English

Aflonyddu rhywiol ar-lein yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio unrhyw sylwadau neu ymddygiad rhywiol digroeso sy’n digwydd ar blatfform digidol fel y cyfryngau cymdeithasol, gemau, gwefannau, negeseuon e-bost, negeseuon uniongyrchol neu alwadau fideo. Gall fod yn gyhoeddus neu’n breifat a gall wneud i berson ifanc deimlo ofn, bygythiad, cywilydd, pwysau neu fel ei fod yn wynebu camfanteisio neu wahaniaethu. Mae’n cael ei gydnabod yn fath o drais rhywiol ac mae’n rhywbeth y gall plant a phobl ifanc ei weld yn gyson a chael eu heffeithio ganddo, hyd yn oed os nad ydynt yn ymwneud ag ef eu hunain.

 Pwrpas yr adnodd hwn yw galluogi rhieni a gofalwyr:

  • i ddeall beth yw aflonyddu rhywiol ar-lein rhwng cyfoedion
  • i adnabod y gwahanol fathau o aflonyddu rhywiol ar-lein
  • i gynorthwyo unrhyw blentyn neu berson dan eich gofal sy’n wynebu neu’n cymryd rhan yn yr ymddygiadau hyn

Gall aflonyddu rhywiol ar-lein ddigwydd i unrhyw un, beth bynnag fo’i oed. Er hynny, mae tystiolaeth bod grwpiau penodol yn ei brofi’n amlach a’u bod yn wynebu canlyniadau mwy negyddol, rhai fel merched a grwpiau lleiafrifol gan gynnwys plant a phobl ifanc sy’n nodi eu bod yn rhai LHDTQ+, yn ogystal â’r rheini sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Hefyd, mae aflonyddu rhywiol ar-lein yn gallu gorgyffwrdd â gwahaniaethu ac iaith casineb.


Mae nifer o resymau pam byddai plant a phobl ifanc yn gallu ymwneud ag aflonyddu rhywiol ar-lein. Er enghraifft:

  • efallai na fyddant yn sylweddoli eu bod yn gwneud rhywbeth o’i le am eu bod yn credu mai jôc neu dynnu coes yw hyn
  • nid ydynt yn disgwyl cael eu herio gan fod yr ymddygiad hwn yn gallu cael ei normaleiddio
  • maent yn copïo ymddygiad niweidiol a welsant mewn mannau eraill, fel fideo neu ymddygiad gan oedolyn
  • maent wedi teimlo’r dylanwad o bwysau gan gyfoedion i gymryd rhan, am eu bod am deimlo’n rhan o rywbeth
  • maent yn ei wneud yn fwriadol i frifo rhywun neu godi cywilydd ar rywun (er enghraifft, wrth i gydberthynas neu gyfeillgarwch chwalu)
  • maent yn parhau ag ymddygiad sydd wedi digwydd all-lein

Gellir dosbarthu aflonyddu rhywiol ar-lein i 4 prif faes, sef:

  1. Rhannu lluniau a fideos o natur bersonol heb gydsyniad
  2. Camfanteisio, gorfodi, a bygwth
  3. Bwlio wedi’i rywioli
  4. Rhywioli digroeso
  • Mae hyn yn cyfeirio at rannu neu dynnu lluniau neu fideos rhywiol heb gydsyniad y person sydd yn y llun. Gall gynnwys:

    • rhannu llun neu fideo o rywun noeth neu hanner noeth heb gydsyniad y sawl sydd yn y llun
    • tynnu lluniau neu fideos rhywiol heb gydsyniad. Gellir cyfeirio at hyn hefyd fel tynnu lluniau rhywiol awgrymog yn ddiarwybod, tynnu lluniau i fyny sgertiau neu i lawr blowsys
    • tynnu lluniau neu fideos rhywiol ar ôl cael cydsyniad ond eu rhannu wedyn heb gydsyniad, er enghraifft pan fydd cydberthynas yn chwalu, gyda’r bwriad o frifo neu godi cywilydd ar rywun
  • Mae hyn yn cyfeirio at ymddygiad lle mae rhywun yn cael bygythiadau rhywiol neu’n cael ei flacmelio neu ei orfodi i gymryd rhan mewn ymddygiad rhywiol ar-lein. Gall gynnwys:

    • aflonyddu neu bwyso ar rywun ar-lein i rannu lluniau rhywiol neu gymryd rhan mewn ymddygiad rhywiol
    • bygwth cyhoeddi cynnwys rhywiol (lluniau, fideos, sïon) er mwyn gorfodi, blacmelio neu godi ofn ar rywun. Fe’i gelwir hefyd yn flacmel rhywiol
    • bygythiadau ar-lein o natur rywiol neu ysgogi eraill i gyflawni trais rhywiol
  • Mae hyn yn cyfeirio at ymddygiad lle mae rhywun yn cael ei dargedu â chynnwys neu iaith rywiol er mwyn achosi gofid, codi cywilydd arno neu wahaniaethu yn ei erbyn. Gall gynnwys:

    • clecs, sïon, neu gelwyddau wedi’u postio ar-lein yn ymwneud ag ymddygiad rhywiol
    • defnyddio geiriau rhywiol ymosodol neu wahaniaethol ar-lein, neu ddatgelu rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol gwirioneddol neu ganfyddedig rhywun drwy ei gyhoeddi ar-lein
    • codi cywilydd ar rywun oherwydd ei gorff drwy wneud sylwadau amhriodol neu negyddol am siâp neu faint ei gorff
  • Mae hyn yn cyfeirio at anfon lluniau neu fideos rhywiol, cignoeth neu bornograffig at rywun. Gall gynnwys:

    • anfon neu gael sylwadau, jôcs, sylwadau neu gynigion rhywiol digroeso
    • rhoi sgôr am gyfoedion ar sail eu hatyniad/gweithgarwch rhywiol
    • defnyddio technoleg i rywioli neu greu delweddau wedi’u rhywioli o rywun. Gellid gwneud hyn drwy ddefnyddio hidlydd neu realiti rhithwir neu drwy greu fideos â ffugiadau dwfn

Mae’n bwysig cydnabod bod plentyn neu berson ifanc yn gallu profi effaith aflonyddu rhywiol ar-lein mewn llawer o ffyrdd gwahanol. Gellir teimlo effaith ddwys yn y tymor byr, ond gall arwain hefyd at effeithiau tymor hir ar eu hiechyd meddwl a’u lles. Gall yr effeithiau tymor hir fod yn ddwysach os bydd y cynnwys yn parhau i gael ei rannu ar-lein neu am fod y trawma gwreiddiol o’r digwyddiad yn dod yn ôl i’r wyneb yn hwyrach o lawer. Hefyd byddai aflonyddu rhywiol ar-lein yn gallu effeithio ar bobl eraill sy’n ei weld neu sy’n ceisio helpu’r plentyn neu berson ifanc sy’n gysylltiedig, er enghraifft, ffrindiau neu aelodau o’r teulu.


Gall plant a phobl ifanc ddewis peidio â rhoi gwybod am aflonyddu rhywiol ar-lein oherwydd:

  • ei bod yn bosibl nad ydynt yn deall bod rhywbeth o’i le ar ymddygiad o’r fath
  • nad ydynt yn credu ei bod yn rhywbeth difrifol, am ei fod yn cael ei weld yn rhan arferol neu ddisgwyliedig o fywyd y glasoed
  • eu bod yn teimlo cywilydd am beth sydd wedi digwydd
  • eu bod yn poeni eu bod ar fai ac y byddant yn mynd i drwbwl
  • eu bod yn bryderus am beth wnaiff ddigwydd nesaf
  • eu bod yn teimlo eu bod wedi siomi eu rhieni neu ofalwyr
  • gallent fod ag anawsterau iaith ac yn ei chael yn anodd egluro
  • eu bod yn dewis ei anwybyddu am nad ydynt yn barod i ddatgelu eu rhywioldeb
  • eu bod yn pryderu am godi llais am resymau crefyddol neu ddiwylliannol
  • nad ydynt yn gwybod sut i roi gwybod amdano

Er ei bod yn bosibl y bydd plant a phobl ifanc yn teimlo’n chwithig wrth drafod rhai pynciau ac yn eu gweld yn rhai personol, pwrpas y canllaw hwn yw rhoi i chi’r iaith a’r hyder fydd eu hangen arnoch chi i siarad am faterion ar-lein mewn ffordd adeiladol a chefnogol.

