol, y tu mewn a’r tu allan, sy’n rhoi amser a chyfle i archwilio, chwarae ac ymchwilio, lle mae oedolion yn ymwybodol o ddiddordebau dysgwyr, helpu i feithrin agweddau positif at ddysgu, yn ogystal â chynyddu gwybodaeth a sgiliau.

Datblygiad corfforol

Mae gweithgarwch corfforol a symud yn hanfodol i ddatblygiad pob dysgwr, ac mae’n gysylltiedig â sgiliau gwybyddol a dysgu. Mae ymgymryd â gweithgareddau corfforol yn cynyddu ymdeimlad dysgwr o berthyn a lles. Gall hefyd gyfrannu at lefelau uwch o ganolbwyntio, cymhelliant a chofio, yn ogystal â datblygu esgyrn a chyhyrau iach.

Dylai ymarferwyr ddarparu digon o gyfleoedd i symud, a dylen nhw ddeall y berthynas bwysig rhwng hynny a dysgu. Fel rhan o’u datblygiad mae ar bob dysgwr yr angen naturiol i symud, neu i gael ei symud, ac i symud gwrthrychau a’u trin a’u trafod. Mae hyn yn golygu defnyddio sgiliau motor bras a manwl. O gael cyfle ac amser i ymarfer, bydd y dysgwr yn dysgu mireinio’r symudiadau motor hyn a’u cydgysylltu’n llyfnach. Mae ail-wneud yr un symudiad a’i amrywio yn hollbwysig i ddatblygiad dysgwyr wrth iddyn nhw ddechrau archwilio eu gallu corfforol cynyddol ac wrth iddyn nhw ddod yn fwyfwy annibynnol.

Lles

Mae teimlo cysylltiad a theimlo’n ddiogel yn elfennau hanfodol o les cadarnhaol. Mae’r oedolion, y profiadau a’r amgylcheddau y mae dysgwyr yn dod ar eu traws yn dylanwadu arnyn nhw. Dylai’r tair elfen hon gydweithio i ddarparu’r cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu hiechyd emosiynol, cymdeithasol a chorfforol i greu ymdeimlad cryf o les.

Dylai ymarferwyr greu amgylcheddau sy’n ddiogel yn emosiynol lle gall dysgwyr ddechrau adnabod a rheoli eu teimladau a’u hymddygiadau mewn ffyrdd positif. Gallan nhw hefyd helpu dysgwyr i ddechrau deall fod canlyniadau i’w gweithredoedd

Dylai ymarferwyr ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu ymlyniadau a chydberthnasau diogel ag eraill, er mwyn teimlo’n hyderus ynddyn nhw eu hunain a bod mewn sefyllfa well i wneud dewisiadau, cymryd risgiau, meithrin gwydnwch ac annibyniaeth, a chymryd rhan bositif mewn gweithgareddau bob dydd.