Canllawiau ar ddysgu 14 i 16
Mae’r canllawiau ar ddysgu 14 i 16 hyn yn llunio rhan o ganllawiau statudol Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru.
- Rhan o
Gellir dod o hyd i wybodaeth am eu statws cyfreithiol yn y Cyflwyniad i ganllawiau’r Cwricwlwm i Gymru.
Mae’r canllawiau wedi’u hanelu at benaethiaid ysgolion a gynhelir, gan gynnwys ysgolion arbennig a gynhelir. Gallai hefyd fod o gymorth i athro sy’n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion a’r pwyllgor rheoli gyfeirio at yr egwyddorion wrth gynllunio eu cwricwlwm. Mae’r gofynion cwricwlwm ar gyfer unedau cyfeirio disgyblion yn wahanol i ysgolion a gynhelir.
Mae’r adran hon o’r canllawiau wedi’u cynllunio i gefnogi ymarferwyr i gynllunio, gweithredu ac adolygu cwricwlwm cynhwysol i ddysgwyr ym Mlynyddoedd 10 ac 11 fel rhan o’r cwricwlwm 3 i 16, gan ystyried anghenion pob dysgwr. Mae’n darparu pwynt cyfeirio wrth adolygu effeithiolrwydd cwricwlwm ysgol ar gyfer Blynyddoedd 10 ac 11. Dylid ei defnyddio fel sail ar gyfer trafodaethau proffesiynol a dysgu o fewn ysgolion a rhyngddyn nhw at ddibenion myfyrio, hunanwerthuso a gwella.
Cynllunio cwricwlwm ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed
Mae’r Cwricwlwm i Gymru wedi’i gynllunio i gefnogi continwwm cydlynol o gynnydd o 3 i 16 gyda phob dysgwr yn gwneud cynnydd ac yn datblygu mewn ffyrdd a ddisgrifir gan bedwar diben y cwricwlwm.
Nodir y gofynion cynllunio’r cwricwlwm sydd ar ysgolion yn yr adran Crynodeb o’r ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r Cwricwlwm i Gymru.
Mae’r gofynion cyfreithiol ar gyfer cwricwlwm i ddysgwyr 14 i 16 oed yn wahanol i’r rhai ar gyfer cwricwlwm i ddysgwyr 3 i 14 oed. Mae hyn er mwyn ystyried y dewisiadau y mae dysgwyr yn eu gwneud mewn perthynas â rhai o’r cyrsiau astudio sy’n arwain at gymwysterau.
Y gwahaniaeth ar gyfer dysgwyr ym Mlynyddoedd 10 ac 11, yn wahanol i ddysgwyr 3 i 14 oed, yw er bod rhaid sicrhau dysgu ac addysgu ym mhob maes dysgu a phrofiad (Maes), nid yw’n ofynnol dysgu ym mhob datganiad o’r hyn sy’n bwysig ym mhob Maes. Fodd bynnag, mae angen i bob Maes fod yn rhan o’r cwricwlwm ar gyfer dysgwyr ym Mlynyddoedd 10 ac 11.
Dylai’r holl ddysgu ac addysgu ym Mlynyddoedd 10 ac 11 gael ei drefnu, ei gynllunio, ei adolygu a’i fireinio yn unol â chanllawiau’r Cwricwlwm i Gymru. Dylai ysgolion gymhwyso egwyddorion cynllunio cwricwlwm i unrhyw brofiadau dysgu, gan gynnwys unrhyw ddysgu sy’n cyfrannu at gyflawni cymhwyster. Yn allweddol i hyn bydd addysgu o ansawdd uchel a phenderfyniadau addysgegol cytbwys sy’n cael eu cefnogi gan y 12 egwyddor addysgegol.
Dylai ymarferwyr barhau i ystyried ‘sut’ a ‘pham’ mewn perthynas â’r dysgu wrth gynllunio eu cwricwlwm a dewis eu dulliau addysgegol, gan sicrhau bod profiadau dysgu yn ddeniadol ac yn berthnasol i’w dysgwyr. Gall egwyddorion cynnydd helpu i fframio’r cynnydd y dylai ymarferwyr ac arweinwyr ganolbwyntio arno a bod â diddordeb ynddo:
- cynyddu effeithiolrwydd fel dysgwr
- cynyddu ehangder a dyfnder gwybodaeth
- dyfnhau’r ddealltwriaeth o’r syniadau a’r disgyblaethau yn y Meysydd
- mireinio sgiliau a datblygu soffistigeiddrwydd wrth eu defnyddio a’u cymhwyso
- creu cysylltiadau a throsglwyddo’r dysgu i gyd-destunau newydd
Yn arbennig ym Mlynyddoedd 10 ac 11, gall profiadau dysgwyr yn aml gael eu dylanwadu gan asesu, yn enwedig fel rhan o gymhwyster. Dylai ysgolion sicrhau bod Cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu yn parhau i fod yn sail i’w trefniadau asesu ar hyd y continwwm 3 i 16.
Gall asesu sydd wedi’i gynllunio i gefnogi dysgwyr unigol yn barhaus ac a ddefnyddir i adnabod, nodi a myfyrio ar gynnydd dysgwyr unigol gyfrannu’n sylweddol at les meddyliol, emosiynol a chymdeithasol pob dysgwr. Gellir dod o hyd i gyngor ymarferol i ysgolion ar hyn yn Asesu a llesiant dysgwyr: systemau cymorth cydfuddiannol. Mae’n annog ymarferwyr i gynllunio asesu mewn ffyrdd sy’n gwella cyfleoedd i feithrin lles dysgwyr drwy ganolbwyntio ar ddatblygu eu hymlyniad, eu hymreolaeth a’u galluedd. Gall sicrhau dull ysgol gyfan o’r math hwn annog ymarferwyr i ystyried y ffordd y maen nhw’n cynllunio eu cwricwlwm ac asesu, yn enwedig wrth ymdrin â manylebau allanol ar gyfer cymwysterau.
Astudio ar gyfer cymwysterau ac eithrio ym Mlynyddoedd 10 ac 11
Mae canllawiau’r Cwricwlwm i Gymru yn glir o ran cynnydd mewn dysgu ar hyd y continwwm 3 i 16 yn ogystal ag ehangder disgwyliedig y dysgu hwnnw. Mae’n hanfodol bod ysgolion yn datblygu eu trefniadau cwricwlwm i adlewyrchu’r cynnydd a’r ehangder hwnnw mewn dysgu, gan ganiatáu lle ac amser priodol, hyd at ac yn cynnwys Blwyddyn 9, i hynny ddigwydd ar draws pob datganiad o’r hyn sy’n bwysig. Ni fyddai’n briodol i ysgolion ddechrau cyrsiau sy’n arwain at gymwysterau yn gynharach nag ym Mlwyddyn 10 pan fo hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r ysgol gyfyngu’r cwricwlwm ar gyfer y dysgwyr iau. Gallai hyn atal dysgwyr iau na’r rheini ym Mlwyddyn 10 rhag dysgu ar draws yr holl ddatganiadau o’r hyn sy’n bwysig, ochr yn ochr ag agweddau gorfodol eraill ar ddysgu ac addysgu.
Yr hawl i ddysgu 14 i 16
Rhaid i gynnig cwricwlwm ysgol ym Mlynyddoedd 10 ac 11 roi proffil eang a chytbwys o ran dysgu a phrofiadau i ddysgwyr, a dylid ei gynllunio gan gyfeirio at 4 elfen yr hawl i ddysgu 14 i 16:
- Myfyrio ar ddysgu a chynnydd a chynllunio ôl-16.
- Cymwysterau mewn llythrennedd a rhifedd.
- Cymwysterau i annog ehangder.
- Dysgu a phrofiadau ehangach ar draws y cwricwlwm.
Dylai ysgol sicrhau y gall ei holl ddysgwyr ddangos a chyfleu eu dysgu, eu cynnydd a’u cyflawniadau mewn perthynas â phob un o 4 elfen yr hawl i ddysgu 14 i 16 pan fyddan nhw’n cwblhau addysg orfodol yn 16 oed. I ddysgwyr unigol, bydd eu hawl i ddysgu yn cynnwys amrywiaeth o wahanol ddysgu, profiadau a chyflawniadau ar draws yr elfennau hyn. Dylid defnyddio gwybodaeth a thystiolaeth sy’n ymwneud â hyn i lywio prosesau hunanwerthuso a gwella ysgolion.
Dylai ysgolion drefnu amser ac adnoddau eu cwricwlwm o amgylch 4 elfen yr hawl i ddysgu. Mae’r diagram isod yn dangos nad yw’r 4 elfen yn annibynnol ar ei gilydd a’u bod yn gydberthynol eu natur. Bydd dysgwyr yn dod ar draws dysgu a phrofiadau ar draws y cwricwlwm a dylen nhw allu manteisio ar hynny i gyd wrth iddyn nhw fyfyrio ar eu cynnydd a’u cyflawniadau, a chynllunio ar gyfer pontio ôl-16. Dylid annog ymarferwyr i weld eu cyfraniad at y cyfan, yn hytrach na gweld eu rôl fel un ar wahân yn darparu un agwedd ar y cwricwlwm. Gellir cyflawni hyn drwy ganolbwyntio ar gynllunio cwricwlwm effeithiol ac addysgu o ansawdd uchel.
Y 4 elfen
Myfyrio ar ddysgu a chynnydd a chynllunio ôl-16
Mae elfen hon yr hawl i ddysgu yn gynnig o amser cwricwlwm pwrpasol i ddysgwyr fyfyrio ar eu cynnydd a chynllunio ar gyfer ôl-16.
Dylai’r elfen hon gwmpasu’r holl ddysgu a phrofiadau y mae dysgwyr yn dod ar eu traws ar hyd eu taith 14 i 16. Dylai alluogi dysgwyr i fyfyrio ar eu dysgu a’u cynnydd ar draws y cwricwlwm wrth iddyn nhw geisio manteisio ar eu cryfderau a chynllunio ar gyfer gwneud cynnydd.
Dylid defnyddio’r amser cwricwlwm pwrpasol sy’n ofynnol fel rhan o’r elfen hon i ganolbwyntio ar gefnogi unigolion i ddatblygu eu heffeithiolrwydd fel dysgwyr. Dylid rhoi cymorth i ddysgwyr a dylen nhw gael eu herio i feddwl am eu cryfderau, eu meysydd i’w gwella, eu nodau a’u huchelgeisiau, gan sicrhau bod ganddyn nhw gymhelliant, a’u bod yn gosod safonau uchel ar eu cyfer eu hunain. Bydd hefyd yn caniatáu i ddysgwyr ystyried eu camau nesaf ôl-16 a chael cymorth wrth gynllunio’r camau hynny. Gall hyn gynnig cyfle i ysgolion ddarparu addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith mwy penodol ac addas ym Mlynyddoedd 10 ac 11.
Cymwysterau mewn llythrennedd a rhifedd
Mae elfen hon yr hawl i ddysgu yn cynnig cymwysterau priodol, uchelgeisiol a heriol mewn llythrennedd a rhifedd, lle mae angen i bob dysgwr ddangos ei gyrhaeddiad er mwyn gallu symud ymlaen yn llwyddiannus.
Mae’r elfen hon yn cydnabod pa mor bwysig yw ennill cymwysterau mewn llythrennedd a rhifedd ar gyfer pob agwedd ar addysg, gwaith a bywyd, ac ar gyfer cyfnodau pontio ôl-16.
Cymwysterau i annog ehangder
Mae elfen hon yr hawl i ddysgu yn cynnig cyfres ehangach o gymwysterau y gall dysgwyr ddewis o’u plith, wrth iddyn nhw ddechrau arbenigo. Mae’n cefnogi cynnydd mewn dysgu a llwybrau gyrfa yn y dyfodol ond hefyd yn cynnal ehangder y dysgu.
Dylai ysgolion gynnig amrywiaeth eang a chytbwys o ddewisiadau sy’n adlewyrchu anghenion a sefyllfaoedd eu dysgwyr. Dylai hyn gynnwys cymwysterau cyffredinol, cymwysterau galwedigaethol a chymwysterau sy’n seiliedig ar sgiliau ar bob lefel cymhwyster priodol.
Er mwyn caniatáu i ysgolion ehangu’r cynnig cwricwlwm sydd ar gael i’w dysgwyr, fe’u hanogir i archwilio cyfleoedd ar gyfer gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion a cholegau eraill pan fo hynny orau i’r dysgwyr.
Dysgu a phrofiadau ehangach ar draws y cwricwlwm
Mae elfen hon yr hawl i ddysgu yn cynnig ehangder o gyfleoedd dysgu sy’n datblygu gwybodaeth a sgiliau, ac yn darparu profiadau ar draws y cwricwlwm.
Rhaid i ysgolion sicrhau bod pob dysgwr, waeth beth yw’r cymwysterau a ddewisir ganddo, yn sicrhau rhywfaint o ddysgu ym mhob Maes ac ym mhob un o elfennau mandadol y cwricwlwm (gan gynnwys addysg cydberthynas a rhywioldeb, a chrefydd, gwerthoedd a moeseg).
Nid oes angen i’r holl ddysgu a phrofiadau ym Mlynyddoedd 10 ac 11 arwain at gymhwyster ffurfiol. Fodd bynnag, efallai y bydd ysgolion am ddarparu cyrsiau astudio sy’n arwain at gymhwyster i gefnogi cynnydd dysgwyr. Os bydd ysgolion am ddefnyddio cymwysterau i gefnogi cwricwlwm o ddysgu a phrofiadau ehangach, fe’u hanogir i barhau i ddefnyddio’r Dystysgrif Her Sgiliau hyd at fis Medi 2027. Dyna pryd y bydd Cyfres Sgiliau (sy’n cynnwys sgiliau ar gyfer cymwysterau bywyd a gwaith a’r prosiect personol) yn disodli’r Dystysgrif Her Sgiliau ac yn parhau i gefnogi’r ddarpariaeth hon.
