English

5. Cynllunio eich cwricwlwm

Mae hyn yn rhoi arweiniad penodol i’w ddefnyddio wrth ymgorffori dysgu o fewn gwyddoniaeth a thechnoleg yn eich cwricwlwm. Dylai gael ei ddarllen ynghyd ag adran gyffredinol Cynllunio eich cwricwlwm sy’n berthnasol i ddysgu ac addysgu trwy bob maes dysgu a phrofiad.

Rhaid i gwricwlwm ymwreiddio’r sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol a’r sgiliau cyfannol sy’n sail i bedwar diben y cwricwlwm. Mae’r canlynol yn rhai egwyddorion allweddol y dylai lleoliadau ac ysgolion eu hystyried wrth gynllunio dysgu ac addysgu ym Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg (Maes)

Sgiliau trawsgwricwlaidd

Llythrennedd

Mae gwybodaeth a defnydd dysgwyr o eirfa wyddonol a thechnegol yn hanfodol i ddatblygu deallusrwydd o syniadau a chysyniadau pwysig o fewn y Maes hwn. Gall lleoliadau ac ysgolion fod o gymorth i ddysgwyr ddatblygu defnydd o ystod o eirfa arbenigol, deall tarddiad y termau hyn a’u defnyddio’n naturiol o oedran cynnar.

Rhifedd

Mae sgiliau rhifedd yn bwysig wrth ddyfnhau dealltwriaeth ymarferol dysgwyr o gysyniadau gwyddonol a thechnolegol, gan gynnwys cydnabyddiaeth o sail fathemategol y disgyblaethau sylfaenol. Gall lleoliadau ac ysgolion fod o gymorth i ddysgwyr ddatblygu sgiliau rhifedd effeithiol, gan gynnwys rhai ar gyfer dylunio a mesur, modelu a chyfathrebu syniadau, dadansoddi a rhagfynegi, ac yna ddod i ganlyniad.

Cymhwysedd digidol

Mae’r Maes hwn yn cynnig ystod o gyfleoedd i ddatblygu casgliad amrywiol o gymwyseddau digidol gan gydnabod eu natur a’u cymhwysiad trawsgwricwlaidd. Gall cyfraniadau yn y Maes hwn gynnwys cipio ac archwilio data, adnabod a gwerthuso prosesau cyfrifiadurol, dylunio a mynegi meddwl dysgwyr gan ddefnyddio dyfeisiau a systemau digidol. Mae defnydd dysgwyr o ystod o dechnolegau digidol a rhaglenni meddalwedd hefyd ymhlyg mewn nifer o’r disgrifiadau dysgu yn y Maes hwn, sy’n ategu cyfleoedd tebyg i ddatblygu’r sgiliau hyn mewn meysydd eraill. Felly, wrth gynllunio eu cwricwlwm, dylai lleoliadau ac ysgolion ystyried sut a phryd y dylid dysgu’r gallu i ddefnyddio’r rhain, gan adeiladu ar ddysgu blaenorol.

Sgiliau cyfannol

Creadigrwydd ac arloesedd

O fewn y Maes hwn gall ysgolion ddatblygu’r sgiliau hyn trwy annog y dysgwyr i fod yn chwilfrydig ac ymholgar am y byd ffisegol a digidol, gan fod o gymorth i ddysgwyr gwestiynu neu herio gwybodaeth wedi’i sefydlu eisoes er mwyn dyfnhau eu dealltwriaeth eu hunain. Bydd hyn yn cynnig sail i ddatblygu cynnyrch a gweithredoedd yn dangos menter.

Meddwl yn feirniadol a datrys problemau

Mae hyn yn galluogi dysgwyr i fynd i’r afael â chamdybiaethau o fewn y Maes hwn, ac yn galluogi dealltwriaeth gysyniadol ddyfnach, mwy o annibyniaeth a hunanreoleiddio, a sgiliau ymchwilio cryfach. Mae datrys problemau yn sbardun allweddol wrth ddylunio a pheiriannu datrysiadau arloesol.

Effeithiolrwydd personol

Gellir dyfnhau’r sgiliau hyn trwy fyfyrio ar brosesau a datblygiadau gwyddonol a thechnolegol. Gall dealltwriaeth y dysgwyr am y byd o’u hamgylch fod o gymorth iddyn nhw weithio tuag at ganlyniadau pwrpasol tra’n datblygu gwydnwch a dyfalbarhad, lle mae methu’n cael ei gyfri fel cam tuag at lwyddo.

Cynllunio a threfnu

Mewn prosesau gwyddonol a thechnolegol gall y sgiliau hyn alluogi dysgwyr i ddod yn gynyddol annibynnol wrth ddatblygu eu syniadau, gweithredu datrysiadau, a monitro a myfyrio ar ganlyniadau.

