English

Lluniwyd y canllawiau hyn gan Weithgor Addysg Cyngor y DU ar Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd (UKCIS) ar ran UKCIS. Maen nhw’n anstatudol a dylid eu defnyddio fel canllaw er mwyn helpu i ddysgu a datblygu gweithwyr proffesiynol a llywio polisïau a gweithdrefnau sy'n ymwneud ag ymateb i achosion o gam-drin ar-lein a diogelu plant a phobl ifanc.


Ar gyfer pwy mae’r canllawiau hyn

Mae'r canllawiau hyn wedi'u hanelu at weithwyr proffesiynol mewn lleoliadau addysg sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Ei nod yw eu helpu i ddeall, adnabod ac ymateb yn well i iaith ac ymddygiad sy'n beio'r dioddefwr o fewn eu lleoliadau wrth drafod neu ymateb i brofiadau ar-lein plant a phobl ifanc.

Beth mae’r canllawiau hyn yn ei gynnwys

Mae'r canllawiau hyn yn disgrifio'r iaith, yr agweddau a'r ymddygiadau y gellir eu hystyried fel rhai sy'n beio'r dioddefwr wrth sôn am brofiadau ar-lein plant a phobl ifanc. Mae'n annog gweithwyr proffesiynol i feddwl yn feirniadol am eu hiaith a’u hymddygiad eu hunain neu eraill, ar eu heffaith ac ar sut dylid eu herio.

Mae'r canllawiau'n amlinellu egwyddorion allweddol i'w hystyried, strategaethau ymarferol i herio agweddau beio’r dioddefwr a senarios achos i fyfyrio ar arferion presennol.

Gellir cynnwys cyngor o'r canllawiau hyn mewn polisïau cyfredol ar ddiogelu ac amddiffyn  plant mewn lleoliadau addysg. Gellir defnyddio'r senarios er mwyn helpu gweithwyr proffesiynol i fyfyrio ar eu profiadau eu hunain a'u harferion cyfredol, a mabwysiadu strategaethau i ddatblygu dull nad yw beio'r dioddefwr.


Mae beio'r dioddefwr yn golygu unrhyw iaith neu weithred sy'n awgrymu (boed yn fwriadol neu'n anfwriadol) bod unigolyn yn rhannol neu'n gwbl gyfrifol am achos o gam-drin sydd wedi digwydd iddo. Mae'n niweidiol ac yn gallu rhoi cyfrifoldeb, cywilydd neu fai ar ddioddefwr ar gam, gan wneud iddo deimlo ei fod wedi cynllwynio neu'n gyfrifol am y niwed a brofodd.

Gall pobl o bob oed arddangos agweddau beio'r dioddefwr a gall ddigwydd ar-lein ac all-lein. Mae gweithwyr addysg proffesiynol yn cael eu hannog i feddwl yn feirniadol am yr iaith maen nhw'n ei defnyddio a'r effaith y mae'n ei chael, yn y fan a'r lle ac yn ehangach ar draws cymdeithas.

Terminoleg a ddefnyddiwyd yn y canllawiau hyn

Er mwyn hwyluso ein dealltwriaeth, defnyddiwyd y term 'dioddefwr' yn y canllawiau hyn i ddisgrifio plentyn neu berson ifanc sydd wedi profi cam-drin ar-lein, o unrhyw fath. Mae hyn yn cynnwys cael ei gam-drin ar-lein gan oedolyn, plentyn neu gan un o’i gyfoedion.

Yn ymarferol, gellir defnyddio termau gwahanol, er enghraifft dioddefwr neu oroeswr. Ni fydd llawer o blant neu bobl ifanc sydd wedi profi camdriniaeth ar-lein yn ystyried eu hunain yn ddioddefwyr, a fyddan nhw ddim yn cyfeirio at eu hunain felly. Sut bynnag mae person ifanc yn disgrifio’i hun, mae'n bwysig bod ymateb yr oedolyn yn gefnogol ac nad yw’n feirniadol.

Pam mae hyn yn bwysig

Mae technoleg yn rhan fawr o fywyd bob dydd, gan ddod â manteision  chyfleoedd addysgol a chymdeithasol diddiwedd, i oedolion, plant a phobl ifanc.

Fodd bynnag, mae perygl i blant a phobl ifanc ddioddef niwed ar-lein, gan gynnwys cam-drin, bwlio, aflonyddu neu ecsploetio troseddol ar y we. Gall canlyniadau ac effaith cam-drin plant ar-lein fod yr un mor ddifrifol â cham-drin all-lein. Am fwy o wybodaeth, trowch i adroddiad 'Everyone deserves to be happy and safe' (Saesneg yn unig) yr NSPCC a gyhoeddwyd yn 2018. 

Pam mae beio'r dioddefwr yn niweidiol

Dydy beio plant a phobl ifanc sy'n cael eu cam-drin byth yn dderbyniol.

Dylai gweithwyr proffesiynol ddeall yn glir na ellir byth ddisgwyl i blant ragweld nac amddiffyn eu hunain rhag camdriniaeth. Beth bynnag yw'r cyd-destun neu'r amgylchiadau, mae'r cyfrifoldeb bob amser yn nwylo'r sawl sydd wedi cam-drin y plentyn neu’r person ifanc.

Gall plant a phobl ifanc deimlo mai nhw sydd ar fai

Un o'r prif rwystrau sy’n atal plentyn neu berson ifanc rhag gofyn am gymorth a riportio achos o gam-drin ar-lein yw’r teimlad hwnnw mai nhw sydd ar fai am rywbeth sydd wedi digwydd iddyn nhw. Pan fydd gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda'r plentyn neu'r person ifanc yn siarad neu'n ymddwyn mewn ffordd sy'n ategu'r teimlad hwn o hunan-feio, gallai waethygu'r effaith ar y plentyn neu'r person ifanc dan sylw, gan arwain at adferiad fydd yn cymryd yn hirach.

Ar y llaw arall, gall ymatebion cadarnhaol (lle nad yw agweddau beio'r dioddefwr yn bresennol) leihau teimladau o straen ôl-drawmatig, iselder a phroblemau iechyd (Campbell, 2001) y gall person ifanc eu profi o ganlyniad i gam-drin. Hefyd, gallan nhw annog plant a phobl ifanc eraill i riportio eu profiadau ar-lein.

Efallai na fydd profiadau plant a phobl ifanc yn cael eu trin fel mater diogelu

Pan fydd rhywun yn beio'r dioddefwr, mae perygl o fychanu profiadau'r plentyn neu'r person ifanc, gan arwain at ddiffyg ymateb diogelu neu ymateb amhriodol. Gallai’r rhai sy’n gyfrifol am hyn fod yn weithwyr proffesiynol sy'n ymdrin â’r digwyddiad ar y cychwyn neu’n weithwyr sy'n ymwneud â'r broses nes ymlaen.

Gall hyn gael effaith ddinistriol ar y plentyn neu'r person ifanc sydd wedi profi camdriniaeth, gan ei gwneud hi'n llai tebygol y bydd gan y plentyn hwnnw, neu ei gyfoedion, ddigon o hyder i ddatgelu camdriniaeth yn y dyfodol. Hefyd, gall beio'r dioddefwr atal teuluoedd, ffrindiau a chymdeithas ehangach rhag cydnabod ymddygiadau penodol fel camdriniaeth.

Sut mae beio'r dioddefwr yn amlygu ei hun

Boed yn ymwybodol neu'n ddiarwybod, gall ein defnydd o iaith ysgrifenedig a geiriol a'r ffordd rydyn ni'n disgrifio rhywbeth, gael cryn effaith ar sut mae'n cael ei weld gan bobl eraill a'u hagweddau nhw o ganlyniad.

Mae iaith ac ymddygiad sy'n awgrymu bod gan blentyn neu berson ifanc ran neu gyfrifoldeb mewn unrhyw fodd am unrhyw niwed neu gamdriniaeth, yn achos o feio'r dioddefwr.

Beio'r dioddefwr yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol

Mae beio'r dioddefwr yn uniongyrchol yn digwydd pan fydd plentyn neu berson ifanc yn cael ei ddal yn gwbl gyfrifol am yr hyn sydd wedi digwydd iddo. 

Dyma rai enghreifftiau o feio'r dioddefwr yn uniongyrchol:

  • Yng nghyd-destun rhannu lluniau noeth nad ydyn nhw’n gydsyniol, gall gweithwyr proffesiynol feio'r plentyn neu'r person ifanc am rannu'r llun yn y lle cyntaf, a dweud mai eu bai nhw yw'r hyn sy'n digwydd gan mai nhw anfonodd y llun yn y lle cyntaf.
  • Ar ôl derbyn neges gamdriniol ar-lein, efallai y bydd gweithiwr proffesiynol yn dweud mai'r plentyn neu'r person ifanc sydd ar fai am dderbyn cais ffrind gan rywun nad yw'n ei adnabod ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • Ar ôl cael ei fwlio drwy gêm ar-lein, mae gweithiwr proffesiynol yn penderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau am ei fod yn credu bod y plentyn neu'r person ifanc yn rhannol ar fai am chwarae gêm sydd ar gyfer oedrannau hyn.
  • Yng nghyd-destun blacmel ar-lein, mae gweithiwr proffesiynol yn dweud wrth blentyn neu berson ifanc na ddylai fod wedi ymateb ond yn hytrach blocio a riportio'r person cyn gynted ag y dechreuodd anfon negeseuon bygythiol.

Gall fod yn anoddach nodi achos o feio'r dioddefwr yn anuniongyrchol neu’n anfwriadol. Mae'n digwydd yn aml pan fydd person yn ceisio helpu plentyn neu berson ifanc ar ôl i rywbeth ddigwydd iddo. Fodd bynnag, mae'r 'help' hwnnw'n atgyfnerthu'r syniad bod y plentyn neu'r person ifanc wedi gwneud rhywbeth o'i le neu'n gyfrifol am yr hyn sydd wedi digwydd iddo.

Dyma ambell enghraifft o feio'r dioddefwr yn anuniongyrchol:

  • Tynnu dyfais y plentyn neu'r person ifanc oddi arno neu ei wahardd rhag defnyddio platfform, ap neu gêm ar-lein o ganlyniad.
  • Cyflwyno addysg diogelwch ar-lein i blentyn neu berson ifanc yn syth ar ôl y datgeliad, sy'n tynnu sylw at yr hyn y dylai fod wedi'i wneud i gadw ei hun yn ddiogel.
  • Awgrymu y dylai plentyn neu berson ifanc gymryd cyfrifoldeb am gadw'i hun yn ddiogel ar-lein. Er enghraifft, dweud wrth blentyn neu berson ifanc 'na ddylai roi ei hun mewn perygl' drwy wneud x neu ddefnyddio y.
  • Wrth siarad â'r plentyn neu'r person ifanc ar ôl datgeliad, dweud beth y dylai fod wedi'i wneud yn wahanol yn y sefyllfa honno er mwyn cadw ei hun yn ddiogel.

