English

5. Cynllunio eich cwricwlwm

Mae hyn yn rhoi arweiniad penodol i’w ddefnyddio wrth ymgorffori dysgu o fewn y celfyddydau mynegiannol yn eich cwricwlwm. Dylai gael ei ddarllen ynghyd ag adran gyffredinol Cynllunio eich cwricwlwm sy’n berthnasol i ddysgu ac addysgu trwy bob maes dysgu a phrofiad.

Rhaid i gwricwlwm ymwreiddio’r sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol a’r sgiliau cyfannol sy’n sail i bedwar diben y cwricwlwm. Mae’r canlynol yn rhai egwyddorion allweddol y dylai lleoliadau/ysgolion eu hystyried wrth gynllunio dysgu ac addysgu ym Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol (Maes).

Sgiliau trawsgwricwlaidd

Llythrennedd

O ymwybyddiaeth o’r Maes hwn ac ymwneud ag ef, mae dysgwyr yn datblygu sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer dadansoddiad beirniadol a defnydd derbyngar a mynegiannol o iaith. Mae dysgu a phrofiad yn y maes hwn yn cynnig ystod o gyd-destunau cyfoethog a phwrpasol lle gellir atgyfnerthu, datblygu, cymhwyso ac ymestyn sgiliau llythrennedd dysgwyr. Gall archwilio ac ymwybyddiaeth o amrywiaeth o waith creadigol fod yn bwerus yn natblygiad strategaethau darllen a sgiliau darllen uwch, megis casglu a dehongli. Mae’n llwyfan hyblyg i ddysgwyr gaffael y sgiliau a’r wybodaeth i addasu eu hiaith at ddiben ac i gynulleidfa ac mae’n cynnig cyfleoedd pwrpasol i adeiladu hyder fel y gall dysgwyr fynegi eu hunain fel unigolion ac mewn rôl.

Rhifedd

Mae’r Maes hwn yn cynnig cyfleoedd creadigol i ddatblygu sgiliau rhifedd mewn ystod o gyd-destunau diddorol. Mae dysgwyr yn cyfathrebu gyda symbolau ac yn defnyddio ystod o iaith fathemategol. Maen nhw’n archwilio cysyniadau sy’n perthyn i fyd geometreg a mesuriadau megis maint, siâp, cymesuredd, graddfa, hyd, dimensiwn, pellter, safle, safbwynt ac amser. Maen nhw hefyd yn archwilio cysyniadau sy’n perthyn i rif megis strwythur, patrwm a rhythm, cyfrif, ailadrodd, brawddegu a llythrennedd ariannol.

Cymhwysedd digidol

Mae’r Maes hwn yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd i ddatblygu cymhwysedd digidol mewn meysydd megis cydweithredu digidol, technoleg cynhyrchu, eiddo deallusol, deallusrwydd artiffisial, hawliau digidol, trwyddedu a pherchnogaeth, delwedd y corff a golygu lluniau, yn ogystal ag arbed, rhannu a dosbarthu gwaith digidol.

Sgiliau cyfannol

Creadigrwydd ac arloesedd

Y broses greadigol yw hanfod y Maes hwn. Mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn galluogi dysgwyr i ddatblygu gwybodaeth, a sgiliau creadigol ac arloesol. Disgwylir i ddysgwyr ystyried dylanwadau a llywio eu creadigrwydd eu hunain. Mae dysgwyr yn defnyddio eu sgiliau creadigol a’u dychymyg, yn darganfod posibiliadau a mireinio syniadau er mwyn cynhyrchu eu gwaith creadigol unigryw eu hunain. Mae meddylfryd creadigol sy’n datblygu trwy archwilio o fewn a thrwy’r Maes hwn yn galluogi dysgwyr i archwilio’r anwybod a gwneud cysylltiadau. Mae dysgwyr yn cymryd risgiau creadigol i fynd y tu hwnt i wybodaeth sy’n bodoli eisoes ac yn derbyn methiant fel profiad dysgu.

Meddwl yn feirniadol a datrys problemau

Anogir mireinio trwy un o’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn y Maes hwn, gyda’r nod o adeiladu sgiliau hunanwerthuso ac adfyfyrio. Mae’r gwerthuso sy’n rhan o’r broses greadigol yn galluogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau adfyfyrio, cwestiynu a datrys problemau, yn ogystal â herio canfyddiadau a nodi datrysiadau. Gall dysgwyr arddangos gwydnwch wrth roi gwerthusiad beirniadol o’u gwaith, a gellir disgwyl iddyn nhw ymateb yn gadarnhaol i adborth beirniadol. Gall dysgwyr ddatblygu sgiliau datrys problemau trwy arbrofi gydag amrywiaeth o gelfyddydau a thechnegau celfyddydol.

