Radicaleiddio ac eithafiaeth ar-lein
Canllawiau a gwybodaeth i helpu i ddeall radicaleiddio ac eithafiaeth ar-lein a sut i roi gwybod am bryderon.
- Rhan o
Trosolwg
Eithafiaeth yw gwrthwynebiad llafar neu weithredol i werthoedd cyffredin fel:
- democratiaeth
- gweithredu'r gyfraith
- parch at bawb
- goddefgarwch i grefyddau a chredoau eraill
Gall rhai mathau o gynnwys ar-lein hyrwyddo ideolegau eithafol.
Radicaleiddio yw pan fydd unigolyn neu grŵp yn mabwysiadu safbwyntiau gwleidyddol, cymdeithasol neu grefyddol eithafol a all arwain at derfysgaeth.
Y gwahaniaeth allweddol yw:
- mae radicaleiddio yn broses
- eithafiaeth yw'r canlyniad a chaiff ei hadlewyrchu yng nghredoau unigolyn
Mae grwpiau eithafol yn aml yn defnyddio'r rhyngrwyd, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol ac adnoddau AI, er mwyn:
- cyrraedd cynulleidfaoedd mawr
- targedu unigolion a allai fod yn agored i'w negeseuon a'u tactegau o feithrin perthynas gyda'r nod o ddylanwadu arnyn nhw
Gallwch roi gwybod am ddeunydd ar-lein sy'n hyrwyddo terfysgaeth neu eithafiaeth (Saesneg yn unig) yn ddienw.
Tactegau radicaleiddio
Mae propaganda terfysgol yn aml yn ecsbloetio'r materion y mae pobl ifanc yn cael trafferth gyda nhw, megis:
- hunaniaeth
- ffydd
- perthyn
Mae eithafwyr yn defnyddio naratifau cynhennus er mwyn creu hunaniaeth 'ni' a 'nhw'. Defnyddir iaith a delweddau emosiynol iawn yn aml i ddenu unigolion i mewn:
- gan ogoneddu a chanmol un grŵp
- a beirniadu a difrïo grŵp arall
Arwyddion o radicaleiddio
Ymhlith y newidiadau yn ymddygiad pobl ifanc a allai fod yn arwydd o radicaleiddio mae:
- newid eu ffrindiau
- newid eu hymddangosiad
- ymddygiad cyfrinachol neu amharodrwydd i rannu lle maen nhw
- gwrthod gwrando ar safbwyntiau amgen
- bod yn ddadleuol
- anoddefgarwch tuag at bobl sy'n wahanol iddyn nhw
- diddordeb mewn damcaniaethau cynllwyn
- cydymdeimlad â grwpiau neu ideolegau eithafol
- troi at grefydd newydd
- edrych ar gynnwys eithafol ar-lein
Canllawiau i bobl ifanc
-
Problemau a phryderon ar-lein: radicaleiddio ac eithafiaeth ar-lein
Yn cynnwys risgiau ar-lein i fod yn ymwybodol ohonyn nhw a lle i fynd am help.
Canllawiau i ysgolion
Rhaglen Prevent
Mae rhaglen Prevent yn un rhan o strategaeth wrthderfysgaeth gyffredinol y llywodraeth, CONTEST. Nod Prevent yw:
- mynd i'r afael ag achosion ideolegol terfysgaeth
- ymyrryd yn gynnar i gefnogi pobl sy'n agored i gael eu radicaleiddio
- galluogi'r rhai sydd eisoes wedi cymryd rhan mewn terfysgaeth i ddatgysylltu a rhoi'r peth y tu ôl iddyn nhw
Bwriedir i ganllawiau dyletswydd Prevent (Saesneg yn unig) gael eu defnyddio gan:
- uwch dimau arweinyddiaeth mewn awdurdodau penodedig (fel y'u rhestrir yn Rhan 1 o Atodlen 6 o Ddeddf Gwrth-derfysgaeth a Diogelwch 2015) (Saesneg yn unig)
- staff sydd â chyfrifoldebau Prevent neu ddiogelu
- pobl mewn awdurdodau penodedig sydd â chyfrifoldeb dros reoli adnoddau, cyllid neu bartneriaethau allanol
- gweithwyr proffesiynol rheng flaen sydd efallai yn ymgysylltu ag unigolion sy'n agored i gael eu radicaleiddio
Mae hyfforddiant dyletswydd Prevent (Saesneg yn unig) ar gael i bob gweithiwr proffesiynol mewn sectorau sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd. Mae hyn yn cynnwys addysg.