Fel rhan o’r elfen hon, dylai ysgolion roi cyfle (a’r cymorth a’r amser cysylltiedig yn y cwricwlwm) i bob dysgwr ar gyfer mwy o ddysgu annibynnol. Gall cyrsiau, fel prosiect unigol y Dystysgrif Her Sgiliau, neu o 2027 ymlaen y prosiect personol, gael eu defnyddio gan ysgolion i hwyluso dysgu o’r math hwn. I garfan fach o ddysgwyr, efallai na fydd y math hwn o dasg annibynnol estynedig yn briodol. Ysgolion fydd yn y sefyllfa orau i wneud y penderfyniad hwnnw a nhw yn y pen draw fydd yn gyfrifol am y penderfyniad hwnnw. Bydd angen i ysgolion ystyried amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys beth sydd orau i’r dysgwyr ac unrhyw safbwyntiau a fynegir gan y dysgwyr a’u rhieni neu ofalwyr. Mae’n hanfodol bod y dysgu ehangach hwn yn cyfrannu at gynnydd dysgwr tuag at bedwar diben y cwricwlwm.
Dylunio’r cynnig cwricwlwm 14 i 16
Cynyddu effeithiolrwydd dysgwyr: cefnogi myfyrio ar ddysgu a chynnydd a chynllunio ôl-16
Mae datblygu effeithiolrwydd ein dysgwyr wrth iddyn nhw wneud cynnydd yn y ffyrdd a ddisgrifir ym mhedwar diben y cwricwlwm yn sylfaenol ac yn rhan o’r egwyddorion cynnydd mandadol.
Yn ystod Blynyddoedd 10 ac 11, bydd parhau i wneud cynnydd yn eu heffeithiolrwydd fel dysgwyr yn hanfodol. Bydd hyn yn cefnogi dysgwyr i fyfyrio ar eu dysgu a’u cynnydd, ac i ystyried a gwneud penderfyniadau mewn perthynas â’u camau nesaf a’u cynllunio ôl-16. Dylai hefyd alluogi dysgwyr ac ymarferwyr i gael gwell dealltwriaeth o’u dysgu yn ei gyfanrwydd wrth iddyn nhw ystyried eu cryfderau, eu hanghenion, eu hymddygiadau a’u cyfrifoldebau fel dysgwyr. Bydd dysgwyr sy’n fwy ymwybodol o’u heffeithiolrwydd ac sy’n gwneud cynnydd yn hyn o beth mewn sefyllfa well i ddysgu a gwneud cynnydd ar draws y cwricwlwm.
Yng nghyd-destun elfen ‘Myfyrio ar ddysgu a chynnydd a chynllunio ôl-16’ yr hawl i ddysgu, dylai ysgolion ystyried sut mae dysgwyr yn:
- dod yn fwyfwy effeithiol fel dysgwyr mewn cyd-destunau cymdeithasol a rhai cysylltiedig â gwaith
- dod yn fwy medrus wrth adnabod cymorth priodol gyda mwy a mwy o annibyniaeth
- datblygu dulliau mwyfwy llwyddiannus o hunanwerthuso a nodi eu camau nesaf (o ran y dysgu a thu hwnt)
- datblygu dulliau hunanreoleiddio mwy effeithiol
Dylai ysgolion ddyrannu amser cwricwlwm priodol i ddysgwyr fyfyrio ar eu dysgu a’u cynnydd fel dysgwyr. Dylen nhw hefyd ganiatáu amser i ddysgwyr ystyried eu camau nesaf, gan gynnwys amser i archwilio a chynllunio ar gyfer pontio ôl-16. Mae’n bwysig bod gan ddysgwyr amser penodol a’u bod yn cael eu cefnogi i ystyried yr ystod lawn o opsiynau sydd ar gael iddyn nhw ôl-16. Gallai hyn gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, barhau â’u haddysg yn yr ysgol, mewn coleg neu ymgymryd â phrentisiaeth.
Dylai ysgolion sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cefnogi i fyfyrio ar eu cryfderau a’u meysydd i’w gwella fel unigolion, ar draws eu dysgu, a allai gynnwys:
- ystyried gofynion ar gyfer llwybrau ôl-16 (o ran cymwysterau, sgiliau, priodoleddau a nodweddion)
- cynnal dadansoddiad cytbwys o opsiynau ar gyfer llwybrau ôl-16, gan sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cynghori’n llawn ac yn gallu gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth (er enghraifft cael digon o wybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael mewn sefydliadau addysg bellach a darparwyr ôl-16 eraill)
- adnabod meysydd lle mae angen cymorth neu her ychwanegol ar ddysgwyr mewn perthynas â’r uchod, a gosod cynllun clir ar gyfer cynnydd
- creu darlun cyfannol a meithrin dealltwriaeth o’u dysgu, eu cynnydd a’u cyflawniadau, ac ystyried sut bydd y rhain yn eu cefnogi yn y dyfodol
- myfyrio ar agweddau ar eu dysgu o fewn disgyblaethau penodol, ac ystyried sut gallai’r rhain gysylltu â dysgu a phrofiadau eraill (yn yr ysgol a’r tu allan i’r ysgol)
- myfyrio ar agweddau ar eu bywyd y tu allan i’r ysgol ac ystyried pethau sy’n helpu neu’n rhwystro eu cynnydd
- rhoi cyfleoedd iddyn nhw arddangos yr hyn maen nhw wedi’u dysgu a’u cyflawniadau y tu allan i’r ysgol yn ogystal ag yn yr ysgol, a myfyrio arnyn nhw (er enghraifft cyflawniadau ym meysydd chwaraeon neu gerddoriaeth, gwobrau Dug Caeredin, nodweddion neu sgiliau a ddatblygwyd o ganlyniad i amgylchiadau personol megis bod yn ofalwr cartref)
Mae adran Gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith canllawiau’r Cwricwlwm i Gymru yn amlinellu rhai o’r agweddau allweddol ar gymorth, cyngor, dysgu a phrofiadau y bydd eu hangen ar ddysgwyr ar gyfer gwaith a chamau nesaf ôl-16.
