English

Cynulleidfa a awgrymir: dysgwyr, staff ysgol, gweinyddwyr ysgolion, gweinyddwyr awdurdodau lleol, gweinyddwyr partneriaethau addysg.

Y rhifyn sydd ar gael i Hwb yw Google Workspace for Education Fundamentals.

Mae Google Workspace for Education Fundamentals yn becyn o wasanaethau yn y cwmwl a all ddarparu ffordd hollol newydd i'ch ysgol weithio gyda'i gilydd ar-lein, gan gynnig ystod o offer ystafell ddosbarth pwerus sy'n syml i'w defnyddio ac yn effeithiol iawn.

Gwybodaeth

Lle bynnag y mae ‘Google Workpace for Education’ yn ymddangos ar Hwb mae’n cyfeirio at y rhifyn ‘Education Fundamentals’.

Cael mynediad at Google Workspace for Education

Mae gan ddefnyddwyr Hwb ddau opsiwn i gael mynediad at Google Workspace for Education:

  1. Mewngofnodwch i Hwb:
    • Cliciwch y deilsen Google Workspace for Education.
    • Rhowch eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar gyfer Hwb.
    • Byddwch chi’n cael eich arwain yn syth at Google Classroom. I ddefnyddio rhaglen wahanol, cliciwch y ‘waffl’ Apiau Google (yn y gornel dde uchaf) a dewis y rhaglen Google Workspace for Education rydych am ei defnyddio.
  2. Ewch i google.com
    • Cliciwch y botwm Mewngofnodi glas (yn y gornel dde uchaf).
    • Rhowch eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar gyfer Hwb > a chlicio Nesaf.
    • Cliciwch y ‘waffl’ Apiau Google (yn y gornel dde uchaf) a dewis y rhaglen Google Workspace for Education rydych am ei defnyddio.

Dechrau arni

Ddarllen ein canllaw, ‘Dechrau Arni gyda Google Workspace for Education’

Mynediad i'r Ganolfan Athrawon Google (Saesneg yn unig)


Mae Google Classroom yn amgylchedd gwaith lle gall athrawon a dysgwyr gydweithio ar-lein.

Gall Athrawon greu dosbarth, gwahodd myfyrwyr a chyd-athrawon, ac wedyn rhannu gwybodaeth fel aseiniadau, cyhoeddiadau a chwestiynau yn ffrwd y dosbarth. Byddan nhw’n gallu gweld yn gyflym pwy sydd heb gwblhau’r gwaith, a rhoi graddau ac adborth uniongyrchol ac ar y pryd.

Gall Dysgwyr ymuno â dosbarthiadau sydd wedi’u creu gan eu hathro, a gweld aseiniadau ar y dudalen tasgau i’w gwneud neu yng nghalendr y dosbarth. Bydd holl ddeunyddiau’r dosbarth yn cael eu ffeilio’n awtomatig mewn ffolderi Google Drive.

Dechrau arni

Diwrnod cyntaf gyda Classroom: fideo hyfforddi o Google (Saesneg yn unig)

  • Mewn ysgol, gall staff neu Bencampwr Digidol ddefnyddio Google Classroom i greu dosbarthiadau sydd ar yr amserlen ar System Rheoli Gwybodaeth yr ysgol:

    1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i’r Porthol Rheoli Defnyddwyr.
    2. Cliciwch Gweinyddiaeth > Gweld grwpiau.
    3. Defnyddiwch yr hidlyddion i ddangos y dosbarth dan sylw drwy ddewis y flwyddyn, y math o grwp, yr athro neu’r flwyddyn academaidd. Bydd Pencampwyr Digidol yn gweld pob dosbarth yn yr ysgol, ond dim ond eu dosbarthiadau eu hunain y bydd athrawon yn eu gweld.
    4. Cliciwch ar ddosbarth i weld gwybodaeth y grwp hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys trosolwg a rhestr o’r holl ddysgwyr yn y grwp hwnnw.
    5. Cliciwch Ychwanegu Google Classroom + i greu Google Classroom. Mae dosbarthiadau’n cael eu creu o fewn ychydig funudau fel arfer, ond gall gymryd hyd at awr yn ystod adegau prysuraf y dydd (er enghraifft, ar ddechrau’r diwrnod ysgol).

    Pwysig

    • Fel gyda phob gofod dysgu ar-lein, rhaid i chi bob amser ychwanegu ymarferydd addysgu arall at ddibenion diogelu.
    • Mae’n bwysig bod perchennog yr ystafell ddosbarth yn cymryd cyfrifoldeb am ychwanegu a hepgor aelodau staff eraill fel y bo’n briodol.

    Ar ôl creu’r ystafell ddosbarth, gellir ychwanegu athrawon eraill fel cydberchnogion yn yr ap Google Classroom.

  • Mae gan Bencampwyr Digidol yr opsiwn i ychwanegu eu hunain fel athrawon Google Classroom sydd eisoes wedi’i lenwi yn y Porthol Rheoli Defnyddwyr:

    1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i’r Porthol Rheoli Defnyddwyr.
    2. Cliciwch Gweinyddiaeth > Gweld grwpiau.
    3. Defnyddiwch yr hidlyddion i ddangos yr ystafell dosbarth sydd ei angen drwy ddewis y flwyddyn, y math o grwp, yr athro/athrawes neu’r flwyddyn academaidd (bydd Pencampwyr Digidol yn gweld pob dosbarth yn yr ysgol, ond dim ond eu dosbarthiadau eu hunain y bydd athrawon yn eu gweld).
    4. Cliciwch ar ddosbarth i weld gwybodaeth y grwp hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys trosolwg a rhestr o’r holl ddysgwyr yn y grwp hwnnw.
    5. Cliciwch Rheoli Google Classroom.
    6. Cliciwch Ychwanegu fel Athro, yna Iawn.

    Noder: Gall perchennog yr ystafell ddosbarth hefyd ychwanegu staff eraill fel athrawon yn yr ap Google Clasroom.

  • O bryd i’w gilydd, mae Ystafelloedd Dosbarth yn cael eu harchifo naill ai’n anfwriadol neu’r rhy gynnar gan berchnogion neu athrawon.

    Gellir adfer yr Ystafelloedd Dosbarth hyn. Bydd hyn yn adfer yr Ystafell Ddosbarth yn union fel ag yr oedd cyn ei harchifo, gan gynnwys ffeiliau, dogfennau, aseiniadau, aelodaeth ac enw.