Nid yw’r chwe datganiad o’r hyn sy’n bwysig yn y Maes hwn yn cyfateb yn union i’r meysydd pynciau traddodiadol. Er hyn, gellir adnabod agweddau o’r pynciau traddodiadol gwyddoniaeth a thechnoleg trwy’r holl Faes. Dylid cyd-destunoli’r datganiad o’r hyn sy’n bwysig ynghylch bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion trwy’r holl Faes. Yn ychwanegol at hyn, wrth ystyried ymchwiliad gwyddonol mae’r Fframwaith Rhifedd Cenedlaethol yn rhoi manylion pellach er mwyn cefnogi cynllunio cwricwlwm yn seiliedig ar yr agweddau hyn o addysgu. Hefyd mae’r datganiad o’r hyn sy’n bwysig ynghylch dylunio a pheirianneg yn cynnig cyfleoedd i gymhwyso dysgu sy’n cael ei fynegi yn y pum datganiad arall o’r hyn sy’n bwysig er mwyn dod o hyd i atebion gwyddonol a thechnolegol.

Egwyddorion allweddol wrth gynllunio eich cwricwlwm ar gyfer y Maes hwn

  • Mae ehangder dysgu mewn gwyddoniaeth a thechnoleg yn sylfaenol gysylltiedig â datblygu dyfnder deallusrwydd, ac mae’r naill yn cefnogi’r llall. “Nid yw ehanger ac arbenigo yn golygu colli ehangder wrth arbenigo … mae deall llawer am goed yn hanfodol i ddeall coedwigoedd.” (Wineburg, S., 1997). Mae dyfnder gwybodaeth yn galluogi dysgwyr i drosglwyddo’r hyn a ddysgir i gyd-destunau newydd, a hynny’n annibynnol. Trwy hyn bydd ehangder eu dealltwriaeth yn dyfnhau ymhellach. Dyna pam mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn y Maes hwn wedi cael eu dylunio gyda rhyngddibyniaethau cadarn, ac ni ddylid eu hystyried ar wahân wrth gynllunio cwricwlwm yr ysgol.
  • Gall datblygu ystod o bartneriaethau, ac ymwneud â phobl broffesiynol ac arbenigwyr ym myd gwyddoniaeth a thechnoleg, gan gynnwys ond heb gyfyngu i ddylunwyr, gwyddonwyr, peirianwyr, gwyddonwyr cyfrifiadurol a chrefftwyr, ehangu profiadau i ddyfnhau dealltwriaeth dysgwyr. Felly gall chwilio cyfleoedd i gydweithio gydag ystod o arbenigwyr a rhanddeiliaid gwyddoniaeth a thechnoleg wrth ymwneud â dylunio a chynllunio’r cwricwlwm (gan gynnwys diwydiant lleol a sefydliadau trydydd sector) fod o gymorth i ysgolion. Gellir hefyd archwilio defnyddio arbenigedd pynciol ar draws ysgolion er mwyn llywio cynllunio a datblygu cwricwlwm.
  • Mae’r Maes hwn yn tynnu ar waith ymchwilwyr blaenllaw ym maes ac yng ngwaith sefydliadau eraill. Wrth gynllunio eich cwricwlwm, gallai ysgolion ystyried yn benodol waith ar The Big Ideas of Science a The Big Ideas in Design and Technology, yn ogystal â gwaith y canlynol ar ddatblygu cwricwlwm: Sefydliad Ffiseg, Cymdeithas Frenhinol Bioleg, Cymdeithas Frenhinol Cemeg, Cymdeithas Gyfrifiaduron Prydain ac Addysg a’r cyfnodolyn Addysg Dylunio a Thechnoleg.
  • Wrth gynllunio agweddau gwyddoniaeth a thechnoleg eich cwricwlwm, lle bo’n briodol, dylai ysgolion hwyluso dysgu trwy brofiadau gweithredol ac ymarferol. Dylai profiadau dysgu ymarferol o natur benodol, thematig neu aml-ddisgyblaethol gryfhau dysgu a dealltwriaeth gysyniadol, ac nid sicrhau bod dysgwyr yn ymwneud â thasgau cofiadwy a dymunol yn unig. Wrth gynllunio dilyniant o fewn dysgu ac addysgu gwyddoniaeth a thechnoleg dylid ystyried yr wybodaeth neu’r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr, cyn cynnau eu diddordeb mewn ymholiadau neu weithgareddau mwy ymarferol.
  • Mae archwilio a phrofi’r byd trwy ymholi gan gynnwys gwaith maes, ymchwilio amgylcheddau dan do a thu allan mewn ffordd ddiogel a threfnus, yn allweddol i’r holl ddysgwyr ar draws y continwwm 3 i 16. Gall hyn helpu adeiladu dealltwriaeth dysgwyr o wahanol faterion amgylcheddol a bod o gymorth iddyn nhw ddangos gofal, cyfrifoldeb, pryder a pharch tuag at bopeth byw a’r amgylchedd rydyn ni’n byw ynddo.

