Rhannu delweddau noeth a hanner noeth: Ymateb i ddigwyddiadau a diogelu plant a phobl ifanc
Mae’r canllaw hwn ar gyfer y person diogelu dynodedig (DSP), penaethiaid ac uwch dimau rheoli ac yn amlinellu sut i ymateb i achosion o rannu delweddau noeth neu hanner noeth.
- Rhan o
Mae'r cyngor hwn i gynorthwyo lleoliadau addysg wrth ddatblygu gweithdrefnau er mwyn ymateb i achosion o rannu delweddau noeth neu hanner noeth, wedi cael ei llunio gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Weithgor Addysg Cyngor y DU ar Ddiogelwch ar y Rhyngrwyd (UKCIS).
Y cefndir a'r gyfraith
Beth mae’r cyngor hwn yn ei gynnwys
Mae'r cyngor hwn yn amlinellu sut i ymateb i achosion o rannu delweddau noeth a hanner noeth, gan gynnwys sefyllfaoedd asesu risg, trin a thrafod dyfeisiau a delweddau, cofnodi digwyddiadau, gan gynnwys rôl asiantaethau eraill, a hysbysu rhieni a gofalwyr.
Y mathau o ddigwyddiadau gaiff eu cynnwys yn y cyngor hwn yw:
- person o dan 18 oed yn creu ac yn rhannu delweddau noeth a hanner noeth o'u hunain gyda rhywun maen nhw’n credu ei fod o dan 18 oed
- rhannu delweddau noeth a hanner noeth a grëwyd gan berson arall o dan 18 oed gyda chyfoed o dan 18 oed
- person o dan 18 oed yn meddu ar ddelweddau noeth a hanner noeth a grëwyd gan berson arall o dan 18 oed
Nid yw’r cyngor hwn yn cynnwys pobl ifanc o dan 18 oed yn rhannu pornograffi oedolion neu’n cyfnewid negeseuon testun rhywiol nad ydyn nhw’n cynnwys delweddau.
Diffinio 'rhannu delweddau noeth a hanner noeth'
Mae'r cyngor hwn yn defnyddio'r term 'rhannu delweddau noeth a hanner noeth' i olygu creu neu rannu delweddau, fideos neu ffrydiau byw noeth neu hanner noeth gan bobl ifanc o dan 18 oed. Gallai hyn ddigwydd ar y cyfryngau cymdeithasol, platfformau chwarae gemau, apiau sgwrsio neu fforymau. Gallai hefyd olygu rhannu rhwng dyfeisiau drwy wasanaethau fel AirDrop Apple, sy'n gweithio all-lein.
Mae'r term hwn wedi cael ei newid o secstio er mwyn gwneud pethau'n gliriach i weithwyr proffesiynol, rhieni, gofalwyr a phlant a phobl ifanc. Mae'r term yn fwy priodol yn cwmpasu pob math o ddigwyddiad lle rhennir delweddau.
Nid yw'r rhesymau dros dynnu a rhannu delweddau noeth a hanner noeth bob amser yn rhai rhywiol neu droseddol eu natur. Gall plant a phobl ifanc gael eu paratoi neu eu cymell i anfon delweddau noeth neu hanner noeth. Fodd bynnag, gall delweddau noeth a hanner noeth gael eu creu a'u rhannu fel rhan o gydberthnasau cydsyniol neu gallan nhw gael eu hanfon heb ofyn amdanyn nhw.
Mae hefyd yn bosibl i berson ifanc sydd mewn perthynas gydsyniol gael ei gymell i rannu delwedd â'i bartner. Gall digwyddiadau hefyd godi fel a ganlyn:
- mae plant a phobl ifanc yn dod o hyd i ddelweddau noeth neu hanner noeth ar-lein ac yn eu rhannu gan honni eu bod oddi wrth gyfoed
- mae plant a phobl ifanc yn cyfuno yn ddigidol ddelwedd o berson ifanc â delwedd noeth sydd eisoes yn bodoli ar-lein
- caiff delweddau sy'n cael eu creu neu eu rhannu eu defnyddio i gam-drin cyfoedion, er enghraifft drwy werthu delweddau ar-lein neu gael gafael ar ddelweddau i'w rhannu'n ehangach (heb gydsyniad) er mwyn codi cywilydd ar rywun yn gyhoeddus, weithiau am fod perthynas wedi dod i ben
Gall delweddau noeth a hanner noeth gael eu rhannu'n gyhoeddus ar-lein, mewn negeseuon un i un neu drwy sgyrsiau grwp a chyfrifon preifat ar y cyfryngau cymdeithasol.
Gall y delweddau, fideos neu ffrydiau byw noeth neu hanner noeth gynnwys mwy nag un plentyn neu berson ifanc. Rhoddir rhagor o wybodaeth am yr hyn sy'n cymell pobl i dynnu a rhannu delweddau noeth a hanner noeth yn yr adran 'Deall cymhellion ac ymddygiadau'.
Mae'n anghyfreithlon creu a rhannu delweddau noeth neu hanner noeth o unrhyw un sydd o dan 18 oed, ac mae hynny'n golygu bod ymateb i ddigwyddiadau sy'n cynnwys plant a phobl ifanc yn gymhleth. Hefyd, mae amrywiaeth o risgiau y mae angen eu rheoli'n ofalus gan y rhai sy'n gweithio mewn lleoliadau addysg.
Diffiniadau amgen
Y term cyfreithiol a ddefnyddir i ddiffinio delweddau o blant a phobl ifanc sydd o dan 18 oed lle maen nhw’n noeth neu'n hanner noeth yw 'delweddau anweddus o blant'.
Gellir hefyd gyfeirio at 'rannu delweddau noeth a hanner noeth' fel a ganlyn:
- delweddau rhywiol wedi'u cynhyrchu gan bobl ifanc neu ddelweddau rhywiol 'sy'n cynnwys pobl ifanc' neu ddelweddau rhywiol 'a hunangynhyrchwyd'
- delweddau anweddus, sef y term cyfreithiol a ddefnyddir i ddiffinio delweddau a fideos o blant a phobl ifanc sydd o dan 18 oed lle maen nhw’n noeth neu'n hanner noeth. Rhoddir rhagor o wybodaeth am y gyfraith yn yr adran nesaf
- secstio. Gall llawer o weithwyr proffesiynol ddefnyddio'r term hwn; fodd bynnag, mae rhai pobl yn dehongli secstio fel 'ysgrifennu a rhannu negeseuon rhywiol iawn â phobl y maen nhw’n eu hadnabod' yn hytrach na rhannu delweddau
- deunydd cam-drin plant yn rhywiol. Gellir defnyddio'r term hwn wrth gyfeirio at rannu anghydsyniol o ddelweddau noeth a hanner noeth
I blant a phobl ifanc, mae'r termau Saesneg a ddefnyddir yn aml yn cynnwys 'nudes' neu 'dick pics', fel y cyfeirir at yn yr adroddiad 'Young People and Sexting – Attitudes and Behaviours'.
Defnyddir termau fel ‘pornograffi dial’ ('revenge porn') ac ‘uwchsbecian’ (‘upskirting') hefyd i gyfeirio at ddigwyddiadau penodol o rannu delweddau noeth a hanner noeth. Fodd bynnag, caiff y termau hyn eu defnyddio yn amlach yng nghyd-destun troseddau rhannu delweddau heb gydsyniad rhwng oedolion a amlinellir yn a.33 i 35 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd 2015, Deddf Voyeuriaeth (Troseddau) 2019 ac adran 67A o’r Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003.
Gall oedolion a phobl ifanc hefyd ddefnyddio termau fel ffugio dwfn (‘deep fakes’) a delweddau noeth dwfn (‘deep nudes’) i gyfeirio at ddelweddau noeth a hanner noeth sydd wedi’u cynhyrchu neu eu trin yn ddigidol gan ddeallusrwydd artiffisial.
Y gyfraith
Mae ymateb i achosion o rannu delweddau noeth a hanner noeth yn gymhleth oherwydd ei statws cyfreithiol. Mae creu, meddu ar neu rannu unrhyw ddelweddau o unrhyw un o dan 18 oed sy’n ‘anweddus’ yn anghyfreithlon. Mae hyn yn cynnwys delweddau o'u hunain sydd wedi cael eu creu a'u rhannu gan blant a phobl ifanc (os ydyn nhw o dan 18 oed).
Mae'r ddeddfwriaeth berthnasol i'w chael yn Neddf Amddiffyn Plant 1978 (Cymru a Lloegr) fel y'i diwygiwyd yn Neddf Troseddau Rhywiol 2003 (Cymru a Lloegr) (Saesneg yn unig).
Yn benodol:
- mae'n drosedd meddu ar ddelweddau anweddus o blant, eu dosbarthu, eu dangos a'u gwneud
- mae Deddf Troseddau Rhywiol 2003 (Cymru a Lloegr) yn diffinio plentyn, at ddiben delweddau anweddus, fel unrhyw un o dan 18 oed
Ni ddiffinnir ‘anweddus’ mewn deddfwriaeth. Pan fo achosion yn cael eu herlyn, y rheithgor, ynad neu farnwr rhanbarth sydd i benderfynu a yw unrhyw lun o blentyn yn anweddus ai peidio, a hynny’n seiliedig ar y safon priodoldeb cydnabyddedig (Saesneg yn unig).
Nid yw delweddau anweddus bob amser yn golygu noethni; fodd bynnag, mae delweddau yn debygol o gael eu diffinio fel hynny os byddan nhw’n bodloni un neu ragor o'r meini prawf canlynol:
- ystumiau rhywiol lle mae'r person yn noeth neu'n hanner noeth, er enghraifft dangos genitalia neu fronnau, neu ddelweddau rhywiol iawn o bobl ifanc yn eu dillad isaf
- rhywun noeth neu hanner noeth yn cyffwrdd â'i hun mewn ffordd rywiol
- unrhyw weithgarwch rhywiol ag un plentyn neu fwy yn rhan ohono
- rhywun yn brifo rhywun arall yn rhywiol
- gweithgarwch rhywiol sy'n cynnwys anifeiliaid
Mae'r term 'delweddau anweddus' hefyd yn cynnwys ffug-ddelweddau sy'n ddelweddau wedi’u cynhyrchu gan gyfrifiadur sy’n rhoi’r argraff fel arall mai ffotograff neu fideo ydyn nhw. Gellir creu'r rhain gan ddefnyddio offer fel meddalwedd golygu lluniau neu fideo, apiau a theclynnau cynhyrchu ffugio dwfn (i gyfuno ac arosod delweddau neu fideos sy’n bodoli’n barod ar ddelweddau a fideos eraill), a theclynnau cynhyrchu testun-i-ddelwedd deallusrwydd artiffisial.
Rhannu delweddau heb gydsyniad
Mae hefyd yn anghyfreithlon rhannu delweddau neu fideos rhywiol preifat heb gydsyniad, gyda'r nod o beri gofid. Mae'r ddeddfwriaeth berthnasol i'w chael yn adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a'r Llysoedd 2015. Fel rheol mae hyn yn ymwneud â throseddau lle rhennir delweddau heb gydsyniad rhwng oedolion. Fodd bynnag, bu achosion lle mae pobl ifanc wedi cael eu herlyn o dan adran 33 yn y llysoedd ieuenctid.
Rhannu delweddau: math o reolaeth
Mewn rhai amgylchiadau, mae delweddau noeth neu hanner noeth yn gallu cael eu defnyddio fel:
- math o reolaeth drwy orfodaeth mewn perthynas
- i fanipwleiddio rhywun ar ôl i berthynas ddod i ben
Yng Nghymru, bwriad darpariaethau Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yw sicrhau ffocws ar draws y sector cyhoeddus ar atal y problemau hyn, amddiffyn dioddefwyr a cynorthwyo rhai y mae materion o’r fath yn effeithio arnyn nhw. Diffiniad Llywodraeth Cymru o drais a cham-drin domestig yw: ‘Unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau sy’n amlygu ymddygiad sy'n fygythiol neu'n rheoli, neu’n rheoli drwy orfodaeth, neu unrhyw drais neu gamdriniaeth rhwng pobl 16 oed neu’n hyn sydd, neu sydd wedi bod, yn bartneriaid rhywiol, neu'n aelodau o deulu, ni waeth beth fo'u rhyw na'u rhywioldeb’.
Mae sawl math gwahanol o gam-drin domestig. Ymhlith elfennau eraill, mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:
- rheoli drwy orfodaeth
- cam-drin yn emosiynol neu yn seicolegol
- camdriniaeth gorfforol
- camdriniaeth rywiol
- camdriniaeth ariannol
- aflonyddu a stelcio
Mae’r Ddeddf am greu gwell ymateb gan y sector cyhoeddus i drais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Prif amcanion y Ddeddf yw gwella trefniadau ar gyfer:
- hyrwyddo ymwybyddiaeth, atal achosion, ac amddiffyn a chefnogi dioddefwyr
- cryfhau’r atebolrwydd a’r arweinyddiaeth strategol yn y sector cyhoeddus
- gwella cysondeb ac ansawdd gwasanaethau a ddarperir yng Nghymru a’u gwneud yn fwy cydgysylltiedig
Dylid nodi y gall unrhyw blentyn neu berson ifanc o dan 18 oed gael ei orfodi neu ei flacmelio i anfon delweddau noeth neu hanner noeth. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a chanllawiau statudol cysylltiedig yn nodi bod gan ymarferwyr sy'n gweithio ar draws asiantaethau gyfrifoldeb i ddiogelu plant a rhoi gwybod am bryderon bod plentyn mewn perygl. Caiff y cyfrifoldebau hyn eu hegluro ymhellach yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru.
Cam-drin ar-lein yw unrhyw fath o gam-drin sy'n cael ei hwyluso drwy dechnoleg fel cyfrifiaduron, cyfrifiaduron llechen, ffonau symudol, consolau a dyfeisiau electronig eraill. Mae'n bwysig bod yn ymwybodol y gall cyswllt ar-lein sy'n gysylltiedig ag ymddygiadau camdriniol achosi cryn drawma i blant a phobl ifanc hyd yn oed pan ellir ystyried bod y cyswllt neu’r cynnwys yn fath lefel is o ran niwed. Dylai plant sy'n cam-drin cyfoedion, megis drwy ymddwyn mewn ffordd rywiol niweidiol a thrwy ymddwyn mewn ffyrdd camdriniol eraill ar-lein, gael eu hystyried yn blant yn gyntaf a dylen nhw gael y gefnogaeth briodol. Dylid ymateb i'r ymddygiad mewn ffordd gymesur, a dylid ystyried a oes ganddyn nhw unrhyw anghenion gofal a chymorth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn 'Canllaw Ymarfer Cymru Gyfan: Diogelu plant rhag cam-drin ar-lein’.
Osgoi troseddoli plant a phobl ifanc yn ddiangen
Crëwyd y ddeddf sy’n troseddoli cymryd, meddu ar neu rannu delweddau anweddus o blant ymhell cyn bod y rhyngrwyd, ffonau symudol a chyfryngau digidol yn cael eu defnyddio i’r graddau a wneir heddiw. Fe’i crëwyd hefyd i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag oedolion oedd yn ceisio eu cam-drin yn rhywiol neu gael pleser o’u cam-drin yn rhywiol. Nid troseddoli plant oedd y bwriad.
Er hyn, mae pobl ifanc sy’n cymryd, yn meddu ar neu’n rhannu delweddau ohonyn nhw eu hunain, neu gyfoedion, yn noeth neu'n hanner noeth yn torri’r gyfraith.
Fodd bynnag, ni ddylem droseddoli plant yn ddiangen. Mae plant sydd â chofnod troseddol yn wynebu stigma a gwahaniaethu mewn perthynas â chael mynediad i addysg, hyfforddiant, cyflogaeth, teithio a thai. Gall y rhwystrau hyn ddilyn plant i fyd oedolion (Saesneg yn unig).
Er bod plant a phobl ifanc sy’n creu a rhannu delweddau noeth a hanner noeth yn achosi risg iddyn nhw eu hunain ac eraill, mae hynny’n aml o ganlyniad i chwilfrydedd naturiol plant neu bobl ifanc ynghylch rhyw a’u harchwiliad o gydberthnasau. Felly, efallai na fydd tynnu neu rannu delweddau noeth a hanner noeth bob amser yn 'niweidiol' i bob plentyn a pherson ifanc. Dylid ystyried sefyllfaoedd fesul achos, gan ystyried yr hyn a wyddys am y plant neu'r bobl ifanc dan sylw, ac a oes risg uniongyrchol o niwed. Yn aml, mae angen i blant a phobl ifanc gael addysg a chymorth, er enghraifft, ar adnabod ymddygiadau sy'n iach ac ymddygiadau nad ydyn nhw’n iach mewn cydberthnasau, a deall cydsyniad a sut i'w roi. Bydd hefyd angen cymryd camau diogelu mewn achosion lle mae risg o niwed.
Nid yw'r ffaith bod yr heddlu yn penderfynu ymchwilio i achos o rannu delweddau noeth a hanner noeth yn golygu'n awtomatig y bydd gan y plentyn neu’r person ifanc dan sylw gofnod troseddol, fel yr eglurir yn yr adran nesaf.
Ymateb yr heddlu
Mae Cyngor Prif Swyddogion yr Heddlu Cenedlaethol (NPCC) wedi egluro y dylid trin achosion o rannu delweddau noeth a hanner noeth fel mater diogelu yn bennaf.
Gall lleoliadau addysg ymateb i ddigwyddiadau heb gynnwys yr heddlu. Mae cyngor ar gael yn yr adran 'Cyd-destun' ar pryd y byddai hynny’n briodol.
Fodd bynnag, gall fod angen i’r heddlu ymwneud ag achosion er mwyn sicrhau ymchwiliad trylwyr, yn cynnwys casglu’r holl dystiolaeth (er enghraifft, drwy wiriadau amlasiantaethau). Lle mae yna ffactorau sy’n ymwneud â cham-drin neu ffactorau gwaethygol, dylid rhoi gwybod i'r heddlu amdanyn nhw bob amser drwy'r ganolfan ddiogelu amlasiantaeth lleol (MASH) neu'r hyn sy'n cyfateb iddo.
Pan fo’r heddlu yn ymwneud ag achos, dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y byddai ymateb cyfiawnder troseddol a sancsiwn ffurfiol yn erbyn person ifanc yn cael ei ystyried yn briodol.
Er mwyn helpu gwasanaethau heddlu lleol i ddatblygu ymateb cydgysylltiedig, effeithiol a chymesur yn y maes hwn, mae'r NPCC a'r Coleg Plismona wedi llunio cyngor gweithredol (Saesneg yn unig) ar gyfer asiantaethau gorfodi'r gyfraith yn ymwneud ag ymchwilio i droseddau lle rhennir delweddau noeth a hanner noeth.
Cofnodi troseddau
Pan hysbysir yr heddlu am achosion o rannu delweddau noeth a hanner noeth, mae’n ddyletswydd arnyn nhw, o dan Reolau Cyfrif y Swyddfa Gartref a’r Safonau Cofnodi Troseddau Cenedlaethol, i gofnodi’r digwyddiad ar eu systemau troseddau. Bydd y digwyddiad yn cael ei restru fel ‘trosedd’ a bydd y person ifanc dan sylw yn cael ei restru fel ‘un a amheuir’. Nid yw hyn yn gyfystyr â chael cofnod troseddol.
Penderfyniad yr heddlu
Pan gaiff yr heddlu wybod am ddigwyddiad, bydd yn ymchwilio iddo ac yn penderfynu ar ganlyniad priodol.
Os bydd digwyddiad yn cynnwys ffactorau camdriniol neu waethygol, gall y plentyn neu'r person ifanc gael rhybudd neu gael ei euogfarnu.
I liniaru'r risg o gael effaith negyddol ar blant a phobl ifanc, gall yr heddlu gofnodi canlyniad ymchwiliad gan ddefnyddio cod canlyniad 21 os nodir nad oedd digwyddiad yn gamdriniol, ac nad oes unrhyw dystiolaeth o'r canlynol:
- camfanteisio
- meithrin perthynas amhriodol
- cymhelliad gwneud elw
- bwriad maleisus (er enghraifft rhannu helaeth neu amhriodol megis lanlwytho i wefan bornograffig)
- ymddygiad parhaus
Mae cod canlyniad 21, a lansiwyd yn 2016, yn helpu i ffurfioli'r disgresiwn sydd gan yr heddlu wrth ymdrin â throseddau megis rhannu delweddau noeth a hanner noeth. Mae canlyniad 21 yn nodi: 'Nid yw er lles y cyhoedd i gynnal ymchwiliad pellach, yn deillio o’r adroddiad ar y drosedd, a allai ddarparu digon o dystiolaeth i ategu camau ffurfiol yn erbyn rhywun a amheuir. Mae hynny yn benderfyniad i’r heddlu.'
Mae hynny’n golygu y gall yr heddlu gofnodi eu bod wedi dewis peidio â chymryd camau pellach gan nad oedd er lles y cyhoedd, er bod person ifanc wedi torri’r gyfraith ac y gallai’r heddlu ddarparu tystiolaeth ei fod wedi gwneud hynny.
Mae'r penderfyniad i ddefnyddio canlyniad 21 yn yr amgylchiadau hyn yn debygol o gael ei adolygu gan swyddog digon profiadol neu lefel digon uchel.
Pan benderfynir ar ganlyniad priodol, dylai'r heddlu roi gwybod i'r plentyn neu'r person ifanc dan sylw, ei rieni neu ofalwyr a, lle y bo'n briodol, y lleoliad. Dylai hyn hefyd egluro'r goblygiadau uniongyrchol a thymor hwy.
Gwiriad cofnodion troseddol
Mae penderfyniad i ddatgelu gwybodaeth fel rhan o unrhyw wiriad cofnodion troseddol (tystysgrif y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)) yn cael ei wneud ar sail p’un a yw’r wybodaeth honno yn berthnasol i’r risg y gallai’r unigolyn hwnnw ei achosi i blant, pobl ifanc neu oedolion sy’n agored i niwed.
Gall achos o rannu delweddau noeth neu hanner noeth a gofnodwyd ar systemau’r heddlu gyda chanlyniad 21 gael ei ddatgelu ar dystysgrif DBS. Fodd bynnag, gall gwybodaeth nad yw’n ymwneud ag euogfarn neu rybudd gael ei gynnwys ar dystysgrif DBS dim ond pan fo unigolyn wedi gwneud cais am wiriad DBS manwl. Mewn achosion o’r fath, prif swyddog fyddai’n penderfynu pa wybodaeth (yn ychwanegol at euogfarnau a rhybuddion a ddelir ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu) ddylai gael ei darparu i’w chynnwys. Mae’n rhaid i’r penderfyniad hwnnw gael ei wneud yn seiliedig ar bod y prif swyddog o fewn rheswm yn credu bod yr wybodaeth yn berthnasol at ddiben y datgeliad (er enghraifft, lle mae rhywun yn derbyn swydd sy’n golygu gweithio gyda phlant) ac yn ystyried y dylid ei chynnwys.
Gweithio amlasiantaethol
Os bydd yr heddlu yn hysbysu lleoliad am ddigwyddiad nad oedd yn ymwybodol ohono'n flaenorol, dylai'r person diogelu dynodedig (DSP) ddilyn y canllawiau statudol a nodir yn Cadw dysgwyr yn ddiogel (2020), sy'n cynnwys cydweithio â phartneriaid amlasiantaeth perthnasol.
Atafaelu dyfeisiau
Yn ystod ymchwiliad, efallai y bydd angen i'r heddlu atafaelu dyfeisiau storio electronig (megis ffonau symudol) i ddatblygu ymchwiliadau a helpu gyda phenderfyniadau diogelu. Ni ddylid atafaelu dyfeisiau fel mater o drefn pan fo digwyddiadau’n cael eu hasesu'n ofalus ac o ganlyniad yn cael eu dynodi’n ddigwyddiadau risg is (er enghraifft, lle credir bod y rhannu'n gydsyniol ac yn briodol i'r oedran). Dan amgylchiadau eraill, bydd swyddogion yn ystyried y ffordd leiaf ymwthiol o gaffael deunydd, gan gydbwyso effaith tynnu dyfais plentyn oddi wrtho yn erbyn yr angen am uniondeb tystiolaeth.
Mewn achosion pan fo dyfais yn cael ei hatafaelu gan yr heddlu a’u bod nhw’n dod o hyd i ddelweddau noeth neu hanner noeth ar y ddyfais, mae'n annhebygol y bydd y ddyfais yn cael ei dychwelyd oni bai mai perchennog y ddyfais oedd yr unig berson yn y delweddau. Mae hyn oherwydd ei bod yn anodd cael gwared ar bob hanes o ddelwedd o ddyfais a gellid dehongli dychwelyd dyfais fel cyflenwi delwedd anweddus.
Pan fo swyddogion wedi atafaelu delweddau sydd wedi'u rhannu y tu hwnt i reolaeth y plentyn neu'r person ifanc, byddan nhw’n llwytho'r delweddau i'r Gronfa Ddata Delweddau Cam-drin Plant (CAID), ystorfa genedlaethol ar gyfer delweddau anweddus. Gellir rhannu cofnodion o'r delweddau sydd ar y Gronfa â chwmnïau technoleg mawr i atal iddyn nhw gael eu dosbarthu ar-lein a hefyd i alluogi ymchwiliadau yn y dyfodol os darganfyddir y ddelwedd mewn cysylltiad â throseddau eraill.
Cyd-destun
Pam mae'r mater hwn yn bwysig i leoliadau sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc
Mae rhannu lluniau, fideos a ffrydiau byw yn rhan o fywyd bob dydd i nifer o bobl, ac mae’n eu galluogi i rannu eu profiadau, cysylltu â ffrindiau a chofnodi eu bywydau.
Er bod llawer o leoliadau addysg yn delio â chynnydd mewn achosion o rannu delweddau noeth a hanner noeth, mae nifer sylweddol o blant a phobl ifanc nad ydyn nhw’n anfon delweddau noeth a hanner noeth. Canfu ymchwil gan Revealing Reality yn 2022 mai dim ond 20% o ferched ac 13% o fechgyn oedd erioed wedi anfon llun noeth neu fideo ohonyn nhw eu hunain. Mae’r un peth yn wir am dderbyn delweddau – mae llawer o blant a phobl ifanc nad ydyn nhw’n derbyn delweddau noeth a hanner noeth chwaith. Fodd bynnag, datgelodd ymchwil gan Ofcom yn 2023 bod profiadau o rannu delweddau noeth yn amrywio yn ôl:
- rhywedd, gydag 13% o ferched 11 i 18 oed wedi cael cais am ddelweddau o gymharu ag 8% o fechgyn
- cyfeiriadedd rhywiol, gyda 28% o bobl ifanc sy'n ystyried eu hunain yn LHDTC+ wedi cael cais am ddelweddau o gymharu â chyfartaledd o 10%
- cyflyrau iechyd corfforol a meddyliol, gydag 19% o'r rhai sy'n byw gyda chyflyrau sy'n effeithio arnyn nhw neu'n cyfyngu arnyn nhw wedi cael cais am ddelweddau o gymharu â chyfartaledd o 10%
Er nad yw'r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn creu neu'n rhannu'r mathau hyn o ddelweddau a fideos, mae'r risgiau a'r effeithiau posibl yn sylweddol. Mae adolygiad o dystiolaeth yn 2023 (Saesneg yn unig) gan yr NSPCC yn dangos y gall effeithiau rhannu heb gydsyniad gynnwys:
- ofn, gofid a diymadferthedd
- hunan-feio neu gywilydd
- lefelau uwch o iselder a gorbryder
- niwed i enw da
- cyfoedion yn cael eu hallgáu a dioddefwyr yn cael eu beio
- teimladau o ailerledigaeth wrth i ddelweddau gael eu hanfon ymlaen, a thrwy sylwadau a sawl un o gyfoedion sydd wedi hoffi’r ddelwedd
Os yw'r delweddau'n cael eu rhannu ymhellach, gall arwain at embaras, bwlio a mwy o fregusrwydd i flacmelo a chamfanteisio.
Mewn achosion o ddigwyddiadau sy'n cynnwys oedolion (cam-drin plant yn rhywiol ar-lein) gall y digwyddiad arwain hefyd at effeithiau cymdeithasol a seicolegol pellach i’r dioddefwr fel hunan-niweidio, diffyg hunan-barch, symptomau anhwylder straen ôl-drawmatig, a phroblemau ymddygiad yn yr ysgol.
Mae hefyd yn anghyfreithlon creu a rhannu delweddau noeth a hanner noeth o blant a phobl ifanc sydd o dan 18 oed, sy'n peri cryn bryder mewn lleoliadau sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, ac ymhlith rhieni a gofalwyr.
Fel yr amlinellwyd yn y trosolwg, nod y cyngor hwn yw helpu lleoliadau i ddatblygu gweithdrefnau er mwyn ymateb i achosion o rannu delweddau noeth a hanner noeth fel rhan o'u trefniadau diogelu. Dylai’r ymateb i’r digwyddiadau hyn gael ei arwain gan egwyddor cymesuredd, ac amddiffyn a diogelu llesiant y plant a’r bobl ifanc dan sylw ddylai’r prif ystyriaeth fod.
Gall achosion unigol o gam-drin cyfoedion ac ymddygiad rhywiol (mae rhannu delweddau noeth a hanner noeth yn gallu bod yn perthyn i'r categori hwn) arwain at ddiwylliannau niweidiol neu ddiwylliannau nad ydynt yn iach yng nghymuned y lleoliad. Mae'r ffordd yr ymatebir i'r digwyddiadau hyn – gan gynnwys ymddygiad rhywiol niweidiol 'lefel isel' – yn cael effaith uniongyrchol ar ddiwylliant y lleoliad. Os ymdrinnir â digwyddiad yn wael, gall set o normau nad yw'n ddiogel ac nad yw'n iach gael ei chreu sy'n galluogi cam-drin rhwng cyfoedion; gall hyn hefyd atal plant a phobl ifanc eraill rhag datgelu achosion.
Mae Canllawiau i leoliadau addysg am gam-drin rhywiol, camfanteisio ac ymddygiad rhywiol niweidiol gan gyfoedion wedi cael eu datblygu ar gyfer Llywodraeth Cymru gan yr NSPCC a Barnado's. Rhoddir rhagor o wybodaeth hefyd yng Nghanllaw Ymarfer Cymru Gyfan 'Diogelu plant lle mae pryderon ynghylch ymddygiad rhywiol niweidiol' a Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
Rhaid cydnabod y gall y broses o reoli achosion unigol effeithio ar ddiwylliant y lleoliad cyfan, ymateb cyfoedion a gallu pob plentyn a pherson ifanc i siarad allan.
Yn y ddogfen isod ceir siart lif lefel uchel ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau ymateb priodol a chymesur, gall lleoliadau addysg ddefnyddio'r adnoddau ategol a argymhellir er mwyn helpu i asesu digwyddiad. Trafodir hyn o dan 'Diffinio digwyddiad' ac 'Asesu ymddygiad mewn digwyddiadau ieuenctid yn unig'.
- Siart lif ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau pdf 168 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Deall cymhellion ac ymddygiadau
Mae deall diwylliant cyfoes a dylanwadau cymdeithasol ar blant a phobl ifanc yn bwysig wrth ystyried yr arfer cymdeithasol o rannu delweddau noeth a hanner noeth, ac wrth asesu digwyddiadau. Gall cyfnewid delweddau noeth a hanner noeth fod yn ffordd o feithrin perthynas neu ddod yn fwy poblogaidd a gall fod llinellau aneglur o gydsyniad.
Mae beio'r dioddefwr yn dal i fod yn broblem fawr o ran hunangynhyrchu delweddau lle mae'r person yn noeth ac yn hanner noeth. Mae'n dilyn patrwm nodweddiadol o rywun yn anfon delwedd i un person, yna mae'r derbynnydd yn rhannu'r ddelwedd honno, ac yna mae'r dioddefwr yn derbyn camdriniaeth gan y gymuned ehangach.
Mae hefyd yn bosibl i berson ifanc sydd mewn perthynas gydsyniol gael ei orfodi i rannu delwedd gyda'i bartner. Gall digwyddiadau ddigwydd hefyd lle:
- mae plant a phobl ifanc yn dod o hyd i ddelweddau noeth a hanner noeth ar-lein ac yn eu rhannu gan honni eu bod wedi dod gan un o’u cyfoedion
- mae plant a phobl ifanc yn trin delwedd o berson ifanc yn ddigidol i’w droi’n ddelwedd noeth ar-lein neu'n defnyddio deallusrwydd artiffisial i gynhyrchu delwedd noeth neu hanner noeth newydd o berson ifanc
- defnyddir delweddau a grëwyd neu a rannwyd er mwyn cam-drin cyfoedion, er enghraifft trwy werthu delweddau ar-lein, blacmelio am arian neu ddelweddau pellach, neu gael gafael ar ddelweddau o ddyfais neu drwy hacio i mewn i gyfrif i rannu'n ehangach heb gydsyniad er mwyn codi cywilydd yn gyhoeddus
- plant a phobl ifanc yn creu ac yn rhannu delweddau noeth neu hanner noeth, gydag oedolyn sydd wedi cyflwyno ei hun fel rhywun o dan 18 oed er mwyn meithrin perthynas amhriodol, cam-drin yn rhywiol neu flacmelio yn ariannol (gweler yr adran Asesu digwyddiadau sy'n ymwneud ag oedolion am ragor o wybodaeth)
Nid yw rhannu delweddau noeth a hanner noeth bob amser yn digwydd oherwydd cymhelliad rhywiol neu droseddol. Bydd ymateb lleoliad addysg i ddigwyddiad yn amrywio gan ddibynnu ar yr hyn a wnaeth gymell y digwyddiad a phriodoldeb ymddygiad y plentyn neu'r person ifanc. Er mwyn sicrhau ymateb priodol a chymesur i achos o rannu delweddau noeth a hanner noeth, gall lleoliadau addysg ddefnyddio'r adnoddau yn yr adran 'Diffinio digwyddiad’ ac 'Asesu ymddygiad mewn digwyddiadau ieuenctid yn unig'.
Diffinio digwyddiad
Gellir defnyddio teipoleg Finkelhor a Wolak (Saesneg yn unig) o achosion o rannu delweddau wedi'u cynhyrchu gan ieuenctid i ddiffinio ac asesu achosion o rannu delweddau noeth a hanner noeth yn ôl y cymhelliant.
Gellir rhannu digwyddiadau yn 2 gategori yn fras.
Mae digwyddiadau gwaethygedig yn cynnwys elfennau troseddol neu gamdriniol y tu hwnt i greu, anfon neu feddu ar ddelweddau noeth a hanner noeth
Mae troseddwyr sy'n oedolion (hyd yn oed gangiau troseddol) yn ceisio datblygu cydberthnasoedd trwy feithrin perthynas amhriodol â phobl ifanc yn eu harddegau a’u perswadio i gyflawni troseddau rhyw hyd yn oed heb yr elfen ychwanegol o ddelweddau a gynhyrchir gan bobl ifanc. Gall dioddefwyr fod yn ffrindiau teulu, yn berthnasau, yn aelodau o'r gymuned neu'n cysylltu â nhw drwy'r rhyngrwyd. Gall troseddwyr sy'n oedolion ofyn am y delweddau rhywiol sydd wedi’u cynhyrchu gan bobl ifanc. Gall rhai troseddwyr orfodi neu flacmelio'r plentyn neu'r person ifanc i anfon mwy o ddelweddau neu wneud taliad (a elwir yn ystumiad rhywiol gyda chymhelliant ariannol neu 'blacmel rhywiol'). Gweler yr adran 'Asesu digwyddiadau sy'n ymwneud ag oedolion' i gael gwybodaeth bwysig ychwanegol am ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig ag oedolion â chymhelliant rhywiol ac ariannol).
Ieuenctid yn unig: mae achosion o fwriad i niweidio sy’n deillio o wrthdaro rhyngbersonol megis tor perthynas a gwrthdaro ymysg ffrindiau yn cynnwys ymddygiad troseddol neu gamdriniol megis blacmel (gan gynnwys ariannol), bygythiadau neu dwyll, neu gamdriniaeth neu ecsbloetio rhywiol gan bobl ifanc.
Ieuenctid yn unig: gyda chamddefnydd di-hid nid oes bwriad i niweidio, ond mae delweddau’n cael eu cymryd neu eu hanfon yn ddiarwybod i’r person ifanc yn y llun neu heb iddo gymryd rhan yn fwriadol yn y digwyddiad. Yn yr achosion hyn mae lluniau yn cael eu tynnu neu eu hanfon yn ddifeddwl neu’n fyrbwyll, ac efallai y bydd dioddefwr yn cael ei niweidio o ganlyniad i hynny.
Mae digwyddiadau arbrofol yn ymwneud â chreu ac anfon delweddau noeth neu hanner noeth, heb unrhyw gysylltiad ag oedolyn, heb unrhyw fwriad amlwg i niweidio na chamddefnydd byrbwyll.
Mae achosion rhamantus yn cynnwys pobl ifanc mewn cydberthnasau parhaus sy'n creu delweddau ar gyfer eu hunain neu ei gilydd – ni fwriadwyd i’r delweddau gael eu rhannu i neb heblaw'r pâr dan sylw.
Ceisio sylw rhywiol: daw'r ymadrodd 'ceisio sylw rhywiol' neu 'sexual attention seeking' yn uniongyrchol o'r deipoleg. Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi y gall digwyddiadau yn y categori hwn fod yn rhan o blentyndod arferol. Ni ddylai plentyn na person ifanc gael ei feio am dynnu a rhannu delwedd ohono.
Arall: achosion nad yw’n ymddangos bod elfennau gwaethygedig yn perthyn iddyn nhw, megis cysylltiad ag oedolion, cymhellion maleisus neu gamddefnydd byrbwyll, ac nad ydyn nhw ychwaith yn perthyn i’r is-fathau 'rhamantus' neu 'geisio sylw'. Mae’r rhain naill ai’n ymwneud â phobl ifanc sy'n tynnu lluniau ohonyn nhw eu hunain ar eu cyfer eu hunain (dim tystiolaeth o anfon neu rannu neu fwriad i wneud hynny) neu blant cyn glasoed (9 oed neu iau) nad yw’n ymddangos bod ganddyn nhw gymhellion rhywiol.
Asesu digwyddiadau sy'n ymwneud ag oedolion
Mae pob digwyddiad rhannu delweddau noeth a hanner noeth sy'n ymwneud ag oedolion yn droseddau cam-drin plant yn rhywiol ac mae angen eu cyfeirio ar unwaith at yr heddlu neu ofal cymdeithasol drwy'r MASH neu rywbeth cyfatebol. Fodd bynnag, gall digwyddiadau sy'n ymwneud ag oedolion roi’r argraff i ddechrau eu bod yn ddigwyddiadau rhannu delweddau noeth neu hanner noeth rhwng plant, felly efallai y bydd DSPau neu rywbeth cyfatebol yn ei chael hi'n anodd asesu bod oedolion yn rhan o’r peth i ddechrau.
Mae'r adran hon yn amlinellu 2 fath o ddigwyddiad cyffredin sy'n ymwneud ag oedolion ac arwyddion i gadw llygad amdanyn nhw.
Digwyddiadau â chymhelliant rhywiol
Yn y math hwn o ddigwyddiad, mae troseddwr sy'n oedolyn yn cael delweddau noeth neu hanner noeth yn uniongyrchol gan blant a phobl ifanc sy'n defnyddio platfformau ar-lein.
Er mwyn gwneud cyswllt cychwynnol, gall y troseddwr gyflwyno ei hun neu ddefnyddio hunaniaeth ffug ar y platfform, gan ddweud ei fod yn blentyn neu berson ifanc weithiau i annog ymateb a datblygu ymddiriedaeth. Mae'r troseddwr yn aml yn meithrin perthynas amhriodol â'r plentyn neu'r person ifanc ar y cyfryngau cymdeithasol, mewn ystafelloedd sgwrsio neu ar blatfformau gemau ac yna gall symud y sgwrs i ap negeseuon preifat neu amgylchedd amgryptio o'r dechrau i'r diwedd (E2EE) (Saesneg yn unig) a gwneud cais am ddelwedd noeth neu hanner noeth. Er mwyn annog y plentyn neu'r person ifanc i greu a rhannu delwedd noeth neu hanner noeth, efallai y bydd y troseddwr yn rhannu pornograffi neu ddeunydd cam-drin plant yn rhywiol (delweddau o bobl ifanc eraill), gan gynnwys deunydd sydd wedi’i gynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial.
Unwaith y bydd plentyn neu berson ifanc yn rhannu delwedd noeth, gall troseddwr flacmelio'r plentyn neu'r person ifanc i anfon mwy o ddelweddau trwy fygwth eu rhyddhau ar-lein neu eu hanfon at ffrindiau a theulu.
Arwyddion i fod yn ymwybodol ohonyn nhw
Gall arwyddion posibl fod oedolyn yn meithrin perthynas amhriodol a gorfodaeth gynnwys y canlynol mewn plentyn neu berson ifanc:
- cyfrif ar-lein arall nad ydyw’n ei adnabod yn cysylltu â’r plentyn neu’r person ifanc ond mae'n edrych fel cyfrif plentyn neu berson ifanc arall
- cymryd rhan yn gyflym mewn cyfathrebu o natur rywiol a allai gynnwys y troseddwr yn rhannu delweddau na ofynnwyd amdanyn nhw
- symud o blatfform cyhoeddus i blatfform preifat neu E2EE
- cael ei orfodi neu fod dan bwysau i wneud pethau o natur rywiol, gan gynnwys creu delweddau noeth neu hanner noeth
- cael cynnig rhywbeth o werth fel arian neu gredydau ar gyfer gemau cyfrifiadurol
- cael ei fygwth neu ei flacmelio i gyflawni gweithgarwch rhywiol pellach; gall hyn ddod ar ôl i’r plentyn neu'r person ifanc rannu'r ddelwedd gychwynnol neu ar ôl i’r troseddwr rannu delwedd o'r plentyn neu'r person ifanc sydd wedi’i thrin yn ddigidol ac esgus ei bod yn ddelwedd 'go iawn'
Digwyddiadau gyda chymhelliant ariannol – 'blacmel rhywiol'
Gydol 2022 a 2023, bu cynnydd sylweddol yn nifer y digwyddiadau hyn a gafodd eu riportio.
Yn wahanol i ddigwyddiadau eraill sy'n ymwneud ag oedolion, fel arfer caiff blacmel rhywiol sy’n cael ei gymell gan arian ei wneud gan droseddwyr sy'n gweithio mewn grwpiau troseddu cyfundrefnol soffistigedig dramor a’r unig gymhelliant yw elw. Mae oedolion fel arfer yn cael eu targedu gan y grwpiau hyn hefyd.
Yn aml, bydd troseddwyr yn defnyddio hunaniaeth ffug, gan esgus weithiau bod yn blentyn neu'n berson ifanc, neu'n hacio cyfrif person ifanc arall i gysylltu yn y lle cyntaf. Er mwyn blacmelio'r plentyn neu'r person ifanc yn ariannol, efallai y byddan nhw’n:
- meithrin perthynas amhriodol neu orfodi plentyn neu berson ifanc i anfon delwedd noeth neu hanner noeth a'i flacmelio yn ariannol
- defnyddio delweddau o'r plentyn neu'r person ifanc sydd wedi’u dwyn drwy hacio i mewn i’w cyfrif
- defnyddio delweddau o’r plentyn neu’r person ifanc sydd wedi'u trin yn ddigidol, gan gynnwys delweddau a gynhyrchwyd gan ddeallusrwydd artiffisial
Gall y troseddwr fynnu taliad neu ddefnyddio cyfrif banc y dioddefwr at ddibenion gwyngalchu arian.
Arwyddion i fod yn ymwybodol ohonyn nhw
Gall arwyddion posibl bod oedolion yn rhan o flacmelio rhywiol sy’n cael ei gymell gan arian gynnwys plentyn neu berson ifanc yn:
- cael cyswllt gan gyfrif ar-lein arall nad ydyw’n ei adnabod ond mae'n edrych fel cyfrif plentyn neu berson ifanc arall. Gallai hwn fod yn gyswllt o gyfrif plentyn neu berson ifanc sydd wedi’i hacio
- cymryd rhan yn gyflym mewn cyfathrebu o natur rywiol – gallai hyn gynnwys y troseddwr yn rhannu delwedd gyntaf
- symud o blatfform cyhoeddus i blatfform preifat neu E2EE
- teimlo dan bwysau i dynnu delwedd noeth neu hanner noeth
- cael neges bod ei gyfrif wedi ei hacio a’r troseddwr yn llwyddo i gael mynediad at ei ddelweddau, gwybodaeth bersonol a chysylltiadau
- cael ei flacmelio i anfon arian neu rannu manylion cyfrif banc ar ôl rhannu delwedd neu'r troseddwr yn rhannu delweddau o’r plentyn neu berson ifanc sydd wedi’u hacio neu eu trin yn ddigidol
Mae rhagor o wybodaeth am 'flacmelio rhywiol' ar gael yma:
Asesu ymddygiad mewn digwyddiadau ieuenctid yn unig
Wrth ystyried y camau gweithredu priodol lle rhennir delweddau noeth a hanner noeth, bydd angen i'r DSP ystyried oedran y plant a'r bobl ifanc dan sylw, a'r cyd-destun.
Ystyriaethau oedran
Mae plant o dan 13 oed yn cael gwarchodaeth ychwanegol rhag camdriniaeth rywiol o dan Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003. Mae’n rhaid trin yn ddifrifol unrhyw sefyllfa sy’n ymwneud â phlant o dan 13 oed a rhannu delweddau noeth a hanner noeth oherwydd gallan nhw fod yn arwydd o bryder ehangach mewn perthynas â diogelu neu amddiffyn plant, neu o ymddygiad rhywiol problemus.
Mae’n debygol bod oedran a gallu’r plant dan sylw yn dylanwadu ar ddealltwriaeth plant a phobl ifanc ynghylch goblygiadau posibl cymryd neu rannu delweddau noeth a hanner noeth. Mewn rhai achosion gall plant o dan 13 oed (a hyn hefyd) greu delweddau noeth a hanner noeth o ganlyniad i chwilfrydedd sy’n briodol i’w hoedran neu ymddygiad mentrus neu’n syml oherwydd anwybodaeth yn hytrach nag unrhyw fwriad rhywiol. Dyma’r ymddygiad sy’n fwy tebygol o gael ei ganfod yn gyffredinol mewn ysgolion cynradd. Gallai rhai enghreifftiau cyffredin gynnwys anfon lluniau o’u horganau rhywiol i’w ffrindiau fel her, neu dynnu llun o blentyn arall wrth iddo newid ar gyfer gwers ymarfer corff. Yn y cyd-destun hwn mae’n annhebygol bod angen cynnwys y gwasanaethau cymdeithasol neu’r heddlu ac nad yw hynny’n gymesur, ond bydd angen i’r DSP ddefnyddio eu barn broffesiynol wrth ystyried y cyd-destun penodol a’r plant dan sylw.
Gwahaniaethu rhwng ymddygiad rhywiol normal ac annormal
Bydd angen i’r DSP fod yn ymwybodol y gall ymddygiad nad yw efallai’n ymddangos fel ymddygiad â chymhelliad rhywiol ar y cychwyn fod wedi digwydd o ganlyniad i ymddygiad mentrus neu niweidiol neu o ganlyniad i ‘normaleiddio’ camdriniaeth rhywiol mewn perthynas â phlant (gweler Fframwaith ymddygiad rhywiol niweidiol NSPCC) (Saesneg yn unig).
Gall model 'Continuum of children and young people’s sexual behaviours' Hackett hefyd helpu ymarferwyr i ddeall bod ymddygiadau rhywiol plant a phobl ifanc yn bodoli ar gontinwwm eang o ymddygiadau normal i gamdriniol a threisgar. Gallan nhw symud rhwng pob categori. Fe'i defnyddir hefyd fel model yn y Canllawiau i leoliadau addysg am gamdrin rhywiol, camfanteisio ac ymddygiad rhywiol niweidiol gan gyfoedion.
Mae'n bwysig nodi nad yw un digwyddiad lle gwelir ymddygiad problematig neu gamdriniol o reidrwydd yn arwydd o ymddygiad rhywiol cyffredinol y plentyn neu'r person ifanc. Dylid ymdrin â'r digwydd mewn ffordd sy'n gweddu i'r ymddygiad a welir. Mae'r canllaw isod wedi cael ei addasu o gontinwwm Hackett.
-
- I'w ddisgwyl yn ddatblygiadol
- Yn gymdeithasol dderbyniol
- Cydsyniol, ar y cyd, dwyochrog
- Gwneud penderfyniadau ar y cyd
-
- Achosion unigol o ymddygiad rhywiol amhriodol
- Ymddygiad yn cael ei dderbyn gan gyfoedion yng nghyd-destun y grŵp cyfoedion
- Gall cyd-destun yr ymddygiad fod yn amhriodol
- Cydsyniol ac ar y cyd yn gyffredinol
-
- Ymddygiadau problematig ac sy'n peri pryder
- Yn anarferol yn ddatblygiadol ac yn gymdeithasol annisgwyl
- Dim unrhyw elfennau amlwg o erledigaeth
- Gall materion o ran cydsynio fod yn aneglur
- Gall fod diffyg dwyochredd neu bwer cyfatebol
- Gall gynnwys lefelau o orfodedd
-
- Bwriad neu ganlyniad yn ymwneud ag erledigaeth
- Yn cynnwys camddefnyddio pwer
- Gorfodaeth a grym i sicrhau bod y dioddefwr yn cydymffurfio
- Ymwthiol
- Diffyg cydsyniad ar sail gwybodaeth neu'r dioddefwr yn methu â'i roi'n rhydd
- Gall gynnwys elfennau o drais mynegiannol
-
- Cam-drin rhywiol sy'n gorfforol dreisgar
- Ymwthiol iawn
- Trais cyfryngol sy'n cynhyrfu'r cyflawnwr yn ffisiolegol neu'n rhywiol
- Sadistiaeth
Mae’n rhaid trin yn ddifrifol unrhyw sefyllfa sy’n ymwneud â phlant o dan 13 oed a rhannu delweddau noeth a hanner noeth oherwydd gallan nhw fod yn arwydd o bryder ehangach mewn perthynas â diogelu neu amddiffyn plant, neu o ymddygiad rhywiol problemus. Mae hyn yn allweddol er mwyn sicrhau bod plant sy’n ymwneud â hyn neu a glustnodir yn cael eu diogelu ac nad ydyn nhw’n cael eu troseddoli neu eu labelu yn ddiangen. Rhoddir rhagor o wybodaeth am hyn yng Nghanllawiau Ymarfer Cymru Gyfan 'Diogelu plant rhag cam-drin ar lein' a 'Diogelu plant lle mae pryderon ynghylch ymddygiad rhywiol niweidiol'. Mae'r rhain yn seiliedig ar gontinwwm Hackett o ymddygiadau rhywiol plant a phobl ifanc. Mae'r canllawiau hefyd yn cynnwys dolenni i adnoddau ymarfer.
Gellir hefyd ddefnyddio fframweithiau fel Adnodd Goleuadau Traffig Ymddygiadau Rhywiol Brook i nodi pan mae ymddygiad rhywiol plentyn neu berson ifanc yn peri pryder o ran ei ddatblygiad. Er bod plentyn neu berson ifanc yn arddangos ymddygiad rhywiol priodol yng nghyd-destun ei oed neu ei ddatblygiad, dylid ystyried serch hynny p’un a yw cymryd neu rannu delweddau noeth neu hanner noeth yn codi unrhyw bryderon ychwanegol.
I grynhoi, mae'r adnoddau sydd ar gael i gefnogi DSPau yn cynnwys:
- Canllaw Ymarfer Cymru Gyfan 'Diogelu plant rhag cam-drin ar-lein'
- Canllaw Ymarfer Cymru Gyfan 'Diogelu plant lle mae pryderon ynghylch ymddygiad rhywiol niweidiol'
- Adnodd Goleuadau Traffig Ymddygiadau Rhywiol Brook (Saesneg yn unig)
- Adnoddau Stop it Now! Sefydliad Lucy Faithfull (Saesneg yn unig)
- Canllawiau i leoliadau addysg am gam-drin rhywiol, camfanteisio ac ymddygiad rhywiol niweidiol gan gyfoedion
Ymdrin â digwyddiadau
Ymateb cychwynnol
Mae canllawiau statudol ar gadw dysgwyr yn ddiogel yn nodi y dylai pawb mewn lleoliadau addysg greu a chynnal amgylchedd dysgu diogel a chlustnodi pryderon ynghylch llesiant plant a chymryd camau i ddelio â hwy, pan fo’n briodol, mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill. Mae’n rhaid i bob lleoliad â chyfrifoldebau statudol gael polisi amddiffyn plant, a gallan nhw ddymuno ystyried sut maen nhw’n adlewyrchu eu hymagwedd tuag at rannu delweddau noeth a hanner noeth yn y polisi hwnnw.
Dylid ymateb i bob achos o rannu delweddau noeth a hanner noeth yn unol â pholisi diogelu ac amddiffyn plant y lleoliad a Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
Pan fo achos o rannu delweddau noeth neu hanner noeth yn dod i sylw lleoliad:
- dylid cyfeirio’r digwyddiad i sylw’r DSP cyn gynted â phosibl
- dylai’r DSP gynnal cyfarfod adolygu cychwynnol gydag aelodau priodol o staff. Efallai bydd y DSP yn dymuno ceisio cyngor cyffredinol gan Swyddog Heddlu Cymunedol yr Ysgol (SCPO)
- dylid cynnal cyfweliadau dilynol gyda’r plant neu'r bobl ifanc o dan sylw (os yw’n briodol)
- dylid hysbysu rhieni a gofalwyr yn gynnar a’u cynnwys yn y broses oni bai fod yna reswm da i gredu y byddai cynnwys y rhieni a gofalwyr yn golygu y byddai’r plentyn neu'r person ifanc yn wynebu risg o niwed
- ar unrhyw adeg yn ystod y broses, os pryderir bod plentyn neu berson ifanc wedi cael ei niweidio neu ei fod yn wynebu risg o gael ei niweidio, dylid cyfeirio’r mater at y gwasanaethau cymdeithasol neu’r heddlu ar unwaith yn unol â threfniadau arferol y lleoliad
- os oes gan y plentyn weithiwr cymdeithasol, dylech roi gwybod i'r gwasanaethau cymdeithasol am y digwyddiad
Mae'r siart lif yn yr adran 'Cyd-destun' yn crynhoi sut y dylai lleoliadau addysg ymateb i achosion o rannu delweddau noeth a hanner noeth.
Datgeliad
Gall datgeliadau mewn perthynas â rhannu delweddau noeth a hanner noeth ddigwydd mewn amryw o ffyrdd. Gall y plentyn neu'r person ifanc yr effeithir arno roi gwybod i athro, y DSP, neu unrhyw aelod o staff y lleoliad. Gallan nhw adrodd am y digwyddiad drwy gyfrwng strwythur adrodd sy’n bodoli, neu gall ffrind, riant neu ofalwr hysbysu rhywun yn y lleoliad, neu hysbysu’r heddlu yn uniongyrchol.
Dylai pob aelod staff (gan gynnwys staff nad ydyn nhw’n addysgu) fod yn ymwybodol o sut mae adnabod a chyfeirio unrhyw ddatgeliadau o ddigwyddiadau sy’n ymwneud â phob mater mewn perthynas ag amddiffyn plant, gan gynnwys rhannu delweddau noeth a hanner noeth. Dylid cynnwys hyn mewn hyfforddiant staff, a dylai hefyd gynnwys strategaethau codi ymwybyddiaeth o'r prosesau ymhlith plant a phobl ifanc yn y lleoliad.
Dylai unrhyw ddatgeliad gan blentyn neu berson ifanc gael ei drin yn ddifrifol iawn. Mae'n debygol y bydd yn teimlo embaras ac yn poeni am y canlyniadau, ac efallai mai dim ond pan fetho popeth arall y ceir datgeliad yn y lleoliad ar ôl ceisio datrys y mater ei hun.
Dyma ymarferiad hyfforddi y gellir ei ddefnyddio er mwyn amlygu’r materion ymysg staff.
- Gweithgaredd hyfforddiant staff pdf 133 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Y cyfarfod adolygu cychwynnol
Dylai’r cyfarfod adolygu cychwynnol ystyried y dystiolaeth gychwynnol a cheisio sefydlu:
- a oes risg uniongyrchol i blentyn neu berson ifanc
- a ddylid cyfeirio’r mater i’r heddlu neu’r gwasanaethau cymdeithasol
- pa wybodaeth arall sydd ei hangen er mwyn gallu penderfynu ar yr ymateb gorau
- pwy sydd wedi creu'r ddelwedd noeth neu hanner noeth (er enghraifft, os yw'n ddelwedd wedi’i chynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial ac wedi’i rhannu gan blentyn neu berson ifanc arall)
- a yw’r delweddau wedi cael eu rhannu’n eang a thrwy pa wasanaethau neu blatfformau (efallai na fydd hynny’n hysbys)
- unrhyw ffeithiau perthnasol am y plant neu'r bobl ifanc o dan sylw fyddai’n dylanwadu ar yr asesiad risg
- a oes angen cysylltu â lleoliad neu unigolyn arall
- a ddylid cysylltu â rhieni neu ofalwyr y plant neu'r bobl ifanc dan sylw (yn y rhan fwyaf o achosion dylid eu cynnwys)
Fel rhan o'r adolygiad cychwynnol hwn, cyfeiriwch at adran 'Gweld a dileu delweddau noeth a hanner noeth'.
Gall DSPau ddefnyddio teipoleg Finkelhor a Wolak ac Adnodd Goleuadau Traffig Ymddygiadau Rhywiol Brook (a amlinellir yn yr adran 'Gwahaniaethu rhwng ymddygiad rhywiol normal ac annormal' i helpu i gategoreiddio'r digwyddiad ac asesu ymddygiadau unrhyw blentyn neu berson ifanc dan sylw er mwyn nodi unrhyw risgiau uniongyrchol.
Dylid cyfeirio’r mater yn syth i’r heddlu neu’r gwasanaethau cymdeithasol os, yn ystod y cam cychwynnol hwn:
- yw’r digwyddiad yn ymwneud ag oedolyn. Pan fo oedolyn yn esgus bod yn blentyn er mwyn meithrin perthynas amhriodol â phlentyn neu berson ifanc, gall y digwyddiad roi’r argraff i ddechrau ei fod yn ddigwyddiad rhwng plant (gweler yr adran 'Asesu digwyddiadau sy'n ymwneud ag oedolion' am ragor o wybodaeth)
- oes yna reswm i gredu bod y plentyn neu’r person ifanc wedi cael ei gymell, ei flacmelio neu ei baratoi, neu os pryderir am allu’r person ifanc i gydsynio (er enghraifft, o ganlyniad i anghenion dysgu ychwanegol)
- yw’r hyn a wyddoch am y ddelwedd yn awgrymu bod y cynnwys yn darlunio gweithredoedd rhywiol sy’n anarferol ar gyfer cam datblygiadol y plentyn neu berson ifanc, neu sy’n dreisgar (gweler yr adran 'Asesu ymddygiad mewn digwyddiadau ieuenctid yn unig' am arweiniad)
- yw’r delweddau yn cynnwys gweithredoedd rhywiol ac mae unrhyw blentyn yn y ddelwedd o dan 13 oed
- oes gennych chi reswm i gredu bod y plentyn neu’r person ifanc yn wynebu risg uniongyrchol o niwed o ganlyniad i rannu’r ddelwedd, er enghraifft, mae’n ymddangos bod y plentyn neu’r person ifanc mewn perygl o gyflawni hunanladdiad neu hunan-niwed
Os nad yw’r un o’r uchod yn gymwys, gall lleoliad ddewis ymateb i’r digwyddiad heb gynnwys yr heddlu neu’r gwasanaethau cymdeithasol (gall lleoliad ddewis uwchgyfeirio’r digwyddiad ar unrhyw adeg os bydd mwy o wybodaeth neu bryderon yn dod i’r amlwg). O fewn lleoliadau ysgol, mae'r SCPO bob amser ar gael i roi mwy o gyngor cyffredinol os bydd angen hynny ar unrhyw adeg.
Byddai penderfyniad i ymateb i’r digwyddiad heb gynnwys yr heddlu neu’r gwasanaethau cymdeithasol yn cael ei wneud mewn achosion pan fo’r DSP yn hyderus bod ganddo ddigon o wybodaeth i asesu’r risgiau i’r plant a'r bobl ifanc dan sylw ac y gellir rheoli’r risgiau o fewn fframwaith cymorth bugeiliol a disgyblaethol y lleoliad, yn ogystal â’u rhwydwaith cymorth lleol (os yw’n briodol).
Dylai'r penderfyniad gael ei wneud gan y DSP mewn ymgynghoriad â'r pennaeth neu'r rheolwr a'r tîm arwain, gyda mewnbwn gan aelodau eraill o staff os yw'n briodol. Dylid cofnodi’r penderfyniad yn unol â pholisi’r lleoliad.
Dylai’r penderfyniad fod yn unol â pholisi a gweithdrefnau amddiffyn plant y lleoliad a dylid ei seilio ar ystyriaethau mewn perthynas â lles y plentyn neu'r person ifanc o dan sylw. Dylai hynny roi ystyriaeth i gymesuredd yn ogystal â lles ac amddiffyn y plentyn neu'r person ifanc. Dylai'r penderfyniad gael ei adolygu drwy gydol y broses o ymateb i'r digwyddiad ac ystyried barn y rhai dan sylw a'r rhieni neu’r gofalwyr. Dylai pob penderfyniad gael ei wneud fesul achos, gan ystyried materion megis a gafwyd cydsyniad i rannu delweddau a chan gyfeirio at gontinwwm Hackett. Os oes unrhyw amheuaeth, dylech gysylltu â gwasanaethau cymdeithasol plant am gyngor.
Os oes gennych chi unrhyw amheuaeth ynghylch cynnwys asiantaethau eraill ai peidio, dylech hysbysu'r heddlu.
Sut i hysbysu'r heddlu am gynnwys ar-lein
Os bydd angen hysbysu'r heddlu, dylid cysylltu yn unol â’r trefniadau sy’n bodoli. Gall hyn ddigwydd drwy'r SCPO, drwy'r MASH neu'r hyn sy'n cyfateb iddo, neu drwy ffonio 101 neu 999 (lle mae bywyd yn y fantol).
Mae'n bwysig nad ydych chi’n gofyn i neb anfon unrhyw ddelweddau na fideos atoch ac nad ydych chi’n anfon unrhyw ddelweddau na fideos drwy dechnoleg eich hun, hyd yn oed i'r heddlu.
Os byddwch chi’n amau bod delweddau, sgyrsiau neu hanes gwefannau ar unrhyw ddyfais sy'n perthyn i'r plentyn ni ddylech ddileu unrhyw beth ar y ddyfais. Mae angen i'r ddyfais gael ei hatafaelu a'i chadw fel yr oedd. Nodwch unrhyw rif PIN neu fanylion agor y ddyfais lle y bo modd fel y gall yr heddlu ei harchwilio mewn unrhyw ymchwiliad.
Yr hyn i fod yn ymwybodol ohono wrth adrodd am ddigwyddiadau i’r heddlu
Ni all yr heddlu gynnig cyngor cyffredinol ar ddigwyddiadau. Os enwir y plentyn neu'r plant dan sylw neu os darperir manylion, mae’n ddyletswydd arnyn nhw i gofnodi ac ymchwilio i bob gweithgaredd troseddol yr adroddir amdanyn nhw. Wrth adrodd am ddigwyddiad drwy’r gwasanaeth 101, byddwch yn ymwybodol bod y person sy’n ateb yr alwad yn rhywun sy’n delio â galwadau yn ymwneud ag amrywiaeth eang o droseddau, ac efallai na fydd ganddo wybodaeth arbenigol yn y maes hwn. Sicrhewch fod unrhyw gyfeirnodau trosedd a ddarperir yn cael eu cofnodi. Mae SCPOau yn gallu cynnig cymorth uniongyrchol i ysgolion ar atal, a chyngor ar reoli digwyddiadau.
Asesu’r risgiau
Gall amgylchiadau digwyddiadau amrywio’n fawr. Os penderfynwyd yn ystod y cam adolygu cychwynnol i beidio â chyfeirio’r mater i’r heddlu neu’r gwasanaethau cymdeithasol, dylai’r DSP gynnal adolygiad arall (gan gynnwys cyfweliad â’r plant neu’r bobl ifanc o dan sylw) er mwyn sefydlu’r ffeithiau ac asesu’r risgiau.
Wrth asesu’r risgiau, dylid ystyried y canlynol.
- Pam y rhannwyd y ddelwedd noeth neu hanner noeth? A gymhellwyd y plentyn neu'r person ifanc neu a roddwyd y plentyn neu'r person ifanc o dan bwysau?
- A yw’r ddelwedd noeth neu hanner noeth wedi cael ei rhannu’n fwy eang nag i’r un y bwriadwyd iddo ei derbyn? A rannwyd y ddelwedd heb gydsyniad y plentyn neu'r person ifanc a gynhyrchodd y ddelwedd noeth neu hanner noeth?
- A rannwyd y ddelwedd ar y cyfryngau cymdeithasol neu’n unrhyw le arall ar-lein? Os digwyddodd hynny, pa gamau a gymerwyd i gyfyngu ar ledaenu’r ddelwedd?
- Beth yw oedran unrhyw blant neu bobl ifanc dan sylw?
- A fu i’r plentyn neu'r person ifanc anfon y ddelwedd i fwy nag un person?
- A oes gennych chi unrhyw bryderon am y ffaith bod y plentyn neu'r person ifanc yn agored i niwed?
- A oes pryderon ychwanegol am hysbysu'r rhieni neu’r gofalwyr?
Dylai DSPau bob amser ddefnyddio eu barn broffesiynol mewn cydweithrediad â’u cydweithwyr er mwyn asesu’r digwyddiadau.
Mae'r ddogfen canlynol yn cynnwys rhestr o gwestiynau er mwyn ategu a chynorthwyo barn broffesiynol DSPau.
- Cwestiynau i gefnogi asesiad pdf 95 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Astudiaethau achos
Astudiaeth achos A: Plant a phobl ifanc 13 i 18 oed
Pryder
Roedd bachgen a merch, ill dau yn 16 oed, mewn perthynas dros y mis diwethaf a chydsyniodd y ddau i recordio eu hunain yn cyflawni gweithgaredd rhywiol. Ers hynny mae'r bachgen wedi dangos y fideo i ddysgwyr eraill. Daeth ffrindiau'r ferch i wybod am hyn, yna dywedodd ei ffrindiau wrth eu hathro blwyddyn a siaradodd â DSP y lleoliad.
Ymateb y lleoliad
- Bu i’r DSP siarad â’r ferch ac yna’r bachgen. Nid oedd yna unrhyw bryderon mewn perthynas â diogelu ynghylch y naill dysgwr na’r llall. Nid oedd dim tystiolaeth bod y fideo wedi cael ei rannu gan y bachgen a chynigodd ei ddileu oddi ar ei ddyfais.
- Er na chafodd ei rannu ar-lein, gwnaeth y bachgen gyfaddef iddo ddangos y fideo i rai o'i ffrindiau heb gydsyniad ei gariad, a wnaeth beri embaras iddi.
- Rhoddodd y DSP wybodaeth i'r ferch am wasanaethau cymorth a oedd ar gael, a chynghorodd y ddau berson ifanc am effaith bosibl creu a rhannu delweddau a fideos rhywiol, yn droseddol ac yn emosiynol.
- Gan na wnaeth yr holl bobl ifanc dan sylw gydsynio, gan gynnwys y rhai a welwyd yn y fideo, cymerwyd camau disgyblu yn erbyn y bachgen. Ystyriwyd ei bod hi'n briodol ymdrin â'r mater 'yn fewnol' oherwydd barnwyd nad oedd unrhyw fwriad i achosi niwed ac y byddai addysgu'r rhai dan sylw am gydsynio a chydberthnasau iach yn ffordd fwy effeithiol o ymdrin â'r digwyddiad.
- Gweithiodd y DSP gyda’r ddau ddysgwr i’w helpu i benderfynu ar gynllun cytunedig ar gyfer hysbysu rhieni'r dysgwyr. Bu i'r DSP gofnodi’r digwyddiad, yn ogystal â’r camau a gymerwyd, yn ei gofnodion diogelu.
Astudiaeth achos B: Plant o dan 13 oed
Pryder
Gwnaeth dysgwr â rhai anawsterau dysgu (merch 12 oed) ddweud wrth ei hathro ei bod wedi anfon llun ohoni ei hun yn ei dillad isaf at gyd-ddysgwr (bachgen 12 oed) fisoedd ynghynt, ond ei bod hi bellach yn cael ei blacmelio gan rywun ar Snapchat i anfon llun noeth ohoni ei hun at y person hwn neu byddai'n rhyddhau'r llun cyntaf ar-lein ac yn ei anfon at ei theulu.
Ymateb y lleoliad
- Nid oedd gan yr ysgol unrhyw bryderon diogelu eraill ynghylch y plant na’u teuluoedd. Cyfeiriodd yr athro y digwyddiad at DSP yr ysgol a wnaeth siarad â’r dysgwyr dan sylw a’u rhieni, a rhoi cyngor iddyn nhw ynghylch y sefyllfa a’r canlyniadau posibl, gan gynnwys cyfeirio i’r heddlu a’r gwasanaethau cymdeithasol.
- Yn ystod cyfweliadau'r DSP, cadarnhawyd na ofynnwyd i'r ferch am y ddelwedd ac na chafodd ei rhoi dan bwysau na'i chymell i'w hanfon. Gwadodd y bachgen a dderbyniodd y ddelwedd wreiddiol iddo ei rhannu'n ehangach, a gwadodd ei fod yn gwybod unrhyw beth am y defnyddiwr Snapchat.
- Ceisiodd y DSP gyngor gan yr SCPO a thîm diogelu addysg yr awdurdod lleol. Am fod y ferch yn agored i niwed, atgyfeiriwyd y mater i’r gwasanaethau cymdeithasol oherwydd, er nad oedd rheswm i bryderu efallai, tybiwyd ei bod hi'n bwysig deall pam ei bod hi'n ymddwyn fel hyn.
- Cynhaliodd yr SCPO ymchwiliad, a wnaeth gynnwys cysylltu â Snapchat. Anfonodd y cwmni ddisg wedi'i hamgryptio a oedd yn cynnwys y negeseuon a anfonwyd gan y defnyddiwr. Roedd y ddisg yn cynnwys delweddau o blant noeth a'r llun o'r ferch yn ei dillad isaf.
- Ar ôl cynnal ymchwiliad, datgelodd y cyfeiriad IP fod y defnyddiwr yn byw yn neorllewin Lloegr a chafodd yr achos ei drosglwyddo i'r tîm ymchwilio i bedoffilia ar-lein yn yr ardal. Arestiwyd unigolyn yn dilyn hyn, er nad yw'n hysbys sut y cafodd afael ar y ddelwedd.
- Yn ystod y cyfnod hwn, cadwodd yr SCPO mewn cysylltiad â'r ferch a'i rhieni er mwyn darparu gwybodaeth, tawelwch meddwl a chymorth.
- Bu i’r ysgol gofnodi’r digwyddiad yn ogystal â’r camau a gymerwyd yng nghofnodion diogelu’r plant.
Cefnogi'r plant neu'r pobl ifanc dan sylw
Ar ôl asesu nad yw plentyn neu berson ifanc yn wynebu risg uniongyrchol, efallai y bydd angen cael sgwrs gydag ef a phenderfynu ar y camau gorau i’w cymryd. Os yw’n bosibl, dylai’r DSP gynnal y sgwrs hon. Fodd bynnag, os bydd y plentyn neu'r person ifanc yn teimlo’n fwy cyfforddus yn siarad ag aelod arall o’r staff, dylid hwyluso hynny pan fo’n bosibl. Mae'n bwysig bod y plentyn neu'r person ifanc yn cael rhywfaint o reolaeth o'r broses adrodd.
Pwrpas y sgwrs hon yw:
- canfod, heb edrych, beth mae’r ddelwedd noeth neu hanner noeth yn ei gynnwys, ac a oes unrhyw un arall yn gysylltiedig
- gweld a yw'r ddelwedd noeth neu hanner noeth wedi cael ei rhannu rhwng 2 berson neu ei rhannu ymhellach (gall yr wybodaeth hon fod yn dybiannol oherwydd gall fod delweddau wedi'u rhannu'n ehangach na'r hyn mae'r plentyn neu'r person ifanc yn ymwybodol ohono)
- trafod pa gamau a chymorth y gall fod eu hangen, gan gynnwys atal dosbarthiad pellach. (dylai'r drafodaeth hon ystyried safbwyntiau'r plentyn neu'r person ifanc a chydbwyso'r hyn a ystyrir yn gamau priodol mewn ymateb i'r digwyddiad)
Wrth drafod rhannu delweddau noeth a hanner noeth, mae'n bwysig bod y DSP (neu unigolyn cyfatebol) yn ystyried safbwynt y plentyn neu'r person ifanc.
Gweler astudiaethau achos yr NSPCC a all gefnogi gyda hyn.
- Astudiaethau achos NSPCC pdf 75 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Er y bydd hyn yn amrywio o un achos i'r llall, mae'n bwysig cofio y bydd bod yn rhan o unrhyw ymchwiliad neu drafod digwyddiad yn peri gofid i blentyn neu berson ifanc. Er mwyn helpu i leihau a rheoli unrhyw ofid a brofir gan y plentyn neu'r person ifanc, mae'n bwysig bod y DSP (neu unigolyn cyfatebol) yn gwneud y canlynol:
- sicrhau’r plentyn neu'r person ifanc nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain ac y bydd y lleoliad addysg yn gwneud popeth o fewn ei allu i’w helpu a’i gynorthwyo. Dylid hefyd roi sicrwydd y cân nhw yr wybodaeth ddiweddaraf drwy gydol y broses
- cydnabod y pwysau all fod ar blant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn rhannu delwedd o’r fath, ac os yw’n berthnasol, cynorthwyo eu rhieni neu ofalwyr i ddeall y materion ehangach a’r cymhelliannau sy’n gysylltiedig â hyn
- parhau i ganolbwyntio ar ddatrysiad ac yn osgoi cwestiynau sy'n beio'r dioddefwr megis ‘pam wyt ti wedi gwneud hyn?’ oherwydd gallai hynny atal y plentyn neu'r person ifanc rhag siarad am beth sydd wedi digwydd (er enghraifft, defnyddiwch gwestiynau megis 'disgrifia beth ddigwyddodd' neu 'eglura pwy oedd yn rhan o hyn')
- helpu’r plentyn neu'r person ifanc i ddeall beth sydd wedi digwydd drwy drafod y pwysau ehangach mae’n ei deimlo efallai a chymhellion y person a rannodd y ddelwedd
- mewn achos o ddelwedd noeth neu hanner noeth o’r plentyn neu berson ifanc yn cael ei chynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial neu ei thrin yn ddigidol a'i rhannu ag eraill, mae angen eu sicrhau y bydd y digwyddiad yn cael ei drin yn yr un ffordd ag unrhyw ddigwyddiad arall
- trafod materion cydsynio ac ymddiriedaeth mewn cydberthnasau iach. Egluro wrth y plant neu bobl ifanc nad yw’n iawn i rywun wneud iddyn nhw deimlo’n annifyr, i’w rhoi dan bwysau i wneud pethau nad ydyn nhw eisiau eu gwneud, neu ddangos pethau iddyn nhw y maen nhw’n anhapus yn eu cylch (gadael iddyn nhw wybod y gallan nhw siarad â’r DSP os bydd hynny byth yn digwydd)
- egluro'r gyfraith ar rannu delweddau noeth a hanner noeth (mae'n bwysig tanlinellu'r ffaith bod y gyfraith yno i amddiffyn plant a phobl ifanc yn hytrach na'u troseddoli; dylai hyn gael ei egluro mewn ffordd sy'n osgoi codi ofn arnyn nhw neu wneud iddyn nhw ofidio)
- cyfeirio (os oes angen) at wasanaethau cymorth sydd ar gael, er enghraifft os byddan nhw am siarad â gweithiwr proffesiynol yn ddienw neu i roi gwybod am ddelwedd sydd wedi'i rhannu ar-lein
Yn achos plant a phobl ifanc y mae eu delwedd noeth neu hanner noeth wedi cael ei rhannu'n gyhoeddus, mae'n bwysig bod y DSP (neu unigolyn cyfatebol) yn eu sicrhau eu bod wedi gwneud y peth iawn drwy siarad ag oedolyn ac yn eu cynghori:
- i ddileu delweddau o gyfrifon cyfryngau cymdeithasol (gan gynnwys copïau wrth gefn o luniau ar y cwmwl) os ydyn nhw wedi eu lanlwytho eu hunain
- defnyddio'r Internet Watch Foundation (IWF) a Childline Adroddiad Dileu offeryn a Take It Down NCMEC (rhaid gwneud hyn cyn gynted â phosibl er mwyn lleihau nifer y bobl sy'n gweld y ddelwedd)
- ar sut mae adrodd am ddelweddau noeth neu hanner noeth ar safleoedd unigol er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu dileu (os bydd delwedd wedi cael ei rhannu drwy gyfrwng ffôn symudol, dylid eu hysbysu y gallan nhw gysylltu â’r gweithredwr ffonau symudol er mwyn newid rhif ffôn symudol gan y gallai hyn atal eraill rhag cysylltu â nhw
- i siarad â'r lleoliad os byddan nhw’n pryderu am unrhyw fwlio
Yn achos plant a phobl ifanc y mae delwedd noeth neu hanner noeth wedi cael ei hanfon atyn nhw, mae'n bwysig bod y DSP yn gwneud y canlynol:
- eu sicrhau eu bod wedi gwneud y peth iawn drwy siarad â rhywun, a bod y lleoliad addysg ac oedolion eraill yna i helpu
- gofyn a gafodd ei hanfon gan oedolyn neu blentyn neu berson ifanc arall, ac a wnaethan nhw ofyn am y llun ai peidio
- eu cynghori ynghylch pwysigrwydd adrodd amdani ar-lein os yw eisoes wedi’i rhannu, ac y dylid eu dileu o’u dyfeisiau a’u cyfrifon
- eu cynghori ynghylch pwysigrwydd peidio â rhannu’r ddelwedd ymhellach ac (os bu iddyn nhw ofyn am y ddelwedd) na ddylen nhw roi pwysau ar bobl eraill i wneud pethau nad ydyn nhw’n gyfforddus yn eu gwneud
Yn achos plant a phobl ifanc sydd wedi rhannu delwedd noeth neu hanner noeth o blentyn neu berson ifanc arall, mae'n bwysig bod y DSP yn gwneud y canlynol:
- gofyn a wnaethan nhw ofyn am y ddelwedd neu a dderbyniwyd y ddelwedd ar y cychwyn heb ofyn amdani
- gofyn at bwy yr anfonwyd y ddelwedd ac ym mhle mae wedi cael ei rhannu
- cytuno ar y camau nesaf er mwyn dileu’r ddelwedd, gan gynnwys dileu’r ddelwedd oddi ar ffôn y plentyn neu'r person ifanc neu unrhyw gyfrif cyfrwng cymdeithasol sydd ganddo a rhoi gwybod i ddarparwyr gwasanaethau
- holi beth oedd eu cymhellion i rannu’r llun a thrafod beth allan nhw fod wedi ei wneud yn wahanol
- siaradwch am sut gellid bod wedi rheoli eu teimladau mewn ffordd iachach a mwy cadarnhaol (os ydyn nhw wedi ymateb i ddigwyddiad trallodus, megis tor perthynas, drwy rannu’r llun)
- pwysleisio, beth bynnag fo'r rheswm, ei bod hi bob amser yn anghywir rhannu delweddau o blentyn neu berson ifanc arall yn noeth ac yn hanner noeth. Gellir achub ar y cyfle i drafod pwysigrwydd cydsynio a pheidio â rhoi pwysau ar eraill i greu neu rannu delweddau noeth a hanner noeth
- cynghori ar y gyfraith ar rannu delweddau noeth a hanner noeth
Yn achos plant a phobl ifanc sydd wedi creu a rhannu delwedd noeth neu hanner noeth o blentyn neu berson ifanc arall, mae’n bwysig bod y DSP (neu unigolyn cyfatebol) yn:
- gofyn y cwestiwn o ran at bwy mae'r ddelwedd wedi cael ei hanfon a lle mae wedi cael ei rhannu
- cytuno ar y camau nesaf ar gyfer tynnu'r ddelwedd i lawr, gan gynnwys dileu'r ddelwedd o ffôn neu unrhyw gyfrifon cyfryngau cymdeithasol sydd gan y plentyn neu'r person ifanc ac unrhyw le arall mae wedi'i phostio ar-lein fel sgyrsiau grŵp, a rhoi gwybod i wasanaethau a phlatfformau ar-lein
- gofyn beth oedd wedi eu cymell i greu a rhannu'r llun a thrafod yr hyn y gallen nhw fod wedi'i wneud yn wahanol (os ydyn nhw wedi ymateb i ddigwyddiad sy’n peri gofid, fel perthynas yn chwalu, trwy greu neu anfon y llun ymlaen, siaradwch am sut y gallen nhw fod wedi rheoli eu teimladau mewn ffordd iachach a mwy cadarnhaol)
- beth bynnag yw'r rheswm, pwysleisio ei bod bob amser yn anghywir rhannu delwedd noeth neu hanner noeth o blentyn neu berson ifanc arall (gallai hwn fod yn gyfle i drafod pwysigrwydd cydsyniad a bod hynny’n dal yn berthnasol pan fo’r ddelwedd noeth neu hanner noeth wedi’i chreu gan rywun arall sydd ddim yn y ddelwedd ei hun)
- cynghori ar y gyfraith o ran rhannu delweddau noeth a hanner noeth a’r ffordd y mae’n dal i fod yn berthnasol i ddelweddau o blant a phobl ifanc eraill sydd wedi’u trin yn ddigidol neu sydd wedi’u cynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial
Hysbysu rhieni neu ofalwyr
Dylid hysbysu rhieni neu ofalwyr a’u cynnwys yn gynnar yn y broses, oni bai y byddai eu hysbysu yn golygu y byddai’r person ifanc yn wynebu risg o niwed. Os bydd unrhyw reswm dros gredu y gallai hysbysu rhiant neu ofalwr beri trallod i'r plentyn neu ei niweidio, dylai'r mater gael ei gyfeirio at y gwasanaethau cymdeithasol i'w ystyried.
Gall y DSP weithio gyda’r bobl ifanc dan sylw er mwyn penderfynu ar y ffordd orau o hysbysu rhieni neu ofalwyr. Mewn rhai achosion, gall y DSP weithio ar gynorthwyo’r plentyn neu'r person ifanc i hysbysu eu rhieni neu ofalwyr eu hunain.
Rhoddir rhagor o gyngor a gwybodaeth am gynnwys rhieni neu ofalwyr yn yr adran 'Cefnogi rhieni a gofalwyr'.
Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol ac atgyfeiriadau
Os bydd y DSP yn ymwybodol bod y gwasanaethau cymdeithasol yn ymwneud ar hyn o bryd â pherson ifanc sydd wedi ei gysylltu â digwyddiad o rannu delweddau noeth a hanner noeth, dylen nhw gysylltu â swyddog dyletswydd y gwasanaethau cymdeithasol. Dylen nhw hefyd gysylltu â gwasanaethau cymdeithasol plant os ydyn nhw’n credu eu bod wedi bod yn gysylltiedig, neu wedi bod yn gysylltiedig â pherson ifanc yn y gorffennol.
Os yw’r DSP, o ganlyniad i ymchwiliad, yn credu bod yna faterion ehangach yn bodoli sy’n cyrraedd y trothwy ar gyfer cynnwys y gwasanaethau cyhoeddus, dylen nhw atgyfeirio yn unol â’u gweithdrefnau amddiffyn plant.
Dylai DSP sicrhau eu bod yn ymwybodol o, ac yn gyfarwydd ag, unrhyw bolisïau a gweithdrefnau perthnasol a phwyntiau neu enwau cyswllt sydd ar gael ar gyfer cynorthwyo lleoliadau o ran ymateb i rannu delweddau noeth neu hanner noeth.
Os oes gan ardal leol MASH, gall hwnnw fod y man mwyaf priodol i leoliadau atgyfeirio
Gweld a dileu delweddau noeth a hanner noeth
Ni ddylai oedolion edrych ar ddelweddau noeth neu hanner noeth. Pryd bynnag fo hynny’n bosibl, dylai ymatebion i ddigwyddiadau fod yn seiliedig ar beth a ddywedwyd wrth y DSP am gynnwys y ddelwedd.
Os bydd delweddau noeth a hanner noeth wedi cael eu gweld gan aelod staff, ac nad oedd modd osgoi hynny, naill ai’n dilyn datgeliad gan berson ifanc neu o ganlyniad i aelod staff yn ymgymryd â’i rôl ddyddiol (megis staff TG yn monitro systemau) dylai’r DSP sicrhau bod yr aelod hwnnw o staff yn derbyn cymorth priodol. Gall gweld delweddau o'r fath fod yn brofiad trallodus i blant a phobl ifanc ac oedolion ac efallai y bydd angen cymorth emosiynol priodol.
Os yw’r lleoliad wedi penderfynu nad oes angen cynnwys asiantaethau eraill a bod hynny’n rhesymol, dylid ystyried dileu'r ddelwedd neu'r delweddau oddi ar ddyfeisiau yn ogystal ag unrhyw ddelwedd(au) a gaiff ei/eu storio ar wasanaethau storio cwmwl, yn unol â pholisi ymddygiad y lleoliad, er mwyn atal y ddelwedd neu'r delweddau rhag cael ei/eu rhannu ymhellach.
Argymhellir yn y rhan fwyaf o achosion y gofynnir i blant a phobl ifanc ddileu delwedd(au) ac i gadarnhau eu bod wedi gwneud hynny. Dylid rhoi terfyn amser i blant a phobl ifanc ddileu delweddau ar eu holl ddyfeisiau, storfeydd ar-lein neu wefannau cyfryngau cymdeithasol. Efallai y bydd pobl ifanc angen cymorth wrth adrodd am ddelweddau. I gael cyngor a gwybodaeth am adrodd am ddelweddau gweler 'Adrodd am ddelweddau noeth a hanner noeth ar-lein'.
Dylid atgoffa plant a phobl ifanc bod meddu ar ddelweddau noeth a hanner noeth o unrhyw un o dan 18 oed yn anghyfreithlon. Dylid eu hysbysu os byddant yn gwrthod neu os canfyddir yn ddiweddarach nad ydynt wedi dileu’r delweddau, eu bod yn cyflawni trosedd ac y gellir cyfeirio’r mater i’r heddlu. Mae angen cofnodi’r holl benderfyniadau hyn, gan gynnwys amseroedd, dyddiadau a rhesymau dros benderfyniadau a wneir a’u logio yn y cofnodion diogelu. Dylid cofnodi unrhyw ddatganiadau gan y plentyn neu'r person ifanc yn eu geiriau eu hunain. Dylid hefyd hysbysu rhieni a gofalwyr oni bai fod hynny yn achosi mwy o risg i’r plentyn neu'r person ifanc.
Ar y pwynt hwn, dylai lleoliadau gymryd eu camau eu hunain er mwyn addysgu plant a phobl ifanc am y materion sydd ynghlwm wrth rannu, creu neu dderbyn delweddau, ond mae hynny’n ddibynnol ar ddisgresiwn y lleoliad a dylai hynny fod yn unol â’i bolisïau ymddygiad ei hun.
Dylai lleoliadau weithredu’n unol â’u polisi ar feddiannu eitemau dysgwyr, gan gynnwys dyfeisiau digidol, fel y nodir yn eu polisi ymddygiad.
Cofnodi digwyddiadau
Bydd angen i'r DSP gofnodi pob achos o rannu delweddau noeth a hanner noeth a chadw hyn ar wahân i gofnodion eraill ar gyfer y plant a'r bobl ifanc yn y lleoliad. Mae hyn yn cynnwys digwyddiadau a atgyfeiriwyd i asiantaethau allanol a rhai na atgyfeiriwyd. Yn achos digwyddiadau nad yw'r heddlu na'r gwasanaethau cymdeithasol wedi cael gwybod amdanyn nhw, dylai lleoliadau addysg gofnodi eu rheswm dros hynny a sicrhau bod y pennaeth, neu’r rheolwr neu dîm arwain y lleoliad, yn cymeradwyo hynny.
Adrodd am ddelweddau noeth a hanner noeth ar-lein
Efallai y bydd angen help a chymorth ar blant a phobl ifanc wrth ddileu delweddau noeth a hanner noeth oddi ar ddyfeisiau a’r cyfryngau cymdeithasol, yn arbennig os byddan nhw’n anhapus. Mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr ar-lein yn cynnig cyfleuster adrodd i ddeiliaid cyfrifon, ac mae rhai yn cynnig cyfleuster adrodd cyhoeddus er mwyn galluogi trydydd parti i adrodd ar ran plentyn neu berson ifanc. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefannau, platfformau neu apiau darparwyr unigol, le dylen nhw gyhoeddi eu Telerau Gwasanaeth a'u proses ar gyfer adrodd.
Y ffordd gyflymaf o dynnu cynnwys oddi ar y rhyngrwyd yw i’r person â’i postiodd ei dynnu i lawr. Os bu i’r plentyn neu'r person ifanc bostio’r cynnwys eu hunain gan ddefnyddio ei gyfrif, dylid gofyn iddo fewngofnodi a’i ddileu. Os bu i rywun arall bostio’r ddelwedd neu ailbostio’r ddelwedd, dylid gofyn iddo fewngofnodi a’i dileu oddi ar unrhyw gwefannau mae wedi ei phostio arnyn nhw.
Os yw’r lleoliad yn gwybod ble mae’r cynnwys yn cael ei westeio ond nad yw’n gwybod pwy a’i postiodd, neu bod y sawl a’i postiodd yn gwrthod ei dileu, gellir adrodd am y cynnwys i wasanaeth ar-lein. Os bydd yn torri telerau gwasanaeth y safle, bydd yn cael ei ddileu. Bydd gan bob darparwr ymagwedd wahanol tuag at ddelio â cheisiadau i ddileu cynnwys a bydd cyflymder yr ymateb yn amrywio. Gellir cael rhagor o wybodaeth ar wefannau darparwyr unigol ble dylen nhw fod yn cyhoeddi eu Telerau Gwasanaeth a’r broses adrodd. Nid yw’r rhan fwyaf o’r prif ddarparwyr yn caniatáu cynnwys noeth neu rywiol. Mae delweddau rhywiol o blant neu bobl ifanc yn anghyfreithlon, ac ni ddylai unrhyw ddarparwyr eu gwesteio.
Mae'r canllawiau 'Bydd wybodus', sydd yn cynnwys gwybodaeth am osodiadau diogelwch ar gyfer rhai o'r apiau mwyaf poblogaidd ymysg plant heddiw ar gael yn ardal ‘Cadw'n ddiogel ar-lein’ Hwb.
Os na fydd gan safle gyfleuster adrodd, ac os yw’r cynnwys yn ddelwedd rywiol o rywun dan 18 oed, gallwch adrodd i'r IWF. Gall unrhyw un adrodd yn uniongyrchol i’r IWF. Gall plant a phobl ifanc ddefnyddio adnodd IWF a Childline Report Remove i adrodd am ddelweddau, fideos a URLau noeth a hanner noeth yn gyfrinachol. Mae'r adnodd yn eu helpu i weld a yw'n bosibl tynnu'r ddelwedd i lawr. Rhaid gwneud hyn cyn gynted â phosibl er mwyn lleihau nifer y bobl sydd wedi gweld y llun.
Caiff delweddau eu dileu os byddan nhw’n bodloni'r trothwy cyfreithiol ar gyfer gwneud hynny. Rhaid i'r ddelwedd neu'r fideo o leiaf ddangos person o dan 18 oed yn noeth neu'n hanner noeth. Caiff pob achos y cyflwynir adroddiad amdano ei asesu gan ddadansoddwyr IWF sydd wedi cael eu hyfforddi'n ofalus. Mae eu hasesiadau yn gywir ac mae'r heddlu a'r diwydiant rhyngrwyd ledled y byd yn ymddiried ynddyn nhw. Mae dadansoddwyr IWF yn defnyddio technoleg sy’n cynhyrchu gwerthoedd clwyd (hashing) i gynhyrchu ôl-bys digidol o'r ddelwedd a'i dracio i leoliadau eraill ar y we. Gall y ddelwedd gael ei thracio a'i dileu hyd yn oed os bydd wedi cael ei thocio neu ei golygu ychydig. Gall y dechnoleg hon hefyd atal y ddelwedd rhag ymddangos mewn canlyniadau chwilio neu gael ei lanlwytho i'r we yn y dyfodol.
Gall plant a phobl ifanc hefyd ddefnyddio Take It Down, gwasanaeth tebyg i Report Remove, ond gydag ychydig o wahaniaethau. Mae Report Remove yn wasanaeth cyfrinachol yn hytrach nag anhysbys gan y gall Childline ddarparu cyngor a chymorth os yw'r person ifanc eisiau hynny, ond nid yw'n cadw’r delweddau. Mae'r IWF yn derbyn y ddelwedd ac ni fydd yr IWF byth yn cael gwybod enw na manylion cyswllt y person ifanc, ond bydd yn gweithio i asesu'r ddelwedd yn erbyn cyfraith y DU, a chreu hash i'w roi i ddiwydiant. Mae Take It Down yn wasanaeth dienw ac mae'n adnodd a ddarperir gan y National Center for Missing and Exploited Children (sefydliad amddiffyn plant Americanaidd), i helpu i gael gwared ar ddelweddau noeth a hanner noeth y mae pobl ifanc yn credu sydd wedi eu rhannu ar-lein neu y gellid eu rhannu ar-lein. Mae'r wefan wedi cyhoeddi platfformau ar-lein sy'n cymryd rhan (Saesneg yn unig) ac sydd wedi cytuno i ddefnyddio'r rhestr hash Take It Down i sganio am ddelweddau a fideos ar eu platfformau cyhoeddus a phlatfformau heb eu hamgryptio. Drwy ddewis y ddelwedd noeth neu hanner noeth ar ddyfais, bydd yr adnodd yn cynhyrchu 'hash' neu olion bysedd digidol y gellir eu defnyddio gan blatfformau ar-lein fel Snapchat, TikTok ac Instagram i nodi union gopïau o'r delweddau neu'r fideos hynny. Gellir defnyddio'r gwasanaeth hyd yn oed os yw'r plentyn neu'r person ifanc yn ansicr a yw delwedd wedi'i rhannu.
Os ydych chi’n pryderu bod plentyn neu berson ifanc yn cael ei gam-drin yn rhywiol, bod rhywun yn meithrin perthynas amhriodol ag ef ar-lein, neu fod rhywun yn camfanteisio arno, dylech gysylltu ag uned reoli Camfanteisio ar Blant a'u Hamddiffyn Ar-lein yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA-CEOP) (Saesneg yn unig).
Cefnogi rhieni a gofalwyr
Gall plant a phobl ifanc ymwneud â rhannu delweddau noeth a hanner noeth mewn nifer o wahanol ffyrdd. Efallai y byddan nhw’n colli rheolaeth o'u delwedd eu hunain, yn cael delwedd o rywun arall neu'n rhannu delwedd o rywun arall. Beth bynnag fo'r sefyllfa, gall rhieni a gofalwyr ei chael hi'n anodd gwybod sut i fynd i'r afael â'r ffaith bod eu plentyn wedi bod ynghlwm wrth ddigwyddiad a gall eu hemosiynau amrywio.
Beth bynnag fo’u teimladau, mae’n bwysig bod pobl broffesiynol yn gwrando ar eu pryderon ac yn eu trin o ddifri. Hefyd, gall fod yn fuddiol i aelodau o staff a’r heddlu neu ofal cymdeithasol roi sicrwydd i rieni a gofalwyr drwy egluro ei bod yn normal i bobl ifanc fod yn chwilfrydig ynghylch rhyw.
Ym mhob sefyllfa, dylai rhieni a gofalwyr:
- gael eu cefnogi i ddelio â'u teimladau eu hunain o ofid neu bryder, gan gynnwys eu cyfeirio at adnoddau pellach a all eu helpu i ddeall achosion o rannu delweddau noeth a hanner noeth, neu wasanaethau cymorth y gallan nhw gysylltu â nhw, lle y bo'n briodol
- cael cymorth ar sut i siarad â'u plentyn am y digwyddiad
- derbyn cyngor ar y gyfraith mewn perthynas â rhannu delweddau noeth a hanner noeth
- eu diweddaru am unrhyw gamau a gymerwyd neu unrhyw gymorth a roddir i’w plentyn oni bai fod y plentyn dan sylw wedi gofyn yn benodol am i hynny beidio â digwydd ac y bernir ei fod yn ddigon hen i wneud y penderfyniad hwnnw ar sail gwybodaeth
- eu hysbysu am ffynonellau cymorth i’w plentyn, rhag ofn eu bod yn teimlo’n anniddig neu’n isel ynghylch beth sydd wedi digwydd (gallai hynny gynnwys siarad â chynghorydd Childline, gwasanaethau cwnsela mewnol ble mae hynny ar gael, neu feddyg teulu). Os ydyn nhw’n pryderu bod eu plentyn yn ystyried hunanladdiad, dylen nhw ffonio 999
- eu cynghori i siarad â'r lleoliad am unrhyw achosion o fwlio sy'n gysylltiedig â'r sefyllfa yn unol â'r polisi gwrth-fwlio
- eu cyfeirio at NCA-CEOP os bydd y plentyn neu'r person ifanc yn datgelu unrhyw fanylion pellach a all awgrymu bod rhywun yn meithrin perthynas amhriodol ag ef neu fod rhywun yn camfanteisio arno'n rhywiol
Yn ogystal â'r cyngor uchod, dylai rhieni a gofalwyr gael y cyngor a'r arweiniad canlynol ar gyfer senarios penodol.
Dylai rhieni a gofalwyr plentyn sydd wedi colli rheolaeth ar ddelweddau noeth a hanner noeth:
- gael cyfarwyddyd i annog y plentyn neu’r person ifanc i ddileu’r delweddau oddi ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol, os yw wedi eu lanlwytho nhw ei hun
- cael eu cyfeirio at adnodd IWF a Childline Report Remove. Mae’n rhaid gwneud hynny mor fuan â phosibl er mwyn lleihau nifer y bobl sydd wedi gweld y llun
Dylai rhieni a gofalwyr plentyn sydd wedi derbyn delweddau noeth a hanner noeth gael eu cynghori i:
- wrando ar bryderon eu plentyn, heb feirniadu ei benderfyniadau
- ystyried ffyrdd y gallai eu plentyn siarad â’r un a anfonodd y llun er mwyn stopio cyfathrebiadau yn y dyfodol (neu, os byddai’n well gan y plentyn neu'r person ifanc, rhoi gwybod iddo sut mae blocio’r person a anfonodd y llun)
- trafod materion cydsynio ac ymddiriedaeth mewn cydberthnasau iach, ac egluro nad yw’n iawn i rywun wneud iddo deimlo’n annifyr, i’w roi dan bwysau i wneud pethau nad yw eisiau eu gwneud, neu ddangos pethau iddo y mae’n anhapus yn ei gylch ac y gallan nhw siarad allan os bydd hynny byth yn digwydd
Dylai rhieni a gofalwyr plentyn sydd wedi creu neu rannu delwedd o blentyn arall gael eu cynghori i:
- beidio â chynhyrfu, a pheidio â gwylltio â’r plentyn
- gofyn i bwy yr anfonwyd y ddelwedd ac ym mhle mae wedi cael ei rhannu
- cytuno ar y camau nesaf er mwyn dileu’r ddelwedd, gan gynnwys dileu’r ddelwedd oddi ar eu ffôn neu unrhyw gyfrif cyfrwng cymdeithasol ac adrodd i ddarparwyr gwasanaethau
- nodi a ofynnodd y plentyn am y llun neu a dderbyniwyd y llun ar y cychwyn heb ofyn amdano
- trafod materion cydsynio ac ymddiriedaeth mewn cydberthnasau iach neu gyfeillgarwch
- siarad am y math o bethau sy’n briodol ac yn amhriodol i’w rhannu, a sut y bydden nhw’n teimlo petai rhywun yn rhannu llun personol ohonyn nhw (os bydd y plentyn wedi gofyn am y llun, eglurwch bwysigrwydd peidio â phwyso ar eraill i gymryd rhan mewn gweithgareddau nad ydyn nhw’n dymuno bod yn rhan ohonyn nhw)
- holi beth oedd eu cymhellion i rannu’r llun a thrafod beth allan nhw fod wedi ei wneud yn wahanol (os ydyn nhw wedi ymateb i ddigwyddiad trallodus, megis tor perthynas, drwy rannu’r llun, siaradwch am sut ellid fod wedi rheoli eu teimladau mewn ffordd iachach a mwy cadarnhaol)
- cael eu cynghori i hysbysu'r lleoliad os byddan nhw’n poeni bod eu plentyn yn ymddwyn mewn ffordd sy'n amhriodol yn rhywiol, a chael eu cyfarwyddo i gysylltu â'u meddyg teulu neu wasanaethau cymdeithasol am gyngor ar gael help cynnar a chymorth i'r plentyn gan wasanaethau priodol. Gellir hefyd eu cyfeirio at wasanaethau ar gyfer ymddygiad rhywiol niweidiol fel y National Clinical Assessment and Treatment Service neu Shore, os yw hynny’n briodol, neu os oes digwyddiadau tebyg wedi digwydd o’r blaen
Adnoddau a chymorth
Mae'n debygol y bydd gwybodaeth i rieni a gofalwyr am rannu delweddau noeth a hanner noeth yn rhan o strategaeth ehangach y lleoliad ar gyfer ymgysylltu â rhieni a gofalwyr ynghylch diogelwch ar-lein. Mae ardal 'Cadw'n ddiogel ar-lein' Hwb yn cynnwys gwybodaeth am ystod eang o ystyriaethau diogelwch ar-lein i blant a phobl ifanc, yn ogystal â darparu gwybodaeth, arweiniad a chyngor sydd wedi'u teilwra ar gyfer rhieni a gofalwyr. Mae adnoddau penodol ar gael ynghylch rhannu delweddau noeth a hanner noeth i gefnogi rhieni a gofalwyr, sy'n darparu gwybodaeth am y risgiau a'r canlyniadau, yn ogystal â chyngor ymarferol ar sut y gallan nhw gael cymorth i'w plentyn.
Mae Parentzone yn darparu gwybodaeth a chyngor i rienia gofalwyr gan sefydliadau arbenigol ar destunau sy’n amrywio o ryw a chydberthnasau ac iechyd meddwl i ddiogelwch ar-lein, gan gynnwys gwybodaeth am rannu delweddau noeth a hanner noeth. Gellir gwesteio cynnwys Parentzone am ddim ar wefan lleoliad drwy gyfrwng gwasanaeth ffrwd newyddion.
Llinellau cymorth ac adrodd
- Gall plant siarad â chynghorydd Childline 24 awr y dydd ynglŷn ag unrhyw beth sydd yn eu poeni, drwy ffonio 0800 11 11 neu mewn sgwrs ar-lein.
- Os bydd rhieni neu ofalwyr yn pryderu bod oedolion yn cysylltu â’u plentyn o ganlyniad i rannu delweddau rhywiol, dylen nhw adrodd am hynny i NCA-CEOP.
- Os bydd rhieni neu ofalwyr yn bryderus am eu plentyn, gallan nhw gysylltu â Llinell Gymorth NSPCC Cymru drwy ffonio 0808 800 5000 neu e-bostio help@nspcc.org.uk.
- Meic yw’r llinell gymorth eirioli, gwybodaeth a chyngor i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Gall pobl ifanc ddefnyddio’r gwasanaeth cyfrinachol ac am ddim hwn drwy ffonio (080880 23456), anfon neges destun (84001) neu gael sgwrs ar-lein
- Mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn 0808 8010 800 yn linell gymorth 24 awr i bobl sydd wedi neu yn dioddef camdriniaeth ddomestig neu drais rhywiol, neu sy’n pryderu am ffrind neu berthynas. Mae Gwefan Byw Heb Ofn yn cynnig cyngor ar gamdriniaeth ddomestig, trais rhywiol a thrais yn erbyn merched.
- Llinell Gymorth Stop it Now! ar gyfer y DU ac Iwerddon (0808 1000 900) am gyngor ar amddiffyn plentyn neu os ydych chi’n pryderu am ei ymddygiad rhywiol.
Addysgu plant a phobl ifanc
Addysgu dysgwyr am rannu delweddau noeth a hanner noeth
Gall addysgu am faterion diogelu yn y dosbarth atal niwed drwy roi sgiliau, rhinweddau a gwybodaeth i blant a phobl ifanc er mwyn eu helpu i ddelio â risgiau. Mae ymdrin â materion sensitif yn hyrwyddo ymagwedd lleoliad cyfan tuag at ddiogelu, gan roi lle i blant a phobl ifanc archwilio materion allweddol a’r hyder iddyn nhw geisio cymorth gan oedolion petaen nhw’n wynebu problemau.
Mae Cadw dysgwyr yn ddiogel yn nodi y dylai pawb sy'n gweithio mewn addysg ‘feithrin dealltwriaeth, ymwybyddiaeth a gwydnwch plant (mewn perthynas â diogelu) drwy'r cwricwlwm’. Yn unol â hyn, dylai ysgolion roi cyfleoedd i bobl ifanc ddysgu am fater rhannu delweddau noeth a hanner noeth.
Sut y dylid addysgu dysgwyr am rannu delweddau noeth a hanner noeth
Ni ellir dysgu am ddelweddau noeth a hanner noeth ar ei ben ei hun. O ystyried sensitifrwydd posibl y gwersi hyn, mae’n hanfodol bod y mater hwn yn cael ei ddysgu mewn hinsawdd ystafell ddosbarth sy’n emosiynol ddiogel lle mae rheolau sylfaenol clir wedi cael eu trafod a’u sefydlu, a phan fo ffiniau mewn perthynas â chyfrinachedd athrawon wedi cael eu hegluro. Os bydd athro yn amau bod unrhyw blentyn neu berson ifanc yn agored i niwed neu risg, dylid dilyn protocolau diogelu’r lleoliad bob amser.
Dylai lleoliadau ystyried pa adnoddau dysgu penodol sydd ar gael i helpu i addysgu am rannu delweddau noeth a hanner noeth. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth ffeithiol, megis:
- beth ydyw
- beth yw’r sefyllfaoedd mwyaf tebygol o ddod ar ei draws
- canlyniadau gofyn am ddelweddau o’r fath, eu rhannu neu’u darparu, gan gynnwys pryd y mae’n gamdriniol a phan nad ydyw
- materion mewn perthynas â chyfreithlondeb, gan gynnwys digwyddiadau’n ymwneud â chreu a rhannu delweddau noeth a hanner noeth sydd wedi’u cynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial
- y risg o niweidio teimladau ac enw da pobl
Dylai lleoliadau hefyd ystyried pa ddysgu penodol ddylai ddigwydd er mwyn sicrhau bod gan blant a phobl ifanc y strategaethau a’r sgiliau i reoli:
- ceisiadau penodol neu bwysau i ddarparu (neu rannu) delweddau o’r fath
- derbyn delweddau o’r fath
Bydd hyn yn cynnwys wrth pwy y dylid dweud, beth i’w ddweud, beth i’w wneud, beth na ddylid ei wneud ac o ble mae cael cymorth yn y lleoliad a thu allan.
Mae’n bwysig cydnabod pa mor anodd y gall hi fod i blant a phobl ifanc herio neu wrthod ceisiadau gan eu cyfoedion am ddelweddau, yn arbennig gan rai sy’n ddeniadol iddyn nhw neu rai maen nhw’n ceisio cymeradwyaeth ganddyn nhw. Hefyd, gall fod yn anodd iddyn nhw ofyn i oedolion am help. Efallai bod plant a phobl ifanc wedi gwneud penderfyniad y maen nhw bellach yn ei ddifaru ac efallai eu bod yn cael anhawster gofyn am help, neu bod hynny’n achosi embaras iddyn nhw. Mae’n hanfodol bod gwersi yn helpu plant a phobl ifanc i ddatblygu’r hyder y byddant efallai ei angen i roi eu sgiliau a’u strategaethau ar waith.
Felly mae’n bwysig bod plant a phobl ifanc yn deall polisi eu lleoliad ynghylch rhannu delweddau noeth a hanner noeth. Gellir archwilio cynnwys y polisi hwn a’r protocolau fydd y lleoliad yn eu dilyn yn achos digwyddiad fel rhan o’r dysgu hwn. Mae hyn yn atgyfnerthu natur amhriodol ymddygiadau camdriniol a gall roi sicrwydd i blant a phobl ifanc y bydd eu lleoliad yn eu cynorthwyo os byddan nhw’n cael anawsterau neu os bydd ganddyn nhw bryderon.
Cwricwlwm i Gymru – Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles
Mae canllawiau i helpu ysgolion a lleoliadau i ddatblygu y maes dysgu a phrofiad Iechyd a Lles yn y cwricwlwm.
Addysg cydberthynas a rhywioldeb
Mae addysg cydberthynas a rhywioldeb yn chwarae rôl allweddol wrth wella lles a diogelwch dysgwyr ac mae'n orfodol.
Mae gan leoliadau rôl bwysig i'w chwarae o ran atal ac amddiffyn, gan ymateb i gwestiynau ac anghenion dysgwyr a’u trafod. Mae ganddyn nhw y potensial i greu amgylcheddau diogel a grymusol sy'n adeiladu ar ddysgu a phrofiadau ffurfiol ac anffurfiol dysgwyr, a hynny all- lein ac ar-lein. Mae cyfoethogi llais ac annibyniaeth y dysgwyr yn egwyddor allweddol ar gyfer ymwreiddio addysg cydberthynas a rhywioldeb o fewn y cwricwlwm a dylai dysgwyr gael eu gwahodd i gymryd rhan mewn trafodaethau sy'n hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol ar gyfer cydraddoldeb a lles rhyw, rhywiol a chydberthynas, yn ogystal â chael eu cefnogi i fynegi eu safbwyntiau am ystod o faterion sy'n ymwneud ag addysg cydberthnasau a rhywioldeb, gan gynnwys rhannu delweddau noeth a hanner noeth. Gweler canllawiau pellach ar y testunau a'r elfennau dysgu sy'n cefnogi addysg cydberthynas a rhywioldeb a sut y gall pob Maes o'r cwricwlwm gyfrannu.
Pryd i addysgu dysgwyr am y materion hyn
Mae’n hanfodol bod y dysgu hwn yn briodol o ran oedran a pharodrwydd, a bod plant a phobl ifanc yn ystyried ei fod yn gytbwys a pherthnasol i’w profiadau o fywyd real. Gall gweithio gyda phlant a phobl ifanc wrth gynllunio’r gwersi hyn helpu i sicrhau bod gwersi yn briodol a pherthnasol.
Ystyriwch sut y gellir ategu’r dysgu hwn drwy ddarparu’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol, yn benodol, drwy’r llinyn Dinasyddiaeth. Cafodd y fframwaith ei ddarparu ym mis Medi 2016 ac mae wedi cael ei fireinio'n ddiweddar i ategu Cwricwlwm i Gymru.
Mae Dinasyddiaeth yn un o 4 llinyn yn y fframwaith, a chaiff ei rannu yn 4 elfen. Drwy’r elfennau hyn bydd dysgwyr yn dod i ddeall beth yw bod yn ddinesydd digidol cydwybodol sy’n cyfrannu’n gadarnhaol at y byd digidol o’u cwmpas ac sy’n gwerthuso’n feirniadol eu lle o fewn y byd digidol hwn. Bydd dysgwyr yn barod am agweddau cadarnhaol a negyddol o fod yn ddinesydd digidol, a byddan nhw’n datblygu strategaethau a dulliau i’w helpu wrth iddyn nhw ddatblygu’n gynhyrchwyr ac yn ddefnyddwyr annibynnol.
Y 4 elfen wahanol yw:
- hunaniaeth, delwedd ac enw da
- iechyd a lles
- hawliau digidol, trwyddedu a pherchenogaeth
- ymddygiad ar-lein a bwlio ar-lein
Sut y gallwn ni ddarparu addysg yn ddiogel
Dylai addysgu adlewyrchu arferion gorau wrth ddarparu addysg ddiogel ac effeithiol, gan gynnwys y canlynol.
- Diogelu yn gyntaf: sicrhau bod diogelwch a lles pob plentyn yn dod yn gyntaf drwy greu amgylchedd dysgu emosiynol ddiogel a dilyn polisïau a gweithdrefnau diogelu neu amddiffyn plant y lleoliad addysg os bydd datgeliad.
- Gweithredu o safbwynt y plentyn: mae’n bwysig deall beth mae bod ar-lein yn ei olygu i blant a phobl ifanc a'u cydberthnasau ac edrych ar y cyfleoedd cadarnhaol a gynigir ganddo, yn ogystal â'r risgiau.
- Hybu deialog a dealltwriaeth: mae plant a phobl ifanc yn teimlo fwyaf diogel pan fydd rhywun yn gwrando arnyn nhw ac yn eu deall, a'u bod yn gwybod y gallan nhw ofyn i oedolion maen nhw’n ymddiried ynddyn nhw am help pan fo ei angen.
- Grymuso a galluogi plant a phobl ifanc: mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i gael eu hamddiffyn rhag niwed, a chael eu cefnogi i feithrin yr wybodaeth, y sgiliau a'r hyder a fydd yn eu helpu i nodi risg a chael cymorth pan fo ei angen.
- Byth codi ofn: mae addysg sy'n codi ofn yn risg, neu’n gallu bod yn wrthgynhyrchiol hyd yn oed. Ni ddylid codi ofn ar blant a phobl ifanc, eu teuluoedd na gweithwyr professiynol eraill.
- Herio agweddau sy'n beio dioddefwyr: gall rhai plant, pobl ifanc ac oedolion ddangos agweddau sy'n beio dioddefwyr o ran rhannu delweddau noeth a hanner noeth. Dylai'r rhain gael eu herio mewn ffordd adeiladol a chefnogol sy'n eu hannog i feddwl yn feirniadol am yr iaith a ddefnyddir ganddyn nhw. I gael arweiniad ar sut i wneud hyn yn effeithiol, gweler 'Herio iaith ac ymddygiad sy'n beio'r dioddefwr'.
Defnyddio ymarferwyr allanol
Arbenigedd allanol yw defnyddio ymwelwyr neu siaradwyr nad ydyn nhw’n aelodau staff rheolaidd, neu ddefnyddio adnoddau allanol i gefnogi'r gwaith o gyflwyno unrhyw gwricwlwm neu weithgaredd codi ymwybyddiaeth sydd wedi’i gynllunio. Er enghraifft, ymwelwyr sy'n cynrychioli sefydliadau ac asiantaethau cenedlaethol neu leol, ymgynghorwyr neu unigolion annibynnol, neu adnoddau a ddarperir gan elusennau, asiantaethau neu sefydliadau preifat.
Gall y defnydd o ymarferwyr o sefydliadau eraill i gefnogi addysg am rannu delweddau noeth a hanner noeth fod o fudd mawr, ond dylid sicrhau bod unrhyw ddefnydd ohonyn nhw’n effeithiol. Dylai ymarferwyr allanol gael eu defnyddio i wella arlwy lleoliad yn hytrach nag addysgu ar wahân. Mae'n bwysig ystyried y canlynol:
- sut y defnyddir yr ymwelydd allanol i gyflawni eich nodau a'ch amcanion
- a ydych chi’n dewis yr ymwelydd allanol cywir: a oes ganddo'r sgiliau a'r wybodaeth ofynnol? A yw ei adnoddau'n briodol? A yw ei neges allweddol yn adlewyrchu eich ethos neu ddull diogelu?
- sut y byddwch yn diogelu cymuned eich lleoliad
- sut y byddwch yn gwerthuso ei fewnbwn ac yn asesu ei effaith.
Yr adnoddau sydd ar gael
Mae’r ardal 'Cadw'n ddiogel ar-lein' ar Hwb yn darparu adnoddau dwyieithog ar ystod eang o faterion sy'n ymwneud â diogelwch ar-lein i wahanol gynulleidfaoedd, gan gynnwys plant a phobl ifanc, ymarferwyr, rhieni, gofalwyr a llywodraethwyr. Mae nifer o adnoddau sy'n ymwneud yn benodol â rhannu delweddau noeth a hanner noeth (weithiau fe'i gelwir yn secstio yn yr adnoddau).
Ceir trosolwg o'r adnoddau dwyieithog sy'n ymwneud â rhannu delweddau, a all gael eu defnyddio i gefnogi gwersi, yma.
Dylech gyfeirio at y dudalen sefydliadau a phartneriaid dibynadwy os hoffech gael rhagor o arweiniad, adnoddau neu gymorth arbenigol.
Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth gyfeirio ar gyfer sefydliadau gan gynnwys Barnado’s, Childline, NSPCC, SchoolBeat Cymru, NCA-CEOP (gweler yn benodol y rhaglen addysg), Stop it Now! Cymru, ac eraill sy'n arbenigo yn y maes hwn.
Adnoddau cefnogol
- Trosolwg i staff mewn lleoliadau addysg ar sut i ymateb i achosion o rannu delweddau noeth a hanner noeth pdf 89 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Ymateb i achosion o rannu delweddau noeth a hanner noeth
Mae’r modiwl hyfforddi hwn ar gyfer DSPau neu uwch reolwyr mewn lleoliadau addysg ac mae wedi’i ddatblygu i’ch helpu chi i ymateb yn effeithiol i achosion o rannu delweddau noeth a hanner noeth.
Rhannu delweddau noeth: fideo hyfforddi
Fideo byr wedi'i gynllunio i helpu ysgolion i ddeall:
- y tueddiadau a phryderon diogelwch diweddaraf
- gwasanaethau cyngor cyfrinachol ac adrodd sydd ar gael