English

Efallai y byddwch yn ystyried ffrydio gwersi byw neu fideogynadledda fel rhan o'ch dull dysgu cyfunol. Os byddwch yn gwneud hynny, dylech roi sylw dyledus i'r canllawiau a amlinellir yn Ffrydio byw a fideogynadledda: arferion ac egwyddorion diogelu i sicrhau eich bod chi a'ch dysgwyr yn cael eich diogelu'n briodol.

Mae Google Meet yn darparu cyfleusterau rhannu sain, fideo, ffeil a sgrin i athrawon y gellir eu defnyddio i hwyluso ffrydio gwersi byw gyda dysgwyr

Mae athrawon yn gallu trefnu gwersi trwy Google Meet mewn tri ffordd:

  • Defnyddio ‘Meet’ yn Google Classroom 
  • Trefnu sesiwn ‘Meet’ yn Google Calendr 
  • Cyfarfod sydyn yn ap Google Meet

DS Dyw dysgwyr ddim yn gallu cychwyn neu sefydlu gwers.

Pwysig

Mewn cyfarfodydd/gwersi gyda dysgwyr, argymhellwn fod athrawon yn defnyddio Meet yn Google Classroom. Bydd hyn yn sicrhau:

  • Mai dim ond defnyddwyr Hwb all ymuno.
  • Bod yn rhaid i athrawon fod yn bresennol cyn i ddysgwyr allu ymuno.

I greu cyfarfodydd/gwersi gyda dysgwyr, dylai athrawon ddefnyddio Trefni yn Google Calendr, ond mae’n rhaid iddyn nhw ddiffodd Mynediad cyflym cyn dechrau’r cyfarfod.

Yn yr un modd, wrth greu cyfarfodydd ar unwaith (Instant Meeting) yn ap Google Meet, mae’n rhaid i athrawon ddiffodd Mynediad cyflym yn Reolaethau’r trefnydd cyn iddyn nhw wahodd unrhyw ddysgwyr i ymuno â’r wers.

Bydd diffodd Mynediad cyflym yn sicrhau:

  • Bod yn rhaid i athrawon fod yn bresennol cyn i ddysgwyr allu ymuno.
  • Bydd pawb a wahoddir yn gorfod cael eu derbyn gan athro.

Rhaid gorffen pob gwers yn unol â’r canllawiau, Gorffen Gwersi.

 

Rhaid i athrawon rannu’r ddolen Meet (a welir yng ngosodiadau Classroom) yn Classroom er mwyn rheoli pryd gall dysgwyr ymuno â sesiwn Meet (Sut mae rhannu ‘dolen Meet’ fy ngwers gyda dysgwyr ac athrawon?)

Gellir trefnu Google Meet ar gyfer cyfanswm o hyd at 100 o gyfranogwyr, gan gynnwys aelodau staff.

Gall athrawon greu a rheoli dolen Meet ar gyfer y Dosbarth yn Google Classroom.

Gall athrawon a dysgwyr rannu’r un ddolen ar gyfer holl gyfarfodydd y dosbarth.

DS Mae dolen Meet y dosbarth yn creu cod unigryw newydd bob tro y’i defnyddir – fel nad yw’r dysgwyr yn gallu ymuno tan fod yr athro wedi rhannu’r ddolen Meet.

  1. Cliciwch y gosodiadau Dosbarth (eicon olwyn).
  2. O dan Cyffredinol, cliciwch Cynhyrchu dolen Meet. Mae dolen Meet yn ymddangos ar gyfer eich dosbarth.
  3. Ar y brig, cliciwch Cadw.

Noder: Dim ond chi a'ch cyd-athrawon sy’n gallu creu, dangos, cuddio neu ailosod dolen y cyfarfod ar gyfer eich dosbarth neu ddechrau cyfarfod fideo dosbarth yn Classroom.

Os ydych chi'n cael problemau gyda'r ddolen, gallwch ei hailosod a chael un newydd. Ar ôl ailosod y ddolen, ni fydd yr hen ddolen yn gweithio.

  1. Cliciwch y gosodiadau Dosbarth (eicon olwyn cocsen).
  2. Wrth ymyl y ddolen Meet, cliciwch y saeth i lawr, Ailosod.

Bydd angen i chi gopïo'r ddolen Meet a'i rhannu gyda dysgwyr ac athrawon fel y gallant ymuno â'r wers.