Mae’n rhaid sicrhau bod dysgwyr (mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion) sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol yn cael dilyn cwrs addysg am yrfaoedd. Yn ogystal, mae’n rhaid iddyn nhw gael mynediad at ddeunyddiau cyfarwyddyd ac ystod eang o ddeunyddiau cyfeirio cyfredol sy’n ymwneud ag addysg gyrfaoedd a’r cyfleoedd gyrfa sydd ar gael. Gellir bodloni’r ddyletswydd hon drwy sicrhau mynediad at wybodaeth drwy Gyrfa Cymru. Gall Gyrfa Cymru hefyd gefnogi elfen ‘Myfyrio ar ddysgu a chynnydd a chynllunio ôl-16’ yr hawl i ddysgu drwy gynnig cymorth i ddatblygu elfen gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith y cwricwlwm, ynghyd â chefnogi ysgolion i ennill Gwobr Ansawdd Gyrfa Cymru. Gallan nhw hefyd hwyluso gweithgareddau ymgysylltu â chyflogwyr.
Sicrhau cynnig eang o ran cymwysterau, dysgu a phrofiadau i gefnogi llwybrau dysgwyr
Er bod rhaid sicrhau dysgu ac addysgu ym mhob Maes ar gyfer dysgwyr ym Mlynyddoedd 10 ac 11, nid yw’n ofynnol dysgu ym mhob datganiad o’r hyn sy’n bwysig ym mhob Maes (sy’n wahanol i ddysgwyr hyd at ac yn cynnwys Blwyddyn 9). Mae angen i bob Maes fod yn rhan o’r cwricwlwm ar gyfer dysgwyr ym Mlynyddoedd 10 ac 11, p’un a ydyn nhw’n ymgymryd â chymhwyster yn ymwneud â’r Maes hwnnw ai peidio.
Diwygiwyd cymwysterau TGAU i gydnabod y Cwricwlwm i Gymru. Dylai dysgwyr sydd wedi bod yn dysgu o dan y Cwricwlwm i Gymru fod yn astudio ar gyfer cymwysterau diwygiedig pan fo modd. Golyga hyn y dylai dysgwyr a fydd yn dechrau Blwyddyn 10 ym mis Medi 2025 fod yn dewis o’r cynnig TGAU Gwneud-i-Gymru yn hytrach na’r hen gymwysterau y maen nhw’n eu disodli. Mae’r un egwyddor yn berthnasol i ddysgwyr Blwyddyn 10 ym mis Medi 2026, pan fydd rhagor o gymwysterau TGAU diwygiedig Gwneud-i-Gymru ar gael, gan gynnwys Y Gwyddorau (dyfarniad dwbl). O fis Medi 2027 ymlaen, dylai pob dysgwr fod yn dewis ei gymwysterau o’r cynnig Cymwysterau 14 i 16 Cenedlaethol (yn ogystal ag unrhyw gymwysterau y gellir eu dynodi ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed o dan bolisi dynodi diwygiedig Cymwysterau Cymru). Cydnabyddir y bydd ysgolion, y tu allan i’r cynnig TGAU, yn parhau i gynnig i ddysgwyr gymwysterau sydd eisoes yn bodoli ac a ddynodwyd fel rhai sy’n gymwys i’w defnyddio ar gyrsiau a ariennir yn gyhoeddus ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed nes bod yr ystod lawn o Gymwysterau 14 i 16 Cenedlaethol ar gael o fis Medi 2027.
Bydd angen i ysgolion wneud penderfyniadau ar y cymwysterau mwyaf priodol ar gyfer pob dysgwr. Bydd yr hyn sy’n briodol yn amrywio o ddysgwr i ddysgwr, a bydd yr ystyriaethau yn cynnwys a yw’r cymhwyster yn ddigon heriol, uchelgeisiol ac ymestynnol. Bydd angen i ysgolion ystyried amrywiaeth o ffactorau gan gynnwys:
- barn dysgwyr a’u rhieni neu eu gofalwyr
- budd pennaf y dysgwr
- dysgu blaenorol
- dyheadau a llwybrau
Bagloriaeth Cymru
Bydd y cymhwyster cyfunol a elwir yn Bagloriaeth Cymru yn dod i ben yn haf 2026 (dyfarniad terfynol). Ni fydd dysgwyr sy’n dechrau Blwyddyn 10 o 2025 ymlaen yn gallu cwblhau Bagloriaeth Cymru. Bydd y Dystysgrif Her Sgiliau yn parhau i fod ar gael i ddysgwyr sy’n dechrau Blwyddyn 10 yn 2025 a 2026.
Sicrhau dysgu ym mhob Maes
Mae’r hawl i ddysgu wedi’i gynllunio i gefnogi ysgolion i sicrhau dysgu ac addysgu ar draws pob Maes, ac i fodloni eu rhwymedigaethau mandadol o ran y cwricwlwm. O’r herwydd, gellir sicrhau dysgu ar draws pob un o 4 elfen yr hawl i ddysgu.
Pan fydd ysgolion yn ystyried eu dull o sicrhau dysgu ym mhob Maes, rhaid i’w cwricwlwm a’u trefniadau asesu ganiatáu i ddysgwyr wneud cynnydd priodol yn unol â’r egwyddorion cynnydd mandadol. Dylai ysgolion hefyd gynllunio dysgu a phrofiadau sy’n:
- defnyddio gwybodaeth a sgiliau o amrywiaeth o ddatganiadau o’r hyn sy’n bwysig ym mhob Maes
- crynhoi nodau eang pob Maes fel y’u disgrifir yn yr adran ‘Cyflwyniad’ ar gyfer pob Maes
P’un a yw dysgwr yn cyflawni cymhwyster mewn Maes ai peidio, wrth sicrhau dysgu ym mhob Maes, dylai’r dysgu fod yn:
- ystyrlon er mwyn caniatáu i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth
- cefnogi cynnydd yn y galluoedd, yr ymagweddau a’r nodweddion a nodir ym mhedwar diben y cwricwlwm
- herio dysgwyr a’u galluogi i wneud cynnydd yn y Maes hwnnw
- cynnwys nifer o brofiadau dysgu ar draws Blynyddoedd 10 ac 11 yn hytrach na darparu profiad untro
Wrth sicrhau dysgu ar draws y cwricwlwm, bydd angen i ysgolion ystyried amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys barn dysgwyr a’u rhieni neu eu gofalwyr, a budd pennaf y dysgwr. Ffactor pwysig fydd gofynion cwblhau cymwysterau. Pan nad yw’r cyfleoedd ar gyfer dysgu sy’n arwain at gymhwyster mewn Maes ar gael neu nad yw dysgwyr unigol wedi manteisio arnyn nhw, gellir cynnig cyfleoedd i sicrhau dysgu yn y Maes fel rhan o elfen ‘Dysgu a phrofiadau ehangach ar draws y cwricwlwm’ a thrwy gyfleoedd ar gyfer profiadau dysgu rhyngddisgyblaethol. Pan fo’n bosibl, cynghorir ysgolion i ystyried cyfleoedd i ddatblygu profiadau dysgu rhyngddisgyblaethol sy’n cyfrannu at ddysgwyr yn sicrhau dysgu mewn mwy nag un Maes. Gallai hyn hefyd gynnwys archwilio cyfleoedd lle gellir adeiladu ar ddysgu mewn un Maes neu ei ehangu (naill ai fel rhan o gymhwyster neu fel arall) er mwyn helpu i sicrhau dysgu mewn Maes arall. Yn hyn o beth, bydd yr amser a roddir i ddysgwyr fyfyrio ar eu dysgu o fudd, a gall ymarferwyr gefnogi’r broses honno o wneud cysylltiadau rhwng gwahanol agweddau ar ddysgu a phrofiadau.