    Gall athrawon neu berchnogion yr Ystafelloedd Dosbarth adfer y rhain yn yr ap Google Classroom:

    1. Ciciwch y Brif ddewislen ar ochr chwith uchaf y sgrin (3 llinell lorweddol).
    2. Cliciwch Dosbarthiadau wedi’u harchifo.
    3. Cliciwch Adfer
    4. Cliciwch cadarnhau Adfer.

    Gall Pencampwyr Digidol hefyd adfer Google Classroom wedi’i archifo o’r Porthol Rheoli Defnyddwyr:

    1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i’r Porthol Rheoli Defnyddwyr.
    2. Cliciwch Gweinyddiaeth > Gweld grwpiau.
    3. Defnyddiwch yr hidlyddion i ddangos y dosbarth dan sylw drwy ddewis y flwyddyn, y math o grwp, yr athro neu’r flwyddyn academaidd. (Bydd Pencampwyr Digidol yn gweld pob dosbarth yn yr ysgol, ond dim ond eu dosbarthiadau eu hunain y bydd athrawon yn eu gweld).
    4. Cliciwch ar ddosbarth i weld gwybodaeth y grwp hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys trosolwg a rhestr o’r holl ddysgwyr yn y grwp hwnnw.
    5. Cliciwch Rheoli Google Classroom.
    6. Cliciwch Dadarchifo, yna.
  • Mae'r holl Ystafelloedd Dosbarth a grëwyd drwy'r Porthol Rheoli Defnyddwyr yn cael eu harchifo’n awtomatig ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.

    Gall Pencampwyr Digidol, a Gweinyddwyr a Staff Ysgolion adfer eu hystafelloedd dosbarth o flwyddyn academaidd flaenorol trwy ddilyn y camau syml isod:

    1. Mewngofnodwch i Hwb a dewiswch y Porthol Rheoli Defnyddwyr o'r Hafan.
    2. Cliciwch GweinydduGweld Grwpiau.
    3. Defnyddiwch yr hidlyddion i ddod o hyd i’r dosbarth sydd ei angen trwy ddewis y flwyddyn, y math o grwp, yr athro/athrawes neu'r flwyddyn academaidd (Bydd Hyrwyddwyr Digidol yn gweld pob dosbarth yn yr ysgol, ond dim ond eu dosbarthiadau eu hunain y bydd athrawon yn eu gweld).
    4. Cliciwch ar ddosbarth i ddod o hyd i’r wybodaeth ar gyfer y grwp hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys trosolwg a rhestr o'r holl ddysgwyr yn y grwp hwnnw.
    5. Cliciwch Adfer Google Classroom.

    Nodiadau:

    1. Ni fydd unrhyw ystafell ddosbarth a gafodd ei hadfer yn gysylltiedig â system gwybodaeth reoli'r ysgol bellach.
    2. Er bod gwaith adfer yn llawer cyflymach yn aml, yn ystod cyfnodau prysurach gall gymryd hyd at awr cyn i chi allu gweld yr ystafell ddosbarth eto.
  • Noder: Os bod dosbarth wedi ei chreu â llaw, ni fyddant yn gal i gynnal a’u chadw fel rhan o’r broses treigl blynyddol. Yn ogystal, sicrhewch fod o leiaf un athro ychwanegol yn cael ei ychwanegu fel cyd-athro, at ddibenion diogelu.

    Gall athrawon hefyd greu dosbarth â llaw o’r ap Google Classroom.

    Creu dosbarth: 

    1. Mewngofnodwch i Hwb, a mynd i’r ap Classroom yn Google Workspace for Education.
    2. Cliciwch y symbol + (yn y gornel dde uchaf) > Creu dosbarth.
    3. Teipiwch enw’r dosbarth > a chlicio Creu.

    Yna, gall yr athro rannu Cod y dosbarth gyda’r dysgwyr fel y gallan nhw ymuno.

    Dangos cod y dosbarth: 

    1. O dan enw’r dosbarth, mae cod y dosbarth yn ymddangos gydag eicon ffrâm wrth ei ymyl. Cliciwch yr eicon hwn i agor cod y dosbarth ar sgrin lawn, a fydd yn ymddangos ar y bwrdd i’r dysgwyr.

    Ymuno â dosbarth: 

    1. Cliciwch y symbol + (yn y gornel dde uchaf) > Ymuno â'r dosbarth.
    2. Teipiwch god y dosbarth > a chlicio Ymuno.
  • Yn Classroom, gallwch ddefnyddio rubrics i raddio a rhoi adborth. 

    Gellir dod o hyd i gymorth pellach ar gyfer defnyddio rubrics ar safle help Google.

  • Gallwch rannu ffeiliau Office 365 mewn dosbarth yn Google Classroom drwy ddefnyddio dolenni (URLs). Mae modd ychwanegu dolenni wrth greu aseiniad, cyhoeddiad neu gwestiwn.

    Wrth ychwanegu dolen at ddogfen Microsoft Office 365, bydd y defnyddiwr yn cael ei ailgyfeirio at y ddogfen o’ch dewis chi wrth glicio’r ddolen.

  • Rydym yn argymell i chi fynd i wefan help Google Classroom i gael gwybod mwy am y rhaglen hon.

    Gwefan Help Google Classroom.


Gwybodaeth

Noder: Mae nodwedd Bloc o Apwyntiadau ddim yn bodoli bellach. Y nodwedd newydd yw Amserlen Apwyntiadau.

Yn ogystal â gweithredu fel Calendr ar-lein, gallwch sefydlu bloc o Amserlen Apwyntiadau y gall pobl eraill eu cadw. Er enghraifft, gall athrawon wahodd rhieni i gadw slot amser mewn noson rhieni.

Mae slotiau Amserlen Apwyntiadau yn ddefnyddiol pan nad ydych yn gwybod pwy sydd angen cyfarfod â chi, ond rydych am sicrhau eich bod ar gael. Gallwch gynnig bloc o amser i bobl ar eich calendr y gallant archebu slotiau amser oddi mewn iddo. Er enghraifft, gallwch neilltuo 2 awr eich bod ar gael i gyfarfod â phobl mewn slotiau 10 munud. Yna gall eraill archebu un o'r slotiau 10 munud o fewn yr amser hwnnw sy'n gweithio orau iddynt.

Pan fyddwch yn creu bloc o slotiau apwyntiad, mae'r bloc yn ymddangos fel un digwyddiad ar eich calendr.


Pan fydd rhywun yn cadw un o'ch slotiau apwyntiad, mae'r slot a gadwyd yn ôl yn ymddangos fel digwyddiad ar ei galendr a thu mewn i'r bloc mwy ar eich calendr.

