English

3. Sgyrsiau gorffennol a dadansoddiad

 

Mae sgyrsiau cynharach y Rhwydwaith Cenedlaethol yn cynnwys:

  • Cynnydd
  • Cynllunio cwricwlwm
  • Paratoi ar gyfer y cwriclwm: a ydym ar y trywydd iawn?
  • Adnoddau a deunyddiau ategol
  • Diwygio cymwysterau
  • Hanesion Cymreig a Phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
  • Llafaredd a darllen
  • Y celfyddydau mynegiannol
  • Trefniadau asesu ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir
  • Tegwch a chynwysoldeb
  • Pwrpas, Addysgeg a Chynnydd

O dan bob pennawd isod fe welwch becyn hwylusydd ac adnoddau fideo y gellir eu defnyddio i gynnal sgwrs yn eich ysgol/lleoliad. 

  • Tachwedd 2021

    Roedd y sgwrs yn canolbwyntio ar sut y dylai adnoddau a deunyddiau i gefnogi cynllunio, dysgu ac addysgu’r cwricwlwm edrych yng nghyd-destun newydd Cwricwlwm i Gymru.

    Aeth y sgwrs i’r afael â chwestiynau fel:

    • sut ydych chi'n meddwl y bydd eich anghenion am adnoddau a deunyddiau ategol yn newid o ganlyniad i Gwricwlwm i Gymru?
    • pa adnoddau ydych chi wedi'u defnyddio sydd wedi bod yn ddefnyddiol? Pam?
    • wrth edrych ymlaen, sut gallai adnoddau eich cefnogi i gynllunio eich cwricwlwm eich hun?

    Adnoddau a ddefnyddir yn y sgwrs

    I gael mynediad i’r adnoddau ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol hon cofrestrwch (Addysg Cymru).

  • Chwefror 2023

    Cynhelir Sgwrs Rhwydwaith Cenedlaethol yn benodol ar gyfer arweinwyr lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir ar 2 Chwefror 2023.

    Roedd y sgwrs yn canolbwyntio ar:

    • glywed gan arweinwyr lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir ynghylch beth sy’n gweithio’n dda ledled Cymru yn dilyn cyflwyno’r cwricwlwm ym Medi 2022 a rhannu eich barn
    • trafod rhai o‘r prif heriau, rhannu atebion posibl a llywio cefnogaeth y dyfodol
    • nodi a thrafod yr arferion a’r adnoddau y mae ymarferwyr yn eu hystyried yn ddefnyddiol o ran cyflwyno’r cwricwlwm

    I gael yr adnoddau ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol hon cofrestrwch (Addysg Cymru).

    Adroddiad o’r sgwrs

  • Datblygu cynnydd a chefnogi cynllunio a trefnu’r cwricwlwm: Mai 2023

    Roedd y sgwrs yn canolbwyntio ar:

    • sut y gall ysgolion ddefnyddio camau cynnydd i ddatblygu syniadau ynghylch cynnydd dysgwyr
    • yr hyn y gall ysgolion a sefydliadau ei wneud i roi sicrwydd i rieni, a rhanddeiliaid ehangach, bod dysgwyr yn dod yn eu blaenau

    Gwnaed hyn drwy:

    • archwilio profiad ac arfer cyfredol mewn ysgolion a sefydliadau
    • mynd ati ar y cyd i ddatblygu ffyrdd posibl ymlaen
    • ystyried yn ymarferol sut y gellid gwneud y rhain yn rhan o arferion

    Adnoddau a ddefnyddir yn y sgwrs

    I gael yr adnoddau ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol hon cofrestrwch (Addysg Cymru).

    Datblygu cynnydd a chefnogi cynllunio a trefnu’r cwricwlwm: Ionawr 2023

    Roedd y sgwrs yn canolbwyntio ar:

    • sut y gall ysgolion ddefnyddio camau cynnydd i ddatblygu syniadau ar gyfer cynnydd dysgwyr
    • yr hyn y gall ysgolion a sefydliadau ei wneud i roi sicrwydd i rieni, a rhanddeiliaid ehangach, bod dysgwyr yn dod yn eu blaenau

    Gwnaed hyn drwy:

    • archwilio profiad ac arfer cyfredol mewn ysgolion a sefydliadau
    • datblygu ffyrdd posibl ymlaen ar y cyd
    • ystyried yn ymarferol sut y gellid gwneud y rhain yn rhan o arfer

    Adnoddau a ddefnyddir yn y sgwrs

    I gael yr adnoddau ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol hon cofrestrwch (Addysg Cymru).

    Troi meddyliau yn arferion, cynllunio cwricwlwm i gefnogi cynnydd: Hydref 2022

    Cynhaliwyd y sgwrs i gefnogi ymarferwyr i:

    • werthuso'n feirniadol ymagweddau cyfredol at gynnydd
    • ysgogi ffyrdd newydd o feddwl
    • archwilio sut y gall meddwl a defnyddio tystiolaeth gefnogi ymarfer

    Cyflwynodd y sgwrs hon themâu, syniadau, a dulliau o gynnydd.

    Roedd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar:

    • ddatblygu dealltwriaeth o gynnydd o fewn y Cwricwlwm i Gymru
    • meithrin hyder ymarferwyr wrth ddefnyddio egwyddorion cynnydd, datganiadau o’r hyn sy’n bwysig, camau cynnydd, a dibenion asesu gyda’i gilydd wrth gynllunio’r cwricwlwm ac arfer yr ystafell ddosbarth

    Adnoddau a ddefnyddir yn y Sgwrs

    I gael yr adnoddau ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol hon cofrestrwch (Addysg Cymru).

    Yn y sgwrs hon, rhannodd cyfranogwyr o bob rhan o Gymru eu dealltwriaeth o gynnydd a sut y gellir asesu hyn yn effeithiol.

    Trafodwyd y cyfranogwyr:

    • rhannu dealltwriaeth o sefyllfa eu cydweithwyr ym mhob cyd-destun o ran syniadau a datblygiadau yn ymwneud â chynnydd ac asesu
    • ystyried sut y gellir defnyddio egwyddorion cynnydd i helpu i gynllunio'r cwricwlwm, gan gynnwys cynllunio gwaith asesu
    • ystyried sut y gellir cynllunio cynnydd dysgwyr ar hyd continwwm y cwricwlwm drwy integreiddio'r broses o ddethol cynnwys, dulliau addysgeg a dulliau asesu
    • rhannu gwybodaeth am sut mae arferion asesu yn cael eu datblygu i gefnogi cynnydd dysgwyr ar draws yr holl gwricwlwm
    • ystyried ffactorau cyd-destunol a allai effeithio ar ddealltwriaeth a chynllunio cynnydd
    • datblygu dealltwriaeth o ddulliau effeithiol o gyd-awduro o fewn ac ar draws ysgolion neu leoliadau a fydd yn helpu i ddatblygu arferion cynllunio cynnydd ac asesu ymhellach

    Adnoddau a ddefnyddir yn y sgwrs

    I gael yr adnoddau ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol hon cofrestrwch (Addysg Cymru).

    Cynnydd: Hydref 2021

    Yn y sgwrs hon, mae modd i ymarferwyr drafod yr heriau, a'r cyfleoedd, wrth gynllunio cwricwlwm y mae cynnydd dysgu’n ganolog iddo. Gyda chymorth mewnbwn arbenigol a deunyddiau eraill, mae modd i ymarferwyr fynd i'r afael â chwestiynau allweddol gan gynnwys:

    • beth yw eich dealltwriaeth o gynnydd yn y Cwricwlwm i Gymru? Beth sy'n wahanol i'r ffordd yr ydym wedi mynd i’r afael â hyn o'r blaen?
    • ble ydych chi nawr o ran datblygu cynnydd yn y cwricwlwm newydd? Beth sy'n ddefnyddiol wrth feddwl am hyn, a beth sydd ddim?
    • symud ymlaen: pa gymorth a allai fod ei angen arnoch i gynyddu eich dealltwriaeth a'ch defnydd o gynnydd yn y cwricwlwm newydd?Pecyn briffio hwyluswyr: dilyniant (Hydref 2021)

    Adnoddau a ddefnyddir yn y Sgwrs

    I gael mynediad i’r adnoddau ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol hon cofrestrwch (Addysg Cymru).

  • Ymateb i Ddeallusrwydd Artiffisial mewn addysg: Gorffennaf 2024

    Beth oedd diben y sgwrs hon?

    Roedd y Sgwrs Genedlaethol hon yn Haf 2024 yn canolbwyntio ar gyfleoedd, heriau a goblygiadau Deallusrwydd Artiffisial (AI) ar gyfer addysg yng Nghymru.

    Roedd y sgwrs yn canolbwyntio ar yr isod:

    • Darparu fforwm i ymarferwyr ledled Cymru drafod ac ystyried goblygiadau'r adnoddau hyn yn eu gwaith eu hunain ac yn yr ystafell ddosbarth.
    • Cyfleoedd a heriau a gyflwynir gan adnoddau Deallusrwydd Artiffisial.

    Gwnaed hyn drwy ddefnyddio'r canlynol:

    • trafodaethau gyda rhanddeiliaid fel Cymwysterau Cymru
    • clywed gan arbenigwyr
    • rhwydweithio
    • rhannu profiadau gyda Dealltwriaeth Artiffisial yn yr ystafell ddosbarth

    Adnoddau'r sgwrs

    I gael mynediad at recordiad o'r sgwrs a'r adnoddau cofrestrwch (Addysg Cymru).

  • Pwrpas y sgwrs

    • Dod ag ymarferwyr ynghyd i rannu eu barn ar sut y gellir ail-ddychmygu cymwysterau ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed i gefnogi'r Cwricwlwm newydd i Gymru.
    • Datblygu’r sgwrs ynghylch sut y gall cymwysterau alinio â fframwaith Cwricwlwm i Gymru a chefnogi cwricwla ysgolion.
    • Nodi cyfleoedd i ystyried lles dysgwyr yn fwy effeithiol ac adnabod profiadau dysgwyr yn well o fewn cymwysterau.
    • Nodi cyfleoedd ar gyfer arloesi a newid o fewn cymwysterau'r dyfodol o ran cynnwys, asesu ac adrodd ar ganlyniadau, gan gynnwys defnydd mwy effeithiol o dechnoleg ddigidol.
    • Nodi gwaith neu ymchwil pellach y dylid ei wneud i lywio'r gwaith o gynllunio, cyflwyno ac asesu cymwysterau'r dyfodol.
    • Mewnbynnu i'r broses o gyd-lunio cymwysterau TGAU a chymwysterau eraill a wnaed ar gyfer Cymru, a bydd y canfyddiadau'n cael eu trosglwyddo i'r grwpiau sydd â'r dasg o ddatblygu cynigion ar lefel pwnc i'w hystyried.

    Adnoddau a ddefnyddir yn y sgwrs

    I gael mynediad i’r adnoddau ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol hon cofrestrwch (Addysg Cymru).

  • Sgyrsiau wyneb yn wyneb y Rhwydwaith Cenedlaethol: gwanwyn 2024

    Cynhelir y Sgyrsiau Cenedlaethol wyneb i wyneb hyn am y Cwricwlwm i Gymru yn:

    • De Cymru ar 31 Ionawr 2024 yn Stadiwm Dinas Caerdydd
    • Gogledd Cymru ar 6 Chwefror 2024 yn Venue Cymru

    Roedd y sgyrsiau yn canolbwyntio ar:

    • I ymarferwyr dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar ganllawiau 'Cwricwlwm i Gymru: ymlaen â’r daith' a beth mae hyn yn ei olygu i’w ysgol neu leoliad.
    • Y cyfle i gyfrannu at y sgwrs genedlaethol am Gynllunio Cwricwlwm a Chynnydd.
    • Rhannu barn ar gyfleoedd a heriau yn y chwe maes dysgu a phrofiad, er mwyn helpu  lunio polisi ac ymarfer er budd pob dysgwr yng Nghymru.
    • Rhwydweithio gyda chyd-ymarferwyr o bob rhan o Gymru, a sicrhau bod eu lleisiau yn cael ei glywed.

    Adnoddau a ddefnyddir yn y sgwrs

    I gael yr adnoddau ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol hon cofrestrwch (Addysg Cymru).

    Cwricwlwm a chynnydd: Tachwedd 2023

    Gan barhau â'n taith o gyd-greu, roedd y Sgwrs Genedlaethol hon ar y Cwricwlwm a Chynnydd yn canolbwyntio ar eich cefnogi chi fel ymarferwyr i fyfyrio ar eich cynnydd wrth greu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd ar draws y continwwm 3 i 16 oed.

    Roedd y Sgwrs Genedlaethol hon yn rhoi cyfle i chi:

    • ddysgu sut mae ymarferwyr eraill yn defnyddio'r deunyddiau a'r adnoddau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan gynnwys 'deall y cwricwlwm ar waith: Camau i'r Dyfodol' a 'cynllun Peilot Cynllunio'r Cwricwlwm 2023' i greu sgyrsiau ystyrlon gyda chydweithwyr
    • gwerthuso sut mae eich ysgolion a'ch lleoliadau yn datblygu'r diwylliant a'r amgylchedd sy'n galluogi pob dysgwr i wneud cynnydd
    • sgwrsio ag ymarferwyr eraill o bob rhan o Gymru am y math o sgyrsiau ynghylch y cwricwlwm sy'n cefnogi cynllunio cwricwlwm effeithiol a chynnydd dysgwyr

    Adnoddau a ddefnyddir yn y sgwrs

    I gael yr adnoddau ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol hon cofrestrwch (Addysg Cymru).

    I gael mynediad at yr adnoddau ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol hon, cofrestrwch ar y platfform.

    Dylunio’r cwricwlwm ac asesu: Mehefin 2023

    Roedd y Sgwrs Genedlaethol hon yn gyfle i:

    • rannu syniadau ar y math o sgyrsiau cwricwlaidd sy'n cefnogi cynllunio cwricwlwm ac asesu effeithiol
    • gwerthuso sut mae ysgolion a lleoliadau yn datblygu'r diwylliant a'r amgylchedd sy'n gydnaws â chynllunio cwricwlwm ac asesu effeithiol
    • cyfeirio at adnoddau a all gefnogi sgyrsiau cwricwlwm blaenllaw yn eich ysgolion a'ch lleoliadau sy'n galluogi cynnydd dysgwyr

    Mae myfyrdododau ar y cwricwlwm a chynllun asesu Mae sgwrs Rhwydwaith Cenedlaethol yng ngwanwyn 2023 i’w gweld ar y ddolen isod.

    Adnoddau a ddefnyddir yn y sgwrs

    I gael yr adnoddau ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol hon cofrestrwch (Addysg Cymru).

    Dylunio’r cwricwlwm ac asesu: Mawrth 2023

    Canolbwyntiodd y Sgwrs Genedlaethol hon yng Ngwanwyn 2023 ar gefnogi ymarferwyr ac arweinwyr ysgolion/lleoliadau i fyfyrio ar eu prosesau cynllunio cwricwlwm ac asesu.

    Roedd y sgwrs yn gyfle i:

    • sgwrsio ag ymarferwyr eraill o bob rhan o Gymru am eu profiadau o ddylunio’r cwricwlwm ac asesu
    • ystyried beth mae egwyddorion asesu o fewn Cwricwlwm i Gymru yn ei olygu i'ch dysgwyr
    • gwerthuso sut mae'ch ysgolion a leoliadau yn datblygu prosesau cynllunio cwricwlwm ac asesu ar hyd y continwwm 3 i 16,
    • nodi'r hyn sy'n gweithio'n dda a'r cymorth sydd ei angen i oresgyn unrhyw heriau

    Adnoddau sgwrsio

    I gael mynediad i’r adnoddau ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol hon cofrestrwch (Addysg Cymru).

    Dylunio’r cwricwlwm ac asesu: Tachwedd 2022

    Gan adeiladu ar Sgyrsiau Dylunio Cwricwlwm 2021 i 2022, rhoddodd y Sgwrs Genedlaethol yma gyfle i ymarferwyr ac arweinwyr mewn ysgolion a lleoliadau:

    • asesu effaith elfennau gorfodol y Cwricwlwm i Gymru

    Rhoddodd sgwrs yr hydref gyfle i ymarferwyr ac arweinwyr:

    • asesu effaith elfennau gorfodol y Cwricwlwm i Gymru hyd yn hyn
    • gwerthuso'r hyn sy'n gweithio a nodi unrhyw heriau
    • gwerthuso sut mae ysgolion a lleoliadau yn datblygu’r ddealltwriaeth gysyniadol yn y Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig a sut mae hyn yn cael ei ddatblygu ar hyd y continwwm 3 i 16 wrth gynllunio’r cwricwlwm
    • nodi'r hyn sy'n gweithio'n dda a nodi cymorth i'r system oresgyn unrhyw heriau

    Adnoddau sgwrsio

    I gael mynediad i’r adnoddau ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol hon cofrestrwch (Addysg Cymru).

  • Tachwedd a Rhagfyr 2024

    Trosolwg

    Beth oedd diben y sgwrs hon?

    Roedd y Sgwrs Rhwydwaith Genedlaethol hon yn canolbwyntio ar sut y gall y canllawiau galluogi dysgu gefnogi ymarferwyr i gynllunio, trefnu a chyflwyno cwricwlwm addysgol briodol ar gyfer dysgwyr mewn addysg gynradd.

    Canolbwyntiodd y sgwrs ar y canlynol:

    Darparu fforwm i ymarferwyr mewn lleoliadau ac ysgolion a staff o fewn awdurdodau lleol sy'n darparu cymorth uniongyrchol ar draws ysgolion cynradd yng Nghymru i drafod pwysigrwydd datblygiad plant, y tair elfen, rôl yr oedolyn sy'n galluogi dysgu, profiadau sy'n ennyn diddordeb ac amgylcheddau effeithiol, a chymorth ar gyfer darllen.

    Gwnaed hyn drwy:

    • gyflwyniadau gan siaradwyr gwadd
    • hwyluso a thrafodaeth agored
    • casglu adborth drwy SLIDO
    • cyflwyniadau ar arferion effeithiol gan ysgolion, lleoliadau, ysgol arbennig a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd
    • panel holi ac ateb yn cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru ac Estyn a chyflwynwyr arferion effeithiol
  • Ebrill 2022

    Pwrpas y sgwrs

    • Tynnu sylw at arfer da presennol ar gyfer addysgu hanesion Cymreig a Phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
    • Ystyried heriau a phwysigrwydd ymgorffori profiadau a chyfraniadau Cymreig a Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol mewn hanes ar draws y cwricwlwm.
    • Archwilio pam mae perthyn a hunaniaeth yn hollbwysig i ddysgwyr er mwyn iddynt ddeall sut y maent wedi cyfrannu at hanes cyfoethog Cymru, gan wneud cysylltiadau rhwng hanesion a chymunedau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

    Adnoddau a ddefnyddir yn y sgwrs

    I gael mynediad i’r adnoddau ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol hon cofrestrwch (Addysg Cymru).

  • Mehefin 2022

    Mae sgiliau llafaredd a darllen yn helpu dysgwyr i wneud synnwyr o'r byd o'u cwmpas.

    Gyda hyn mewn golwg, rhoddodd y sgwrs gyfle i’r ymarferwyr:

    • arddangos sut mae ysgolion a lleoliadau yn cael effaith gadarnhaol ar safonau llafaredd a darllen
    • rhannu offer ymarferol a all helpu i godi safonau a thrafod unrhyw rwystrau i gefnogi codi safonau

    Adnoddau a ddefnyddir yn y sgwrs

    I gael mynediad i’r adnoddau ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol hon cofrestrwch (Addysg Cymru).

  • Paratoi ar gyfer cyflwyno: Medi 2021

    Yn y sgwrs hon, bu ymarferwyr yn cydweithio i drafod gwahanol ddulliau o ddylunio a datblygu Cwricwlwm i Gymru.

    Hyd yn hyn trafodwyd sut:

    • dod â'r hyn sy'n gweithio gyda’i gilydd
    • i wella dealltwriaeth egwyddorion datblygiad cwricwlaidd da
    • a trafod pa gymorth pellach fyddai fwyaf defnyddiol iddynt wrth baratoi i'w gyflwyno

    Adnoddau a ddefnyddir yn y sgwrs

    I gael mynediad i’r adnoddau ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol hon cofrestrwch (Addysg Cymru).

  • Digwyddiadau wyneb yn wyneb Sgyrsiau’r Rhwydwaith Cenedlaethol: Haf 2024

    Trosolwg

    Ym mis Mehefin/Gorffennaf 2024, cynhaliwyd ail sgwrs wyneb yn wyneb y Rhwydwaith Cenedlaethol yng Ngogledd a De Cymru. Datblygwyd y sgwrs mewn cydweithrediad â phartneriaid allweddol gan gynnwys consortia rhanbarthol a phartneriaethau, sefydliadau addysg uwch, yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, Cyngor Celfyddydau Cymru ac ESTYN.

    Ffocws cyffredinol y sgwrs oedd archwilio sut mae ein profiadau cynnar o'r Cwricwlwm i Gymru yn dylanwadu ar ein haddysgeg i arwain a chynllunio ar gyfer dysgu. Roedd y diwrnod yn canolbwyntio ar archwilio goblygiadau'r Cwricwlwm i Gymru ar ein harferion wrth alluogi dysgu i gefnogi cynnydd a datblygiad dysgwyr. Roedd hefyd yn caniatáu i arweinwyr ganolbwyntio ar ddatblygu ein hysgolion ymhellach fel sefydliadau dysgu. Cafodd pwysigrwydd dod â gweithwyr proffesiynol ynghyd i archwilio a thrafod ein taith hyd yma ei gydnabod a'i gefnogi gan yr Athro Graham Donaldson.

    Fideo ar gael ar YouTube

    Adborth cyffredinol

    • Amlinellodd yr adborth fod y sgwrs wedi rhoi amser a lle i unigolion fyfyrio ar eu taith addysgeg eu hunain a bod ymgysylltu ag ymarferwyr eraill yn cefnogi eu syniadau ymhellach.
    • Roedd bron pob un o'r cyfranogwyr yn teimlo bod yr hwyluso a'r adnoddau yn ysgogol a bod y diwrnod cyfan wedi eu helpu i gynllunio'r camau nesaf yn eu hysgol neu leoliad.
    • O ran addysgeg, ailbwysleisiwyd pwysigrwydd profiadau dysgu dilys a phwrpasol, sy'n ymgorffori'r defnydd o ddulliau o feddwl yn greadigol. Yn ystod y dydd amlygwyd bod y Cwricwlwm i Gymru yn gofyn bod ein meddylfryd am addysgeg yn canolbwyntio ar blant ac yn gyfannol ac yn gynhwysol.

    Casgliadau allweddol o'r trafodaethau

    Mae'r rhyng-ddibyniaeth a'r berthynas rhwng cwricwlwm ac addysgeg yn cael ei gydnabod yn fwy nag erioed ac roedd dod â nhw ynghyd gyda mwy o amlygrwydd ar yr addysgeg yn cael ei ystyried yn bwysig wrth symud ymlaen.

    Arweiniodd y sgyrsiau, a fframiwyd gan ganllawiau a phrofiadau o'r Cwricwlwm i Gymru hyd yma, at gydnabod casgliadau pwysig sy'n sail i'r hyn y mae angen i ni ganolbwyntio arno. Er nad yw'r casgliadau hyn o reidrwydd yn newydd i'r proffesiwn, daeth yr angen i'w harchwilio'n ddyfnach o fewn cwricwlwm pwrpasol ar lefel cynllunio profiadau dysgu (gyda chefnogaeth mewnbwn ac enghreifftiau penodol) i'r amlwg yn gryf.

    • 'Pam' cryf:
      • Daeth y 'pam' wrth gynllunio profiadau dysgu i'r amlwg yn gryf iawn a chodwyd y cwestiwn 'Ydyn ni'n gofyn hyn yn ddigon aml?'.
      • Yn ogystal â chynllunio cwricwlwm sy'n cefnogi dull seiliedig ar ddibenion, mae angen profiadau dysgu sy'n cael eu hystyried gan ddysgwyr fel rhai pwrpasol ac ystyrlon.
      • Nid yw hyn i ddibrisio'r 'beth' a phwysigrwydd corff o wybodaeth, ond mae angen mynd i'r afael â'r cydbwysedd gan fod pwyslais cryf wedi bod ar gynnwys a 'chwblhau'.
    • Cyfannol ac yn canolbwyntio ar y plentyn:
      • Yn bwysig, nodir nad yw canolbwyntio ar y plentyn yn golygu'r un peth ag a arweinir gan blant ac mae'n hanfodol bod cysondeb yn ein dealltwriaeth addysgegol mewn perthynas â hyn.
      • Golyga hyn dod cynllunio profiadau dysgu yn ymwneud yn gryf ag anghenion a diddordebau'r 'dysgwyr o'ch blaen' mewn ffordd gyfannol. Mae hyn yn gofyn am ddealltwriaeth gydlynol a chyson o'r pedwar diben a'u nodweddion, eu sgiliau a'r hyn sy'n bwysig. Mae'n mynd 'y tu hwnt i brofion yn unig' a sgoriau safonedig ond cydnabyddir bod y rhain yn chwarae rhan yn y broses.
      • Roedd yr agweddau penodol a godwyd yn cynnwys:
        • agweddau at ddysgu, gan gynnwys cymhelliant, cyfrifoldeb, gwytnwch ac annibyniaeth
        • cynnydd mewn datblygu sgiliau, gan gynnwys llythrennedd, rhifedd, sgiliau sy'n rhan annatod o'r pedwar diben ac effeithiolrwydd dysgwyr
      • Mae dysgu a phrofiadau blaenorol ynghyd â llais y dysgwr a dealltwriaeth o fywyd y tu hwnt i'r ysgol (cymuned a chartref) yn bwysig wrth fabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar y plentyn.
      • O ran meddylfryd addysgeg, mae angen mynd i'r afael â chynllunio profiadau dysgu o safbwynt datblygiad y dysgwyr a'r cynnydd yr ydym am iddynt ei wneud. Mae profiadau dysgu dilys sy'n seiliedig ar fywyd go iawn yn cefnogi dysgwyr i weld dysgu yn rhywbeth pwrpasol a pherthnasol.
    • Beth mae hyn yn ei olygu o ran sut rydym yn meddwl am addysgeg ac addysgu?:
      • Un o rolau allweddol yr athro yw bod yn oedolyn sy'n galluogi dysgu ac yn hwylusydd dysgu i gefnogi cynnydd y 'dysgwyr o'ch blaen'. Mae hyn yn cynnwys arsylwi, gwrando, cwestiynu, ysbrydoli a chydweithio â dysgwyr yn ogystal â chynllunio lle rydym yn modelu syniadaeth a'r broses ddysgu.
      • Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i staff weithio gyda'i gilydd a thrafod dysgwyr a'u cynnydd i sicrhau gwybodaeth gyfannol am ddysgwyr ynghyd â dealltwriaeth gyson o 'sut mae dysgwyr yn dysgu'.
      • Gwelir bod y safiad addysgegol yn un o fod yn ymatebol ac yn hyblyg er mwyn addasu i anghenion a chynnydd dysgwyr. Mae hyn yn gofyn am y defnydd priodol o fodelu a dulliau uniongyrchol ar lefel unigol, grŵp bach neu ddosbarth i hyrwyddo cynnydd dysgwyr.
      • Rhan annatod o'r cynllunio ar gyfer profiadau dysgu (yn yr ystafell ddosbarth neu'r tu allan i'r ystafell ddosbarth) yw darparu amgylchedd cynhwysol a galluogol Mae angen i'r amgylchedd ddatblygu ymdeimlad o berthyn trwy gyfathrebu a pherthnasoedd cryf. Mae angen ei gynllunio a'i gyfoethogi ac adnoddau i alluogi datrys problemau, creadigrwydd a chymryd risg yn ogystal â chyfleoedd i atgyfnerthu, dyfnhau a chymhwyso gwybodaeth a sgiliau.
      • Pwysleisiwyd yn gryf yr angen am ddysgu proffesiynol a chymorth gyda deialog broffesiynol, mewnbwn penodol, enghreifftio ac ymholia.
    • A yw'n effeithio ar ddysgu a chynnydd?:
      • Er mwyn myfyrio ar effaith yng nghyd-destun y tair thema flaenorol, cydnabyddir bod angen newid meddylfryd a diwylliant ar draws gwahanol sefydliadau a chyd-ddealltwriaeth a chysondeb o ran disgwyliadau.
      • Bydd diwylliant o wirionedd a gonestrwydd a gefnogir gan ymddiriedaeth mewn amgylchedd nad yw'n fygythiol nac yn gystadleuol, yn gwella asiantaeth a pherchenogaeth ynghylch archwilio effaith. Mae angen i'r diwylliant hwn fod yn ymwneud â chydnabod cynnydd a dathlu llwyddiant yn ogystal â nodi anghenion a blaenoriaethau datblygu. Diwylliant o 'wneud gyda'n gilydd' yn hytrach na diwylliant goddefol.
      • Yn fwy pwysig, o ran yr angen i ddeall dysgwyr, yw'r hyn a wnawn gyda'r canfyddiadau neu'r data ar ôl i ni ei gael.
      • Mae disgwyliadau cydlynol a chyson ar draws y continwwm dysgu yn bwysig o ran deall cynnydd a gwaith clwstwr ac mae gwaith ysgol i ysgol yn datblygu hyn.
      • Mae blaenoriaethu amser ac ail-ddychmygu prosesau er mwyn caniatáu i staff 'gamu yn ôl' i edrych ar ddysgu a datblygu gyda'i gilydd dros amser yn bwysig. Mae sgyrsiau staff ac ymholi gweithredol sy'n deillio o arsylwadau cydweithredol a gwaith craffu sy'n canolbwyntio ar ddysgu yn datblygu dealltwriaeth gyffredin o ddysgwyr ac yn hyrwyddo myfyrio ar ddarpariaeth (addysgeg). Ail-ffocysu amser cyfarfod (e.e. cyfarfodydd rheoli llinell) i arsylwi, myfyrio a thrafod dysgu a chynnydd gyda'n gilydd.
      • Er mwyn cyflawni hyn mae angen i ni fuddsoddi mewn arweinyddiaeth gydweithredol ar bob lefel.

    Y camau nesaf

    Fel rhan o'r adborth cyffredinol a gafwyd, roedd arwyddion o ran yr hyn sydd ei angen i gefnogi ysgolion a'r system ehangach ar daith barhaus y Cwricwlwm i Gymru. Bydd y rhain yn cael eu trafod a'u defnyddio gan Lywodraeth Cymru a chydweithredwyr i lunio gweithgarwch pellach yn y flwyddyn i ddod:

    • Byddai cyfleoedd pellach i 'adolygu'r cwestiynau (a themâu allweddol) yn fwy manwl o fudd i ddarparu gwell dealltwriaeth ac eglurhad'.
    • Mae angen 'syniadau pellach neu fewnbwn penodol' gyda 'hyfforddiant i ymarferwyr' (DP) ac 'enghreifftiau mwy cadarn' i helpu i datblygu meddylfryd ac arferion. Mae angen i hyn gynnwys cyfleoedd i gydweithio ar ddibenion, cwricwlwm, addysgeg a chynnydd a 'gweld sut mae pob elfen yn rhyngblethu'.
    • Mae angen cyfleoedd llai, mwy lleol i roi amser i siarad, meddwl a chefnogi myfyrio parhaus.
    • Mae angen darparu cyfleoedd i ddiwallu anghenion rhanddeiliaid eraill ac i sicrhau dysgu cydweithredol ar draws gwahanol randdeiliaid.

    I ymateb ar unwaith i'r camau nesaf hyn, mae dwy Sgwrs Rhwydwaith Cenedlaethol bellach wedi'u cynllunio i gefnogi rhai o'r pwyntiau hyn yn uniongyrchol.

    Galluogi Dysgu:

    • 26 Tachwedd 2024, Parc Y Scarlets
    • 3 Rhagfyr 2024, Venue Cymru

    Mynegwch eich diddordeb yn y Sgwrs Rhwydwaith Genedlaethol drwy gofrestru

    Archwilio pwrpas, addysgeg a chynnydd:

    • 4 Chwefror 2025 (De)
    • 11 Chwefror 2025 (Gogledd)

    Archwilio pwrpas, addysgeg a chynnydd gan ddefnyddio tystiolaeth a phrofiadau uniongyrchol. I'w gadarnhau.

    Adnoddau'r sgwrs

    Gallwch gael mynediad at yr adroddiad cryno sy'n amlinellu’r canfyddiadau allweddol, ynghyd â recordiadau ac adnoddau i'ch helpu chi yn yr ysgol.

     

  • Ebrill 2024

    Beth oedd y sgwrs yma?

    Roedd y sgwrs yn canolbwyntio ar cefnogi ymarferwyr i fyfyrio ar sut y gall Cwricwlwm i Gymru gefnogi tegwch a chynwysoldeb, goresgyn rhwystrau a all effeithio ar gynnydd dysgwyr, a sicrhau bod tegwch mewn addysg yn flaenoriaeth o 3 i 16 oed a thu hwnt.

    Yn y cyd-destun hwn, mae tegwch a chynwysoldeb  yn cyfeirio at bob dysgwr gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

    • plant sy'n byw mewn tlodi
    • dysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
    • dysgwyr niwrowahanol
    • dysgwyr mwy abl a thalentog
    • plant sydd wedi bod yn y system gofal
    • gofalwyr ifanc
    • plant sy'n cael anghysondeb yn eu haddysg
    • plant o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol gan gynnwys Sipsiwn, Roma a Theithwyr
    • plant â Saesneg fel iaith ychwanegol (EAL)
    • plant anabl

    Digwyddiad ar-lein oedd hwn.

    Trafododd y cyfranogwyr y cwestiynau canlynol:

    1. Beth mae tegwch a chynwysoldeb yn ei olygu i chi, eich ysgol/lleoliad a beth mae'n ei olygu i'ch cwricwlwm?
    2. Sut ydych chi'n sicrhau bod eich cwricwlwm yn diwallu anghenion pob dysgwr?

    Pa mor hyderus yw staff yn eich ysgol/lleoliad bod eu dull o drefnu a chynllunio cwricwlwm, ynghyd â’r dysgu ac addysgu yn cefnogi tegwch a chynwysoldeb?

    Beth wnaethon ni ei ddysgu?

    Adnoddau defnyddiol: rhannodd cyfranogwyr ystod o ganllawiau, astudiaethau achos, ac adnoddau y maent wedi eu gweld yn ddefnyddiol wrth ddatblygu dulliau a chefnogi tegwch a chynwysoldeb yng nghyd-destun eu hysgolion a'u lleoliadau.