  • Byddwch yn gadarnhaol ynghylch y rhyngrwyd a dangos diddordeb ym mywyd ar-lein eich plentyn er mwyn ei helpu i’ch gweld yn rhywun y gall siarad ag ef am broblemau ar-lein.
  • Siarad yn fuan ac yn aml. Y ffordd fwyaf effeithiol i ddelio ag unrhyw broblem ar-lein yw cynnwys sgyrsiau am y rhyngrwyd yn rhan o’ch bywyd pob dydd.
  • Creu man diogel i gael sgwrs a chwilio am gyfleoedd i siarad â’ch gilydd. Dewiswch adeg y gwyddoch na fydd neb yn tarfu arnoch chi – gallech siarad yn y car neu wrth fynd am dro.
  • Sicrhau’ch plentyn y bydd yn gallu dod atoch am help bob amser, ac na fyddwch yn ei farnu neu ei feirniadu.
  • Bod yn onest os nad ydych yn sicr sut i ddelio â rhywbeth ond sicrhau’ch plentyn y byddwch yn gwneud eich gorau i’w helpu.
  • Rhannu’ch profiadau’ch hun. Holwch eich plentyn am ei brofiadau ar-lein a sut mae’r rhain yn effeithio ar ei deimladau. Efallai y byddwch yn gweld pethau sy’n gyffredin y gallwch eu rhannu a’u defnyddio i ddangos empathi.
  • Siarad am offer diogelwch gyda’ch gilydd a pham maent yn ddefnyddiol, er enghraifft sut i roi gwybod am gynnwys amhriodol a’i atal a sut i reoli amser sgrin.

Er mwyn ei gwneud yn haws i chi sgwrsio am aflonyddu rhywiol ar-lein, soniwch am ymddygiad iach a chydsyniad mewn cydberthynas a beth yw ystyr y rhain yng nghyd-destun bywyd ar-lein.

Mae plant a phobl ifanc yn dal i ddysgu am eu ffiniau personol ac, er bod gwneud camgymeriadau’n rhan naturiol o dyfu i fyny, mae pwysau gan gyfoedion yn gallu gwneud iddynt eu hamau eu hunain neu wneud pethau na fyddent yn fodlon eu gwneud fel arfer. Drwy siarad am gydberthnasau iach a’r math o ymddygiad sy’n dderbyniol neu’n annerbyniol, gallwch helpu’ch plentyn i ymddiried yn ei reddf a delio â sefyllfaoedd anodd ar-lein.

Siaradwch â’ch plentyn am ymddygiadau iach ac ymddygiadau sydd ddim yn iach.

  • Trafod enghreifftiau o ymddygiad iach ac ymddygiadau sydd ddim yn iach yng nghyd-destun cyfeillgarwch neu gydberthynas. Er enghraifft, os yw rhywun yn eich parchu, ni ddylai roi pwysau arnoch i wneud rhywbeth nad ydych yn gyfforddus yn ei wneud.
  • Sôn am beth mae’n dderbyniol ac yn annerbyniol ei ddweud neu ei rannu ar-lein, a pham.
  • Awgrymu rhai ffyrdd i’ch plentyn ddweud ‘na’ neu ddod allan o sefyllfa anghyfforddus.

Siaradwch â’ch plentyn am gydsyniad. Eglurwch fod cydsyniad yn rhywbeth sydd bob amser:

  •  yn cael ei roi o’ch gwirfodd. Ni ddylai neb byth deimlo pwysau i roi caniatâd i rywbeth ddigwydd
  • yn bosibl ei wrthdroi. Hyd yn oed os yw rhywun wedi rhoi cydsyniad yn y gorffennol, mae ganddo hawl i newid ei feddwl
  • wedi’i seilio ar wybodaeth. Rhaid i rywun gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen i allu rhoi cydsyniad yn briodol
  • yn benodol. Mae hyn yn golygu bod gofyn am gydsyniad yn ymwneud yn benodol â’r eiliad honno, ac na ellir rhagdybio dim byd

Mae rhai plant yn dda am guddio eu pryderon, felly gall fod yn anodd sylwi pan fydd rhywbeth o’i le gyda’ch plentyn. Arwyddion cyffredinol y gallwch wylio amdanynt yw:

  • nad yw am fynd i’r ysgol
  • ei fod yn rhoi’r gorau i weithgareddau y mae’n eu mwynhau fel arfer
  • pryder cynyddol neu gwyno am boen yn y bol
  • trafferth cysgu
  • gwrthod bwyta neu ddweud nad oes awydd bwyd arno
  • mynd i’w gragen
  • bod yn anarferol o emosiynol neu aflonydd
  • newidiadau neu lai o ddiddordeb yn y ffordd y mae’n defnyddio technoleg, fel anwybyddu negeseuon, treulio mwy o amser ar ei ffôn neu ddyfais neu lai o ryngweithio â’i ffôn neu ddyfais

Os ydych yn poeni mai gweithgarwch neu brofiadau ar-lein eich plentyn sydd wrth wraidd y newid yn ei ymddygiad, gorau po gyntaf i chi siarad â’ch plentyn am hynny er mwyn gallu ei helpu.