  1. Gan ddefnyddio eich cyfrif Hwb ar gyfrifiadur, agorwch Google Calendar.
  2. Cliciwch ar botwm Creu.
  3. Cliciwch ar Amserlen Apwyntiadau.
  4. Rhowch y manylion, gan gynnwys teitl, a dewiswch y calendr lle rydych am i'r digwyddiad ymddangos.
  5. Cliciwch Nesaf.
  6. Nodwch a ddiwygiwch unrhyw fanylion.
  7. Cliciwch arbed.

Pan fyddwch yn ychwanegu cyd-westeiwr at amserlen apwyntiadau, mae’r cyd-westeiwyr yn cael ei ychwanegu i’r holl amserlen apwyntiadau ac yn derbyn e-bost bob tro y bydd rhywun yn cadw apwyntiad. Er enghraifft, gallai Athro ychwanegu ei Phennaeth Adran fel cyd-westeiwr i fod yn bresennol gyda'r nos.

I ychwanegu cyd-westeiwyr i amserlen apwyntiadau, agorwch y digwyddiad apwyntiad a chliciwch cyd-westeiwr. Yna, rhowch cyfeiriad e-bost i mewn. Gall hyd at 20 cal i ychwanegu.


Ar ôl i chi sefydlu'r bloc Amserlen Apwyntiadau, gallwch wahodd pobl i gadw slot gyda dolen i'ch tudalen Amserlen Apwyntiadau.

  1. Agor Calendr Google.
  2. Cliciwch eich apwyntiad.

Ewch i'r dudalen apwyntiad ar gyfer y calendr hwn.

  1. Copïwch a gludwch y ddolen tudalen apwyntiad o'ch porwr.
  2. Anfonwch y ddolen hon at bobl sydd am gadw slot apwyntiad.

Gall pobl gadw eich slotiau apwyntiad gyda Google Calendar. 


Cydamseru amserlen ysgol gyda chalendrau Office365 neu Google, ar gyfer ysgolion uwchradd.

Nawr gallwch chi gydamseru eich amserlen o ddata MIS (SIMS) eich ysgol i galendr Outlook Hwb eich defnyddwyr (staff a dysgwyr) neu i galendr Google Hwb. Gall hyrwyddwr digidol eich ysgol alluogi hyn trwy'r Porthol Rheoli Defnyddwyr.

Unwaith y bydd wedi'i alluogi, bydd hyn yn berthnasol i holl staff a dysgwyr MIS yn eich ysgol. Bydd digwyddiadau amserlen o'ch data MIS (SIMS) yn cael eu cydamseru am gyfnod treigl o 6 wythnos i staff a 3 wythnos i ddysgwyr. Bydd y digwyddiadau hyn yn cael eu diweddaru bob tro y bydd y gwasanaeth darparu cyfrifon yn rhedeg ar gyfer eich ysgol.

Gall hyrwyddwyr digidol mewn ysgolion uwchradd alluogi hyn i'ch ysgol, bydd angen iddynt ddilyn y camau hyn i’w alluogi.

  1. Mewngofnodi i Hwb a chlicio ar y ddolen i'r Porthol Rheoli Defnyddwyr.
  2. Mewngofnodi i'r Porthol Rheoli Defnyddwyr a dewis Cydamseru Amserlen yn y gwymplen Gweinyddiaeth.
  3. Dewiswch gysoni digwyddiadau amserlen i Galendr Outlook Hwb neu Galendr Google Hwb.
  4. Dewiswch Cymraeg neu Saesneg ar gyfer yr iaith ddewisol ar gyfer digwyddiadau eich ysgol.
  5. Cliciwch ar ‘Cydamseru’.

Ar ôl ei osod, bydd yr amserlen yn cysoni digwyddiadau o fewn chalendrau personol Hwb eich staff a'ch dysgwyr y tro nesaf y bydd y cleient darparu cyfrifon yn rhedeg ar gyfer eich ysgol.

Nodwch ar ôl ei ffurfweddu, cysylltwch â cymorth@hwbcymru.net os oes angen i chi newid unrhyw un o'r gosodiadau hyn.


Docs yw rhaglen prosesu geiriau Google. Does dim angen i chi fynd ati i gadw unrhyw waith y byddwch chi’n ei greu yn Google Docs, gan y bydd yn cael ei gadw’n awtomatig yn Google Drive.

Dechrau arni

Diwrnod cyntaf gyda Docs: fideo hyfforddi o Google (Saesneg yn unig)

  • Noder: Os ydych yn gweithio ar ddogfennau gyda defnyddwyr eraill, fel rhan o dîm, defnyddiwch Shared Drive yn lle (Staff yn unig). Ni fydd rhannu ffeil(iau) o'ch Drive yn cael ei analluogi ar ôl i chi adael yr ysgol neu pan nad oes angen eich cyfrif Hwb mwyach a'i fod wedi'i dadactifadu.

    Ar ôl 12 mis ar ôl i'ch cyfrif cael ei dadactifadu, bydd y ffeiliau hyn yn cael eu dileu, gyda chydweithwyr eraill yn methu â chael mynediad i'r ffeil(iau).

    Wrth olygu dogfen yn Google Docs, byddwch chi’n gweld botwm Rhannu glas (yn y gornel dde uchaf). Cliciwch y botwm hwn i gael dolen y gellir ei rhannu ag eraill, neu i rannu’r ddogfen yn uniongyrchol â phobl benodol. Mae tri opsiwn rhannu ar gael:

    1. Yn gallu golygu: gall unrhyw un y byddwch chi’n rhannu’r ddogfen â nhw wneud unrhyw newidiadau.
    2. Yn cael gadael sylwadau: gall unrhyw un y byddwch chi’n rhannu’r ddogfen â nhw wneud sylwadau, ond fyddan nhw ddim yn gallu golygu.
    3. Gallu gweld: gall unrhyw un y byddwch chi’n rhannu’r ddogfen â nhw weld y ddogfen, ond fyddan nhw ddim yn gallu gwneud sylwadau na golygu.

    Neu, gallwch rannu yn Google Drive drwy dde-glicio’r ffeil berthnasol, a chlicio Rhannu.

    Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am rannu’ch ffeiliau Google, dilynwch y ddolen isod:

    Cliciwch yma i gael gwybod sut mae rhannu’ch ffeiliau Google.

  • Mae modd trosi dogfennau Microsoft Word drwy eu mewngludo i Google Docs.

