English

Hwb

Yr Hyn sy’n Bwysig mewn Iechyd a Lles

Trefnu yn ôl

  • Bydd Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn helpu dysgwyr i ddeall y ffactorau sy’n effeithio ar iechyd a lles y corff, megis deiet cytbwys, gweithgareddau corfforol, gofal a hylendid personol, cwsg, a diogelwch rhag haint. Drwy ddeall hyn, bydd dysgwyr yn gallu datblygu ymddygiad sy’n eu helpu i barchu ac i ofalu amdanynt eu hunain ac eraill. Bydd hyn yn ei dro yn cyfrannu at ddatblygu synnwyr o hunanwerth yn y dysgwyr ac yn cyfrannu hefyd at eu hwyliau’n gyffredinol ynghyd â’u lefelau egni.

    O gael profiadau addysgiadol, hwyliog megis gweithgarwch corfforol rheolaidd a deiet maethlon a chytbwys, bydd dysgwyr yn meithrin yr ymagweddau sydd eu hangen arnynt er mwyn byw mewn ffordd sy’n cefnogi iechyd a lles y corff.

    Drwy ddatblygu lles ac iechyd y corff da, nid yn unig bydd cymhwysedd corfforol y dysgwyr yn gwella ynghyd â’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth am y corff, ond bydd eu hyder a’u cymhelliant yn datblygu hefyd, a gall y cyfan hwn eu helpu i fyw bywydau iach ac actif.

    Mae’r maes dysgu a phrofiad hwn yn cydnabod y modd y mae datblygiad corfforol yn cydberthyn yn agos i ddatblygiad gwybyddol gydol oes, er enghraifft y modd y mae’n helpu i ddatblygu lleferydd ac iaith yn ystod y blynyddoedd cynnar. Mae hefyd yn cydnabod sut y caiff iechyd a lles y corff eu dylanwadu gan y modd yr ydym yn gweld ac yn ystyried ein hunain mewn perthynas ag eraill ac â’n hamgylchfyd, ac mae’n gwerthfawrogi pwysigrwydd cydnabod a derbyn gwahaniaethau.

    Disgrifiadau o ddysgu sy’n seiliedig ar gynnydd o fewn ac ar draws datganiadau o’r hyn sy’n bwysig, sydd, yn eu tro, yn adlewyrchu pedwar diben y cwricwlwm.

    • Egwyddorion cynnydd yw’r sail ar gyfer datblygu’r deilliannau cyflawniad a dylent lywio dilyniant y dysgu o fewn y maes dysgu a phrofiad.

      Dysgu gwell hunanreolaeth: Daw’r dysgwyr yn gynyddol annibynnol a chymwys o ran rheoli eu hemosiynau a’u hymddygiad.

      Dod yn fwy cyfrifol yn gymdeithasol: Mae’r dysgwyr yn tyfu o ran eu hunanymwybyddiaeth ac o ran y modd y maent yn ystyried sut y mae eu gweithredoedd yn effeithio ar eraill.

      Soffistigeiddrwydd gwybodaeth a sgiliau: Gall y materion yr ymdriniwyd â nhw gael eu hystyried o’r newydd ac mewn mwy o ddyfnder wrth i allu a dealltwriaeth y dysgwyr ddod yn fwy soffistigedig.

      Twf datblygiadol: Mae’r cynnydd yn cyd-fynd â cherrig milltir datblygiad plant.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf symud mewn gwahanol ffyrdd, a gallaf ddewis cymryd rhan mewn chwarae sy’n galw am weithgaredd corfforol a hynny naill ar fy mhen fy hun neu gydag eraill.

      Gallaf reoli symudiadau bras a manwl drwy gyfleoedd chwarae sy’n galw am weithgaredd corfforol a thasgau pob-dydd mewn gwahanol amgylcheddau.

      Gallaf ymateb i gyfarwyddiadau am symud a gallaf symud yn ddiogel mewn mannau amrywiol.

      Gallaf archwilio amrywiaeth o fwydydd, diodydd, blasau ac ansoddau, mewn amrywiaeth o gyd-destunau a lleoliadau.

      Rwyf wedi dod i ddeall bod angen i mi fwyta, yfed a chysgu er mwyn byw.

      Rwyf wedi dod i ddeall bod angen deiet cytbwys arnaf er mwyn tyfu, er mwyn ymgymryd â gweithgarwch corfforol ac er mwyn cynnal corff iach.

      Rwyf wedi dod yn ymwybodol o newidiadau corfforol ac emosiynol pan fyddaf yn ymgymryd â gweithgarwch corfforol.

      Rwyf wedi dod yn ymwybodol o’r gweithgareddau rwy’n eu mwynhau a’r pethau y gallaf eu gwneud yn dda.

      Gallaf ddilyn arferion pob-dydd er mwyn cadw fy hun yn lân.

      Rwyf wedi dod i ddeall y bydd fy nghorff yn newid wrth i mi dyfu.

      Gallaf adnabod peryglon a sefyllfaoedd a allai fod yn niweidiol i’m hiechyd corfforol.

    • Deilliannau cyflawniad

      Rwyf wedi datblygu’r hyder i gymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau corfforol rheolaidd, ac yn chwarae ar fy mhen fy hun, gyda phartner neu mewn grwpiau bach.

      Gallaf ganolbwyntio wrth ymateb i heriau corfforol yn ystod gweithgareddau chwarae distrwythur a thasgau â ffocws.

      Rwyf wedi datblygu’r hyder i chwilio am weithgareddau a chyfarpar sy’n diwallu fy anghenion.

      Gallaf ddefnyddio a gwella sgiliau symud sylfaenol mewn sefyllfaoedd cyfarwydd a newydd.

      Rwyf wedi datblygu fy ngallu i ymateb yn greadigol i gyfarwyddiadau, gan symud yn ddiogel i mewn ac allan o fannau amrywiol wrth weithio ar fy mhen fy hun a chydag eraill.

      Gallaf baratoi bwyd sydd, rwy’n gwybod, yn rhan o ddeiet cytbwys.

      Rwyf wedi dod i ddeall bod angen cwsg, gorffwys a deiet cytbwys arnaf er mwyn byw a ffynnu.

      Gallaf ddeall bod cysylltiad rhwng deiet a lefelau gweithgarwch corfforol.

      Gallaf ddisgrifio’r newidiadau corfforol ac emosiynol rwy’n eu profi pan fyddaf yn ymgymryd â gweithgarwch corfforol.

      Gallaf fyfyrio ar fy mherfformiad fy hun a pherfformiad eraill gan ddisgrifio cryfderau a meysydd i’w gwella.

      Gallaf gymryd mwy o gyfrifoldeb dros fy ngofal a’m hylendid personol.

      Rwyf wedi dod i ddeall y bydd fy nghorff a’m hemosiynau yn newid wrth i mi dyfu.

      Rwyf wedi dod i ddeall y gall rhai sylweddau penodol ysgogi newidiadau a all effeithio ar fy iechyd corfforol.

      Gallaf adnabod ac ymateb i ymddygiad a sefyllfaoedd sy’n niweidiol i’m hiechyd corfforol fy hun ac i iechyd corfforol pobl eraill.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol yn rheolaidd a chael boddhad ohonynt.

      Gallaf gymell fy hun i ddal ati i ymarfer.

      Rwyf wedi datblygu’r hyder i gyflawni heriau corfforol sy’n cael eu gosod gennyf fi fy hun ac eraill.

      Gallaf ddatblygu a chymhwyso amrywiaeth o sgiliau yn ddiogel mewn sefyllfaoedd cyfarwydd, newydd a chyfnewidiol.

      Gallaf ddefnyddio gofod mewn ffordd greadigol er mwyn symud mewn ymateb i amrywiaeth o ysgogiadau.

      Gallaf arbrofi gydag amrywiaeth o rolau a chyfrifoldebau.

      Gallaf gynllunio a pharatoi prydau sylfaenol, cytbwys a maethlon gan ddefnyddio cynhwysion syml a fforddiadwy.

      Rwyf wedi dod i ddeall pwysigrwydd deiet cytbwys, cwsg a gorffwys i’m corff a’m meddwl wrth eu bod yn datblygu.

      Rwyf wedi dod i ddeall yr effaith benodol a gaiff deiet ar ein gallu i ffynnu a sut y gellir sicrhau cydbwysedd egni priodol drwy ddeiet a gweithgarwch corfforol.

      Gallaf egluro’r newidiadau corfforol ac emosiynol sy’n digwydd pan fyddaf yn ymgymryd â gweithgarwch corfforol.

      Gallaf weithio ar fy mhen fy hun a chydag eraill er mwyn cynllunio, monitro a gwerthuso perfformiad, gan bennu targedau perthnasol i fi fy hun.

      Gallaf gymryd cyfrifoldeb am hylendid personol er mwyn diogelu fy iechyd corfforol.

      Rwyf wedi dod i ddeall effaith y glasoed ar y corff a’r meddwl.

      Rwyf wedi dod i ddeall y gall rhai sylweddau penodol ysgogi newidiadau a all effeithio ar fy iechyd.

      Rwyf wedi dod i ddeall ymddygiad a sefyllfaoedd sy’n niweidiol i’m hiechyd corfforol fy hun ac i iechyd corfforol eraill, a gallaf ymateb yn briodol.

    • Deilliannau cyflawniad

      Rwyf wedi datblygu’r brwdfrydedd a’r ymroddiad i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol yn rheolaidd.

      Rwyf wedi datblygu’r hyder i ddethol a chymhwyso amrywiaeth o strategaethau, gan ddal ati i ganolbwyntio er mwyn goresgyn heriau corfforol.

      Gallaf drosglwyddo amrywiaeth o sgiliau o gyd-destunau ac amgylcheddau cyfarwydd i rai anghyfarwydd a chyfnewidiol.

      Rwyf wedi datblygu sgiliau cymhleth mewn amrywiaeth o rolau a chyfrifoldebau a hynny mewn amrywiol weithgareddau.

      Gallaf gynllunio a pharatoi amrywiaeth o brydau maethlon a chytbwys gan ddefnyddio cynhwysion syml a fforddiadwy.

      Gallaf gymhwyso’r hyn rwy’n ei wybod am ddeiet a maeth er mwyn gwneud dewisiadau priodol sy’n cael effaith gadarnhaol ar fy iechyd a’m lles.

      Gallaf wneud dewisiadau deietegol priodol sy’n galluogi i mi gynnal cydbwysedd egni priodol.

      Gallaf ddadansoddi’r newidiadau corfforol ac emosiynol sy’n digwydd pan fyddaf yn ymgymryd â gweithgarwch corfforol.

      Gallaf gydweithio gydag eraill i gynllunio, gwerthuso a mireinio perfformiad mewn amrywiaeth o weithgareddau.

      Gallaf amddiffyn fy hun rhag clefydau, salwch a heintiau.

      Gallaf reoli’r newidiadau sy’n gysylltiedig â’r glasoed yn briodol.

      Rwyf wedi dod i ddeall sut y gall rhai sylweddau penodol ysgogi newidiadau a all effeithio ar fy iechyd corfforol.

      Gallaf gymhwyso’r hyn rwy’n ei ddeall am ymddygiad sy’n cael effaith niweidiol ar iechyd er mwyn cadw fy hun ac eraill yn ddiogel.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf werthfawrogi’r buddiannau a ddaw o gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol cyson ac mae gennyf ddigon o hunangymhelliant i wneud hynny.

      Rwyf wedi dod i werthfawrogi fy ngallu i symud a’m hiechyd corfforol ac rwy’n hyderus y gallaf gwrdd â heriau corfforol.

      Gallaf fynd ati’n annibynnol i chwilio am gyfleoedd i ddatblygu fy arbenigedd mewn gweithgareddau corfforol, chwaraeon ac iechyd corfforol.

      Gallaf fynd ati’n annibynnol i addasu a chymhwyso sgiliau ar draws cyd-destunau amrywiol ac mewn amrywiaeth o weithgareddau ac amgylcheddau gwahanol.

      Gallaf gymhwyso strategaethau soffistigedig er mwyn cefnogi fy nghynnydd fy hun a chynnydd eraill mewn amrywiaeth eang o weithgareddau.

      Gallaf gymhwyso amrywiaeth o dechnegau er mwyn paratoi prydau maethlon a chytbwys drwy gyfuno blasau gan ddefnyddio cynhwysion fforddiadwy.

      Gallaf gymhwyso’r hyn rwy’n ei ddeall am ddeiet cytbwys, gan addasu fy neiet yn ôl anghenion ac amgylchiadau personol.

      Gallaf ddefnyddio’r hyn rwy’n ei wybod am ddeiet a maeth i helpu eraill i ddewis deiet a ffordd iach o fyw.

      Gallaf gynnal gwerthusiad beirniadol o’r newidiadau corfforol ac emosiynol sy’n digwydd yn sgil gweithgarwch corfforol.

      Gallaf gynnal gwerthusiad beirniadol a mynd ati’n annibynnol i ddethol strategaethau priodol ar gyfer fy hunan ac eraill er mwyn gwella iechyd a lles y corff.

      Gallaf ddefnyddio’r hyn rwy’n ei wybod am glefydau, salwch a heintiau i amddiffyn fy hun a rhoi arweiniad a chymorth i eraill.

      Gallaf ymddwyn mewn ffordd sy’n hybu iechyd ac rwy’n gwerthfawrogi fy iechyd corfforol fy hun ac eraill.

    Gwybodaeth ategol i helpu ymarferwyr i ddylunio a datblygu cwricwla manwl mewn ysgolion a lleoliadau.

    • Mae’r adran hon yn awgrymu lle gellid cyfoethogi dysgu drwy wneud cysylltiadau rhwng datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ar draws Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles. Mae hefyd yn awgrymu ymhle gellid ystyried gwahanol elfennau o ddysgu gyda’i gilydd er mwyn cefnogi dysgu sy’n fwy holistaidd.

      Mae’r ffordd rydym yn prosesu ein profiadau ac yn ymateb iddynt yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol.

      • Y gyd-ddibyniaeth rhwng iechyd y corff ac iechyd meddwl a lles emosiynol.
      • Y cysylltiadau rhwng iechyd y corff ac iechyd meddwl a lles emosiynol, gan gynnwys delwedd y corff, hunaniaeth a newidiadau ffisiolegol sy’n ymwneud â’r emosiynau.
      • Ymateb i effaith y glasoed ar les emosiynol.
      • Rôl hunanreolaeth o ran cefnogi iechyd a lles y corff ac o ran goresgyn heriau wrth wneud gweithgareddau corfforol.

      Mae’r ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau yn effeithio ar ansawdd ein bywydau ni a bywydau eraill.

      • Risgiau a gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar iechyd corfforol.
      • Gwneud penderfyniadau wrth wneud gweithgareddau corfforol (gan gynnwys dethol offer a strategaethau priodol).

      Mae’r ffordd rydym yn ymgysylltu â dylanwadau cymdeithasol gwahanol yn siapio pwy ydym ni a’n hiechyd a’n lles.

      • Effaith dylanwadau cymdeithasol ar ymddygiad ac arferion sy’n effeithio ar iechyd corfforol.
      • Sut y gall agweddau a normau cymdeithasol effeithio ar hunanddelwedd a hunaniaeth gorfforol.
      • Y ffordd y mae dylanwadau cymdeithasol a deinamig yn rhyngweithio o fewn chwaraeon tîm.

      Mae cydberthnasau iach yn hanfodol ar gyfer ein hymdeimlad o berthyn ac ar gyfer ein lles.

      • Meithrin cydberthnasau a chydweithredu drwy gemau tîm.

        (o Gam cynnydd 3 ymlaen)
      • Y cyswllt rhwng y glasoed, rhywioldeb a pherthnasau rhywiol.
    • Mae’r adran hon yn awgrymu lle gellid cyfoethogi dysgu drwy wneud cysylltiadau rhwng datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ar draws yr holl feysydd dysgu a phrofiad. Mae hefyd yn awgrymu ymhle gellid ystyried gwahanol elfennau o ddysgu gyda’i gilydd er mwyn cefnogi dysgu sy’n fwy holistaidd.

      Celfyddydau Mynegiannol

      • Symud a dawns greadigol fel gweithgaredd corfforol.
      • Meithrin sgiliau echddygol bras a manwl er mwyn gallu cymryd rhan mewn gwahanol fathau o gelfyddyd.

      Dyniaethau

      • Gellir datblygu elfennau o ddinasyddiaeth drwy barchu rheolau a chwarae teg mewn gemau tîm.
      • Ffactorau amgylcheddol sy’n effeithio ar iechyd a lles.
      • Cynhyrchu bwyd a chynaliadwyedd.

      Gwyddoniaeth a Thechnoleg

      • Agweddau biolegol ar dwf a datblygiad corfforol.
      • Maeth a thechnoleg bwyd.
      • Bioleg iechyd a lles y corff (gan gynnwys effaith clefydau, gweithgarwch corfforol a maeth).

      Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

      • Mae’r berthynas rhwng datblygiad corfforol a datblygiad gwybyddol yn effeithio ar sut y byddwn yn caffael sgiliau lleferydd ac iaith.
      • Mae caffael sgiliau echddygol bras yn rhagflaenu sgiliau echddygol manwl megis llawysgrifen.

      Mathemateg a Rhifedd

      • Rôl rhifedd wrth brynu a pharatoi bwyd maethlon.
      • Rôl rhifedd wrth fesur pellter, pwysau ac amser.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • cyfleoedd i weithredu’r strategaethau y maent wedi’u datblygu i gefnogi iechyd a lles eu cyrff
      • cyfleoedd i ddewis, paratoi a bwyta amrywiaeth o fwydydd a all ategu deiet iach a chytbwys
      • dysgu yn yr awyr agored i gefnogi iechyd a lles y corff
      • amrywiaeth o gyfleoedd parhaus bob dydd i fod yn gorfforol actif
      • cyfleoedd i fod yn gorfforol actif mewn amrywiaeth o amgylcheddau (gan gynnwys dan do, awyr agored, arwynebau gwahanol, uchderau, mewn dŵr ac o amgylch dŵr)
      • amrywiaeth o weithgareddau corfforol drwy ddulliau dysgu diddorol a hwyliog.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • sut y mae amrywiaeth o ffactorau yn effeithio ar iechyd a lles eu cyrff, yn y byrdymor a’r hirdymor, gan gynnwys deiet cytbwys, gweithgareddau corfforol, cwsg, gofal a hylendid personol, amddiffyn rhag heintiau, a defnyddio a chamddefnyddio sylweddau
      • pwysigrwydd ymddygiad ac arferion cynaliadwy, cytbwys a chadarnhaol i gefnogi iechyd a lles y corff
      • bod iechyd a lles y corff yn cefnogi iechyd meddwl a lles emosiynol
      • sut mae twf a datblygiad corfforol yn dylanwadu ar iechyd y corff ac iechyd a lles emosiynol
      • rôl a phwysigrwydd yr hunan corfforol fel rhan o hunaniaeth person.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • dod o hyd i strategaethau i hybu iechyd a lles eu corff a’u rhoi ar waith
      • cynllunio a pharatoi bwyd a all fod yn rhan o ddeiet iach a chytbwys
      • datblygu eu cymhwysedd a’u hyder mewn amrywiaeth o weithgareddau sy’n cefnogi iechyd a lles y corff
      • cymryd cyfrifoldeb am eu gofal a’u hylendid personol.

    Bydd ein holl blant a phobl ifanc:

    yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sydd:

    • yn gosod safonau uchel iddyn nhw eu hunain ac yn chwilio am heriau ac yn eu mwynhau
    • yn datblygu corff o wybodaeth ac sydd â’r sgiliau sydd eu hangen i gysylltu’r wybodaeth honno a’i chymhwyso at wahanol gyd-destunau
    • yn ymholgar ac yn mwynhau datrys problemau
    • yn gallu cyfathrebu’n effeithiol mewn gwahanol ffurfiau a lleoliadau, drwy’r Gymraeg a’r Saesneg
    • yn gallu egluro’r syniadau a chysyniadau y maent yn dysgu amdanynt
    • yn gallu defnyddio rhif yn effeithiol mewn gwahanol gyd-destunau
    • yn deall sut i ddehongli data a chymhwyso cysyniadau mathemategol
    • yn defnyddio technolegau digidol yn greadigol i gyfathrebu a dod o hyd i wybodaeth a’i dadansoddi
    • yn ymchwilio ac yn gwerthuso eu canfyddiadau’n feirniadol

    ac yn barod i ddysgu drwy gydol eu hoes

    yn gyfranwyr mentrus, creadigol sydd:

    • yn cysylltu ac yn cymhwyso eu gwybodaeth a’u sgiliau i greu syniadau a chynhyrchion
    • yn meddwl yn greadigol er mwyn ail-lunio a datrys problemau
    • yn adnabod cyfleoedd ac yn manteisio arnynt – yn mentro’n bwyllog
    • yn arwain ac yn chwarae rolau gwahanol mewn timau’n effeithiol ac yn gyfrifol
    • yn mynegi syniadau ac emosiynau drwy wahanol gyfryngau
    • yn rhoi o’u hegni a’u sgiliau fel y bydd pobl eraill yn elwa

    ac yn barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith

    yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sydd:

    • yn canfod, yn gwerthuso ac yn defnyddio tystiolaeth wrth ffurfio barn
    • yn trafod materion cyfoes ar sail eu gwybodaeth a’u gwerthoedd
    • yn deall ac yn arfer eu cyfrifoldebau a’u hawliau dynol a democrataidd
    • yn deall ac yn ystyried effaith eu gweithredoedd wrth ddewis a gweithredu
    • yn wybodus am eu diwylliant, eu cymuned, eu cymdeithas a’r byd yn awr ac yn y gorffennol
    • yn parchu anghenion a hawliau pobl eraill, fel aelod o gymdeithas amrywiol
    • yn dangos eu hymrwymiad i sicrhau cynaliadwyedd y blaned

    ac yn barod i fod yn ddinasyddion i Gymru a’r byd

    yn unigolion iach, hyderus sydd:

    • â gwerthoedd sicr ac sy’n sefydlu eu credoau ysbrydol a moesegol
    • yn meithrin eu lles meddyliol ac emosiynol drwy ddatblygu hyder, cadernid ac empathi
    • yn cymhwyso gwybodaeth am effaith deiet ac ymarfer ar iechyd corfforol a meddyliol yn eu bywyd pob dydd
    • yn gwybod sut i ddod o hyd i’r wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen i gadw’n ddiogel ac iach
    • yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol
    • yn gwneud penderfyniadau pwyllog ynghylch eu ffordd o fyw ac yn rheoli risg
    • â’r hyder sydd ei angen i gymryd rhan mewn perfformiadau
    • yn ffurfio perthnasoedd cadarnhaol wedi’u seilio ar ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd
    • yn wynebu heriau ac yn eu trechu
    • â’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i ddelio â’u bywyd pob dydd mor annibynnol ag y gallant

    ac yn barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

  • Bydd Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn helpu’r dysgwyr i ddeall sut y mae iechyd meddwl a lles emosiynol unigolion yn dylanwadu ar y ffordd maent yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn. Bydd hefyd yn helpu dysgwyr i archwilio’r cysylltiadau rhwng profiadau bywyd a lles meddyliol ac emosiynol.

    Drwy ddeall yr amodau sy’n hyrwyddo ac yn effeithio ar iechyd meddwl a lles emosiynol, caiff dysgwyr eu cynorthwyo i ymdopi â’r profiadau y byddant yn dod ar eu traws yn ystod eu bywyd. Cânt hefyd eu cynorthwyo i ddatblygu eu gallu i ganolbwyntio ar y ffordd y maent yn meddwl ac yn teimlo yn ystod eu profiadau. Yn ogystal â hyn, byddant yn archwilio sut maent yn canfod profiadau. Bydd hyn yn rhoi cyfleoedd i’r dysgwyr feithrin sgiliau hunanymwybyddiaeth ac empathi. Mae hunanymwybyddiaeth yn galluogi dysgwyr i fod yn agored i dderbyn emosiynau ac i fyfyrio arnynt, ac mae hyn yn eu helpu i addasu eu hymddygiad a’u gweithredoedd i wahanol sefyllfaoedd. Mae hyn yn ei dro yn galluogi dysgwyr i weithredu ag empathi, cydymdeimlad a charedigrwydd tuag atynt hwy eu hunain ac at eraill.

      Gallaf fod yn ymwybodol o’r hyn rwy’n ei ganfod a’i feddwl.

      Gallaf ganolbwyntio fy sylw a bod yn ymwybodol o wneud hyn.

      Gallaf sylwi ar rai o’m teimladau.

      Gallaf gyfleu rhai o’m teimladau.

      Gallaf fod yn ymwybodol o’r ffordd y caiff teimladau eu cyfleu drwy weithredoedd.

      Gallaf fod yn ymwybodol bod meddyliau a theimladau yn newid ac rwy’n dechrau sylwi pan fyddant yn gwneud hynny.

      Gallaf fod yn ymwybodol o deimladau pobl eraill.

      Gallaf fod yn ymwybodol o adegau pan fydd eraill yn garedig wrthyf a phan fyddaf i’n garedig wrth eraill.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf ganolbwyntio ar yr hyn rwy’n ei ganfod a’i feddwl.

      Gallaf sylwi ar sut rwy’n teimlo.

      Gallaf gyfleu fy nheimladau.

      Gallaf sylwi pan fydd angen help arnaf i reoli fy nheimladau er mwyn osgoi gweithredu mewn ffordd fyrbwyll.

      Gallaf ddeall sut a pham mae fy meddyliau, fy nheimladau a’m gweithredoedd yn newid mewn ymateb i wahanol brofiadau.

      Gallaf roi sylw i deimladau pobl eraill ac rwy’n dysgu meddwl pam eu bod o bosibl yn teimlo felly.

      Gallaf ddeall y gallwn ddewis gweithredu’n garedig.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf gydnabod budd canolbwyntio ar yr hyn rwy’n ei ganfod a’i feddwl ac rwy’n gwybod fy mod yn datblygu fy hunanymwybyddiaeth.

      Rwyf wedi datblygu ffyrdd o reoli fy emosiynau fy hun mewn ffordd iach a gallaf ymdopi â’r broses hon yn fwyfwy annibynnol a llwyddiannus.

      Gallaf sylwi a deall pam mae profiadau yn effeithio arnaf i ac ar eraill.

      Gallaf fyfyrio ar y ffordd y mae digwyddiadau a phrofiadau yn y gorffennol wedi effeithio ar fy meddyliau, fy nheimladau a’m gweithredoedd.

      Rwyf wedi datblygu’r gallu i ragweld sut y bydd digwyddiadau yn y dyfodol o bosibl yn gwneud i mi ac eraill deimlo.

      Gallaf ystyried teimladau pobl eraill a gallaf ddewis gweithredu mewn ffordd garedig.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf ganolbwyntio’n annibynnol ar fy nghanfyddiadau, fy meddyliau a’m teimladau er mwyn datblygu fy hunanymwybyddiaeth ymhellach.

      Gallaf ddod o hyd i wahanol strategaethau i reoli fy emosiynau fy hun mewn ymateb i amrywiaeth o brofiadau.

      Gallaf fyfyrio a dysgu o’r gorffennol er mwyn rhagweld a pharatoi fy hun ar gyfer profiadau yn y dyfodol.

      Gallaf ddeall gwerth gallu dangos empathi ag eraill a sut mae hyn yn arwain at weithredoedd o gydymdeimlad a charedigrwydd.

    • Deilliannau cyflawniad

      Drwy hunanymwybyddiaeth gallaf werthfawrogi cymhlethdod fy emosiynau a defnyddio strategaethau er mwyn rheoli fy hunan mewn ffordd iach ac er mwyn cysylltu ag eraill.

      Gallaf fyfyrio, ymateb a dysgu o brofiadau yn y gorffennol a’r presennol er mwyn rhagweld a pharatoi ar gyfer profiadau yn y dyfodol.

      Gallaf drosglwyddo’r sgiliau hyn er mwyn gofalu am deimladau a meddyliau eraill.

      Gallaf ddangos empathi tuag at eraill, ac mae hyn yn fy helpu i ddangos cydymdeimlad a charedigrwydd tuag ataf i fy hunan ac eraill.

      Mae datblygu iechyd a lles y corff yn arwain at fuddiannau gydol oes.

      • Y gyd-ddibyniaeth rhwng iechyd corfforol, iechyd meddwl a lles emosiynol.
      • Delwedd y corff, hunaniaeth a newidiadau ffisiolegol mewn perthynas ag emosiynau.

      • Rôl hunanreolaeth wrth gefnogi iechyd a lles y corff a goresgyn heriau wrth wneud gweithgareddau corfforol.

      • Rôl hunanreolaeth wrth wneud penderfyniadau.
      • Y modd y mae ymddygiad ac arferion caethiwus yn datblygu, a’u dylanwad ar y modd y byddwn ni’n gwneud penderfyniadau.

      • Rôl hunanreolaeth wrth ymgysylltu â dylanwadau cymdeithasol mewn ffordd feirniadol.
      • Effaith dylanwadau cymdeithasol ar brofiadau bywyd a sut y caiff profiadau bywyd eu canfod a’u rheoli.

      • Pwysigrwydd empathi a chydymdeimlad wrth feithrin cydberthnasau cadarnhaol.
      • Pwysigrwydd cyfathrebu teimladau mewn cydberthnasau.

      • Mae’n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i fynegi emosiynau.
      • Ymgysylltu â mathau o gelfyddyd er mwyn ystyried a deall sut y maent yn gwneud i ni deimlo.

      Dyniaethau

      • Sut mae pobl yn canfod ac yn dehongli digwyddiadau a phrofiadau mewn ffyrdd gwahanol.

      Gwyddoniaeth a Thechnoleg

      • Y berthynas rhwng ffisioleg ac iechyd meddwl ac emosiynol (gan gynnwys twf a strwythur yr ymennydd).

      Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

      • Rôl iaith, yn ysgrifenedig ac ar lafar, a rôl iaith y corff wrth gyfleu a mynegi emosiynau.
      • Potensial llythrennedd i feithrin sgiliau empathig.

      Mathemateg a Rhifedd

      • Y gydberthynas rhwng amgylchiadau a phenderfyniadau ariannol ac iechyd meddwl a lles emosiynol.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • cyfleoedd i droi teimlad o empathi yn weithred o garedigrwydd a chydymdeimlad tuag atynt hwy eu hunain ac eraill
      • cyfleoedd sy’n annog unigolion i fyfyrio, yn unigol ac mewn grŵp, o fewn amgylchedd sy’n eu hamddiffyn a’u cefnogi
      • trafodaethau diogel a chefnogol am brofiadau sy’n effeithio ar iechyd meddwl a lles emosiynol.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • y gall ein hiechyd meddwl a’n cyflwr emosiynol newid
      • sut mae hunanddelwedd yn effeithio ar iechyd meddwl a lles
      • am amrywiaeth o strategaethau sy’n hyrwyddo ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a lles
      • sut mae’r ymennydd yn rhyngweithio â gweddill y corff, gan gynnwys y system ymateb i straen a’r newidiadau ffisiolegol sy’n digwydd
      • y gallant gael gafael ar amrywiaeth o gymorth er mwyn cynnal eu hiechyd meddwl a’u lles emosiynol
      • y gall iechyd meddwl a lles emosiynol pobl eraill fod yn wahanol i’w hiechyd meddwl a’u lles emosiynol nhw
      • am gyflyrau meddygol a all effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol
      • y gall yr amgylchedd effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • cydnabod a mynegi’r hyn y maent yn ei ganfod, yn ei feddwl ac yn ei deimlo er mwyn meithrin eu hunanymwybyddiaeth a datblygu gwell ymwybyddiaeth o’u hemosiynau
      • myfyrio ar brofiadau a rhagweld sut y gallant effeithio arnynt
      • datblygu strategaethau er mwyn rheoli eu hunain heb arweiniad gan eraill
      • cyfleu sut y maent yn teimlo a gofyn am help pan fydd ei angen.

  • Bydd Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn helpu dysgwyr i ddeall sut y mae penderfyniadau a gweithredoedd, boed yn rhai a wneir fel unigolion neu ar y cyd, yn cael effaith glir ac uniongyrchol ar iechyd a lles unigolion a chymdeithas.

    Bydd deall y ffactorau sy’n dylanwadu ar y penderfyniadau a wnawn ynglŷn ag iechyd a lles yn helpu dysgwyr i wneud penderfyniadau ystyriol a gwybodus a rhai y gallant eu cyfiawnhau a’u hegluro. Caiff dysgwyr eu cynorthwyo i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ystyried dewisiadau yn feirniadol. Cânt hefyd eu cynorthwyo i ddeall beth yw risg a chanlyniadau posibl eu penderfyniadau, a sut y gall eu penderfyniadau effeithio arnynt hwy eu hunain ac ar eraill.

    Bydd dysgwyr yn dod yn fwyfwy ymwybodol o bwysigrwydd cyfrannu’n weithredol at benderfyniadau ar y cyd. Drwy ddatblygu’r gallu i ddewis nod priodol a chynllunio camau gweithredu i gyflawni’r nod hwnnw, gan ragweld a goresgyn heriau, bydd dysgwyr yn gallu cymryd cyfrifoldeb am y dewisiadau y byddant yn eu gwneud yn ystod eu bywyd.

      Gallaf wneud penderfyniadau yn seiliedig ar beth rwy’n ei hoffi ac nad wyf yn ei hoffi.

      Rwyf wedi dod yn ymwybodol y gall fy mhenderfyniadau effeithio arnaf i ac ar eraill.

      Gallaf adnabod, gyda chymorth, gweithredoedd a sefyllfaoedd diogel ac anniogel yn ystod gweithgareddau dan do ac yn yr awyr agored.

      Gallaf egluro pam y gwnes i rai penderfyniadau.

      Gallaf leisio fy marn a chymryd rhan mewn penderfyniadau grŵp.

      Gallaf ddewis gweithgareddau yn seiliedig ar fy niddordebau ac archwilio rolau gwahanol y byd gwaith drwy chwarae.

      Rwyf wedi dod i ddeall bod angen arian arnaf i brynu pethau a bod angen cynilo ar gyfer rhai pethau.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf adnabod y gwahanol ddewisiadau sydd ar gael i mi, a gwneud penderfyniadau’n seiliedig ar yr hyn rwy’n ei wybod.

      Rwyf wedi dod yn ymwybodol y gall y ffordd rwy’n teimlo effeithio ar fy mhenderfyniadau.

      Gallaf adnabod gweithredoedd a sefyllfaoedd diogel ac anniogel a gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar hyn.

      Gallaf werthfawrogi y gall fy mhenderfyniadau effeithio arnaf i ac ar eraill, nawr ac yn y dyfodol.

      Gallaf gymryd rhan mewn penderfyniadau grŵp a deall pam mae angen gwneud rhai penderfyniadau fel grŵp.

      Gallaf nodi fy sgiliau a galluoedd a gallaf siarad am swyddi y gallaf ddewis eu gwneud.

      Gallaf werthfawrogi pwysigrwydd defnyddio arian yn gyfrifol a gallaf wahaniaethu rhwng pethau rwyf am eu cael a phethau sydd eu hangen arnaf.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf ddefnyddio amrywiaeth o wybodaeth a phrofiadau o’r gorffennol i wneud ac egluro penderfyniadau.

      Gallaf adnabod ac asesu risg mewn sefyllfaoedd cyfarwydd.

      Gallaf ddeall y gall amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys gwerthoedd, credoau a rhagfarn, ddylanwadu ar benderfyniadau.

      Rwyf wedi dod yn ymwybodol y gall penderfyniadau arwain at oblygiadau eang ar lefel bersonol, lleol, cenedlaethol a byd-eang, gan gynnwys goblygiadau cyfreithiol a moesegol.

      Rwyf wedi dechrau cydnabod sut mae’r hyn rwy’n ei ddysgu, fy sgiliau a’m diddordebau’n berthnasol o ran fy newisiadau bywyd yn y dyfodol.

      Gallaf bennu nodau personol byrdymor a hirdymor mewn amrywiaeth o gyd-destunau, a gallaf egluro sut y byddaf yn eu cyflawni.

      Gallaf reoli fy arian a chyllidebu’n briodol.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf ddefnyddio gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys dysgu o brofiadau yn y gorffennol, er mwyn gwneud penderfyniadau sy’n cefnogi fy iechyd a’m lles fy hunan ac iechyd a lles eraill.

      Gallaf ystyried ffactorau perthnasol mewn ffordd feirniadol wrth wneud penderfyniadau.

      Gallaf adnabod goblygiadau moesegol a chyfreithiol penderfyniadau, a defnyddio tystiolaeth i’w cefnogi a’u cyfiawnhau.

      Gallaf reoli risg a chymryd camau i’w lleihau o fewn sefyllfaoedd cyfarwydd.

      Gallaf ddod o hyd i wybodaeth berthnasol o ran llwybrau dysgu a gyrfa sydd o ddiddordeb i mi.

      Gallaf ddefnyddio gwybodaeth i osod nod personol a gweithio tuag ato.

      Rwyf wedi dod i ddeall fy mod yn gyfrifol am reoli fy arian yn effeithiol, ac yn cydnabod y gall penderfyniadau ariannol gael effaith yn y tymor byr a’r tymor hir.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf ymchwilio i amrywiaeth o dystiolaeth, ei harchwilio a’i gwerthuso er mwyn gwneud penderfyniadau er lles y gymdeithas, a phenderfyniadau moesegol a rhesymegol.

      Gallaf egluro fy mhenderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth a’m gwerthoedd.

      Rwyf wedi dod yn ymwybodol bod emosiynau, gwerthoedd diwylliannol a gwerthoedd cymdeithasol yn dylanwadu ar y penderfyniadau a wneir, a gallaf archwilio fy agwedd, fy nhybiaeth a’m hymddygiad mewn ffordd feirniadol.

      Rwyf wedi dod i ddeall goblygiadau moesegol a chyfreithiol penderfyniadau, ac yn eu defnyddio i ategu a chyfiawnhau penderfyniadau.

      Gallaf ragweld, rheoli ac ymateb i risg o fewn gwahanol sefyllfaoedd.

      Rwyf wedi dod i ddeall y profiadau, yr wybodaeth a’r sgiliau sy’n ofynnol ar gyfer fy newis o yrfa a llwybrau dysgu.

      Gallaf gymryd camau i gefnogi fy uchelgeisiau.

      Rwyf wedi dod i ddeall y gellir defnyddio arian, ei fenthyca a’i fuddsoddi mewn gwahanol ffyrdd ac y gall fod risg yn gysylltiedig â hynny.

      • Gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar iechyd corfforol.
      • Adnabod risg sy’n effeithio ar iechyd corfforol.

      • Datblygiad ymddygiad caethiwus a’r broses o wneud penderfyniadau.

      • Deall dylanwadau cymdeithasol wrth wneud penderfyniadau (gan gynnwys penderfyniadau ariannol).
      • Effaith penderfyniadau ar grwpiau cymdeithasol ehangach a chymdeithas.

      • Cael gafael ar gymorth a gwybodaeth er mwyn sicrhau diogelwch personol mewn cydberthnasau.
      • Meithrin perthnasau ag eraill, defnyddio sgiliau datrys problemau a negodi er mwyn helpu i wneud penderfyniadau ar y cyd a chefnogi sgiliau gyrfa.
      • Gwneud penderfyniadau yng nghyd-destun gwahanol gydberthnasau (gan gynnwys cydsynio).

      • Sut y mae’r broses o wneud penderfyniadau’n rhan o ddinasyddiaeth.
      • Ystyriaethau moesegol wrth wneud penderfyniadau.

      Gwyddoniaeth a Thechnoleg

      • Penderfyniadau, diogelwch ac ymddygiad caethiwus mewn perthynas â thechnoleg ac mewn cyd-destun ar-lein.

      Mathemateg a Rhifedd

      • Defnyddio rhifedd i ategu penderfyniadau cadarnhaol, yn enwedig penderfyniadau ariannol.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • cyfleoedd i fyfyrio ar gredoau a gwerthoedd personol, ac ystyried eu heffaith ar y penderfyniadau a wneir
      • goresgyn heriau drwy ystyried canlyniadau penderfyniadau ac ymateb iddynt
      • cymryd risgiau pwyllog mewn amgylchedd diogel
      • gwneud penderfyniadau y tu allan i’w parth cysur
      • cyfrannu at benderfyniadau ar y cyd.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • sut y gall penderfyniadau effeithio ar ein hiechyd a’n lles ac effeithio ar iechyd a lles eraill
      • sut y gall penderfyniadau ar y cyd gael eu cefnogi gan broses deg
      • bod llawer o ffactorau sy’n dylanwadu ar y penderfyniadau a wneir
      • ble a sut i gael cymorth a gwybodaeth er mwyn cynorthwyo’r broses o wneud penderfyniadau ac aros yn ddiogel
      • bod amrywiaeth eang o rolau gwirfoddol a chyflogedig y gallant ddewis eu dilyn.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • adnabod a rheoli risg wrth wneud penderfyniadau
      • gwneud penderfyniadau diogel mewn sefyllfaoedd ac amgylcheddau amrywiol
      • cymryd camau i gefnogi eu hiechyd a’u lles eu hunain ac iechyd a lles eraill
      • ymateb yn briodol mewn sefyllfaoedd niweidiol neu anniogel
      • gwneud penderfyniadau, wrth ddefnyddio technoleg, sy’n cefnogi eu hiechyd a’u lles eu hunain ac iechyd a lles eraill
      • cyfrannu’n adeiladol wrth wneud penderfyniadau fel rhan o grŵp
      • cymryd cyfrifoldeb dros eu gweithredoedd, a nodi effeithiau eu penderfyniadau a myfyrio arnynt er mwyn eu gwerthuso a gwella’r ffordd y maent yn gwneud penderfyniadau yn y dyfodol
      • pwyso a mesur ystyriaethau moesegol a’r effeithiau ar eraill wrth wneud penderfyniadau.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      (o Gam cynnydd 1 ymlaen)

      • bod amrywiaeth eang o rolau gwirfoddol a chyflogedig y gallant ddewis eu dilyn

      (o Gam cynnydd 2 ymlaen)

      • bod rhai ymddygiadau yn gaethiwus ac yn gallu dylanwadu ar y penderfyniadau a wnânt
      • bod rheolau a chyfreithiau sy’n rheoleiddio ac yn cefnogi penderfyniadau, ac y gall penderfyniadau arwain at ganlyniadau cyfreithiol.

      • pwyso a mesur ystyriaethau moesegol a’r effeithiau ar eraill wrth wneud penderfyniadau

      (o Gam cynnydd 2 ymlaen)

      • gwneud penderfyniadau ariannol sy’n cefnogi eu hiechyd a’u lles eu hunain ac iechyd a lles eraill
      • gwneud penderfyniadau rhesymegol a gwybodus am eu dysgu a’u llwybrau gyrfa.

      • gwneud penderfyniadau rhesymegol a gwybodus am eu dysgu a’u llwybrau gyrfa

      (o Gam cynnydd 3 ymlaen)

      • gosod nodau byrdymor a hirdymor mewn amrywiaeth o gyd-destunau, a gwneud penderfyniadau sy’n cefnogi’r broses o gyflawni’r nodau hyn
      • ymgysylltu’n feirniadol ag amrywiaeth o wybodaeth a phrofiadau er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus y gallant eu cyfiawnhau.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      (o Gam Cynnydd 1 ymlaen)

      • cyfrannu at benderfyniadau ar y cyd

      (o Gam cynnydd 4 ymlaen)

      • sefyllfaoedd gwaith go iawn.

  • Bydd y Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn helpu dysgwyr i ddod i ddeall rôl bwysig cymdeithas o ran ei dylanwad ar ein hymddygiad ni. Caiff ein hunaniaeth, ein gwerthoedd a’n lles eu siapio gan reolau, normau ac agweddau cymdeithasol sydd yn eu tro yn cael eu creu a’u gorfodi gan wahanol grwpiau cymdeithasol. Bydd dysgwyr yn darganfod sut y cânt eu dylanwadu gan y rhain mewn cyd-destunau amrywiol, gan gynnwys gwahanol grwpiau cyfoedion, diwylliannau gwahanol, y cyfryngau a’r byd ar-lein.

    Cawn brofiad o reolau, normau cymdeithasol ac agweddau gwahanol wrth ymwneud â’r grwpiau cymdeithasol a chymunedau sy’n rhan o’n bywyd, yn ogystal ag ymwneud â diwylliannau eraill. Mae’r dylanwadau hyn yn cyflwyno a gorfodi normau a gwerthoedd sy’n ymwneud ag amrywiaeth o faterion sy’n effeithio ar iechyd a lles. Drwy feithrin dealltwriaeth o hyn, bydd dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth o’r ffordd y mae eu penderfyniadau, eu cydberthnasau a’u profiadau yn cael eu siapio gan ddylanwadau cymdeithasol a grwpiau cymdeithasol, a bydd y ddealltwriaeth hon wedyn yn eu galluogi i wneud dewisiadau cadarnhaol a gwybodus.

    Bydd dysgwyr yn dod i ddeall bod y normau a’r agweddau cymdeithasol hyn yn gallu siapio’r gwerthoedd a’r ymddygiad sy’n dylanwadu ar ein hiechyd a’n lles yn aml heb i ni sylweddoli. O’r herwydd, bydd angen i ddysgwyr ymgysylltu’n feirniadol â’r dylanwadau cymdeithasol hyn. Ar y naill law, bydd angen iddynt allu adnabod, dilyn a hyrwyddo normau cadarnhaol, ac ar y llall bydd angen iddynt allu adnabod, gwrthod a herio normau niweidiol er mwyn osgoi ymddwyn mewn ffordd sy’n niweidio eu hiechyd a’u lles eu hunain ac iechyd a lles eraill.

    Drwy gydnabod a dilyn normau cadarnhaol, gall dysgwyr fod yn aelodau llawn a gweithredol o amrywiaeth o grwpiau cymdeithasol. Mae hyn yn helpu dysgwyr i feithrin ymdeimlad o berthyn i wahanol grwpiau sydd, yn ei dro, yn cefnogi eu hiechyd a’u lles. Er mwyn ymwneud yn feirniadol â’r dylanwadau gwahanol hyn, mae hefyd angen i ddysgwyr gydnabod gwahaniaethau a chydnabod hefyd bod hunaniaeth a gwerthoedd pob person yn rhannol yn deillio o’u gwahanol grwpiau cymdeithasol. Drwy ymwneud â grwpiau cymdeithasol eraill, mae dysgwyr yn datblygu parch a dealltwriaeth tuag at eraill sydd â chefndiroedd gwahanol.

      Gallaf gydnabod a dilyn rheolau a normau yn y grwpiau a’r sefyllfaoedd rwy’n cymryd rhan ynddynt.

      Gallaf ddangos gofal a pharch tuag at eraill.

      Rwyf wedi archwilio gwahanol grwpiau cymdeithasol.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf gydnabod rheolau a normau gwahanol y grwpiau cymdeithasol a’r sefyllfaoedd rwy’n rhan ohonynt.

      Gallaf newid y ffordd rwy’n ymwneud ag eraill ac yn ymddwyn mewn sefyllfaoedd gwahanol yn briodol.

      Gallaf gydnabod bod tebygrwydd a gwahaniaethau rhwng pobl.

    • Deilliannau cyflawniad

      Rwyf wedi dod i ddeall rheolau, normau ac ymddygiad sydd er lles y gymdeithas, i’r grwpiau cymdeithasol ac i’r sefyllfaoedd rwy’n rhan ohonynt.

      Gallaf ymwneud mewn ffordd sydd er lles y gymdeithas yn y grwpiau cymdeithasol a’r sefyllfaoedd rwy’n rhan ohonynt.

      Rwyf wedi dod i ddeall bod gwahanol grwpiau cymdeithasol i’w cael a bod ganddynt normau ac agweddau gwahanol, ac rwy’n cydnabod y gall y rhain fod yn gadarnhaol neu’n niweidiol.

      Rwyf wedi dod i ddeall bod y grwpiau cymdeithasol gwahanol rwy’n rhan ohonynt yn dylanwadu ar fy ngwerthoedd a’m hunaniaeth.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf gydnabod rheolau, normau ac ymddygiad sydd er lles y gymdeithas mewn amrywiaeth o wahanol grwpiau cymdeithasol a sefyllfaoedd.

      Gallaf ymwneud mewn ffordd sydd er lles y gymdeithas mewn grwpiau cymdeithasol a sefyllfaoedd gwahanol.

      Gallaf adnabod agweddau cymdeithasol a dylanwadau gwahanol a chydnabod lle mae’r rhain yn gadarnhaol neu’n niweidiol.

      Gallaf ymgysylltu â gwahanol grwpiau cymdeithasol y tu hwnt i’r rhai rwy’n gyfarwydd â nhw.

      Rwyf wedi dod i ddeall sut mae fy ngwerthoedd a’m hunaniaeth yn cael eu llywio gan wahanol grwpiau cymdeithasol a dylanwadau.

    • Deilliannau cyflawniad

      Rwyf wedi dod i ddeall rheolau, normau ac ymddygiad sydd er lles y gymdeithas mewn gwahanol grwpiau cymdeithasol a sefyllfaoedd.

      Gallaf ymwneud mewn ffordd sydd er lles y gymdeithas ac sy’n barchus â gwahanol grwpiau cymdeithasol a sefyllfaoedd.

      Gallaf adnabod agweddau cymdeithasol a dylanwadau gwahanol.

      Gallaf hyrwyddo agweddau a gwerthoedd cadarnhaol mewn gwahanol grwpiau cymdeithasol a, lle y bo’n briodol, herio rhai niweidiol.

      Gallaf ymgysylltu â gwahanol grwpiau cymdeithasol y tu hwnt i’r rhai rwy’n gyfarwydd â nhw a dangos parch tuag atynt.

      Gallaf gydnabod a deall sut y caiff gwerthoedd a hunaniaeth pobl eu siapio gan wahanol grwpiau cymdeithasol a dylanwadau.

      • Effaith dylanwadau cymdeithasol ar ymddygiad sy’n effeithio ar iechyd corfforol.

      • Y ffordd y mae dylanwadau cymdeithasol, chwaraeon tîm a deinamig tîm yn ymwneud â’i gilydd.

      • Effaith dylanwadau cymdeithasol ar brofiadau ac iechyd meddwl ac emosiynol, ac ar y ffordd rydym yn eu canfod.

      • Effaith penderfyniadau ar grwpiau cymdeithasol a sefyllfaoedd ehangach.

      • Deall sut y gall agweddau a normau cymdeithasol effeithio ar gydberthnasau, gan gydnabod y gall yr effeithiau hyn fod yn gadarnhaol ac/neu yn niweidiol.
      • Deall sut mae gwahanol grwpiau cymdeithasol a chymdeithasau yn cyflwyno normau gwahanol gydberthnasau.
      • Meithrin cydberthnasau o fewn gwahanol grwpiau cymdeithasol.

      • Pwysigrwydd y Celfyddydau Mynegiannol a’r addysgeg sy’n gysylltiedig â nhw wrth ystyried materion sy’n ymwneud â dylanwadau cymdeithasol.

      Dyniaethau

      • Sut mae dinasyddiaeth yn gysylltiedig â dylanwadau cymdeithasol a sut mae dylanwadau cymdeithasol yn effeithio ar ddinasyddiaeth.
      • Sut mae gwerthoedd a normau unigolion yn creu hunaniaeth ar y cyd a gwerthoedd ar y cyd.

      Gwyddoniaeth a Thechnoleg

      • Ymgysylltu’n feirniadol â normau cymdeithasol a dylanwadau mewn perthynas â thechnoleg ac mewn cyd-destun ar-lein.

      Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

      • Ystyried sut y caiff dylanwadau cymdeithasol eu portreadu mewn gwahanol ddarnau o lenyddiaeth a thrwy wahanol ddarnau o lenyddiaeth.

      Mathemateg a Rhifedd

      • Ymgysylltu’n feirniadol â normau cymdeithasol sy’n gysylltiedig ag arian er mwyn cefnogi llythrennedd ariannol.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • ymwneud ag amrywiaeth o grwpiau cymdeithasol, yn rhai cyfarwydd neu’n anghyfarwydd
      • sefyllfaoedd a chyd-destunau sy’n eu hannog i fyfyrio ar ddylanwadau cymdeithasol a’u canlyniadau
      • gofynion gwahanol sefyllfaoedd cymdeithasol
      • cyfleoedd i ystyried a gwerthuso canlyniadau gwahanol ymatebion i reolau a normau.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • bod gan grwpiau cymdeithasol a sefyllfaoedd gwahanol eu rheolau a'u normau eu hunain
      • rheolau a normau gwahanol y grwpiau cymdeithasol a’r sefyllfaoedd y maent yn rhan ohonynt.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • cydnabod rheolau, normau, agweddau a gwerthoedd gwahanol grwpiau cymdeithasol
      • addasu eu hymddygiad mewn ymateb i ddisgwyliadau a normau amrywiaeth o gyd‑destunau.

      • rheolau a normau gwahanol y grwpiau cymdeithasol a’r sefyllfaoedd y maent yn rhan ohonynt

      (o Gam cynnydd 2 ymlaen)

      • sut y gall normau cymdeithasol, rheolau, gwerthoedd ac agweddau gwahanol grwpiau cymdeithasol ddylanwadu ar ein gwerthoedd, ein hiechyd a’n lles
      • y dylanwad y gall y cyfryngau a’r byd ar-lein ei gael ar les, agweddau a gwerthoedd.

