English

Prif bwrpas seiberddiogelwch yw sicrhau bod y dyfeisiau a’r gwasanaethau ar-lein a ddefnyddir at ddibenion personol a phroffesiynol wedi’u diogelu rhag mynediad heb ei awdurdodi, dwyn neu ddifrod. Os yw seiberdroseddwyr yn cael mynediad i’ch dyfais neu gyfrifon fe allan nhw gael gafael ar eich arian, eich gwybodaeth bersonol, neu wybodaeth am eich sefydliad neu ysgol.

Er bod rhai’n ystyried bod seiberddiogelwch yn fater i arbenigwyr technegol mae yna gamau syml y gall pawb eu cymryd i leihau’r risg o gael eu heffeithio gan seiberdroseddwyr. Mae’r rhain yn cynnwys creu a defnyddio cyfrineiriau cryf, sicrhau bod dyfeisiau a meddalwedd yn cynnwys apiau’n cael eu diweddaru’n rheolaidd, gwneud copi wrth gefn o’ch data neu gael amddiffyniad ychwanegol fel dilysu aml-ffactor lle bo’n bosibl.

Mae’n bwysig gallu adnabod y technegau mae seiberdroseddwyr yn eu defnyddio i gael mynediad i ddyfeisiau a gwasanaethau fel gwe-rwydo. E-bost gwe-rwydo yw neges sy’n gofyn i ddefnyddwyr ddilyn dolen i wefan anhysbys a allai lawrlwytho maleiswedd ar eich cyfrifiadur, neu ddwyn cyfrineiriau. Mae bod yn effro i’r technegau hyn a sut y gall technolegau datblygol, fel AI cynhyrchiol, gael eu camddefnyddio i greu mwy o achosion o dwyll a sgamiau soffistigedig ar-lein yn hanfodol er mwyn osgoi ymosodiad seiber.

  • Hyforddiant seiberdiogelwch i staff ysgol

    Mae'r modiwl hyfforddi seiberddiogelwch hwn a gynhyrchwyd gan y National Cyber Security Centre (NCSC) wedi'i gynllunio i gefnogi staff ysgolion i helpu i wella gwytnwch seibr eu hysgol.

  • Tynnu sylw at sgamiau ar-lein pdf 178 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath