English

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o’r themâu allweddol a godwyd mewn sgyrsiau Y tu hwnt i COVID: dysgu yn y cyfnod nesaf ac ar draws y sgyrsiau hynny.

Daeth y sgyrsiau ag ymarferwyr addysg o bob rhan o Gymru ynghyd i drafod effaith pandemig COVID-19 ar ddysgu ac addysgu.

Diben yr adroddiad yw darparu adnodd ymarferol i ymarferwyr, drwy nodi a rhannu profiadau, arferion, a pethau a ddysgir.

Mae’r problemau, yr heriau a’r awgrymiadau a godwyd gan ymarferwyr yn ystod y sgyrsiau hyn wedi llywio gwaith Llywodraeth Cymru ar faterion polisi pwysig a byddant yn parhau i wneud hynny. Mae hyn yn cynnwys datblygu rhwydwaith cenedlaethol i gefnogi’r gwaith o roi’r cwricwlwm newydd ar waith, a darparu adborth defnyddiol i’w ystyried ar gyfer ein cynlluniau i gefnogi dysgwyr ac athrawon wrth inni symud oddi wrth y pandemig.

Gwahoddwyd y cyfranogwyr i roi eu barn ar draws tri maes sylweddol:

  1. Beth sydd wedi gweithio’n dda dros y flwyddyn ddiwethaf a pham y gwnaeth weithio’n dda
  2. yr heriau a’r cyfleoedd y gallai’r ymarferwyr fod yn eu hwynebu wrth gynorthwyo dysgwyr â’u parodrwydd i ddysgu yn dilyn y flwyddyn ddiwethaf, lle cafwyd llawer o darfu
  3. yr heriau a’r cyfleoedd y gallai’r ymarferwyr fod yn eu hwynebu wrth sicrhau cynnydd dysgwyr yn y misoedd nesaf

Thema allweddol oedd pwysigrwydd cefnogi llesiant dysgwyr. Roedd llawer o’r cyfranogwyr yn egluro bod lles ehangach wedi dod yn flaenoriaeth allweddol a sy’n llywio ymgysylltiad â’r dysgwyr a’u teuluoedd. Roedd cyfranogwyr ar draws lleoliadau ac ysgolion yn amlinellu materion fel cynnydd mewn gorbryder, straen ac ynysigrwydd cymdeithasol, yn ogystal â gostyngiad mewn rhyngweithio rhwng cyfoedion a llai o weithgarwch corfforol fel heriau sylweddol yr oedd y dysgwyr yn eu hwynebu. Gan fyfyrio ar y 12 mis diwethaf, maes cynnydd allweddol a nodwyd gan y cyfranogwyr oedd cryfhau cysylltiadau rhwng y cartref a’r ysgol neu’r lleoliad. Roedd y sefyllfa wedi galluogi’r ymarferwyr i ddatblygu mwy o ddealltwriaeth o fywyd cartref y dysgwyr, er enghraifft, gan eu galluogi i deilwra eu cymorth yn well.

Thema gyffredinol allweddol arall ar draws y sgyrsiau oedd cyflawni dysgu ac addysgu effeithiol. Yn sgil y tarfu yr oedd ysgolion a lleoliadau wedi’i wynebu, bu gofyn i’r ymarferwyr addasu ar gyfer mwy o ddarpariaeth dysgu digidol a chyfunol. Roedd effaith y tarfu ar gynnydd dysgwyr yn amlwg yn y myfyrdodau ar ddysgu ac addysgu. Ffactor allweddol yn yr ymatebion oedd pwysigrwydd sicrhau bod ymarferwyr yn meddu ar y sgiliau a’r hyder angenrheidiol i ddefnyddio offer addysgu digidol. Roedd yr ymarferwyr hefyd yn defnyddio agweddau arloesol addysgegol yr oedd offer digidol yn eu caniatáu, megis dysgu ac addysgu cydamserol ac anghydamserol.

Thema allweddol arall a godwyd gan gyfranogwyr oedd ymgysylltiad rhieni. Cyfeiriodd rhai cyfranogwyr at y cyfraniad pwysig yr oedd rhieni a gofalwyr wedi’i wneud o ran cefnogi addysg eu plant dros y 12 mis diwethaf. Teimlai llawer fod cynnydd sylweddol wedi’i wneud o ran sefydlu dulliau cyfathrebu mwy cadarn a datblygu perthynas fwy cadarnhaol â rhieni. Roedd llawer yn teimlo bod hyn yn gyflawniad sylweddol.

  • Rhan o
  • Cyhoeddwyd gyntaf:
  • Diweddarwyd ddiwethaf: