Canllaw i lywodraethwyr ar gamwybodaeth a rhagfarn
Ystyr ‘camwybodaeth’ yw gwybodaeth ffug neu anghywir, a gall fod ar ffurf neges ar y cyfryngau cymdeithasol, llun go iawn neu wedi’i olygu, clip fideo, meme neu stori newyddion. Gellir rhannu camwybodaeth yn ddiarwybod, heb sylweddoli bod yr wybodaeth yn ffug neu’n anghywir.
Mae cyfle unigryw ar-lein i gyfnewid a rhannu gwybodaeth a syniadau, yn ogystal ag archwilio cysyniadau newydd a dysgu. Bydd dysgwyr eich ysgol yn dod ar draws cynnwys ar-lein sydd â’r potensial i lywio eu credoau a’u barn, a dylanwadu ar eu hymddygiad. Fel llywodraethwr, mae’n bwysig gwybod sut i wahaniaethu rhwng ffaith a barn ar-lein, ac i staff yr ysgol roi cyfleoedd i ddysgwyr i ddatblygu sgiliau rhesymu beirniadol. Yna, gallan nhw ddefnyddio’r sgiliau hyn i werthuso pa mor ddibynadwy yw’r hyn maen nhw’n dod ar ei draws ar-lein, yn ogystal â chymhellion y rhai sy’n creu’r cynnwys hwnnw.
Mae’r canllaw hwn:
- yn ymchwilio i rai o’r risgiau y mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu ar-lein wrth weld gwybodaeth ffug ac anghywir
- yn darparu gwybodaeth i’ch helpu i gefnogi staff a diogelu dysgwyr eich ysgol
- yn eich helpu i gyflawni eich dyletswyddau llywodraethu fel ‘ffrind beirniadol’.
Awgrymiadau defnyddiol ar gyfer gwerthuso cynnwys ar-lein
Deall ac adnabod camwybodaeth, twyllwybodaeth a rhagfarn
Helpwch staff eich ysgol a dysgwyr i ddeall y gwahaniaethau rhwng:
- camwybodaeth – gwybodaeth anghywir/ffug
- twyllwybodaeth – gwybodaeth anghywir/ffug sy’n cael ei chreu gyda’ra bwriad pwrpasol o dwyllo, camarwain a dylanwadu.
Byddwch yn aml yn gallu dod ar draws cynnwys ar-lein sy’n gymysgedd o wybodaeth gywir ac anghywir. Mae twyllwybodaeth ar ei mwyaf pwerus pan mae’n cynnwys rhai mân fanylion cywir sy’n gwneud iddi swnio’n fwy credadwy.
- rhagfarn – mae rhagfarn mewn cynnwys yn golygu ei fod yn mynegi barn neu safbwynt heb ystyried neu gynnwys unrhyw ddadl neu dystiolaeth i’r gwrthwyneb. Felly, mae’r cynnwys yn anghytbwys. Weithiau gall rhagfarn fod yn hawdd ei hadnabod. Ar adegau eraill gall fod yn llawer mwy cynnil. Y naill ffordd neu’r llall, mae rhagfarn yn adlewyrchu barn y sawl sy’n ei chreu ac, yn enwedig os yw’n cael ei mynegi’n gryf, amharodrwydd i newid dim ots a yw’n gywir neu a oes tystiolaeth i’r gwrthwyneb.
Mae’n bwysig deall y niwed sy’n gallu deillio o gamwybodaeth. Dychmygwch eich bod yn gweld neges ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n gwneud honiadau di-sail bod brechlynnau Covid-19 yn beryglus i’ch iechyd. Os byddwch chi neu aelod o’ch teulu yn penderfynu peidio â chael brechlyn oherwydd y gamwybodaeth honno, gallech fod yn rhoi eich hun neu eraill mewn perygl. Neu efallai mai rhannu’r neges fyddech chi’n ei wneud, gan ei gyflwyno i lawer o bobl eraill. A gallent hwythau hefyd wynebu canlyniadau’r gamwybodaeth honno.
Bygythiadau i’n diogelwch neu’n hiechyd yw’r mathau mwyaf difrifol o niwed yn sgil camwybodaeth, ond nid dyna’r unig ganlyniadau posibl. Gall camwybodaeth ein sgamio o’n harian, ac effeithio ar fusnesau cyfain hyd yn oed. Gall amharu ar ddemocratiaeth drwy ein camarwain ynghylch y dewisiadau a gynigir, neu geisio ein hatal rhag pleidleisio’n iawn. Gall y gamwybodaeth neu’r oledd a roddir ar straeon gwleidyddol o ddydd i ddydd, hyd yn oed, ein gwneud yn llai tebygol o ymgysylltu, gan feithrin difaterwch neu ddiffyg ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth a sefydliadau.
Mae plant a phobl ifanc yn cael gafael ar newyddion drwy amrywiaeth o ffynonellau ar-lein gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol a gwefannau. Gallai rhai o’r newyddion y maen nhw’n dod ar eu traws gael eu hystyried yn gamwybodaeth – straeon neu adroddiadau anwir am bobl, sefydliadau a lleoedd. Yn dibynnu ar destun y stori, lefel y diddordeb ynddi yn ogystal â’r amseriad, mae camwybodaeth yn gallu lledaenu’n gyflym iawn – yn wir, yn lloerig o gyflym.
Mae trafod y pethau mae dysgwyr wedi’u gweld a/neu eu clywed ar-lein yn gyfle iddyn nhw glywed barn eu cyfoedion a gofyn cwestiynau. Mae archwilio a yw cynnwys ar-lein poblogaidd (fel straeon neu gynnwys hynod o boblogaidd gan enwogion neu ddylanwadwyr ar gyfryngau cymdeithasol) yn fwy dibynadwy na chynnwys arall yn gallu bod yn ffordd effeithiol o annog dysgwyr i ystyried dibynadwyedd yr hyn maen nhw’n ei brofi ar-lein.
Gall staff ysgolion hefyd weithio gyda dysgwyr i wirio straeon a honiadau (gall gwefannau fel fod yn ddefnyddiol ar gyfer hyn), mynd i’r afael â chamsyniadau, a’u haddysgu ynghylch sgiliau allweddol meddwl yn feirniadol, a sut a ble i ddod o hyd i wybodaeth ddibynadwy ar-lein ac all-lein.
Ystyried cymhellion
Anogwch staff yr ysgol a dysgwyr i gwestiynu beth sydd wedi ysgogi rhywun i rannu gwybodaeth ar-lein. Mae cwestiynu enw da a dibynadwyedd y ffynhonnell bob amser yn fan cychwyn da, yn ogystal â’r hyn y gallen nhw ei ennill wrth rannu gwybodaeth. Er enghraifft, gellid defnyddio penawdau wedi’u gorliwio fel ‘clickbait’ sydd â’r nod o ddenu sylw a denu defnyddwyr at wefan sydd wedyn yn elwa’n ariannol o refeniw hysbysebu uwch.
Gellir helpu dysgwyr i gydnabod bod gan ffynonellau’r cyfryngau eu hagendâu eu hunain hefyd ar gyfer rhannu straeon newyddion neu wybodaeth arall. Er y gall y manylion mewn stori fod yn ffeithiol gywir, gall y ffynhonnell fynegi barn neu ragfarn ochr yn ochr â’r manylion hyn mewn ymgais i ddylanwadu ar farn pobl eraill. Gallai rhagfarn fod yn wleidyddol, yn ariannol, yn grefyddol neu’n foesol, a gallai adlewyrchu barn unigolyn neu sefydliad cyfan.
Mae’n bwysig bod dysgwyr yn ymwybodol nad yw pob gwybodaeth anghywir yn cael ei rhannu â bwriadau maleisus. Mae pobl yn gwneud camgymeriadau go iawn ac weithiau’n naïf ynghylch gwir natur y cynnwys maen nhw’n ei rannu.
Esbonio’r risgiau
Mae’r rhyngrwyd yn cynnig cyfleoedd gwych i ddysgwyr archwilio gwahanol agweddau ar eu bywydau nhw a’r byd o’u cwmpas, a llawer o safbwyntiau gwahanol hefyd. Fodd bynnag, dylid eu gwneud yn ymwybodol y gall camwybodaeth a gwybodaeth ragfarnllyd beri risg i’w hiechyd, eu llesiant a’u diogelwch, yn ogystal ag iechyd pobl eraill. Gallen nhw ddod ar draws cynnwys sy’n gallu dylanwadu ar gredoau, gan arwain o bosibl at ymddygiad negyddol neu ragfarnllyd tuag at eraill nad ydyn nhw’n rhannu’r credoau hynny. Gallen nhw hefyd ddod ar draws cynnwys sy'n annog ymddygiad peryglus, gan gynnwys cyngor camarweiniol neu anghywir ynghylch iechyd a ffordd o fyw.
Dysgu ac annog rhesymu beirniadol
Y ffordd fwyaf effeithiol o amddiffyn dysgwyr rhag peryglon a achosir gan wybodaeth gamarweiniol neu wybodaeth ragfarnllyd ar-lein yw eu helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i werthuso gwybodaeth yn feirniadol ac yna gwneud dewisiadau cadarnhaol a chyfrifol.
Dylai staff ysgolion addysgu strategaethau dilysu gwybodaeth ar-lein. Gallai’r rhain gynnwys archwilio amrywiaeth o ffynonellau a gwefannau ar-lein, gan ddefnyddio safleoedd cymeradwy i wirio ffeithiau, gwirio gwybodaeth drwy ffynonellau all-lein, a chael help a/neu farn pobl eraill.
Pan fo’n briodol, dylent annog dysgwyr i archwilio safbwyntiau gwahanol i’r rhai y maen nhw wedi dod ar eu traws ar-lein. Gall profi safbwyntiau gwahanol eu galluogi i gael barn fwy cytbwys a chasglu mwy o wybodaeth i’w helpu i benderfynu ar eu safbwyntiau eu hunain ar bwnc neu fater.
Dylent rymuso dysgwyr i gymryd camau cadarnhaol pan fyddan nhw’n gweld gwybodaeth gamarweiniol ar-lein. Gellir gwneud hyn drwy drafod ffyrdd o herio safbwyntiau unigolyn arall yn gadarnhaol a’u helpu i ddeall sut y gallan nhw roi gwybod am gynnwys camarweiniol neu niweidiol sy’n cael ei rannu ar y gwasanaethau maen nhw’n eu defnyddio.
Cymorth a rhagor o wybodaeth
Mae modiwl hyfforddi ar gamwybodaeth ar gael i ymarferwyr addysg, gyda’r nod o roi gwybodaeth eang am sut i fynd i’r afael â chamwybodaeth a chefnogi dysgwyr i wirio ffynonellau gwybodaeth yn effeithiol ac ystyried eu honiadau mewn ffordd feirniadol.
Mae rhagor o wybodaeth am gefnogi staff ysgolion a dysgwyr i ddeall camwybodaeth ar-lein ar dudalen Camwybodaeth ar Cadw’n ddiogel ar-lein ar Hwb. Mae fideo byr am Gamwybodaeth ar gael hefyd.
I gael rhagor o wybodaeth am sut i gadw dysgwyr yn ddiogel ar-lein, ewch i
Os oes angen cymorth arnoch chi fel gweithiwr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, cysylltwch â'r Llinell Gymorth i Weithwyr Proffesiynol ar Ddiogelwch Ar-lein (POSH) ar 0844 381 4772 neu drwy anfon e-bost at y llinell gymorth helpline@saferinternet.org.uk.