Effeithiolrwydd personol

Trwy’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn y Maes hwn, mae dysgwyr yn datblygu hunan hyder, hunan werth, annibyniaeth, sgiliau cyfathrebu ac ymwybyddiaeth gymdeithasol a diwylliannol. Mae dysgwyr yn dod yn fentrus, yn ddyfeisgar ac yn wydn trwy reoli eu hunain a’u hadnoddau. Yn ei dro, mae hyn yn cyfoethogi eu sgiliau byd gwaith. Maen nhw’n cael eu hannog i ddatblygu gwydnwch trwy dderbyn methiant a gwerthfawrogi ei le yn y broses greadigol.

Cynllunio a threfnu

Trwy’r Maes hwn, anogir dysgwyr i gynllunio, gosod eu nodau eu hunain a rheoli adnoddau. Gallan nhw gymhwyso prosesau adfyfyriol, beirniadol a chreadigol er mwyn gwneud synnwyr o syniadau a phrofiadau. Mae’r gallu i gynhyrchu syniadau, datblygu chwilfrydedd, archwilio a dod â syniadau’n fyw yn sylfaenol i’r Maes hwn.

Mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn y Maes hwn yn cynrychioli’r broses greadigol. Trwy’r broses greadigol, mae dysgwyr yn archwilio, yn ymateb i ysgogiadau ac yn creu a myfyrio ar eu gwaith eu hunain wrth ymwneud â phrofiadau dilys, cyfoethog.

Mae’r Maes hwn yn cwmpasu pum disgyblaeth: celf, cerddoriaeth, dawns, drama, a ffilm a’r cyfryngau digidol. Mae’r disgyblaethau hyn yn rhannu’r broses greadigol, a phob un yn cyfrannu sgiliau trosglwyddadwy a gwybodaeth tuag at brofiad dysgwr. Yn ychwanegol, mae gan bob un o’r disgyblaethau gorff o wybodaeth a chorff o sgiliau sy’n perthyn yn benodol iddyn nhw. Mae’r dysgu hwn yn cefnogi cynnydd ac yn cynnig mwy o ddyfnder i’r dysgu.

Mae’r Maes wedi’i gynllunio i gefnogi datblygu dull mwy cyfannol o ddysgu. Mae hyblygrwydd i ddewis sut i strwythuro cwricwlwm – megis trwy ddull cyfannol, amlddisgyblaethol, rhyngddisgyblaethol neu ddisgyblaethol. Ar draws taith y dysgwyr ar y continwwm 3 i 16, mae’n bwysig cynnig cyfleoedd eang a chytbwys ar gyfer celf, cerddoriaeth, dawns, drama, a ffilm a’r cyfryngau digidol.

Dylid addasu’r dysgu a’i wneud yn amlochrog, a dylai newid gan ddibynnu ar y dysgwyr a’u cyd-destun. Waeth beth yw’r dull a ddewisir, mae’n bwysig nodi fod y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn gysylltiedig â’i gilydd ac na ddylen nhw gael eu dysgu ar wahân. Gyda’i gilydd maen nhw’n galluogi’r dysgwyr i ymwneud yn llawn â’r broses greadigol y mae gan bob un o’r disgyblaethau yn y celfyddydau mynegiannol yn gyffredin.

Ystyriaethau wrth gynllunio eich cwricwlwm

  • cyfleoedd teg i gynnwys y pum disgyblaeth: celf, cerddoriaeth, dawns, drama, a ffilm a’r cyfryngau digidol
  • cynnydd ar hyd y continwwm – cymhlethdod, rheolaeth, dyfnder ac annibyniaeth
  • profiad, gwybodaeth a sgiliau sy’n gynhenid i bob disgyblaeth, yn ogystal ag ar draws pob un
  • cyfleoedd i weithio’n annibynnol ac yn gydweithredol
  • ystod o ysgogiadau, technegau, deunyddiau ac adnoddau, offer a thechnolegau
  • arddulliau, genres a thestunau creadigol ar draws yr holl ddisgyblaethau a chan gwmpasu pobl, lleoedd, diwylliannau a chyfnodau 
  • sgiliau a geirfa benodol i’r ddisgyblaeth
  • profiad o leoliadau go iawn a rhithwir a digwyddiadau a gwyliau celfyddydol lleol, cenedlaethol a rhyngwladol
  • gwerthfawrogiad ac ymateb beirniadol
  • mewnbwn gan bobl broffesiynol a phrofiad diwydiant
  • mynediad at gyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol
  • mynediad at archwiliad ymarferol a damcaniaethol
  • cyfleoedd i ddysgwyr gymryd ystod o rolau a chyfrifoldebau o fewn y broses greadigol

Enghreifftio ehangder

Darperir y canlynol fel enghreifftiau o sut y gallech archwilio dysgu testunol gwahanol yn y Maes hwn. Enghreifftiau yn unig yw'r rhain.

