English

Mae Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a Phartneriaid Gwella Ysgolion wedi ymrwymo i:

  • weithio gyda'i gilydd ar ddull cenedlaethol dan arweiniad y sector i sicrhau bod mentrau EdTech yn cael yr effaith fwyaf bosibl
  • hwyluso’r broses o fabwysiadu a defnyddio gwasanaethau Hwb yn effeithiol

Mae'r dull hwn yn galluogi ysgolion a gynhelir yng Nghymru i wneud y gorau o'r manteision trawsnewidiol y gall adnoddau digidol a thechnoleg eu cynnig i fyd addysg, gan gefnogi'r Cwricwlwm i Gymru.

Mae dau grŵp allweddol sy'n goruchwylio ac yn cefnogi rhaglen Hwb i gyflawni ei nodau.

Dysgu Digidol Cymru (DDC)

Mae Dysgu Digidol Cymru yn is-grŵp o Gymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (CCAC). Mae'r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr strategol o Lywodraeth Cymru, pob awdurdod lleol, Phartneriaid Gwella Ysgolion, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac Estyn.

Mae'r grŵp yn cyfarfod bob tymor ac yn gyfrifol am:

  • bennu'r weledigaeth strategol ar gyfer gwasanaethau addysg ddigidol yng Nghymru
  • sicrhau bod rhaglen Hwb yn rhoi seilwaith digidol i gefnogi'r Cwricwlwm i Gymru
  • sicrhau bod barn yr holl awdurdodau lleol a’r Partneriaid Gwella Ysgolion yn cael ei ystyried o ran y gwasanaethau digidol sydd ar gael drwy Hwb
  • cymeradwyo argymhellion strategol y Grŵp Safoni Technegol

Y Grŵp Safoni Technegol (GST)

Mae'r Grŵp Safoni Technegol (GST) yn grŵp o arbenigwyr technegol, o bob awdurdod lleol yng Nghymru. Nod y grŵp yw cefnogi darpariaeth dechnegol Rhaglen Hwb.

Mae'r GST yn cyfarfod bob tymor i drafod a rhoi diweddariadau i'r grŵp yn unol â'u cyfrifoldebau. Mae’r grŵp yn gyrru’r gwaith o greu, goruchwylio a darparu gwasanaethau technegol ar Hwb. Mae hyn yn cyfrannu at fapio datblygiad a llunio manylebau ar gyfer gwasanaethau newydd a’r rhai presennol. Mae hyn yn hyrwyddo dull safonol ar gyfer awdurdodau lleol ac ysgolion ledled Cymru.

Datblygwyd Safonau a Chanllawiau Digidol Addysg gan y GST. Maent yn cynorthwyo i roi profiad technegol safonol a chyson i ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Mae cytuno ar fframwaith technegol cyffredin yn rhoi arweiniad i ysgolion wrth iddynt ddatblygu eu hamgylcheddau digidol.

Mae'r grŵp yn hyrwyddo dull 'Unwaith dros Gymru' o gaffael technoleg addysg. Maent yn cytuno ar y cynnyrch a'r gwasanaethau a roddir trwy fecanwaith caffael cenedlaethol. Mae hyn yn sicrhau bod y cynnyrch a’r gwasanaethau sydd ar gael yn addas. Mae'n cefnogi mynediad teg i awdurdodau lleol ac ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Mae hyn yn rhoi budd ariannol a chynaliadwyedd o ran offer a gwasanaethau.

Aelodaeth a manylion cyswllt

Sefydliad
Cynrychiolydd Dysgu Digidol Cymru
E-bost

Pen-y-bont ar Ogwr

Mathew Jones 


mathew.jones@bridgend.gov.uk

Blaenau Gwent

Joanne Watts

joanne.watts@blaenau-gwent.gov.uk

Caerffili

Paul Warren

warrep1@caerphilly.gov.uk

Caerdydd

Richard Portas

richard.portas@cardiff.gov.uk

Sir Gâr

Matthew Jenkins

m.jenkins@carmarthenshire.gov.uk

Ceredigion

Kay Morris

kay.morris@ceredigion.gov.uk

Conwy

John Paul Jones

john.paul.jones@conwy.gov.uk

Sir Dinbych

Glyn Roberts 

glyn.roberts@denbighshire.gov.uk

Sir y Fflint

Vicky Barlow

vicky.barlow@flintshire.gov.uk

Gwynedd

Gwenan Pritchard

gwenaneleripritchard@gwynedd.llyw.cymru

Ynys Môn

Rhys Williams

RhysWilliams2@ynysmon.llyw.cymru

Merthyr Tudful

Philip Strand

philip.strand@merthyr.gov.uk

Sir Fynwy

Sian Hayward

sianhayward@monmouthshire.gov.uk

Castell-nedd Port Talbot

Jules Payne

j.payne@npt.gov.uk

Casnewydd

Karyn Keane

karyn.keane@newport.gov.uk

Sir Benfro

Huw Benbow

Benbowh2@hwbmail.net

Powys

Rob Walters

rob.walters@powys.gov.uk

Rhondda Cynon Taf

James Protheroe

james.b.protheroe1@rctcbc.gov.uk

Abertawe

Ian Meredith

ian.meredith@swansea.gov.uk

Torfaen

Andy Rothwell

andy.rothwell@torfaen.gov.uk

Bro Morgannwg

Lisa Lewis

llewis@valeofglamorgan.gov.uk

Wrecsam

Steffan Carter

steffan.carter@wrexham.gov.uk

Consortiwm Canolbarth y De (CSC)

Sarah Summers

sarah.summers@cscjes.org.uk

Llywodraeth Cymru

Mike Jones

mike.jones1@gov.wales