Noder: Dylai athrawon rannu’r ddolen pan fyddan nhw’n barod i’r cyfarfod dechrau, gan reoli pryd all y dysgwyr ymuno â Meet.

Gallwch gopïo dolen a'i gludo mewn aseiniad, cwestiwn neu neges.

  1. Cliciwch y gosodiadau Dosbarth (eicon olwyn).
  2. Wrth ymyl y ddolen Meet, cliciwch y saeth i lawr, Copio .

Gallwch rannu'r ddolen hon drwy ei gludo mewn cyhoeddiad, aseiniad neu gwestiwn:

  1. Ar y dudalen Stream, cliciwch Cyhoeddi rhywbeth i'ch dosbarth.
  2. Rhowch eich cyhoeddiad ac, ar y gwaelod, cliciwch Ychwanegu a ddolen.
  3. Gludwch y ddolen Meet, cliciwch Ychwanegu ddolen.
  4. Cliciwch Postio.

Noder: Gallwch hefyd drefnu’r neges ar gyfer amser diweddarach hefyd neu ei chadw fel drafft dewislen gwympo wrth ymyl Postio

  1. Ar y dudalen Gwaith dosbarth, cliciwch Creu aseiniadau a chestiynau
  2. Yn y manylion aseiniad neu gwestiwn, cliciwch Ychwanegu a ddolen.
  3. Gludwch y ddolen Meet, cliciwch Ychwanegu dolen.
  4. Cliciwch Gosod.

Noder:   Gallwch drefnu'r aseiniad neu'r cwestiwn ar gyfer amser diweddarach hefyd neu ei gadw fel drafft dewislen gwympo wrth ymyl Gosod. 

Mae 3 ffordd o ddechrau'r wers o Classroom:

  1. Ar frig y dudalen Ffrwd, o dan god y dosbarth, cliciwch y ddolen Meet.
  2. Ar frig y dudalen Gwaith dosbarth, cliciwch Meet.
  3. Mewn cyhoeddiad, cwestiwn neu aseiniad, cliciwch y ddolen ar gyfer cyfarfod fideo'r dosbarth.

Yna, byddwch yn gweld tudalen Meet lle gallwch addasu eich gosodiadau camera, cefndir a sain. Cliciwch Ymuno nawr.

Os mai chi yw'r person cyntaf i ymuno â'r cyfarfod, byddwch yn gweld ffenestr i wahodd eraill. Os nad oes angen i chi wahodd unrhyw un neu rannu'r ddolen cyfarfod, gallwch gau'r ffenestr hon.

Noder: Pan fyddwch yn clicio'r ddolen Meet, byddwch yn dechrau'r cyfarfod. Gall dysgwyr ymuno â'r cyfarfod yn syth ar ôl i chi ddechrau’r cyfarfod os yw’r ddolen ganddynt. Dim ond pan maent yn barod i wneud y dylai athrawon rannu'r ddolen.

Gall athrawon drefnu gwersi mewn sawl ffordd:

  • Yn ap Google Calendar, clicio botwm + Creu.
  • Yn ap Google Calendar, dewis slot amser ar y calendr.
  • Yn ap Google Meet, clicio ar Cyfarfod newydd a dewis Trefni yn Google Calendr.

Gair o gyngor: Os ydych chi’n defnyddio ap Google Calendar, gofalwch eich bod yn eich calendr personol chi cyn i chi ddechrau creu’r wers a drefnwyd.

Bydd pob opsiwn yn agor ffurflen newydd, a bydd angen i chi:

  1. Rhoi manylion eich gwers
  2. Gofalu eich bod wedi Ychwanegu fideo-gynadledda Google Meet
  3. Ychwanegu gwesteion yr hoffech iddi/iddi ymuno â’ch Meet. Gall hyn fod yn Google Class cyfan a/neu gyfrifon Hwb unigol.
  4. Rydym yn argymell newid y gosodiad Mynediad cyflym i diffodd yn yr opsiwn cog am alwad fideo er mwyn sicrhau na all dysgwyr ymuno cyn yr athro yn yr opsiwn cog am alwad fideo .
  5. Clicio Cadw
  6. Clicio Anfon i anfon gwahoddiadau e-bost Google Calendr

Noder: Dim ond pobl sydd wedi’u gwahodd a’u henwi’n unigol fydd yn derbyn gwahoddiad e-bost yn eu Google Calendar personol. Os yw dosbarth cyfan yn cael ei wahodd, ni fyddant yn derbyn gwahoddiad e-bost ond yn hytrach yn derbyn cofnod yn Class Google Calendr.