Ystyriaethau allweddol wrth gynllunio eich cwricwlwm ar gyfer y Maes hwn

  • Sut y gall ymholiad sy’n atgyfnerthu dealltwriaeth gysyniadol, hefyd datblygu gwybodaeth weithredol?
  • Sut y gallwch ddatblygu dysgu cyd-destunol am fodelau ffisegol, mathemategol a chysyniadol?
  • Pa ddull fyddwch chi’n ei ddefnyddio i ystyried natur tystiolaeth wyddonol, ochr yn ochr â goblygiadau ac effaith gwyddoniaeth a thechnoleg ar gynaladwyedd a’r amgylchedd?
  • Sut y gallwch danio creadigrwydd ac arloesedd dysgwyr, tra’n datblygu cymhlethdodau dylunio a chreu?
  • Sut y gallwch sicrhau bod gallu dysgwyr i gynhyrchu canlyniadau yn cael ei ddatblygu fel elfen gynhenid o’r cwricwlwm?
  • Sut y gallwch gefnogi dealltwriaeth o fioamrywiaeth, prosesau biolegol, iechyd a haint ac esblygiad?
  • Sut y gallwch gefnogi dealltwriaeth dysgwyr o strwythur a phriodweddau defnyddiau, yn ogystal ag ymchwiliad o adweithiau cemegol?
  • Sut y gellir rhoi datblygiad dealltwriaeth sut mae echdynnu, puro a dadansoddi defnyddiau mewn cyd-destun?
  • Sut y gall dysgu am drydan, grymoedd a magnetedd gael ei integreiddio’n ehangach yn eich cwricwlwm ysgol?
  • Sut y gall dysgu am y gofod a’r bydysawd gael ei ddefnyddio i gefnogi dealltwriaeth wyddonol gysyniadol?
  • Sut y gallwch roi dysgu am gymhwyso tonnau mewn cyd-destun?
  • Sut y gall dysgu am ddylunio, datblygu a chymhwyso technoleg, meddalwedd a systemau gael ei archwilio ar draws eich ysgol?
  • Sut y byddwch chi’n manteisio ar y dysgu yn y Maes hwn er mwyn cynllunio datblygiad sgiliau digidol y dysgwyr gan ddefnyddio ystod o dechnoleg a meddalwedd?

Cyd-destunau a phrofiadau allweddol yn y Maes hwn

Gellir ystyried rhain drwy dair agwedd o wybodaeth; trefniadol, epistemig a chynnwys, a allai fod o gymorth wrth ystyried natur y dysgu mewn gwyddoniaeth a thechnoleg wrth ddatblygu cwricwlwm ysgol. Gall datblygu gwybodaeth sut i ymgymryd â gweithgaredd gwyddoniaeth a thechnoleg (trefniadol) berthyn yn agos i wybod am eu gwerth a’u safle mewn cymdeithas (epistemig) a chyda’i gilydd gallan nhw gael eu hystyried fel agweddau ar ddysgu ‘am’ wyddoniaeth a thechnoleg. Yn benodol, gellir gweld y dysgu hwn yn y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig fel rhywbeth sy’n ymwneud â bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion, a dylunio a pheirianneg. Tra bod yna ryngberthnasau lluosog, mae gwybodaeth am gynnwys (neu ddysgu ‘ynghylch’ gwyddoniaeth a thechnoleg) yn cael ei fynegi yn fwy uniongyrchol yn y datganiadau eraill o’r hyn sy’n bwysig.

Gall agweddau trefniadol y Maes hwn gynnwys:

  • gwahanol fathau o ymchwiliad, gan gynnwys dysgu y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, adnabod a lliniaru risg a pheryglon, a defnydd priodol o ystod o offer, yn ogystal ag ymchwiliad sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr fel rhan o'r broses meddylfryd dylunio
  • defnyddio modelau (o Gam cynnydd 3) gyda dysgwyr yn adeiladu, mireinio, defnyddio a gwerthuso ystod o fodelau (gan gynnwys modelau mathemategol a chysyniadol), gall hyn gynnwys dysgu am sut maen nhw wedi cael eu datblygu a’u mireinio trwy ddarganfyddiadau gwyddonol a thechnolegol. Defnyddir ystod eang o fodelau yn y Maes hwn gan gynnwys: cynrychioli rhyngddibyniaeth, deall cylchred maeth, modelau haniaethol o gerrynt trydanol, a phrosesau cyfrifiadurol
  • gwylio pethau byw yn eu cynefin naturiol trwy’r continwwm 3 i 16, gan arwain at ddosbarthiad mwy soffistigedig o ddosbarthu a chasglu data i fesur a chymharu bioamrywiaeth
  • dysgu sut y gellir trin defnyddiau:
    • trwy chwarae yn y camau cynharach, cymysgu defnyddiau a gwybod y gall defnyddiau newid, ac o dan rai amodau byddan nhw’n adweithio a ffurfio rhywbeth newydd, yn ogystal â chael eu cyfuno i greu cynhyrchion newydd
    • yn y camau diweddarach, gellir archwilio gwahanol fathau o adweithiau cemegol gan gynnwys: niwtraliad, ocsideiddio, adweithiau ecsothermig ac endothermig, yn ogystal â dadleoliad a rhydwythiad
  • ystod o dechnegau ymarferol, sy’n dod yn gynyddol gymhleth wrth i ddysgu ddatblygu (gan gynnwys cymryd mesuriadau a gwneud arsylwadau), yn ogystal ag ystyried sut mae technegau gwahanu a dadansoddi penodol yn briodol ar gyfer gwahanol ddibenion, a dulliau echdynnu
  • datblygu gwybodaeth gysyniadol a threfniadol o ystod o ddefnyddiau a thechnegau trwy brofiadau ymarferol i oleuo meddylfryd dylunio dysgwyr a chefnogi eu gallu i wneud pethau a pheirianneg
  • prosesau dylunio iteraidd, gan gynnwys profi a gwerthuso cyson. Mae methiant ac ymateb beirniadol yn brofiadau pwysig ac mae dysgu ymateb i’r rhain yn gymorth i adeiladu gwydnwch. Mae defnyddio prototeipio manwl a bras a chynhyrchu o safon uchel hefyd yn cefnogi prosesau dylunio iteraidd
  • datblygu symudiadau echddygol manwl a symudiadau echddygol bras yn arwain at gywirdeb, manylder a chrefftwaith trwy ystod o weithgareddau dysgu sy’n cynyddu mewn amrywiaeth wrth i ddysgwyr ddangos cynnnydd
  • archwilio’r defnydd o donnau fel modd o wneud arsylwadau a chynnal profion. Gall arbrofi gyda phlygiant syml golau yn y camau cynharaf, er enghraifft, adeiladau dealltwriaeth sut mae microscopau a chwyddwydrau yn gweithio
  • defnyddio gweithgareddau ‘di-blwg’ trwy’r continwwm 3 i 16 i fod o gymorth i droi cysyniadau cyfrifiadurol yn weledol. Mae gweithgareddau ymarferol gydag ystod o offer a dyfeisiau yn arbennig o berthnasol ar gyfer dysgu egwyddorion rhaglennu a datblygu dealltwriaeth gysyniadol ddyfnach o gystrawen a lluniadau allweddol cyn gweithredu a chymhwyso
  • profiadau sy’n pontio’r byd ffisegol a’r byd digidol, trwy ddefnyddio synwyryddion, ysgogyddion a dyfeisiau sy’n rhyngweithio gyda’u hamgylchedd, ac yn ei drin, gan fonitro a chasglu data. Wrth ddylunio arteffactau digidol gellir archwilio dysgu sy’n canolbwyntio ar ryngweithio dynol-gyfrifiadurol a dylunio sy’n ddefnyddiwr-ganolog (fel sy’n cael eu mynegi yn y datganiad o’r hyn sy’n bwysig sy’n ymwneud a dylunio a pheirianneg).

Mae agweddau epistemig yn y Maes hwn yn cynnwys:

  • gwerthuso tystiolaeth, gyda dysgwyr yn dod o hyd i ac ymwneud ag ystod o dystiolaeth o ddilysrwydd, dibynadwyedd a hygrededd amrywiol. Mae hyn yn cynnwys ymchwiliadau yn y presennol a’r gorffennol, datblygiadau technolegol ac, wrth i ddysgwyr wneud cynnydd, rôl data mewn tystiolaeth, a sut mae tystiolaeth empirig yn llywio syniadau mewn gwyddoniaeth
  • effaith gwyddoniaeth a thechnoleg ar gymdeithas a sut mae hyn yn cael ei werthuso, gan gynnwys yng nghyd-destun argyfwng yr hinsawdd. Dylai dysgwyr gael cyfleoedd i drafod manteision a pheryglon datblygiadau technolegol a gwyddonol, adeiladu eu dealltwriaeth o effaith gweithgarwch dynol ar wahanol amgylcheddau, a datblygu a gwerthuso strategaethau (gan gynnwys dylunio cylchol) i leihau effeithiau negyddol gweithgarwch dynol
  • archwilio modelau o Gam cynnydd 3. Dylai dysgwyr ddysgu am wahanol fodelau a sut y gallan nhw gael eu defnyddio i ddatrys problemau, gwylio tueddiadau, esbonio a rhagfynegi ymddygiad
  • sut y gellir cyfuno ac integreiddio cydrannau i gynhyrchu canlyniadau a gwella swyddogaethedd, gan gynnwys meddylfryd systemau
  • technoleg dylunio, gyda dealltwriaeth ddofn o ddymuniadau ac anghenion dysgwyr, gan ddefnyddio empathi ac archwiliad. Gall cyd-destunau gynnwys rhai entrepreneuraidd, damcaniaethol a dychmygu dyfodol posib, a dylen nhw ystyried ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol. Wrth anelu at ddatrysiadau dylunio effeithiol a gwybodus, gall dysgwyr gaffael a chymhwyso corff cynyddol o wybodaeth am y byd y maen nhw’n ei ddylunio ar ei gyfer
  • cyfleoedd i greu ac arloesi trwy ffynonellau ystod eang ac annisgwyl o ysbrydoliaeth er mwyn dod o hyd i ddatrysiadau. O Gam cynnydd 4 ymlaen, gellir archwilio cysyniadau megis dylunio cylchol, darfodiad bwriadus a thechnolegau aflonyddgar
  • sut mae gwybodaeth am sut y gellir cymhwyso gwahanol ddefnyddiau yn cefnogi eu dewis ar gyfer dylunio a chynhyrchu cynnyrch defnyddiol
  • sut mae defnyddio ystod o dechnolegau digidol, offer a systemau ar draws y cwricwlwm yn adeiladu dealltwriaeth o sut y gall technolegau effeithio ar fywydau a gyrfaoedd dysgwyr yn y dyfodol.