Gallai'r maes hwn gynnwys archwilio nid yn unig dechnegau artistig ac effaith gwaith creadigol gan Bob Dylan, Joseph Parry a The Joy Formidable, ond profi hefyd ddylanwadau cymdeithasol, cyd-destun a naratif y gweithiau hynny i ysbrydoli gwaith y dysgwyr eu hunain.

Mae gan gelf Ceri Richards, Martin Parr a Mary Lloyd Jones ei berthynas arbennig ei hun â Chymru – gallai hyn fod yn ysbrydoliaeth i ddysgwyr wrth ddatblygu eu dealltwriaeth a'u sgiliau creadigol eu hunain.

Mae'r ffilmiau Tiger Bay, House of America, a Solomon a Gaenor i gyd yn portreadu profiadau a chymunedau Cymreig gwahanol, gallai'r dysgwyr ddefnyddio'r rhain i adnabod a dadansoddi cymeriad, hunaniaeth a lle, wrth iddyn nhw herio a datblygu eu hunaniaethau eu hunain a’u dychymyg drwy'r celfyddydau.

Mae profiad, gwybodaeth a sgiliau sy’n gynhenid i bob disgyblaeth yn gynwysedig yng nghamau cynnydd 1 i 5 gyda chymhlethdod cynyddol. Mae’r rhain yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu, i’r canlynol:

Celf

Mae celf yn cynnwys arbrofi gyda a datblygu ystod ddiddiwedd bron o adnoddau, deunyddiau, technegau a phrosesau ar draws pob math o gelf, crefft a dylunio i gynhyrchu ystod o ganlyniadau ac i arddangos ymateb creadigol a phersonol.

Dylech ystyried:

  • llinell, siâp, gwead, lliw, dyluniad, ffurf (2D, 3D, 4D), patrwm, tôn, graddliwio, gofod, cyferbyniad, cyfrannedd, cyfansoddiad, graddfa, persbectif
  • dylunio pensaernïol, hysbysebu, animeiddio, tecstilau gwneud (gwau/gwehyddu/addurno), cerameg, crefft, dylunio, lluniadu, celfyddyd amgylcheddol/tirwedd, ffasiwn, celfyddyd gain, graffeg cyfathrebu, gemwaith ac addurniadau’r corff, darluniad, dylunio rhyngweithiol (gan gynnwys y we, ap a gemau), dylunio mewnol, gosodiad, celf byw, gwneud, cyfryngau cymysg, delwedd symudol, amlgyfryngau, dylunio pecyn, paentio, ffotograffiaeth, gwneud print (cerfwedd/intaglio/prosesau sgrin/lithograffeg), cynllunio arwyddion, cerflunio, celf sain, patrwm arwyneb, tecstilau, argraffwaith, fideo
Cerddoriaeth

Mae cerddoriaeth yn cynnwys perfformio, byrfyfyrio a chyfansoddi, gwrando a gwerthuso.

Dylech ystyried:

  • traw, alaw, dynameg, gwead, tempo, ansawdd, rhythm, mydr, ffurf a strwythur, cyweiredd, dyfeisiau cerddorol (e.e. ailadrodd, ostinato, dilyniant), harmoni, tonyddiaeth
  • dwyran, teiran, rondo, tôn gron, miniwét a thrio, stroffig, thema ac amrywiadau, cyfansoddi di-dor, sonata
  • perfformio (gan gynnwys lleisiol, offerynnol, technoleg e.e. DJ-io), byrfyfyrio a chyfansoddi (gan gynnwys lleisiol, offerynnol, acwstig, trydanol a digidol, golygu/cynhyrchu), gwrando (gan gynnwys dadansoddi, gwerthuso a gwerthfawrogi ystod o ffurfiau ac arddulliau cerddorol ar draws genres a chyfnodau o amser)
Dawns

Mae dawns yn cynnwys perfformio, coreograffi a gwerthfawrogiad ar draws ystod o arddulliau.