    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i’r rhaglen Docs yn Google Workspace for Education.
    2. Mae angen creu dogfen wan drwy glicio’r + lliwgar (uwchben Gwag).
    3. Cliciwch Ffeil > Agor.
    4. Cliciwch y tab Uwchlwytho > Dewis ffeil o’ch dyfais > a chlicio Agor.
  • Gallwch ddysgu sut mae defnyddio Google Docs i’w lawn botensial drwy fynd i’r Google Workspace Learning Centre. Fe gewch chi wybod sut mae gweithio’n gyflymach a chydweithio’n well, fe gewch chi daflen dwyllo a llawer mwy:

    Cofiwch gymryd cip ar yr Adnodd Archwilio i ddod o hyd i wybodaeth berthnasol a delweddau am ddim y gallwch eu hychwanegu at eich dogfennau yn Google Docs. Gallwch ddod o hyd i Adnodd Archwilio Google yng nghornel dde isaf y sgrin wrth olygu dogfen, mae’n edrych fel hyn:


Sheets yw rhaglen taenlenni Google. Does dim angen i chi fynd ati i gadw unrhyw waith y byddwch chi’n ei wneud yn Google Sheets, gan y bydd yn cael ei gadw’n awtomatig yn Google Drive.

Dechrau arni

Diwrnod cyntaf gyda Sheets: fideo hyfforddi o Google (Saesneg yn unig)

  • Noder: Os ydych yn gweithio ar ddogfennau gyda defnyddwyr eraill, fel rhan o dîm, defnyddiwch Shared Drive yn lle (Staff yn unig). Ni fydd rhannu ffeil(iau) o'ch Drive yn cael ei analluogi ar ôl i chi adael yr ysgol neu pan nad oes angen eich cyfrif Hwb mwyach a'i fod wedi'i dadactifadu.

    Ar ôl 12 mis ar ôl i'ch cyfrif cael ei dadactifadu, bydd y ffeiliau hyn yn cael eu dileu, gyda chydweithwyr eraill yn methu â chael mynediad i'r ffeil(iau).

    Wrth olygu dalen yn Google Sheets, byddwch chi’n gweld botwm Rhannu gwyrdd (yn y gornel dde uchaf). Cliciwch y botwm hwn i gael dolen y gellir ei rhannu ag eraill, neu i rannu’r ddogfen yn uniongyrchol â phobl benodol. Mae tri opsiwn rhannu ar gael:

    1. Yn gallu golygu: gall unrhyw un y byddwch chi’n rhannu’r ddalen â nhw wneud unrhyw newidiadau.
    2. Yn cael gadael sylwadau: gall unrhyw un y byddwch chi’n rhannu’r ddalen â nhw wneud sylwadau, ond fyddan nhw ddim yn gallu golygu.
    3. Gallu gweld: gall unrhyw un y byddwch chi’n rhannu’r ddalen â nhw weld y ddalen, ond fyddan nhw ddim yn gallu gwneud sylwadau na golygu.

    Neu, gallwch rannu yn Google Drive drwy dde-glicio’r ffeil berthnasol, a chlicio Rhannu.

    Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am rannu’ch ffeiliau Google, dilynwch y ddolen isod:

    Cliciwch yma i gael gwybod sut mae rhannu’ch ffeiliau Google.

  • Mae modd trosi taenlenni Microsoft Excel drwy eu mewngludo i Google Sheets:

    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i’r rhaglen Sheets yn Google Workspace for Education.
    2. Mae angen creu dalen wag drwy glicio’r + lliwgar (uwchben Gwag).
    3. Cliciwch Ffeil > Agor.
    4. Cliciwch Uwchlwytho > Dewis ffeil o’ch dyfais > a chlicio Agor.
  • Gallwch ddysgu sut mae defnyddio Google Sheets i’w lawn botensial drwy fynd i'r Google Workspace Learning Centre. Fe gewch chi wybod sut mae gweithio’n gyflymach a chydweithio’n well, fe gewch chi daflen dwyllo a llawer mwy:

    Cofiwch gymryd cip ar yr Adnodd Archwilio i ddod o hyd i wybodaeth berthnasol a delweddau am ddim y gallwch eu hychwanegu at eich dalenni yn Google Sheets. Gallwch ddod o hyd i Adnodd Archwilio Google yng nghornel dde isaf y sgrin wrth olygu dogfen, mae’n edrych fel hyn:


Mae Google Slides yn gadael i chi greu cyflwyniadau. Gall mwy nag un person weithio ar gyflwyniad ar yr un pryd, gallwch chi weld y newidiadau wrth iddyn nhw gael eu gwneud, a bydd pob newid yn cael ei gadw’n awtomatig.

Dechrau arni

Diwrnod cyntaf gyda Slides: fideo hyfforddi o Google (Saesneg yn unig)

  • Noder: Os ydych yn gweithio ar ddogfennau gyda defnyddwyr eraill, fel rhan o dîm, defnyddiwch Shared Drive yn lle (Staff yn unig). Ni fydd rhannu ffeil(iau) o'ch Drive yn cael ei analluogi ar ôl i chi adael yr ysgol neu pan nad oes angen eich cyfrif Hwb mwyach a'i fod wedi'i dadactifadu.

    Ar ôl 12 mis ar ôl i'ch cyfrif cael ei dadactifadu, bydd y ffeiliau hyn yn cael eu dileu, gyda chydweithwyr eraill yn methu â chael mynediad i'r ffeil(iau).

    Wrth i chi olygu sleidiau yn Google Slides, byddwch chi’n gweld botwm Rhannu melyn (yn y gornel dde uchaf). Cliciwch y botwm hwn i gael dolen y gellir ei rhannu ag eraill, neu i rannu’r ddogfen yn uniongyrchol â phobl benodol. Mae tri opsiwn rhannu ar gael:

    1. Yn gallu golygu: gall unrhyw un y byddwch chi’n rhannu’r sleidiau â nhw wneud unrhyw newidiadau.
    2. Yn cael gadael sylwadau: gall unrhyw un y byddwch chi’n rhannu’r sleidiau â nhw wneud sylwadau, ond fyddan nhw ddim yn gallu golygu.
    3. Gallu gweld: gall unrhyw un y byddwch chi’n rhannu’r sleidiau â nhw weld y sleidiau, ond fyddan nhw ddim yn gallu gwneud sylwadau na golygu.

    Neu, gallwch rannu yn Google Drive drwy dde-glicio’r ffeil berthnasol, a chlicio Rhannu.

    Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am rannu’ch ffeiliau Google, dilynwch y ddolen isod:

    Cliciwch yma i gael gwybod sut mae rhannu’ch ffeiliau Google

  • Mae modd trosi ffeiliau Microsoft PowerPoint drwy eu mewngludo i Google Slides.

    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i’r rhaglen Slides yn Google Workspace for Education.
    2. Mae angen creu dalen wag drwy glicio’r + lliwgar (uwchben Gwag).
    3. Cliciwch Ffeil > Agor.
    4. Cliciwch y tab Uwchlwytho > Dewis ffeil o’ch dyfais > a chlicio Agor.
  • Gallwch ddysgu sut mae defnyddio Google Slides i’w lawn botensial drwy fynd i’r Google Workspace Learning Centre. Fe gewch chi wybod sut mae gweithio’n gyflymach a chydweithio’n well, fe gewch chi daflen dwyllo a llawer mwy:

    Cofiwch gymryd cip ar yr Adnodd Archwilio i ddod o hyd i wybodaeth berthnasol, arddulliau sy’n gweddu i’ch cynnwys, a delweddau am ddim y gallwch eu hychwanegu at eich sleidiau yn Google Slides. Gallwch ddod o hyd i Adnodd Archwilio Google yng nghornel dde isaf y sgrin wrth olygu dogfen, mae’n edrych fel hyn:


Mae Google Drive yn lle diogel i storio ffeiliau ar-lein. Gallwch storio ffeiliau’n breifat, neu ddewis eu rhannu â phobl eraill. Bydd eich dogfennau yn Google Docs, Google Sheets a Google Slides yn cael eu cadw’n awtomatig yn Google Drive.

  • Mae’r rhan fwyaf o fathau o ffeiliau yn gallu cael eu storio yn Google Drive. Gallwch storio ffeiliau sain, dogfennau, delweddau neu fideos.

    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i’r rhaglen Drive yn Google Workspace for Education.
    2. Cliciwch + Newydd (yn y panel ar yr ochr chwith) > Uwchlwytho ffeil.
    3. Dewiswch y ffeil a chlicio Agor.

    Neu gallwch glicio a llusgo ffeiliau o’ch cyfrifiadur i Google Drive i’w huwchlwytho. Cliciwch y ddolen isod i gael rhagor o gymorth gydag uwchlwytho ffeiliau i Google Drive:

    Sut mae uwchlwytho ffeiliau a ffolderi i Google Drive.

  • Gallwch ddysgu sut mae defnyddio Google Drive i’w lawn botensial drwy fynd i’r Google Workspace Learning Centre. Fe gewch chi wybod sut mae gweithio’n gyflymach a chydweithio’n well, fe gewch chi daflen dwyllo a llawer mwy:


Noder: Staff yn unig

Mae Google Shared Drives yn fannau diogel i storio ffeiliau i'w rhannu â thimau o ddefnyddwyr, ar-lein. Mae ffeiliau Shared Drives yn perthyn i'r tîm yn lle'r unigolyn ac maent yn dal i fodoli hyd yn oed pan fydd aelod o'r tîm yn gadael.

    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i’r rhaglen Drive yn Google Workspace for Education.
    2. Cliciwch ar Shared Drive yn y panel ar yr ochr chwith.
    3. Cliciwch + Newydd (yn y panel ar yr ochr chwith) > Rhowch enw ar y shared drive Newydd.
    4. Cliciwch Creu.

    Gwele’r y wefan yma am fwy o wybodaeth ar sut I greu shared drive:

    Create a shared drive: Google Workspace Learning Center

    1. Cliciwch ar Shared Drive yn y panel ar yr ochr chwith.
    2. Dewiswch y shared drive wyt ti am reoli.
    3. Dewiswch rheoli aelodau yn y panel uwchben.
    4. Rhowch i mewn cyfeiriad ebost y defnyddiwr sydd angen mynediad, a dewiswch pa lefel mynediad sydd angen.
    5. Cliciwch anfon.

    Gwele’r y wefan yma am fwy o wybodaeth:

    How file access works in shared drives: Google Workspace Learning Center

  • Mae’r rhan fwyaf o fathau o ffeiliau yn gallu cael eu storio yn Google Shared Drive. Gallwch storio ffeiliau sain, dogfennau, delweddau neu fideos.

    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i’r rhaglen Drive yn Google Workspace for Education.
    2. Cliciwch ar Shared Drive yn y panel ar yr ochr chwith.
    3. Dewiswch y Shared Drive wyt ti am uwchlwytho i.
    4. Cliciwch + Newydd (yn y panel ar yr ochr chwith) > Uwchlwytho ffeil.
    5. Dewiswch y ffeil a chlicio agor.

    Gwele’r y wefan yma am fwy o wybodaeth am uwchlwytho:

    Add files and folders to a shared drive: Google Workspace Learning Center

  • Gallwch ddysgu sut mae defnyddio Google Shared Drive i’w lawn botensial drwy fynd i’r Google Workspace Learning Centre.

    Gwefan help Google Shared Drive: What are shared drives? (Google Workspace Learning Center)


Google Meet yw’r adnodd fideogynadledda yn Google Workspace for Education.

Mae Google Meet yn ffordd wych o ryngweithio gan ddefnyddio fideo-gynadledda gyda hyd at 100 o fynychwyr. Am ragor o wybodaeth am uchafswm nifer y mynychwyr, cyfyngiadau a manylebau (Saesneg yn unig).

Dechrau arni

Diwrnod cyntaf gyda Meet, fideo hyfforddi o Google (Saesneg yn unig)

  • Cyn dechrau, gweler y cyngor diweddaraf gan Google (Saesneg yn unig).

    Trefnu Cyfarfod (Meet)

    Mae Google Meet yn cynnwys ffyrdd o rannu sain, fideo, sgrin a ffeiliau sy’n gallu hwyluso fideo-gynadledda a ffrydio byw.

    Gall staff drefnu Cyfarfod (Meet) ar gyfer staff yn eu Calendr Google:

    1. Mewngofnodwch i Hwb a defnyddio rhaglen y Calendryn Google Workspace for Education.
    2. Cliciwch + Create(yn y panel ar yr ochr chwith).
    3. Teipiwch fanylion eich digwyddiad a sicrhau eich bod wedi ychwanegu Google Meet video conferencing.
    4. Ychwanegwch y gwesteion (Add guests) yr hoffech iddynt ymuno â’ch Cyfarfod.
    5. Cliciwch Save a bydd ffenestr yn ymddangos yn gofyn a ydych chi am anfon gwahoddiadau i westeion.
    6. Cliciwch Send ac yna bydd eich gwesteion yn derbyn y manylion ar gyfer ymuno.

    PWYSIG

    Gweler y canllawiau penodol ar gyfer trefnu gwersi gyda dysgwyr yn defnyddio Google meet.

  • Efallai y byddwch yn ystyried gwersi byw fel rhan o'ch dull dysgu cyfunol. Cyn bwrw ymlaen, dylid rhoi ystyriaeth a sylw dyledus i'r canllawiau a amlinellir mewn Ffrydio byw a fideo-gynadledda: arferion ac egwyddorion diogelu i sicrhau bod chi a'ch dysgwyr yn cael eich diogelu'n briodol.

    Am gymorth pellach gweler Gwersi byw.

  • I gael cyngor ymarferol ar ddefnyddio Google Meet, gweler ein Cwestiynau Cyffredin i'ch helpu i ddechrau arni.


Mae Google Sites yn gadael i ddefnyddwyr greu gwefannau syml sy’n helpu gwahanol olygwyr i gydweithio.

Dechrau arni

Diwrnod cyntaf gyda Sites: fideo hyfforddi o Google (Saesneg yn unig)

Mae modd defnyddio Google Sites ar gyfer y canlynol:

  1. Creu gwefan gyhoeddus i’ch ysgol.
  2. Creu llefydd cydweithio, y mae’n bosib eu rhannu, ar gyfer gwaith grŵp ac i dynnu sylw at gyflawniad.
  3. Datblygu blog unigol neu ar gyfer yr ysgol neu’r dosbarth.
  4. Darparu lle i storio a chyflwyno adnoddau addysgu a dysgu.

Cliciwch yma i weld fideo ‘Introduction to Google Sites’ gan Google


Mae Google Forms yn gadael i chi reoli’r broses gofrestru ar gyfer digwyddiadau, creu arolwg barn cyflym a llawer mwy. Gyda Google Forms, gallwch greu a dadansoddi arolygon heb fod angen unrhyw feddalwedd arbennig. Fe gewch chi’r canlyniadau’n syth ar y pryd, a gallwch grynhoi canlyniadau arolygon yn gyflym gyda siartiau a graffiau.

Dechrau arni

Diwrnod cyntaf gyda Forms: fideo hyfforddi o Google (Saesneg yn unig)


Rhaglen gwneud nodiadau sy’n eich galluogi i storio nodiadau, rhestrau, lluniau a ffeiliau sain yw Google Keep.

Mae modd defnyddio Google Keep ar bron bob dyfais sydd â chysylltiad â'r rhyngrwyd. Mae’n bosib cael mynediad at Google Keep drwy’r porwr, neu gallwch lawrlwytho’r ap ar ddyfeisiau symudol.

Gallwch greu, golygu, trefnu ac archifo nodiadau:


Mae Google Vault yn anodd diogelu ac archifo i ysgolion er mwyn rheoli, cadw, chwilio ac allgludo cynnwys ffeiliau Google Drive. Mae Google Vault yn gallu delio â’r swyddogaethau canlynol:

  • Negeseuon e-bost
  • Google Groups
  • Ffeiliau yn Google Drive a Team Drives
  • Sgyrsiau yn Hangouts Chat
  • Recordiadau yn Hangouts Meet
  • Gall defnyddwyr y dyrannwyd rôl Gweinyddwr Google greu materion ar gyfer eu hysgol yn Google Vault, sy’n berthnasol i waith dysgwyr yn unig. Os oes problem sy’n ymwneud ag aelodau o’r staff, gofynnwch i’ch pennaeth gysylltu â Desg Gymorth Hwb: cymorth@hwbcymru.net | 03000 25 25 25.

  • Gallwn eich arwain drwy’r broses o nôl gwybodaeth o Google Vault ar ôl cael caniatâd gan eich pennaeth. Cysylltwch â Desg Gymorth Hwb: cymorth@hwbcymru.net | 03000 25 25 25.

    Mae popeth a wneir yn Google Vault yn cael ei archwilio.


Gellir ychwanegu ‘Uwchraddio Addysgu a Dysgu’ at Google Workspace for Education i weddnewid y broses ddysgu drwy wella’r cyfathrebu dros fideo, cyfoethogi profiadau yn y dosbarth, ac adnoddau integredig i sicrhau mwy o effeithlonrwydd.

Mae gwell adnoddau addysgu a dysgu yn helpu i sicrhau effeithiolrwydd cyfarwyddyd drwy deilwra’r dysgu yn fwy, creu ffyrdd o wneud yr ystafell ddosbarth yn fwy effeithlon, a’i gwneud yn bosibl addysgu a dysgu o unrhyw le.

Mae ‘Uwchraddio Addysgu a Dysgu’ yn cynnwys popeth o fewn Education Fundamentals, yn ogystal â:

  • mwy o gapasiti ar Google Meet (250 o unigolion a ffrydiau byw ar gyfer hyd at 10,000 o wylwyr)
  • nodweddion ymgysylltu o’r radd flaenaf ar Google Meet, gan gynnwys cwestiynau ac ateb rhyngweithiol, pleidleisio, ystafelloedd trafod, olrhain presenoldeb a mwy
  • recordiadau o Google Meet wedi’u harbed i Drive
  • capsiynau a gyfieithir yn fyw yn ystod Google Meet
  • ychwanegiadau Classroom i integreiddio eich hoff adnoddau a chynnwys yn uniongyrchol
  • adroddiadau gwreiddioldeb digyfyngiad a’r gallu i chwilio am waith tebyg gan eraill ar draws storfa breifat o hen waith myfyrwyr
  • gweddnewid deunydd newydd a deunydd presennol yn aseiniadau diddorol a rhyngweithiol, â setiau ymarfer 

Sut i brynu ‘Uwchraddio Addysgu a Dysgu’

Gall ysgolion brynu trwyddedau ar gyfer ‘Uwchraddio Addysgu a Dysgu’ drwy eu hawdurdod lleol.

Mae dwy ffenest brynu flynyddol: mae un yn cau ar 31 Gorffennaf, ac mae cyfle arall sy’n dod i ben ar 31 Hydref. 

Bydd trwydded uwchraddio yn costio £2.25 (yn ogystal â ffi Gwasanaeth Technoleg Addysg) fesul defnyddiwr fesul mis.

