English

Cadw dysgwyr yn ddiogel 

Yn sgil cyhoeddi canllawiau statudol Llywodraeth Cymru ar ddiogelu ym myd addysg ‘Cadw Dysgwyr yn Ddiogel’, lansiwyd y modiwlau e-ddysgu hyn i helpu ysgolion a lleoliadau addysgol i ddeall eu rolau a’u cyfrifoldebau o ran cadw eu dysgwyr yn ddiogel. Mae Modiwlau 4 a 5 yn canolbwyntio ar ddiogelwch ar-lein.

Diogelu plant a phobl ifanc

Diogelwch ar-lein

Cyfryngau cymdeithasol

Mae'r fideo 10 munud hwn wedi'i gynllunio i helpu ysgolion i ddeall

  • canllawiau perthnasol i helpu i ddatblygu polisïau ac arferion
  • tueddiadu cyfredol ymysg plant a phobl ifanc
  • ble i ddod o hyd i gefnogaeth drwy ardal Cadw'n ddiogel ar-lein ar Hwb

Ymateb i achosion o rannu delweddau noeth 

Mae’r cynnwys yn y modiwl hwn ar gyfer y Person Diogelu Dynodedig (DSP) neu uwch reolwyr mewn lleoliad addysg ac mae wedi’i ddatblygu i’ch helpu chi i ymateb yn effeithiol i achosion o rannu delweddau noeth a hanner noeth.

Aflonyddu rhywiol ar-lein

Nod y modiwl hwn yw eich helpu i ddeall sut i atal neu ymateb i unrhyw achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein ymysg plant a phobl ifanc.

Camwybodaeth

Nod y modiwl hyfforddiant hwn yw rhoi ystod o wybodaeth i ymarferwyr ynghylch sut i fynd i’r afael â chamwybodaeth a sut i gefnogi dysgwyr i wirio ffynonellau gwybodaeth yn effeithiol a meddwl yn feirniadol am honiadau.

Hyfforddiant seibergadernid

Hyforddiant seiberdiogelwch i staff ysgol

Mae'r modiwl hyfforddi seiberddiogelwch hwn a gynhyrchwyd gan y National Cyber Security Centre (NCSC) wedi'i gynllunio i gefnogi staff ysgolion i helpu i wella gwytnwch seibr eu hysgol.

Hyfforddiant ymwybyddiaeth gwe-rwydo

Bydd y modiwl hyfforddi hwn yn eich helpu i ddeall beth yw gwe-rwydo a sut mae'n gweithio, sut y gallwch adnabod negeseuon e-bost gwe-rwydo, gwahanol dechnegau gwe-rwydo a beth allwch chi ei wneud i amddiffyn eich hun a'ch sefydliad.

Ymarfer seibergadernid ar gyfer uwch arweinwyr mewn ysgolion

Mae'r hyfforddiant hwn wedi'i gynllunio i ddarparu ymarfer rhithwir trochi i uwch arweinwyr mewn ysgolion er mwyn datblygu eu hymateb i ddigwyddiad seiber. O dan arweiniad yr Uned Seiberdroseddu Ranbarthol o fewn Tarian, bydd yr hyfforddiant rhithwir yn cynnwys cyfres o sefyllfaoedd i gyfranogwyr eu hystyried mewn grwpiau. Yn dilyn pob enghraifft, bydd cyfle i daflu syniadau ynghylch ymateb, yna i rannu’r rhain gyda grwp ehangach ochr yn ochr â sylwadau o brofiad yr hyfforddwr arweiniol.

I gael rhagor o wybodaeth am y sesiynau sydd ar gael, cysylltwch â hwb@llyw.cymru