Dylech ystyried:

  • fframwaith symudiad (symudiadau corff, gofod, dynameg, cydberthnasau), amser (rhythm a rhanddawns), creu byrfyfyr, cymeriad, motifau/rhanddawns
  • dyfeisiadau coreograffaidd (cyfun a chanon, ailadrodd, amrywiad a datblygiad, cyflenwol a chyferbyniol, uchafbwynt, uchafbwyntiau)
  • strwythurau cyfansoddiadol (dechrau, canol a diwedd, dwyran, teiran, rondo, thema ac amrywiad, naratif, undod, dilyniant rhesymegol, trawsnewidiadau)
  • cyfansoddiadau dawns (pur, haniaethol, telynegol, dramatig, doniol, dawns-drama)
  • perfformiad/mireinio gan gynnwys elfennau corfforol (symudiadau, ymddaliad, aliniad, cydbwysedd, cydsymud, rheolaeth, ystwythder, symudedd, cryfder, dyfalbarhad, ymestyn, arwahaniad)
  • mynegiant (tafliad, ymwybyddiaeth ofodol, perseinedd, rhanddawns, mynegiant wyneb, dehongliad, cyfathrebu)
  • ystyriaethau technegol (amseru, ail-greu symudiad mewn modd sy’n gywir o ran arddull)
Drama

Mae drama yn cynnwys actio, cyfarwyddo, dylunio, theatr dechnegol a gweinyddu’r celfyddydau.

Dylech ystyried:

  • plot, cymeriad, syniad, perthynas ag eraill (sy’n cwmpasu rhyngweithio), tensiwn, ffocws, lleoliad, amser, iaith, llais (sy’n cwmpasu acen, ynganiad, traw, amseru, seibio), symudiad (sy’n cwmpasu osgo, mynegiannau wyneb), cynefineg, awyrgylch, naws, symbolau, dylunio sy’n cwmpasu goleuo llwyfan, sain, set, gwallt, colur, gwisg, sgriptio, cynhyrchu a rheoli llwyfan
  • comedi, trasiedi, trasicomedi, ffars, theatr gerdd, melodrama, meim, theatr gorfforol
Ffilm a’r cyfryngau digidol

Mae ffilm a’r cyfryngau digidol yn cynnwys teledu, ffilm, radio, dylunio gemau, ffotograffiaeth, digwyddiadau byw a sgiliau cynhyrchu theatrig, cyfryngau print, cyfryngau cymdeithasol, cynhyrchu sain ac awdio.

Dylech ystyried:

  • golygu, ôl gynhyrchu, gofod 3D, gofod 2D, sain, goleuo, camera, naratif, arddull, genre, cynulleidfa, cyfansoddiad (gweledol, rhithiol a sonig), ffurf (animeiddio, ffilmio byw, clywedol, ysgrifenedig), realiti rhithiol
  • sain, fideo/ffilm (animeiddio, rhaglen ddogfen, naratif, fideo cerddorol), cyfryngau print, radio/podlediad, ffotograffiaeth, graffeg, ffurfiau rhithiol, ffurfiau llinol, ffurfiau aflinol, cyfryngau rhyngweithiol, cyfryngau cymdeithasol, cynhyrchu a dylunio sain, dylunio golau, dylunio llwyfan, cyfryngau cymdeithasol, dylunio gêm, cynllunio digwyddiad, dylunio cynhyrchiad

Wrth gynllunio eich cwricwlwm, dylech ystyried sut mae dysgu yn cysylltu ar draws Meysydd. Mae’r broses greadigol, fel sy’n cael ei henghreifftio yn y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn y Maes hwn, yn gallu cael ei defnyddio ar draws pob Maes arall i gyfoethogi, ysgogi a chefnogi dysgu. Yn ogystal, gellir datblygu sgiliau a gwybodaeth y celfyddydau mynegiannol trwy Feysydd eraill. Mae rhai o’r cysylltiadau allweddol i ddysgu yn y Maes hwn yn cael eu hamlinellu isod.

Iechyd a Lles

Mae Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn cynnig cyfleoedd ar gyfer symud yn greadigol ac ar gyfer dawns fel gweithgaredd corfforol ac yn ffordd o alluogi dysgwyr i ddatblygu symudiadau echddygol bras a symudiadau echddygol manwl er mwyn cefnogi cyfranogiad mewn gwahanol ddisgyblaethau celfyddydol. Gall cyfranogiad yn y celfyddydau mynegiannol alluogi dysgwyr i ddatblygu ymdeimlad o’r hunan, adeiladu hyder, ac archwilio gwahanol ffurfiau o gyfathrebu a chydberthnasau a all gefnogi iechyd meddwl a lles emosiynol.