Gall agweddau yn y Maes hwn gynnwys:

  • dosbarthiad pethau byw a’r amodau maen nhw eu hangen i oroesi, ochr yn ochr â ffactorau sy’n effeithio ar brosesau biolegol ac iechyd organebau. Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd dylai prosesau gynnwys resbiradu, ffotosynthesis, treuliad, cellraniad ac atgenhedlu. Mae hyn hefyd yn cefnogi dealltwriaeth dysgwyr o esblygiad
  • deall eu hiechyd eu hunain: sut y gall ymddygiad effeithio ar iechyd corfforol y dysgwyr (gan gynnwys maeth, defnydd o sylweddau a gweithgaredd) yn ogystal ag atgenhedlu rhywiol, datblygiad dynol a rôl hormonau
  • natur defnyddiau a’r gwahanol ffyrdd y gellir dosbarthu sylweddau. Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd gall hyn adeiladu gwybodaeth ddofn o theori gronynnau gan gynnwys cyfansoddiad gronynnau a sut maen nhw’n rhyngweithio â’i gilydd:
    • gall adeiladu ar ddysgu archwiliadol trwy chwarae, dysgu am briodweddau ffisegol defnyddiau a chyflyrau (megis solidau, hylifau a nwyon) arwain mewn dysgu diweddarach at ddatblygu gwybodaeth am strwythurau molecylau
    • dros gyfnod o amser, dealltwriaeth o briodweddau metalau ac anfetelau, sut mae priodweddau yn cael eu heffeithio gan eu strwythurau (e.e. dargludedd, pwynt toddi a hydrinedd), natur sylweddau organig ac anorganig, a gwahanol fathau o ymbelydredd 
  • sut y gellir cefnogi deall tueddiadau mewn adweithedd gyda dysgu trwy’r tabl cyfnodol mewn camau cynnydd diweddarach:
    • gwybodaeth am y berthynas rhwng elfennau; adnabod tueddiadau a phatrymau a rhagfynegi ynghylch gwahanol fathau o fondio
    • sut effeithir ar gyfraddau adweithiau gan ffactorau (megis tymheredd, crynodiad ac arwynebedd arwyneb) sy’n arwain at ffactorau eraill (megis defnyddio catalydd neu newid gwasgedd)
    • gweithredu cyfrifiadau ar y priodweddau ffisegol sy’n ymwneud ag adweithiau; masau, crynodiadau, cyfeintiau ac egni gan ddefnyddio hafaliadau â geiriau a symbolau, a dehongliad o fformiwlâu cemegol
  • defnyddiau naturiol (e.e. olew a mwynau) a’u prosesu, ynghyd â gwahanol brofion cemegol. Mae dealltwriaeth o’r defnydd o gyfres adweithedd wrth echdynnu metal, a bod rhaid i fwyafrif o ddefnyddiau gael eu prosesu cyn y gellir eu defnyddio, er enghraifft, o gymorth wrth ddysgu am effaith gwyddoniaeth a thechnoleg ar yr amgylchedd
  • gwybodaeth o sut mae priodweddau deunyddiau yn gweithio (gan gynnwys gorffeniadau), yn ogystal â thechnegau gwneud, gweithgynhyrchu ac adeiladu (gan gynnwys y rhai na fydd dysgwyr yn gallu eu profi yn yr ysgol, ond bydd angen iddyn nhw ddeall)
  • meysydd magnetig a natur magnetau parhaol, gyda chysylltiadau sy’n galluogi dysgu ehangach am foduron a generaduron. Mae’r cyfuniad o feysydd a grymoedd magnetig yn galluogi trydan i gael ei gynhyrchu a’i ddefnyddio i greu mudiant sy’n datblygu tuag at ddealltwriaeth o Ddeddfau Fleming mewn camau cynnydd diweddarach
  • trawsnewidiad egni i amrywiol ffurfiau defnyddiol neu wastraff trwy gynhyrchu neu ddefnydd o drydan. Gall hyn arwain at werthfawrogiad o Ddeddf Cadwraeth Egni
  • gall trydan a gynhyrchir gan eneraduron arwain at naill ai gerrynt union neu gerrynt eiledol. Yn achos cerrynt eiledol, mae angen dealltwriaeth o donnau. Am y rhesymau hyn, gall ysgolion ystyried trydan, grymoedd, mudiant, egni a magnedau yn holistaidd wrth gynllunio eu cwricwlwm
  • gall rôl gwahanol fathau o donnau alluogi dysgwyr i ddeall sut rydyn ni’n diddwytho cyfansoddiad y Ddaear, darparu tystiolaeth ar gyfer damcaniaethau o esblygiad a strwythur y Bydysawd, o gyfathrebu digidol cyfrifiadurol a chysyniadau archwilio diagnostig gan ddefnyddio tonnau a chasglu data. Gall gwybodaeth am donnau hefyd gefnogi dealltwriaeth gysyniadol dysgwyr o sain, acwsteg a seinweddau
  • sut mae’r gofod yn cynnig cyfleoedd cyfoethog i gyffroi dysgwyr, gan gynnwys cyd-destun ar gyfer ystyried trosglwyddiad egni, yn ogystal â thonnau a’r sbectrwm electromagnetig i alluogi arsylwadau a chasglu tystiolaeth. Gan adeiladu ar wybodaeth am y system solar, gall dysgwyr ystyried mudiant cyrff wybrennol a achoswyd gan y grymoedd maen nhw’n eu profi ac yn ei weithredu ar wrthrychau eraill er mwyn adeiladu dealltwriaeth o Ddeddfau Mudiant Newton
  • creu atebion meddalwedd sy’n addas i’r diben. Mae gwybod sut i ddylunio, creu, profi a defnyddio meddalwedd sy’n ymarferol, yn gadarn ac yn ystyriol o gynulleidfaoedd amrywiol yn darparu dysgwyr gyda’r wybodaeth, sgiliau a phrofiad sylfaenol o sut mae technolegau modern yn gweithio a’r modd y gellir eu cymhwyso
  • mae cyfrifiadura ffisegol yn canolbwyntio ar y rhyngweithiadau rhwng pobl a'n hamgylchedd, gan ddefnyddio technolegau a all ein galluogi i ymestyn, gwella ac awtomeiddio. Mae cyfrifiadura ffisegol yn fframwaith creadigol ar gyfer deall cysylltiadau dynol yn well i'r byd digidol
  • systemau cyfathrebu. Mae cael dealltwriaeth ddyfnach o sut mae technolegau sy'n cysylltu ein byd yn gweithredu, eu nodweddion a'u budd-daliadau - a'r potensial ar gyfer camddefnydd – yn medru ein galluogi i fyw'n fwy diogel a chyfrifol yn ein byd rhyng-gysylltiedig
  • cadw a phrosesu data. Trwy lythrennedd data a rheoli data, gall dysgwyr ddeall yn well sut mae data yn ysgogi ein byd cyfrifiadurol. Gallant ddefnyddio ystod o offer meddalwedd i greu, rheoli ac archwilio setiau data er mwyn ymchwilio elfennau ymholi. Mae defnyddio gweithredyddion rhesymegol a mathemategol hefyd yn cefnogi dysgu a fynegir ym Maes Dysgu a Phrofiad Mathemateg a Rhifedd.