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Mae’r Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn cefnogi dysgu ar draws yr holl gwricwlwm, Mae’n galluogi dysgwyr i ennill gwybodaeth a sgiliau yn y Gymraeg, Saesneg ac ieithoedd rhyngwladol yn ogystal â llenyddiaeth.
Fel sgil drawsgwricwlaidd, dylai llythrennedd fod yn rhan o gwricwlwm cyfan dysgwyr a dylai pob ymarferydd fod yn cefnogi eu cynnydd yn hynny o beth.
Y Gymraeg
Mae’r Gymraeg yn rhan fandadol o’r cwricwlwm ar gyfer pob blwyddyn ysgol, gan gynnwys Blynyddoedd 10 ac 11. Dylid cefnogi pob dysgwr i wneud cynnydd parhaus o ran dysgu a defnyddio’r Gymraeg yn ystod y blynyddoedd hyn. Mae gan gymwysterau rôl bwysig i’w chwarae wrth gefnogi ysgolion i gyflawni’r gofyniad hwn, mewn ffordd sy’n adeiladu ar ddysgu blaenorol dysgwyr.
Fel rhan o elfen ‘Cymwysterau mewn llythrennedd a rhifedd’ yr hawl i ddysgu, ym Mlynyddoedd 10 ac 11 dylai dysgu ac addysgu ar gyfer pob dysgwr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg Categori 3, a’r dysgwyr hynny mewn ysgolion dwy iaith Categori 2 sydd wedi’u haddysgu yn Gymraeg yn bennaf hyd at ddiwedd Blwyddyn 9, arwain at gymhwyster heriol, uchelgeisiol ac ymestynnol yn y Gymraeg.
Mae’r gyfres o gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru yn cynnig TGAU dyfarniad sengl a dwbl integredig mewn Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg.
- Mae’r dyfarniad dwbl wedi’i gyflwyno i ddarparu’r cymhwyster mwyaf priodol ar gyfer y mwyafrif o’r dysgwyr yn yr ysgolion hyn.
- Mae’r dyfarniad sengl yn darparu llwybr amgen i’r gyfran fach o ddysgwyr a fyddai’n elwa ar ddilyn cymhwyster llai na’r dyfarniad dwbl, o ystyried eu hamgylchiadau penodol.
Dylai dysgwyr y byddai wedi bod disgwyl iddyn nhw astudio ar gyfer cymhwyster TGAU Cymraeg Iaith yn flaenorol astudio’r dyfarniad TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg sengl neu ddwbl.
Dylid rhoi cyfle i’r rhai sydd newydd ymuno ag ysgolion cyfrwng Cymraeg Categori 3, nad ydyn nhw wedi cael addysg mewn ysgol neu leoliad cyfrwng Cymraeg o’r blaen, fynychu canolfan drochi hwyr er mwyn gallu elwa ar y dysgu yn ogystal ag ennill cymhwyster priodol mewn Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg.
Dylai dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg Categori 3 a’r rhai mewn ysgolion dwy iaith Categori 2 sydd wedi’u haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf, sy’n dechrau Blwyddyn 10 yn 2025 a 2026 ac nad ydyn nhw’n barod i ymgymryd â dyfarniad sengl neu ddwbl mewn TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg, ddilyn y cymhwyster Cymraeg Lefel Mynediad.
Ar gyfer ysgolion cyfrwng Saesneg Categori 1 ac i ddysgwyr mewn ysgolion dwy iaith Categori 2 sy’n dysgu drwy gyfrwng y Saesneg, mae’r gyfres o gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru yn cynnig TGAU Cymraeg Craidd i sicrhau y gall pob dysgwr barhau i wneud cynnydd ac ennill cymhwyster yn 16 oed mewn Cymraeg. Mae’r cymhwyster TGAU Cymraeg Craidd wedi’i gyflwyno yn lle’r cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith blaenorol i adlewyrchu dyheadau’r Cwricwlwm i Gymru ac i ddarparu cymhwyster priodol sy’n ddigon heriol ac uchelgeisiol ar gyfer dysgwyr yn yr ysgolion hyn.
Yn ogystal â’r prif TGAU Cymraeg Craidd, mae’r Dyfarniad Lefel 2 mewn Cymraeg Craidd Ychwanegol wedi’i gyflwyno ar gyfer dysgwyr sy’n gwneud cynnydd pellach o ran dysgu a defnyddio’r Gymraeg. Nid yw’n ddewis amgen i TGAU Cymraeg Craidd ac ni ddylid cofrestru dysgwyr ar gyfer cymhwyster Dyfarniad Lefel 2 mewn Cymraeg Craidd Ychwanegol oni bai eu bod wedi dilyn y cymhwyster TGAU Cymraeg Craidd, neu eu bod yn ymgymryd â’r cymwysterau ochr yn ochr â’i gilydd.
Dylai dysgwyr sy’n symud i ysgolion cyfrwng Saesneg Categori 1, sydd wedi’u haddysgu yn Gymraeg yn bennaf hyd at ddiwedd Blwyddyn 9, gael cyfle a chael eu hannog i gyflawni’r cymhwyster TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg dyfarniad dwbl neu sengl.
Ni ddylai’r cymwysterau TGAU Cymraeg Craidd a Dyfarniad Lefel 2 mewn Cymraeg Craidd Ychwanegol fod ar gael i ddysgwyr sydd wedi dilyn rhaglen astudio Cymraeg iaith gyntaf yn y gorffennol hyd at ddiwedd Blwyddyn 9. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y caniateir i’r dysgwyr hyn gael eu cofrestru ar gyfer TGAU Cymraeg Craidd a Dyfarniad Lefel 2 mewn Cymraeg Craidd Ychwanegol a bydd gofyn i’w hysgol ddangos mai’r cymwysterau hyn yw’r rhai mwyaf addas iddyn nhw wneud cynnydd yn eu dysgu Cymraeg.
Mae canllawiau pellach ar gynllunio cwricwlwm sy’n cefnogi cynnydd yn Cymraeg mewn addysg cyfrwng Saesneg ar gael o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.
Bydd angen i ysgolion ym mhob un o’r 3 chategori iaith ystyried sut byddan nhw’n sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei herio ac yn gwneud cynnydd addas wrth ddysgu Cymraeg yn unol â Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) ei awdurdod lleol, drwy gynyddu neu gryfhau’r dysgu a’r addysgu Cymraeg yn ogystal ag ehangu cyfleoedd i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth drwy weithgareddau’r Siarter Iaith a Chymraeg Campus, rhaglen ar gyfer dysgwyr sy’n dysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.
Saesneg
Fel rhan o elfen ‘Cymwysterau mewn llythrennedd a rhifedd’ yr hawl i ddysgu, ym Mlynyddoedd 10 ac 11 dylai ysgolion sicrhau bod pob dysgwr yn dilyn cwrs heriol, uchelgeisiol ac ymestynnol sy’n arwain at gymhwyster mewn Saesneg. Bydd hyn yn caniatáu i ysgolion fodloni’r gofyniad i gynnwys y pwnc hwn fel rhan fandadol o’u cwricwlwm ac i gefnogi cyfnodau pontio dysgwyr yn y dyfodol.
Mae’r gyfres o gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru yn cynnig TGAU dyfarniad sengl a dyfarniad dwbl integredig mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg.
- Mae’r dyfarniad dwbl wedi’i gyflwyno i ddarparu’r cymhwyster mwyaf priodol i’r mwyafrif o ddysgwyr a dylai pob ysgol ei gynnig.
- Mae’r dyfarniad sengl yn darparu llwybr amgen i’r gyfran fach o ddysgwyr a fyddai’n elwa ar ddilyn cymhwyster llai na’r dyfarniad dwbl, o ystyried eu hamgylchiadau penodol.
O ran dysgwyr sy’n dechrau Blwyddyn 10 yn 2025 a 2026, ac nad ydyn nhw’n barod i ymgymryd â’r dyfarniad sengl na’r dyfarniad dwbl TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, dylen nhw ddilyn cymhwyster Saesneg Lefel Mynediad. O 2027 ymlaen, fel rhan o’r ystod o Gymwysterau 14 i 16 Cenedlaethol, ochr yn ochr â’r cymwysterau TGAU Saesneg, bydd cymhwyster Sylfaenol mewn Saesneg ar gael sy’n rhychwantu Lefel Mynediad a Lefel 1, gan ddarparu llwybr amgen i gymhwyster llythrennedd i rai dysgwyr.
Ieithoedd rhyngwladol
Bydd rhai dysgwyr yn dewis dilyn cymwysterau mewn un neu ragor o ieithoedd rhyngwladol. Dylai ysgolion sicrhau bod yr opsiwn hwn ar gael i ddysgwyr ym Mlynyddoedd 10 ac 11 o dan elfen ‘Cymwysterau i annog ehangder’ yr hawl i ddysgu.
Pan na fo dysgwyr yn dewis dilyn cymhwyster mewn iaith ryngwladol, anogir ysgolion i roi cyfleoedd i ddysgwyr barhau â’u cynnydd yn hyn o beth o dan elfen ‘Dysgu a phrofiadau ehangach ar draws y cwricwlwm’ yr hawl i ddysgu.
Mathemateg a Rhifedd
Mae’r Maes Dysgu a Phrofiad Mathemateg a Rhifedd yn sail i sawl agwedd ar ein bywydau bob dydd, ac mae’n hanfodol ar gyfer gwneud cynnydd ar draws Meysydd.
Fel sgil drawsgwricwlaidd, dylai rhifedd fod yn rhan o gwricwlwm cyfan dysgwyr a dylai pob ymarferydd fod yn cefnogi eu cynnydd yn hynny o beth.
Fel rhan o elfen ‘Cymwysterau mewn llythrennedd a rhifedd’ yr hawl i ddysgu, ym Mlynyddoedd 10 ac 11 dylai ysgolion sicrhau bod pob dysgwr yn dilyn cwrs heriol, uchelgeisiol ac ymestynnol sy’n arwain at gymhwyster yn y Maes hwn. Bydd hyn yn caniatáu i ysgolion fodloni’r gofyniad i gynnwys y pwnc hwn fel rhan fandadol o’u cwricwlwm ac i gefnogi cyfnodau pontio dysgwyr yn y dyfodol.
Mae’r gyfres o gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru yn cynnig dyfarniad dwbl TGAU Mathemateg a Rhifedd. Mae’r dyfarniad dwbl hwn wedi’i gyflwyno i ddarparu’r cymhwyster mwyaf priodol ar gyfer y mwyafrif o ddysgwyr. Bydd yn parhau i fod yn gymhwyster haenog (sy’n cynnwys haen sylfaenol a haen uwch) fel y gall ysgolion gofrestru dysgwyr ar yr haen fwyaf addas ar gyfer eu hanghenion unigol. O 2026 ymlaen, bydd cymhwyster Lefel 2 Mathemateg Ychwanegol ar gael hefyd. Mae wedi’i gynllunio i adeiladu ar y dysgu o TGAU Mathemateg a Rhifedd, ac i ddarparu cyfleoedd ymestyn a herio ychwanegol i ddysgwyr sydd â’r gallu neu’r diddordeb i ddatblygu eu sgiliau mathemategol ymhellach.
O ran dysgwyr sy’n dechrau ym Mlwyddyn 10 yn 2025 a 2026 ac nad ydyn nhw’n barod i ymgymryd â’r dyfarniad dwbl TGAU Mathemateg a Rhifedd, dylen nhw ddilyn cymhwyster Lefel Mynediad sy’n ymwneud â mathemateg a rhifedd. Fel rhan o’r Cymwysterau 14 i 16 Cenedlaethol, ochr yn ochr â’r cymhwyster TGAU, bydd cymhwyster Sylfaenol mewn mathemateg a rhifedd ar gael sy’n rhychwantu Lefel Mynediad a Lefel 1, gan ddarparu llwybr amgen i gymhwyster rhifedd i rai dysgwyr.
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae’r Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn hynod bwysig wrth ddatblygu dealltwriaeth o’n byd modern, gyda datblygiadau mewn gwyddoniaeth a thechnoleg yn sbarduno newid mewn cymdeithas, yn sail i arloesedd, ac yn effeithio ar fywydau pawb yn economaidd, yn ddiwylliannol ac yn amgylcheddol.
O dan elfen ‘Cymwysterau i annog ehangder’ yr hawl i ddysgu, dylai ysgolion gynnig ystod o gyrsiau uchelgeisiol a digon heriol sy’n arwain at gymwysterau yn y Maes hwn. Mae hyn yn ymestyn i gyrsiau mewn cyfrifiadura a thechnoleg ddigidol.
Fel sgil drawsgwricwlaidd, dylai cymhwysedd digidol fod yn rhan o gwricwlwm cyfan dysgwyr a dylai pob ymarferydd fod yn cefnogi eu cynnydd yn hynny o beth.
Dylai bob dysgwr cael cyfle i ennill cymhwyster uchelgeisiol yn y gwyddorau i gefnogi eu cyfnodau pontio yn y dyfodol. Ym Mlynyddoedd 10 ac 11, dylai ysgolion sicrhau bod pob dysgwr yn dilyn cwrs heriol, uchelgeisiol ac ymestynnol sy’n arwain at gymhwyster yn y gwyddorau.
O 2026 ymlaen, bydd y gyfres o gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru yn cynnig TGAU Y Gwyddorau (dyfarniad dwbl). Mae TGAU Y Gwyddorau yn cael ei gyflwyno i ddarparu’r cymhwyster mwyaf priodol i’r rhan fwyaf o ddysgwyr a dylai pob ysgol ei gynnig. Bydd yn gymhwyster haenog – sy’n cynnwys haen sylfaenol a haen uwch – fel y gall ysgolion gofrestru dysgwyr ar yr haen fwyaf addas ar gyfer eu hanghenion unigol. Dylai ysgolion gefnogi pob dysgwr sydd am ymgymryd â TGAU Y Gwyddorau i wneud hynny, pan mai dyma sydd orau i’r dysgwr.
Bydd TGAU gwyddoniaeth integredig (dyfarniad sengl) ar gael hefyd. Bydd yn darparu llwybr arall i’r gyfran fach o ddysgwyr a fyddai’n elwa ar ddilyn cymhwyster gwyddoniaeth llai na TGAU Y Gwyddorau, o ystyried eu hamgylchiadau penodol. Nid yw’r cymhwyster dyfarniad sengl hwn wedi’i gynllunio i gefnogi cynnydd tuag at TAG Y Gwyddorau (UG a Safon Uwch).
Hyd nes i’r cymwysterau hyn gael eu cyflwyno ym mis Medi 2026, dylai ysgolion barhau i ddefnyddio’r gyfres bresennol o gymwysterau gwyddoniaeth i gefnogi cynnydd dysgwyr a’r llwybrau a ddilynir ganddyn nhw yn y gwyddorau yn y dyfodol.
Y Celfyddydau Mynegiannol
Mae’r Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol wedi’i gynllunio i ennyn diddordeb dysgwyr a’u hysgogi a’u hannog i ddatblygu i’r eithaf eu sgiliau creadigol ac artistig, ynghyd â’u sgiliau perfformio.
O dan elfen ‘Cymwysterau i annog ehangder’ yr hawl i ddysgu, cynghorir ysgolion i gynnig amrywiaeth o gyrsiau dysgu sy’n arwain at gymwysterau yn y Maes hwn.
P’un a yw dysgwr yn dilyn cwrs sy’n arwain at gymhwyster mewn pwnc neu ddisgyblaeth yn y celfyddydau mynegiannol ai peidio, mae’n hanfodol bod pob dysgwr yn cael cyfleoedd i wneud cynnydd tuag at bedwar diben y cwricwlwm drwy ddysgu a phrofiadau yn y Maes hwn. Gellir cynllunio cyfleoedd o’r fath fel dysgu a ddarperir ar wahân neu wedi’i ymgorffori mewn dysgu ehangach, a byddai’r cyfleoedd yn dod o dan elfen ‘Dysgu a phrofiadau ehangach ar draws y cwricwlwm’ yr hawl i ddysgu.
Iechyd a Lles
Mae’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn ymwneud â datblygu gallu dysgwyr i wynebu heriau a chyfleoedd bywyd. Elfennau sylfaenol y Maes hwn yw iechyd a datblygiad corfforol, iechyd meddwl, a lles emosiynol a chymdeithasol. Dylid cefnogi dysgwyr i ddeall sut mae gwahanol elfennau iechyd a lles yn gydgysylltiedig. Mae iechyd a lles da yn bwysig er mwyn galluogi dysgu llwyddiannus.
O dan elfen ‘Cymwysterau i annog ehangder’ yr hawl i ddysgu, cynghorir ysgolion i gynnig ystod o gymwysterau yn y Maes hwn.
At ddibenion sicrhau dysgu, mae’r Maes hwn yn cynnwys ystod eang o ddysgu sy’n hanfodol i alluogi pob dysgwr i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir ym mhedwar diben y cwricwlwm ac i’w gynnydd ehangach. Gellir cynllunio dysgu a chyfleoedd o’r fath fel dysgu a ddarperir ar wahân, wedi’i ymgorffori o fewn dysgu ehangach neu a gynigir o dan elfen ‘Dysgu a phrofiadau ehangach ar draws y cwricwlwm’ yr hawl i ddysgu.
Yn ogystal â dull ysgol gyfan o fynd i’r afael â lles dysgwyr, mae disgwyl i ysgolion gynnwys y canlynol yn eu cwricwlwm:
- cyfleoedd wythnosol o leiaf i ddysgwyr fwynhau a datblygu eu galluoedd mewn gweithgareddau corfforol
- cyfleoedd rheolaidd a chyson i ddysgwyr gefnogi eu hiechyd meddwl, eu lles emosiynol a’u cydberthnasoedd
- cyfleoedd i ddysgwyr ddysgu am agweddau eraill ar bob un o’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig a datblygu ymddygiadau cadarnhaol mewn perthynas â nhw
Ar wahân i’r gofyniad i sicrhau dysgu yn y Maes hwn, rhaid i ysgolion barhau i ddarparu dysgu mewn addysg cydberthynas a rhywioldeb ar gyfer pob dysgwr ym Mlynyddoedd 10 ac 11 yn unol â gofynion y Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, y Cod addysg cydberthynas a rhywioldeb a’r canllawiau addysg cydberthynas a rhywioldeb. Nid oes angen i’r dysgu hwn arwain at unrhyw gymhwyster penodol. Mater i ysgolion fydd cynllunio’r dull mwyaf priodol ar gyfer diwallu anghenion eu dysgwyr. Rhaid i’r holl ddysgu ac addysgu a ddarperir drwy addysg cydberthynas a rhywioldeb fod yn briodol i ddatblygiad pob dysgwr.
Y Dyniaethau
Mae’r Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau yn annog dysgwyr i ymwneud â’r materion pwysicaf sy’n wynebu dynoliaeth, gan gynnwys hawliau dynol, amrywiaeth, cynaladwyedd a newid cymdeithasol, a helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ddehongli a disgrifio’r gorffennol a’r presennol.
O dan elfen ‘Cymwysterau i annog ehangder’ yr hawl i ddysgu, cynghorir ysgolion i gynnig ystod o gymwysterau yn y Maes hwn.
P’un a yw dysgwr yn dilyn cwrs sy’n arwain at gymhwyster mewn pwnc neu ddisgyblaeth yn y dyniaethau ai peidio, mae’n hanfodol bod pob dysgwr yn cael y cyfle i wneud cynnydd tuag at bedwar diben y cwricwlwm drwy ddysgu a phrofiadau yn y Maes hwn. Gellir cynllunio cyfleoedd o’r fath fel dysgu a ddarperir ar wahân neu wedi’i ymgorffori mewn dysgu ehangach, sy’n dod o dan elfen ‘Dysgu a phrofiadau ehangach ar draws y cwricwlwm’ yr hawl i ddysgu.