Noder: Ni all dysgwyr drefnu gwers.

I ddechrau gwers rydych chi eisoes wedi’i threfnu:

  1. Ewch i Google Calendar ar adeg y wers
  2. Cliciwch ar y wers sydd wedi’i threfnu
  3. Dewiswch Ymuno â Google Meet, byddwch yn gweld ffenestr newydd. Yma gallwch addasu a phrofi’ch gosodiadau camera, cefndir a microffon cyn ymuno.

Cliciwch Ymuno nawr.

Mae'r ap Meet yn ffordd arall i athrawon greu gwers ar gyfer dysgwyr dethol heb ei threfnu ymlaen llaw. Mae hyn yn golygu y gallwch  greu gwers yn gyflym iawn.

Gallwch lywio i’r ap Meet o’r waffl ar far offer Google Classroom.

Mae 2 ffordd i ddechrau gwers yn gyflym o’r ap Meet:

  • Clicio Cyfarfod newydd a dewis Dechrau cyfarfod sydyn (argymhellir)

neu

  • Rhoi llysenw yn y bocs a chlicio Ymuno. Yna, byddwch yn gweld tudalen Meet lle gallwch addasu’ch camera, y cefndir a gosodiadau sain. Cliciwch Ymuno nawr.

Gair o gyngor: Os ydych chi’n dewis llysenw, gofalwch ei fod yn unigryw gan y gallai’r llysenwau hyn wrthdaro â chyfarfodydd/gwersi eraill yr ysgol ac achosi i’r gynulleidfa ymuno â’r cyfarfod anghywir yn anfwriadol.

Bydd y cyfarfod yn dechrau a bydd y ffenestr Ychwanegu eraill yn ymddangos. Gall athrawon ychwanegu pobl at y wers gan ddefnyddio’r opsiynau hyn.

Gair o gyngor: Gall athrawon hefyd wahodd rhagor o ddysgwyr ac athrawon i’r wers yn ystod y wers.

Pwysig: Ni argymhellir yr opsiwn Creu cyfarfod I’w ddefnyddio’n new ymlaen ar gyfer gwersi gyda dysgwyr, oherwydd ar ôl rhannu’r ddolen Meet, ni all athrawon atal dysgwyr rhag ymuno â’r alwad cyn iddyn nhw wneud.

Ar ôl i gyfarfod ddechrau, gall athrawon ychwanegu mwy o ddysgwyr ac athrawon i’r wers drwy eu gwahodd.

  1. Cliciwch ar yr eicon Dangos pawb.
  2. Cliciwch ar Ychwanegu pobl.
  3. Ar y tab gwahodd, dewiswch enw neu rhowch gyfeiriad e-bost a chlicio Anfon e-bost. (Bydd y defnyddwyr sydd wedi’u gwahodd yn derbyn e-bost gyda manylion ymuno.)

Fel trefnydd y wers, dylech addasu opsiynau i helpu i reoli’r wers.

Gyda gwersi sydd wedi’u trefnu ar Google Calendr, gellir ffurfweddu’r gosodiad Mynediad cyflym cyn i’r cyfarfod ddechrau. Gellir gwneud hyn pan fo’r wers yn cael ei threfnu neu ei newid ar gyfer apwyntiad Google Calendar sydd wedi’i drefnu.

I weld a newid y gosodiad:

  1. Cliciwch ddwywaith ar (neu Golygu digwyddiad) ar y cyfarfod penodol yn Google Calendr
  2. Cliciwch yr olwyn gocos opsiwn alwad fideo.
  3. Newidiwch y gosodiad Mynediad cyflym a chlicio Cadw.

PWYSIG

Mynediad cyflym – Y gwerth rhagosodedig ar gyfer y gosodiad hwn yn ymlaen.

Rydym yn argymell newid hwn i diffodd ar gyfer pob cyfarfod gyda dysgwyr, gan fod hyn yn eu hatal rhag ymuno â’r cyfarfod cyn yr athro.

Pan osodir Mynediad cyflym i diffodd, bydd yn rhaid i bawb sydd wedi’u gwahodd aros i’r athro eu derbyn i’r wers. Fodd bynnag, os yw unigolion a enwir wedi’u wahodd yn ceisio ymuno â’r alwad cyn yr athro, bydd yn rhaid iddyn nhw aros mewn cyntedd, ond byddant yn ymuno â’r cyfarfod yn awtomatig ar ôl i’r athro ymuno. Ond, os ydyn nhw’n ceisio ymuno ar ôl i’r athro ymuno, yna bydd yn rhaid iddyn nhw aros yn y cyntedd fel pawb arall sydd wedi’u gwahodd.

Os oes angen, gallwch hefyd newid y gosodiad Mynediad cyflym ar ôl i’r cyfarfod ddechrau yn Reolaethau’r trefnydd.

Fel trefnydd y wers, gallwch addasu opsiynau’r cyfarfod yn ystod y wers i helpu i reoli’r wers.

Gallwch chi gael mynediad at Reolaethau'r trefnydd ar gyfer y cyfarfod drwy'r ddewislen ar waelod y sgrin

  1. Cliciwch icon rheoli gwesteiwr.

Yna, bydd gennych chi'r opsiwn i ddiffodd y rheolaethau hyn neu eu rhoi yn ôl ymlaen:

  • Mynediad cyflym - Pan fydd hwn wedi'i ddiffodd, ni all unrhyw un ymuno â’r wers cyn yr athro, ac mae’n rhaid i bawb ymuno (‘cnocio’ i ymuno), gan gynnwys pobl sydd â chyfeiriad e-bost Hwb.
  • Rhannu eu sgrin – Pan fydd yr opsiwn hwn wedi ei ddiffodd, dim ond y trefnydd all rannu ei sgrin.
  • Anfon negeseuon sgwrs – Pan fydd yr opsiwn hwn wedi ei ddiffodd, dim ond y trefnydd all anfon negeseuon sgwrs.

Noder: Er mwyn rheoli mynediad at eu cyfarfodydd, gall y rhai sy'n cynnal y cyfarfodydd droi Mynediad cyflym ymlaen neu ei ddiffodd. Yn ddiofyn, bydd y gosodiad hwn ymlaen.

Pan fyddwch yn newid y togl Mynediad cyflym er mwyn ei ddiffodd, rhaid i ddysgwyr 'guro' i ofyn am gael ymuno â'r cyfarfod.

Gwybodaeth

Un o brif nodweddion y drwydded yw’r gallu i recordio sesiynau Google Meet. Hyd at 31 Awst 2023, roedd ymarferwyr yng Nghymru yn gallu defnyddio’r swyddogaeth hon drwy wneud cais ym Mhorth Rheoli Defnyddwyr Hwb. Roedd hyn wedi’i roi ar waith er mwyn lliniaru effaith penderfyniad Google i gael gwared â’r swyddogaeth recordio Google Meet o Google Workspace for Education Fundamentals ym mis Ionawr 2022. Bellach, dim ond drwy brynu trwydded uwchraddio Google ar gyfer Addysgu a Dysgu y mae hyn yn bosib.
Ar hyn o bryd,  mae

Google Workspace for Education Fundamentals ar gael i’w ddefnyddio yn rhad ac am ddim ar Hwb. Gellir ychwanegu’r uwchraddiad ar gyfer Addysgu a Dysgu at Education Fundamentals er mwyn darparu cyfathrebu fideo uwch, profiadau mwy cyfoethog yn y dosbarth ac offer integredig i weithio mewn ffordd fwy effeithlon. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Compare Google Workspace Features.  

Proses Archebu

Rhaid i bob archeb gael ei gwneud drwy’ch awdurdod lleol erbyn 31 Hydref 2023.  

Y gost fydd £2.25 (mae angen ychwanegu’r ffi Gwasanaeth Technoleg Addysg ar ben hynny) fesul trwydded, fesul mis, fesul defnyddiwr. 

Bydd pob trwydded yn para tan 31 Awst 2024 a bydd trwyddedau sy’n cael eu prynu yn ystod mis Hydref yn para ac yn cael eu costio ar sail pro rata.

Dim ond gyda fersiwn gyfrifiadurol Meet y mae'r opsiwn recordio ar gael. Hysbysir defnyddwyr yr ap ffôn symudol pan fydd y recordiad yn dechrau neu'n gorffen, ond ni allant reoli'r recordio. Dim ond Athrawon sy'n gallu dechrau neu orffen recordio gwers.

  1. Agorwch Meet, Dechrau cyfarfod newydd neu Ymuno  (remove all hyperlinks)
  2. Ar y ddewislen ar waelod y sgrin, cliciwch Rhagor o ddewisiadau (3 dot fertigol) a dewiswch Recordio'r cyfarfod, yna Dechrau.
  3. Arhoswch i'r recordiad ddechrau.

Hysbysir cyfranogwyr eraill pan fydd y recordiad yn dechrau neu'n gorffen.

Sut mae rhoi'r gorau i recordio gwers?

  1. Ar y ddewislen ar waelod y sgrin, cliciwch Rhagor o ddewisiadau (3 dot fertigol) a dewiswch Stopio recordio.
  2. Cliciwch Stopio recordio ar y pop up ar y dde a wedyn stopio recordio eto i gadarnhau.
  3. Mae'r recordiad hefyd yn gorffen pan fydd pawb yn gadael y cyfarfod.

Ewch i'n tudalen recordio a storio fideos i gael manylion am ble mae recordiadau gwers Google Meet yn cael eu storio neu eu hanfon.

Gallwch glicio'r eicon camera i ddiffodd eich camera neu ei roi ymlaen.

Gallwch newid eich effaith cefndir cyn neu yn ystod galwad. Cyn galwad, ar ochr dde isaf eich rhagolwg llun, cliciwch Newid cefndir. Os ydych chi eisoes mewn galwad, gallwch fynd i waelod y sgrin ar yr ochr dde a dewis Rhagor o ddewisiadau (3 dot fertigol).

Opsiynau

  1. Pylu eich cefndir.
  2. Pylu eich cefndir ychydig.
  3. Dewis gefndir sydd wedi'i lanlwytho yn barod.

Nid yw pob porwr neu ddyfais yn cefnogi gwneud newidiadau i'r cefndir. 

Argymhellir y dylech annog eich dysgwyr i ddewis effaith cefndir neu bylu eu cefndir fel yr amlinellir yn Ffrydio byw: arferion ac egwyddorion diogelu ar gyfer ymarferwyr addysg.

I ddiffodd neu ddad-ddiffodd eich sain eich hun, ar waelod y ffenestr fideo, cliciwch yr eicon Meicroffon i’w ddiffodd/dad-ddiffodd.

Os ydych yn clywed swn cefndir tra byddwch mewn cyfarfod fideo, efallai yr hoffech ddiffodd meicroffonau dysgwyr.

Mae dwy ffordd o ddiffodd meicroffon dysgwr unigol.

  1. Cliciwch ar fân-lun y dysgwr a dewiswch y meicroffon i'w ddiffodd.
  2. Cliciwch ar yr eicon Pobl, dewiswch y 3 dot llorweddol wrth ymyl y person rydych chi am ei dawelu, dewiswch Tewi meicroffon.

I ddistewi’r microffonau ar gyfer pawb sy’n bresennol, ciciwch ar yr eicon Pobl a dewiswch Distewi pawb.

Gair i gall: Am resymau preifatrwydd, ni allwch chi ddad-ddiffodd meicroffon person arall. Gofynnwch i'r dysgwr ddad-ddiffodd ei sain.

Yn ystod y wers, efallai y bydd neges naid yn ymddangos ar y sgrin yn dweud bod rhywun yn gofyn am gael ymuno. Gallwch chi ddewis naill ai Gwrthod mynediad neu Cyfaddef.

I sicrhau nad yw dysgwr yn ymuno cyn cyfranogwr, gellir diffodd y gosodiad Mynediad cyflym. Mae hyn yn golygu y bydd angen i’r sawl sy’n cynnal y sesiwn dderbyn pob dysgwr a staff iddi Sut mae sicrhau nad yw dysgwyr yn dod i mewn i Wers cyn yr athro?

Noder Gellir ffurfweddu’r gosodiad Mynediad cyflym ar gyfer y gwersi sydd wedi’u trefnu drwy Google Calendr cyn dechrau’r sesiwn. Gyda phob gwers arall, gellir ond ffurfweddu hyn ar ôl i’r cyfarfod ddechrau yn Reolaethau’r trefnydd.

Rhybudd: Mae'n bosibl i gyfrifon nad ydyn nhw'n gyfrifon Hwb ofyn am gael ymuno â gwers os yw dolen y cyfarfod wedi'i rhannu (naill ai'n fwriadol neu'n anfwriadol).

