Messenger
Canllaw i deuluoedd sydd â gwybodaeth allweddol am 'Messenger', gan gynnwys y dosbarthiad oedran, terminoleg allweddol, risgiau a chyfarwyddiadau ar gyfer galluogi rheolaethau rhieni a gosodiadau diogelwch.
- Rhan o
Sut mae Messenger yn gweithio
Ap negeseua cyfryngau cymdeithasol am ddim yw Messenger, dan berchnogaeth Meta, sydd ar gael i ddefnyddwyr sydd wedi cofrestru ar Facebook. Fodd bynnag, gall defnyddwyr Messenger ddadactifadu eu cyfrif Facebook a pharhau i ddefnyddio Messenger.
Gall defnyddwyr sgwrsio drwy destun, galwadau fideo a rhannu ffeiliau a phostiadau â’i gilydd yn unigol neu mewn grwpiau.
Oedran isaf gofynnol
Rhaid i ddefnyddwyr fod yn 13 oed i ddefnyddio Messenger. Mae cyfrifon Messenger wedi’u cysylltu â chyfrifon Facebook, felly bydd unrhyw osodiadau sy’n cael eu cymhwyso yn Facebook yn dod i rym ym Messenger.
Mae proses gwirio oedran yr ap yn dibynnu ar hunanadrodd. Mae cyfyngiadau preifatrwydd yn cael eu cymhwyso’n awtomatig i gyfrifon sy’n perthyn i rai dan 16 oed. Dylech oruchwylio eich plentyn wrth iddo greu ei cyfrif er mwyn sicrhau ei fod yn rhoi’r dyddiad geni cywir.
Nodweddion
Group chat
Gall defnyddwyr greu grŵp sy’n cynnwys defnyddwyr Facebook eraill. Gall defnyddwyr greu sgwrs fideo grŵp, hefyd.
Rooms
Gall defnyddwyr Messenger greu ystafelloedd lle gall nifer o bobl gyfarfod i gael sgwrs fideo. Nid oes angen i ddefnyddwyr fod â chyfrif Facebook i ymuno ag ystafelloedd agored. Gall defnyddwyr greu ystafelloedd o Messenger, Facebook, WhatsApp ac Instagram.
Message Requests
Mae hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr gael rhagolwg o’r negeseuon y mae pobl ddieithr yn eu hanfon atyn nhw i’w helpu i benderfynu a hoffen nhw dderbyn ac ateb y neges, ei hanwybyddu neu ei dileu.
Stories
Gall defnyddwyr bostio lluniau neu fideos i’w ffrindiau eu gweld am 24 awr.
Chat heads
Mae’r nodwedd ‘chat heads’ yn galluogi defnyddwyr i barhau i ddefnyddio Messenger wrth ddefnyddio apiau eraill ar eu dyfais. Bydd ‘chat head’ naill ai’n dangos y cyswllt neu’r grŵp y mae’r defnyddiwr yn siarad ag ef.
Broadcast Channels
Nodwedd negeseua un-at-nifer sydd ar gael i bob defnyddiwr, lle mai dim ond crewyr neu weinyddwyr sgwrs sy’n gallu postio negeseuon i bobl eraill eu gweld.
Read Receipts
Arwydd mewn sgyrsiau sy’n rhoi gwybod i rywun pan fydd y derbynnydd wedi darllen ei neges.
Communities
Sgyrsiau grŵp yw’r rhain sy’n cael eu trefnu dan ‘gymuned’ ehangach. Yn wahanol i sgyrsiau preifat, mae Meta yn adolygu’r sgyrsiau hyn er mwyn sicrhau nad yw’r cynnwys yn mynd yn groes i’w safonau cymunedol.
Rheoli risgiau
Cysylltiad niweidiol â defnyddwyr eraill
Gallai pobl ifanc sy’n defnyddio Messenger gael negeseuon sydd â chynnwys neu iaith amhriodol, a gallai pobl â bwriadau drwg gysylltu â nhw.
Mae yna gamau y gallwch eu cymryd i leihau’r risg y bydd defnyddwyr eraill yn achosi niwed.
Addasu’r gosodiadau
Er mwyn atal cysylltiad niweidiol gan bobl ddieithr, newidiwch osodiadau eich plentyn ym Messenger fel mai dim ond ei ffrindiau sy’n gallu cysylltu ag ef.
Defnyddiwch Family Centre Meta i fonitro at bwy mae’ch plentyn yn anfon negeseuon ar Messenger. Trafodwch unrhyw gyfrifon amheus y mae mewn cysylltiad â nhw.
Annog negeseua’n ddiogel
Er mwyn lleihau’r risg o niwed gan ddefnyddwyr eraill, addysgwch arferion negeseua diogel i’ch plentyn. Mae’r rhain yn cynnwys peidio â derbyn ceisiadau negeseua gan bobl ddieithr neu beidio ag ymateb i negeseuon cas neu anghyfforddus. Gallwch hefyd addysgu’ch plentyn am y nodweddion negeseua sydd ar gael ar Messenger.