Os yw’r plentyn neu’r person ifanc sydd yn eich gofal yn profi aflonyddu rhywiol ar-lein, y pethau pwysicaf i’w gwneud yw’r canlynol.

  1. Aros yn dawel ac agored eich meddwl. Gadewch i’ch plentyn egluro yn ei eiriau ei hun beth sydd wedi digwydd, er mwyn deall cyd-destun y sefyllfa. Byddwch yn barod i dderbyn y gallai fod yn anodd i chi ymdopi â beth mae’ch plentyn yn ei ddweud wrthych.
  2. Dangos empathi a chydymdeimlad. Gadewch i’ch plentyn wybod eich bod yn ei gredu ac y byddwch yn gwneud popeth o fewn eich gallu i’w helpu. Er mwyn tawelu meddwl eich plentyn, dywedwch wrtho mai rhoi gwybod i chi oedd y peth iawn i’w wneud.
  3. Gofyn cwestiynau penagored fel ‘Beth ddigwyddodd?’ neu ‘Beth alla i ei wneud i helpu?’ yn hytrach na chwestiynau sy’n awgrymu bod bai arno, fel ‘Pam wnest ti hynny?’
  4. Ceisio peidio ag atal eich plentyn rhag cael defnyddio’r dechnoleg y mae’n ei charu. Byddai gwneud hynny’n peri iddo deimlo’n bellach ar wahân neu ei fod yn cael ei gosbi, a heb allu cysylltu â’i ffrindiau i gael cefnogaeth.
  5. Cymryd camau i roi gwybod am y cynnwys a'i ddileu (Saesneg yn unig).

  • Gall beri gofid neu annifyrrwch os cewch wybod bod y plentyn neu berson ifanc dan eich gofal wedi cymryd rhan mewn aflonyddu rhywiol ar-lein neu ei fod yn gyfrifol amdano, ond mae’n bwysig i chi aros yn dawel, gwrando a rhoi amser iddo egluro beth sydd wedi digwydd.
  • Os yw’ch plentyn yn ei chael yn anodd siarad am beth sydd wedi digwydd, awgrymwch opsiynau eraill: er enghraifft, gallai ysgrifennu am beth sydd wedi digwydd yn lle hynny.
  • Rhowch sicrwydd i’ch plentyn eich bod yn ei garu a’ch bod yn barod i’w helpu. Bydd y plentyn yn teimlo’n agored i niwed a bydd angen iddo gael help a chefnogaeth gennych chi.
  • Siaradwch â’ch plentyn ynghylch pam mae ei ymddygiad yn annerbyniol ac am y gwahaniaeth rhwng ymddygiadau iach ac ymddygiadau sydd ddim yn iach..
  • Ceisiwch gael gwybod sut roedd yr ymddygiad wedi digwydd a phwy oedd yn gysylltiedig. Gallai fod o gymorth i chi siarad ag aelod o’r staff yn ysgol eich plentyn, yn enwedig os oedd effaith ar bobl ifanc eraill yn yr ysgol. Cofiwch y gallai fod angen i’r ysgol atgyfeirio unrhyw ddigwyddiadau i’r heddlu os ydynt yn ymwneud â lluniau noeth o rai dan 18 oed os bydd yn penderfynu bod angen gwneud hynny. Os bydd hyn yn digwydd, gofalwch eich bod yn ymwybodol o hawliau’ch plentyn. Ewch i wefannau i gael gwybod mwy am hyn, ac i wefan i gael gwybodaeth am oed cyfrifoldeb troseddol.
  • Os byddwch yn cael gwybod bod eich plentyn wedi amlygu ymddygiad rhywiol niweidiol a’ch bod yn poeni bod oedolion yn gysylltiedig, mae’n bosibl y bydd eich plentyn wedi cael ei orfodi, ei fygwth neu wedi profi camfanteisio a’i fod yn ddioddefwr paratoi i bwrpas rhyw. Os credwch fod hyn yn wir, cysylltwch â Child Exploitation and Online Protection (CEOP) i gael cymorth.
  • Gallwch gysylltu â gwasanaeth ymddygiad rhywiol niweidiol Taith yn Better Futures Cymru Barnardo’s sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sy’n amlygu ymddygiad rhywiol problemus neu niweidiol.
  • Siaradwch â’ch teulu a’ch ffrindiau i gael cyngor a chymorth.