    Cydweithredu: roedd consensws bod cefnogi pontio yn hanfodol i ddarparu addysg deg a chynhwysol, mae hyn yn cynnwys ar ddechrau addysg, pontio o flwyddyn i flwyddyn, o addysg gynradd i addysg uwchradd ac ymlaen y tu hwnt i 16 oed.

    Ymgysylltu â theuluoedd: Gall gwybod a chefnogi teuluoedd wneud gwahaniaeth gwirioneddol i blant a phobl ifanc yn ein hysgolion a'n lleoliadau. Mae darpariaeth prydau ysgol i bawb wedi ei gwneud hi'n anoddach i ysgolion cynradd adnabod  y plant sy’n cymwys ar gyfer prydau am ddim. Mae ysgolion uwchradd yn cael llai o gyswllt â rhieni a gofalwyr.

    Cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn: mae'r dull o ddatblygu yn y Cwricwlwm i Gymru, yn ogystal â'r system ADY newydd, yn annog ysgolion a lleoliadau i ddechrau gydag anghenion yr unigolyn a chefnogi eu cynnydd parhaus mewn dysgu

    Ymarfer sy'n seiliedig ar drawma: rhaid blaenoriaethu anghenion emosiynol a seicolegol plant a phobl ifanc os ydym am gael gwared ar rwystrau i ddysgu. Weithiau mae hyn yn golygu mynd i'r afael â thrawma aml-genhedlaeth sef achos sylfaenol ymddygiad heriol. Mae angen amgylchedd diogel a chefnogol ar ddysgwyr i ddysgu'n effeithiol.

    Cynrychiolaeth: mae angen i ddysgwyr weld pobl fel nhw eu hunain a phobl o'u cymunedau yn y cwricwlwm, mae hynny'n cynnwys cynrychiolaeth o gymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, cymunedau Sipsiwn Roma Teithwyr, cymunedau LGBTQ+ a phobl Anabl.

    Sut y byddwn ni'n defnyddio’r dysgu hwn wrth symud ymlaen?

    Bydd adnoddau a nodir gan gyfranogwyr yn cael eu rhannu drwy rwydwaith Hwb: Equity and Inclusion Tegwch a Chynwysoldeb (rhaid i chi fewngofnodi i weld y dudalen hon).

    Mae astudiaethau achos a chyfeirlyfr o sefydliadau o'r digwyddiadau wyneb yn wyneb a ddigwyddodd cyn  y sgwrs ar-lein wedi cael eu cyhoeddi ar Hwb.

    Bydd y rhwydwaith ac adnoddau’r sgwrs yn cael eu hyrwyddo drwy Newyddion Hwb, mewn cyhoeddiad ar flog Addysg Cymru a thrwy sianeli cyfryngau cymdeithasol.

    Mae modiwl 3 Dysgu Proffesiynol Confensiynau’r Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a Hawliau Pobl ag Anableddau yn cael ei ddatblygu. Mae modiwlau 1 a 2 (sy'n cynnwys gwybodaeth am y model cymdeithasol o anabledd) ar gael ar Hwb.

    Mae dysgu wedi cael ei rannu gyda meysydd polisi cysylltiedig ar draws Cyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru:

    • cymorth i ddysgwyr
    • tegwch mewn addysg
    • dysgu Proffesiynol
    • Addysgeg ac Arweinyddiaeth

    Adnoddau a ddefnyddir yn y sgwrs

    I gael yr adnoddau ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol hon, cofrestrwch (Addysg Cymru).

  • Rhagfyr 2023

    Nod y sgwrs hon oedd cefnogu ymarferwyr mewn lleliadau meithrin a ariennir nas cynhelir gyda’r trefniadau asesu.

    Roedd y Sgwrs Genedlaethol yn rhoi cyfle i chi ganolbwyntio ar adnabod heriau, cryfderau a meysydd lle mae angen Cymorth ychwanegol tra’n amlygu ‘camau nesaf’ o ran hwyluso gweithredu Cwricwlwm ac asesu.

    Adnoddau a ddefnyddir yn y sgwrs

    I gael yr adnoddau ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol hon cofrestrwch (Addysg Cymru).

    I gael mynediad at yr adnoddau ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol hon, cofrestrwch ar y platfform.

  • Hydref 2022

    Nododd y sgwrs ar y Celfyddydau Mynegiannol:

    • Cael barn ymarferwyr ar yr hyn a weithiodd a'r hyn a brofodd yn anodd yn ei 3 datganiad o'r hyn sy'n bwysig yn y cwricwlwm, ac wrth gynllunio trwy ymgysylltu â chlwstwr.
    • Sut rydym yn cefnogi ysgolion a lleoliadau i sicrhau bod eu dysgwyr yn gwneud cynnydd?
    • Beth ddylid ei archwilio ymhellach i gefnogi ysgolion i fynd i'r afael â materion dylunio a helpu eu dysgwyr i archwilio a datblygu eu sgiliau?

    I gael yr adnoddau ar gyfer y Sgwrs Genedlaethol hon cofrestrwch (Addysg Cymru).