Amgryptio o un pen i’r llall
Mae Messenger yn defnyddio technoleg amgryptio o un pen i’r llall ar ei wasanaethau. Mae hyn yn golygu bod dim ond y sawl sy’n anfon ac yn derbyn neges yn gallu gweld ei chynnwys. Mae negeseuon yn cael eu hamgryptio cyn gadael dyfais yr anfonwr a gellir ond eu dadgryptio ar ôl iddyn nhw gyrraedd eu cyrchfan. Mae hyn yn golygu na all hacwyr fynd at y data.
Negeseuon sy’n diflannu
Gall defnyddwyr osod terfyn amser ac, ar ôl hynny, bydd neges yn cael ei dileu. Ni ellir olrhain y neges honno yn y sgwrs. Mae hyn ar gael ar gyfer sgyrsiau sy’n defnyddio amgryptio o un pen i’r llall yn unig.
Negeseuon wedi’u golygu
Nodwedd sy’n caniatáu i ddefnyddwyr olygu negeseuon y maen nhw eisoes wedi’u hanfon. Mae hyn ar gael ar gyfer negeseuon a anfonwyd hyd at 15 munud ynghynt. Gall defnyddwyr riportio negeseuon sydd wedi’u golygu o hyd, gan y gall cymedrolwyr Meta weld fersiynau blaenorol o’r neges.
Gor-rannu
Addysgwch eich plentyn am yr hyn y dylai ei rannu ac na ddylai ei rannu ar-lein. Dylech ei atgoffa:
- y gellir cymryd a chadw sgrinluniau o negeseuon sy’n diflannu
- y dylai ond anfon negeseuon y mae’n teimlo’n gyfforddus i bobl eraill eu gweld
Blocio a riportio
Anogwch eich plentyn i ddefnyddio’r offer blocio a riportio i ddod â chysylltiad ag unrhyw un sy’n gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus i ben.
Gormod o amser o flaen sgrin
Mae nodwedd ‘chat head’ Messenger yn annog ymgysylltiad trwy ddangos sgyrsiau cyfredol yn gyson, hyd yn oed wrth ddefnyddio apiau eraill. Gall derbynebau darllen (read receipts) hefyd wneud i ddefnyddwyr deimlo bod rhaid iddyn nhw ateb cyn gynted ag y byddan nhw wedi agor neges.
Gall y camau canlynol eich helpu i gydbwyso amser eich plentyn o flaen sgrin.
Gosod terfynau amser
Yng ngosodiadau ffôn Android neu iOS eich plentyn, gosodwch derfynau amser ar ba mor hir y gallai ddefnyddio Messenger bob dydd er mwyn rhwystro gormod o ddefnydd.
Gosod terfynau
Cytunwch â’ch plentyn ynghylch pryd a ble y gallai ddefnyddio Messenger.
Diffodd hysbysiadau
Anogwch eich plentyn i ddiffodd hysbysiadau Messenger a ‘chat heads’ i atal hysbysiadau negeseuon newydd rhag tynnu ei sylw.
Gosodiadau i ddiogelu’ch plentyn
Os ydych chi’n poeni am ddiogelwch eich plentyn wrth ddefnyddio Messenger, gall y gosodiadau hyn eu helpu i gadw’n ddiogel.
Family Centre
- Ar Facebook, dewiswch eicon y proffil ac ewch i ‘Settings & Privacy’.
- Dewiswch ‘Settings’.
- Dewiswch ‘Family Centre’.
- Dewiswch ‘Supervision’ ac yna ‘Create invitation’.
- Gofynnwch i’ch plentyn dderbyn y gwahoddiad.
- Rheolwch y gosodiadau goruchwylio trwy ddangosfwrdd y Family Centre.
Offer blocio a riportio
Blocio defnyddiwr
- Agorwch sgwrs â’r defnyddiwr yr hoffech ei flocio a dewiswch ei enw.
- Dewiswch ‘Block’.
- Dewiswch ‘Block messages and calls’ neu ‘Block on Facebook’.
- Dewiswch ‘Block’ i gadarnhau.
Riportio defnyddiwr
- Agorwch sgwrs â’r defnyddiwr yr hoffech ei riportio a dewiswch ei enw.
- Dewiswch ‘Report’.
- Dewiswch y rheswm dros ei riportio.
- Dewiswch ‘Report’ i gadarnhau.
Riportio neges
- Dewiswch a daliwch y neges yr hoffech ei riportio.
- Dewiswch ‘More’.
- Dewiswch ‘Report’.
Rheoli pwy sy’n gallu anfon negeseuon
- Dewiswch eicon y 3 llinell yng nghornel uchaf y sgrin.
- Dewiswch symbol y gêr yn y gornel dde uchaf.
- Dewiswch ‘Privacy and safety’, yna dewiswch ‘Message delivery’.
- Ewch drwy’r ddewislen i ddewis pwy sy’n gallu anfon negeseuon at y cyfrif.