English

4. Cymerwch ran

Dyma'r adran lle gallwch gofrestru i gymryd rhan yn y Rhwydwaith. Mae 2 brif ffordd o gymryd rhan,

  • trwy gefnogi cynllunio a hwyluso'r sgyrsiau’r Rhwydwaith
  • neu drwy gofrestru i gymryd rhan mewn sgwrs

 

Gwanwyn 2024

Sgyrsiau Rhwydwaith Cenedlaethol wyneb yn wyneb

  • De Cymru: 31 Ionawr 2024 yn Stadiwm Dinas Caerdydd, Ffordd Leckwith, Caerdydd, CF11 8AZ
  • Gogledd Cymru: 6 Chwefror 2024 yn Venue Cymru, Promenâd, Llandudno, LL30 1BB

Rhwng 9:30am a 15:45pm.

Dewch draw i ymuno yn y Sgyrsiau Cenedlaethol wyneb i wyneb hyn am y Cwricwlwm i Gymru:

  • I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar ganllawiau 'Cwricwlwm i Gymru: Ymlaen â’r daith' a beth mae hyn yn ei olygu i'ch ysgol neu leoliad chi

  • Cyfrannu at y sgwrs genedlaethol am Gynllunio Cwricwlwm a Chynnydd

  • Rhannu eich barn ar gyfleoedd a heriau yn y chwe maes dysgu a phrofiad, er mwyn helpu  lunio polisi ac ymarfer er budd pob dysgwr yng Nghymru

  • Rhwydweithio gyda chyd-ymarferwyr o bob rhan o Gymru, a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed

Bydd lluniaeth ar gael.

 

Archebwch yn gynnar gan fod lleoedd yn gyfyngedig

  • Blaenorol

    Sgyrsiau gorffennol a dadansoddiad