Gall fod yn anodd herio achos o feio'r dioddefwr a dylid gwneud hynny mewn ffordd adeiladol a chefnogol sy'n annog pobl i feddwl yn feirniadol am yr iaith a'r ymddygiad maen nhw'n eu defnyddio a'r effaith mae'n ei chael. Efallai na fydd llawer o weithwyr proffesiynol yn sylweddoli bod yr hyn maen nhw'n ei ddweud neu’n ei wneud yn enghraifft o feio'r dioddefwr.

Bydd y camau ymarferol canlynol yn eich helpu i ymarfer ac i eirioli dros ddull gwrth-feio'r dioddefwr, sy'n amserol, yn sensitif ac yn eich helpu i ddeall effaith geiriau a gweithredoedd.  

Egwyddorion allweddol

1. Cofiwch nad oes gan blant ddigon o reolaeth mewn sefyllfaoedd camdriniol

Gwnewch yn siwr bod eich iaith a'ch ymddygiad eich hun adlewyrchu'r diffyg rheolaeth sydd gan blant a phobl ifanc mewn sefyllfaoedd camdriniol neu gamfanteisiol, ac esboniwch hyn wrth eraill.

Er enghraifft, yn lle dweud "beth allai x fod wedi'i wneud i atal hyn rhag digwydd?", canolbwyntiwch ar y tactegau neu'r dulliau a ddefnyddiodd y person arall i annog, twyllo a manipiwleiddio’r plentyn neu'r person ifanc fel rhan o sefyllfa gamdriniol.  

2. Canolbwyntiwch ar ymddygiad y sawl a oedd yn cam-drin y plentyn neu'r person ifanc

Meddyliwch pa iaith sy'n cael ei defnyddio i ddisgrifio sefyllfa neu sut gellir ei fframio i ganolbwyntio ar ymddygiad camdriniol, nid ymddygiad y plentyn neu'r person ifanc sydd wedi profi camdriniaeth. Drwy ganolbwyntio ar yr ymddygiad neu'r gweithredoedd camdriniol neu ddifrïol, mae'n ail-fframio’r naratif i’r ffaith fod y cyfrifoldeb ar yr unigolyn wnaeth gam-drin y plentyn neu'r person ifanc.

Er enghraifft, yn lle dweud "pam wnes ti x?" dywedwch "dwed wrtha i be ddigwyddodd i ti" sy'n symud y ffocws i ffwrdd o weithredoedd neu ymddygiad y plentyn neu'r person ifanc, ac yn ei helpu i ddeall nad y plentyn sydd ar fai.

3. Ystyriwch brofiadau bywyd plant a phobl ifanc

Yn aml, mae iaith ac ymddygiad sy'n beio'r dioddefwr yn deillio o'r ffaith nad yw rhywun yn wirioneddol ddeall natur cam-drin plant na phrofiadau plant a phobl ifanc. Gallai ymddygiadau ar-lein cyffredin ar gyfer plant a phobl ifanc fod yn wahanol i'ch rhai chi, ac mae'n hollbwysig gwrando a chadw meddwl agored fel y gallwch ddysgu mwy am eu profiadau bywyd. Gall ymchwil hefyd eich helpu i ddeall profiadau ar-lein plant a phobl ifanc. Er enghraifft, mae adroddiad blynyddol Ofcom, Children and parents: Media use and attitudes (Saesneg yn unig) yn cynnwys y canfyddiadau diweddaraf.

Mae rhannu neu anfon lluniau noeth yn enghraifft dda. Er bod ystadegau'n dangos nad yw pob plentyn yn rhannu neu'n derbyn lluniau noeth, mae rhai yn gwneud hyn ac mae'n cynyddu wrth iddyn nhw fynd yn hyn. Fel gweithwyr proffesiynol, mae'n bwysig ein bod ni'n deall yr ymddygiad yma ac yn teimlo'n hyderus i allu siarad am y materion hyn mewn ffordd nad yw'n beio plant a phobl ifanc trwy ddweud na ddylen nhw wneud hyn yn y lle cyntaf. 

4. Eglurwch effaith iaith ac ymddygiad sy'n beio'r dioddefwr

Helpwch eraill i ystyried effaith defnyddio iaith neu ymddygiadau sy'n beio'r dioddefwr a pha effaith y gallai hyn ei chael ar blentyn neu berson ifanc.

Er enghraifft, fe allai atgyfnerthu teimladau o hunan-feio a gwaethygu effaith y cam-drin y mae'r plentyn neu'r person ifanc eisoes wedi'i brofi, gan arwain at adferiad hirach neu niwed hirdymor difrifol i hyder, hunan-barch a chydberthnasau. Gall hefyd eu hatal nhw ac eraill rhag codi llais yn y dyfodol. 

5. Adolygwch bolisïau a gweithdrefnau

Sicrhewch fod polisïau a gweithdrefnau eich lleoliad yn hyrwyddo agweddau ac iaith nad ydynt yn beio'r dioddefwr. Gallwch ychwanegu adnoddau a chanllawiau sy'n helpu i greu ymateb unedig er mwyn herio'r agweddau hyn mewn ffordd gadarnhaol ac adeiladol.

Efallai yr hoffech adolygu adnoddau addysgol eich lleoliad hefyd, yn enwedig y rhai sy'n canolbwyntio ar addysg rhyw a chydberthynas, a diogelwch ar-lein. Gall rhai adnoddau sy'n cael eu defnyddio'n eang gynnwys negeseuon di-fudd sy'n beio'r dioddefwr, er enghraifft, drwy ganolbwyntio ar yr hyn a ddigwyddodd pan na wnaeth plentyn neu berson ifanc wrthwynebu neu 'jest dweud na', neu sy’n defnyddio rhagdybiaethau niweidiol o ran rhywedd fel portreadu bechgyn fel y drwgweithredwyr a merched fel y dioddefwyr.

6. Efelychwch yr iaith a'r ymddygiad rydych chi'n eu disgwyl gan eraill

Cofiwch efelychu'r iaith a'r ymddygiad rydych chi'n eu disgwyl gan oedolion, plant a phobl ifanc, a'ch bod yn herio achos o feio'r unigolyn. Cofiwch, fyddwch chi ddim yn cael popeth yn iawn bob tro, ac mae beio'r dioddefwr yn gyffredin yn ein cymdeithas. Dyna pam mae cyfleoedd i ddysgu a myfyrio yn bwysig.

7. Neilltuwch amser i ddysgu a myfyrio

Mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i sicrhau ein bod yn herio iaith ac ymddygiad sy'n beio'r dioddefwr yn ein lleoliadau a'n cymunedau. Y ffordd orau o addysgu eraill yw myfyrio gyda'n gilydd ar iaith ac ymddygiadau beio'r dioddefwr, a sut i'w hadnabod a'u herio mewn ffordd gefnogol ac agored.

Mae'r adran nesaf yn cynnig rhai sefyllfaoedd i'ch helpu i wneud hyn.


Bwriad yr adran hon yw rhoi cyfle i'ch lleoliad drafod, profi a chymhwyso'r egwyddorion a amlinellwyd yma. Mae sawl senario ar-lein sy'n rhoi'r cyfle i fyfyrio ar y ffordd orau o helpu'r plentyn neu'r person ifanc a defnyddio dull 'dim bai', a'ch helpu i nodi meysydd o gryfder ac unrhyw newidiadau neu welliannau y dylid eu gwneud.

Argymhellir eich bod yn trafod y senarios mewn grwpiau, os oes modd. Mae hyn yn caniatáu inni ystyried safbwyntiau gwahanol, mae’n gyfle ar gyfer heriau cefnogol (er enghraifft, lle gall fod rhagfarn ddiarwybod) ac i wella ein dysgu fel unigolion ac ar y cyd. Gall hyn gefnogi dull unedig a gweithredu cyson ar draws y lleoliad.

Creu man diogel i drafod

Mae'n bwysig creu amgylchedd nad yw'n beio neu'n cywilyddio gweithwyr proffesiynol am unrhyw iaith neu ymddygiadau y gallant fod yn eu defnyddio. Mae senarios yn helpu i ymbellhau'r dysgu a chael gweithwyr proffesiynol i fyfyrio ar y sefyllfa dan sylw a chymhwyso'r hyn a ddysgwyd. Ceisiwch beidio â defnyddio enghreifftiau o gydweithwyr yn gwneud rhywbeth yn anghywir nac achosion penodol, er enghraifft, gwneud cymariaethau fel 'mae'r sefyllfa hon yn union fel beth wnaeth x'. Gall hyn achosi cywilydd neu wneud i gydweithwyr deimlo embaras, a'u hatal rhag cymryd rhan mewn unrhyw drafodaethau.

Cyn defnyddio'r senarios, pwysleisiwch fod sefyllfaoedd lle mae plant a phobl ifanc wedi'u cam-drin ar-lein yn gallu bod yn gymhleth, a bydd eu trafod yn fanwl yn helpu pawb i gael dealltwriaeth well o'r ffordd orau i ymateb.

Mae'n bosib y bydd gweithwyr proffesiynol yn teimlo'n bryderus am ddweud y peth anghywir neu’n teimlo nad ydyn nhw'n deall beth mae plant a phobl ifanc yn ei weld a'i brofi. Ewch ati i dawelu meddyliau pawb sy'n cymryd rhan trwy ddweud nad oes disgwyl iddyn nhw wybod yr holl atebion a bod hyn yn gyfle i fyfyrio, dysgu a rhoi'r hyn a ddysgwyd ar waith.

Mae defnyddio parau neu grwpiau bach o weithwyr proffesiynol sy'n adnabod ei gilydd yn gallu eu helpu i siarad yn fwy agored. Hefyd, gallech ddewis arddangos detholiad o'r senarios o amgylch yr ystafell i'w darllen ar ddechrau'r hyfforddiant ac ychwanegu nodiadau gludiog gyda chwestiynau, meddyliau a syniadau i sbarduno sgwrs.

Sut i ddefnyddio'r senarios trafod

Cyflwynwch y pwnc o feio'r dioddefwr

Cyn defnyddio'r senarios, rhaid i chi gyflwyno'r pwnc o feio'r dioddefwr a chynnwys y pwyntiau allweddol a amlinellir yn y canllawiau hyn. Hyd yn oed os ydych chi wedi rhannu'r canllawiau hyn ymlaen llaw, bydd siarad drwy'r pwyntiau allweddol yn helpu i sicrhau bod gan bawb yr un ddealltwriaeth o'r pwnc.

Pwysleisiwch yr angen i ganfod atebion

Wrth drafod y senarios, canolbwyntiwch ar adnabod iaith ac ymddygiadau sy'n beio'r dioddefwr a sut gellid eu herio neu eu newid mewn ffordd gadarnhaol a chefnogol.

Myfyriwch ar eich arferion eich hun

Gwnewch yn siwr eich bod yn neilltuo amser i drafod yr hyn a ddysgwyd a sut gellir rhoi hyn ar waith yn eich lleoliad chi. Er enghraifft, gallech nodi ymddygiad penodol o feio'r dioddefwr sy'n amlwg yn eich lleoliad a llunio cynllun gweithredu i fynd i'r afael â hynny. Cofiwch mai myfyrdod personol ddylai hyn fod, nid adlewyrchiad o iaith ac ymddygiad cydweithiwr yn y gorffennol.

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y senarios yn ddigon i roi cyfle i weithwyr proffesiynol fyfyrio ar eu profiadau eu hunain a'r hyn y gallant ei newid yn y dyfodol.

Senario Trafod 1

Mae'r senario hon yn gwahodd gweithwyr proffesiynol i gymhwyso'r hyn maen nhw wedi'i ddysgu drwy ofyn iddyn nhw adnabod achos o feio'r defnyddiwr a sut gallen nhw ymateb iddo.

Mewn grwpiau bach rhannwch y senario ganlynol a gofynnwch i bob grwp drafod y tri chwestiwn. Mae atebion a phwyntiau trafod posib wedi'u cynnwys o dan bob cwestiwn.

Senario

Mae plentyn 10 oed yn dweud wrth aelod o'r teulu ei fod wedi gweld lluniau brawychus ac anaddas ar ei ffôn. Wnaeth e ddim gofyn am help yn yr ysgol am fod yr athrawon wedi dweud droeon wrth y plant na ddylen nhw ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol a’u bod yn amlwg yn rhwystredig gyda nhw. Roedd wedi digwydd clywed staff yn cwyno wrth rieni am y ffaith nad oedd plant a rhieni yn dilyn y rheolau a’u bod 'yn gofyn am drwbwl'.

Trin a thrafod

    • Athrawon yn dweud wrth y plentyn na ddylai fod ar y cyfryngau cymdeithasol. Y canlyniad oedd bod y plentyn heb ddweud wrthyn nhw bod rhywbeth wedi digwydd, rhag ofn y byddai’r athrawon yn dweud y drefn ac mai ei fai e oedd hyn.
    • Staff yn dweud nad oedd plant yn dilyn y rheolau ac yn 'gofyn am drwbwl'. Mae hyn yn awgrymu mai bai'r plentyn a'r rhieni yw'r hyn ddigwyddodd.
    • Canolbwyntiwch ar effaith yr iaith sy'n beio'r dioddefwr y gallai’r plant fod wedi ei chlywed. Bydd y rhan fwyaf o athrawon eisiau helpu plentyn os yw mewn gofid, ond yn y senario hon, mae'r iaith a ddefnyddiwyd gan aelod staff wedi golygu nad oedd y plentyn wedi codi llais am ei brofiadau ac nad oedd yn teimlo y gallai ofyn iddyn nhw am help.
    • Byddwch yn agored i brofiadau bywyd plant. Mae ymchwil yn dangos bod gan y rhan fwyaf o blant dan 13 oed eu proffil eu hunain ar o leiaf un ap neu safle ar y cyfryngau cymdeithasol, felly mae hwn yn brofiad cyffredin. Atgoffwch staff y dylent helpu’r plant, a'r rhai sy'n gofalu amdanyn nhw, i fod yn fwy diogel ar-lein yn hytrach na dweud na ddylen nhw ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn y lle cyntaf.
    • Atgoffwch staff nad oes gan blant reolaeth mewn sefyllfaoedd camdriniol. Dydy hi ddim yn glir yn y senario hon a oedd y plentyn wedi dod ar draws lluniau brawychus ac anaddas ar ddamwain, neu a gawson nhw eu hanfon yn uniongyrchol ato. Naill ffordd neu'r llall, nid bai'r plentyn yw ei fod wedi edrych ar rywbeth sydd wedi peri gofid iddo, a dylid cynnig cymorth i’r plentyn.
    • Ystyriwch a oes angen i chi wneud unrhyw beth i newid arferion neu hyfforddi cydweithwyr i osgoi hyn.

Senarios Trafod 2

Nod y senarios hyn yw annog gweithwyr proffesiynol i feddwl yn feirniadol am yr iaith a'r ymddygiad sy'n cael eu defnyddio yn eu lleoliad ar hyn o bryd neu gan weithwyr proffesiynol eraill. Mae'n bwynt da i'w hatgoffa bod syniadau neu gredoau beio'r dioddefwr wedi'u gwreiddio'n ddwfn yn ein cymuned a'n cymdeithas ehangach. Mae edrych ar y senarios hyn yn ffordd o herio achosion o feio'r dioddefwr yn uniongyrchol, ond mewn ffordd adeiladol a chefnogol.

Dewiswch ambell senario. Mae'r cwestiynau, atebion a phwyntiau trafod posibl wedi'u cynnwys dan bob senario. 

Senario 1

Mae bachgen 8 oed wedi rhannu gwybodaeth amdano'i hun, a'i hoff bethau, gyda rhywun mae wedi'i gyfarfod ar gonsol gêm gyfrifiadurol. Fe wnaethon nhw gyfarfod a siarad ar ôl amser gwely, a hynny trwy gêm roedd eu rhieni wedi dweud wrthyn nhw am beidio â’i chwarae. Nawr, mae'r person arall yn anfon negeseuon ato'n gyson, eisiau sgwrsio a chwarae, ac yn cynnig awgrymiadau ar gwblhau'r gêm. Mae'r plentyn yn blino gyda'r holl negeseuon ac eisiau siarad â rhywun y mae'n ymddiried ynddo am beth i'w wneud.

  • Efallai y byddai rhai yn meddwl bod rhywfaint o fai ar y plentyn am siarad â rhywun nad yw'n ei adnabod (dieithryn) ac yn chwarae gemau ar ôl amser gwely. Gallen nhw awgrymu ei fod yn stopio chwarae'r gêm, neu'n blocio'r person, ac na fyddai'n cael rhagor o negeseuon ganddo wedyn. Efallai y byddan nhw'n awgrymu bod y rhieni'n tynnu'r ddyfais o ystafell wely'r plentyn fel nad yw'n gallu chwarae ar ôl amser gwely.

    • awgrymu mai'r plentyn sydd ar fai, ac na ddylai fod wedi siarad neu chwarae gemau gyda dieithriaid. Mae siarad â phobl dydych chi ddim yn eu hadnabod yn brofiad cyffredin mewn gemau ar-lein
    • canolbwyntio ar y ffaith ei fod yn chwarae ar ôl amser gwely. Mae'n anodd i blant hunanreoleiddio eu hamser ar-lein, yn enwedig ar ganol gêm mor gyffrous
    • awgrymu gwahardd y plentyn o'r gêm neu gymryd y ddyfais oddi arno. Gall hyn ategu unrhyw syniad mai’r plentyn sydd ar fai am yr hyn a ddigwyddodd.
  • Canolbwyntiwch ar y camau cadarnhaol mae'r plentyn wedi eu cymryd wrth geisio cymorth, gan ei atgoffa nad ei fai e yw'r hyn a ddigwyddodd. Gyda'i gilydd, dylai'r plentyn a'r gweithiwr proffesiynol gytuno ar ba gamau i'w cymryd, fel bod y plentyn yn teimlo bod ganddo reolaeth o'r sefyllfa. Dylai'r camau hyn fod yn bositif, a'i helpu i fod yn fwy diogel, yn hytrach na'i gosbi am beth ddigwyddodd. Gallai hyn gynnwys blocio'r person neu chwilio am gemau gwahanol i'w chwarae. Dylai unrhyw drafodaethau gyda rhieni gymryd agwedd gefnogol hefyd, a chanolbwyntio ar sut gallan nhw helpu eu plentyn i barhau i fwynhau chwarae gemau.

Senario 2

Mae proffiliau newydd ar y cyfryngau cymdeithasol yn gofyn i ferch 13 oed am luniau noeth bob dydd. Mae hi'n meddwl tybed a wnawn nhw stopio gofyn petai'n anfon un llun noeth, ac yn gofyn i ffrind am gyngor. Mae ei ffrind eisiau iddi siarad ag oedolyn, ond dydy hi ddim yn rhy hoff o'r syniad. Yn y pen draw mae'r ferch yn rhannu llun ohono'i hun yn ei dillad isaf, gan wneud yn siwr nad oes neb yn gallu gweld ei wyneb. Ar ôl anfon y llun, mae'r ferch yn deall bod pobl eraill yn ei dosbarth ysgol wedi gweld y llun ac wedi dechrau galw enwau y tu ôl i'w chefn. Mae'r ferch yn teimlo'n bryderus iawn, ond yn ofni siarad a chael help.

  • Efallai y byddai rhai'n gweld bai ar y ferch am anfon y llun, ildio i bwysau, gwrthod gwrando ar ei ffrind, neu feddwl y byddai anfon llun heb ei hwyneb yn golygu na allai neb ei hadnabod. Efallai y byddan nhw'n dweud wrth y ferch nad oes unrhyw beth y gall hi ei wneud nawr, gan fod ei llun hi 'mas yna'. Efallai y byddan nhw'n penderfynu cynnal sesiwn grwp blwyddyn sy'n canolbwyntio ar beidio ag anfon delweddau.

    • awgrymu mai’r plentyn sydd ar fai am anfon y llun yn y lle cyntaf Mae bod dan bwysau, rhannu lluniau noeth a'r ffaith bod eraill yn rhannu'r llun wedyn heb ganiatâd yn brofiadau cyffredin i bobl ifanc
    • awgrymu y dylai wedi siarad yn gynt neu anwybyddu neu rwystro'r ceisiadau. Mae'n gyffredin i bobl ifanc gael cais am luniau noeth ar-lein, ac nid dieithriaid sydd bob amser yn gofyn am y rhain, ond rhywun mae'r person ifanc yn ei nabod o bosib.
    • awgrymu bod anfon llun noeth heb wyneb yn beth gwirion iawn i'w wneud. Mae hon yn strategaeth gyffredin sy'n cael ei defnyddio gan bobl ifanc mewn ymdrech i gadw eu hunain yn ddiogel
    • dweud nad oes unrhyw beth y gall y person ifanc ei wneud nawr i gymryd rheolaeth o'r llun. Mae rhai camau y gellir eu cymryd
    • gwneud unrhyw ddatganiadau cyhoeddus i blant eraill bod llun allan yna, ac na ddylen nhw ei rannu, neu drefnu unrhyw sesiynau diogelwch ar-lein ymatebol am rannu lluniau. Bydd hyn yn tynnu sylw at weithredoedd y ferch ac yn ategu'r syniad mai hi sydd ar fai am yr hyn ddigwyddodd.
  • Canolbwyntiwch ar y camau cadarnhaol mae'r plentyn wedi eu cymryd wrth geisio cymorth, gan ei hatgoffa nad yw hi ar fai am yr hyn a ddigwyddodd. Byddwch yn ystyriol o brofiadau bywyd pobl ifanc drwy gydnabod y pwysau o gael rhywun yn gofyn rownd y rîl am lun noeth ganddyn nhw, a pha mor anodd yw hyn. Dydy ymddygiad pobl eraill, y pwysau i rannu llun noeth, a gweithredoedd eraill sy'n rhannu’r neges/llun hwn ddim yn iawn, ac mae'n achosi loes ac yn enghraifft o gam-drin. Gyda'i gilydd, dylai'r plentyn a'r gweithiwr proffesiynol gytuno ar ba gamau i'w cymryd, fel bod y plentyn yn teimlo bod ganddi reolaeth o'r sefyllfa. Gall hyn gynnwys defnyddio'r adnodd Report Remove (Saesneg yn unig) i drefnu bod y llun yn cael ei dynnu oddi ar y we, neu ofyn i gyfoedion ddileu'r llun os ydyn nhw wedi'i dderbyn. Siaradwch yn uniongyrchol ag unrhyw bobl ifanc eraill sy'n gysylltiedig â'r mater a phwysleisiwch nad yw eu hymddygiad yn dderbyniol.

Gwybodaeth

Dylai unrhyw senario sy'n cynnwys rhannu llun noeth gael ei hystyried yn fater o bryder diogelu, felly dilynwch bolisi eich sefydliad.

Senario 3

Mae merch 10 oed wedi creu cyfrif cyfryngau cymdeithasol i rannu ei hangerdd am ffasiwn a cholur. Mae hi wedi postio sawl llun ohono'i hun yn gwisgo dillad newydd a gafodd ar ei phen-blwydd - mae wrth ei bodd gyda'i steil newydd hyn-na'i-hoed. Mae cyd-ddisgyblion eraill wedi gadael sylwadau cas a'i bwlio ar-lein, sy'n torri calon y ferch. Mae ffrind wedi awgrymu ei bod yn dileu ei holl gyfrifon ac yn tynnu’r holl luniau oddi ar y cyfryngau cymdeithasol, ond dydy hi ddim yn credu bod hyn yn deg.

  • Efallai y bydd rhai'n meddwl bod peth bai ar y ferch gan nad yw hi'n ddigon hen i gael cyfrif cyfryngau cymdeithasol. Efallai eu bod nhw'n meddwl bod gwisgo i edrych yn hyn nag yw hi yn ymddygiad sy'n ei rhoi 'mewn perygl', neu nad yw'n weithgaredd addas i blentyn 10 oed. Efallai y byddan nhw'n cwestiynu gosodiadau preifatrwydd y ferch a phwy mae'n caniatáu i ryngweithio â'i chynnwys ar y platfform, gan feddwl mai pobl ddieithr sydd wedi gwneud y sylwadau. Efallai y byddan nhw'n gofyn pam wnaeth hi ddim rhwystro/blocio'r rhai sy'n gwneud sylwadau cas, gan awgrymu y byddai'n well dileu'r cyfrif yn gyfan gwbl.

    • canolbwyntio ar weithredoedd y plentyn fel y broblem. Canolbwyntiwch ar ymddygiad y rhai a wnaeth adael sylwadau negyddol
    • awgrymu na ddylai fod ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae ymchwil yn dangos bod gan y rhan fwyaf o blant o leiaf un proffil cyfryngau cymdeithasol erbyn 13 oed, ac y gallai fod yn wefan neu safle cyfryngau cymdeithasol sy'n addas i'w hoedran
    • gwneud unrhyw ddatganiadau sy'n awgrymu ei bod hi'n peryglu ei hun ar sail y mathau o luniau roedd hi'n eu postio. Mae byd ffasiwn a 'dylanwadu' yn ddiddordeb cyffredin i bobl ifanc yr oes sydd ohoni, wrth iddyn nhw ddechrau meddwl am hunanddelwedd a diwylliant poblogaidd
    • cymryd bod y lluniau hyn wedi'u rhannu'n gyhoeddus ac awgrymu mai penderfyniad y ferch i rannu'r lluniau yn ehangach sydd i feio am y sefyllfa. Dydy hi ddim yn glir pa mor gyhoeddus yw'r lluniau, efallai bod y ferch dim ond wedi rhannu’r lluniau â phlant y mae'n eu hadnabod, ac mai ei chyfoedion yn hytrach na dieithriaid sy'n ei bwlio ar-lein
    • dweud wrthi am ddileu'r cyfrif. Gellid ystyried hyn yn gosb.
  • Canolbwyntiwch ar y camau cadarnhaol mae'r plentyn wedi eu cymryd wrth geisio cymorth, gan ei hatgoffa nad ei bai hi yw'r hyn a ddigwyddodd. Canolbwyntiwch ar ymddygiad pobl eraill a'r effaith a gafodd hyn. Gyda'i gilydd, dylai'r plentyn a'r gweithiwr proffesiynol gytuno ar ba gamau i'w cymryd, fel bod y plentyn yn teimlo bod ganddi reolaeth dros y sefyllfa. Dylai'r camau hyn fod yn gadarnhaol, a'i helpu i fod yn fwy diogel, yn hytrach na'i chosbi am beth ddigwyddodd. Gallai hyn gynnwys edrych ar y gosodiadau preifatrwydd ac adrodd ac ar sut gall y nodweddion hyn eu helpu i gadw rheolaeth ar yr hyn y mae'n ei rannu, neu ei bod hi’n gwybod sut i riportio sylwadau cas. Os nad yw'n wefan addas i'w hoedran, gall hefyd olygu chwilio am blatfformau eraill. Dylai unrhyw drafodaethau gyda rhieni fod yn rhai cefnogol hefyd a chanolbwyntio ar sut gallan nhw eu plentyn i barhau i fwynhau bod ar-lein. Siaradwch yn uniongyrchol ag unrhyw bobl ifanc eraill sy'n rhan o’r peth a phwysleisio bod eu hymddygiad yn gwbl annerbyniol.

Senario 4

Mae bachgen 17 oed wedi bod yn archwilio ei rywioldeb ar-lein. Mae wedi lawrlwytho rhai apiau dêtio oedolion, ac wedi bod yn chwilio am gyngor ar y we. Bu'n sgwrsio gyda rhai dynion hyn mewn fforwm, a ddywedodd y byddai'n gwbl sicr o'i rywioldeb pe bai'n cyflawni gweithredoedd rhywiol iddyn nhw ar-lein, ac mae hyn wedi gwneud iddo deimlo'n anghyfforddus iawn.

  • Gallai rhai feddwl bod y person ifanc yn ei mentro hi braidd wrth archwilio ei rywioldeb, lawrlwytho apiau oedolion a siarad gyda dynion ar-lein. Efallai y byddan nhw'n awgrymu ei fod yn rhoi’r gorau i’r fforymau, ac na fyddai'n derbyn mwy o sylwadau wedyn.

    • canolbwyntio ar weithredoedd y person ifanc fel y broblem. Canolbwyntiwch ar ymddygiad y rhai wnaeth y sylwadau
    • awgrymu na ddylai fod ar safleoedd neu fforymau dêtio oedolion, oherwydd efallai mai dyma'r unig ffordd iddo archwilio ei rywioldeb
    • gwneud unrhyw ddatganiadau sy'n awgrymu ei fod yn peryglu ei hun ar sail y ffordd mae'n ymddwyn. Mae ei ymddygiadau yn rhan normal o'i ddatblygiad
    • dweud wrtho am ddileu'r cyfrif. Gellid ystyried hyn yn gosb am ei weithredoedd neu ei rywioldeb.
  • Canolbwyntiwch ar y camau cadarnhaol a gymerodd y person ifanc wrth chwilio am gymorth, gan ei atgoffa nad ei fai e yw hyn. Canolbwyntiwch ar ymddygiad pobl eraill a'r effaith a gafodd hyn. Gyda'i gilydd, dylai'r person ifanc a'r gweithiwr proffesiynol gytuno ar ba gamau i'w cymryd, fel bod y person ifanc yn teimlo bod ganddo reolaeth dros y sefyllfa. Dylai'r camau hyn fod yn rhai cadarnhaol, felly ewch ati i'w gefnogi yn hytrach na'i gosbi am beth ddigwyddodd. Gallai hyn gynnwys edrych ar y gosodiadau preifatrwydd a riportio a sut gallai'r nodweddion hyn ei helpu i gadw rheolaeth. Os nad yw'n safle cymdeithasol sy'n briodol i'w oedran, gall hefyd olygu chwilio am blatfformau eraill addas neu ei helpu i greu strategaethau diogelwch i ddefnyddio platfformau oedolion. Neu gall olygu ei helpu i ddod o hyd i bobl, grwpiau neu wasanaethau eraill a all ei helpu i archwilio ei rywioldeb.

Senarios Trafod 3

Mae gweithgaredd terfynol yr adran hon yn gofyn i chi feddwl am unrhyw senarios o'ch lleoliad neu am brofiadau'r gorffennol a fyddai'n ddefnyddiol i'w rhannu a'u trafod â chydweithwyr.

Er diogelwch, dylai’r senarios ymwneud â phrofiadau proffesiynol ac nid profiadau personol. Dylen nhw fod yn ddienw hefyd, fel nad oes modd adnabod y sawl sydd dan sylw - gall hyn fod yn berthnasol i enwau a manylion penodol. Dylech hefyd sicrhau nad yw’r senarios yn dal i fod yn destun pryder, oherwydd gallai hyn gywilyddio gweithwyr proffesiynol drwy beidio â rhoi digon o bellter rhwng yr hyn sydd wedi digwydd, myfyrio a dysgu.

Ar gyfer pob senario ystyriwch y cwestiynau canlynol:

  1. Pa fath o iaith neu ymddygiad beio'r dioddefwr allwch chi eu hadnabod yn y senario hon?
  2. Sut gallech chi ymateb i'r enghreifftiau o iaith ac ymddygiad sy'n beio'r dioddefwr, yn y senario hon?
  3. Beth allwn ni ei ddysgu o'r senario hon er mwyn newid ein harferion presennol neu hyfforddi cydweithwyr i osgoi hyn?

Cod ymarfer

Ar ôl i chi gwblhau'r holl weithgareddau, mae'n syniad da creu cod ymarfer neu gytundeb gweithio ar gyfer eich lleoliad.

Gallwch wneud hyn trwy:

  1. Gofyn i gydweithwyr restru rhai o'r pethau i'w gwneud a'u hosgoi, a ddeilliodd o'r trafodaethau.
  2. Cytuno beth ddylai fynd ar eich rhestr - cadwch hi'n syml ac yn hawdd i'w chyflawni.
  3. Penderfynu sut byddwch chi'n rhannu'ch cod ymarfer a'i adolygu wedyn.