English

3. Egwyddorion cynnydd

Cwricwlwm

Mandadol

Rhaid i gynnydd o fewn y Maes Iechyd a Lles alluogi dysgwyr i ailymweld â’r dysgu a chryfhau’r dysgu mewn cysyniadau yn y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ar draws ystod eang o bynciau ac agweddau ar iechyd a lles. Bydd cyd-destunau dysgwyr, eu pryderon, eu diddordebau a'u hamgylchiadau personol i gyd yn cael effaith ar yr hyn sy'n eu galluogi i wneud cynnydd a pha mor gyflym y maent yn gwneud y cynnydd hwnnw. Mae hyn yn arbennig o berthnasol yng nghyd-destun teimladau ac emosiynau.

Effeithiolrwydd cynyddol fel dysgwr

Mae dysgwyr yn gwneud cynnydd drwy ddatblygu eu hannibyniaeth a'u gweithrediaeth mewn materion sy'n ymwneud ag iechyd a lles: gan arwain at gyfrifoldeb cynyddol am eu hiechyd a'u lles eu hunain. Mae cymorth gan gyfoedion ac oedolion cynorthwyol yn ffactor pwysig i alluogi cynnydd ac, wrth i ddysgwyr wneud cynnydd mewn agwedd ar lesiant, mae cynnydd yn cynnwys datblygu'r gallu i gydnabod pryd mae angen cymorth, a ble a sut i geisio'r cymorth hwnnw. Mae effeithiolrwydd cynyddol hefyd yn golygu hunanreoleiddio cynyddol: cydnabod eu teimladau a mabwysiadu strategaethau i ymateb i'r rhain mewn ffordd iach. Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd mewn effeithiolrwydd, bydd yn cynnwys gallu datblygol i wneud, cyfiawnhau a gwerthuso penderfyniadau ar draws yr ystod o ddatganiadau o'r hyn sy'n bwysig.

Ehangder a dyfnder gwybodaeth cynyddol

Bydd cynnydd yn golygu bod dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth gynyddol soffistigedig o'r cysyniadau sylfaenol a amlinellir yn y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ac o amrywiaeth o agweddau, pynciau a materion sy'n ymwneud â'u hiechyd a'u lles, a lles pobl eraill. Bydd cynnydd yn ei gwneud yn ofynnol i ddysgwyr ailedrych ar agweddau, pynciau a materion, gan ddatblygu gwybodaeth ar lefel ddyfnach. Mae gwybodaeth dysgwyr am yr agweddau hyn hefyd yn symud ymlaen o fod yn wybodaeth goncrit i fod yn wybodaeth abstract: deall canlyniadau, goblygiadau ac egwyddorion sylfaenol. Mae'r cynnydd hwn yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu gwybodaeth gysyniadol a dealltwriaeth feirniadol mewn amrywiaeth o agweddau ar iechyd a lles ac ymddygiad personol.

Dyfnhau’r ddealltwriaeth o’r syniadau a’r disgyblaethau yn y Meysydd

Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd, maent yn datblygu gwerthfawrogiad o arwyddocâd amrywiaeth o agweddau ar eu hiechyd a'u lles sydd wedi'u cynnwys yn y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig a'r hyn a all ddylanwadu ar yr agweddau hynny. Maent yn edrych ar wahanol agweddau a phynciau sy'n ymwneud ag iechyd a lles drwy lens gwahanol ddatganiadau o'r hyn sy'n bwysig. O'r herwydd, mae cynnydd yn golygu bod dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth gynyddol o sut mae'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig yn cyd-gysylltu, ac yn gallu cymhwyso'r rhain wrth archwilio a deall amrywiaeth o bynciau a materion.

Mireinio sgiliau a soffistigeiddrwydd cynyddol wrth eu defnyddio a’u cymhwyso

Mae cynnydd yn golygu bod dysgwyr yn datblygu eu hyder, eu cymhwysedd cymhelliant mewn sgìl, gan ddatblygu cywirdeb a hyfedredd cynyddol.  Mae cynnydd mewn iechyd a llesisnt yn digwydd ar draws ystod eang o sgiliau, gan gynnwys: sgiliau corfforol, emosiynol, seicolegol a chymdeithasol. Bydd hyn hefyd yn cynnwys sgiliau mwy ymarferol sydd hefyd yn cefnogi dysgwyr yn eu hiechyd a'u lles. Bydd datblygu llawer o sgiliau yn dibynnu, i ryw raddau, ar gerrig milltir datblygiadol ehangach dysgwyr. Adlewyrchir hyn mewn disgrifiadau dysgu: mae cynnydd cynharach yn canolbwyntio ar ddysgwyr yn datblygu ymwybyddiaeth o ystod o sgiliau ac mae cynnydd diweddarach yn cefnogi cywirdeb, cymhlethdod a hyfedredd cynyddol yn y sgiliau hynny. 

Creu cysylltiadau a throsglwyddo'r dysgu i gyd-destunau newydd

Caiff y broses o drosglwyddo sgiliau a gwybodaeth yn y Maes ei hystyried yn gynnydd o ran dod yn fwy cyfrifol yn gymdeithasol. Wrth i ddysgwyr ddod yn fwy cyfrifol yn gymdeithasol, maen nhw’n gwneud cynnydd o ystyried eu hunain yn bennaf i ystyried effaith eu gweithredoedd eu hunain ar eraill ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang. Bydd dysgwyr yn gwneud cynnydd o deimlo’n ofalgar am eraill a’u parchu i allu eirioli ar ran eraill.  

Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd drwy’r cwricwlwm, bydd eu dealltwriaeth o’r cysylltiadau ym mhob rhan o’r ysgol a’r tu hwnt â phob agwedd ar iechyd a lles yn dod yn fwy soffistigedig, a byddan nhw’n gallu adnabod a chydbwyso rhai o’r tensiynau a all fodoli mewn modd cynyddol effeithiol.

  • Blaenorol

    Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig

  • Nesaf

    Disgrifiadau dysgu