Mae'r hyfforddiant yn cwmpasu:
- dyletswydd Prevent a'i phwrpas
- gwahanol fathau o eithafiaeth a therfysgaeth
- y risg o ran radicaleiddio a'ch rôl gefnogol chi
- atgyfeirio achos o dan Prevent
- ymyriadau a chymorth sydd ar gael
Rhoi gwybod am bryderon
Os ydych yn poeni am blentyn yn eich gofal, dylech:
- ddilyn prosesau diogelu eich sefydliad, sef sylwi, gwirio a rhannu gyda'ch uwch berson dynodedig ar gyfer amddiffyn plant
- rhoi gwybod am eich pryderon gan ddefnyddio Ffurflen Atgyfeirio Partneriaid Prevent Cymru Gyfan
Canllawiau Ymarfer Cymru Gyfan
Mae Canllaw Ymarfer Cymru Gyfan: Diogelu plant rhag cam-drin ar-lein yn darparu gwybodaeth i ymarferwyr am ymatebion i wahanol fathau o gam-drin ar-lein, gan gynnwys radicaleiddio.
-
Adnoddau dysgu ac addysgu
Adnoddau i gefnogi gwersi dosbarth am ddiogelwch ar-lein.
Canllawiau i deuluoedd
-
Llinell Cymorth ACT Early (Saesneg yn unig)
Llinell gymorth 24 awr os ydych yn poeni am rywun sy'n agos atoch.
-
Canllawiau ar apiau i deuluoedd
Canllawiau ynghylch apiau poblogaidd y gall plant a phobl ifanc fod yn eu defnyddio.
-
Atal Radicaleiddio Ar-lein (saesneg yn unig)
Rhaglen e-ddysgu i rieni, gofalwyr ac ymarferwyr ar atal radicaleiddio ar-lein.
Barn yr arbenigwyr
-
Adolygiad o gynnwys niweidiol ar-lein
Yn sôn am yr effaith niweidiol y gall rhai dylanwadwyr ar-lein ei chael a sut i gefnogi rhywun sydd wedi dod ar draws cynnwys o'r fath.
-
Goblygiadau deallusrwydd artiffisial i blant a phobl ifanc
Yn trafod rhai o'r pryderon ynghylch technolegau AI a sut i helpu pobl ifanc i feddwl yn feirniadol am AI a'i ddefnyddio mewn ffordd gyfrifol ac egwyddorol.
-
Pobl ifanc yn dweud wrthym am y byd ar-lein y maen nhw'n byw ynddo
Yn rhannu canfyddiadau blynyddol Cybersurvey sy'n dangos bod nifer sylweddol o bobl ifanc yn gweld cynnwys niweidiol yn gyson heb chwilio amdano.
-
Canllawiau i rieni a gofalwyr ar y cyfryngau cymdeithasol a gemau cyfrifiadurol
Yn darparu cyngor i rieni a gofalwyr ar helpu eu plant i reoli risgiau cyfryngau cymdeithasol a gemau cyfrifiadurol.
-
Rheoli'ch ôl troed digidol a'ch enw da
Yn edrych ar sut i reoli eich ôl troed digidol a'ch enw da yn effeithiol.
-
Riportio Cynnwys Niweidiol
Gwybodaeth am y ganolfan ar gyfer Rhoi Gwybod am Gynnwys Niweidiol, a'i rôl o ran darparu cyngor am bob math o niwed ar-lein.
Help a chefnogaeth
-
Help a chefnogaeth
Sut i roi gwybod am gynnwys ar-lein niweidiol a chael mynediad at linellau cymorth a gwasanaethau cyfrinachol am ddim.