Ar wahân i’r gofyniad i sicrhau dysgu yn y Maes hwn, rhaid i ysgolion barhau i ddarparu dysgu mewn crefydd, gwerthoedd a moeseg ar gyfer pob dysgwr ym Mlynyddoedd 10 ac 11 yn unol â gofynion y Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 a chanllawiau crefydd, gwerthoedd a moeseg. Nid oes angen i’r dysgu hwn arwain at unrhyw gymhwyster penodol. Mater i ysgolion fydd cynllunio’r dull mwyaf priodol ar gyfer diwallu anghenion eu dysgwyr.
Hunanwerthuso a gwella
Ysgolion sy’n gyfrifol yn y pen draw am y cwricwlwm a ddarperir i bob dysgwr ar hyd y continwwm 3 i 16. Ym Mlynyddoedd 10 ac 11 bydd y cwricwlwm hwn yn cael ei ddylanwadu gan rai o’r dewisiadau a wneir gan ddysgwyr a chan eu cymwysterau cysylltiedig. Mae gan bob dysgwr, ni waeth beth fo’i ddewisiadau, yr hawl i orffen ei gyfnod o addysg orfodol yn 16 oed â’r gallu i ddangos ei ddysgu, ei gynnydd a’i gyflawniadau yn unol â’r hawl i ddysgu 14 i 16.
Pan fo ysgolion yn pryderu y bydd dysgwr yn cwblhau addysg orfodol heb ddysgu, heb wneud cynnydd neu heb gyflawniadau mewn un neu ragor o elfennau yr hawl i ddysgu, dylen nhw roi gwybod i’r awdurdod lleol fel y gellir darparu cymorth digonol i’r dysgwr hwnnw wrth iddo bontio i ôl-16.
Fel rhan o’u prosesau hunanwerthuso a gwella, dylai ysgolion fonitro, gwerthuso a myfyrio ar y canlynol:
- eu cynnig cwricwlwm i ddysgwyr ym Mlynyddoedd 10 ac 11, gan sicrhau bod hyn yn caniatáu i bob dysgwr gyflawni a chael mynediad at brofiadau dysgu ar draws bob un o 4 elfen yr hawl i ddysgu
- ansawdd y cwricwlwm, y dysgu a’r addysgu a gynigir i bob dysgwr unigol ym Mlynyddoedd 10 ac 11
- i ba raddau y mae pob dysgwr, ar ôl cwblhau ei addysg ym Mlwyddyn 11, wedi gwneud cynnydd priodol ar draws holl elfennau’r hawl i ddysgu
- i ba raddau y mae dysgwyr wedi ymgymryd â chymwysterau heriol, uchelgeisiol ac ymestynnol, a’u cyflawni, gan ystyried eu hanghenion unigol, dysgu blaenorol a llwybrau yn y dyfodol
Bydd amrywiaeth o wybodaeth a thystiolaeth y gall ysgolion eu defnyddio ar lefel ysgol ac ar lefel dysgwyr unigol i werthuso eu cynnig cwricwlwm ac i werthuso a ydyn nhw’n bodloni’r gofynion a nodir yng nghanllawiau’r Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys gwybodaeth am gofrestriadau a deilliannau cymwysterau. Dylai rhan sylweddol o’r dystiolaeth hon hefyd gynnwys y ffordd y gall eu dysgwyr fyfyrio ar eu dysgu a’u cynnydd, a pha mor hyderus y maen nhw’n teimlo ynghylch pontio i ôl-16.
Dylai casgliadau’r gwerthusiadau hyn lywio trefniadau cynllunio gwella ysgolion.
Dylai ysgolion, fel rhan o’u rhwymedigaethau statudol (o dan y Cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 57 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021) wrth ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd, drafod a gwerthuso eu cynnig cwricwlwm ar gyfer Blynyddoedd 10 ac 11 gydag ysgolion uwchradd eraill. Bydd hyn yn helpu ysgolion i gael gwell dealltwriaeth o ansawdd eu cwricwlwm a chael ymdeimlad seiliedig ar wybodaeth o’u disgwyliadau ar gyfer cynnydd a chyflawniad dysgwr.
Un ffordd o fodloni’r gofyniad hwn yw i ysgolion uwchradd gyfarfod ar yr achlysuron canlynol yn ystod pob blwyddyn academaidd.
- Yn gynnar yn nhymor yr hydref: i fyfyrio ar y dysgwyr Blwyddyn 11 hynny a adawodd addysg orfodol yn nhymor yr haf blaenorol. Gallai ysgolion ystyried dysgu, cynnydd a chyflawniadau priodol dysgwyr ym mhob elfen o’r hawl i ddysgu a sut mae’r cynnydd hwnnw ar hyd y continwwm 3 i 16 wedi eu cefnogi i symud ymlaen i ôl-16.
- Yn ddiweddarach yn nhymor yr hydref neu’n gynnar yn nhymor y gwanwyn: i ystyried cynnydd, dysgu, cyflawniadau a chynlluniau ôl-16 priodol y dysgwyr yn eu carfan Blwyddyn 11 bresennol.
Dylai cynghorwyr gwella helpu i hwyluso’r gwerthusiad hwn a datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd rhwng ysgolion, fel rhan o’u rôl ehangach o ran hyrwyddo, cyfryngu a goruchwylio cydweithio rhwng ysgolion a gwaith clwstwr. Wrth weithio gydag ysgolion unigol, byddan nhw hefyd yn darparu adborth a chymorth ynghylch trefniadau hunanwerthuso ysgolion, gan ystyried gwerthuso cynnydd dysgwyr ar draws holl elfennau’r hawl i ddysgu.
Fodd bynnag, ni ddylai gwaith i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd rhwng ysgolion uwchradd gael ei gyfyngu i ddysgwyr ym Mlwyddyn 11.
Ecosystem ddata a gwybodaeth addysg newydd
Mae’r polisi a nodir yn y canllawiau hyn, sy’n canolbwyntio ar yr hawl i ddysgu 14 i 16, yn crynhoi’r elfennau hynny o ddysgu 14 i 16 sy’n cael eu hystyried yn bwysicaf i ddysgwyr ym Mlynyddoedd 10 ac 11. Bydd yr elfennau hyn yn helpu i bennu un agwedd ar yr wybodaeth a’r dystiolaeth y dylid ei defnyddio ar wahanol lefelau system yr ysgol at ddibenion gwerthuso, gwella ac atebolrwydd, wrth ddatblygu ecosystem wybodaeth ddiwygiedig sy’n cefnogi amcanion polisi.
Gan ddefnyddio’r canllawiau hyn, caiff cynigion ar gyfer yr ecosystem wybodaeth eu datblygu ar y cyd ag ymarferwyr ac arweinwyr a’u rhannu â’r sector. Bydd trefniadau newydd yn cael eu cwblhau erbyn haf 2025, yn barod ar gyfer addysgu dysgwyr Blwyddyn 10 am y tro cyntaf o dan y Cwricwlwm i Gymru.