Yn ystod y wers, bydd neges naid yn ymddangos ar y sgrin yn dweud bod rhywun o'r tu allan i Hwb yn gofyn am gael ymuno.
Os nad ydych chi'n adnabod y cyfrif, argymhellir y dylech chi glicio Gwrthod mynediad i wrthod y cais i ymuno â'r wers.

Os ydych chi wedi derbyn rhywun i'r wers yn ddamweiniol, gallwch chi eu tynnu nhw o'r wers (tynnu dysgwr o wers).

Gellir diffodd y gosodiad Mynediad cyflym  i atal dysgwyr a staff rhag ymuno â gwers cyn y sawl sy’n cynnal y sesiwn. Bydd y gosodiad hwn wedi’i ragosod i fod ymlaen.

Pan fyddwch chi'n newid y togl i ddiffodd Mynediad cyflym, rhaid i ddysgwyr a staff 'gnocio' i ofyn am gael ymuno â'r cyfarfod. Bydd gan y trefnydd yr opsiwn o dderbyn dysgwyr i'r wers (derbyn dysgwr i wers).

Argymhellir ar gyfer gwersi a drefnir gyda dysgwyr ar:

  • Google Calendr, y dylai athrawon newid y gosodiad Mynediad cyflym diffodd cyn dechrau’r wers.
  • Ap Google Meet, dylai athrawon newid y gosodiad Mynediad cyflymdiffodd gan ddefnyddio Reolaethau’r trefnydd, cyn ychwanegu dysgwyr i’r ers.
  • Google Classroom, dylai athrawon ond rhannu dolen y cyfarfod pan fyddan nhw’n barod i’r cyfarfod ddechrau, er mwyn sicrhau nad yw dysgwr yn ymuno â gwers cyn yr athro.

Noder: Gall athrawon hefyd newid y gosodiad Mynediad cyflym yn ystod y wers drwy ddefnyddio Reolaethau’r trefnydd, os ydyn nhw’n anghofio gwneud hynny cynt.

Mae rhestri presenoldeb am gyfarfod google meet ar gael i lawrlwytho o’r porth rheoli defnyddwyr.

  1. Mewngofnodi i Hwb a llywio i'r porthol rheoli defnyddwyr a mewngofnodi.
  2. Cliciwch ar Gweinyddiaeth a chlicio ar Archwiliadau Google Meet o dan yr adran Ffurfweddiad Y Safle.
  3. Defnyddiwch yr hidlydd i ddod o hyd i'r Meet rydych chi'n chwilio amdano.
  4. Cliciwch ar Manylion i weld mynychwyr y cyfarfod.
  5. Cliciwch ar lawrlwytho i allforio csv o fynychwyr y cyfarfod.

Ni allwn ddarparu cyfeiriadau e-bost na chyfeiriadau IP unrhyw ddefnyddwyr allanol. Cyfyngiad Google yw hwn, felly os oes angen y wybodaeth hon, bydd angen i'r ysgol gysylltu â'r heddlu, a byddai wedyn angen iddyn nhw gysylltu â Google.

Cyflwyno yn ystod cyfarfod

  1. Ar y gwaelod, dewiswch icon Cyflwyno nawr.
  2. Dewiswch Eich sgrin gyfan, Ffenest neu Tab.
  • Os byddwch yn cyflwyno Tab, mae'n rhannu sain y tab hwnnw’n ddiofyn. Dewiswch o’r rhestr o’r tab rydych eisiau rhannu.
  • I gyflwyno tab gwahanol, dewiswch stopio rhannu a dewiswch icon cyflwyno nawr a Tab Dewiswch Tab arall o’r rhestr.
  1. Dewiswch y cynnwys yr hoffech ei rannu.
  2. Cliciwch Share.
  3. Os oes rhywun yn cyflwyno, cadarnhewch eich bod am gyflwyno yn eu lle.

Gair i gall: Os yw eich camera wedi'i droi ymlaen, mae eich fideo yn weithredol wrth i chi gyflwyno.

  1. Ar y gwaelod, cliciwch icon cyflwyno.
  2. Dewiswch Eich sgrin gyfan, Ffenest neu Tab.
  3. Bydd rhybudd yn rhoi gwybod i chi bod rhywun arall yn cyflwyno ac yn gofyn i chi gadarnhau eich bod am gymryd yr awenau fel y prif gyflwynydd.
  4. Cliciwch ar ffenestr i rhannu a cliciwch Share now.