Enghreifftio ehangder

Darperir y canlynol fel enghreifftiau o sut y gallech archwilio dysgu testunol gwahanol yn y Maes hwn. Enghreifftiau yn unig yw'r rhain.

Gall annog dysgwyr i werthuso datblygiadau gwyddonol a thechnolegol mewn perthynas â'r argyfwng hinsawdd arwain at ddeall y berthynas rhwng gwyddoniaeth, pŵer personol, gweithredu llywodraeth a ffactorau economaidd yma yng Nghymru ac ar lefel ryngwladol. Gallai gwerthuso tystiolaeth wyddonol a thechnolegol, yn ogystal â hanes gwyddoniaeth a thechnoleg, arwain dysgwyr i ddarganfod cyfraniadau ffigurau megis Frances Elizabeth Hoggan, Dorothy Hodgkin, Alan Turing ac Alfred Russel Wallace. Wrth ddatblygu sgiliau codio, gall dysgwyr hefyd ddeall a gwerthuso sut mae prosesau cyfrifiadurol wedi newid, ac yn parhau i newid y ffordd rydyn ni'n byw, yn gweithio ac yn astudio. Gall hyn gynnwys ystyriaethau cyfreithiol a moesegol sy'n ymwneud â rhwydweithio cymdeithasol, camwybodaeth a data mawr.

Dylai cynllunio a datblygu cwricwlwm ysgol gynnwys ystyriaeth o gysylltiadau dilys rhwng maes dysgu a phrofiad gwyddoniaeth a thechnoleg a meysydd dysgu a phrofiad eraill, er enghraifft: 

Celfyddydau Mynegiannol

Mae gan y Meysydd hyn gysylltiadau agos, gyda’r ddau yn dibynnu ar ddulliau tebyg sy’n cynnwys proses o ddarganfod a meddwl dargyfeiriol a chynhyrchu syniadau a all arwain at ganlyniadau creadigol ac arloesedd. Mae meddylfryd dylunio a phrosesau dylunio mewn gwyddoniaeth a thechnoleg yn mynd law yn llaw â dull dylunio ac archwiliad yn y Celfyddydau Mynegiannol, ac hefyd yn cynnwys archwilio gwahanol gyfryngau y gellir eu defnyddio i gyfathrebu dylunio a chreadigrwydd i eraill. Yn y ddau Faes defnyddir dulliau creadigol i archwilio cysyniadau a defnyddiau, yn ogystal â datblygu medrusrwydd â dwylo, cywirdeb, manylrwydd, a chrefftwaith sy’n cefnogi cynhyrchu. Mae gwybodaeth am natur a datblygiad defnyddiau yn bwysig wrth eu dewis ar gyfer dylunio a chynhyrchu a gall hyd yn oed ddealltwriaeth o wyddoniaeth tonnau gefnogi datblygiad a gwerthfawrogiad o gerddoriaeth. 

Iechyd a Lles 

Mae cysylltiad cynhenid rhwng y ddau Faes yma. Mae gwybodaeth a dealltwriaeth o fioleg, datblygiad corfforol, cydberthnasau biolegol a rhywiol a’r cyswllt rhwng iechyd corfforol ac emosiynol yn hanfodol i ddysgu o fewn Iechyd a Lles. Gall dysgu sut mae’r ymennydd yn gweithio fod o gymorth i ddysgwyr ddeall eu meddyliau, teimladau ac emosiynau. Gellir ystyried sut y gall dewisiadau ffordd o fyw effeithio ar y corff dynol (gan gynnwys deiet, defnyddio cyffuriau ac ymarfer), yn ogystal â’r wyddoniaeth y tu ôl i hormonau, atgenhedlu rhywiol a datblygiad dynol er mwyn cefnogi ACR. Mae technoleg yn bwysig i iechyd a lles dysgwyr, gan gynnwys cefnogi paratoi deiet iach. Mae’r canlynol i gyd yn cyfrannu at wneud gwell penderfyniadau mewn perthynas â diogelwch ar-lein, bwlio ar-lein a hybu ymddygiad cadarnhaol ar-lein: dealltwriaeth sut mae’r cyfryngau digidol yn gweithio a sut i ddefnyddio’r byd ar-lein yn ddiogel a chyfrifol, archwilio perthynas ag eraill mewn cyd-destun ar-lein, a deall normau a dylanwadau cymdeithasol mewn perthynas â thechnoleg.

Dyniaethau

Mae gan y ddau Faes yma ddulliau ac egwyddorion ymchwilio tebyg ac eto’n benodol i’r Maes. Serch hynny mae gwaith maes, er enghraifft lle mae dysgwyr yn sylwi ar bethau byw yn eu cynefinoedd naturiol gan arwain at gasglu data i fesur a chymharu bioamrywiaeth, yn cefnogi dysgu yn y ddau Faes. Gall gwybodaeth am ymchwiliadau gwyddonol a datblygiadau technolegol cyfredol ac yn y gorffennol, a’u heffaith ar gymdeithas, hefyd gefnogi dysgwyr yn eu gallu i chwilio a hidlo tystiolaeth. Mae gan ddatblygiadau gwyddonol a thechnolegol effaith sylweddol ar gymdeithasau dynol ac ar ein perthynas â’r byd naturiol. Gall gwyddoniaeth a thechnoleg gynnig datrysiadau ac ymatebion i’r heriau mae dynoliaeth yn eu hwynebu yn y byd modern. Mae gan agweddau eraill ar wyddoniaeth a thechnoleg gysylltiadau cynhenid â’r Dyniaethau yn nhermau perthynas ag elfennau megis daearyddiaeth ffisegol a gwybodaeth am ddefnyddiau naturiol a’r dull o’u prosesu, a dylai’r cysylltiadau hyn gael eu harchwilio. Mae’r economi digidol yn ddylanwad grymus wrth lywio cymdeithasau, economïau a bywydau pobl yn y byd modern.