Dyniaethau

Mae celf, cerddoriaeth, dawns, theatr, ffurfiau cyfryngol a llenyddol yn ddarnau gwerthfawr o dystiolaeth ar gyfer ymchwiliadau yn y Dyniaethau ac yn gyfryngau ar gyfer mynegi dehongliadau a safbwyntiau pobl. Mae’r byd naturiol, y gorffennol a’r presennol oll yn ysgogi ac yn cynnig cyd-destunau ym Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol. Trwy’r gorffennol a’r presennol mae’r celfyddydau mynegiannol wedi bod yn bwysig wrth lywio diwylliant a chymdeithasau. Mae archwilio’r celfyddydau o wahanol gyfnodau, diwylliannau a chymdeithasau gan gynnwys o Gymru (e.e. Eisteddfod), yn galluogi dysgwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o ddiwylliannau pobl eraill yn ogystal â’u diwylliant eu hunain. Gall archwilio cysyniadau cymdeithasol a moesol, cynaladwyedd a busnes ysgogi gwaith creadigol.

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Gall disgyblaethau o fewn y Celfyddydau Mynegiannol gael eu defnyddio fel ffordd i ddysgwyr ddatblygu ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu gan gynnwys trwy lythrennedd gweledol, meddwl creadigol ac ysgrifennu creadigol, deall cynulleidfa a diben ac addasu iaith ar gyfer cynulleidfa, cyflwyno barddoniaeth, drama, ffilm, amlgyfryngau, chwarae rôl a chanu. Mae profiadau o lenyddiaeth yn ei holl ffurfiau ar draws y ddau Faes yma yn galluogi dysgwyr i ddatblygu sensitifrwydd ac empathi diwylliannol.

Mathemateg a Rhifedd

Mae’r defnydd o rifedd a chysyniadau o’r Maes hwn wedi ymwreiddio ym Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol, gan gefnogi pob disgyblaeth. Dylid rhoi ystyriaeth i gyfrif, dilyniannu ac amser, ac archwilio sut y gellir defnyddio gofod, patrymau, cymesuredd, siâp a safle ar draws y celfyddydau. Gellir hefyd archwilio cymarebau, graddfa, cyfraneddau a ffracsiynau yn y Celfyddydau Mynegiannol, er enghraifft mewn cerddoriaeth. Gall defnyddio caneuon a rhigymau gynorthwyo gydag ymwreiddio rhifedd yn ystod y camau cynnydd cynnar.

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Mae gan y Meysydd hyn gysylltiadau agos, gyda’r ddau yn dibynnu ar ddulliau tebyg sy’n cynnwys proses o ddarganfod a meddwl dargyfeiriol a chynhyrchu syniadau a all arwain at ganlyniadau creadigol ac arloesedd. Mae meddylfryd dylunio a phrosesau dylunio mewn gwyddoniaeth a thechnoleg yn mynd law yn llaw â dull dylunio ac archwiliad yn y celfyddydau mynegiannol, a hefyd yn cynnwys archwilio gwahanol gyfryngau y gellir eu defnyddio i gyfathrebu dylunio a chreadigrwydd i eraill. Yn y ddau Faes defnyddir dulliau creadigol i archwilio cysyniadau a defnyddiau, yn ogystal â datblygu medrusrwydd â dwylo, cywirdeb, manylrwydd, a chrefftwaith sy’n cefnogi cynhyrchu. Mae gwybodaeth am natur a datblygiad defnyddiau yn bwysig wrth eu dewis ar gyfer dylunio a chynhyrchu a gall hyd yn oed ddealltwriaeth o wyddoniaeth tonnau gefnogi datblygiad a gwerthfawrogiad o gerddoriaeth.

Cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn y Maes hwn

Dylai ymwreiddio cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn y Maes hwn fod yn cynnwys:

  • canolbwyntio ar ddiwylliant a thraddodiadau Cymreig i danio dysgu pellach trwy brofiad o artistiaid, crefftwyr, gwaith creadigol, dylunwyr, cerddorion, perfformwyr, perfformiadau a lleoliadau, o safbwynt cyfoes a thraddodiadol
  • archwilio gwaith creadigol o ardal leol y dysgwyr, o Gymru yn ogystal ag o’r byd ehangach er mwyn dylanwadu ar eu gwaith eu hunain ac i werthfawrogi ac ymateb i amrywiaeth ddiwylliannol
  • dysgu am effaith sector y diwydiannau creadigol a diwylliannol ar bobl a lleoedd yng Nghymru, a’r cyfraniad mae ei thirlun amrywiol yn ei gael wrth lywio ac esblygu dyfodol creadigol a diwylliannol sy’n newid trwy’r amser

Addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith yn y Maes hwn

Mae addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith yn galluogi dysgwyr i feithrin hyder yn eu sgiliau creadigrwydd, arweinyddiaeth a chydweithio, sy'n hanfodol ar gyfer entrepreneuriaeth ac i fod yn arloesol yn y gweithle. Nod y Maes hwn yw rhoi'r sgiliau angenrheidiol i ddysgwyr allu dilyn gyrfaoedd yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol.

Dylai ysgolion a lleoliadau ddechrau drwy roi cyfleoedd i ddysgwyr fod yn greadigol drwy brofiadau gwirioneddol a rhai sy'n seiliedig ar chwarae. Wrth i ddysgwyr ddatblygu, dylid eu hannog i feithrin eu hyder i gymryd risgiau a dysgu o'u profiadau. Gall dysgwyr hefyd ddod yn fwy gwydn wrth iddyn nhw geisio goresgyn yr heriau a wynebir ganddyn nhw.

Dylid rhoi cyfleoedd i ddysgwyr rannu eu gwaith creadigol ac ymateb i waith pobl eraill. Drwy wneud hyn, byddan nhw’n cael eu hannog i fod yn fwy hyderus wrth roi adborth ac yn gynyddol ymwybodol o effaith ddiwylliannol a masnachol eu gwaith. Dylid annog dysgwyr i ddefnyddio eu sgiliau creadigol i wireddu eu huchelgais.

Addysg hawliau dynol ac amrywiaeth yn y Maes hwn

Hawliau dynol

Trwy’r Maes hwn mae dysgwyr yn ymwneud â ffurfiau celfyddydol o fewn eu diwylliant eu hunain a diwylliannau pobl eraill. Mae dysgwyr yn ennill gwybodaeth a dealltwriaeth trwy archwilio a chyfathrebu sut mae hunaniaethau, safbwyntiau a hawliau yn cael eu cyfleu. Mae ymwneud â’r Maes hwn yn annog dysgwyr i ddatblygu agweddau parchus, cadarnhaol.

Amrywiaeth

Yn y Maes hwn, mae dysgwyr yn archwilio a dathlu gwaith creadigol o amrywiol ddiwylliannau a chymdeithasau. Mae herio stereoteipiau a chanfyddiadau trwy archwilio a chynhyrchu gwaith creadigol yn galluogi dysgwyr i ddatblygu agweddau cadarnhaol a gwerthfawrogi amrywiaeth.

Addysg perthnasoedd a rhywioldeb yn y Maes hwn

Mae'r celfyddydau mynegiannol yn gyfrwng grymus ar gyfer ystyried a mynegi teimladau, meddyliau, safbwyntiau a phrofiadau mewn perthynas ag ystod o themâu addysg cydberthynas a rhywioldeb. Gall y broses greadigol sy'n rhan gynhenid o'r celfyddydau mynegiannol ddarparu amgylchedd diogel, cynhwysol ac arloesol i ddysgwyr ystyried, mynegi a myfyrio ar brofiadau a theimladau na fydden nhw o bosibl yn eu rhannu mewn ffyrdd eraill. Gall hyn helpu ymarferwyr i ddeall yr hyn y mae dysgwyr yn ei wybod am addysg cydberthynas a rhywioldeb yn ogystal â'u hanghenion dysgu, eu cwestiynau a'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw.

Fel llenyddiaeth, mae'r celfyddydau mynegiannol hefyd yn rhoi cyfle i edrych ar sut y mae gwahanol themâu ym maes addysg cydberthynas a rhywioldeb wedi cael eu hystyried, eu cyflwyno a'u cyfleu drwy gydol hanes ac mewn diwylliannau a chymdeithasau gwahanol.

Mae'r dysgu hyn hefyd yn eu helpu i ddeall sut mae'r celfyddydau mynegiannol yn llywio ein syniadau a'n teimladau ac yn rhoi mewnwelediad a dealltwriaeth o brofiadau a safbwyntiau pobl eraill.