Bydd unrhyw drwyddedau a brynir yn dod i ben ar ddiwedd blwyddyn academaidd, hy 31 Awst, a bydd y trwyddedau a brynir yn ffenest Hydref yn cael eu cyfrifo ar sail pro rata o ran cost a hyd.

Bydd trwyddedau a brynir erbyn 31 Gorffennaf yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd NESAF, ee bydd trwyddedau a brynir erbyn 31 Gorffennaf 2023 yn dod i ben ar 31 Awst 2024.

Dyrannu trwyddedau i staff System Gwybodaeth Reoli 

Gall hyrwyddwyr digidol ysgolion a gweinyddwyr Hwb ddyrannu trwyddedau i unrhyw gyfrifon staff System Gwybodaeth Reoli yn y Porthol Rheoli Defnyddwyr (hy y rhai a restrir o dan Gweld Defnyddwyr > Gweld Staff). 

Defnyddwyr unigol

  1. Ewch i https://hwb.gov.wales/ a mewngofnodi i Hwb.
  2. Cliciwch ar Rheoli defnyddwyr.
  3. Ar eich ‘Dangosfwrdd Gweinyddwyr’ cliciwch ar Gweinyddiaeth > Rheoli Trwydded Addysgu a Dysgu Google.
  4. Byddwch yn gweld trosolwg o’r trwyddedau sydd wedi’u dyrannu ar gyfer eich ysgol chi, ac yna flwch chwilio a rhestr o staff y System Gwybodaeth Reoli. Dewiswch y defnyddiwr perthnasol drwy ddefnyddio Chwilio am derm fel y bo’n briodol, ee teipiwch y cyfenw a chliciwch ar y botwm Chwilio.
  5. Cliciwch ar Dyrannu Trwydded nesaf at y defnyddiwr perthnasol.

Gwybodaeth

Gallai gymryd hyd at awr i’r drwydded gael ei neilltuo i’r defnyddiwr hwnnw. 

Grŵp defnyddwyr

  1. Ewch i https://hwb.gov.wales/ a mewngofnodi i Hwb.
  2. Cliciwch ar Rheoli defnyddwyr.
  3. Ar eich ‘Dangosfwrdd Gweinyddwyr’, cliciwch ar Gweinyddiaeth > Rheoli Trwydded Addysgu a Dysgu Google.
  4. Byddwch yn gweld trosolwg o’r trwyddedau sydd wedi’u dyrannu ar gyfer eich ysgol chi, ac yna flwch chwilio a rhestr o staff y System Gwybodaeth Reoli. Cliciwch ar bob un o’r blychau ticio ar ochr chwith yr aelodau staff perthnasol.
  5. Cliciwch ar Dyrannu Trwydded ar frig y rhestr.

Gallai gymryd hyd at awr i’r drwydded gael ei neilltuo i’r defnyddwyr.

Sut mae dirymu trwyddedau?

Gall hyrwyddwyr digidol ysgolion a gweinyddwyr Hwb ddileu trwydded eu hunain:

  1. Ewch i https://hwb.gov.wales/ a mewngofnodi i Hwb.
  2. Cliciwch ar Rheoli defnyddwyr.
  3. Ar eich ‘Dangosfwrdd Gweinyddwyr’, cliciwch ar Gweinyddiaeth > Rheoli Trwydded Addysgu a Dysgu Google.
  4. Byddwch yn gweld trosolwg o’r trwyddedau sydd wedi’u dyrannu ar gyfer eich ysgol chi, ac yna flwch chwilio a rhestr o staff y System Gwybodaeth Reoli. Dewiswch y defnyddiwr perthnasol drwy ddefnyddio Chwilio am dermfel y bo’n briodol, ee teipiwch y cyfenw a chliciwch ar y botwm Chwilio.
  5. Cliciwch ar Dirymu Trwydded nesaf at y defnyddiwr perthnasol.

Gallai gymryd hyd at awr i’r drwydded gael ei dileu ac yna i fod ar gael i’w hailddyrannu i ddefnyddiwr arall.

Gwybodaeth

Mae pob trwydded yn parhau’n ddilys hyd ddiwedd blwyddyn academaidd, a chânt eu dirymu’n awtomatig ar 31 Awst. Rhaid i hyrwyddwyr digidol ysgolion gynllunio i ddyrannu trwyddedau ar ddechrau pob blwyddyn academaidd. Noder:

  • Bydd trwyddedau a brynir erbyn 31 Gorffennaf yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd NESAF, ee bydd trwyddedau a brynir erbyn 31 Gorffennaf 2023 yn dod i ben ar 31 Awst 2024.
  • Bydd trwyddedau a brynir erbyn 31 Hydref yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd honno, ee bydd trwyddedau a brynir erbyn 31 Hydref 2023 yn dod i ben ar 31 Awst 2024.

Caiff trwyddedau eu dileu’n awtomatig o gyfrifon sydd wedi’u dirwyn i ben, a byddant ar gael wedyn i’w hailddyrannu yn y Porthol Rheoli Defnyddwyr.


Gellir dod o hyd i wybodaeth ar sut i osod a rheoli apiau, estyniadau ac apiau Android yn erthygl gefnogaeth Rheoli Chromebooks.

 

Mae'r tabl canlynol yn amlinellu'r apiau ac estyniadau sydd ar gael ar barth Google Workspace for Education Hwb.

Apiau Gwe 3ydd Parti Google

X

 

Gwefannau rydych yn mewngofnodi iddynt gan ddefnyddio eich cyfrif Google yw'r rhain. Mae enghreifftiau yn cynnwys gemau, rhaglenni golygu lluniau a chwaraewyr fideo, er enghraifft, gwefannau nad ydynt yn rhai Google.

Nid oes modd mewngofnodi i apiau gwe 3ydd parti gyda'ch cyfrif Hwb mwyach.

Apiau ac Estyniadau Google ar gyfer Chrome

?

Mae estyniadau yn cynnig nodweddion ychwanegol ar gyfer Google Chrome a'r gwefannau sy'n cael eu cyrchu arno. Er enghraifft, gallant estyn Google Chrome drwy ychwanegu botwm newydd at y bar cyfeiriad, fel newidydd arian cyfred sydd ar gael bob amser.

Gellir ffurfweddu apiau Google (er enghraifft, Google Docs) fel eu bod yn ymddangos yn awtomatig ar declynnau Chromebook a reolir a phan fydd defnyddwyr wedi mewngofnodi i'r porwr Chrome.

Gall defnyddwyr y dyrannwyd rôl Gweinyddwr Google osod apiau ac estyniadau Google ar gyfer eu hysgol neu eu hawdurdod lleol.

Fodd bynnag, ni fydd apiau ac estyniadau sydd angen mynediad at Drive neu apiau craidd drwy API Google Workspace yn gydnaws. 

Google Play Store wedi ei reoli

?

Mae'r Google Play sore yn caniatáu i ddefnyddwyr ddewis apiau allan o ddetholiad a ddewiswyd yn ofalus, i'w gosod ar eu Chromebooks a reolir gan Hwb. Gall y Google Play store hefyd orfodi gosod a darparu apiau i'r Chromebooks.

Gellir darparu apiau fel Microsoft Teams neu Minecraft: Education edition yn hawdd i Chromebooks a reolir gan Hwb.

Gall defnyddwyr y dyrannwyd rôl Gweinyddwr Google dewis a dethol yn ofalus apiau addas ar gyfer eu hysgolion neu eu hawdurdod lleol eu hunain.

Fodd bynnag, ni fydd apiau sydd angen mynediad at Drive neu apiau craidd drwy API Google Workspace yn gydnaws. 

Ychwanegiadau Google Drive a Docs, Sheets and Slides

X

Nid yw ychwanegiadau Google ar gael ar barth Hwb.

 

Gwasanaethau Ychwanegol Google

!

Mae holl wasanaethau ychwanegol Google wedi'u diffodd ar gyfer Dysgwyr.

Mae gwasanaethau ychwanegol Google yn cynnwys apiau sydd ar gael drwy Google Workspace for Education, er enghraifft, Google Earth.

Apiau Gwe 3ydd Parti Google

Mewngofnodi i Apiau Gwe 3ydd Parti Google

Nid oes modd mewngofnodi i apiau gwe 3ydd parti gyda'ch cyfrif Hwb mwyach.

Gwybodaeth

Os ydych chi wedi arwyddo i mewn i ap gwe 3ydd parti gyda'ch cyfrif Hwb, mae hyn yn caniatáu i'r ap gwe gael gwybodaeth sylfaenol o'ch proffil, fel eich enw defnyddiwr, eich enw cyntaf a'ch cyfenw. Dilynwch y camau isod i dynnu mynediad.

Tynnu mynediad at apiau gwe 3ydd parti Google

  1. Ewch i https://myaccount.google.com a mewngofnodi gyda'ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar gyfer Hwb.
  2. Dewiswch Security (o'r opsiynau ar ochr chwith y dudalen).
  3. O dan Signing in to Google, chwiliwch am yr ap yr hoffech dynnu mynediad ato.
  4. Cliciwch ar Remove Access.

Mae Screencastify ar gael i staff ysgol yn ddiofyn.
Bydd yr estyniad cofnodi sgrin yn ymddangos yn awtomatig ar gyfer aelodau staff sy'n mewngofnodi i'r porwr Chrome gyda'u cyfrifon Hwb.

Noder: Mae Screencastify wedi cael ei adolygu a'i gymeradwyo ar gyfer addasrwydd i athrawon yn unig. Ni ddylid galluogi'r ap hwn ar gyfer dysgwyr. Bydd unrhyw Gweinyddwr Google sy'n galluogi hyn yn torri telerau gwasanaeth Hwb.

Mae Screencastify yn ei gwneud hi'n hawdd i chi:

  • Cipio tab, sgrin gyfan, neu gwe-gamera yn unig.
  • Planwch eich gwe-gamera unrhyw le yn eich recordiad.
  • Adrodd yn ôl gyda'ch meicroffon.
  • Cofnodi heb gysylltu (Does dim angen rhyngrwyd!).

Gall defnyddwyr fanteisio ar y dulliau anodi i sicrhau bod eu cynulleidfa yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig:

  • Sbotolau llygoden.
    Pecyn pen lluniadu.
    Amlygu clicio.

Os ydych chi'n defnyddio Google Apps, bydd Screencastify yn ffitio i mewn i'ch llif gwaith gan ei fod wedi'i integreiddio â Google Drive a'r ystafell ddosbarth.

Mae recordiadau’n arbed i'ch Google Drive, gallwch rannu'r ddolen Google Drive yn syth neu allforio fel MP4, GIF animeiddiedig, neu MP3.


Dyfais yw Chromebook sy’n rhedeg system weithredu Chrome gan Google yn hytrach na Windows neu macOS. Mae Chromebooks wedi’u cynllunio i’w defnyddio gyda chyswllt i’r rhyngrwyd yn bennaf, gan fod y rhan fwyaf o raglenni a dogfennau’n cael eu cadw ar y cwmwl.

Nid oes modd mewngofnodi i apiau gwe 3ydd parti gyda'ch cyfrif Hwb mwyach.

Gellir cofrestru ac yna rheoli Chromebooks drwy barth hwbcymru.net. Dyma rai manteision a ddaw o wneud hyn:

  • bydd yn galluogi defnyddwyr i fewngofnodi’n uniongyrchol i’r Chromebooks gyda’u manylion Hwb (hynny yw, byddant wedi mewngofnodi i’r porwr a’r rhaglenni Hwb ar yr un pryd ac ar unwaith).
  • bydd yn galluogi rheoli a gorfodi polisïau dyfeisiau sydd wedi’u gosod yng nghonsol gweinyddu Google, gan roi mwy o reolaeth dros ddiogelwch.

Gellir dod o hyd i wybodaeth ar sut i gofrestru a rheoli dyfeisiau Chrome yn erthygl gymorth Rheoli Chromebooks.


Mae'r iaith ddiofyn ar gyfer Google Workspace for Education yn cael ei reoli gan y togl iaith yn y Porthol Rheoli Defnyddwyr.


Bydd eich enw arddangos yn Google Workspace for Education yn adlewyrchu’r enw yn y Porth Rheoli Defnyddwyr a bydd yn ymddangos yn y fformat ‘cyfenw a cymeriad cyntaf’ (er enghraifft, J Bloggs) ar gyfer staff a ‘enw cyntaf a cyfenw’ (er enghraifft, Joe Bloggs) ar gyfer dysgwyr. Nid allwch newid hyn.


Mae’r tudalennau canlynol ar safle cymorth Google yn cynnwys gwybodaeth ac awgrymiadau ar ddefnyddio Google Workspace for Education (dim ond yn Saesneg mae’r tudalennau hyn ar gael):

I gael rhagor o gymorth, cysylltwch â Desg Gymorth Hwb:

  • ebost: cymorth@hwbcymru.net
  • ffon: 03000 25 25 25