      • addasu eu hymddygiad mewn ymateb i ddisgwyliadau a normau amrywiaeth o gyd-destunau

      (o Gam cynnydd 2 ymlaen)

      • dilyn a hyrwyddo rheolau, normau, agweddau a gwerthoedd cadarnhaol mewn gwahanol grwpiau cymdeithasol
      • datblygu ymwybyddiaeth o’r ffordd mae eu hunaniaeth, eu gwerthoedd, eu hagweddau a’u hymddygiad yn cael eu siapio gan y grwpiau cymdeithasol y maent yn perthyn iddynt a’r sefyllfaoedd y maent yn gweithredu o’u mewn
      • deall a pharchu y caiff hunaniaeth, gwerthoedd, agweddau ac ymddygiad pobl eraill eu siapio gan eu grwpiau cymdeithasol
      • cynnal gwerthusiad beirniadol o gynnwys gwahanol fathau o gyfryngau a’r byd ar-lein, gan gydnabod yr effaith a gaiff ar agweddau, gwerthoedd a lles.

      • cynnal gwerthusiad beirniadol o gynnwys gwahanol fathau o gyfryngau a’r byd ar-lein, gan gydnabod yr effaith a gaiff ar agweddau, gwerthoedd a lles

      (o Gam cynnydd 3 ymlaen)

      • gwrthod a herio rheolau, normau, agweddau, gwerthoedd, stereoteipiau a rhagfarnau niweidiol mewn gwahanol grwpiau cymdeithasol.

      • y dylanwad y gall y cyfryngau a’r byd ar-lein ei gael ar les, agweddau a gwerthoedd

      (o Gam cynnydd 4 ymlaen)

      • y rhagfarnau o ran meddwl ac ymddygiad a all ddeillio o fod yn rhan o grŵp cymdeithasol.

  • Bydd Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn helpu dysgwyr i ddeall sut y mae cydberthnasau iach yn rhan hanfodol o’r broses o gynnal corff a meddwl iach. Maent yn cyfrannu at ein hymdeimlad o berthyn a’n lles emosiynol. Maent yn creu sefydlogrwydd ac yn gwneud i ni deimlo ein bod yn cael ein cynnwys, ac mae hyn yn ein galluogi ni i ffynnu. Os byddwn yn teimlo’n unig neu’n ynysig, mae perygl y byddwn yn dioddef iechyd meddwl a chorfforol gwael.

    Drwy gydol ein bywydau, rydym yn debygol o brofi a datblygu amrywiaeth eang o gydberthnasau personol. Mae pob un o’r cydberthnasau hyn yn ysgogi ymatebion sy’n ein helpu i dyfu a dysgu amdanom ni ein hunain ac eraill. Mae deall sut y caiff cydberthnasau iach eu ffurfio, eu datblygu a’u cynnal yn ein galluogi i ddatblygu’r sgiliau a’r agweddau sy’n caniatáu i ni greu cydberthnasau iach ein hunain. Mae’r cydberthnasau hyn yn aml yn ein helpu drwy sefyllfaoedd anodd sy’n peri gofid a straen yn ystod ein bywyd ac yn ein helpu i ddod yn unigolion iach a hyderus. Mae gwybod sut i fod yn ddiogel yn ein cydberthnasau a phryd a sut i ofyn am gymorth i ni ein hunain ac i eraill yn hanfodol o ran iechyd a lles.

      Gallaf adnabod pwy sy’n gofalu amdanaf a phwy yw fy nheulu a’m ffrindiau.

      Gallaf gyd-dynnu ag eraill gyda chymorth a heb gymorth.

      Gallaf gyfleu beth sy’n gwneud i mi deimlo’n anghyfforddus a gallaf adnabod ymddygiad caredig ac angharedig.

      Gallaf gyfleu fy anghenion a’m teimladau yn y cydberthnasau sydd gennyf.

      Gallaf ymddwyn yn garedig tuag at eraill.

      Gallaf ddeall fod gennyf yr hawl i gael fy nhrin mewn ffordd deg a pharchus.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf adnabod fod gwahanol fathau o gydberthnasau y tu hwnt i’m teulu a’m ffrindiau.

      Gallaf adnabod y cydberthnasau sydd gennyf ag eraill.

      Rwyf wedi datblygu’r gallu i wneud ffrindiau a gallaf ddatrys anghytundeb neu ddadl, gan ofyn am gymorth pan fydd angen.

      Gallaf gydnabod teimladau pobl eraill.

      Gallaf ddeall pwysigrwydd parch a theimlo’n ddiogel o fewn y cydberthnasau sydd gennyf.

      Gallaf gyfleu pan na fyddaf yn teimlo’n ddiogel neu pan fy mod yn cael fy amharchu.

      Gallaf ddefnyddio’r hyn rwy’n ei wybod am yr hyn sy’n fy ngwneud i ac eraill yn gyfforddus er mwyn llywio fy ymddygiad.

      Gallaf wrando ar eraill yn cyfleu eu hanghenion a’u teimladau yn y cydberthnasau sydd gennyf.

      Gallaf ddangos parch tuag at hawliau eraill gyda chymorth.

    • Deilliannau cyflawniad

      Gallaf ddeall bod gwahaniaethau o fewn mathau tebyg o gydberthnasau a bod cydberthnasau yn newid dros amser.

      Rwyf wedi dod yn ymwybodol bod y cydberthnasau sydd gennyf yn rhan o’m hunaniaeth a’m hymdeimlad o berthyn.

      Gallaf barhau i feithrin a chynnal y cydberthnasau sy’n bwysig i mi.

      Gallaf gydnabod a rhagweld teimladau pobl eraill.

      Gallaf adnabod achosion o wrthdaro a chymryd camau i’w datrys.

      Gallaf gydnabod sefyllfaoedd diogel ac anniogel mewn cydberthnasau a gallaf ofyn am gymorth pan fo angen.

      Gallaf ddangos parch tuag at eraill yn y cydberthnasau sydd gennyf.

      Gallaf gyfleu fy anghenion a’m teimladau ac ymateb i anghenion a theimladau eraill.

      Gallaf barchu hawliau pobl eraill a deall sut y maent yn effeithio arnaf i ac ar eraill.

    • Deilliannau cyflawniad

      Rwyf wedi dod i ddeall disgwyliadau a gofynion ymddygiad iach mewn amrywiaeth o gydberthnasau.

      Rwyf wedi dod i ddeall bod cyswllt rhwng fy nghydberthnasau a’m hunaniaeth a bod y naill yn effeithio ar y llall.

      Gallaf feithrin a chynnal cydberthnasau pwrpasol ag ystod ehangach o bobl.

      Gallaf ddangos empathi tuag at deimladau pobl eraill ac addasu fy ymddygiad mewn ymateb iddynt.

      Gallaf barchu safbwyntiau pobl eraill a defnyddio hyn er mwyn helpu i ddatrys achosion o wrthdaro.

      Gallaf adnabod lle y mae cydberthynas yn rhoi fy niogelwch i neu ddiogelwch rhywun arall o dan fygythiad, ac rwy’n gwybod sut i ymateb i hyn.

      Gallaf herio mathau niweidiol o ymddygiad mewn cydberthnasau.

      Rwyf wedi dod i ddeall gwerth cydymdeimlad, parch a thegwch wrth ddatblygu cydberthnasau iach.

      Gallaf gyfleu fy anghenion a’m teimladau a pharchu anghenion a theimladau pobl eraill mewn gwahanol fathau o gydberthnasau.

      Gallaf arddel fy hawliau fy hun a pharchu hawliau pobl eraill.

      Gallaf gydnabod y gellir mynd yn groes i hawliau a gallaf adnabod achosion o hyn.

      Gallaf gymhwyso’r hyn rwy’n ei wybod am hawliau i gyd-destun fy nghydberthnasau.

    • Deilliannau cyflawniad

      Rwyf wedi dod i ddeall natur gymhleth cydberthnasau mewn amrywiaeth o gyd‑destunau a sut y mae amrywiaeth o ffactorau yn dylanwadu arnynt.

      Rwyf wedi dod i ddeall sut mae cydberthnasau pobl yn llywio eu hunaniaeth a sut mae eu hunaniaeth yn llywio eu cydberthnasau.

      Gallaf greu cysylltiadau ystyrlon ag eraill ac rwy’n gwerthfawrogi’r cydberthnasau sydd gennyf mewn amrywiaeth o gyd-destunau.

      Gallaf ffurfio, cynnal a dyfnhau cydberthnasau.

      Gallaf adnabod nodweddion cydberthnasau iach a gallaf ymateb yn briodol i nodweddion neu ymddygiad afiach neu niweidiol.

      Gallaf feithrin cydberthnasau yn seiliedig ar gydymdeimlad, cyfathrebu cadarnhaol, parch a thegwch.

      Gallaf eirioli dros fy hawliau fy hun a hawliau eraill.

    Gwybodaeth ategol i helpu ymarferwyr i ddylunio a datblygu cwricwla manwl mewn ysgolion a lleoliadau.

    • Mae’r adran hon yn awgrymu lle gellid cyfoethogi dysgu drwy wneud cysylltiadau rhwng datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ar draws Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles. Mae hefyd yn awgrymu ymhle gellid ystyried gwahanol elfennau o ddysgu gyda’i gilydd er mwyn cefnogi dysgu sy’n fwy holistaidd.

      Mae datblygu iechyd a lles y corff yn arwain at fuddiannau gydol oes.

      • Meithrin cydberthnasau a chydweithredu drwy gemau tîm.