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Mae cyfathrebu digidol ac ieithoedd cyfrifiadurol yn cynnig cyfleoedd ar gyfer cyswllt i atgyfnerthu dysgu ar draws y ddau Faes yma. Mae sgiliau llythrennedd megis iaith gyfarwyddiadol ac arsylwadol yn gyffredin i’r ddau faes, yn ogystal â datblygiad mewn perthynas â chael mynediad at, a chynhyrchu, testunau ffeithiol a defnydd cywir o eirfa technegol a gwyddonol mor gynnar â phosib. Mae Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn cynnig cyfleoedd i gefnogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu dylunio, er mwyn datblygu meddyfryd dylunio dysgwyr yn ogystal â chyfathrebu eu syniadau i eraill.

Mathemateg a Rhifedd

O’r defnydd o ddata ac ystadegau mewn ymholiad a thystiolaeth, geometreg a mesur mewn dylunio a datblygu, hyd at drin data mewn technoleg, mae dysgu mewn gwyddoniaeth a thechnoleg yn aml yn seiliedig ar  gynnydd mewn dealltwriaeth fathemategol, fel y’u mynegir trwy’r pum medr mathemategol. Felly mae cysylltiadau cwricwlaidd rhwng y ddau Faes yma yn lluosog ac, yn aml, yn eithaf manwl. Gall ysgolion ddymuno ystyried dilyniannu cwricwlwm yn arbennig wrth ddylunio a chynllunio eu cwricwlwm er mwyn sicrhau bod cyfleoedd mewn gwyddoniaeth a thechnoleg i gyd-destunoli dysgu mathemategol cysyniadol yn cael ei weithredu’n llawn.

Addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith yn y Maes hwn

Dylid annog dysgwyr i fod yn fwyfwy chwilfrydig a gofyn cwestiynau am y byd o'u cwmpas. Mae addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith yn cynnig cyd-destun pwysig i ddysgwyr ddod yn ymwybodol o gyfleoedd gyrfa sy'n dod i'r amlwg mewn perthynas â datblygiadau a darganfyddiadau ysbrydoledig ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg, a dysgu amdanyn nhw. Gall dysgwyr ymchwilio i'r ffordd y gall y datblygiadau hyn gael dylanwad cadarnhaol neu negyddol ar agweddau fel yr amgylchedd a'r economi.

Gan fod gwyddoniaeth a thechnoleg yn datblygu'n barhaus, mae'n hanfodol cael gweithlu amrywiol sydd â'r gallu i addasu er mwyn diwallu anghenion economaidd Cymru yn y dyfodol. Felly, mae'n bwysig ymdrin â stereoteipiau ac anghydraddoldebau o oedran cynnar. Dylai dysgwyr gael cyfleoedd i ddechrau datblygu eu gallu i fod yn greadigol ac yn arloesol, dehongli data a gwybodaeth, a rhesymu a meddwl yn rhesymegol. Gall gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith roi cyd-destun i ddysgwyr gymhwyso'r sgiliau hyn y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi, er mwyn archwilio gwaith dylunio, gweithgynhyrchu a datrys problemau. Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd, dylid eu cefnogi i ddatblygu ymwybyddiaeth o rôl arloesedd ac awtomatiaeth ddigidol a'u heffaith ar y dirwedd economaidd. Gellid ystyried y rhain ynghyd â'r effaith ddynol y gellir ei harchwilio mewn Meysydd eraill.

Addysg perthnasoedd a rhywioldeb yn y Maes hwn

Mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn rhoi gwybodaeth i ddysgwyr am fioleg ddynol, cylchredau bywyd ac atgenhedlu ond mae'n cyfrannu mewn ffyrdd pwysig eraill hefyd. Gall y Maes hwn gefnogi dysgwyr i ofyn cwestiynau a chwestiynu sut mae pethau'n gweithio, sy'n cefnogi eu hymgysylltiad ag addysg cydberthynas a rhywioldeb.

Mae'r Maes hwn hefyd yn cefnogi dysgwyr i asesu data a ffynonellau ym maes addysg cydberthynas a rhywioldeb, datblygu dealltwriaeth feirniadol o sail gwybodaeth a gaiff ei chyflwyno fel ffaith, a gwneud penderfyniadau beirniadol am sut i ddefnyddio'r ffynonellau gwybodaeth a'r data sydd ar gael iddyn nhw ac ymateb iddyn nhw.

Mae'r Maes hwn hefyd yn cefnogi dysgwyr i ddefnyddio technolegau digidol, deall sut maen nhw’n gweithio ac adnabod y goblygiadau cyfreithiol, cymdeithasol a moesegol eang sy'n gysylltiedig â defnyddio technoleg. Mae hyn yn hanfodol er mwyn galluogi dysgwyr i wneud penderfyniadau diogel a moesegol wrth ddefnyddio technoleg i wneud ffrindiau, datblygu cymunedau, ystyried eu hunaniaethau a bod yn rhan o gydberthnasau rhamantaidd a rhywiol yn y dyfodol. Mae hyn hefyd yn rhoi cyfleoedd i ystyried sut mae cyfrifiant, algorithmau a phrosesu data yn llywio canfyddiadau o gyrff, cydberthnasau, rhywedd a rhywioldeb.