Fideogynadledda
-
- Rhan o:
- Gwersi byw
Beth yw fideogynadledda?
Mae fideogynadledda yn galluogi sawl parti mewn gwahanol leoliadau i ymuno ag ystafell rithwir, gan hwyluso cydweithio drwy rannu sain, fideo, testun a chyflwyniadau mewn amser real dros y rhyngrwyd. Mae modd tanio a diffodd camerâu a meicroffonau.
Fideogynadledda drwy Hwb
Drwy Hwb, mae gan staff fynediad at Microsoft 365 (M365) a Google Workspace for Education.
Gellir defnyddio Microsoft Teams i gyflwyno fideogynadledda.
Gellir defnyddio Google Meet i gyflwyno fideogynadledda.
Defnyddio fideogynadledda i gyflwyno gwersi
Gall fideogynadledda fod yn effeithiol i ymarferwyr sy'n cyflwyno dysgu cyfunol pan gaiff ei ddefnyddio'n briodol. Mae'n galluogi ymarferwyr i efelychu ymarfer ystafell ddosbarth mewn amgylchedd rhithwir drwy ymgysylltu a rhyngweithio. Gellir defnyddio fideogynadledda i:
- gyflwyno gwersi i'ch dosbarth a'ch dysgwyr
- cyflwyno sesiynau bugeiliol neu addysgu i grwpiau bach
- cynnal sesiwn dal i fyny lles neu gynnal apwyntiad AAA/ADY
Manteision gwersi fideogynadledda
Mae fideogynadledda yn cynnig llawer o fanteision i ddysgu cyfunol. Mae manteision defnyddio fideo-gynadledda i gyflwyno gwersi yn cynnwys:
- cyfle i gyfranogwyr gael cyswllt wyneb yn wyneb mewn amser real
- hwyluso dysgu rhyngweithiol a chydweithredol
- effeithiau cadarnhaol ar ymgysylltiad a lles dysgwyr
- defnyddiol ar gyfer cadw mewn cysylltiad â dysgwyr
- adborth i ddysgwyr ar unwaith
- galluogi cymorth unigol
- gellir ei ddefnyddio i alluogi plant a phobl ifanc i gadw mewn cysylltiad â'u cyd-ddisgyblion a chymryd rhan mewn dysgu grwp, er enghraifft, trafodaethau
Pwyntiau i'w cofio
- Bydd popeth ar eich sgrin neu bopeth y byddwch chi'n ei rannu yn cael ei weld gan bawb.
- Mae fideogynadledda yn digwydd mewn amser real - ystyriwch yn ofalus yr hyn y gellir ei weld a'i glywed yn eich amgylchedd.
- Drwy amserlennu gwers fideogynadledda, rydych chi'n ymrwymo i gyflwyno gwers ar ddyddiad a amser penodol.
- Os yw dysgwyr yn defnyddio fideo a sain, dylai pob dysgwr ddewis lleoliad niwtral sy'n briodol ac yn ddiogel.
- Os yn bosibl, dylai ymarferwyr a dysgwyr ddefnyddio gosodiadau pylu cefndir yn Microsoft Teams a Google Meet.
- Os bydd ymarferwyr yn dewis, gall dysgwyr gyflwyno eu sgrin a rhannu cynnwys.