        (o Gam cynnydd 3 ymlaen)
      • Y cyswllt rhwng y glasoed, rhywioldeb a pherthnasau rhywiol.

      Mae’r ffordd rydym yn prosesu ein profiadau ac yn ymateb iddynt yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol.

      • Pwysigrwydd empathi a chydymdeimlad wrth feithrin cydberthnasau cadarnhaol.
      • Pwysigrwydd cyfathrebu teimladau mewn cydberthnasau.

      Mae’r ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau yn effeithio ar ansawdd ein bywydau ni a bywydau eraill.

      • Cael gafael ar gymorth a gwybodaeth er mwyn sicrhau diogelwch personol mewn cydberthnasau.
      • Meithrin perthnasau ag eraill, defnyddio sgiliau datrys problemau a negodi er mwyn helpu i wneud penderfyniadau ar y cyd a helpu gyda sgiliau gyrfa.
      • Gwneud penderfyniadau yng nghyd-destun gwahanol gydberthnasau (gan gynnwys cydsynio).

      Mae’r ffordd rydym yn ymgysylltu â dylanwadau cymdeithasol gwahanol yn siapio pwy ydym ni a’n hiechyd a’n lles.

      • Sut y gall agweddau a normau cymdeithasol effeithio ar gydberthnasau mewn ffyrdd cadarnhaol a negyddol.
      • Sut mae gwahanol grwpiau cymdeithasol a chymdeithasau yn cyflwyno normau gwahanol o ran cydberthnasau.
      • Meithrin cydberthnasau o fewn gwahanol grwpiau cymdeithasol.
    • Mae’r adran hon yn awgrymu lle gellid cyfoethogi dysgu drwy wneud cysylltiadau rhwng datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ar draws yr holl feysydd dysgu a phrofiad. Mae hefyd yn awgrymu ymhle gellid ystyried gwahanol elfennau o ddysgu gyda’i gilydd er mwyn cefnogi dysgu sy’n fwy holistaidd.

      Celfyddydau Mynegiannol

      • Pwysigrwydd y Celfyddydau Mynegiannol ac addysgeg gysylltiedig wrth archwilio cydberthnasau.
      • Meithrin cydberthnasau drwy gydweithio i greu celf.

      Dyniaethau

      • Pwysigrwydd meithrin cydberthnasau er mwyn cefnogi dinasyddiaeth.
      • Deall cydberthnasau ysbrydol.
      • Deall hawliau, parch a thegwch.

      Gwyddoniaeth a Thechnoleg

      • Archwilio cydberthnasau mewn cyd-destun ar-lein.

        (o Gam cynnydd 3 ymlaen)
      • Bioleg a chydberthnasau rhywiol.

      Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

      • Rôl iaith wrth gyfathrebu a mynegi emosiynau mewn cydberthnasau.
      • Pwysigrwydd cyfathrebu wrth feithrin a chynnal cydberthnasau.
      • Defnyddio llenyddiaeth er mwyn archwilio cydberthnasau.
    • Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

      Mae angen i ddysgwyr brofi:

      • cyfleoedd i feithrin a datblygu perthnasau mewn gwahanol gyd-destunau ac i ddatblygu cysylltiadau ystyrlon â phethau byw eraill
      • cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau tîm a chydweithredu ag eraill, gan ymgymryd ag amrywiaeth o rolau
      • cyfleoedd i archwilio amrywiaeth ehangach o gydberthnasau y tu hwnt i brofiad pob-dydd personol gan gynnwys darllen ffuglen a deunydd ffeithiol, gwylio ffilmiau, gwylio’r teledu, chwarae gemau a’r byd rhithwir
      • cyfleoedd i archwilio a chynnal gwerthusiad beirniadol o wahanol ddulliau o ddatrys achosion o wrthdaro.

      Mae angen i ddysgwyr wybod:

      • bod cydberthnasau yn hanfodol i les a gallant gael effaith gadarnhaol a negyddol arno
      • bod amrywiaeth eang o fathau o gydberthnasau (gan gynnwys cyfeillgarwch, rhieni, teuluol, athro/dysgwr, rhamantus, ysbrydol, rhithwir, rhywiol a phroffesiynol) – pan fydd y rhain yn gydberthnasau iach, gallant ein helpu a bod o fudd i ni
      • sut i gael gafael ar gymorth a gwybodaeth er mwyn meithrin cydberthnasau cadarnhaol a sicrhau diogelwch personol
      • er bod mathau tebyg o gydberthnasau, mae pob un yn unigryw a byddant yn amrywio o berson i berson
      • bod parch, tegwch a chydnabod hawliau ein gilydd yn rhan bwysig o ddatblygu cydberthnasau iach a diogel
      • pwysigrwydd preifatrwydd a chydsyniad
      • sut i gydnabod sylw rhywiol nad ydynt yn dymuno ei gael ac amddiffyn eu hunain rhagddo
      • enghreifftiau posibl o gydberthynas afiach neu dreisgar.

      Mae angen i ddysgwyr allu:

      • cyfleu eu hanghenion a’u teimladau
      • ceisio cymorth pan fo angen
      • ffurfio, datblygu a chynnal cydberthnasau iach mewn amrywiaeth o gyd-destunau
      • cydnabod a pharchu safbwyntiau, gwerthoedd a hawliau eraill wrth ddatblygu a chynnal cydberthnasau
      • cydnabod ac ymateb i anghenion a theimladau eraill, gan ddangos empathi a chydymdeimlad
      • defnyddio sgiliau datrys problemau, cydweithredu a thrafod i gynnal cydberthnasau
      • adnabod ac ymateb yn adeiladol ac yn briodol i achosion o wrthdaro mewn cydberthnasau
      • cydnabod sylw rhywiol nad ydynt yn dymuno ei gael ac ymateb yn briodol
      • cydnabod nodweddion cydberthnasau afiach neu niweidiol a gofyn am help i ymateb iddynt.

  • Disgrifiadau o ddysgu sy’n seiliedig ar gynnydd o fewn ac ar draws datganiadau o’r hyn sy’n bwysig, sydd, yn eu tro, yn adlewyrchu pedwar diben y cwricwlwm.

    • Egwyddorion cynnydd yw’r sail ar gyfer datblygu’r deilliannau cyflawniad a dylent lywio dilyniant y dysgu o fewn y maes dysgu a phrofiad.

      Dysgu gwell hunanreolaeth: Daw’r dysgwyr yn gynyddol annibynnol a chymwys o ran rheoli eu hemosiynau a’u hymddygiad.

      Dod yn fwy cyfrifol yn gymdeithasol: Mae’r dysgwyr yn tyfu o ran eu hunanymwybyddiaeth ac o ran y modd y maent yn ystyried sut y mae eu gweithredoedd yn effeithio ar eraill.

      Soffistigeiddrwydd gwybodaeth a sgiliau: Gall y materion yr ymdriniwyd â nhw gael eu hystyried o’r newydd ac mewn mwy o ddyfnder wrth i allu a dealltwriaeth y dysgwyr ddod yn fwy soffistigedig.

      Twf datblygiadol: Mae’r cynnydd yn cyd-fynd â cherrig milltir datblygiad plant.

    • Bydd Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn helpu dysgwyr i ddeall y ffactorau sy’n effeithio ar iechyd a lles y corff, megis deiet cytbwys, gweithgareddau corfforol, gofal a hylendid personol, cwsg, a diogelwch rhag haint. Drwy ddeall hyn, bydd dysgwyr yn gallu datblygu ymddygiad sy’n eu helpu i barchu ac i ofalu amdanynt eu hunain ac eraill. Bydd hyn yn ei dro yn cyfrannu at ddatblygu synnwyr o hunanwerth yn y dysgwyr ac yn cyfrannu hefyd at eu hwyliau’n gyffredinol ynghyd â’u lefelau egni.

      O gael profiadau addysgiadol, hwyliog megis gweithgarwch corfforol rheolaidd a deiet maethlon a chytbwys, bydd dysgwyr yn meithrin yr ymagweddau sydd eu hangen arnynt er mwyn byw mewn ffordd sy’n cefnogi iechyd a lles y corff.

      Drwy ddatblygu lles ac iechyd y corff da, nid yn unig bydd cymhwysedd corfforol y dysgwyr yn gwella ynghyd â’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth am y corff, ond bydd eu hyder a’u cymhelliant yn datblygu hefyd, a gall y cyfan hwn eu helpu i fyw bywydau iach ac actif.

      Mae’r maes dysgu a phrofiad hwn yn cydnabod y modd y mae datblygiad corfforol yn cydberthyn yn agos i ddatblygiad gwybyddol gydol oes, er enghraifft y modd y mae’n helpu i ddatblygu lleferydd ac iaith yn ystod y blynyddoedd cynnar. Mae hefyd yn cydnabod sut y caiff iechyd a lles y corff eu dylanwadu gan y modd yr ydym yn gweld ac yn ystyried ein hunain mewn perthynas ag eraill ac â’n hamgylchfyd, ac mae’n gwerthfawrogi pwysigrwydd cydnabod a derbyn gwahaniaethau.

      Deilliannau cyflawniad

      Profiadau, gwybodaeth a sgiliau

;