Os bydd cyfranogwr arall yn cyflwyno ei sgrin, cewch hysbysiad bod eich cyflwyniad yn dal i fod yn weladwy i eraill. Gallwch glicio'r botymau yn yr hysbysiad i ddod â'ch cyflwyniad i ben neu ei ailddechrau.

Gall dysgwyr gyflwyno eu sgrin gan ddefnyddio'r opsiwn Cyflwyno nawr.

Unwaith y bydd dysgwr wedi gorffen cyflwyno, gall athrawon dynnu ei sgrin oddi yno.

Ar y ddewislen ar waelod y sgrin, cliciwch Rhagor o ddewisiadau (3 dot fertigol) a dewis Gosodiadau, yna Rheolyddion y gwesteiwr ac yna clicio'r togl Rhannu ei sgrin ymlaen ac i ffwrdd. (Bydd hyn yn tynnu'r holl sgriniau a gyflwynwyd)

Cyfranogiad dysgwyr

Codi llaw

Cliciwch ar yr eicon llaw i godi llaw neu i roi eich llaw i lawr.

Mae'r nodwedd hon yn caniatáu i ddysgwyr godi eu llaw yn rhithwir, gan ganiatáu i chi a dysgwyr eraill nodi pryd maent yn dymuno siarad gyda chiw gweledol ar eu ffrwd fideo. Mae hyn yn ei gwneud hi'n haws i chi reoli gwers.

Gair i gall: Gall athrawon roi dwylo mynychwyr i lawr drwy'r eicon Pobl a dewis y symbol llaw.

Sgwrsio

Cliciwch ar yr eicon swigen siarad ar gwaelod dde y sgrin.

Mae sgwrs cyfarfod yn rhoi lle i bob dysgwr ac athro ryngweithio drwy destun.  Dylai'r swyddogaeth hon gael ei monitro gan yr athrawon yn ystod y sesiwn.  Mae hon yn ffordd ddefnyddiol i ddysgwyr ofyn cwestiynau, gwneud sylwadau neu rannu dolenni heb dorri ar draws sain.

Gall y dysgwr ei hun neu athro yn yr ystafell ddosbarth ddileu sylwadau a adawyd yn y Ffrwd Ystafell Ddosbarth.

Athro
Dewiswch y tri dot fertigol ar y sylw.
Dewiswch Dilewu. Fe welwch chi rybudd sy'n dweud 'Comments will also be deleted. Other teachers in this class can see deleted posts'. Dewiswch Dileu i gwblhau'r weithred.

Dysgwyr
Dewiswch y tri dot fertigol ar y sylw.
Dewiswch Delete. Mae rhybudd yn ymddangos sy'n dweud 'Your teachers can see deleted posts'. Dewiswch Dileu i gwblhau'r weithred.

Dim ond trefnydd y wers all dynnu dysgwr o wers.

Mae dwy ffordd o dynnu dysgwr o wers:

  1. Cliciwch ar fân-lun y dysgwr a dewiswch yr eicon dileu i'w dynnu o'r cyfarfod
  2. Cliciwch ar yr eicon Pobl, dewiswch y 3 dot fertigol wrth ymyl y person rydych chi am ei dynnu o'r wers, dewiswch Remove from meeting.

Gair i gall: Ni all y dysgwr ail-ymuno â'r cyfarfod heb gael ei ail-ychwanegu drwy ddefnyddio Ychwanegu pobl o dan yr eicon Pobl.

I orffen gwers, bydd angen i athrawon glicio ar yr eicon ffôn coch a dewis Dod â'r alwad i ben.

Rhaid i athrawon sicrhau eu bod nhw'n dod â'r wers i ben fel hyn gan y bydd hyn yn dod â'r wers i ben ar gyfer pob dysgwr ac athro.

Ni ddylai athrawon ddefnyddio’r opsiwn Gadael yr alwad, gan y byddai hyn yn caniatáu i eraill barhau yn y cyfarfod heboch chi.

Ar y ddewislen ar waelod y sgrin, naill ai cliciwch Trwoch y capsiynau ymlaen neu cliciwch Rhagor o ddewisiadau (3 dot fertigol) a dewis Trowch y capsiynau ymlaen.

Mae'r capsiynau'n ymddangos ar waelod y sgrin.